– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 25 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnig er mwyn caniatáu newid yr Aelod sy'n arwain y ddadl fer yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i osod yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn gyntaf ar yr argyfwng recriwtio yn GIG Cymru? Yn ôl Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, nid yw traean o'r swyddi ymgynghorwyr a hysbysebir yn cael eu llenwi ac mae absenoldeb salwch hefyd yn cynyddu. Yn ôl y coleg mae ysbytai Cymru yn brin o staff a dan ormod o bwysau, ac maent wedi gwneud 16 o argymhellion ar gyfer gwella i fynd i'r afael â'r problemau hyn. A fyddai modd imi gael datganiad gan y Gweinidog ar ei ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr? Dyna un. A'r ail yw: faint o feddygon sydd wedi'u disgyblu am eu hymddygiad yn GIG Cymru, a beth yw'r gyfran rhwng y meddygon gwyn a'r meddygon nad ydynt yn wyn yn hyn o beth? Diolch.
Diolch ichi am godi'r materion hyn. Fe gofiwch i'r Gweinidog iechyd ddarparu datganiad ar yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn ddiweddar iawn, pan amlinellodd nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio i'r GIG a gwnaeth sylwadau ar recriwtio'n ehangach. Ac wrth gwrs, cawsom y newyddion da yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru yn cadw'r fwrsariaeth i staff nyrsio. Felly, mae recriwtio a chadw staff yn amlwg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.FootnoteLink
Gofynnaf i'r Gweinidog roi ateb i'ch cwestiwn ynglŷn â'r gweithdrefnau disgyblu, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf ar hyn o bryd, ond gwnaf yn siŵr eich bod yn ei chael.FootnoteLink
Trefnydd, yr wythnos diwethaf dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, ei fod yn credu ei bod bellach yn bryd ' troi'r drafodaeth yn gyflenwi ' gyda bargen dinas bae Abertawe. Byddwch yn cofio inni drafod yn y Siambr hon y mis diwethaf sut yr oedd y cyngor hwnnw mewn gwirionedd wedi bygwth tynnu allan o fargen y ddinas. Felly, mae'r ffaith yr ymddengys eu bod yn newid eu meddwl yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. Nawr, fel y dywedais ar y pryd, ni allaf weld sut y gallai unrhyw gyngor anwybyddu cyllid o £68 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fo'r arian hwnnw wedi'i ddyrannu i roi hwb i'r economi leol. Yn wir, byddai gwneud hynny, yn fy marn i, yn gyfystyr ag esgeuluso dyletswydd. Nawr, mae'n amlwg bod pryderon yn lleol nad yw rhai o'r prosiectau cychwynnol sy'n cael eu cynnig gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu i'r un graddau â rhai o brosiectau eraill bargen y ddinas. Yr hyn yr ydym am ei weld yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn datblygu eu hachosion busnes diwygiedig cyn gynted â phosib.
Mae yna bryderon tebyg ymysg yr awdurdodau lleol a phartneriaid ym margen y ddinas am yr oedi parhaus wrth gymeradwyo'r cynlluniau busnes presennol, ac o ran anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed i brosiectau sydd eisoes ar waith, megis Yr Egin yn Sir Gaerfyrddin, a datblygiad glannau Abertawe. Dylai bargen y ddinas fod yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi'r De-orllewin, ac ni fydd pobl y rhanbarth yn deall nac yn maddau i lywodraethau ar bob lefel os yw diffyg cydgysylltu neu gytundeb yn arwain at fethiant y prosiectau neu'r fargen gyffredinol. Felly, yn dilyn ymyriad y Cynghorydd Rob Jones yr wythnos y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu eu hachosion busnes lleol, ac a ydych yn fodlon â'r cynnydd ar eu cynlluniau diwygiedig? A gaf i ofyn hefyd pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ôl-groniad o ran cymeradwyaethau a thaliadau yn cael eu datrys ar frys?
Diolch ichi am godi'r mater hwn, a gallaf gadarnhau mai bwriad Ken Skates yw gwneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan iawn.
Gweinidog, deallaf y byddwch yn gwneud datganiad ar 16 Gorffennaf ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro, neu a fyddech yn gallu cynnal datganiad arall i edrych ar rai o'r materion y byddwn yn eu hwynebu o ran cylch y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Treuliais i ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid beth amser yn yr Alban bythefnos yn ôl, gan edrych ar y ffordd y caiff cylch y gyllideb ei reoli yno. Un o'r materion allweddol a ddysgwyd yno, credaf ei bod yn deg dweud, yw pwysigrwydd cael sgyrsiau cynharach am ffurf y gyllideb. Ac rwy'n sicr yn credu y byddai'r lle hwn yn elwa o gyfle cynnar i dynnu sylw at rai blaenoriaethau ar gyfer gwariant o ran y cylch cyllideb canlynol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro hynny.
