– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Eitem 6 yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ardoll ar barcio yn y gweithle. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma'r slot 30 munud, lle mae gan Aelodau ategol dair munud i siarad, a lle bydd gan y Gweinidog chwe munud i ymateb? Felly, symudwn yn awr at y cynnig ar ardoll ar barcio yn y gweithle, a galwaf ar Jenny Rathbone i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7188 Jenny Rathbone
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;
b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;
c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;
d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;
e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. I ddilyn yn dwt o'r addewidion plastig, os ydym o ddifrif am newid hinsawdd, mae angen inni ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i gael y newid ymddygiad sydd ei angen arnom. Yn unol â'r ardoll o 5c ar fagiau siopa, byddai ardoll gymedrol ar barcio yn y gweithle yn gwneud i gyflogwyr a gweithwyr feddwl am gost amgylcheddol defnyddio'r car i gyrraedd y gwaith, a gwella cynaliadwyedd eu gweithrediadau busnes.
Faint o fusnesau sy'n ystyried hyn mewn gwirionedd a faint ohonynt sydd â chynllun teithio llesol i'w rannu â'u gweithwyr? Mae un gan rai ohonynt, yn amlwg. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn adleoli o Lanisien i ganol dinas Caerdydd, lle na fydd fawr neb o'u staff yn defnyddio ceir preifat i gyrraedd y gwaith. Mae'r BBC yn gorfod meddwl am hyn hefyd, wrth iddynt symud o Landaf i'r Sgwâr Canolog. Gallai ardoll ar barcio yn y gweithle ganolbwyntio meddyliau'r BBC ar faint o gerbydau sydd eu hangen arnynt mewn gwirionedd ar gyfer ymateb yn gyflym i newyddion sy'n torri, a chludo cyfarpar recordio drud, a thrwm weithiau, y cytunaf fod angen ei wneud, a siarad yn ymarferol, yn un o'u cerbydau pwrpasol.
Byddai'r tâl hwn yn cael ei godi ar y defnydd o leoedd parcio i gymudwyr a byddai'n ategu Deddf aer glân yn y dyfodol, yn ogystal â'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Mae wedi'i gynllunio i annog cyflogwyr i reoli, ac o bosibl i leihau nifer y lleoedd parcio a ddarparant yn y gweithle, neu i weld a ellid defnyddio'r adnodd hwnnw'n fwy effeithiol ar gyfer rhyw weithgarwch arall. Byddai'n rhoi chwistrelliad o arian i gyrff cyhoeddus ar gyfer rhoi hwb i drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, lle mae'r rhain yn annigonol, sydd, yn anffodus, yn wir yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru. Nid oes unman yng Nghymru yn mwynhau'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd gan wledydd eraill tebyg yn Ewrop.
Cyflwynodd Nottingham ardoll ar barcio yn y gweithle yn 2012. Mae hon yn llawer haws i'w gweithredu na thâl tagfeydd safonol, ac roeddent yn amlwg yn nodi bod y 10 lle parcio cyntaf am ddim. Nid yw'n berthnasol ar gyfer lleoedd parcio i'r anabl, gwasanaethau brys rheng flaen neu gerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo nwyddau fel rhan o'u busnes. Mae parcio staff mewn ysbytai ac mewn safleoedd eraill hefyd wedi'u heithrio. Mae'r effaith wedi bod yn wych. Mae ansawdd yr aer wedi gwella, mae allyriadau nitrogen ocsid wedi gostwng ac mae wedi cynhyrchu £44 miliwn dros y saith mlynedd ddiwethaf, arian sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau trafnidiaeth. Mae'r defnydd y pen o fysiau a thramiau yn Nottingham yn uwch nag unman arall yn y wlad y tu allan i Lundain. Cyflogwyr yn hytrach na chyflogeion sy'n gyfrifol am dalu'r ardoll ar barcio yn y gweithle, er bod wyth o bob 10 cwmni yn Nottingham yn trosglwyddo'r tâl i'w gweithwyr, ac eleni, mae'n £415 y flwyddyn neu'n £8 yr wythnos. Felly, o leiaf mae'n annog gyrwyr i ystyried mathau eraill o drafnidiaeth, neu rannu ceir fan lleiaf.
