1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Diolch. Weinidog, mawr oedd yr angen am y £2 filiwn a gyhoeddodd eich Llywodraeth yn gynharach eleni ar gyfer mentrau iechyd meddwl mewn prifysgolion, a mawr oedd y croeso iddo. Ac fe ddywedoch wrthyf ym mis Gorffennaf mai bwriad y cyllid hwn oedd datblygu dull ysgol gyfan a fyddai'n cefnogi staff yn ogystal â myfyrwyr. Ond ar yr un pryd, credaf mai £175,000 yn unig a roesoch i ColegauCymru at yr un diben, o ran rhoi hyn ar waith mewn colegau addysg bellach, er bod mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach nag mewn addysg uwch yng Nghymru. Sut rydych yn sicrhau y gall myfyrwyr sy'n ymgymryd ag addysg bellach gael yr un lefel o gefnogaeth mewn perthynas â'r fenter iechyd meddwl benodol hon?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle—yr hyn rydym yn ceisio'i ddatblygu yn Llywodraeth Cymru yw dull system gyfan o ymdrin â lles ac iechyd meddwl. Yn yr atebion i'r cwestiynau cyntaf, clywsoch am y gwaith a wnawn mewn ysgolion. Ond yn amlwg, mae angen i ni barhau â'r gefnogaeth honno wrth i unigolion gyflawni eu taith drwy'r system addysg. Er y cyfyngiadau ar y gyllideb, rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau dyraniad, i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i ColegauCymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag aelodau o ColegauCymru i drafod yr angen am gefnogaeth barhaus i fyfyrwyr addysg bellach mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac mae'r trafodaethau hynny hefyd yn mynd rhagddynt yn y Llywodraeth.
Iawn, a diolch am y diweddariad hwnnw. Pan fydd gennych fwy o wybodaeth, byddai'n ddefnyddiol ei rhannu, oherwydd wrth gwrs, gwn fod myfyrwyr addysg bellach a'u staff yn wynebu'r un heriau â myfyrwyr a staff addysg uwch.
Yn amlwg, un o'r rhesymau pam fod prifysgolion wedi ymgeisio neu ymgyrchu am arian ar gyfer mentrau iechyd meddwl oedd y gwaith a wnaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn rhan o'r broses honno, gan weithio gyda'r Llywodraeth. A chredaf fod undebau myfyrwyr yn rhan annatod o fywyd prifysgol. Rwy'n gyn-swyddog sabothol fy hun ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly rwy'n gyfarwydd â'r polisïau penodol hynny ac wedi eu gweld a'u rhoi ar waith. Ond mae llawer o fyfyrwyr addysg bellach yn dal i deimlo nad oes llais ganddynt fel myfyrwyr, neu nad yw llais y myfyriwr mor hygyrch iddynt ag i'w cyfoedion mewn addysg uwch. Ac er y byddwn yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16—rydym yn cytuno ar hyn—bydd angen iddynt gael mynediad at wasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn union yn yr un modd â'r rheini mewn addysg uwch. Felly, a allwch ddweud mwy wrthyf ynglŷn â'r hyn y gallech ei wneud o bosibl i sicrhau parch mwy cydradd lle gellir gwella llais y myfyriwr mewn sefydliadau addysg bellach?
Mae llais y myfyriwr yn bwysig ar bob lefel o addysg, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw cynyddu'r gallu i fyfyrwyr lywio eu sefydliadau, boed hynny mewn ysgolion, prifysgolion neu addysg bellach. Nid wyf mor besimistaidd â'r Aelod ynghylch cyfraniad aelodau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i'n haddysg bellach. Yn ddiweddar, roeddwn ar gampws y Graig yng Ngholeg Sir Gâr yn Llanelli, lle cawsom gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag aelodau undeb y myfyrwyr yno, sy'n gweithio mewn partneriaeth ag uwch dîm rheoli'r coleg hwnnw i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder i'r corff myfyrwyr yn y coleg hwnnw, a lle, er enghraifft, y bu ymgyrch effeithiol iawn ar iechyd meddwl a lles ac ymgyrch effeithiol iawn ar dlodi mislif ac urddas mislif ar holl gampysau'r coleg hwnnw—. Yn amlwg, byddwn yn awyddus i fanteisio ar gyfle'r Bil addysg a hyfforddiant ôl-orfodol i atgyfnerthu pwysigrwydd llais y myfyriwr ym mhob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.