Yn ail, sylwaf o'r datganiad nad oes datganiadau wedi'u rhaglennu inni gael gwybod am ddiwedd yr ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau ac am y Papur Gwyn ar drafnidiaeth a gynhaliodd Gweinidog yr economi yn gynharach yn y flwyddyn. Credaf y bydd llawer ohonom am wybod pryd y gallwn ragweld cyfleoedd pellach i drafod canlyniadau'r ymgynghoriad a phroses y Papur Gwyn. Byddai hynny yn ein galluogi i ddeall y broses a'r math o flaenoriaethau y bydd y Gweinidog yn bwrw ymlaen â nhw ar gyfer deddfwriaeth.
Gobeithio hefyd y bydd y Llywodraeth, ar yr un pryd, yn gallu neilltuo amser i gael cyfle i drafod yr effaith a gaiff hyn ar wasanaethau tacsis hefyd. Gwn fod llawer o yrwyr tacsi yn bryderus iawn ar hyn o bryd am y gystadleuaeth gynyddol gan sefydliadau fel Uber, a byddant am weld cyfleoedd i sicrhau y bydd busnesau—microfusnesau a busnesau lleol—yn cael y cyfle i gael eu gwarchod, os mynnwch, rhag effaith y busnesau rhyngwladol hyn. Felly gobeithio, cyn inni gyrraedd y toriad, y gallwn gael sgwrs ar flaenoriaethau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol ac ar flaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer deddfwriaeth trafnidiaeth.
Diolch ichi am y ddau gais hynny. Fel y dywedwch, byddaf yn gwneud datganiad ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol ar 16 Gorffennaf. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid oes gennym gyllideb eto ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn dechrau o ddifrif gyda'n trafodaethau i nodi ein blaenoriaethau cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyna pam yr wyf eisoes wedi cael fy nghylch cyntaf o gyfarfodydd gydag phob un o'm cyd-Weinidogion i drafod y pwysau o fewn eu portffolios ond hefyd eu huchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly, mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau eisoes.
Rwyf hefyd yn awyddus i gael cyfres o ymweliadau dros yr haf lle byddaf yn edrych ar ein blaenoriaethau fel y'u gosodwyd gan y Llywodraeth yn ein rhaglen lywodraethu—felly, gan edrych er enghraifft, yn benodol ar yr hyn y gallwn fod yn ei wneud ynghylch datgarboneiddio, iechyd meddwl, tai, ac yn y blaen. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i'n helpu ni i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Yn sicr, y flaenoriaeth fwyaf ar hyn o bryd yw ein bod ni'n cael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth y DU o ran lle'r ydym yn sefyll gyda'n cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi awgrymu na fydd adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn toriad yr haf, felly mae hynny'n awgrymu i mi y gallem fod yn edrych, o bosibl, ar gyllideb dreigl, a fyddai'n siomedig iawn. Ond mae angen eglurder arnom cyn gynted ag y bo modd. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gael trafodaethau am flaenoriaethau. Yn amlwg, byddaf yn rhoi cyfle i'r Aelodau gael y trafodaethau hynny. Ond, fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad ar 16 Gorffennaf, sy'n gyfle perffaith i Aelodau, yn y lle cyntaf, siarad â mi ynglŷn â'u blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben yn awr o ran y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ymwneud â gwasanaethau bysiau. Gallaf ddweud wrthych fod y Gweinidog a'i dîm yn dadansoddi'r ymatebion hynny ar hyn o bryd ac yn amlwg, bydd yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda, os oes modd? Yn gyntaf, hoffwn weld a chlywed beth yw ymateb y Llywodraeth i'r Dirprwy Weinidog dros yr economi pan ddywedodd mewn araith ym mwyty'r Clink, wrth sôn am berfformiad economaidd y Blaid Lafur mewn Llywodraeth,
'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r economi—ond y gwir amdani yw, dydyn ni ddim...Mae pawb yn ei wneud i fyny wrth fynd ymlaen'.