Rhoddwyd y pŵer i osod ardoll ar barcio yn y gweithle i awdurdodau trafnidiaeth yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, ond nid oes unrhyw un o awdurdodau lleol Cymru wedi manteisio ar hyn eto. Ai'r rheswm am hyn yw nad ydynt yn ymwybodol o'u pwerau newydd neu a ydynt wedi'i osgoi'n fwriadol?
Fe wnaeth Caerdydd gynnwys ardoll ar barcio yn y gweithle mewn papur gwyrdd yn ddiweddar a dweud eu bod yn dal i'w ystyried. Ac ar ben hyn i gyd mae dyfarniad yr Uchel Lys y llynedd yn erbyn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan gynnwys Caerdydd, i leihau allyriadau nitrogen ocsid yn yr amser byrraf posibl. Mae'n rhaid inni ein hatgoffa ein hunain fod llygredd aer yng Nghaerdydd bellach yn waeth na Manceinion neu Birmingham, sy'n ddinasoedd llawer mwy o faint.
Nid Caerdydd yn unig sydd wedi methu dilyn esiampl Nottingham. Nid oes gan Gasnewydd nac Abertawe unrhyw gynlluniau chwaith ac mae Wrecsam yn cadw golwg ar sut y bydd hyn yn datblygu mewn awdurdodau lleol eraill i gydnabod y cyfraniad posibl tuag at fynd i'r afael â thagfeydd yng nghanol trefi. Yn ddiweddar maent wedi gosod mesurau rheoli parcio ar eu cynghorwyr a'u staff eu hunain sy'n defnyddio adeiladau'r cyngor yng nghanol y dref.
Mae problem gyda gadael hyn i awdurdodau lleol. Gallai'r ardoll ar barcio yn y gweithle yn yr Alban, a basiwyd yn ddiweddar gan Senedd yr Alban, arwain at gynnydd mawr mewn incwm ar gyfer, dyweder, Caeredin, a byddant yn sicr o'i wario ar gynigion trafnidiaeth lleol, ond ni fydd yn datrys y tagfeydd a achosir gan gymudwyr yn dod o fannau pellach, fel ardaloedd y ffin er enghraifft, lle mae'r ddarpariaeth drafnidiaeth mor drychinebus fel bod pobl yn gorfod teithio yn eu ceir.
Felly, byddai'r Bil hwn yn galluogi Cymru gyfan i ganolbwyntio ar ble mae angen ardoll ar barcio yn y gweithle yn unol â nodweddion penodol pob awdurdod lleol a lle gallent ei haddasu ar gyfer eu hamgylchiadau lleol eu hunain. Byddai angen i Trafnidiaeth Cymru a'r bargeinion dinesig chwarae rôl yn pennu'r modd y cymhwysir yr arian ar gyfer mesurau a fydd yn lleihau cymaint â phosibl y nifer sy'n defnyddio car i gymudo i'r gwaith.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf rai pryderon ynglŷn â'r cynnig hwn. Wedi dweud hynny, credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn. Credaf ein bod yn cydnabod bod yna rai syniadau da y tu ôl i'r cynigion hyn. Ac wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei chryfhau a llwybrau teithio llesol yn cael eu mabwysiadu. Rydym yn cytuno â hynny i gyd. Ac mae angen lleihau tagfeydd traffig yn ein prif ganolfannau trefol a helpu i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd.
Mae gennyf rai problemau gyda'r cynnig. Drwy osod y baich ar y busnesau, a allai ei drosglwyddo i'r gweithwyr wedyn, fel y dywedoch chi, Jenny, mae'n fy nharo i y gallai hon fod yn ardoll a allai niweidio rhai o'r bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf, ac nid wyf yn credu mai dyna yw'r bwriad gwreiddiol y tu ôl i hyn.
Rydym yn siarad am y metro ac mae hwnnw'n syniad gwych, ond rydym yn dal i fod ymhell o weld hynny'n cael ei wireddu'n llawn yng Nghaerdydd. Rydych yn sôn am Nottingham, a byddai'n wych cael mwy o lwybrau tram, mwy o lwybrau bysiau a mwy o drafnidiaeth gynaliadwy, ond lle nad ydych eto wedi cyrraedd y lefel honno, rwy'n ofni y byddai pobl yn gorfod talu'r tâl hwn heb gael y dewis amgen hwnnw a grybwyllwyd gennych, Jenny.
