– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 22 Hydref 2019.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar flaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020 i 2025, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Dafydd Elis-Thomas
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n arbennig o addas, yn fy marn i, fy mod i'n gwneud y datganiad yma ar yr adeg hon. Fuodd hi erioed yn fwy addas i ddathlu diwylliant, natur unigryw a hunaniaeth Cymru, ein tirwedd a'r anturiaethau rhyfeddol sydd i'w cael, nac yn wir i wahodd pobl i'r wlad yr ydym ni i gyd yn ei hystyried i fod yn arbennig o brydferth.
Dwi'n falch iawn, felly, o'r hyn sydd wedi cael ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bod Aelodau'r Cynulliad, fel dwi'n gwybod bod y rhelyw yn y diwydiant, yn frwd iawn dros y brand cadarn ac arobryn ac unigryw i Gymru sydd gyda ni, ac sydd yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud. Ond nid yn unig y mae'r brand yma wedi cael ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr, mae wedi cael ei ddefnyddio gan fy nghyd-Weinidogion i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, i ddangos bwyd a diod gwych Cymru, a hyd yn oed i recriwtio i'r gwasanaeth iechyd.
Sail y brand newydd ydy'r pwyslais yma ar 'flynyddoedd', ond nid mater o un flwyddyn ar y tro yn unig ydy hyn erbyn hyn. Rydyn ni'n ymestyn y blynyddoedd dros ddwy flynedd, fel bod y themâu yma yn gallu cyd-weu â'i gilydd—themâu fel 'chwedlau', 'antur', 'y môr', ac i ddod yn y flwyddyn nesaf, 'Blwyddyn Awyr Agored'. Mae'r rhain yn dod â sefydliadau gwahanol ledled Cymru at ei gilydd o dan faner i dynnu sylw at y gorau o ddiwylliant, tirwedd ac anturiaethau Cymru.
Dwi'n falch iawn hefyd o'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y cynnyrch gwych sydd wedi newid canfyddiadau pobl o Gymru. Fyddwch chi ddim yn synnu imi gyfeirio at Zip World, lle gall genhedlaeth newydd brofi ein hetifeddiaeth a'n treftadaeth ddiwydiannol—os ydyn nhw'n cael cyfle i weld yr hyn maen nhw'n ei basio mor gyflym, os ydyn nhw'n mynd i gyflymder o dros 90 milltir yr awr. Ond mae'r atyniadau yna—ac, wrth gwrs, Surf Snowdonia, y morlyn syrffio cyntaf yn y byd—wedi pwysleisio pwysigrwydd antur yn nhirwedd Cymru.
Dwi'n gwybod hefyd fod pobl drwy Gymru a thu hwnt wedi mwynhau y digwyddiadau rydyn ni wedi'u cefnogi fel Llywodraeth: rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Ras Cefnfor Volvo; digwyddiadau lleol fel Gŵyl y Gelli; ac yna lle y mae yna ddigwyddiadau rhyngwladol yn dod drwy Gymru, p'un ai rhai beicio a rhai'n ymwneud â moduro ac yn y blaen. Drwy ddod ag ymwelwyr i Gymru, mae'r cynnyrch newydd yma—digwyddiadau gwych a'r cymorth ar gyfer marchnata—yn dangos pa mor allweddol yw twristiaeth i economi Cymru.
Mae yna dros 11,500 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae'r rhain yn dod â £6.3 biliwn i'r economi. Mae oddeutu 9 y cant o gyflogaeth actif yn yr economi mewn twristiaeth. A dyna pam fy mod i'n falch iawn ein bod ni fel Llywodraeth wedi cydnabod twristiaeth fel rhan o economi sylfaenol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac o'r trywydd rydyn ni wedi'i osod ac rydyn ni bron â'i gyrraedd yn ein cynllun twristiaeth presennol, sef cynyddu ein hincwm o 10 y cant dros gyfnod.
Mae hyn yn fy arwain i, felly, at amlinellu rhai o'r blaenoriaethau newydd. Mae twristiaeth yn sbardun economaidd ar draws Cymru. Rydyn ni'n teimlo hefyd y gallwn ni wneud mwy drwy'r economi ymwelwyr er mwyn hyrwyddo'r economi gyffredinol. Nid yn unig rydyn ni wedi gallu sicrhau swyddi drwy dwristiaeth, cefnogi cymunedau drwy naws am le, cynnal brwdfrydedd dros ein treftadaeth a'n diwylliant, a chreu cyfleoedd i gynnal gweithgaredd corfforol, sydd mor bwysig ar gyfer iechyd y genedl a'n hymwelwyr ar draws Cymru—. Ac felly, uchelgais y cynllun gweithredu newydd, fel y gwelwch chi pan gyhoeddir o ym mis Rhagfyr, ydy datblygu twristiaeth er lles Cymru. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n dal yn bwysig i ddatblygu twristiaeth, ond mewn ffordd sydd yn cynnig manteision ehangach i ddiwylliant, i gymunedau, gan wneud hynny drwy ddiogelu'r amgylchedd. Hynny yw, twristiaeth gynaliadwy yw twristiaeth Gymreig, ac mae'r weledigaeth yma'n ganolog i'r cynllun llywio, fel y gwelwch chi pan ddaw o allan.
Rydw i wedi ei gwneud hi'n glir nad gweledigaeth Llywodraeth yw hon na gweledigaeth un adran ohoni. Pan gychwynnon ni weithio ar y cynllun yma, fe wnaethon ni ohebu gyda Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad i ofyn am gael gwybodaeth am eich gweledigaeth chi ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mae'r gwahoddiad yna'n cael ei ailadrodd heddiw, cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol.
Mi ddywedwyd wrthyf i, pan oeddwn i'n holi barn pobl, fod angen inni ddangos sut y gallai twristiaeth gyfrannu at ein hamcanion ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, oherwydd hynny, rydyn ni wedi gosod yr uchelgais yna yn ganolog i'r cynllun. Rydyn ni hefyd wedi trafod hyn i gyd yn fanwl gyda'r diwydiant, gyda'r sector. O'r uwchgynhadledd dwristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yno, fe gafwyd oddeutu 386 o bobl yn ymateb gyda sylwadau a syniadau. Roeddent hwythau yn dweud bod angen i gynaliadwyedd fod yn ganolog i bopeth roedden ni am ei wneud.