Rwyf yn ei gymeradwyo am ei araith ddidwyll, ei sylwadau a'r nodiadau a roddodd yn y cyfarfod hwnnw. Ond credaf ei bod yn bwysig, gan gofio bod y Llywodraeth, mi dybiaf, yn cael ei hategu gan bolisi—'Ffyniant i Bawb', er enghraifft, sy'n ddogfen y cyfeirir ati'n gyson—ac yma mae gennych chi'r Dirprwy Weinidog yn dweud, o ran yr economi, fod y Llywodraeth hon a'i rhagflaenwyr wedi bod yn ei wneud i fyny wrth iddynt fynd yn eu blaenau. Mae hynny'n peri pryder mawr, a dweud y lleiaf.
Yn ail, a allaf i bwyso arnoch, fel Gweinidog cyllid, i gyflwyno datganiad ynglŷn â'r sefyllfa ariannol yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd a'r mentrau a fydd yn deillio o hynny a'r safbwyntiau polisi y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd. Cymeradwyaf y Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i wneud yn hyn o beth, ond credaf fod angen inni ddeall beth fydd y sefyllfa ariannol a beth fydd nifer y swyddi hefyd. Mae'r Trysorlys yn Llundain wedi darparu ffigurau penodol ar gyfer y Llywodraeth, sef cyfanswm o £1 triliwn i gyfarfod â'r cyfraniad sero net erbyn 2050. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, os yw'n cyflwyno safbwyntiau polisi sy'n ceisio symud oddi wrth hen swyddi carbon i rai newydd, gwyrdd, i sicrhau ein bod yn deall beth y bydd hynny'n ei olygu mewn termau ariannol a pha rwymedigaethau fydd yn cael eu rhoi ar bob adran a'u cyllid. Mae'n siŵr bod gennych chi, fel Gweinidog cyllid, elfen o'r wybodaeth honno wrth law, a phe bai hynny'n cael ei gynnwys mewn datganiad, byddai hynny, byddwn yn awgrymu, yn llywio'r ddadl yn y dyfodol yn fawr iawn ar y pwnc hwn.
Y trydydd pwynt yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef, os oes modd, yw a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth, neu hyd yn oed y Gweinidog dros yr economi—gwn mai'r un person ydynt ond credaf ei fod wedi'i drosglwyddo i'r dirprwy, yr wyf yn credu, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth—mewn cysylltiad â'r gwaith ffordd yng nghyffordd Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Bum mlynedd yn ôl yn unig, gwariodd y Llywodraeth £2 filiwn ar uwchraddio'r gyffordd benodol honno i statws cefnffordd. Mae unrhyw un sydd wedi teithio ar y rhan honno o'r ffordd dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi gweld y ffordd yn cael ei phalu'n systematig eto, goleuadau dros dro newydd yn cael eu gosod, gan achosi anhrefn i'r traffig. A'r hyn na all llawer o bobl ei ddeall yw, os gwariodd Llywodraeth Cymru £2 filiwn bum mlynedd yn ôl yn rhoi trefn ar y gyffordd honno, pam mae'r cyfan bellach yn cael ei rwygo—ac mae'n cael ei rwygo'n llythrennol—a'r holl welliannau hynny a wnaed dim ond pum mlynedd yn ôl yn cael eu datgymalu. Rwy'n tybio y bydd rhyw fath o ailadeiladu yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae braidd yn anodd trio rhagweld beth fydd hynny, o ystyried mai'r cyfan sydd gennych yw tyllau yn y ddaear ar hyn o bryd. Felly, pe gallem ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog er mwyn gallu ymhelaethu ar hynny i'r holl fodurwyr, defnyddwyr beiciau a cherddwyr hynny sy'n cael eu llesteirio gan y gwaith ar y gyffordd benodol honno, credaf y byddai hynny'n ymarfer buddiol iawn.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion amrywiol hynny. I unrhyw un sy'n teimlo'n ddryslyd ynghylch agwedd Llywodraeth Cymru at yr economi, bydd y Gweinidog Ken Skates yn gwneud datganiad ar fater y cynllun gweithredu economaidd a'n mesurau datblygu economaidd ar 2 Gorffennaf.
O ran yr argyfwng newid hinsawdd, wrth gwrs mae gennym y datganiad nesaf y prynhawn yma gan y Gweinidog amgylchedd a fydd yn siarad â ni am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith. Yn amlwg, mae'n rhaid inni edrych ar hynny drwy sôn am beth fydd cost y mesurau a beth fydd y manteision. Ym mhob un o'r cyfarfodydd a gefais gyda'm cyd-Aelodau, y soniais amdanynt wrth Alun Davies, rwyf hefyd wedi bod yn gwneud hynny o fewn cyd-destun yr argyfwng hinsawdd a chael trafodaethau penodol gyda nhw am yr argyfwng hinsawdd a hefyd ein hymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, mae hynny'n amlwg iawn ac yn ganolog i'r broses o bennu cyllideb.
