1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a oes gennych chi ffydd yn eich Gweinidog iechyd?
Mae cyflawniad y Gweinidog iechyd o'i gyfrifoldebau wedi bod yn gwbl glodwiw, yn enwedig yn y mater diweddar, y gwn sy'n sail i gwestiwn yr Aelod, o ran yr anawsterau sylweddol a wynebwyd yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Ac fel y dywedais ar lawr y Cynulliad yr wythnos diwethaf, oherwydd y Gweinidog iechyd ac oherwydd y camau a gymerodd yn yr hydref y llynedd, wrth i'r materion hyn ddod i sylw, i sefydlu ymchwiliad annibynnol, i gyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol hwnnw yn llawn, i ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn a thu hwnt, yr ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle gall y Bwrdd weithredu ar sail yr argymhellion y mae wedi eu cael a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau i'r mamau hynny yn y dyfodol, ac i fabanod yn ardal Cwm Taf, o'r safon y mae ganddyn nhw ac mae gennym ninnau yr hawl i'w disgwyl.
Wel, nid wyf i'n siŵr pa a oes gan y Prif Weinidog ffydd yn y Gweinidog iechyd oherwydd ni wnaeth ef ateb cwestiwn syml. Ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau a gadewch i ni edrych ar hanes eich Gweinidog, ie? Bu catalog o fethiannau ers i Vaughan Gething ddod yn Weinidog iechyd yn 2014. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig neu ymyraethau wedi'u targedu. Nid yw'r targed amser aros ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys o 95 y cant o gleifion yn cael eu gweld mewn pedair awr erioed wedi cael ei gyrraedd ers ei gyflwyno yn 2009. O dan arweiniad Vaughan Gething, mae nifer y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn pedair awr, yn syfrdanol, wedi gostwng o 86 y cant pan gafodd ei benodi yn 2014, i 78 y cant gwarthus nawr. Methwyd amseroedd aros am ambiwlansys, ac yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb a gwella amseroedd ymateb, cafodd y targedau eu diddymu a symudwyd y pyst.
Ac yna, yr wythnos diwethaf, codais gyda chi yr adroddiad damniol ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, er i bryderon ffurfiol gael eu codi saith mlynedd yn ôl, ac, fel y gwyddom, mae 43 o achosion yn cael eu hadolygu erbyn hyn. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog, o ystyried y rhestr hon o fethiannau, pam mae gennych chi ffydd yn y Gweinidog iechyd?
Wel, Llywydd, mae'r hyn yr ydym ni'n ei glywed, fel arfer, yn grynodeb cwbl unochrog a gwyrdröedig o hanes y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Oherwydd penderfyniadau a wnaeth y Gweinidog iechyd am amseroedd aros ambiwlansys y mae amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru wedi cael eu bodloni a'u rhagori ym mhob un o'r 12 mis diwethaf, a pham mae'r model a ddatblygwyd yma yng Nghymru yn cael ei efelychu gan wasanaethau iechyd eraill erbyn hyn, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd lle mae ei blaid ef wrth y llyw, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Oherwydd pwyslais y Gweinidog iechyd ar amseroedd aros canser, er enghraifft, mae mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu trin heddiw yn gyflymach ac yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen yn ein hanes.
A phan aiff pethau o chwith, fel y byddant yn anochel mewn system o'r maint a'r math sydd gennym ni, yna, yn yr achos y mae arweinydd yr wrthblaid yn tynnu sylw ato eto y prynhawn yma, dywedaf wrtho eto mai oherwydd y camau pendant a gymerodd y Gweinidog i fynnu bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o ddarganfod anawsterau yng Nghwm Taf yr ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn o gael yr argymhellion sydd eu hangen arnom ni, y trefniadau sydd ar waith, a'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd y gwasanaethau hynny yn gwella ac yn ôl ar waith fel y byddem ni'n dymuno eu gweld ar waith mor gyflym ag y mae'n bosibl gwneud hynny.
