1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Un o'r pethau olaf a wnaeth Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru—neu Ysgrifennydd Gwladol gorllewin Lloegr, fel roedd llawer yn ei adnabod—oedd sefydlu porth y gorllewin. Porth i ble yw porth y gorllewin, ac i bwy?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf, yn amlwg, fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, a chredaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud o dan yr amgylchiadau? Yn amlwg, mae ein Llywodraeth a'i Lywodraeth yntau wedi anghytuno ynghylch nifer o faterion. Ond dylwn ddweud bod Ken Skates a minnau wedi cael perthynas dwymgalon a phroffesiynol gydag Alun Cairns, ac yn enwedig ar y bargeinion dinesig, rydym wedi cydweithio'n dda gyda’n gilydd, ac yn sicr, ni fyddem wedi dymuno i'w amser fel Gweinidog ddod i ben fel hyn.
O ran y cwestiwn uniongyrchol, mae'n anffodus iawn fod cydweithrediad Glannau Hafren wedi cael ei alw'n 'orllewin Prydain' yn rhywfaint o'i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn sicr, nid dyna’r cynllun i sicrhau ei fod yn cael dechrau da. Rydym yn awyddus, yn amlwg, i edrych ar fforwm a all gydweithredu dros y ffin, fel y gwnawn yng ngogledd Cymru gyda Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy. Fodd bynnag, rydym yn amheus ynghylch y bwriad y tu ôl i sefydlu'r gynghrair hon, ac yn sicr, ynghylch rhoi unrhyw nodweddion sefydliadol iddi gan ein bod yn ofni bod Llywodraeth y DU yn defnyddio hyn fel ceffyl pren Troea i danseilio Llywodraeth Cymru drwy beth bynnag a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin. Rydym yn edrych ymlaen at weld a ddaw unrhyw beth o'r gronfa ffyniant gyffredin. Ond credaf ein bod yn ymdrin â hyn gyda pheth amheuaeth. Mae'r cadeirydd a benodwyd, Katherine Bennett, yn unigolyn da iawn ac yn sicr ni fyddem yn dymuno ei thanseilio mewn unrhyw ffordd. Nid apwyntiad ar y cyd mo hwn, ond yn sicr, hoffem gael sgwrs gyda hi ynglŷn â sut y mae'n teimlo y dylai'r gynghrair hon weithredu, gyda'n pryderon mewn golwg.
Wel, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cael ei galw'n bartner ym mhrosiect porth y gorllewin. O fewn munudau i lansio'r prosiect, cyfeiriodd y cadeirydd y sonioch chi amdani at 'bwerdy gorllewin Prydain'. Sut y credwch fod ail-frandio Cymru yn orllewin Prydain neu ran o orllewin Prydain yn helpu gyda'r gwaith sydd angen ei wneud i adeiladu economi go iawn yng Nghymru a all weithio wedyn mewn partneriaeth go iawn â'n ffrindiau i'r dwyrain?
Wel, digwyddais siarad â Katherine Bennett ar y bore yr anfonwyd y trydariad hwnnw a dywedodd yn glir wrthyf nad ei geiriau hi oeddent. Rwy’n amau efallai fod gan swyddfa orfywiog y cyn Ysgrifennydd Gwladol y soniwyd amdano gynnau rywbeth i’w wneud â hyn, ond gan roi hynny o'r neilltu am funud, credaf fod daearyddiaeth economaidd yno rydym am ei harchwilio a manteisio arni, ond rydym yn Llywodraeth ddatganoledig, mae gennym ffin i'w pharchu, ac yn sicr, nid ydym am fod yn naïf ynghylch yr agendâu gwleidyddol sydd ar waith yn San Steffan mewn perthynas â hyn, ond rydym eisiau'r gorau i bobl yn y rhan honno o Gymru a'n cymdogion agosaf.