Roedd y sector hefyd yn nodi heriau ymarferol—yr angen i fynd i'r afael â natur dymhorol twristiaeth a pharhau i greu swyddi gydol y flwyddyn, i greu mwy o elw a rheoli costau. Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld gor-bwyslais ar dwristiaeth, yn ôl rhai, mewn rhai rhannau o Gymru ac ar rai adegau o'r flwyddyn. Felly, yn ogystal â'r uchelgais craidd i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru, mae angen i gynllun gweithredu newydd nodi sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau ymarferol yma.
I guro yn y gystadleuaeth, rydyn ni angen cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol, sy'n gyson â'n cryfderau ni, ac sy'n apelio at farchnadoedd newydd ar gyfer yfory. Dyna pam rydyn ni'n pwysleisio profiadau sy'n unigryw i Gymru, sy'n sicrhau pwyslais a chydbwysedd rhwng y lleol a'r byd-eang, rhwng yr hyn rydyn ni'n alw yn 'fro' a 'byd'. Mae hyn yn golygu gwneud pethau sy'n sicrhau manteision lleol, ond hefyd gan bwysleisio naws am le cryf Cymru, cefnogi busnesau cynhenid, a chyfrannu tuag at y brand ehangach a chyrraedd safonau byd-eang o ddarpariaeth.
Mae gyda ni felly bedwar maes o flaenoriaeth at y dyfodol. Yn gyntaf, 'cynnyrch a lleoedd gwych'—mi fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol sy'n dod â phobl i Gymru.
Ein prif flaenoriaeth ydy 'profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr'. Ond, yn arbennig ar sail ymweliadau rwyf wedi'u gwneud yn ddiweddar i safleoedd sydd yn darparu cyfle gwersylla i bobl sydd ag anghenion arbennig, sydd ag anabledd penodol a phroblemau symudedd, dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n gosod cyfleoedd i bobl llai abl o ran symudedd gael eu denu yma i Gymru, fel bod gan Gymru enw uchel yn fyd eang o ran darpariaeth ar gyfer pawb sydd am ymweld â ni.
Blaenoriaeth pellach fydd parhau i ddatblygu brand arloesol Cymru, gyda phwyslais ar farchnata ac arloesi digidol.
Yna, yn bedwerydd, rydyn ni'n awyddus i ddangos bod gyda ni sector gyd-gysylltiedig o fewn yr economi a chymdeithas, ac sydd yn fywiog, sy'n cynnwys gwneud mwy i gysylltu twristiaeth gydag agendâu eraill o fewn y gymuned, megis trafnidiaeth ac, wrth gwrs, iechyd. Mi fyddwn ni'n cynnwys heriau fel sut y gall twristiaeth fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau newid hinsawdd fel rhan o'n ffordd o feddwl.
Mi fyddwn ni hefyd yn ceisio gweithio yn llawer mwy masnachol, drwy ffyrdd newydd o greu cynnyrch y mae modd ei archebu, canolbwyntio mwy amlwg ar gynnyrch â diddordeb, a bod yn fwy doeth ynghylch y ffordd y byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gyrraedd mwy o bobl. Hynny yw, nid ein bod ni yn cynnig arlwy yn unig, ond ein bod ni'n deall pa fath o arlwy mae pobl sydd yn dod yma yn ei wir ddymuno.
I grynhoi, yr holl uchelgais yw datblygu twristiaeth er lles Cymru, er lles i'r perfformiad economaidd, ond hefyd drwy sylweddoli bod twristiaeth yn ddiwydiant sydd yn cwmpasu'r genedl gyfan, yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd trefol, yn y Cymoedd yn ogystal ag yn Eryri fynyddig. Ond mae angen hefyd inni fod yn realistig, fel ein bod ni yn gweld bod angen inni addasu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig er mwyn gallu ymateb i'r hyn mae'n hymwelwyr ni am ei weld, ond hefyd i gyplysu hynny ag anghenion Cymru. Ac felly, ein blaenoriaeth gyson ni yw atgoffa'r byd fod Cymru ar agor ar gyfer busnes fel lle i fuddsoddi ynddo, i weithio ac i fyw. A diolch ichi i gyd fel Aelodau Cynulliad ac, yn arbennig, i'r diwydiant ac i'r sector y tu fas i'r Senedd hon am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd, bron, yr wyf i wedi cael y fraint o gael cyfrifoldeb dros y diwydiant hwn.
A gaf i ddechrau drwy groesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn ein gwahodd i wneud ein cyfraniadau ein hunain o ran sut yr ydym ni'n bwrw iddi ar hyn o bryd i ehangu'r sector twristiaeth a'i fod yn agored i syniadau? Credaf y bydd llawer o unfrydedd ynghylch yr uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu. Felly, beth bynnag, dyma fy nghyfle i ddweud wrth y Cynulliad, a'r Gweinidog yn arbennig, am yr hyn y credaf sydd ei angen yn y cynllun ac yn y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr yn hanner cyntaf y 2020au.
Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod natur ddeuol y farchnad. Mae gennym ni farchnad fawr sy'n dod o weddill y DU, ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn, ond mae marchnad ryngwladol hefyd, ac rwy'n credu, er mwyn codi'r safonau, ceisio sicrhau twristiaeth fwy safonol a thwristiaeth werdd, llawer o'r pethau sydd bellach yn bodoli ac y mae twristiaid yn eu mynnu, mae angen cofio hynny, oherwydd nid wyf yn credu bod y ddwy elfen o'r farchnad bob amser yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, mae angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, dyna'r peth cyntaf, ac rwyf eisiau gweld cynllunio manwl iawn yn hynny o beth.