Mae'n gwbl eglur, Prif Weinidog, y bu methiannau difrifol o dan stiwardiaeth eich Gweinidog iechyd o'r GIG. Nawr, mae pôl piniwn gan YouGov a gyhoeddwyd heddiw i nodi ugain mlynedd ers sefydlu'r lle hwn wedi canfod bod 29 y cant o bobl Cymru yn teimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi arwain at ddirywiad i safonau'r GIG. Cafwyd diffyg arweinyddiaeth gan Lywodraethau Llafur Cymru olynol, ac mae'n gwbl eglur nad datganoli sydd wedi gwneud cam â Chymru, ond mai Llafur Cymru sydd wedi gwneud cam â datganoli.
Nawr, mae eich Gweinidog iechyd wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo gael ei wneud yn destun mesurau arbennig bedair blynedd yn ôl i'r mis nesaf. Ers hynny, mae 29 y cant o gleifion yn ardal Betsi Cadwaladr yn aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; mae 43 y cant o gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; a, dyma'r gwaethaf yng Nghymru, mae 38 o bobl wedi marw mewn digwyddiadau anesboniadwy neu anfwriadol tra'r oeddent yng ngofal Betsi Cadwaladr—adroddwyd 38 o farwolaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae hyn yn fwy na'r holl fyrddau iechyd eraill gyda'i gilydd.
A nawr—a nawr—rydym ni'n gweld sgandal gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, lle mae 27 o fabanod wedi marw. Ac fe'i gwnaed yn gwbl eglur yn adroddiad yr wythnos diwethaf bod diffyg llywodraethu ac arweinyddiaeth weithredol. Felly, beth mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i bobl gymryd cyfrifoldeb am y methiannau hyn, Prif Weinidog? Felly, unwaith eto, o ystyried y catalog hwn o fethiannau, pam nad ydych chi wedi diswyddo eich Gweinidog iechyd?
Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu bod y sylw diwethaf yna yn bychanu pwysigrwydd y materion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn gwbl briodol yn gynharach yn ei gwestiwn. Ers i'r materion hyn ddod i'r amlwg, mae ein pwyslais wedi bod ar y menywod dewr hynny a ddaeth ymlaen yng Nghwm Taf ac a fynnodd bod eu straeon yn cael eu hadrodd, sydd—fel y gwyddom—wedi dioddef niwed sylweddol yn eu bywydau, a fydd yn rhywbeth a fydd yn byw gyda nhw am flynyddoedd lawer iawn i ddod, a'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ymateb o ddifrif i'r sefyllfa honno, nid ymateb o geisio ymddiswyddiadau. A dyma'r camau difrifol y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd, a bydd y camau hynny'n parhau, oherwydd bydd yn cael ei hysbysu am unrhyw gamau pellach y mae angen eu cymryd i wella gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, o ganlyniad i'r trefniadau y mae wedi eu rhoi ar waith. Mae hwnnw'n ymateb o ddifrif i sefyllfa wirioneddol ddifrifol, a dyna'r math o wasanaeth iechyd a dyna'r math o Lywodraeth y credaf fod gan bobl yng Nghymru yr hawl i'w gweld a pharhau i'w gweld yn y dyfodol.
Ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Ydy'r Prif Weinidog yn credu bod hynny yn dderbyniol?
Wrth gwrs dyw hynny ddim yn dderbyniol, Llywydd. Yn y degawd cyntaf o ddatganoli, roedd nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn mynd lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Beth rŷn ni'n siarad amdano yw'r cyfnod o gyni, y cyfnod ble mae penderfyniadau'r Deyrnas Unedig wedi creu sefyllfa ble mae fwy o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yn codi bob blwyddyn. Dyw hwnna ddim yn dderbyniol. Rŷn ni'n gwneud popeth rŷn ni'n gallu fel Llywodraeth, ond mae'r cyfrifoldeb yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, achos y pethau maen nhw wedi eu gwneud ym maes budd-daliadau, er enghraifft. Dyna beth sy'n creu nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Dwi yn cytuno ei fod o'n annerbyniol. Dwi hefyd yn cofio bod cyfres o Lywodraethau fan hyn wedi bod yn methu eu targedau ar daclo tlodi plant ers dechrau datganoli. Mae hwn yn un o'r pethau all godi fel pwnc trafod wrth nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Ac ar yr ugeinfed penblwydd yna, mae pobl yn gallu ystyried dau beth, dwi'n meddwl. Yn gyntaf, mi allan nhw ddathlu'r ffaith bod gennym ni Senedd genedlaethol a bod dewis sefydlu Senedd wedi bod yn gam pwysig ymlaen o ran ein haeddfedrwydd ni fel cenedl. Mae'r Cynulliad, wrth gwrs, yn fforwm i bawb, i bob plaid. Mae o'n sefydliad gall pawb fod yn falch ohono fo. Ond, ar yr un pryd, mae yn naturiol bod pobl yn gofyn 'Pa mor effeithiol fu Llywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd yna?' A Llafur sydd wedi arwain pob un ohonyn nhw. Y Prif Weinidog yma ydy'r pedwerdydd Prif Weinidog Llafur.