Ar fater y gwaith ffordd yn Sycamore Cross, efallai yn y lle cyntaf y byddai'n ddoeth codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a bydd ef yn gallu rhoi'r cyngor sydd ei angen arnoch.
Fe'm brawychwyd dros y penwythnos gan y sylw yn y cyfryngau a rhywfaint o'r ymateb i'r ffrae rhwng un o'r ddau ymgeisydd Torïaidd am y Brif Weinidogaeth a'i bartner yn ei fflat. Pardduwyd y cymdogion a roddodd wybod am y digwyddiad. Nawr, nid yn unig y mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod am gymeriad rhywun a allai fod yn arwain y DU mewn ychydig wythnosau, ond, yn fwy na hynny, mae gan bobl y ddyletswydd i roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau lle credant fod rhywun mewn perygl er mwyn sicrhau diogelwch. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn anghyfrifol iawn i gondemnio'r ffaith fod yr heddlu wedi cael eu hysbysu am ddigwyddiad o'r fath?
Mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner cyfredol neu gyn-gymar yng Nghymru a Lloegr, ac mae un fenyw o bob pedair yn profi trais domestig yn ystod ei hoes. Gall ymyrraeth gynnar olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Yn unol ag ymgyrch eich Llywodraeth eich hun, 'Paid Cadw'n Dawel', a wnewch chi gyfleu neges ddiamwys nad mater preifat yw cam-drin yn y cartref, ni ddylid ei gadw yn y teulu a thu ôl i ddrysau caeedig? Ac a wnewch chi annog pobl i ffonio 999 os ydynt yn poeni am ddiogelwch cymydog? A allwch hefyd sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o linell gymorth Cymru Byw Heb Ofn ar gyfer unrhyw un sydd angen help neu sydd â phryder ynghylch cam-drin domestig posib, gan gynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, emosiynol a rhywiol, ymddygiad rheolaeth trwy orfodaeth, bygythiadau a brawychu, cam-drin economaidd ac aflonyddu? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn i Leanne Wood am godi hyn, ac rwyf yn cytuno'n llwyr â'r cyfan y mae wedi'i ddweud y prynhawn yma. Fel y dywedwch, mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch a gefnogir gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru, 'Paid Cadw'n Dawel', ac rwyf o'r farn mai dyma yw'r union beth i'w ystyried o ran bod pob un ohonom yn gymdogion da, yn ffrindiau da ac yn gyd-weithwyr da ac yn cefnogi pobl a allai, yn ein tyb ni, fod yn dioddef trais yn y cartref, ond hefyd i roi gwybod i'r heddlu os oes gennym unrhyw bryderon am unrhyw un o'n cymdogion. Rwy'n credu ei fod yn ffiaidd bod pobl sydd yn galw'r heddlu'n ddidwyll, am eu bod yn wirioneddol bryderus am rywun arall, yn cael eu pardduo yn y papurau newydd yn y modd hwn. Ni ddylai pobl byth orfod mynd drwy hynny, ac ni ddylai pobl byth boeni am godi'r ffôn ychwaith. Felly, fy mhryder am y ffordd y mae'r mater hwn wedi cael ei gyflwyno yn y wasg yw y gallai wneud i bobl beidio â mynegi eu pryderon. Felly, rwy'n credu ei bod yn amser da iawn i roi mwy o hwb i'n llinell gymorth rhad ac am ddim, Byw Heb Ofn Cymru. Byddaf yn sicrhau ein bod yn hybu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, a gwn y bydd fy nghyd-aelodau'n awyddus i wneud hynny hefyd.
A gaf i ofyn i'r Trefnydd yn gyntaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch Virgin Media, sydd i fod i gau yn Abertawe ar 30 Mehefin? Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth yn cynnwys nifer y bobl a oedd yn gweithio yno sydd bellach wedi cael gwaith arall, y nifer sy'n dal i gael eu cynorthwyo gan Lywodraeth Cymru, a pha ddefnydd a wneir o'r safle yn y dyfodol.