Diolch. Er eglurder, nid oeddwn yn dweud nad oeddent yn gwneud eu gwaith yn effeithiol; roeddwn yn dweud eu bod wedi cysylltu â mi gan ddweud, 'Edrychwch, rydym yn gwybod ein bod yn gwneud gwaith ym maes addysg bellach, ond rydym yn ei chael hi'n anodd gan fod hwnnw mor dameidiog', ac felly mae a wnelo hyn â sut y gellir eu helpu i fod yn fwy effeithiol pan fyddant yn mynd i'r sefydliadau hynny, ac nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn gwneud ymdrech lle mae'n rhaid iddynt gael mynediad at reolwyr cyffredinol blaengar sy'n awyddus i geisio rhoi cymorth iddynt.
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â mater arall mewn perthynas â—. Codais hiliaeth sefydliadol mewn addysg uwch gyda chi yn ôl ym mis Gorffennaf, a chyfarfûm â Phrifysgol Caerdydd yn ddiweddar—yr wythnos hon—a bu'n drafodaeth wirioneddol adeiladol, ynglŷn â'ch sicrwydd i mi y byddai cynlluniau cydraddoldeb strategol yn nodi sut y byddent yn gallu sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig ac y byddai'r cynlluniau hyn yn gwneud newidiadau o ran sut y gall pobl fynd i'r afael ag achosion unigol o fwlio neu aflonyddu hiliol yn y sefydliadau hynny.
Heddiw, efallai eich bod wedi gweld bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi datgelu bod 13 y cant o'r myfyrwyr a holwyd wedi cael profiad o aflonyddu hiliol, gan godi i 24 y cant—bron i chwarter—y myfyrwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Ond yn aml, nid yw prifysgolion yn ymwybodol o wir faint y broblem ar y campysau hyn, a cheir anghysonderau enfawr rhwng nifer y myfyrwyr sy'n cael profiad o ddigwyddiadau, yn ôl yr adroddiad, a'r nifer a gofnodir gan y prifysgolion. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi heddiw y bydd y cynlluniau strategol hynny y mae disgwyl i'r prifysgolion eu llunio yn newid hyn? Beth rydych yn ei wneud i weithio gyda'r sector i sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed a'u bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt mewn unrhyw strwythur? Efallai na fyddant yn cyrraedd pwynt lle byddant yn rhoi gwybod am y digwyddiad yn ffurfiol, ond maent yn awyddus i gyrraedd pwynt lle cânt eu credu a'u clywed a lle gallant fod yn rhan o broses adeiladol ar gyfer dyfodol y system brifysgolion.
Yn wir, rwyf wedi gweld yr adroddiad. Mae'n waith pwysig, er ei fod yn ddeunydd darllen digalon iawn. Unwaith eto, mae'n rhaid inni atgoffa'n hunain nad yw Cymru yn ddiogel rhag problemau hiliaeth. Yn ogystal â darllen yr adroddiad, cyfarfûm â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar, cyn iddo gael ei gyhoeddi, i gael trafodaeth gynnar gyda hwy ynglŷn â'u disgwyliadau o ran beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Y bore yma, roeddwn ym Mhrifysgol Caerdydd, a manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr CCAUC a'r rhan fwyaf o is-gangellorion Cymru, a oedd hefyd yn yr un cyfarfod i drafod yr adroddiad hwn, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, ac yn wir i'r holl Aelodau yma, y bydd Prifysgolion Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a minnau yn awyddus i ystyried argymhellion yr adroddiad hwn yn ofalus iawn ac eisiau gweithredu arnynt. Un ffordd y gallaf wneud hynny yw cyfeirio yn fy llythyr cylch gwaith nesaf at fy nisgwyliadau y bydd y prifysgolion a CCAUC yn mynd i'r afael â'r pwynt hwn, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, y llynedd, honnodd panel annibynnol na fyddai mater llwyth gwaith athrawon ond yn cael sylw drwy edrych ar strwythur ehangach addysg ysgol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw'r ffordd y mae ein hysgolion yn gweithio—eu harferion, eu patrymau a'u systemau—wedi newid o gwbl, fwy neu lai, ers dechrau rhoi addysg ysgol i bob plentyn yn oes Fictoria. Weinidog, a ydych wedi gweld yr adroddiad hwn, a beth yw eich ymateb i'w alwad i sefydlu comisiwn i ystyried a fyddai newid y system o ran dyddiau, tymhorau a gwyliau ysgolion yn arwain at newidiadau a fyddai'n lleddfu'r pwysau ar staff addysgu?
Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, y byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Aelod ddal i fyny. Sefydlwyd y comisiwn hwnnw sawl mis yn ôl o dan gadeiryddiaeth Mick Waters. Mae'n cynnwys penaethiaid o Gymru a llywodraethwyr ysgolion o Gymru yn ogystal ag arbenigwyr annibynnol o'r tu allan i system addysg Cymru.
Dywed y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fod galw nad yw'n cael ei ddiwallu gan athrawon uwchradd neu athrawon ysgolion uwchradd sy'n awyddus i gwtogi neu newid eu horiau. Maent yn amcangyfrif yr hoffai un o bob chwe athro gwtogi eu horiau ac maent yn annog arweinwyr ysgolion uwchradd i wneud mwy i ddarparu ar gyfer athrawon sy'n awyddus i weithio'n rhan-amser neu'n hyblyg. Weinidog, a gaf fi ofyn pa sylwadau rydych wedi'u cael ar y mater hwn a pha ganllawiau a roesoch i ysgolion mewn perthynas â gweithio'n rhan-amser ac yn hyblyg, gan fod diffyg y math hwnnw o weithio yn ffactor pwysig ym mhenderfyniad rhai athrawon i adael y proffesiwn yng Nghymru?
Nid wyf wedi cael unrhyw sylwadau gan undebau'r athrawon am y manylion penodol y mae'r Aelod yn eu crybwyll ynghylch gweithio'n rhan-amser ac yn hyblyg, er bod materion llwyth gwaith yn gyffredinol yn eitem sefydlog ar yr agenda bob tro y byddaf yn cyfarfod ag undebau'r athrawon. Mae'r hyblygrwydd a nodwyd gan yr Aelod yn wir yn un o'r pethau y mae'r comisiwn i ailfeddwl y diwrnod ysgol yn eu hystyried ac i weld a oes awydd gwirioneddol am newid yn hyn o beth.
Parhewch, Mohammad Asghar.
Diolch. Mae data o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol yn dangos bod toriad o 7.5 y cant wedi bod i staff cymorth ysgolion cynradd ers 2014 a 2015. Mae dros 1,000 yn llai o gynorthwywyr addysgu safonol a 300 yn llai o staff cymorth anghenion arbennig yn gweithio yn ysgolion cynradd Cymru o gymharu â phedair blynedd yn ôl.
Yr wythnos diwethaf, adroddodd Wales Online fod y penaethiaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o arian yn uniongyrchol i ysgolion, gan fod y toriadau wedi cyrraedd lefelau anghynaliadwy ac mae ysgolion ar ben eu tennyn. Weinidog, pryd y byddwch yn gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllid ysgolion yng Nghymru? Fel rwyf newydd ei ddarllen y bore yma, mae'r toriadau cyllid mewn termau real rhwng 2010 a 2018 yn ostyngiad o bron i 8 y cant mewn cyllid i ysgolion cynradd, ac yn sicr, nid yw hynny'n rhoi'r gwasanaeth i ysgolion a'r athrawon ar yr un pryd.
Byddai fy ngallu i ymateb yn gadarnhaol i'r materion hynny, wrth gwrs, yn cael cryn dipyn o gymorth pe bai'r cyni sy'n tarddu o blaid yr Aelod ei hun a'u Llywodraeth yn San Steffan yn dod i ben. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cael dadl estynedig ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch mater cyllid ysgolion. Yn wyneb y cyfyngiadau ar yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, rwy'n benderfynol o wneud popeth a allaf i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen.