2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2019.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU? OAQ54000
Rwy'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar nifer o faterion yn ymwneud â Brexit. Cefais gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn fwyaf diweddar yng Nghaerdydd ar 16 Mai, ac mae cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r UE wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis hwn.
Gwnsler Cyffredinol, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae ofn cynyddol fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn mynd i fod yn aberth ar allor Brexit 'dim bargen'. Pan ddywedodd Donald Trump y byddai'r GIG yn wasanaeth a fyddai'n rhan o gytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, pan safai Theresa May yn ei ymyl a gwrthod gwadu hynny, pan fo'r UDA wedi gwrthod newid eu hamcanion negodi, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau fel rhan o gytundeb, pan fo gennym sefyllfa lle mae cytundebau masnach ryngwladol a allai ddiystyru a gweithredu mesurau mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd y lle hwn, pan fo'r Gweinidog iechyd wedi ysgrifennu at Theresa May flwyddyn neu ddwy yn ôl yn gofyn am sicrwydd a gwarantau ynghylch amddiffyn y GIG, rhywbeth y gwrthododd eu rhoi, ac mewn sefyllfa pan fo gennym Brif Weinidog Torïaidd newydd posibl sy'n cefnogi preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol a chytundeb masnach unochrog gyda'r UDA, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol rhag Brexit 'dim bargen'?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gwelais innau hefyd y gynhadledd i'r wasg y mae'n cyfeirio ati yn ei gwestiwn, ac aeth fy ngwaed yn oer wrth glywed y GIG yn cael ei drafod fel ased ar gyfer gwerthiant masnachol yn y ffordd honno. Rwyf am fod yn gwbl glir: gwasanaeth cyhoeddus yw GIG Cymru ac o dan Lywodraeth Cymru, bydd yn parhau felly. Mae'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi dweud yn gwbl glir wrth ei haelod cyfatebol, Liam Fox, yr Ysgrifennydd masnach ryngwladol, fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli mewn perthynas â chytundebau masnach, a byddai hynny'n cynnwys cytundebau masnach o'r math y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. A rhaid iddo barchu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod y GIG yn cael ei gadw'n wasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid oes perygl o gwbl y caniatawn i GIG Cymru fod yn rhan o unrhyw negodiad. Ond rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y mater hwn, sy'n taflu goleuni ar ganlyniadau'r math o bolisi masnach y gallai Llywodraeth y DU geisio'i ddilyn mewn senario 'dim bargen' yn fy marn i.
Mewn perthynas â'r GIG yn fwy cyffredinol wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda'r GIG yng Nghymru mewn perthynas â chadernid a gallu i wrthsefyll yr heriau y byddid yn eu hwynebu yng nghyd-destun unrhyw fath o Brexit, ond Brexit 'dim bargen' yn enwedig. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyflenwadau o feddyginiaethau, offer meddygol—fel y gŵyr yr Aelod—ac ynghylch cynllunio'r gweithlu, a allai ddod o dan bwysau difrifol, fel y trafodasom yn y Siambr ddoe yn ein dadl ar fudo, yng nghyd-destun polisïau mudo newydd gan Lywodraeth y DU.
Wrth gwrs roedd y drafodaeth Brexit ddiweddaraf gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â defnydd, neu ddiffyg defnydd, y Prif Weinidog o gar y Swyddfa Dramor ym Mrwsel heddiw. Fodd bynnag, ar fater y GIG, ni chaiff ei fasnachu. Pan fydd rhywbeth yn wasanaeth cyhoeddus, nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o gytundeb masnach yn y ffordd a awgrymir. Wrth gwrs, os oes gennych gaffael cyhoeddus, fe fyddwch am gaffael yn rhad ac yn effeithiol a chael gwerth da, ac os ymrwymwch i gontract gyda darparwr tramor, mae'n eithaf rhesymol disgwyl i'r contract hwnnw gael ei barchu ac y dylid ei yswirio naill ai drwy lysoedd Prydain neu drwy drefn ddatrys anghydfod i fuddsoddwyr. Onid dyna'r cwbl sydd dan sylw yma?
Nid oes gennyf hyder o gwbl yn ymrwymiad Plaid Brexit i'r GIG. Mae arweinydd y blaid wedi bod yn gwbl bendant nad yw'n credu mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus ac mae'n credu mewn system yswiriant. Felly, bydd yn rhaid i'r Aelod faddau imi os cymeraf hynny â phinsiad o halen. [Torri ar draws.]
Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch chi, fel finnau, wedi gweld adroddiadau rhyfeddol braidd yn y wasg y bore yma na ddarparwyd cymorth diplomyddol ar gyfer y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Brwsel. Nawr, fel chi a fi—rydym ein dau wedi mwynhau cymorth gwasanaeth diplomyddol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n cofio trafod a negodi gyda David Lidington a William Hague ac eraill sut y gellir cryfhau hynny. Er nad yw Gweinidogion yn y fan hon yn Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion y Deyrnas Unedig ydynt, ac ym Mrwsel, rydym yn rhan o dîm gweinidogol y Deyrnas Unedig, ac mae gennym gytundebau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n dynodi ein bod yn cael cymorth Cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig i'r Undeb Ewropeaidd a'r swyddfa dramor. Hoffwn gofnodi fy niolch i UKRep ac i weision sifil yn y swyddfa dramor am y gefnogaeth ardderchog a gefais, o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mewn mannau eraill, wrth deithio fel cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Cymru. A wnewch chi godi'r mater hwn gyda David Lidington pan fyddwch yn ei gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon, a dweud wrtho ein bod yn disgwyl i'n holl Weinidogion gael eu trin â'r parch a roddir iddynt gan y mandad etholiadol, a'n bod yma i gynrychioli'r Llywodraeth yma a'r Cymry, ac nid oes disgwyl inni ofyn caniatâd unrhyw aelod o Lywodraeth y DU ynglŷn â sut y gwnawn hynny?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y mae'n nodi ynddo, mae ein perthynas â Chynrychiolaeth y DU i'r UE yn dda iawn, felly roedd y penderfyniad digynsail yr ymddengys bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi'i wneud yn peri penbleth a siom i ni, os caf ei roi felly. Fel cyd-destun, dylwn ddweud ein bod wedi cael cymorth o ansawdd uchel gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad fel Llywodraeth Cymru ar bob achlysur blaenorol pan fu Gweinidogion yn ymweld â Brwsel, fel y nododd yn y cwestiwn. Gallaf gadarnhau bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi hysbysu'r Llywodraeth na fyddent yn darparu cymorth tra oedd y Prif Weinidog ym Mrwsel heddiw, gan gynnwys defnydd o'r gwasanaeth ceir, oni bai ein bod yn rhoi sicrwydd na fyddai'r Prif Weinidog yn tanseilio polisi Llywodraeth y DU. Gwnaethom yn glir fod y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru o ddifrif ynglŷn â'u dyletswyddau, yn rhinwedd eu swydd fel Gweinidogion y Deyrnas Unedig, i'r Deyrnas Unedig pan fyddant dramor ar fusnes swyddogol, ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn ymostyngol i Lywodraeth y DU ac yn sicr nid yw cael defnydd o wasanaethau ceir yn rhan o'r ystyriaeth. Felly, fe wnaethom wrthod rhoi unrhyw sicrwydd a fyddai'n llyffetheirio neu'n llesteirio hawl y Prif Weinidog i siarad dros fuddiannau cenedlaethol Cymru. Yn y pen draw, fel y digwyddodd, fe gynigiwyd cyfleusterau ceir wedyn, ond mae'r Prif Weinidog yn teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gydol ei ymweliad â Brwsel heddiw.