1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Hydref 2019.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff niwclear yng Nghymru? OAQ54582
Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd na chymunedau yng Nghymru lle y gellid lleoli cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny ychwaith. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn eglur: gellir adeiladu GDF yng Nghymru dim ond os oes cymuned sy'n fodlon ei gynnal, ac awdurdod lleol yn fodlon rhoi ei ganiatâd.
Prif Weinidog, cafwyd protest enfawr yma y llynedd yn erbyn dympio mwd yn nyfroedd Cymru a oedd wedi cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley C heb yr ystod lawn o brofion y gellid ac y dylid bod wedi eu gwneud. Arweiniodd yr ymgyrch at gyhoeddusrwydd rhyngwladol, gyda darllediadau ar Al Jazeera, Russia Today, y BBC, newyddion yr Almaen, newyddion Pacistan, a llawer o allfeydd newyddion eraill. [Torri ar draws.] Ond anwybyddodd eich Plaid Lafur chi a'r ACau yn y fan yma y protestiadau a'r dicter cyhoeddus eglur gan bleidleisio i'r dympio ddigwydd. Mae eich Dirprwy Weinidog eich hun—
Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
—wedi bod ar Twitter i ddadlau yn erbyn adeiladu Hinkley C, yn gofyn beth y gellid ei gyflawni gyda'r biliynau ar filiynau o bunnoedd a wariwyd yno. Felly, pan fydd EDF Energy yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddympio ail rownd o fwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear nad yw hyd yn oed yng Nghymru, a wnewch chi dri pheth? Dyma'r cwestiwn. Yn gyntaf, a wnewch chi fynnu bod asesiad llawn o'r effaith ar yr amgylchedd yn cael ei gynnal y tro hwn? Yn ail, a wnewch chi fynnu bod yr ystod lawn o brofion ymbelydredd yn cael ei chynnal, gan gynnwys alffa, gama a sbectrometreg dorfol? Ac yn drydydd, a wnewch chi roi pleidlais rydd i'ch ACau Llafur y tro nesaf yn lle eu chwipio i bleidleisio dros ganiatáu i'r dympio ddigwydd?
Llywydd, nid oes cais o'r fath wedi dod i law.
Yn ystod toriad yr haf, cefais y pleser o ymweld â safle adeiladu Hinkley Point a chanfod bod y cyfle hwnnw'n golygu bod 25 y cant o'r gweithlu wedi eu lleoli yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn bod manteision y gwariant hwnnw—cyfanswm o £19 biliwn—yn cael eu teimlo yn economi Cymru hefyd. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad pan ddaw i ddyfarnu contractau ar y gwaith adeiladu hwnnw, ac yn arbennig, hyrwyddo'r sgiliau sydd ar gael i gyflogeion ddod o hyd i waith yn y prosiect penodol hwnnw?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod angen manteisio ar y cyfleoedd economaidd a sicrhau eu bod ar gael i weithwyr Cymru. Mae camau a gymerwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hysbysebu'n dda i weithwyr yng Nghymru.
Yn ddiweddar, roeddwn i'n bresennol mewn galwad gynadledda gan Unite: yr Undeb, pryd y tynnwyd sylw ganddyn nhw at y camau y maen nhw wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod sgiliau gweithwyr Cymru yn hysbys i'r cyflogwyr yn y prosiect hwnnw, a bod gweithwyr Cymru, pan fydd cyfleoedd yn codi, yn gallu manteisio arnyn nhw.