Hoffwn ofyn wedyn am ddau ddatganiad sy'n deillio o ddeisebau a gafodd y Cynulliad, ac yr ymchwiliwyd iddynt ar ôl hynny gan y Pwyllgor Deisebau, a ddilynwyd gan ddadleuon yn y Siambr—ac ymatebion cadarnhaol iawn gan y Llywodraeth i'r deisebau hynny. Yn gyntaf, y ddeiseb gan Whizz-Kidz ynghylch mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl, ac yn ail, yr un gan Talking Hands am y ddarpariaeth iaith arwyddion. A allwn ni gael datganiadau yn awr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd y Llywodraeth? Gan eu bod i gyd wedi cael croeso da iawn yn y Siambr, a chawsant eu croesawu'n dda iawn gan y Llywodraeth, cafodd llawer o bethau cadarnhaol iawn eu dweud, ac ar ôl siarad â Whizz-Kidz a Talking Hands, hoffent weld yn awr pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Ar fater Virgin Media, sydd, fel y dywedwch, i fod i gau'n derfynol yn Abertawe, llwyddais i ddarparu, ychydig wythnosau'n ôl, ddiweddariad ynglŷn â nifer y staff a oedd, bryd hynny, wedi dod o hyd i waith pellach, a byddaf yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y ffigur terfynol hwnnw. Hefyd, gwn fod Virgin Media ar fin penodi asiant o ran defnyddio'r safle yn y dyfodol, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu i holi sut mae hynny'n datblygu. Rydym yn aros am yr wybodaeth ddiweddaraf ganddynt am y mater penodol hwnnw.
Ac eto, gyda'r dadleuon a gawsom—credaf mai deiseb Talking Hands y buom yn siarad yn benodol amdani yn y Siambr. Fel y dywedwch, cafodd dderbyniad da iawn. Ond yn awr mae angen inni sicrhau bod y camau sy'n deillio o'r ddadl honno'n cael eu gweithredu. Felly, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Pwyllgor Deisebau, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o'u safbwynt nhw, a gallaf gadarnhau bod swyddogion bellach wedi trefnu cyfarfod â nhw i drafod unrhyw gamau pellach sydd eu hangen ôl trafod y ddeiseb.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy gefnogi cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen y ddinas? Mae'n ddwy flynedd a chwarter ers cyhoeddi hwnnw ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, a'r teimlad cyffredinol yw nad ydym wedi mynd fawr pellach ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod siarad.
Hoffwn, os caf, ofyn am ddau ddatganiad yn amser y Llywodraeth—cyn diwedd y sesiwn hwn, os oes modd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r newyddion trist iawn am gau Jistcourt, cyflogwr mawr, eto, yn fy rhanbarth i, ar adeg pan ydym eisoes wedi cael cryn dipyn o newyddion drwg ym maes cyflogaeth, gyda Ford a Dawnus hefyd. Ac wrth gwrs, yn debyg iawn i Dawnus, mae'r newyddion drwg hyn wedi teithio i Bowys, sydd ddim yn fy rhanbarth i, ond sydd, serch hynny, yn gwneud imi ddechrau pendroni â phryder gwirioneddol yn awr ynghylch diwydrwydd dyladwy. Nawr, rwy'n sylweddoli na all pob trefniant ddod i ben yn llwyddiannus, ond rydyn ni wedi cael y fath rediad o'r hyn sy'n ymddangos i fod yn benderfyniadau peryglus yn ddiweddar. Hoffwn gael datganiad, nid yn unig i drafod y gwaith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu Jistcourt a'r teuluoedd ar yr amser anodd hwn, ond hefyd pwy sydd yn y sefyllfa orau— ai Llywodraeth Cymru neu gorff gwahanol; yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu gorff tebyg i hwnnw—i gynnig arweiniad bellach ar yr hyn sy'n gyfystyr â diwydrwydd dyladwy da. Oherwydd ymddengys bod yna batrwm o edrych ar daenlenni a meddwl bod hynny'n ddigon o ystyriaeth i benderfynu ar fenthyg llawer o arian. Ac wrth gwrs, yn yr achos diweddaraf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cael ei feirniadu ar y mater hwnnw.