Rwy'n credu bod angen i ni hefyd geisio cael twf yn ein marchnad ryngwladol. Credaf fod gennym gynigion o'r radd flaenaf yn wir, a dylwn i ddweud y bu'r Gweinidog a minnau mewn seminar a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn gynharach heddiw, a soniodd un o'r rhai oedd yn bresennol am Gaerllion, a dweud ei fod yn safle Rhufeinig mor rhagorol, ond bod pobl yn mynd i'r safle ychydig llai diddorol—wel, nid ychydig, y safle llai diddorol—yng Nghaerfaddon, sydd â'r ymgyrch gyson wych hon, mae'n debyg, i ddenu ymwelwyr. Ac mae'n debyg mai Castell Conwy, er enghraifft, yw'r castell mwyaf—hynny yw, y castell mwyaf dychrynllyd—a adeiladwyd gan ddyn erioed. Mae'n rhan o'n treftadaeth ac mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd, os ydyn nhw eisiau ymweld â chastell canoloesol, dylen nhw ymweld â Chymru. Ac, yn wir, os ydyn nhw'n dod i Gonwy, mae ganddi hefyd un o'r cynlluniau trefi canoloesol gorau a oroeswyd ac sy'n dal i fodoli yn unrhyw le yn Ewrop. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o bwyslais ar y farchnad ryngwladol a hefyd ar y dwristiaeth werdd a fynnir yn aml yn y farchnad honno. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, gwyliau heicio—mae Cymru wedi'i bendithio'n llwyr o ran gallu darparu'r ystod fwyaf bendigedig o gyrchfannau cerdded, a chyfuno hynny â diwylliant o safon a chredaf mewn gwirionedd fod yna gyfuniad llwyddiannus.
Rwy'n credu bod angen mwy o waith ar y brand, a dweud y gwir. Mae hyn yn anodd, am ei fod yn costio llawer. Ond os edrychwch chi ar Iwerddon—efallai nad Iwerddon yw'r wlad orau ar gyfer cymharu, o ystyried mor helaeth yw ei chyllideb ar gyfer marchnata, ond rwy'n credu y bu'r Alban yn gyrru ymlaen ac yn gwario mwy ar farchnata. Ac rwyf yn credu ei fod yn fethiant mawr yn y sector preifat, mewn gwirionedd, oherwydd ni all gyfuno a chynhyrchu'r gallu hwnnw i farchnata rhywbeth fel cenedl neu ei arlwy twristiaeth. Dyma ble mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd oherwydd, mewn gwirionedd, os nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hynny ac yn arwain hynny, caiff ei wneud mewn ffordd sydd ymhell o fod y ffordd orau bosib.
Croesawaf eich geiriau am ddull mwy masnachol, oherwydd credaf fod angen i rai o'r safonau fod yn uwch. Mae arnom ni angen mwy o westai boutique, mae arnom ni angen mwy o fwytai ym mhen ucha'r farchnad, ac mae hynny'n dda i farchnad y DU a'r farchnad ryngwladol, ac mae'n dda i'n heconomïau lleol ni ein hunain. Twristiaeth werdd wirioneddol dda, uwch-dechnoleg, gwestai boutique ac ati, gallant fod yn rhan o'r economi sylfaenol hefyd. Mae'r economi sylfaenol yn golygu ei fod yn rhywbeth sy'n gallu gweithio gydol y flwyddyn, yn lleol, ac yn aros yn lleol—yr arian sy'n cael ei gynhyrchu. Nid yw'n golygu ei fod yn lefel sylfaenol o'r economi, o reidrwydd, felly byddwn yn sôn am hynny.
Rwy'n credu bod ganddyn nhw strategaeth ddrafft uchelgeisiol iawn yn yr Alban. Maen nhw wedi gosod y targed bod yr Alban yn arwain y byd ym maes twristiaeth erbyn 2030. Rwy'n credu mai dyna'r math o uchelgais y dylem ei ddatgan hefyd. Ac, os dywedwch chi hynny, rwy'n gwybod y byddai pawb yn y Cynulliad yn gefnogol ichi wrth geisio cyflawni'r uchelgais hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a ddangoswyd yn yr ymateb gan David Melding. Cytunaf mai Conwy mae'n siŵr yw un o'r cestyll mwyaf brawychus a godwyd erioed. Fel y gwyddoch chi, rwy'n un o ddinasyddion Sir Conwy, ond rhaid imi ddweud wrthych fod hwn, y mwyaf brawychus o gestyll bellach wedi'i fendithio â'r ymdrech ddiweddaraf mewn tapestri a ysbrydolwyd gan Cefyn Burgess a disgyblion ysgol o'r rhan honno o'r byd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n safleoedd treftadaeth yw dangos i ymwelwyr eu bod hefyd yn lleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi gan y boblogaeth leol yn ogystal â chanddyn nhw.
Rwy'n sicr yn cytuno bod angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Ceisiais wneud fy rhan ar gyfer y farchnad ryngwladol gyda'r ystafell gyrchfan newydd a agorwyd gennym ni yn ddiweddar yn nherfynfa 3 yn Heathrow. Yn sicr, mae cael llond ystafelloedd o ddelweddau ffotograffig maint-llawn o Gymru—er fod y rheini yn yr ardal ymadawiadau yn hytrach nag yn yr ardal gyrraedd, er bod gennym ni weithiau celf eraill mewn rhannau eraill o feysydd awyr, ym Manceinion a Chaerdydd, yn amlwg, yn ogystal â Heathrow—mae'n galluogi pobl i weld gwerth cyfuno tirwedd a diwylliant gyda hanes, ac mae hynny'n bwyslais parhaus sydd gennym ni. Felly, marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol—rydym ni bob amser yn ymwybodol o hynny.
Mae marchnata yn ymarfer sydd angen dychymyg a pharhad, yn ogystal â gwariant sylweddol. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni nawr yn nyluniad graffig penodol y marchnata yn rhywbeth arbennig iawn, y gall pobl ei weld ac ymateb iddo.
Rwy'n amlwg yn cytuno â phwysigrwydd gwyliau cerdded, ac o gofio'r ardaloedd bendigedig hynny yn ein gwlad—llwybr yr arfordir, ond hefyd rhyfeddod Clawdd Offa, sy'n dangos yn glir—
Yr wyf wedi cerdded ar ei hyd.
Rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud
Yn ei gyfanrwydd. [Chwerthin.]
Sy'n dangos yn glir bod gennym y cyfle ar gyfer cerdded pellteroedd hir o'r math a bwysleisiwyd gennych.
Rwyf hefyd yn cytuno â'r sylw o ran gwestai boutique. Mae gennym ni nifer sylweddol o westai ac rydym ni'n parhau i sicrhau bod ein harlwy twristiaeth wastad yn cynnwys—ym mhen eithaf yr arlwy hwnnw, rydym yn ceisio buddsoddi mewn cynyddu a datblygu ansawdd ein gwestai ledled Cymru.
