1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyhoeddiad ariannol Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54320
Yn seiliedig ar gylch gwario Llywodraeth y DU, bydd ein cyllideb ar gyfer 2020-21 yn is o 2 y cant mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £300 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Yn fy natganiad llafar ddoe, nodais effaith adolygiad gwariant Llywodraeth y DU.
Diolch i chi am eich ateb. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am wneud ple eto arnoch chi i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru'n cael setliad gwell eleni. Dŷn ni wedi clywed eisoes am y £6 miliwn sydd ei angen ar sir Fôn i aros yn ei hunfan. Dŷn ni wedi gweld yn y papur bore yma bod Cyngor Sir y Fflint yn sefyll ar ymyl dibyn ariannol, a fydden i ddim yn licio dychmygu beth fyddai'r goblygiadau petai'r hwch yn mynd drwy'r siop yn fanna.
Nawr, yn flaenorol, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi dweud fe fydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw petai yna arian yn dod ar gael a byddwn i'n gofyn i chi o leiaf ailadrodd yr ymrwymiad yna ac i wneud hynny, wrth gwrs, gan wybod y byddai ariannu tecach i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi'i glywed, yn gallu cyfrannu'n helaeth tuag at faterion iechyd drwy ariannu gwasanaethau cymdeithasol yn iawn, ond mi fyddai hefyd yn gallu caniatáu inni ddechrau mynd i'r afael â than-gyllido ysgolion yn eithriadol. Felly, yr hyn dwi eisiau clywed yw—ganddoch chi a'r Llywodraeth—y bydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw eleni.
Diolch. Mae'r holl ddadleuon hyn o blaid gwell setliadau ar gyfer awdurdodau lleol wedi'u gwneud yn dda iawn ac wedi'u clywed yn dda iawn, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud o'r blaen, pe bai cyllid ychwanegol ar gael, yna byddai awdurdodau lleol a llywodraeth leol ar flaen y ciw.
Soniodd Lynne Neagle yn gynharach am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a oedd yn beirniadu'r ddwy Lywodraeth yn hallt mewn perthynas â chyllid ysgolion. Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb ac wedi cynyddu bloc Cymru o ganlyniad i ddarparu cynnydd o £14 biliwn i'w chyllideb ysgolion ei hun ar gyfer y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith ar hyn, ac mae arnaf ofn, Weinidog, na allwch gyfiawnhau blynyddoedd o danariannu yn ein hysgolion yng Nghymru—mae hwn yn bwynt a wnaed gan undebau, nid ar yr ochr hon i'r Siambr yn unig—drwy dynnu sylw at Lywodraeth arall sydd wedi gweithredu ar unwaith i wyrdroi'r peryglon a oedd yn effeithio arnynt.
Gofynnodd Lynne Neagle am y blynyddoedd cynnar, ond a allwch gadarnhau y bydd y rhan fwyaf os nad yr holl arian yn mynd i ysgolion neu awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion? Rwy'n derbyn na allwch roi manylion am hynny, ond mewn egwyddor. Ac os bydd yr arian hwnnw'n mynd i awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion, a fydd yn cael ei warchod fel na fydd cynghorau'n cael eu denu i ddargyfeirio'r arian hwnnw i feysydd blaenoriaeth ac angen eraill?
Wel, ni allaf gytuno bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â chyllid mewn ysgolion. Maent wedi bod mewn grym ers degawd, felly mae wedi cymryd cryn dipyn o amser iddynt gydnabod pwysigrwydd addysg, ac maent hefyd wedi rhoi sicrwydd o ragolwg gwariant tair blynedd i ysgolion a'r GIG yn Lloegr. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i wneud hynny yma yng Nghymru, lle yr addawyd adolygiad gwariant tair blynedd. Felly, o ran gwneud cyhoeddiadau heddiw ac addewidion heddiw, nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Rydym newydd gael ein dyraniadau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda dwy flynedd i wneud hynny. Ond hoffwn sicrhau pobl ein bod yn gwrando ar yr holl ddadleuon a wnaed gennych chi, yr awdurdodau lleol, a'r gwahanol sectorau, ac ystyrir hynny i gyd wrth i ni osod y cyllidebau yn y dyfodol.
Yn olaf, Mick Antoniw.
Weinidog, yng nghyd-destun y cyni hwn, os gallwn gael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa ariannol, efallai y gallech ddweud wrthym faint o arian a gollwyd gennym ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, efallai y gallech ddweud wrthym pa warantau a gawsoch mewn perthynas â chyllid yr Undeb Ewropeaidd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac o ran yr arian ychwanegol sy'n cael ei addo, a ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian hwn mewn gwirionedd, neu a yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol—[Torri ar draws.] A yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol â chytundeb Brexit Prif Weinidog y DU?
Diolch i Mick Antoniw am godi hynny. O ran, 'A ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian eto?', wel, yr ateb i hynny yw 'na', ac nid oes unrhyw warant gadarn y byddwn yn ei weld, wrth gwrs, gan fod yn rhaid i hynny ddibynnu ar Fil cyllid yn mynd drwy'r Senedd, ac nid yw'r Senedd, wrth gwrs, yn eistedd ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw'n amlwg yn faes sy'n peri pryder i ni. Felly, ni fyddwn yn gweld yr un geiniog ohono hyd nes y bydd y prosesau seneddol angenrheidiol wedi'u cwblhau.
O ran cyllid yr UE, unwaith eto, roedd y Canghellor yn hollol dawel ynglŷn â chyllid yn lle cyllid yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig. Gofynnais i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, ac unwaith eto, cafodd y mater ei wthio i lawr y lôn—'Cynhelir ymgynghoriad maes o law'. Mae'r ymgynghoriad hwnnw wedi'i addo inni ers oddeutu 18 mis bellach ac rydym yn wirioneddol awyddus i gymryd rhan ynddo. Nid yw'n iawn mai ymgyngoreion ydym ni beth bynnag, gan fod hwn yn fater mor sylfaenol, ond rydym yn parhau i wneud y pwyntiau na allwn fod mewn sefyllfa lle y caiff datganoli ei anwybyddu o ganlyniad i'r gronfa honno.
Tynnais sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys at y ffaith na ddylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd, a'i atgoffa bod hwnnw'n addewid allweddol yn ystod y refferendwm, ond fe atebodd, wrth gwrs, mai addewid a wnaed gan yr ymgyrch dros 'adael' oedd hwnnw, ac mai'r Llywodraeth Geidwadol ydynt hwy, ond fe wnaethom ei atgoffa wedyn fod Prif Weinidog y DU, mewn gwirionedd, yn un o'r bobl a arweiniodd yr ymgyrch honno, felly byddem yn disgwyl iddo gadw at yr addewid hwnnw i bobl Cymru.
Mae Mick Antoniw yn gwbl iawn i godi’r ffaith ein bod wedi gweld degawd o doriadau ac nad yw’r cyllid ychwanegol a roddwyd o'n blaenau yn awr yn agos at allu ein codi i'r lefel yr oeddem arni 10 mlynedd yn ôl.
Diolch i'r Gweinidog.