1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, ar ran Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb heddiw yn y Siambr wrth ddymuno gwellhad buan i'n Prif Weinidog. A gaf i dynnu sylw'r Gweinidog at adroddiad ar y cyd Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf a gyhoeddwyd ddoe? Rwy'n siŵr, unwaith eto, y bydd ein meddyliau gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiant trychinebus mewn gwasanaethau mamolaeth. Bydd yr adroddiad hwn yn anodd iddyn nhw ei ddarllen, ac felly hefyd y staff rheng flaen, gan ei bod yn amlwg y gellid bod wedi osgoi llawer o'r hyn a aeth mor ofnadwy o anghywir, a bod y staff a'r teuluoedd wedi cael eu siomi gan fethiannau o ran rheoli a chraffu.
Mae'r adroddiad yn codi pryderon bod hwn yn fwrdd a oedd yn ymddangos o'r tu allan fel bod yn perfformio'n dda pe byddech chi'n ei fesur yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru, a bod y pwysau i gyrraedd targedau ariannol wedi gogwyddo canolbwynt y bwrdd oddi wrth ansawdd profiad y claf. Nawr, rwyf yn gofyn i'r Gweinidog, o gofio mai ef sy'n gosod y targedau, pa un a yw'n derbyn, o gofio, er gwaethaf wyth adroddiad, arolygon ac ymweliadau â Chwm Taf a ddylai fod wedi arwain at gymryd camau, ei bod wedi cymryd nawfed adroddiad cyn iddo wneud unrhyw beth? O gofio ei fod ef a'i swyddogion wedi methu â sylwi ar y materion ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr tan fod y pwynt argyfwng wedi ei gyrraedd a'i fod wedi methu â chael trefn arnyn nhw ar ôl bron i bum mlynedd o ymyrraeth, a yw'n derbyn mai ychydig iawn o ffydd fydd gan y cyhoedd yng Nghymru, a'r cyhoedd yng Nghwm Taf yn arbennig, yn ei allu i sicrhau y rhoddir sylw i'r materion a godir yn yr adroddiad hwn ac y gweithredir ar yr argymhellion?
Rwy'n credu bod tri phwynt y byddwn i'n eu gwneud mewn ymateb i'r Aelod. Y cyntaf yw ein bod ni, wrth gwrs, wedi cael safbwynt y coleg brenhinol oherwydd i mi weithredu, ymyrryd a gorchymyn bod yr adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal. Yna, gweithredais ac ymyrryd yn y bwrdd iechyd trwy newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Felly. rwyf i wedi gweithredu ac rwyf i wedi rhoi cymorth ychwanegol o amgylch y bwrdd iechyd, ac, wrth gwrs, ar yr adeg y cyhoeddais i'r mesurau hynny, dywedais y byddai'r adolygiad hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei ddarparu. Ac mae'n bwysig bod hynny'n digwydd, oherwydd rydym ni eisiau cael darlun gonest o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, fel yr oedd, a Chwm Taf Morgannwg fel y mae erbyn hyn, oherwydd mae'r gonestrwydd a'r eglurder yn yr hyn sydd wedi digwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd yn bwysig er mwyn rhoi sicrwydd a hyder i'r cyhoedd, gan gynnwys, wrth gwrs, y staff. Bydd yr ail adroddiad chwarterol ar wasanaethau mamolaeth yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, yn unol â'r amserlen, a disgwyliaf y bydd cwestiynau, y byddaf yn fodlon eu hateb ar yr adeg honno, ynghylch natur y cynnydd a wnaed ac, yn wir, y cynnydd sydd eto i ddod.
A'r trydydd pwynt y byddwn i'n ei wneud yw fy mod i'n cydnabod bod yr Aelod yn defnyddio cyfleoedd yn rheolaidd i alw arnaf i adael fy swydd, ond pan ddaw i'r profiad uniongyrchol yr wyf i wedi ei gael gyda theuluoedd, maen nhw wedi bod yn eglur iawn eu bod nhw eisiau i mi aros yn y swydd fel y Gweinidog iechyd i gyflawni'r rhaglen wella sydd ei hangen. [Torri ar draws.] Ac rwyf i wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda theuluoedd sydd wedi ei gwneud yn eglur iawn mai dyna yw eu disgwyliad—
Nid wyf i'n gallu clywed y Gweinidog a'i ymateb. Byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o dawelwch gan rai pobl yn arbennig.
