1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng nghymoedd de Cymru? OAQ54712
Er gwaethaf toriadau i’n cyllideb, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau yng Nghymoedd de Cymru. Ym Merthyr Tudful, rydym yn buddsoddi £225 miliwn mewn gwelliannau i Ysbyty'r Tywysog Charles, a byddwn yn buddsoddi bron i £750 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â cham nesaf prosiect metro de Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Elite Paper Solutions ym Merthyr Tudful, sy'n creu swyddi gwerthfawr, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mynychais ddigwyddiad hefyd yn Ysgol Idris Davies ym Merthyr Tudful; mae'n ysgol yr unfed ganrif ar hugain wych yng nghwm Rhymni uchaf. Ac euthum gyda'r Prif Weinidog i ymweld â swyddfeydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, a chlywed am y miliynau o bunnoedd o arian Llywodraeth Cymru y maent wedi'i fuddsoddi mewn tai yn fy etholaeth.
Gwn fod gan gymunedau ledled Cymoedd de Cymru straeon tebyg i'w hadrodd o ganlyniad i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru—mae'r buddsoddiad uchaf erioed wedi'i gyflawni er gwaethaf degawd o doriadau Torïaidd. Felly, wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ar gyfer 2021, a chydnabod y blaenoriaethau rydych eisoes wedi'u nodi, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd anghenion ein cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i fod yn allweddol o fewn y blaenoriaethau hynny?
Diolch i Dawn Bowden am godi'r mater hwn ac am dynnu sylw at rai o'r mentrau rhagorol a'r buddsoddiadau rhagorol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn y gymuned y mae'n ei chynrychioli. Rwy'n falch iawn o weld ei bod wedi cael cyfle i ymweld â chymaint ohonynt. Er enghraifft, credaf fod Elite Paper Solutions yn gyffrous iawn o ran yr hyn sy'n bosibl drwy ein Swyddi Gwell yn Nes at Adref, ac rwyf am weld llawer mwy o'r math hwnnw o waith yn mynd rhagddo i gefnogi ein caffael ledled Cymru gymaint ag unrhyw beth arall.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod nad yw'r rownd wario ddiweddar yn dod â chyni i ben, fel y mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu. Bydd ein cyllideb ar gyfer 2021 2 y cant yn is, neu £300 miliwn yn llai, nag mewn termau real yn 2010-11. Ond nid yw hynny'n golygu am eiliad nad ydym yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru ac yn uchelgeisiol ar gyfer y Cymoedd o ran yr hyn y gellir ei gyflawni. Felly, pan fyddwn yn gallu cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn dilyn yr etholiad, rwy'n gobeithio y bydd cyfle i gydnabod y buddsoddiad pellach y byddwn yn ei wneud yn y gymuned y mae Dawn Bowden yn ei chynrychioli.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyngor Caerffili fod sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed wedi’u torri ar ôl i’ch Llywodraeth wneud toriad o 50 y cant i'r cyllid ar gyfer y fenter nofio am ddim. Weinidog, a ydych yn derbyn bod eich setliad cyllid llywodraeth leol annigonol mewn cynghorau fel Caerffili yn peryglu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel y 'Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru'?
Gwnaed y newidiadau i'r cynllun nofio am ddim ledled Cymru o ganlyniad i'r gwaith y gofynnodd Llywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru ei gyflawni o ran comisiynu adolygiad annibynnol i edrych ar ba mor dda roedd y cynllun nofio am ddim yn cyflawni ei amcanion, yn enwedig o ran cynnig cyfleoedd i bobl hŷn nofio, ond hefyd o ran sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau mwy difreintiedig, yn gallu manteisio ar gyfleoedd i nofio hefyd. Yr hyn a ganfu’r adolygiad oedd mai 6 y cant yn unig o bobl hŷn a oedd yn manteisio ar yr opsiwn i nofio am ddim, ond canfu hefyd nad oedd pobl ifanc mewn cymunedau tlotach yn manteisio ar y cyfleoedd, sy'n achos pryder. Felly, mae'r adolygiad ei hun yn ceisio newid hynny o ran sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael y cyfle, ac ar yr un pryd, sicrhau bod pob cymuned yn cael cyfle i—neu fod pob awdurdod lleol yn darparu rhywfaint o nofio am ddim, o leiaf, i bobl dros 60 oed. Os dymuna Mohammad Asghar ysgrifennu ataf gyda'r enghreifftiau sydd ganddo o ran sut y mae'r newid wedi effeithio ar unigolion yn y gymuned y mae'n ei chynrychioli, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i'w harchwilio gyda'r Dirprwy Weinidog.
