1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yng nghymoedd y de? OAQ53947
Mae Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar y cyd yn cynorthwyo ysgolion yng Nghymoedd de Cymru—a ledled Cymru gyfan yn wir—i wella canlyniadau addysgol, yn unol â'r blaenoriaethau yn 'Cenhadaeth ein Cenedl'.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddom, caiff cyfleoedd bywyd pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni eu pennu gan lawer o ffactorau, ond yn enwedig eu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru wedi cyhoeddi mynegai cyfle ieuenctid, sy'n dangos mai pobl ifanc yn fy etholaeth, a ledled Cymoedd de Cymru, sydd â’r lleiaf o fynediad at gyfleoedd. I ormod o bobl ifanc, eu man geni sy'n pennu eu cyfleoedd a'u canlyniadau mewn bywyd o hyd, yn hytrach na’u galluoedd eu hunain. Pa gamau pellach y gallwch eu cymryd fel Gweinidog addysg i helpu i ddod â'r annhegwch hwn i ben?
Wel, Lywydd, gan fod y cwestiwn yn ymwneud ag ysgolion yng Nghymoedd de Cymru, a gaf fi roi croeso cynnes i ddisgyblion Ysgol Gyfun Tredegar, sydd wedi ymuno â ni, rwy’n credu, yn yr oriel y prynhawn yma? Ysgol Gyfun Tredegar yw hen ysgol Alun Davies AC. Nid wyf yn siŵr a yw Mr Davies yn esiampl addas i’r plant, ond mae'n rhywbeth i anelu ato. A gwn fod rhai o'r disgyblion sydd gyda ni heddiw yn gyn-ddisgyblion ysgol gynradd Deighton, sef, unwaith eto, hen ysgol gynradd Mr Davies, a chefais y pleser o gyfarfod â hwy pan oeddent yn yr ysgol gynradd.
Ond i ddychwelyd at gwestiwn Dawn, a gaf fi gytuno â chi, Dawn, ei bod yn gwbl annerbyniol i lwyddiant plant gael ei bennu gan eu hamgylchiadau cymdeithasol neu economaidd? Ac yn sail i'n holl waith, mae'r gred na ddylai ble mae rhywun yn byw, beth yw eu cefndir, na beth yw incwm eu rhieni bennu gallu rhywun i elwa o addysg. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y grant datblygu disgyblion—dros £190 miliwn y llynedd—i wella canlyniadau ar gyfer rhai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig, ac rydym hefyd yn edrych ar wahanol fathau o gyfleoedd. Rydym wedi ymrwymo cyfanswm o £1.5 miliwn i ariannu rhannu prentisiaethau ar draws ardal tasglu'r Cymoedd, ac mae ein rhaglen brentisiaethau iau yn cynnig cyfle i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 astudio'n amser llawn mewn coleg ar gyfer gyrfa yn y dyfodol, o 14 oed ymlaen, ac mae'r rhaglen honno wedi'i thargedu'n benodol at blant sydd heb lawer o uchelgais o bosibl, neu blant sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Weinidog, ni allwch wella canlyniadau addysgol heb ddarparu'r nifer angenrheidiol o staff addysgu sydd eu hangen ar yr ysgolion. Mae ffigurau diweddar yn dangos diffyg o 40 y cant rhag gallu cyrraedd eich targed eich hun ar gyfer athrawon dan hyfforddiant newydd mewn ysgolion uwchradd. Rydych hefyd wedi methu cyrraedd eich targed ar gyfer athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion cynradd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Weinidog, pa gamau a gymerwch i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Mae recriwtio athrawon yn heriol, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, mae'n broblem ryngwladol. Mae'r ystadegau y cyfeiria’r Aelod atynt yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2017-18, ac ers hynny, rydym wedi diwygio addysg gychwynnol i athrawon yn sylweddol. Ac er ein bod wedi methu cyrraedd ein targedau recriwtio gweithwyr amser llawn i'r rhaglenni hyn, rydym wedi cael mwy o geisiadau i'n rhaglen athrawon graddedig am lwybr i gymhwyso fel athro na'r nifer o leoedd sydd ar gael.
Rydych yn gwybod am fy mhryderon ynglŷn â'ch gorddibyniaeth ar gwmnïau athrawon cyflenwi. Mae'r cwmnïau hyn fel arfer yn codi prisiau afresymol ar ysgolion am ddarparu athrawon, a chyfran fach o hynny'n unig sy’n cael ei drosglwyddo ganddynt i’r athro a gomisiynwyd. Nawr, gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen, ond mae angen ystyried y cwestiwn hefyd o safbwynt darparu parhad i ddisgyblion o ran athrawon. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd angen athrawon cyflenwi, ond rwyf wedi derbyn tystiolaeth anecdotaidd nad yw’r asiantaethau athrawon cyflenwi yn ystyried sicrhau bod yr athrawon sydd ar eu llyfrau yn aros am gyfnod llawn absenoldeb athro penodol. Cysylltodd athro cyflenwi â mi yn ddiweddar i ddweud nad yw'r ymgynghorwyr hyn yn poeni am barhad yn y ddarpariaeth gyflenwi o gwbl, cyn belled â'u bod yn cael eu comisiwn. Weinidog, a ydych yn ymwybodol o'r broblem hon, a'r canlyniadau, ac a allwch ddweud wrthym beth y bwriadwch ei wneud i unioni hyn?
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym raglen ddiwygio ar gyfer ymdrin ag arferion asiantaethau athrawon cyflenwi. Bydd y fframwaith newydd ar waith cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, a bydd yn darparu ar gyfer isafswm cyfraddau cyflog ar gyfer y staff a gyflogir gan yr asiantaethau hynny, hawliau cyflogaeth gwell, mynediad gwarantedig at hyfforddiant. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn ynglŷn â pharhad. Mae parhad staff cyflenwi mewn ysgolion yn fuddiol, nid yn unig i'r aelodau unigol o staff, ond yn hollbwysig, i'r disgyblion y maent yn eu haddysgu. A dyma un o'r manteision rydym wedi gallu ei feintioli o ganlyniad i'r model cyflenwi clystyrau rydym wedi'i ddatblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i sicrhau, pan fydd angen darpariaeth gyflenwi—ac mae'r Aelod yn llygad ei lle; o bryd i'w gilydd, mae angen gwneud hynny—fod y rhai sy'n ei darparu wedi'u hyfforddi'n dda, fod ganddynt gymwysterau da a'u bod yn cael eu cefnogi, a'u bod yn gallu darparu gwersi effeithiol i fyfyrwyr.