Yn ail, tybed a oes modd inni gael datganiad gan Weinidog yr Iaith Gymraeg am y gwaith y mae ei swyddogion yn ei wneud i fonitro'r gwaith yn erbyn strategaeth 2050. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod dau gyngor yn fy rhanbarth i— Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Castell-nedd Port Talbot—wedi cyhoeddi syniadau'n ddiweddar sydd, i bob golwg, yn gwrthddweud blaenoriaethau polisi'r Llywodraeth hon. Yn achos Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ymddengys fod effaith y CDLl a'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg wedi arwain at yr hyn sy'n edrych fel gostyngiad ym maint y cynnig y byddent yn gallu ei roi i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac wrth gwrs, ynglŷn â'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n debyg eich bod wedi clywed eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar fysus, a fydd yn cynnwys cynigion—ac yn amlwg, mae'r ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddo—gallai hynny wneud niwed difrifol i allu pobl sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg allu barhau gyda hynny ar ôl 16 oed. Rwyf yn deall yr holl ddadleuon ariannol ynglŷn â hyn, ond yn wir, byddai hynny'n gymaint o ergyd mewn sir sy'n gwneud llawer yn well na Phen-y-bont ar Ogwr o ran yr hyn y gall ei gynnig o ran addysg cyfrwng Cymraeg.
Diolch ichi am godi'r materion hynny. O ran colli swyddi Jistcourt, mae'n amlwg y bydd hyn yn newyddion torcalonnus i'r 66 o weithwyr a'u teuluoedd, a byddwn yn awr yn canolbwyntio ar helpu'r gweithwyr hynny i ddod o hyd i gyflogaeth leol arall. Mae'r gweithlu yno'n arbennig o dalentog, ac mae gan ein rhaglen ReAct record gref o gefnogi unigolion sydd wedi colli swyddi. Byddwn yn sicrhau bod y cymorth hwn ar gael cyn gynted â phosib, ynghyd â chymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid a sefydliadau lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. O ran eich pryder ehangach am y mesurau datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, wrth gwrs, mae'r datganiad hwnnw gan Ken Skates ddydd Mawrth nesaf, a allai fod yn gyfle i archwilio'r materion yn ehangach.
Llwyddais i ymateb i Dai Lloyd yr wythnos diwethaf—i'w gwestiwn ynghylch darpariaeth trafnidiaeth Castell-nedd Port Talbot i'r rhai sy'n dymuno cael addysg Gymraeg. Fel y dywedwch, mae'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond byddem yn bryderus petai'r rheini sy'n dymuno cael eu haddysg yn Gymraeg dan anfantais. Yn amlwg, byddem yn ceisio sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes anfantais yno. Byddaf yn gofyn i Weinidog y Gymraeg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau sydd wedi'u cymryd tuag at y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Clywsom gan y BBC y bydd yr ardal 50 mya, ym Mhort Talbot, a fu'n gyfnod prawf o gwmpas cyffordd 31, ac sydd wedi cael ei hymestyn, yn cael ei gwneud yn barhaol. Ac yn ôl y BBC, mae'n dweud y bydd yn parhau mewn grym i gynnal safonau ansawdd aer. Nawr, heb unrhyw ddatganiad gan y Llywodraeth, mae'n anodd iawn inni wybod beth y mae'r safonau ansawdd aer hynny wedi'i gyflawni a sut y gallwn fod yn sicr mai dyma'r ateb i'r broblem llygredd yn yr ardal benodol honno. Mae etholwyr wedi gofyn imi dros y penwythnos am yr wybodaeth a arweiniodd at benderfyniad gan y Llywodraeth yn y cyswllt hwn a byddwn yn croesawu'r wybodaeth honno. Oherwydd, os nad yw'r wybodaeth ddim gennym, bydd llawer o ddyfalu ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad a pham y bydd darn penodol o ffordd yn cael ei gadw ar 50 mya. Nid wyf yn anghytuno ag ef, ond mae angen inni wybod pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw ac mae angen inni fodloni ein hetholwyr hefyd. Felly, byddai datganiad yn cael ei groesawu.
Hoffwn hefyd ystyried y mater a godwyd gan Suzy Davies mewn cysylltiad â Jistcourt. Dwi wedi cael ambell i e-bost am hyn hefyd. Unwaith eto, byddwn yn croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru i ACau—nid wyf wedi gweld dim yn fy mewnflwch oherwydd mae angen inni wybod beth sy'n digwydd, mae angen inni wybod sut y mae'r gweithwyr yn cael eu cefnogi, ac mae angen inni ddeall pa sgyrsiau a gafodd Llywodraeth Cymru a'r sgyrsiau a allai fod wedi digwydd dan amgylchiadau eraill gyda cholli swyddi yn Ne Cymru. Rwy'n credu ei bod yn fater o barch fod pob Aelod yn cael gwybod. Ni allwn gael clywed gwybodaeth sensitif, ond siawns y gallwn gael gwybod pan fydd swyddi'n mynd i gael eu colli, fel nad ydym mewn sefyllfa lle nad oes gennym unrhyw wybodaeth i'w rhoi i bobl. Felly, byddai datganiad ar hynny o fudd mawr.
Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny. Rwy'n credu bod Gweinidog yr amgylchedd wedi darparu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani mewn datganiad ar awyr iach yr wythnos diwethaf. Felly, byddwn yn eich cyfeirio at hynny, ond os nad yw'r atebion yr ydych yn eu ceisio yn y cyswllt hwnnw, yna rwy'n siŵr y byddai'n gallu cysylltu â Ken Skates i roi'r wybodaeth honno ichi.
Ac ar fater Jistcourt, gofynnaf i'r Gweinidog, unwaith eto, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gafwyd a'r gefnogaeth y gallwn ei rhoi i gyflogwyr. Credaf fod yn rhaid inni fod yn synhwyrol, a dweud y gwir, o ran yr hyn sy'n bosib yng nghyswllt colli swyddi, oherwydd fel y dywedodd Ken Skates yr wythnos diwethaf, mae tua 2,000 o swyddi'n cael eu colli bob un wythnos yng Nghymru, ond ar yr un pryd, mae dros 2,000 o swyddi'n cael eu creu. Felly, mae ffynhonnell gyson o swyddi. Ond wedi dweud hynny, lle ceir cyflogwyr o faint sylweddol, gallaf ddeall yn llwyr pam y byddai'r Aelodau lleol yn dymuno cael hysbysiad mor gynnar â phosib er mwyn cefnogi eu hetholwyr yn y ffordd orau.
A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad amserol— ar yr adeg briodol—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith ar Ford a'r tasglu'n benodol? Byddai'n caniatáu inni, felly, godi'r mater o hyd at 25 o weithwyr yn Ford, y mae rhai ohonynt yn etholwyr imi, a dderbyniodd becyn diswyddo sylfaenol ddechrau mis Mai, ac a geisiodd sicrwydd gan Ford ar y pryd nad oedd unrhyw gynlluniau i gau'r gwaith yn y dyfodol agos. Wrth wneud hynny, a derbyn y pecyn sylfaenol hwnnw, mae'n debyg eu bod, gyda'u teuluoedd, bellach ar eu colled o hyd at £50,000, £60,000, £70,000 neu fwy, ar ôl cael sicrwydd gan Ford nad oedd unrhyw gynlluniau cau yn fuan iawn. Bedair wythnos yn ddiweddarach, cyhoeddodd Ford ei gynigion ar gyfer cau. Nawr, bydd Ford yn dadlau fod eu proses yn dal dŵr ar hyn oherwydd bod y gweithwyr hynny wedi llofnodi cytundeb ac wedi derbyn y telerau. Ond roedd y gweithwyr hynny hefyd wedi gofyn am sicrwydd clir gan Ford nad oedd cynlluniau ar y gorwel i gau'r gwaith. Felly, efallai fod eu proses yn dal dŵr yn gyfreithiol, ond byddwn i'n dweud bod eu hymddygiad yn codi cwestiynau moesol. Felly, byddai datganiad yn caniatáu i bryderon y gweithwyr hynny gael eu clywed yn glir yma, ond gallai hefyd roi sicrwydd inni y bydd Ken Skates, Gweinidog yr economi, dwi eisoes wedi codi'r mater hwn gydag ef, yn codi hyn gyda Ford hefyd, oherwydd credaf fod gan Ford achos moesol i'w ateb ynghylch pam y dywedwyd wrth eu gweithwyr 'Does dim cynlluniau i gau. Cymerwch y pecyn sylfaenol. Dyma'r gorau y gallwch ei wneud.' Yna, bedair wythnos yn ddiweddarach, fe sylweddolodd y gweithwyr eu bod yn cael eu gadael gyda thwll anferth yn eu pocedi.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, roedd y gweithwyr hynny'n derbyn y pecyn yn ddidwyll ar adeg pan gawsant sicrwydd nad oedd cynlluniau ar y gorwel i gau'r gwaith. Diolch ichi am godi'r mater hwnnw'n uniongyrchol gyda Gweinidog yr economi. O ganlyniad, mae'n ysgrifennu heddiw i ofyn i Ford ystyried eu safbwynt ar y mater hwn ac i ymchwilio i'r posibilrwydd o wella'r pecyn gwahanu y cytunir arno â'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ac felly nad ydynt dan anfantais o'u cymharu â'u cydweithwyr.