—ac rwyf i wedi ymrwymo i wneud yn union hynny ac i fod yn gwbl dryloyw o ran natur y cynnydd sy'n cael ei wneud ac mewn unrhyw gamau y mae'n rhaid i mi eu cymryd ac unrhyw gamau y byddaf yn dewis peidio â'u cymryd wrth gynorthwyo'r bwrdd iechyd hwn a'i gwneud yn ofynnol i'r bwrdd iechyd hwn wneud y gwelliannau y mae'n amlwg sydd eu hangen.
Diolchaf i'r Gweinidog am ei atebion. Mae'n amlwg nad yw'n siarad â'r un teuluoedd â mi. Ond hoffwn fod yn gwbl eglur nad wyf i'n galw arno i ymddiswyddo heddiw. Rwy'n credu bod angen iddo fyfyrio ar y ffaith, fel y dywedais eisoes, bod wyth adroddiad, arolwg ac ymweliad wedi digwydd ac wedi mynegi pryderon cyn i'w swyddogion ef wneud unrhyw beth. Ac rydym ni wedi cael yr adroddiad chwarterol cyntaf a ddywedodd wrthym, hyd yn oed ar ôl ymyrraeth, nad yw'r gwasanaeth yn ddiogel o hyd. Rwy'n credu efallai y bydd gan y cyhoedd yng Nghymru rai pryderon ynghylch ei hunanfodlonrwydd ymddangosiadol.
Os caf fynd ag ef yn ôl at yr adroddiad, lle y mae'r adroddiad yn codi materion ehangach ar gyfer y GIG yng Nghymru, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno myfyrio hefyd ar y materion a godir yn yr adroddiad hwn a rhoi ystyriaeth i sut y bydd yn cael sicrwydd ynghylch cadernid trefniadau llywodraethu ansawdd ar draws cyrff eraill y GIG.
Nawr, gan gyfeirio yn ôl at gwestiynau blaenorol yr wyf i wedi eu gofyn iddo yn ei swyddogaeth arall o ran gallu'r swyddogion anweithredol yng Nghwm Taf, cyn iddo ymyrryd, fe'i gwnaed yn gwbl eglur gan ei gynghorydd arbennig—ac efallai yr hoffai edrych yn ôl ar drawsgrifiad y pwyllgor—bod lefel wael iawn o graffu, ac mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau hynny, a yw'r Gweinidog yn barod i dderbyn heddiw bod gwir angen edrych ar y modd y penodir swyddogion anweithredol, yn enwedig cadeiryddion ac is-gadeiryddion sy'n cael eu talu'n dda iawn? A oes angen iddo ofyn cwestiynau ar draws y gwasanaeth am eu gallu i graffu? Ac a oes angen iddo edrych ar y ffordd y mae'r byrddau iechyd wedi'u strwythuro, lle mae'r swyddogion anweithredol a'r cyfarwyddwyr gweithredol yn eistedd wrth fwrdd gyda'i gilydd ac mae'n hawdd iawn gweld sut mae diwylliant yn datblygu lle mae'r bwrdd yn un bwrdd ac mae'r swyddogion anweithredol yn colli eu canolbwynt o ran craffu ar berfformiad eu cyfarwyddwyr gweithredol?
A gaf i roi sylw yn gyntaf i'r cyhuddiad rheolaidd fy mod i rywsut yn hunanfodlon yn fy nyletswyddau? Rwy'n cymryd fy nyletswyddau o ddifrif. Mae'n swydd yr wyf i'n ei mwynhau, er gwaethaf yr holl bwysau, ond mae hynny'n gofyn i chi ddeall materion ac i weithio'n galed i gyflawni eich dyletswyddau a chydnabod yr effaith ar staff a'r cyhoedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n annymunol i awgrymu'n rheolaidd fy mod i rywsut yn hunanfodlon gan nad wyf i bob amser yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei fynnu ohonof.