Ni chredaf fod 'rydym yn parhau i fod yn amheus’ yn ddigon da o ran rhai o'r negeseuon rwy’n sicr wedi'u clywed a'u darllen ynglŷn â phrosiect porth y gorllewin. Yr hyn rydym am ei weld yw Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn adeiladu economi Cymru, ac rwy'n ofni bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chamarwain gan Swyddfa Cymru o dan Alun Cairns. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer rhy awyddus i ddal ei gafael yng nghynffon côt Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ailenwi'r ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, a gwyddom na chroesawyd hynny o gwbl gan bobl Cymru. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i ddweud ei dweud ar y mater hwnnw a’i bod wedi penderfynu peidio â gwneud hynny am ba reswm bynnag, ac rwy’n ofni, mewn perthynas â phorth y gorllewin, yn ogystal â phrosiectau dros y ffin rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, nad yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â'i rôl yn creu economi Gymreig wirioneddol gryf.
Rwy'n cefnogi gweithio trawsffiniol yn fawr. Mae gweithio trawsffiniol yn gweithio er budd cyffredin gwledydd a rhanbarthau cyfagos ledled y byd. Nid yw hynny'n wahanol i ni yng Nghymru. Ond a wnaiff y Gweinidog weld, cyhyd â bod gennym ddarlun o Lywodraeth Cymru yn mynd gyda dysgl gardod i'r cyfarfodydd partneriaeth nad yw'n ymddangos ei bod am fod yno fel partner go iawn, y bydd Cymru yn cael ei thanwerthu gan y Llywodraeth hon?
Wel, credaf fod hynny braidd yn orgynhyrfus. Credaf y buaswn yn cael trafferth gyda—[Torri ar draws.]
Hoffwn pe baech ychydig yn fwy cynhyrfus ynglŷn â gwneud defnydd o economi Cymru. Cynhyrfu am—
A chredaf y buaswn yn cael trafferth—. Buaswn yn cael trafferth—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rydych wedi gofyn eich cwestiwn. Mae eich cwestiwn wedi’i orffen. Rwy'n ceisio ei ateb, os caniatewch i mi wneud hynny.
Wel, na, cafwyd sylw coeglyd. Dyna a glywais gyntaf.
Wel, â phob parch—
Gadewch i'r Gweinidog barhau i ateb eich cwestiwn.
Mae Rhun ap Iorwerth yn ddig am imi wneud sylw coeglyd. Mae wedi ein cyhuddo o fod ag agwedd dysgl gardod, felly mae hynny'n eithaf coeglyd, buaswn yn dweud, â phob parch.
Ac o ran cynffon côt Alun Cairns, buaswn yn cael trafferth ei chyrraedd, gyda phob parch. Felly, nid oes agwedd daeogaidd yma ac ni chredaf fod defnyddio iaith mor hysterig yn hybu trafodaeth gall ynglŷn â sut y gallwn hyrwyddo buddiannau economaidd de Cymru.
Fel y dywedais yn glir, yn sicr nid ein term ni oedd 'gorllewin Prydain’, na therm y cadeirydd yn wir, ac yn sicr, ni fuaswn—a dywedais yn glir yn fy ateb cynharach—yn cymeradwyo hynny. Fel y dywedais, nid ydym yn naïf ynghylch yr agendâu gwleidyddol sydd ar waith yma. Nid oedd hwn yn apwyntiad ar y cyd. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn ei sefydlu ar y cyd. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y fenter hon. Byddwn yn ei gwylio â diddordeb. Os yw'n fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth, rydym yn fwy na pharod i fod yn rhan ohono. Os yw'n fwy na hynny, ni fyddwn yn gwneud hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a yw'r amserlen ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi llithro?
Nid hyd y gwn i.
