2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o effeithiau posibl Brexit ar gadwyni cyflenwi yng Nghymru? OAQ53805
Mae ymgysylltiad busnes uniongyrchol yn parhau gyda chwmnïau ar faterion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi. Rydym hefyd wedi comisiynu ymchwil i wella ein dealltwriaeth o'r cadwyni cyflenwi Ewropeaidd a byd-eang cymhleth a weithredir gan fusnesau yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ers refferendwm 2016, mae'r sector modurol yn y DU wedi cyhoeddi eu bod yn cau nifer o safleoedd. Mae'r ddadl ynglŷn ag i ba raddau y mae Brexit ar fai yn parhau, ond yn y cyfamser, mae gan bobl bryderon gwirioneddol ynglŷn â'u swyddi. Mae cau ffatri Honda yn Swindon yn peri cryn bryder imi, gan mai un o'u cyflenwyr cydrannau yw ffatri Kasai ym Merthyr Tudful yn fy rhanbarth i sy'n cyflogi 200 o bobl. Mae'n un o 12 cyflenwr yng Nghymru sy'n wynebu risgiau difrifol yn sgil cau'r un ffatri honno yn Swindon, ac mae'n dilyn y newyddion fod disgwyl 400 o ddiswyddiadau gwirfoddol yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 220 o swyddi yn y fantol yn sgil cau ffatri Schaeffler yn Llanelli. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo cyflenwyr cydrannau i oroesi yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r diwydiant modurol, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i weithwyr yn y sector fod eich Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu eu swyddi?
Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Mae ei chwestiwn yn adlewyrchu'r ffaith y gallai penderfyniadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU o bosibl—soniodd am Honda; Nissan gynt, wrth gwrs—effeithio ar Gymru a rhannau eraill o'r DU. Yn sicr, rydym ni fel Llywodraeth wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun eu cynlluniau ar gyfer y DU gyfan i sicrhau nad yw'r dimensiwn hwnnw'n cael ei golli yn yr ystyriaethau a bod gan benderfyniadau economaidd a wneir yn Lloegr ganlyniadau ymhell y tu hwnt i'r wlad honno. Ceir nifer o fusnesau yng Nghymru, a soniodd am un yn ei chwestiwn, sy'n agored iawn o ran y gadwyn gyflenwi i gyfleusterau cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda fforwm modurol Cymru i drafod a deall effaith Brexit, ac yn arbennig effaith Brexit 'dim bargen'. Mae'n amlwg fod llawer o bwysau ar hyn o bryd ar benderfyniadau a wneir gan gwmnïau modurol ledled Cymru, ond yn sicr, mae Brexit yn un ohonynt, a buaswn yn dadlau ei fod yn un sylweddol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod gan y cwmnïau hynny fynediad at gymorth Llywodraeth Cymru. Mae rhan o'r gwaith sydd wedi'i gychwyn yn cynnwys ystod o dimau arbenigol ymateb cyflym i alluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i gwmnïau sy'n wynebu amgylchiadau anodd mewn ffordd sydd ar gael yn gyflym ac wedi'i haddasu ar eu cyfer.
Weinidog, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae Tri-Wall Europe, cyflogwr mawr yn Nhrefynwy yn fy etholaeth, yn gwmni sy'n cynhyrchu deunydd pecynnu cardbord ar gyfer y diwydiant moduro a llawer o ddiwydiannau eraill hefyd, ac mae eu pencadlys yn y dwyrain pell ond maent yn defnyddio eu canolfan yn Nhrefynwy i gyflenwi ledled Ewrop. Yn y Cynulliad diwethaf, dywedodd Gweinidog yr economi ar y pryd, ar ôl ymweld â Tri-Wall, ei bod yn gobeithio mapio'r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo'r cwmni hwnnw a'u deall yn well, yng Nghymru a ledled Ewrop. Tybed a oes unrhyw waith wedi'i wneud ar y broses honno o fapio cadwyni cyflenwi a dosbarthu, oherwydd mae hyn yn amlwg—. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn mewn unrhyw gytundeb Brexit a bod y cadwyni cyflenwi hyn yn ganolog i unrhyw gytundeb. Felly, tybed pa dystiolaeth, pa wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i sicrhau, yn y trafodaethau hynny, pan fyddwch yn rhoi mewnbwn i Lywodraeth y DU sydd wrth y bwrdd, fod buddiannau cwmnïau fel Tri-Wall a chwmnïau tebyg eraill ledled Cymru yn ganolog i'r trafodaethau hyn.
Ie, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn gwybod, y tu hwnt i gyd-destun Brexit, cyd-destun hanesyddol hynny, ond bydd yn gwybod am waith Ysgol Fusnes Caerdydd sy'n cael ei ategu ar hyn o bryd mewn perthynas â rhai o'r materion a nodwyd yn ei gwestiwn. Rydym hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael drwy gronfa bontio'r UE i gefnogi prosiectau ymchwil, i ddeall rhai o ddimensiynau'r cadwyni cyflenwi mewn mwy o fanylder, gan eu bod yn arbennig o gymhleth. Credaf ei fod yn sôn am gadwyn gyflenwi ryngwladol yn ei gwestiwn, os deallaf yn iawn, ond un o'r materion sylweddol sy'n ein hwynebu yng Nghymru—un o nodweddion ein heconomi, os mynnwch—yw'r cadwyni cyflenwi o fewn y DU, sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddeall effaith Brexit ar y rheini mewn rhywfaint o fanylder, a bydd yr ymchwil hwnnw'n darparu peth o'r manylder hwnnw.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ53802] yn ôl. Felly, cwestiwn 8, Helen Mary Jones.