O ran y camau sy'n cael eu cymryd, rwyf i eisoes wedi ysgrifennu heddiw, a byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig, at bob un sefydliad GIG yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw ymateb i mi erbyn wythnos gyntaf mis Ionawr gyda'r lefel o sicrwydd sydd ganddyn nhw ynghylch nifer o faterion sydd wedi eu codi yn yr adroddiad hwn heddiw ar Gwm Taf Morgannwg. Rwyf i wedi darparu ffurflen yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw ymateb iddi i wneud yn siŵr bod ymatebion cyson i'r un problemau, er mwyn i ni ddeall, ar gyfer pob sefydliad unigol, ond hefyd ar y cyd ar draws holl deulu GIG Cymru. A byddaf, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ar ôl i ni gael cyfle i graffu ac edrych ar yr ymatebion hynny i weld a ydyn nhw wedi rhoi'r sicrwydd yr wyf i'n chwilio amdano.
O ran swyddogaeth David Jenkins, roedd yn bendant iawn yn y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor hefyd ei fod yn teimlo bod y bwrdd wedi gwneud yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud erbyn yr adeg honno, o ran bod yn briodol o ystyriol o'r hyn oedd wedi mynd o'i le, ac maen nhw'n edrych yn ofalus iawn i fynd i'r afael â hynny ac ymateb i hynny, ond roedd yn cydnabod bod mwy i'w wneud.
O ran y pwynt ehangach am y ffordd y mae aelodau annibynnol yn ymddwyn, rydym ni eisoes yn cymryd cyfres o gamau i atgyfnerthu'r pwynt bod aelodau annibynnol yno o ran eu dyletswydd gyhoeddus, ac mae ganddyn nhw swyddogaeth gyhoeddus i'w chyflawni o ran craffu, herio ac, ar adegau, cefnogi'r ffordd y mae byrddau iechyd yn gweithio. Ond nid yw'n swyddogaeth lle maen nhw yno i ganu clodydd y sefydliad. Felly, rydym ni eisoes yn gweithredu ar amrywiaeth o argymhellion cyn yr adroddiad heddiw, a byddaf yn parhau i wneud hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r mesurau y mae'n argymell i ni eu cyflawni hefyd.
Wel, Llywydd, rwy'n siŵr nad yw'r hyn y byddwn i'n ei ddisgwyl neu'n ei fynnu gan y Gweinidog iechyd yn bwysig. Byddwn yn dadlau, fodd bynnag, bod yr hyn y mae'r cyhoedd, cleifion ac, yn bwysig, staff rheng flaen yn ei ddisgwyl, yn bwysig, a byddan nhw yn dod i'w casgliadau eu hunain ynghylch y ffordd y mae e'n ymateb i graffu, yn y fan hon ac yn y pwyllgor iechyd.
Gan gyfeirio yn ôl at David Jenkins, dywedodd ef, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog yn ei nodi'n gywir, bod y bwrdd, ers yr ymyrraeth, wedi gwneud yr hyn y dylen nhw fod wedi ei wneud wrth ymateb i'r angen am yr ymyrraeth honno. Ond roedd e'n eglur iawn nad oedd eu perfformiad cyn hynny yn cyrraedd y safon o gwbl, ac mae'r teuluoedd hynny wedi dioddef a'r staff rheng flaen hynny wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl, gan nad oedd gan y bobl a benodwyd gan y Gweinidog y gallu i wneud eu gwaith tan iddo ef ymyrryd.
Byddwn yn awgrymu wrtho fe, ar ôl 20 mlynedd o'r Blaid Lafur yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bod niferoedd meddygon teulu wedi gostwng, bod yr amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yr hwyaf a welsom erioed, bod disgwyliad oes yng Nghymru yn gostwng am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth. A byddwn yn dweud wrtho, os nad yw'n gallu gweddnewid y gwasanaeth hwn yn y ffordd y mae angen iddo gael ei weddnewid, efallai y dylai symud allan o'r ffordd.
Wel, mae'n llinell braidd yn amlwg yr ydym ni'n ei chlywed unwaith eto, ac, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedodd Helen Mary yn ei hymateb oedd cydnabod, mewn gwirionedd, yn dilyn yr ymyrraeth a wneuthum i, y bu effaith gadarnhaol ar y sefydliad. Mae adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC yn cydnabod bod yr arweinyddiaeth newydd sydd ar waith yn bwrw ymlaen â chamau difrifol i fynd i'r afael â'r materion sy'n peri pryder. Ac, o ran pwy mae pobl Cymru yn ymddiried ynddyn nhw i redeg y gwasanaeth iechyd gwladol, edrychaf ymlaen at eu dyfarniad ymhen 18 mis.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Weinidog, a ydych yn falch o'ch hanes o redeg y GIG yng Nghymru?
Rwy'n hynod falch o'r gwaith yr wyf i'n ei wneud ar ran pobl Cymru. Rwy'n parhau i gyflawni fy nyletswyddau mewn modd yr wyf i'n credu sy'n gweddu i'r cyfrifoldebau.
Gweinidog, os ydych chi mor falch, fel y dywedodd fy nghydweithiwr, Andrew R.T. Davies, pam ar y ddaear yr oedd eich plaid yn teimlo'r angen i gyflogi actores i chwarae rhan nyrs yn eich darllediad gwleidyddol diweddar? [Torri ar draws.] Ah, ie, mi wn nad yw Aelodau Llafur yn hoffi hyn, ond onid dyna'r gwir? Ai'r—[Torri ar draws.] Ai'r—[Torri ar draws.] Ai'r rheswm—[Torri ar draws.] Ai'r rheswm, fel y mae'r adroddiad heddiw yn ei gadarnhau, yw ei bod hi'n ymddangos eich bod chi wedi llywyddu dros ddiwylliant o ofn a bai sydd wedi arwain at staff yn teimlo na allen nhw godi eu lleisiau a chodi pryderon? A yw oherwydd bod eich hanes echrydus o ddarparu gwasanaethau iechyd mor wael fel na allech chi ddod o hyd i unrhyw un sy'n gweithio yn y GIG i gefnogi eich ymgyrch? Ond, y naill ffordd neu'r llall, nid arwydd o gywilydd yn unig yw bod Llafur Cymru wedi iselhau ei hun fel hyn, ond mae'n dangos amarch mawr at bobl Cymru hefyd. Felly, Gweinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol heddiw ar drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, pa sicrwydd allwch chi ei roi nawr i'r staff sy'n gweithio yn GIG Cymru y bydd eu pryderon yn cael eu clywed ac yn cael sylw? A pha mor ffyddiog ydych chi nad oes manylion gofidus pellach nad ydyn nhw wedi dod i'r amlwg eto o'r gadwyn hon o ddigwyddiadau sy'n peri pryder enfawr?
Dyma fy nhro cyntaf yn ateb y cwestiynau hyn, felly rwy'n credu bod gen i esgus o ran fy mherfformiad. Nid wyf i'n siŵr bod gan yr Aelod gyferbyn yr un esgus, ac rwy'n siomedig na wnaeth ef drafferthu i wrando ar yr ateb a roddwyd i Andrew R.T. Davies. Yn syml, nid yw'n wir, fel y mae'n ei haeru—nid oeddem ni'n teimlo bod angen cyflogi actores. Ni wnaeth fy mhlaid hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n gwrando ac yn ymateb i'r wybodaeth a'r ffeithiau sy'n cael eu rhoi.
O ran sylwadau gan staff a sut mae staff yn teimlo am y gwasanaeth iechyd gwladol, a dweud y gwir, mae'r sylwadau gan ein staff yn gadarnhaol o'r Llywodraeth hon, yn sicr o'i gymharu â'r arlwy gwahanol ar draws ein ffin. Mae gennym ni wasanaeth cyhoeddus cadarnhaol, rydym ni'n cymryd o ddifrif y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn staff. Rwyf i wedi buddsoddi'r swm uchaf erioed mewn hyfforddi dyfodol ein gwasanaeth iechyd. Byddwch wedi gweld yr wythnos diwethaf cynnydd o 13 y cant i'r gyllideb ar gyfer staff gofal iechyd yn y dyfodol, y nifer uchaf erioed o nyrsys, bydwragedd a therapyddion yn cael eu hyfforddi, y nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yn dod i'r gwasanaeth yma yng Nghymru. Materion o ffaith yw'r rhain, nid barn, ac, wrth gwrs, pan ddaw i'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y gwasanaeth iechyd, mae ffigurau heddiw gan Drysorlys y DU yn dangos bod y gwariant ar iechyd yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflymach nag yn Lloegr na'r Alban, yn dangos bod y gwariant cyfunol ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Nid oes arnaf angen pregeth gan y blaid gyferbyn ar natur ein hymrwymiad i'n staff, i'n cyhoedd ac i'n gwasanaeth iechyd gwladol.