Yn fy ardal i, Sir Fynwy, mewn ardaloedd gwledig, mae problem diffyg dewisiadau amgen yn lle'r car yn fwy amlwg fyth. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn llai na digonol; mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond dibynnu ar y car. Mae'n rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn falch, ers cyflwyno'r argyfwng hinsawdd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fod rhagdybiaeth wedi bod yn fwy diweddar yn erbyn adeiladu a rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan drafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy'n credu bod y sefyllfa'n newid yn raddol. Ond tybed a yw hi ychydig yn rhy gynnar i'r mathau hyn o fesurau treth a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl sy'n teithio i'r gwaith, fel rwy'n dweud.
Rwy'n credu y dylem geisio rhoi anogaeth gadarnhaol, ac rwy'n credu bod cyfres o fesurau yma rydych chi wedi sôn amdanynt, Jenny, y gallech, dros amser, eu gweithredu'n llawn pan fydd y dewisiadau amgen hynny yno. Wrth gwrs, rydym eisiau annog pobl i ddefnyddio ceir trydan ar hyn o bryd; mae'n ddyddiau cynnar ar y rheini o ran eu datblygiad a'r nifer sy'n eu defnyddio. A hyd y gwelaf i, byddai'r ardoll hon yn berthnasol i bob math o gerbydau, cerbydau trydan hefyd, felly tybed a ydym o ddifrif eisiau gwneud hynny ar hyn o bryd, a ninnau eisiau annog pobl i newid o gerbydau sy'n llosgi tanwydd ffosil i gerbydau trydan, neu gerbydau trydan ar y ffordd, a dylem wneud hynny drwy eu hannog yn hytrach na chyflwyno'r hyn a fyddai, gadewch i ni fod yn onest, yn dreth.
Mae'r cynnig yn cyfeirio at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i'r ddeddfwriaeth honno fynd drwy'r lle hwn; rwy'n cofio craffu arni fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes. Roedd llawer o fwriadau da yn sail i'r Ddeddf honno, ond dyma ni nifer o flynyddoedd wedyn, ac mae llawer o amcanion y Ddeddf honno'n dal i fod heb eu gwireddu. Felly, o ran hynny, Jenny Rathbone, rwy'n credu eich bod wedi cyflwyno rhai syniadau da, ond rwy'n credu ein bod ychydig yn rhy—nid ydym wedi cyrraedd y pwynt eto lle gallaf ddweud y byddai'r tâl hwn yn cyflawni'r amcanion y byddem yn hoffi eu gweld, ac yn osgoi cosbi rhai o'r bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf.
Rydw innau'n falch i gael cyfrannu i'r drafodaeth yma hefyd. Wrth gwrs, dyw'r cynnig yma ddim yn ateb ar ei ben ei hun, ond yn sicr mae e'n rhywbeth sydd â chyfraniad pwysig i'w wneud, yn y lle cyntaf, fel rydyn ni wedi ei glywed, i leihau lefelau traffig a thagfeydd wrth gwrs, a hynny â goblygiadau llesol o safbwynt lleihau llygredd awyr. Ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu creisis iechyd cyhoeddus, gyda tua 2,000 o farwolaethau oherwydd llygredd awyr yng Nghymru bob blwyddyn, heb sôn, wrth gwrs, am y rheini sydd yn dioddef anhwylderau yn sgil hynny yn ogystal. Mi fyddai lleihau allyriadau yn helpu i daclo difrod amgylcheddol, llygredd dŵr, llygredd yn y pridd, a hynny'n dod â manteision i fioamrywiaeth hefyd. Ac mi fyddai fe hefyd yn helpu i annog teithio llesol ac hynny yn ei dro yn helpu i daclo gordewdra, a hefyd i daclo ffordd o fyw eisteddog—gair Cymraeg y dydd: eisteddog, sedentary lifestyle, ffordd o fyw eisteddog. A byddai hefyd, wrth gwrs, yn bwysig o safbwynt mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ac annog pobl i fabwysiadu teithio llesol yn ehangach.
