2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cynhwysiant ariannol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53850
Mae'r adroddiad cynnydd a rhagolwg cynhwysiant ariannol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018, yn rhoi trosolwg o rai o'r gweithgareddau allweddol ers cyhoeddi'r strategaeth a'r cynllun cyflawni yn 2016. Mae'r rhain yn cynnwys ein cefnogaeth barhaus i wasanaethau cynghori, undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith da a wneir gan sefydliadau fel y ganolfan cyngor ar bopeth yn fy etholaeth. Fodd bynnag, mae llawer o wasanaethau hanfodol yn cael eu diddymu'n gyson yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, a bydd llawer ohonom wedi gweld hynny. Gan weithio gyda fy nghydweithiwr Gerald Jones AS, rydym wedi ymgyrchu i achub rhai o'r gwasanaethau bancio masnachol mewn trefi fel Rhymni, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cadw mynediad at rwydwaith o beiriannau codi arian parod am ddim, yn ogystal â chefnogi gwaith yr undebau credyd lleol. Ym mha ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth i sicrhau cynhwysiant ariannol yn y cymunedau hyn?
A gaf fi ddechrau drwy ategu sylwadau'r Aelod a chydnabod y gwaith y mae'r ganolfan cyngor ar bopeth yn ei wneud wrth ddarparu cyngor a hyrwyddo cynhwysiant ariannol a'r gefnogaeth i bobl mewn cymunedau ledled y wlad, a chydnabod y gwaith rydych chi a'ch cydweithiwr Gerald Jones wedi'i wneud ar geisio atal banciau rhag cau a lliniaru effaith hynny? Gwn ei fod yn rhywbeth y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn gyfarwydd ag ef, mae'n debyg, ac yn gyfarwydd â gorfod ymgyrchu yn y ffordd honno hefyd. Ac yn anffodus, er nad yw'r dulliau ar gyfer rheoleiddio i atal banciau rhag gwneud hyn ar gael i ni, mae camau y gallwn eu cymryd yng Nghymru i sicrhau nad yw cynhwysiant ariannol yn dioddef o ganlyniad i hynny.
Mae'r Aelod yn sôn am—[Anghlywadwy.]—mynediad at beiriannau ATM drwy Link. Byddwn yn parhau i gysylltu â Link—fel Llywodraeth Cymru—y rhwydwaith peiriannau arian i helpu i sicrhau y cynhelir darpariaeth ddigonol o beiriannau codi arian parod am ddim yn lleol, gan ganolbwyntio ar ein gwaith gydag undebau credyd. Rydym yn cefnogi 19 o ddarparwyr undebau credyd rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth 2020, ac mae Merthyr Tudful yn un o'r rhain hefyd. Mae'r Aelod yn gyfarwydd â'r gwaith a arweinir gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ar ddatblygu banc cymunedol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae bancwyr proffesiynol yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru, sy'n cefnogi'r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod creu banc cymunedol yn integreiddio â sefydliadau ariannol presennol, gan gynnwys y banc datblygu, ac undebau credyd wrth gwrs. Gobeithio y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gefnogi cymunedau sy'n gynhwysol yn ariannol.
Weinidog, mae Merthyr Tudful a Rhymni, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, wedi dioddef yn sgil cau banciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, banciau megis cangen Barclays yn Aberfan a banc Lloyds yn Rhymni. Mae hyn wedi ei gwneud yn bwysicach fyth fod peiriannau arian parod ar gael i alluogi pobl i gael eu harian. Fodd bynnag, canfu adroddiad yn y cylchgrawn Which? fod peiriannau arian am ddim yn diflannu ar raddfa gyflym, gyda bron 1,700 o beiriannau ar draws y Deyrnas Unedig yn dechrau codi tâl am godi arian yn ystod tri mis cyntaf eleni. Weinidog, a ydych yn cytuno y bydd codi tâl am godi arian yn cael effaith andwyol ar gynhwysiant ariannol ac a wnewch chi gyflwyno sylwadau i'r cwmnïau sy'n darparu peiriannau arian, gan bwysleisio pwysigrwydd trafodion am ddim i gymunedau megis Merthyr Tudful a Rhymni?
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Link, y rhwydwaith peiriannau arian parod, i helpu i sicrhau bod darpariaeth ddigonol o beiriannau arian am ddim yn cael eu cynnal yn lleol a rhwydwaith rheolaidd ar draws cymunedau ledled Cymru. Fel y dywedais wrth yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni, gallai Llywodraeth yr Aelod yn y fan acw gymryd camau i reoleiddio banciau i atal cymunedau rhag dioddef yn y modd hwn hefyd.
Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ53847] yn ôl. Cwestiwn 10, Leanne Wood.