Wel, yn sicr, nid wyf i'n mynd i dderbyn unrhyw bregeth gan y Gweinidog, gan eich bod chi'n siomi pobl Cymru o ran ein gwasanaethau iechyd. Nawr, fel y gwyddoch, Gweinidog, mae eich cydweithiwr John McDonnell wedi cyhoeddi y byddai'r wythnos waith gyfartalog yn y DU yn cael ei thorri i 32 awr o fewn 10 mlynedd o Lywodraeth Lafur y DU. Gweinidog, ni allwch chi ystyried o ddifrif mai dyma'r ffordd ymlaen i Gymru, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, felly, yn union faint o feddygon, nyrsys a staff hanfodol ychwanegol eraill y GIG y bydd eu hangen i ymateb i'r oriau gwaith llai, a sut y bydd eich Llywodraeth yn recriwtio digon o staff i fodloni'r galw newydd hwn. Oherwydd os oeddech chi'n meddwl bod pethau'n wael nawr, arhoswch tan y byddwn ni wedi cael 10 mlynedd o Lywodraeth Lafur y DU. A gadewch i mi roi i chi—[Torri ar draws.] A, Gweinidog, gadewch i mi roi rhai ffeithiau i chi—[Torri ar draws.] Gadewch i mi roi rhai ffeithiau i chi, oherwydd fe roesoch chi rai ffeithiau i ni yn gynharach. Dyma eich hanes fel Gweinidog iechyd: dros hanner byrddau iechyd Cymru yn cael eu rhoi mewn mesurau arbennig neu statws ymyrraeth wedi'i thargedu, gyda gwasanaethau wedi eu canoli ymhellach oddi wrth gleifion sydd eu hangen yn ddybryd, yr amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys gwaethaf erioed, nid yw amseroedd aros o ran canser wedi eu bodloni am 11 mlynedd, ac mae pobl ledled Cymru yn disgwyl yn daer i weld eu meddyg teulu. Gweinidog, nid hanes Llafur Cymru yn unig yw hwnnw, ond eich un chithau hefyd, a phryd y gwnewch chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Rwy'n credu y dylech chi ystyried eich sefyllfa fel y gall pobl Cymru fod yn ffyddiog, pan fydd methiannau yn y system, y bydd y Llywodraeth yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb terfynol.
Wel, wrth gwrs, pe byddai gennym ni Lywodraeth Lafur y DU ni fyddem wedi cael 10 mlynedd o gyni cyllidol. Edrychaf ymlaen at ddegawd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at y gallu i roi tâl priodol i'n staff ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Edrychaf ymlaen at y gallu i gefnogi ein heconomi'n iawn mewn ffordd gwbl wahanol i'r un y mae'r Aelod wedi ei chefnogi mewn tri, os nad pedwar, gwahanol etholiad y DU trwy ymgyrchu dros bolisi cyni cyllidol. O ran hanes y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, rwyf i eisoes wedi nodi'r ffaith ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ar lefel llawer uwch nag ar draws y ffin yn Lloegr sy'n cael ei redeg gan y Torïaid. Os edrychwch chi ar ein hanes ni ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd: adolygiad seneddol ar adeg pan yr oedd pobl yn barod i fod yn oedolion am yr hyn yr oedd ei angen ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i weithredu gyda gweledigaeth hirdymor ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol—yr unig gynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn y Deyrnas Unedig—y buddsoddiad mwyaf erioed mewn staff, a staff sy'n dod gyda ni ar daith i ailgynllunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yn fwriadol gyda'n gilydd, rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gallaf edrych i fyw llygad cleifion, gallaf edrych i fyw llygad ein staff, a dweud, 'rwy'n gwneud y peth iawn ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus hynod werthfawr hwn', oherwydd mae ein staff a'n cyhoedd yn gwybod na allwch chi ymddiried yn y Torïaid i redeg ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, wnaethoch chi ddim ateb y cwestiwn ynghylch pa gynnydd i weithlu'r GIG nac, yn wir, pa gynnydd mewn gwariant y byddai ei angen arnoch pe byddai'r polisi hwn o wythnos waith gyfartalog o 32 awr yn cael ei ddefnyddio yn y GIG. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r gyfradd cyfwerth ag amser llawn wedi ei chontractio’n gyfartalog ar hyn o bryd, a beth fyddai'r newid hwnnw pe byddai'n cael ei newid i 32 awr, os yn wir y bydd y polisi hwn yn berthnasol i GIG Cymru? Roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch pa un a fyddai'n berthnasol i'r GIG yn Lloegr—dywedodd Jon Ashworth, eich llefarydd yn San Steffan, ei bod yn wirion awgrymu y dylai'r polisi gael ei ddefnyddio yn y GIG yn Lloegr. A fydd yn berthnasol i'r GIG yng Nghymru? Os felly, faint fydd yn ei gostio? Neu a ydych chi eisiau optio allan?