Felly, rwy'n credu bod yna fanteision trawsbynciol i'r cynnig hwn. Ac wrth gwrs, mae Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth oherwydd rydym yn gweld yr Alban yn awr yn bwriadu cyflwyno'r ardoll hon drwy eu Bil trafnidiaeth. Ac fel y clywsom, mae eisoes yn cael ei weithredu gan rai cynghorau yn Lloegr—ac mae Nottingham a Birmingham yn ddau o'r rheini. Felly, nid cynnig breuddwyd gwrach yw hwn; mae'n digwydd eisoes.
Nawr, mae cwestiynau'n codi yn ei gylch, wrth gwrs, ac rydym wedi crybwyll rhai o'r rheini—y cyfeiriad yn gynharach at y baich yn cael ei drosglwyddo i gyflogeion a gweithwyr. Mewn wyth o bob 10 o'r achosion y cyfeirioch chi atynt wrth agor y drafodaeth hon rwy'n credu, felly mae angen ystyried pwy y gellid eu heithrio rhag gorfod talu'r ardoll. Yn amlwg, mae angen i ni feddwl am bobl ag anghenion penodol nad ydynt, efallai, yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am wahanol resymau. Mae'n rhaid i ni ystyried rhieni â phlant yn ogystal, y bydd yn rhaid i lawer ohonynt ystyried y daith i'r ysgol—ac mae mynd i'r afael â'r daith ysgol yn ddadl arall ynddi ei hun—ond mae angen ystyried hynny hefyd. Ac wrth gwrs, gallai methu fforddio ardoll barcio fod yn rhwystr neu atal rhieni newydd rhag dychwelyd i'r gwaith o bosibl. Felly, mae angen ystyried hynny i gyd. Byddai angen i unrhyw ardoll fod yn gymesur â chyflog gweithiwr, wrth gwrs, yn ogystal â chost ac ymarferoldeb trafnidiaeth gyhoeddus. Ond gwyddom, wrth gwrs, fod 80 y cant o'r rhai sy'n cymudo yng Nghymru yn defnyddio car, 4 y cant yn unig sy'n defnyddio'r bws, mae 4 y cant yn defnyddio'r trên, ac mae 2 y cant yn defnyddio beic. Felly, gwyddom fod angen mynd i'r afael â hyn a chredaf y byddai hwn yn gam cadarnhaol yn hynny o beth.
Er y gallwn ddeall nod y cynnig hwn, sydd wedi'i gynllunio i annog pobl allan o'u ceir ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath yn debygol o niweidio gweithwyr llai cefnog yr awdurdod lleol. Mae'n ddigon posibl y gallai'r rhai ar gyflogau swyddogion gweithredol fforddio'r ardoll ac y byddent yn parhau fel o'r blaen, tra gallai orfodi rhai llai cefnog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai fod yn anghyfleus neu'n annigonol. Mae'n rhaid inni gydnabod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs, Llyr.
Dyma'r pwynt yr hoffwn ei wneud: oni fyddai'n synhwyrol, felly, i'r rhai sy'n ennill mwy dalu ardoll uwch?
Ie, rwy'n cytuno—mae'n ddigon posibl fod hynny'n wir, ond efallai fod gweinyddu hynny'n eithaf anodd hefyd. Ond rwy'n cytuno, mae hwnnw'n bosibilrwydd, wrth gwrs.
Y tu allan i'r cytrefi mawr, fel Caerdydd, rhaid inni gydnabod y gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn afreolaidd ac yn brin, yn enwedig ar yr adegau y byddai angen i weithwyr llaw yr awdurdod lleol gael mynediad ati, yn hytrach na'r staff swyddfa a allai fod yn dechrau gwaith yn hwyrach neu sy'n mwynhau'r gallu i weithio oriau hyblyg.
Mae'n ffaith syml fod yr holl gynlluniau seilwaith yn y 40 mlynedd ddiwethaf a mwy wedi cael eu cynllunio o amgylch y car, sy'n golygu nad oes gan lawer o weithwyr, boed yn weithwyr cyhoeddus neu breifat, unrhyw ddewis ond defnyddio eu ceir eu hunain. Felly, mae'n rhaid inni dderbyn y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser cyn y bydd deddfwriaeth fel yr un arfaethedig yn ymarferol mewn gwirionedd. Mae yna bosibilrwydd hefyd—na, tebygolrwydd—y byddai gweithwyr awdurdodau lleol yn rhoi'r gorau i ddefnyddio meysydd parcio i weithwyr yr awdurdod ac yn defnyddio meysydd parcio cyhoeddus am ddim yn lle hynny, gan gyfyngu ar argaeledd llefydd parcio i'r rheini sy'n dymuno defnyddio cyfleusterau'r dref leol i siopa ac ati.