Diolch. Mae'n braf clywed hynny. Ym mis Mehefin eleni, dywedodd y Dirprwy Weinidog, eich bos, y Gweinidog, wrth y Siambr hon fod trafnidiaeth yn faes lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ei fod yn disgwyl adroddiad interim i Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru o fewn chwe mis. Dywedodd y Gweinidog hefyd, ac rwy'n dyfynnu:
'rwyf wedi bod yn awyddus ac yn glir iawn wrth ddweud wrth y cadeirydd ac wrth y cyhoedd, os gall y comisiwn gyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflwyno' yn y tymor byr, o fewn y chwe mis nesaf, i liniaru tagfeydd ar yr M4, y dylid gwneud hynny heb oedi.
Ers y datganiadau hyn yn ôl ym mis Mehefin, a gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau? A gaf fi ofyn pam ei bod wedi cymryd tan fis Hydref i sefydlu aelodaeth y comisiwn? Ac a gaf fi ofyn hefyd: a allwch gadarnhau y bydd gennym yr adroddiad interim erbyn diwedd eleni, neu ai diweddariad yn unig fydd hwn? Ac a gaf fi ofyn, ymddengys fod hyn wedi'i wthio i'r naill ochr—a allwch ddweud wrthyf a yw'r adroddiad interim hwn wedi'i wthio i'r naill ochr, neu a ydych yn dal i ragweld y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd eleni?
Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi dweud yn glir iawn wrth gadeirydd y comisiwn ein bod yn disgwyl cael argymhellion cynnar erbyn y Nadolig, a dyna yw ein disgwyliad o hyd.
Cymerwyd peth amser i gynnull panel o bobl uchel eu parch. Maent wedi cyhoeddi eu cylch gorchwyl a'u ffordd o weithio. Mae'n galonogol iawn na fyddant wedi'u cyfyngu, fel a ddigwyddodd gydag astudiaethau blaenorol, i edrych ar opsiynau ffyrdd yn unig, ond byddant yn edrych ar yr ystod lawn o ymyriadau, gan gynnwys newid ymddygiad, i fynd i'r afael â thagfeydd a'r ddibyniaeth ar geir yn y rhan honno o Gymru, yn hytrach na'r dulliau traddodiadol sydd wedi dominyddu'r ddadl hon ers blynyddoedd lawer.
Felly, rwy'n disgwyl ystod gyffrous o gynigion, gyda rhai syniadau cychwynnol erbyn diwedd eleni.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod traffig ar yr M4 yn cynyddu'n ddyddiol. Rydym wedi cael arolwg barn newydd, sy'n dangos bod bron i ddwywaith cymaint o bobl yng Nghymru bellach yn credu y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4, yn groes i farn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Ond a allwch gadarnhau p'un a yw'r opsiwn o adeiladu ffordd liniaru'r M4 o fewn cwmpas cylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ai peidio? Ac os felly, ac os ydynt yn argymell eich bod yn ei hadeiladu, a fyddwch yn gwneud hynny neu a fyddwch yn gwrthod canfyddiadau'r comisiwn annibynnol hwn?
Na. Ar ôl cynnal ymchwiliad cyhoeddus a edrychodd ar y llwybr du, ni fyddai unrhyw bwrpas sefydlu ymchwiliad arall i fynd i ailedrych ar yr un opsiwn yn union. Felly, nid yw hwnnw'n opsiwn y mae'r comisiwn yn ei ystyried. Maent yn edrych ar opsiynau eraill y credwn y gellir eu cyflwyno'n gyflymach ac yn rhatach ac a fyddai'n cael gwell effaith na'r ffordd a archwiliwyd eisoes.
