1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith cysylltedd digidol ar gyfer cymoedd de Cymru? OAQ54618
Gwnaf. Mae cymoedd de Cymru wedi cael buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith cysylltedd digidol, gyda chynllun Cyflymu Cymru yn buddsoddi dros £66.9 miliwn i ddarparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i dros 244,600 o adeiladau.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Gwn, wrth gwrs, fod hwn yn faes gwaith sydd heb ei ddatganoli i raddau helaeth, ond rwy'n cydnabod, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddarparu buddsoddiad digonol lle na fydd y farchnad fasnachol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i’n cymunedau a’n busnesau, fod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy ac wedi buddsoddi mewn seilwaith band eang o ansawdd uchel, gan wella cysylltedd digidol drwy raglen Cyflymu Cymru, fel y nodoch chi eisoes—rhywbeth rwy'n ymwybodol ei fod yn cael effaith gadarnhaol iawn yn fy etholaeth. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog: pa waith rydych yn ei wneud gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddilyn eich arweiniad ac i ddarparu cyllid ar gyfer seilwaith digidol o ansawdd uchel a all roi rhagor o gefnogaeth i ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni wella eu cynhyrchiant a'u cystadleurwydd fel ardal i fuddsoddi ynddi?
Diolch am eich cwestiwn. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle fod hwn yn faes heb ei ddatganoli, ond oherwydd methiant y farchnad ac anweithgarwch Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn yma i ddargyfeirio adnoddau sylweddol oddi wrth wasanaethau datganoledig i fynd i’r afael â’r methiant amlwg hwn gan Lywodraeth y DU i weithredu. Rydym wedi cyflawni canlyniadau sylweddol: band eang cyflym iawn mewn 95 y cant o safleoedd yng Nghymru. Nawr, rydym yn credu o ddifrif fod mynediad cyflym at y rhyngrwyd bellach yn wasanaeth modern hanfodol. Mae gan Lywodraeth y DU rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar gyfer gwasanaethau post, felly, os ydych yn postio llythyr at drac fferm, anghysbell, mae'n dal i fod—er efallai nad yw'n broffidiol, mae gan y Post Brenhinol rwymedigaeth i ddosbarthu'r llythyr hwnnw. Credwn y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol debyg i ddarparwyr telathrebu ddarparu band eang modern, cyflym.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig yr hyn y mae'n ei alw'n rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ac mae hynny mewn enw yn unig, mae arnaf ofn. Ceir hawl i ofyn am hyd at 10 Mbps, lle nad yw'r gost adeiladu yn fwy na £3,400, o fis Mawrth 2020. Felly, bydd hyn yn dal i adael rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru heb wasanaeth band eang sy'n gweithio. Felly yn amlwg, nid yw hynny'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud, ac mae gennym ddatganiad a dadl cyn bo hir ar beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd yr ardaloedd nad ydym wedi eu cyrraedd eto.
Ceir rhywfaint o gynnydd o ran technolegau eraill, yn enwedig 4G a 5G, sydd hefyd yn gallu darparu gwasanaethau rhyngrwyd. Cyfarfûm â'r cwmnïau telathrebu yn ddiweddar, ac rwy'n falch iawn o ddweud eu bod wedi llunio eu cynllun eu hunain i sicrhau newid sylweddol o ran darpariaeth 4G yng Nghymru erbyn 2025, er mwyn cynyddu'r cwmpas o 58 y cant i 86 y cant, heb ymyrraeth gan Ofcom. Rhaid i mi ddweud bod hynny'n galonogol iawn, ac rydym yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i helpu i gynyddu hynny y tu hwnt i 86 y cant os oes modd. Rydym yn bryderus na fydd hyn yn cael ei gyflawni tan 2025, sy'n dal i adael bwlch hir iawn.
Rydym hefyd yn gweithio fel rhan o'r broses o gynnig am dreialon 5G mewn ardaloedd gwledig. Mae Simon Gibson yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar 5G ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o hynny, mae wedi cyflwyno cais i dreialon 5G yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer ardaloedd prawf, ac maent ar fin ei ystyried, cais a fyddai’n arwain at ffocws arbennig ar Flaenau Gwent, Blaenau'r Cymoedd a sir Fynwy, sef canlyniad gwaith gwerth £250,000 y mae'r Llywodraeth wedi'i gefnogi. Felly, credaf ein bod yn gwneud rhai pethau, er nad yw hyn yn fater wedi'i ddatganoli. Ond mewn gwirionedd, mae angen i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb am hyn ar unwaith.
Weinidog, y mis diwethaf, cynhyrchodd y Ffederasiwn Busnesau Bach adroddiad ar sut y mae cysylltedd band eang a ffonau symudol yn rhwystro busnesau bach yn ne-ddwyrain Cymru. Wrth drafod Cymru, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod ffonau symudol yn dod yn elfen fwyfwy allweddol o gysylltedd i berchnogion busnesau bach. Mewn ardaloedd lle nad oes band eang cyflym iawn ar gael, mae niferoedd anghymesur o uchel o gwmnïau bach yn dweud eu bod yn defnyddio eu ffonau symudol ar gyfer bancio dros y rhyngrwyd ac i ryngweithio â chwsmeriaid a chyflenwyr ar yr un pryd. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ymestyn cyrhaeddiad band eang i ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd ar hyn o bryd, megis rhannau o Gymoedd de-ddwyrain Cymru? Diolch.
Wel, gyda phob parch i Mohammad Asghar, rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud wrtho mai Llywodraeth y DU—waeth beth fo'i phlaid, Llywodraeth y DU sydd â'r rôl arweiniol i'w chwarae yma. Ac ers i'w blaid ddod i rym, rydym ar ei hôl hi'n druenus. Rydym wedi camu i'r adwy lle na ddylem orfod gwneud hynny i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae'n bryd bellach i'r Llywodraeth weithredu.