Diolch am y datganiad a'r rhybudd ymlaen llaw hefyd. Mae yna lawer, mae'n rhaid dweud, dwi'n ei groesawu yn y datganiad. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r sylwadau am ba mor bwysig y gall twristiaeth fod i Gymru a bod yna, yn ein harddwch, ein diwylliant, ein bwyd, ein chwaraeon a'n hantur, fodd i ddenu twristiaid mewn ffordd all ddod ag elw mawr i ni yn economaidd. Mi allaf i dynnu sylw at bethau sydd ddim eto wedi cyrraedd eu potensial yn fy etholaeth i—hynny ydy, Mynydd Parys. Mae yna dal gymaint all gael ei wneud i dyfu'r atyniad hwnnw, ac mi fyddwn yn croesawu cefnogaeth o unrhyw fath i hynny ac i ddweud hanes y pontydd mewn amgueddfa arall, er enghraifft.
Ond dwi hefyd yn croesawu'r cyfeiriad yn y datganiad at y peryglon o fynd yn orddibynnol ar dwristiaeth, ac mi liciwn i glywed mwy am gynlluniau'r Gweinidog i geisio rheoli hynny. Hefyd, mae yna berig, wrth gwrs, fod hwn yn gallu bod yn sector lle mae cyflogau yn rhy isel, lle mae yna ormod o sylw ar greu swyddi tymhorol, a dim digon ar helpu pobl i greu bywoliaeth dda a chynaliadwy. Does yna ddim digon o sôn am hynny yn y datganiad hwn, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau gan y Gweinidog ynglŷn â hynny.
Y mater arall y buaswn i'n hoffi gwneud sylw arno fo ydy'r cwestiwn yma o wneud yn fawr o'r brand Cymreig. Mae'r datganiad yn frith o gyfeiriadau at,
'ein brand cryf, unigryw i Gymru', at 'naws am le', sydd wastad i mi yn awgrymu rhywbeth neilltuol Gymreig. Mae yna gyfeiriadau at greu,
'cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol', at greu 'Brand Cymru Arloesol' neu 'Innovative Cymru Brand'. A gaf i awgrymu felly fod angen i'r Llywodraeth fod yn llawer mwy parod i ddod allan o dan gysgod brand Prydain yn hynny o beth? Rydym ni yn gwybod o brofiad, er enghraifft—er bod yna arwyddion fod pethau'n gwella rhywfaint—mor wan mae VisitBritain wedi bod yn rhoi sylw teg i Gymru dan eu brand nhw. Ond fel cenedlaetholwr, dwi'n gallu gweld manteision o weithio ar draws ffiniau Prydain ac Ewrop mewn bob mathau o ffyrdd gwahanol ond, wir, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd gan y Gweinidog y gwnaiff Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy penderfynol i beidio â 'dilute-io' y brand Cymreig, yn enwedig mewn rhai amgylchiadau lle mae yna gryfder go iawn i'r brand hwnnw, drwy ganiatáu ei Brydeinio fo.
Rydym ni'n sôn am fwyd yn y fan hyn. Siawns y dylem ni yn ein sioe frenhinol genedlaethol ein hunain, ein prif sioe amaeth a bwyd, fod yn gallu dathlu ein bwyd ni. Unwaith eto, o dan y brand GREAT wrth giât y sioe eleni, 'For the finest food and drink, choose the UK'. Wel na, siawns na allwn ni ddweud, 'Choose Wales' yn ein sioe ein hunain.
Mae yna lawer wedi tynnu sylw at yr ymgyrch GREAT yn hawlio buddugoliaeth tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 'Rugby is GREAT', medden nhw. Na, dyma lwyfan lle mae bod yn neilltuol Gymreig yn wirioneddol werthfawr. Does dim angen Prydeinio brand Cymru yn y cyd-destun hwnnw. Ac ni wnaf i fyth anghofio y siom o fod ym Mharis yn ystod gemau pêl-droed Ewro 2016, a mynd i'r pentref bendigedig hwnnw ar lan y Seine lle roedd pob gwlad annibynnol bêl-droed Ewropeaidd yno yn gwerthu ei hun, ac yno yn stondin Cymru roedd baner yr undeb o dan label 'Britain is GREAT'. Cymru yn gwerthu'i hun yn y fan honno. Mi oedd o'n torri nghalon i, ac mi oedd o'n gwbl, gwbl ddiangen, ac yn dangos diffyg hyder.
Gallwn ni ddim llawn gredu yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynglŷn â bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus yn ein brand ein hunain, os nad ydy'r Llywodraeth yn gallu mynnu defnyddio'r brand hwnnw a dim ond y brand hwnnw, yn sicr yn y lleoedd lle mae'r brand Cymreig yn gweiddi i gael ei ddefnyddio. Mi groesawn i sicrwydd gan y Llywodraeth fod yna fwy o feiddgarwch yn mynd i fod gan y Llywodraeth yn hynny o beth.
Diolch yn fawr. Mi ddeliaf i yn gyntaf gyda chwestiwn y Grand-Bretagne o'i gyferbynnu â'r Bretagne lai, oherwydd fel y gŵyr pobl sydd yn gwybod eu hanes diwylliannol a hanes gwledydd, nid cyfeirio at ryw arddechogrwydd y mae'r ymadrodd 'Great Britain', ond bod y Brydain honno, Ynys y Cedyrn, a defnyddio term y Mabinogi, yn fwy na Llydaw, sef y Bretagne lai, a fanna mae'r gair yn cychwyn.
Baner yr undeb dwi'n ei gweld.
Wel, fanna mae'r gair yn cychwyn. Nawr te, dwi ddim yn gyfrifol am beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud i hyrwyddo yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'Great Britain', na'u camddealltwriaeth hanesyddol nhw o beth mae'r gair yn ei feddwl. Ond fe ddywedaf i hyn: mae'n amlwg imi fod angen gwell dealltwriaeth o natur y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth aml-genhedlig ym mhob cyhoeddusrwydd sy'n cael ei roi ar gyfer yr uned hon—ynysoedd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn wir, y mae'r deunydd ar gyfer hyn i'w gael yn glir, os ydy rhywun yn deall yr hanes, a chyfleu’r hanes fel gwahoddiad i ddod i wladwriaeth amrywiol ei chenhedloedd ydy’r hyn sydd yn allweddol i ni wrth hyrwyddo. Mae hynny'n cael ei gynnal yn ein cysylltiad ni. Mae gyda ni gysylltiad, wrth gwrs, rhwng Croeso Cymru a VisitBritain, ac mae gennym ni gynrychiolaeth ar dwristiaeth y Deyrnas Unedig, ond ein bwriad ni bob amser ydy ein bod ni’n hyrwyddo Cymru fel gwlad ac fel gwlad unigryw.
Dwi’n gwerthfawrogi hefyd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd peidio â chael gorddibyniaeth ar dwristiaeth yn yr economi. Ond wedi dweud hynna, y peth pwysig yw hyrwyddo gwahanol lefydd fydd yn apelio at wahanol fathau o ymwelwyr, gan gynnwys yr ymwelwyr sy’n dod o’r Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, pobl Cymru sydd am ymweld yn eu gwlad eu hunain. Dwi ddim wedi gallu dyfeisio gair digon da at fy meddwl fy hun i gyfieithu 'staycation', ond mi fuaswn i’n rhoi gwobr fechan, nid anferth, i rywun fuasai’n gallu dyfeisio'r term yna oherwydd mae’r ddau beth yna, fel y dywedwyd yn gynharach—y farchnad ryngwladol a hefyd y bobl sydd yn dewis gwyliau yn eu gwlad eu hunain—yr un mor bwysig i ni. Ac felly, mae hyrwyddo Cymru fel Cymru ac fel cenedl unigryw o fewn y Deyrnas Unedig yn ganolog i’r cyfan mae Croeso Cymru yn ei wneud oherwydd hwnna ydy ein pwynt gwerthu gwerthfawrogaf ni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a gwneud ambell sylw am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r uchelgais sydd yn y datganiad hwnnw a'r awydd i ddewis strategaeth benodol nid yn unig i ddenu mwy o ymwelwyr ond i gynnig profiad gwahanol i ymwelwyr sy'n dod i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig.
Fy mhryder i, wrth edrych drwy'r datganiad, yw ein bod yn sôn yn aml am rai digwyddiadau megis y digwyddiadau pêl-droed hynny, beth bynnag, digwyddiadau untro ydyn nhw ac mae pobl yn dod iddyn nhw unwaith. Ac mae'n ymddangos i mi fod angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr ymwelwyr unigol sy'n dod unwaith a pheidio â dychwelyd. A'r hyn y bydd angen i ni edrych arno yw'r ymwelwyr sy'n dod yn ôl ar ymweliadau undydd, ar ymweliadau penwythnos, dro ar ôl tro oherwydd y profiad a gânt yma. Ac fel arfer mae hwnnw'n seiliedig ar brofiad o weithgaredd megis cerdded neu, yn fy ardal i, beicio mynydd a mathau eraill o brofiadau. Felly, hoffwn weld, yn y ddogfen derfynol, fwy o uchelgais i gael y rheini i ddychwelyd drwy'r amser, dro ar ôl tro ar ôl tro, a'n bod yn parhau i gynnig profiad iddyn nhw, nid yr un profiad yn unig, ond profiad amrywiol felly pan ddônt yn ôl, mae ganddyn nhw rywbeth gwahanol mewn gwirionedd.
Ac i sicrhau hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff eraill weithio gyda'i gilydd mewn ffordd strategol er mwyn sicrhau pan fydd rhywun yn dod, nad yw'r profiad a gaiff mewn un ardal yn cael ei ailadrodd yn rhywle arall. Felly, bod rhywbeth gwahanol yn rhywle arall; nad yr un peth yn union mohono mewn lleoliad arall. Ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, gan gymryd beicio mynydd fel enghraifft, nad yw'r hyn sydd yng Nghwm Afan o reidrwydd yr un peth ag sydd ym Merthyr neu'r un peth ag sydd yn rhywle arall. Bod rhywbeth gwahanol; bod rheswm arall i fod yno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig ac mae angen i ni sicrhau bod y cynllun yn tynnu sylw at hynny.
A allwch chi hefyd sicrhau ei fod yn cysylltu â strategaethau economaidd awdurdodau lleol a rhanbarthau a sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn rhoi blaenoriaeth i dwristiaeth? Oherwydd cafodd fy awdurdod lleol fy hun, ar un adeg, wared ar ei swyddogion twristiaeth, maen nhw wedi eu cyflogi eto nawr, ond mae'r nifer yn fychan. Mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn ystyried twristiaeth yn fater difrifol o ran adfywio eu cymunedau'n economaidd.
Y digwyddiadau, fel y dywedaf, mae angen inni ddenu'r rhai sy'n dychwelyd. Digwyddiadau ynghlwm â gweithgareddau yw'r rhain yn y bôn. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano mewn gwirionedd yn ddigwyddiadau ac nid yn weithgareddau. Mae'r wifren wib yn weithgaredd, a phethau eraill—mae syrffio yn weithgaredd. Dyma beth sy'n dod â phobl yma atom ni. Nawr, p'un a yw'n dda ar gyfer gwyliau ar draeth Dinbych-y-pysgod neu ar gyfer cerdded y gwahanol rannau o Gymru, dyna'r hyn y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Sut ydym ni'n canolbwyntio sylw ein cynulleidfa ar y pethau hynny? Felly, pan soniwch chi am eich cynllun a phan siaradwch am eich dull digidol o fynd ati gyda'r cyfryngau cymdeithasol, a allwch chi wneud yn siŵr eich bod yn mynd i'r afael â'r agweddau hynny, a lle y gall y gwahanol weithgareddau hynny ddigwydd, fel y gallwn ni ddenu pobl mewn gwahanol rannau o Gymru, yn dibynnu ar beth yw eu diddordebau a'u gweithgareddau?
Nawr, y pedwar maes blaenoriaeth—cynnyrch a lleoedd gwych; profiadau o ansawdd; brand arloesol; sector bywiog—dyma'r hyn sydd arnom ni ei eisiau. Rwy'n sylweddoli hynny. A'r profiad o ansawdd y gwnaethoch chi ei archwilio a'i amlygu, mae'r angen am doiledau, mewn gwirionedd, yn hynod bwysig, oherwydd os ewch chi drwy lawer o drefi, ceisiwch ddod o hyd i rai toiledau cyhoeddus weithiau ac ni allwch chi ddod o hyd iddyn nhw. Ond mae ar ymwelwyr angen hynny, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae'r dafarn leol, dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae'r McDonald's i fynd a defnyddio'r cyfleusterau, felly mae'n bwysig bod gennym ni'r rheini nid yn unig yno, ond bod arwyddion yn eu dynodi hefyd, fel bod pobl yn gwybod ble i ddod o hyd iddyn nhw. Felly, a allwch chi wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar y materion hynny'n ofalus iawn?
A allwch chi hefyd sicrhau ein bod yn edrych ar agweddau ar ein cymunedau? Yn fy un i, boed yn Barc Margam, Cwm Afan, neu'n draeth Aberafan—gyda llaw, os nad ydych chi wedi bod yno erioed, mae'n draeth gwych, yn un o'r gorau yng Nghymru; ewch i gael golwg arno—gellir cysylltu'r gwahanol fannau. A hefyd y posibiliadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallant ei gynnig yn y dyfodol hefyd. Tynnaf sylw at dwnnel y Rhondda fel enghraifft o'r modd y gellir cysylltu hwnnw â llwybrau cerdded, llwybrau beicio'r Cwm a'r cyfleoedd ar gyfer adfywio—mae'r rhain yn bethau y mae angen inni edrych arnyn nhw hefyd. Dyna pam mae angen i ni fynd i'r afael â hyn a'i gyfuno â chynllun economaidd i sicrhau bod yr economi a thwristiaeth yn cydweithio i fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny.
Diolch yn fawr iawn, David. Pan ddaethom ni i edrych ar ymagwedd ranbarthol y Llywodraeth ac edrych arni yng nghyswllt anghenion twristiaeth, roeddwn yn awyddus iawn, fel rhywun a oedd wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers dros 20 mlynedd ac sy'n dal i gynrychioli rhan bwysig iawn ohono ym Meirionnydd—. Canolbarth Cymru, gyda llaw, yw Meirionnydd, Ceredigion a Phowys, rhag ofn, er mwyn osgoi amheuaeth. Ac roeddwn i wrth fy modd yr wythnos diwethaf gyda'r nifer a oedd yn seremoni wobrwyo gyntaf Twristiaeth Canolbarth Cymru, ac rwy'n gobeithio ymuno â Go North Wales, fel y maen nhw, unwaith eto, yn ei ddisgrifio yn y fan yna, ar gyfer seremoni arall cyn bo hir. Soniais am hynny oherwydd mae'n enghraifft o hynodrwydd y cynnig yn y gwahanol rannau o Gymru. Rwyf yn gwerthfawrogi'r hynodrwydd sydd gennym ni i'w gynnig yn Aberafan, ym mharc Margam yn wir, neu yn y rhannau gwahanol iawn hynny o Gymru sydd yn dal i fod ag adeiladau traddodiadol penodol iawn a thrawiadol iawn, fel abatai ac eglwysi mawr ac ati, sydd, unwaith eto, yn rhan o gynnig twristiaeth ysbrydol yr wyf, yn amlwg, yn awyddus i'w hyrwyddo. Felly, mae profiad yr ymwelydd ym mhobman yn bwysig.
Ond, rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr fod yn rhaid i feithrin pobl i ddychwelyd i'r ardal fod yn rhan allweddol o'n strategaeth—yn bobl sy'n dymuno dychwelyd eto am brofiad gwahanol o feicio mynydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Roeddwn mewn cyfarfod sefydlu yn Nant yr Arian dros y penwythnos—ardal dwristiaeth arall sy'n elwa ar lwybr beicio mynydd newydd. Y gweithgareddau hyn, wrth gwrs, nid beicio mynydd yn unig mohono, ond y cerdded hefyd, y canolfannau sy'n cael eu sefydlu yno sy'n gwerthu cynnyrch lleol. Rwy'n dal i edrych ymlaen at flasu potel fach iawn, yn amlwg, o fedd lleol, a brynais yn ystod ymweliad diweddar. Felly, mae ynglŷn â'r pethau hyn i gyd gyda'i gilydd—[Torri ar draws.] Na, rwy'n aros i'w yfed, dywedais; nid yw wedi diflannu eto. Felly, mae'r profiad amrywiol yn beth allweddol.
Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig arall yw fy mod yn deall y gwahaniaeth rhwng digwyddiad a gweithgaredd, ac rwy'n gwybod nad yw'n ymwneud â hyrwyddo digwyddiadau i wylwyr; mae hefyd yn ymwneud â chymryd rhan mewn digwyddiadau, ac mae'r pwyslais hwnnw yr un mor bwysig mewn strategaeth dwristiaeth eang a deniadol.
Mae'n rhaid inni gydnabod y bu rhai llwyddiannau rhyfeddol i'w dathlu o ran hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd y dull thematig yn ysbrydoledig ac yn ysbrydoli ac, rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno, roedd pob un, yn ei ffordd ei hun, yn rhoi hwb sylweddol i economi twristiaeth Cymru. Mae gan yr holl gynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac yn wir y rhai sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, rinweddau a dylent allu adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol. Roeddech yn gywir i nodi, Dirprwy Weinidog, fod gan Gymru lawer iawn i'w gynnig—cefn gwlad godidog, arfordir o harddwch digyffelyb, yn ogystal â'n hanes, yn chwedlonol ac yn ddiwydiannol. Os ydym yn sôn am frandiau, yn ein baner mae'n debyg mae gennym ni un o'r brandiau mwyaf trawiadol ar wyneb y ddaear. Pan soniodd Rhun am fusnes rygbi, mae gweld ein baner yn yr holl gemau rygbi rhyngwladol yn golygu, ymhell ar ôl i groes San Siôr, croes Sant Andreas yr Alban neu faner drilliw Iwerddon gael eu hanghofio, y bydd baner Cymru yn dal ym meddyliau'r holl bobl hynny o bedwar ban byd sydd wedi bod yn gwylio'r gemau rygbi. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r faner honno ac yn ei rhoi ar bob darn o bropaganda twristiaid neu wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi.