Wel, mae gan y dyn sy'n sefyll ar ddim maniffesto y mae'n dangos unrhyw deyrngarwch iddo ddiddordeb rheolaidd yn yr hyn y gallai pobl eraill ei wneud gyda'r addewidion yr ydym ni'n eu gwneud ac yr ydym ni'n eu cadw. O ran yr wythnos 32 awr, polisi uchelgeisiol ar gyfer 10 mlynedd i'r dyfodol ydyw, ac yn sicr nid wyf i'n mynd i gael fy nal yn ceisio cynhyrchu ffigurau artiffisial ar gyfer hynny. Yr hyn y mae gennyf ffigurau gwirioneddol ar ei gyfer yw'r cynnydd o 55 y cant mewn hyfforddiant i nyrsys dros y pum mlynedd diwethaf, y nifer uchaf erioed o leoedd hyfforddi meddygon teulu a lenwyd gennym yng Nghymru—nid ydym wedi cael y nifer honno o feddygon teulu dan hyfforddiant erioed o'r blaen yma yng Nghymru—cynnydd o 71 y cant mewn lleoedd hyfforddi bydwragedd dros y pum mlynedd diwethaf. Dyna hanes y Llywodraeth hon gyda'r adnoddau a roddwyd i ni, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i'n staff, i'n gwasanaeth iechyd, a hanes yr wyf i'n falch ohono. Ac mae'n hanes y mae'r cyhoedd yn ei werthfawrogi hefyd, oherwydd mae dros 90 y cant o'r cyhoedd yn yr arolwg cenedlaethol wedi cael profiad da pan gawsant eu gweld ddiwethaf naill ai mewn gofal sylfaenol neu ofal mewn ysbyty. Mae hon yn Lywodraeth i ymfalchïo ynddi. Mae hwn yn wasanaeth iechyd gwladol i ymfalchïo ynddo.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gadarnhau mai dim ond uchelgais ymhen 10 mlynedd yw'r wythnos 32 awr hon. Rwy'n meddwl y bydd hynny'n tawelu meddyliau llawer o'r byrddau iechyd sydd o dan bwysau enfawr eisoes, ar ôl i'r rhestrau aros gynyddu gan 16,000 ar gyfer ysbytai yn y flwyddyn ddiweddaraf yn unig.
Un maes polisi gan eich plaid ar lefel y DU, yr wyf i hefyd yn deall fydd yn berthnasol yma yng Nghymru drwy'r gyfraith, yw eu bod nhw wedi datgan y bydd unrhyw allu i optio allan o'r uchafswm o 48 awr ar wythnos waith yn dod i ben. Nawr, gwn fod canllawiau o fewn y GIG o ran sut mae hynny'n berthnasol i gontractau GIG, ond caniateir i feddygon ymgynghorol optio allan o'r cap 48 awr hwnnw ar hyn o bryd os ydyn nhw wedyn yn gwneud gwaith preifat sydd, yn ychwanegol at eu gwaith yn y GIG, yn dod i gyfanswm o fwy na 48 awr. O ystyried yr ymrwymiad cadarn gan eich plaid i ddileu'r cap hwnnw drwy gyfraith y DU, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith ar oriau gwaith y GIG i feddygon ymgynghorol os byddan nhw'n dewis lleihau oriau GIG er mwyn hwyluso gwaith preifat o fewn y cap hwnnw?