Hoffwn ofyn i'r Trefnydd am dri datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn iddi gyflwyno sylwadau i'r Gweinidog Addysg am ddatganiad ynghylch cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru. Gofynnaf hyn yng ngoleuni'r pryderon sydd wedi dod i'r amlwg am y posibilrwydd o golli swyddi ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Nawr, yn amlwg, mae colli swyddi bob amser yn destun pryder, ac mae colli swyddi mewn addysg uwch yn destun pryder, ond mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd campws Llanbedr Pont Steffan i'r dref fach honno. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ar y cyd â'r sector—o glywed yr hyn y mae Gweinidogion bob amser yn ei ddweud am y rhain fel sefydliadau unigol, annibynnol—i geisio diogelu'r swyddi hynny mewn cymuned y mae arnynt eu hangen yn ddirfawr.
Byddwn yn gofyn ymhellach i Weinidog yr Economi—datganiad ysgrifenedig o bosib, o ystyried y pwysau amser—i wneud datganiad ynglŷn â'r colledion swyddi arfaethedig yng Nghwmni Bwyd GRH ym Minffordd. Nawr, fel y bydd y Trefnydd yn gwybod, mae hwn yn gwmni sy'n bwysig iawn i'w economi leol. Efallai mai dim ond 90 o swyddi a fydd yn cael eu colli, nifer cymharol fach, ond byddwn yn dweud wrth y Trefnydd, o'r 2,000 o swyddi hynny y cyfeiriodd atynt yn awr a grëir yng Nghymru, nid oes digon ohonynt yn cael eu creu yn y Gogledd-orllewin ac felly mae colli'r 90 swydd hynny'n arwyddocaol iawn i'r gymuned honno. Gwn y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn deall yn llawn arwyddocâd y posibilrwydd o golli'r capasiti prosesu hwnnw i'r economi wledig ehangach. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig? Ac efallai y bydd rhywfaint o le i Weinidog yr Amgylchedd, gan wisgo'i het cefnogi ffermio, gyfrannu rhywfaint at y datganiad hwnnw.
Yn olaf, ymhellach i'r sylwadau a wnaed eisoes gan Andrew Davies, credaf fod gan y Cynulliad hwn yr hawl i ddisgwyl i Ddirprwy Weinidog yr Economi ddod ger ein bron i egluro pam y mae wedi dweud—a dyfynnaf eto—
'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud ar yr economi—a'r gwir amdani yw nad ydyn ni'n gwybod yn iawn beth rydyn ni'n ei wneud ar yr economi.'
Efallai mai sylwadau a wnaed yn ysgafn oedd y rhain—nid wyf ond wedi'u gweld yn ysgrifenedig, nid wyf wedi'u gweld yn eu cyd-destun—ond rwyf yn credu—. A chlywais yr hyn a ddywedodd y Trefnydd am y datganiad gan Weinidog yr Economi ei hun, ond credaf fod yn rhaid i'w ddirprwy roi cyfrif i'r fan hon am yr hyn y mae'n ei olygu wrth y sylwadau hynny, sydd yn eithriadol o ddifrifol os ydynt yn wir, a hefyd, yn bwysicach efallai, pa swyddogaeth y mae'n bwriadu ei chwarae i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth y mae'n ei wneud ar yr economi. Nid yw'n ddigon da iddo guddio y tu ôl i'w Weinidog yn unig; rhaid iddo roi cyfrif am y sylwadau hynny, oherwydd gwn yn sicr na fydd ei etholwyr yn Llanelli yn dawel eu meddwl oni bai ei fod yn barod i'w hegluro.
O ran y mater cyntaf, a oedd yn ceisio datganiad am sefydlogrwydd ariannol y sector addysg, fel y dywedwch, mae prifysgolion yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'u materion gweinyddol. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod y Gweinidog dros addysg wedi cael cyfarfod â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod yr wythnos diwethaf, lle'r wyf yn sicr y trafodwyd y materion sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
O ran Cwmni Bwyd GRH, yn amlwg, unwaith eto, bydd hyn yn rhagor o newyddion trychinebus i'r gweithwyr yno, ac mae'n rhaid canolbwyntio nawr ar ddod o hyd i bob ffordd o chwilio am swyddi diogel ar gyfer y gweithwyr hynny. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ar frys gyda'r gweinyddwyr i weld beth arall y gallwn ei wneud i'r gweithlu, ond hefyd i'r gadwyn gyflenwi ehangach honno, y cyfeiriasoch ati yn eich datganiad.
Ac ar y cwestiwn olaf, yn y lle cyntaf rwy'n credu y byddaf yn cael sgwrs gyda'r Dirprwy Weinidog.
Diolch i'r Trefnydd.