Gan mai i'r sector cyhoeddus yn unig y byddai unrhyw ddeddfwriaeth yn gymwys, ni all y Llywodraeth orfodi cyflogwyr preifat i weinyddu ardoll o'r fath. Byddai gweithwyr cyhoeddus, i bob pwrpas, yn sybsideiddio'r seilwaith trafnidiaeth ar gyfer gweithwyr preifat. Byddai cyflogeion preifat hefyd yn elwa ar unrhyw fesurau lliniaru traffig a fyddai'n digwydd o ganlyniad i'r ardoll. Er mor dda yw'r bwriad, rwy'n ofni y byddai unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, i bob pwrpas, yn wrthgynhyrchiol o ran ei hamcanion.
Nid oes neb eisiau gorfod gyrru i'r gwaith, na chael y gost o redeg car sy'n mynd i dreulio'r rhan fwyaf o'r amser wedi'i barcio y tu allan i'w gweithle. Ond mae nifer o bobl yn gorfod gwneud hynny am nad yw'r Llywodraeth hon ac eraill wedi gallu darparu trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol yn lle hynny, heb sôn am un sydd yr un mor gyfleus â char. Mae polisïau olynol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi arwain at osod parthau masnachol mewn lleoliadau nad oes modd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r un peth yn wir am dai. Felly, os gwelwch yn dda, rhowch y gorau i drin gyrwyr a busnesau fel pe bai'r tagfeydd a'r llygredd y maent yn eu hachosi yn fai arnynt hwy. Nid yw hynny'n wir. Bai pobl fel y Llywodraeth hon ac awdurdodau lleol ydyw am fethu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae ardrethi busnes yn gweithio oddi ar werth ardrethol y gweithle ac mae cyfleusterau parcio ar y safle eisoes yn cael eu cynnwys fel ffactor yn hynny. Felly, byddai'r cynnig deddfwriaethol hwn yn golygu bod busnesau'n gorfod talu ddwywaith am yr un peth. Bydd busnesau naill ai'n trosglwyddo'r ardoll i'w gweithwyr, fel y mae llawer yn amlwg yn ei wneud, neu bydd eu cwsmeriaid yn dioddef ergyd ariannol a fydd yn cyfyngu ar y gallu i ehangu a chreu swyddi. Ac i beth? Syniad cyfeiliornus, amwys, heb ei ystyried yn ddigonol y bydd cynghorau'n defnyddio'r dreth i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac annog teithio llesol. Breuddwyd llwyr yw hynny. Ffordd yw hon o gael ychydig mwy o arian i gynghorau allu ariannu gwasanaethau craidd y mae'r Llywodraeth hon wedi methu rhoi cefnogaeth briodol iddynt hyd yma. Pe na bai hynny'n wir, byddai'r cynnig hwn yn gwneud mwy na galluogi cynghorau i ddefnyddio'r arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, byddai'n eu gorfodi i wneud hynny. Ond nid yw'n gwneud hynny, a nodaf nad oes sôn am glustnodi unrhyw un o'r cronfeydd ardollau.