A allwch chi hefyd ddweud pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i fater y tapr ar gyfer pensiynau, sy'n effeithio ar lawer o feddygon ymgynghorol, a pha un a ydych chi'n credu bod hwnnw'n ffactor sy'n cyfrannu at y cynnydd hwnnw o 16,000 i'r oriau? Rydym ni wedi cael cynnig, rwy'n credu heddiw, gan Lywodraeth y DU ar gyfer GIG Lloegr. Ac nid wyf i'n argymell y dylech chi ei dderbyn yma—mae'n ymddangos ei fod yn bolisi 'clytio a thrwsio' o ran y ffaith y bydd meddygon ymgynghorol y GIG yn talu'r dreth ychwanegol allan o'u cronfa bensiwn, ond ceir addewid wedyn i'w had-dalu iddyn nhw rywbryd yn y dyfodol.
Os nad hynny, a ydych chi'n rhoi ystyriaeth i unrhyw ddulliau eraill a allai annog meddygon ymgynghorol y GIG i gynnig mwy o oriau i geisio helpu rhestri aros, o ran y pensiynau a'r cap hwnnw o 48 awr sydd fel arall yn yr arfaeth pe byddai Llywodraeth y DU—rhywbeth na fyddem ni'n sicr eisiau ei weld—yn cael ei gyflwyno yn yr etholiad, heb sôn am 10 mlynedd?
Wel, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i restr ffantasi o gwestiynau damcaniaethol am faniffesto nad yw wedi ei gyhoeddi eto. Fodd bynnag, mae problem wirioneddol yn y sylwadau y mae Mark Reckless wedi eu gwneud, sef dyfodol ein gweithlu meddygon ymgynghorol yn arbennig, ond, yn ehangach na hynny, staff uwch yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ceir yr her sydd heb ei datrys o'n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol. Ac mae'n ffaith bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi datgan, mewn arolygon o'u haelodaeth, bod nifer o'n gwladolion o'r Undeb Ewropeaidd yn gwneud paratoadau i adael y Deyrnas Unedig o bosibl, yn dibynnu ar ganlyniad ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol.
Y mater mwy, fodd bynnag, ar hyn o bryd yw'r heriau ynghylch treth a phensiynau. Mae angen i ni fod yn eglur am hyn: mae newidiadau i reolau treth a phensiwn a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith wirioneddol ar staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Maen nhw wedi arwain at filiau treth annisgwyl ac uwch; maen nhw hefyd wedi golygu bod meddygon yn arbennig yn tynnu'n ôl o ddarparu rhan o'r gwasanaeth. Mae'n broblem wirioneddol ar draws y DU gyfan, sy'n cael ei hachosi yn uniongyrchol gan newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU pan yr oedd yr Aelod mewn gwirionedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol.
Ond yn fwy na hynny, rwyf i wedi ysgrifennu at, rwyf i wedi gohebu â, rwyf i wedi siarad â Gweinidogion iechyd y DU—rwyf i wedi ysgrifennu at y Trysorlys am hyn hefyd—gan ofyn iddyn nhw ddadwneud y niwed y maen nhw wedi ei wneud. Oherwydd bydd yn costio i'r gwasanaeth iechyd gwladol ewyllys da ein staff yr ydym ni wedi ei losgi ac o bosibl wedi ei golli am byth. Yn fwy na hynny, i adennill y rhestrau ychwanegol yr ydym ni wedi eu colli, mae'n debyg y byddwn ni'n talu mwy yn y sector annibynnol yn y pen draw; bydd yn costio mwy i ni ddarparu'r un gweithgarwch. Ac nid yw'r ateb a gynigir yn Lloegr yn ateb tymor hir. Maen nhw'n defnyddio arian cyhoeddus i ddadwneud y difrod a wnaed gan benderfyniad gwahanol mewn rhan arall o'r Llywodraeth. Cyhoeddais ddatganiad yr wythnos diwethaf a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y newidiadau treth a phensiwn wedi effeithio ar 15,000 o gyfnodau triniaeth cleifion yng Nghymru dros bum mis. Mae wir yn amser am ymosodiad o synnwyr cyffredin yn y Deyrnas Unedig i ddadwneud y niwed y maen nhw wedi ei wneud i'n gwasanaeth iechyd gwladol, i'n staff, ac, yn arbennig, i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd ei hun.