Felly, yn ôl â ni at y ffigurau tlodi yna. Mewn ychydig wythnosau, mi fydd y Cynulliad yma yn trafod cynnig wedi'i arwyddo gan Aelodau o sawl plaid, yn cynnwys plaid y Llywodraeth, yn galw am strategaeth i daclo tlodi efo cyllideb a chamau gweithredu pendant. Onid ydy hi'n sgandal, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur, ein bod ni'n dal i fod mewn sefyllfa lle mae teimlad bod angen cael strategaeth o'r fath. Mae Aelodau meinciau cefn yn eiddgar i weithredu. Mae'r Cynulliad, felly, os liciwch chi, yn eiddgar i weithredu, ond Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi methu dro ar ôl tro, yn yr un ffordd ag yr ydych chi wedi methu â datrys problemau'r gwasanaeth iechyd.
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddod o hyd i rywbeth i gytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod, oherwydd mae'r ffaith bod y fforwm hwn gennym ni, a bod y fforwm yn rhan sefydledig o'r tirlun democrataidd yma yng Nghymru, wrth gwrs, yn un o lwyddiannau mawr yr 20 mlynedd diwethaf ac mae'n darparu fforwm lle gellir cynnal dadleuon o'r math hyn. Mae'r Aelod yn cyfeirio at y ffaith fod Llafur, mewn un ffordd neu'r llall, wedi ffurfio'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond mae rheswm dros hynny, Llywydd, sef oherwydd, ym mhob etholiad ers creu'r Cynulliad, dyna'r penderfyniad y mae'r bobl sy'n pleidleisio yng Nghymru wedi ei wneud. Ac rwy'n llwyr ddeall nad oes gan yr un blaid unrhyw hawl i ddisgwyl i neb bleidleisio drosti, a bod yn rhaid i'm plaid i ennill pob un pleidlais ym mhob un etholiad yr ydym ni'n ddigon ffodus i'w denu, a byddwn yn parhau i wneud hynny a chyflwyno'r ddadl honno i bobl yng Nghymru wrth i ni agosáu at etholiad arall.
Mater i bobl Cymru, wedyn, fydd penderfynu pa un ai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw strategaeth arall, pa un a ydyn nhw eisiau'r math o gamau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w cymryd ym maes tlodi plant—yn y pethau yr ydym ni wedi eu gwneud i fwy na dyblu'r grant gwisg ysgol; yn y miliynau ychwanegol o bunnoedd yr ydym ni wedi dod o hyd iddyn nhw i gynnig prydau ysgol am ddim i filoedd mwy o blant yng Nghymru; y ffaith, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn o gyni cyllidol, mai Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â dull cenedlaethol o fynd i'r afael â newyn yn ystod y gwyliau, ac rydym ni bron wedi dyblu'r swm o arian y byddwn yn ei gyfrannu at hynny yn ystod yr haf nesaf. Cyfrifoldeb pobl yng Nghymru yw penderfynu a fyddai'n well ganddyn nhw gael strategaeth arall neu a fyddai'n well ganddyn nhw Lywodraeth sy'n gwneud y pethau ymarferol hynny, sy'n defnyddio'r pwerau sydd gennym ni bob dydd i weithio i wella bywydau plant yng Nghymru.
Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai cyfrifoldeb pobl Cymru yw penderfynu ar ba un a ydyn nhw eisiau strategaeth arall. Y pwynt yw bod aelodau eich meinciau cefn eich hun yn credu nad oes gennych chi strategaeth o gwbl pan ddaw i fynd i'r afael â thlodi, ar adeg pan fo bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.