Drwy ychwanegu trethi ac ardollau newydd, bydd Cymru'n lle llai deniadol i gychwyn busnes neu i ddod â'ch busnes iddo. Ni fydd y cynnig hwn yn lleihau tagfeydd nac allyriadau carbon oni bai ei fod yn arwain at lai o gyflogaeth yng Nghymru, fel y gallai wneud. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r Bil hwn. Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn trafnidiaeth amgen i weithwyr a gwella cynllunio trefol, ond yn lle hynny maent yn cynnig treth newydd. Maent eisiau ymddangos fel pe baent yn gwneud rhywbeth, ond nid ydynt eisiau gwario unrhyw arian arno, felly maent wedi meddwl am ffordd o godi mwy o dreth ar Gymru. Rwy'n credu ei fod yn syniad ofnadwy. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae deddfwriaeth sylfaenol yn bodoli o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sydd eisoes yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr weithredu ardollau parcio yn y gweithle. Nid wyf am fanylu gormod ar y Ddeddf, ond hoffwn gadarnhau ei bod yn cynnwys darpariaeth fanwl ar y defnydd o'r enillion net o gynlluniau, ac yn darparu mai'r elw net yn unig sydd ar gael—yn unig. Roedd Michelle Brown yn hollol anghywir i wneud rhagdybiaethau yn deillio o ddiffyg tystiolaeth. Ni chaiff yr awdurdod eu defnyddio ac eithrio i hwyluso'r broses o gyflawni polisïau trafnidiaeth leol yr awdurdod traffig lleol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Fel y cyfryw, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid cyflwyno mesurau o'r fath yn eu hardal ai peidio, ond nid yw hynny'n golygu trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn syml i awdurdodau lleol ymdopi â'r broblem. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu, ac ar 29 Ebrill eleni, fe wnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym yn arwain ac yn ymateb i'r galwadau am gamau gweithredu gan bobl o bob oed sy'n pryderu am effeithiau newid hinsawdd. Fel y mae'r Aelodau wedi dweud, mae Cymru'n hynod ddibynnol ar y car ar hyn o bryd. Nid oes dadl o gwbl ynglŷn â hynny. Mae cyfaint y traffig wedi cynyddu dros draean ers datganoli, gan gyrraedd uchafbwynt o 29.4 biliwn cilomedr cerbyd yn 2018. Roedd y rhan helaethaf o'r traffig hwnnw, 94 y cant, yn geir, tacsis a faniau. Felly, mae'n bosibl iawn y bydd mynd i'r afael â'n gorddibyniaeth reddfol ar geir a'n galluogi i symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn heriol, ond mae'n gwbl angenrheidiol.
Gall pob math o newid ymddygiad fod yn heriol, boed yn atal ysmygu mewn mannau cyhoeddus neu ddod â'n perthynas â bwyd brys afiach i ben, ond mae'n gwbl angenrheidiol. A bydd cydnabod yr hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy, sy'n rhoi blaenoriaeth i ddulliau teithio cynaliadwy, yn un o gonglfeini allweddol strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru sydd i'w chyhoeddi yn 2020. Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oed a phob gallu yn hyderus y gallant wneud teithiau dyddiol drwy gerdded, drwy feicio neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gwneud hynny'n ddiogel.
Yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i greu a gwella seilwaith teithio llesol. Ac ers mis Rhagfyr 2017, mae gan bob awdurdod lleol gynlluniau ar waith ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol integredig i 142 o'r aneddiadau mwyaf yng Nghymru. Ac yn 2018, sefydlwyd y gronfa teithio llesol i greu'r rhwydweithiau hyn.
Nododd Jenny Rathbone enghraifft ardderchog Nottingham, lle mae arweinwyr lleol wedi llwyddo i weithredu ardollau parcio sy'n codi refeniw yn y gweithle. Mae'r ardollau wedi bod yn drawsnewidiol, ac mae'n profi unwaith eto fod Michelle Brown yn gwbl anghywir i wneud rhagdybiaethau. Mae'r cynllun penodol hwnnw wedi codi £9 miliwn o refeniw. Mae'n costio tua £500,000 i'w weithredu, ac mae'r refeniw net wedi'i fuddsoddi mewn darpariaeth dramiau a bysiau drawsnewidiol yn y ddinas.
Yn sicr felly, buaswn yn annog awdurdodau lleol i ystyried defnyddio'r Ddeddf Trafnidiaeth i leihau tagfeydd mewn mannau trefol, a chodi arian i'w fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol drwy wneud hynny. Mae gwrthdroi'r dirywiad mewn nawdd ar gyfer bysiau yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallwn leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, a darparu dewisiadau amgen yn lle ceir preifat, fel yr amlygwyd gan Nick Ramsay yn ei gyfraniad. A dyna'n union yw bwriad y Bil bysiau. Ar yr un pryd, rwyf wedi darparu £1 filiwn ar gyfer pedwar cynllun peilot integredig ar drafnidiaeth seiliedig ar alw a fydd yn profi mathau arloesol o deithio ar fysiau seiliedig ar alw ledled Cymru.
Yn 2018 ymgynghorwyd ar fframwaith parth aer glân i Gymru, a chyhoeddwyd crynodeb o'r canlyniadau ym mis Ebrill eleni. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol, sy'n ystyried opsiynau i fynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, i gefnogi cyflawni terfynau'r UE, yn ogystal â chamau gweithredu i reoli ansawdd aer lleol, yn cynnwys rôl ardollau ar barcio.