Mae Russell George yn sôn am arolwg barn a gyhoeddwyd ddoe, sydd—. Wel, buaswn yn dweud dau beth am hynny: yn gyntaf oll, gwnaeth y Prif Weinidog ei benderfyniad nid oherwydd ei fod yn boblogaidd ond oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud, oherwydd nid oedd adroddiad yr arolygydd yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i'r argyfwng hinsawdd na'r effaith ddinistriol ar fioamrywiaeth. Roedd hwnnw'n benderfyniad egwyddorol a wnaed gan y Llywodraeth, nid un i geisio bod yn boblogaidd. Ac nid yw'r arolwg barn yn werth llawer, mewn gwirionedd, pan feddyliwch am y ffordd y cafodd ei ofyn. Pe bai'r cwestiwn wedi'i ffurfio i ofyn i bobl, 'A fyddech yn fodlon i'ch ysbyty a'ch ysgol gael eu canslo ar gyfer prosiect y mae ei gyllideb wedi mwy na dyblu?', efallai y byddai wedi cynhyrchu canlyniad gwahanol.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cynnig i wneud Casnewydd yn ganolbwynt ar gyfer twf economaidd wedi'i groesawu gan bawb yn Nwyrain De Cymru, ac rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyhoeddiad. Fodd bynnag, deallaf fod cyngor dinas Caerdydd wedi beirniadu’r cynnig hwn, gan ddadlau y byddai'n mynd â swyddi a buddsoddiad allan o Gymru ac yn tanseilio rôl Caerdydd fel sbardun economaidd i economi Cymru.
Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod eu dadl yn mynd yn groes i'r cynllun datblygu rhanbarthol a'r gwaith o sefydlu cynlluniau datblygu strategol sy'n cwmpasu prifddinas-ranbarth Caerdydd mewn gwirionedd?
Wel, mae'n debyg mai at arweinydd cyngor Caerdydd y dylid cyfeirio'r sylwadau hynny. Mae ymgynghoriad ar waith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac edrychwn ymlaen at ystyried pob sylw fel rhan o hynny.
Wel, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb cryno, ond Ddirprwy Weinidog, mae'r fframwaith cenedlaethol drafft yn cwmpasu cynlluniau datblygu lleol, cynlluniau datblygu strategol, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, pob un ohonynt yn sefyll ochr yn ochr â 'Pholisi Cynllunio Cymru', a phob un yn seiliedig yn ôl y sôn ar strwythur rhanbarthol. O ystyried yr awydd hwn i newid i ganolfannau llywodraethu rhanbarthol, a allai Llywodraeth Cymru ystyried cael pum canolfan lywodraethu ranbarthol yn unig, yn seiliedig, efallai, ar ranbarthau etholiadol Cynulliad Cymru, yn hytrach na'r gymysgedd ychydig yn ddi-drefn o ranbarthau economaidd sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sydd bellach yn bodoli neu'n cael eu hargymell? Byddai gan y rhanbarthau mwy hyn gyllidebau mwy, a fyddai'n hwyluso cynllunio strategol yn well, yn enwedig ar gyfer prosiectau seilwaith, ac felly'n sail i gynllun datblygu strategol y Llywodraeth ar gyfer Cymru.
Os wyf wedi deall pwynt yr Aelod yn iawn, mae'r rhanbarthau sy'n bodoli yn seiliedig, yn sicr yn y de-ddwyrain, ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth a fu'n cael ei ddatblygu ers rhai blynyddoedd bellach ac sydd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau lleol. Yn sicr, gallwch ddadlau ynglŷn â ble y dylid tynnu’r llinell rhwng rhanbarth canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe, ond gallwch bob amser gael y safbwyntiau hyn ynglŷn â pha ddarn a ddylai fod ym mha un ac yn y blaen. Rydym yn barod i gadw meddwl agored. Os oes cefnogaeth ymhlith yr awdurdodau lleol i'w hailraddnodi, byddem yn ystyried hynny, wrth gwrs. Ond ychydig o gapasiti sydd gennym i chwarae ag ef yma rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ac mae angen inni ddewis y nifer gorau posibl fel y gallwn sicrhau bod gennym allu i reoli ein hadnoddau mewn modd priodol ac effeithiol, a pho fwyaf y byddwn yn eu hollti, yr anoddaf fydd cael y canlyniadau rydym yn edrych amdanynt.