Rwy'n wirioneddol gredu ei bod hi'n bosib i'r cynlluniau a amlinellir yn eich datganiad ryddhau gwir botensial yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig a hefyd ymdrin yn synhwyrol â'r posibilrwydd o or-ecsbloetio, y gwelir arwyddion ohono efallai ar ein mynydd uchaf, yr Wyddfa, a'i chyffiniau. Ond, Dirprwy Weinidog, gair o rybudd: mae symudiadau ar droed yng Nghymru a allai gael effaith andwyol iawn ar yr holl ymdrechion gwych hyn. Cyfeiriaf yma at gyfyngiadau a gynlluniwyd a chyfyngiadau cyflymder presennol ar gyfrannau enfawr o'n seilwaith ffyrdd. Yn fuan, gallem fod y wlad gyntaf yn Ewrop gyfan, efallai'r byd, i gael terfyn cyflymder o 50 mya ar ein holl rwydwaith traffyrdd, er lleied y gyfran fach sydd gennym ni. Credaf y bydd hyn, ynghyd â therfyn o 20 mya ar gyfrannau enfawr o'n rhwydwaith trefol, yn gwneud Cymru'n llai deniadol na gwledydd eraill sydd â threfniadau cerbydau llai cyfyngol. Oni fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai'r peth olaf y dymunwn ei bortreadu i'r byd y tu allan yw'r slogan, ac rwy'n dweud hyn o ddifrif, 'Welcome to Wales / Croeso i Gymru, ond gadewch eich car wrth y ffin'?
Roeddwn yn credu ein bod yn dod ymlaen yn dda iawn, David, tan ddiwedd eich cyfraniad, felly dof at hynny'n fyr. Diolch am eich croeso i'r dull gweithredu thematig a'r ddealltwriaeth o hynny. Rwy'n talu teyrnged yma i'r bobl feddylgar sy'n breuddwydio am y dulliau hyn. Pan welais y gair 'epig' ar grib Pen y Gwryd am y tro cyntaf meddyliais, 'Mae hyn yn gam yn rhy bell', yn rhannol oherwydd ei fod yn yr hyn a arferai fod yn fy etholaeth i, ac rwy'n dal i fyw yno, ac roeddwn yn meddwl, 'Wel, mae hyn dros ben llestri.' Ond y gwir amdani yw, er mwyn gallu cyflwyno cefn gwlad mewn ffordd ddramatig, mae angen rhywfaint o or-ddweud arnoch chi, a dyma ble y credaf ei bod hi'n bosib denu pobl i fynd i ardaloedd nad oedden nhw wedi bwriadu mynd iddyn nhw, neu yr hoffen nhw fynd iddyn nhw hefyd, ac mae hynny'n rhan o dynnu'r pwysau oddi ar Eryri, neu oddi ar Ben y Fan, y gwelaf yn aml iawn, wrth gwrs, eu bod o dan bwysau.
Diolch am y deyrnged i'r Ddraig Goch. Rwyf hefyd yn credu ei bod hi'n faner go dda, ond rwyf hefyd yn eithaf hoff o Groes Dewi Sant, os ydych chi eisiau ychydig o amrywiad.
Dof yn awr at eich pwynt olaf. Nid wyf yn gyfrifol am bolisi trafnidiaeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol cael system draffordd ddiogel, a system ffyrdd ddiogel, ac y gall hynny fod yn atyniad i dwristiaid ynddo'i hun. Ond yr hyn yr wyf eisiau ei weld hefyd yw system drafnidiaeth integredig lawer mwy effeithiol yng Nghymru a ledled Cymru. Rwyf wedi fy mendithio lle rwy'n byw diolch i drenau y mae modd teithio arnyn nhw heb orfod newid—. Gallaf eistedd ar drên ym Mhwllheli a gallaf fod yn Birmingham International cyn i mi orffen fy mrechdanau. Mae hynny'n bosib. Yn yr un modd, yn amlwg, ledled y de, ond hefyd ar draws y gogledd ac i mewn i faes awyr Manceinion—mae gennym ni gysylltiadau gwirioneddol effeithiol. A phan fydd datblygiad pellach ar y Great Western, bydd cysylltiad newydd yn dod tua'r gorllewin o Heathrow, a drafodais pan oeddwn yno ynglŷn â digwyddiad marchnata yr wythnos diwethaf. Felly, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar Gymru fel gwlad sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus fwy effeithiol pan fydd gennym ni hynny.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'r economi twristiaeth ac ymwelwyr yn sicr wedi bod yn rhaglen greadigol ac yn llwyddiant ysgubol hyd yma, ond mae'n fwy na thwristiaeth, fel y dywedwyd eisoes. Gan greu brand unigryw, mae Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r llwyddiant hwn, ond rhaid iddi hefyd fod yn gyfrwng i ryngweithredu'n gynaliadwy ac yn strategol gyda Cymru Greadigol. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd iawn â thirweddau godidog Cymru, sy'n denu cannoedd o filoedd o dwristiaid bob blwyddyn, ac rydym ni'n dweud hynny'n ystrydebol, ond mae hynny'n hynod o bwysig. Ac er bod rhaid i'n harfordir, ein mynyddoedd a'n dyffrynnoedd eiconig wrth gwrs fod yn gonglfaen i'n harlwy twristiaeth, credaf yn gryf fod yn rhaid i'n harlwy twristiaeth fod yn arlwy diwylliannol cryf hefyd. Yn benodol, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yn rhagor y gellir ei wneud i ddefnyddio enw da Cymru fel gwlad y gân fel ffordd o ddenu ymwelwyr.
Mae gennym ni draddodiad cerddorol balch iawn, diolch i'n corau a'n bandiau pres, eisteddfodau a cherddorfeydd, ond mae gennym ni hefyd sîn bop ryngwladol lewyrchus a llwyddiannus yn ein dwy iaith, a mwy, sydd yn parhau i roi cerddoriaeth Cymru a doniau Cymru ar y map—llawer gormod i mi restru heddiw. Nid enw da cerddorol Ewropeaidd yn unig sydd gennym ni, ond un rhyngwladol hefyd. Ac rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi gwneud llawer iawn i ddathlu ein diwylliant o ran denu ymwelwyr, ond credaf y dylai cerddoriaeth fod wrth galon ein harlwy twristiaeth ryngwladol. A gallwn fod yn gwneud mwy i ddenu gwyliau cerddoriaeth ochr yn ochr â'n gwyliau rhyngwladol llenyddol. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom a wyliodd ein buddugoliaeth yn rownd yr wyth olaf dros Ffrainc ddydd Sul diwethaf wedi sylwi ar y mascot ifanc o Japan yn canu gyda'n hanthem, ac os oes arnom ni angen unrhyw brawf o apêl ryngwladol gerddorol Cymru, credaf fod hynny'n enghraifft wych iawn o hynny.
Felly, Gweinidog, beth yn rhagor allwn ni ei wneud i wneud Cymru gwlad y gân yn flaenoriaeth i'n heconomi ymwelwyr, boed hynny drwy ddathlu ein cantorion byd-enwog, ein bandiau, neu gerddorfeydd, neu ar lawr gwlad yn cefnogi lleoliadau a pherfformwyr, fel bod mwy o'n hymwelwyr yn gallu clywed cerddoriaeth Gymreig pan fônt yma, gan gefnogi ein heconomi ddiwylliannol yn y broses, ynghyd â gweithio'n gydlynol gyda strategaeth gerddoriaeth genedlaethol fywiog—cynllun i Gymru ar gyfer creu Cymru gynaliadwy a chreadigol a rhyngwladol y dyfodol?
Wel, diolch yn fawr am hwnna, Rhianon, ac rwy'n gwerthfawrogi eich angerdd dros osod cerddoriaeth Cymru wrth galon atyniad y wlad. Ac, ar un ystyr, rydych chi wedi rhagweld datganiad yn y dyfodol rwy'n gobeithio ei wneud ar sefydlu Cymru Greadigol. Gan fy mod yn credu, pan fydd Cymru Greadigol yn ategu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ategu'r cyfraniad arbennig a wneir i fywyd Cymru drwy'r gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi ar hyn o bryd i'r diwydiant ffilm a theledu, a'r diwydiant digidol yn gyffredinol—mae hynny'n ganolbwynt i Cymru Greadigol—gallwn weld y gwahanol sefydliadau cenedlaethol hyn yn gweithio'n agosach fyth gyda'i gilydd.
Rwy'n edrych ar ffordd o sefydlu Cymru Greadigol ar fodel tebyg i Cadw. Felly, mae hynny'n ddechrau da. Rydym yn cymryd ffordd o weithio sydd, yn fy marn i, yn gweithio yng nghyd-destun y dreftadaeth adeiledig, gyda bwrdd cymharol annibynnol, ond o fewn Llywodraeth Cymru, a dyna'r model a fydd gennym ni ar gyfer Cymru Greadigol. Mae angen dathlu creadigrwydd mewn ffordd sy'n cydnabod sgiliau gweithwyr creadigol, ond mae'n rhaid ei ddathlu hefyd mewn ffordd sy'n ceisio trin creadigrwydd fel lles cyhoeddus a lles economaidd. A dyna pam ei bod hi'n bwysig bod pwyslais Cymru Greadigol yn dilyn y math o bwyslais yr ydym ni wedi'i ddefnyddio ar gyfer Croeso Cymru. Mewn geiriau eraill, mae'n rhaid iddo fod yn sefydliad sydd â chymhelliant masnachol, yn ogystal â chymhelliant mewn dirnadaeth fwy traddodiadol o ddiwylliant. Gobeithio y bydd hynny'n rhoi sicrwydd rhannol i chi cyn y byddwn yn parhau â thrafodaeth bellach ar yr agwedd honno.
Ond mae'r rhain i gyd—nid sefydliadau ydyn nhw, maen nhw'n gyrff galluogi. Mae'r holl gyrff galluogi hyn yn rhan o'r hyn sy'n creu atyniad y wlad. Dyna pam mae gwaith rwy'n aros amdano ar hyn o bryd, lle bu Chwaraeon Cymru a hybu iechyd Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru—mae hwn yn fodel a fydd, gobeithio, yn datblygu ar gyfer y dyfodol, fel nad ydym ni'n gweithio ar sail cyrff Llywodraeth nad ydynt yn edrych ar y Llywodraeth gyfan o ran gweithredu.
Nid oes gennym amser ar ôl ar gyfer y datganiad hwn, ond yn fyr iawn i orffen, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd, ac—
diolch am y datganiad, Gweinidog.
Rwy'n dal i bendroni ynghylch eich sylw ynglŷn â gwyliau gartref yng Nghymru yn gynharach, gan eich bod wedi rhoi cystadleuaeth. Y gorau y gallwn i ei gynnig oedd 'Cymrucation', ond mae hynny'n uniad rhyfedd, onid yw e, o ddwy iaith, ac mae'n debyg nad yw'n gweithio? Beth bynnag, a gaf i ofyn i chi am eich datganiad a dau fater yn fy ardal yr ydych yn gwybod yn iawn amdanyn nhw gan fy mod wedi eu crybwyll droeon: Gŵyl Fwyd y Fenni a hefyd castell Rhaglan a materion ynghylch mynediad i henebion Cymru fel yr un yna? Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am yr angen i gael neges ar gyfer Cymru gyfan, os hoffech chi, ar gyfer diwydiant twristiaeth Cymru. Ond, wrth gwrs, mae hynny'n seiliedig ar ardaloedd lleol, economïau lleol, twristiaeth leol. Felly, sut ydych chi'n ymgorffori materion fel yr ŵyl fwyd, materion fel castell Rhaglan a henebion hanesyddol eraill ledled Cymru, ac ardaloedd lleol i'r neges gyffredinol honno ar gyfer Cymru? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd neges gyffredinol Prydain yn gweithio dim ond os bydd Cymru a'r Alban yn chwarae eu rhan. Felly, yng Nghymru, sut mae hynny'n dibynnu ar yr ardaloedd lleol yn chwarae eu rhan?
Diolch yn fawr iawn am hynny, Nick. Mae castell Rhaglan, fel y gwyddoch, yn un o'm hoff gestyll. Rwy'n credu ei fod mewn lleoliad trawiadol iawn, ac mae ei bensaernïaeth yn drawiadol iawn. Credaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud ym mhob un o'r achosion hyn, yn gyntaf oll, yw gwella'r mynediad i'r lleoliadau hyn, yn enwedig, fel yn achos y castell hwnnw, ei fod yn agos at briffordd gyflym iawn, lle mae pobl yn gyrru heibio ac yn gallu gweld y castell ond heb unrhyw syniad, a dweud y gwir—mae yna arwydd Cadw, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw syniad sut i fynd i'r safle. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod gennym ni strategaeth drafnidiaeth a mynediad fwy integredig i'n holl gestyll.
Yn sicr rwy'n cytuno hefyd ei bod hi'n hanfodol mai amrywiaeth y wlad sy'n denu pobl, ond wedyn mae gennych y fraint eich hun o gynrychioli un o'r etholaethau gwledig mwyaf deniadol yng Nghymru. Mae pobl yn anghofio bod sir Fynwy bron mor wledig â'r math o ardal yr wyf i'n ei chynrychioli.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.