Ddirprwy Lywydd, nid oes dim i atal awdurdodau lleol rhag gwneud yr hyn y mae Jenny Rathbone yn ei argymell, a hynny'n briodol, rwy'n teimlo. Mae'r pwerau yno, mae'r rhesymau dros eu gweithredu a'u defnyddio'n glir. Ac felly, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn annog cefnogwyr y cynllun i bwyso ar eu hawdurdodau lleol i ystyried yr ymyrraeth brofedig hon.
Diolch. A gaf fi ofyn i Jenny Rathbone ymateb i'r ddadl yn awr?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, oherwydd mae'n bwysig iawn, wrth fwrw ymlaen â'r mesur hwn, os caniatewch imi wneud hynny, ein bod yn craffu'n briodol ar rai o'r anfanteision a allai godi.
Rwy'n llwyr gydnabod cyfyng-gyngor pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n cael anhawster i gadw car ar gyflogau isel, yn syml oherwydd nad oes unrhyw ffordd arall o gyrraedd yno, ac mae'n rhaid inni gydnabod hynny, ond ein lle ni, y wladwriaeth, yw ymyrryd i sicrhau bod gan bawb opsiynau. Mae'n wir fod cerbydau trydan yn lleihau allyriadau tanwydd ffosil, ond nid ydynt, ar eu pen eu hunain, yn lleihau allyriadau carbon. Felly, nid yw hynny'n datrys y broblem mewn gwirionedd.
Mae'r anabl wedi'u heithrio yng nghynllun Nottingham, ac yn amlwg, buaswn yn disgwyl y byddai llefydd parcio i'r anabl yn cael eu heithrio yn yr un newydd.
Nawr, crybwyllwyd y daith i'r ysgol, gan Llyr rwy'n credu. Ceir rhai ysgolion yn fy etholaeth lle maent yn defnyddio ardal chwarae gyfyngedig iawn fel maes parcio staff. Rydym wedi colli golwg ar yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yma. Felly, os nad yw'n gwneud unrhyw beth arall, rwy'n credu y byddai'r ardoll ar barcio yn y gweithle yn gorfodi pobl i feddwl ynglŷn â pha ddefnydd a wnânt o ofod sydd ar hyn o bryd yn cael ei lenwi gan geir.
Ar bwynt David Rowlands, rhaid imi bwysleisio bod y gydymffurfiaeth yn Nottingham yn 100 y cant. Mae pob cyflogwr yn talu. Nid y sector cyhoeddus yn unig sy'n talu amdano, ond pob cyflogwr sy'n defnyddio mannau parcio yn eu busnes. Oes, mae yna rai pethau pwysig i'w hystyried, fel pobl sy'n gweithio oriau anghymdeithasol. Rhoddodd ASLEF dystiolaeth i Senedd yr Alban a nodi bod angen i yrrwr y trên cyntaf allan o'r depo ddefnyddio eu car i gyrraedd yno. Yn sicr. Yn yr un modd, byddai rhywun sy'n gweithio'r sifft nos eisiau dod adref am chwech o'r gloch y bore ar ôl wyth awr yn y gwaith pan na fydd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o bosibl.
O ran sut y gallai gael ei ddefnyddio i atgyfnerthu'r anghydraddoldeb rhwng ardaloedd siopa canol y dref lle codir tâl am barcio ac ardaloedd siopa ar gyrion y dref lle na chodir tâl am barcio, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddai'n werth ei ystyried. Ond mae'r ardoll, fel y dywedodd y Gweinidog, wedi'i chlustnodi ar gyfer cynigion trafnidiaeth yn unig, ac ni ddylid ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth arall. Ac rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud y bydd cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn uwch na defnydd o'r car preifat yn yr hierarchaeth newydd o flaenoriaethau a gyhoeddir y flwyddyn nesaf. Felly rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf diddorol i ddod o hyn yw'r syniad o raddfa symudol ar gyfer gweithwyr, a fyddai, yn amlwg, yn gorfod bod yn addasiad o'r hyn a wneir yn Nottingham ar hyn o bryd.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe gawn bleidlais ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.