O ystyried eich bod am greu swyddi gwell yn nes at adref, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn cytuno bod taer angen darparu swyddi â chyflogau da yn y Rhondda, mae'n un o'r pethau sy'n codi amlaf yn fy nghymorthfeydd stryd, ond nid yw pobl yn argyhoeddedig eich bod yn mynd i gyflawni hynny. Felly, o gofio hynny, a allwch ddweud wrthym beth yw'r gyllideb ar gyfer tasglu'r Cymoedd, a faint o'r gyllideb hon, os oes un, sy'n cael ei dyrannu ar gyfer ysgogi gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf—yn benodol yn y Rhondda?
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni nodau tasglu'r Cymoedd, felly fe welwch gamau gweithredu yng nghynllun y tasglu hwnnw sy'n ymwneud â thai, fe welwch gamau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, ac eitemau eraill hefyd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud o ran manylion y cynllun yw bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi archwilio'r cynllun cyflawni a bydd yn gwneud datganiad i'r Cynulliad yr wythnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond mae rhan o'r gwaith hwnnw'n cynnwys adolygiad o gyllideb £25 miliwn y canolbwyntiau strategol, er enghraifft, ac mae'n trafod enghreifftiau o arferion gorau gyda rhanddeiliaid tasglu'r Cymoedd yno.
Ceir nifer o enghreifftiau eraill ar draws gwahanol bortffolios o'r modd rydym yn buddsoddi yn y Rhondda, ond nid yw'n wir y byddem yn cyflwyno ein gwybodaeth ar sail etholaethol ynglŷn â sut y gwneir y buddsoddiadau hynny. Ond enghreifftiau ym maes trafnidiaeth—gan y credaf fod hwnnw'n un maes a oedd yn cael ei ystyried gan yr Aelod—rydym yn datblygu uwchgynlluniau trafnidiaeth integredig, gan weithio gydag awdurdodau lleol ym Merthyr Tudful, Caerffili a'r Rhondda, ac rydym wedi dyrannu dros £600,000 o gyllid i gomisiynu'r astudiaethau dichonoldeb a chynllunio hynny, gan ein bod yn ymwybodol o bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth da i gynorthwyo pobl i gyrraedd swyddi da.
Weinidog, y rhwystr mwyaf i wella ffyniant economaidd Cwm Tawe a Chwm Nedd yw diffyg seilwaith. Er gwaethaf dau ddegawd o gronfeydd strwythurol yr UE, nid oes trafnidiaeth ddibynadwy gan bobl yn fy rhanbarth o hyd. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf i wella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd yn fy rhanbarth fel y gall fy etholwyr gyrraedd eu gwaith ar amser? A fydd eich cyllideb yn rhoi blaenoriaeth i seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus? [Torri ar draws.] Anwybodus. [Torri ar draws.] Ydych, wir.
Nid ydym am glywed enllibion personol yn cael eu gweiddi ar draws y Siambr. Felly, os cawn roi'r gorau i wneud hynny, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Nid yw galw Aelod Cynulliad arall yn 'anwybodus' yn dderbyniol, Alun Davies. Ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog ymateb. Rhowch y gorau iddi, os gwelwch yn dda.
Mae Llywodraeth Cymru yn wirioneddol awyddus i gefnogi’r syniad o fetro bae Abertawe, sy'n rhywbeth y credaf fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig ynddo, o ran sut y gall ddarparu ymateb mwy integredig i anghenion trafnidiaeth pobl sy’n byw ym mae Abertawe ac ardaloedd ehangach. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i gynnal ymarfer cwmpasu i weld beth fyddai'n bosibl. Yn amlwg, dyna weledigaeth fwy hirdymor ar gyfer yr ardal, felly mae angen inni edrych i weld beth y gallem ei wneud yn y tymor mwy uniongyrchol i gefnogi ein gwasanaethau bysiau, er enghraifft. Felly, gwn fod Ken Skates yn awyddus i ddatblygu gwaith eithaf cyffrous mewn perthynas â gwella pwerau awdurdodau lleol dros wasanaethau bysiau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn yr ardaloedd hynny'n gallu ymateb yn well i anghenion pobl leol. Ond rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn anad dim oherwydd y digwyddiadau llygredd a welwn yn ein rhan arbennig ni o'r byd hefyd.
Nid yw Rhianon Passmore yma i ofyn cwestiwn 4 [OAQ54716], felly cwestiwn 5, Lynne Neagle.