Nawr, mae datganoli wedi datblygu o fewn fframweithiau Ewropeaidd, ac rwyf i a Phlaid Cymru o'r farn mai aros yn yr Undeb Ewropeaidd fydd y ffordd orau o esblygu gwlad fach fel Cymru, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf ac ymhell y tu hwnt i hynny. Mae ein safbwynt ni ar hynny yn gwbl eglur. Yn dilyn methiannau'r sefydliad Prydeinig dros y tair blynedd diwethaf, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid caniatáu erbyn hyn i bobl Cymru gael pleidlais ar delerau unrhyw gytundeb ar adael yr UE, a chael y dewis o aros, fel bod grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo'r bobl mewn gwirionedd, pa un a wnaethon nhw bleidleisio i aros neu adael dair blynedd yn ôl ar yr egwyddor o adael yr UE, neu a yw'n gobeithio y gall Jeremy Corbyn a Theresa May ddod i ryw fath o gytundeb glyd—neu dwyll, fel y byddai rhai'n ei ddweud—a fydd yn gallu gyrru Brexit yn ei flaen heb fod angen pleidlais arall?
Wel, safbwynt Llywodraeth Cymru, Llywydd, yw'r un yr wyf i'n ei ailadrodd bob wythnos gerbron y Cynulliad, a dyna'r safbwynt y cytunodd plaid yr Aelod iddo pan gyhoeddwyd 'Diogelu Dyfodol Cymru' gennym ar y cyd. Rydym ni wedi credu erioed bod bargen i'w tharo a fyddai'n diogelu economi Cymru a swyddi Cymru pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Os na ellir taro bargen o'r math hwnnw, yna wrth gwrs—rydym ni wedi dweud dro ar ôl tro y bydd yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl i'r bobl. Dyna ein polisi, dyna yw ein polisi o hyd. Dyma'r polisi y cytunodd ei blaid ei hun iddo nid mor bell â hynny yn ôl.
Arweinydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd.
Roeddwn i hiraeth ar eich ôl yr wythnos diwethaf.
Diolch. Prif Weinidog, os caf i godi gyda chi y mater o'r dreth gyngor, rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ein bod ni, y mis hwn, yn nodi 20 mlynedd o Gynulliad Cymru, oherwydd ni fu'r cyfnod hwn o 20 mlynedd yn arbennig o dda i dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Os edrychwn ni ar y ffigurau, mae cyfraddau treth gyngor band D yng Nghymru wedi cynyddu gan 244 y cant ers 1996. Mae hyn yn llawer uwch na'r gyfradd gyffredinol o chwyddiant yn y cyfnod hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi'n meddwl bod cynnydd sy'n codi'n gyflym i'r dreth gyngor yn bris gwerth ei dalu yng Nghymru i fwynhau manteision Llywodraeth Llafur Cymru yn rhedeg Cynulliad Cymru yn barhaol?
Wel, y rheswm pam mae Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad, Llywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yw, pryd bynnag y cafwyd etholiad ers datganoli, dyna'r penderfyniad a wnaed gan ddinasyddion Cymru. Dyna'r rheswm pam. Nid yw'n rhyw fath o weithred gan Dduw; ni wnaethom ni ei ennill mewn raffl. Gwnaethom ni ei ennill drwy fod ar garreg y drws a pherswadio pobl i bleidleisio dros y Blaid Lafur.
Cyn belled ag y mae'r dreth gyngor yn y cwestiwn, penderfyniadau i awdurdodau lleol ledled Cymru eu gwneud yw'r rheini. Maent hwythau hefyd yn atebol i'w poblogaethau lleol. Maent hwythau hefyd yn wynebu etholiadau lle gall poblogaethau lleol wneud dyfarniad ar yr awdurdodau lleol hynny. Ac, mewn cyfnod o gyfyngu difrifol ar wariant cyhoeddus, lle mae'r Aelodau Cynulliad mewn gwahanol bleidiau yn galw bob wythnos i fwy o arian gael ei wario ar wasanaethau awdurdodau lleol—ni ellir gwario mwy o arian ar wasanaethau heb godi'r arian hwnnw o rywle, ac mae'r dreth gyngor a'r pwysau arni yn adlewyrchiad o'r ffaith nad oes gennym ni arian yn dod i Gymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny yn y modd yr hoffem ni ei weld, ac mae awdurdodau lleol yn canfod eu hunain ar y rheng flaen o ran rhywfaint o'r anhawster hwnnw, a chaiff penderfyniadau ynghylch y dreth gyngor eu gwneud yn y cyd-destun hwnnw.
Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod nad gweithred Duw yw'r weithred o bleidleisio yn y blwch pleidleisio, mae'n rhywbeth y mae pobl â barn hyddysg yn ei wneud mewn gwirionedd, ac felly rydych chi'n cymryd sylw o'r penderfyniadau, oherwydd nid dyna'r safbwynt yr ydych chi'n ei fabwysiadu yn gyffredinol ar bleidlais y bobl yng Nghymru yn ystod y refferendwm Brexit.
Nawr, gan fynd yn ôl at union fater y dreth gyngor, ydy, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn atebol i'r etholwyr—mae hwnnw'n ymateb yr ydych chi yn yr arfer o'i roi i mi pryd bynnag y byddaf yn codi materion llywodraeth leol gyda chi yma yn y Cynulliad. Ond, Prif Weinidog, nid yw'n mynd i gael argraff fawr ar bobl Cymru os oes gennym ni Gynulliad a'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw defnyddio'r Siambr i osgoi problemau ac osgoi cymryd cyfrifoldeb am feysydd polisi sy'n amlwg yn rhan o'ch cyfrifoldeb chi fel Prif Weinidog. Nawr, os edrychwn ni ar y mater hwn o'r dreth gyngor, mae'n rhaid i chi dderbyn ei bod hi'n sefyllfa hurt pan fo trethdalwr yng Nghymru sy'n berchen ar gartref gwerth £220,000 yng Nghastell-nedd yn talu mwy o dreth gyngor na pherchennog plasty gwerth £85 miliwn yn Kensington, fel sy'n wir eleni.
Wel, Llywydd, nid yw cyfraddau'r dreth gyngor yn cael eu pennu ar lawr y Siambr Cynulliad hon. Mae'r Cynulliad yn gyfrifol erbyn hyn am benderfyniadau trethiant mawr yr ydym ni'n eu gwneud bob blwyddyn, ond nid yw pennu'r dreth gyngor yn un ohonyn nhw. O ganlyniad i gamau y cytunwyd arnynt yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn y mae gennym ni gynllun budd-dal treth gyngor genedlaethol yng Nghymru o hyd, fel nad yw'r bobl sydd â'r lleiaf yn gorfod talu unrhyw dreth gyngor o gwbl, tra bo'r teuluoedd tlotaf yn y wlad yn y rhan o'r Deyrnas Unedig y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn talu £200 y flwyddyn ar gyfartaledd erbyn hyn o fudd-daliadau sydd wedi cael eu rhewi ers 2015 tuag at filiau'r dreth gyngor, ac, yng Nghymru, nid yw'r teuluoedd hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, yn talu dim byd o gwbl. Felly, pan ein bod ni'n gallu gweithredu a phan fo gennym ni gyfrifoldeb i weithredu, rwy'n credu bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi gweithredu gyda'i gilydd i amddiffyn y teuluoedd hynny sydd angen yr amddiffyniad hwnnw fwyaf, gan barchu'r atebolrwydd democrataidd ar wahân bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau y maen nhw'n gyfrifol am eu gwneud.
O ran parchu penderfyniadau democrataidd, rwy'n nodi'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai polisi ei blaid ef yw y dylem ni gael trydydd refferendwm nawr ar ba un a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau i fodoli, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael dau refferendwm yma, a'r ddau ohonyn nhw—y cyntaf ohonyn nhw yn dod â'r Cynulliad hwn i fodolaeth, a'r ail yn cadarnhau ei fodolaeth ac yn cryfhau ei bwerau drwy fwyafrif cwbl bendant.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53803] yn ôl, ac felly cwestiwn 4, Mark Reckless.