1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2019.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54789
Byddwn yn parhau i gefnogi'r economi drwy'r cynllun gweithredu ar yr economi, ac yn achos busnesau yng Nghanol De Cymru, drwy brif swyddog rhanbarthol de-ddwyrain Cymru.
Diolch. Nawr, mae trafnidiaeth yn rhan allweddol o'r economi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn o sôn yn barod y prynhawn yma am y broblem gyda gorlenwi ar y gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym wedi clywed am hynny yng nghwm Rhymni ac rydym wedi clywed am hynny ar reilffordd Maesteg, ond wrth gwrs, mae gorlenwi difrifol yn nodwedd o bob un o'n rheilffyrdd, bron â bod. Nawr, rydych wedi sôn am gynyddu'r capasiti, ond wrth gwrs, rydym oll yn aros, ac wedi bod yn aros ers amser maith, am welliant. Ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol, nodaf eich bod yn addo gostyngiad o draean i bris tocyn tymor. Wel, mae pob un ohonom yn sylweddoli bod Corbyn yn addo'r ddaear mewn ymgais i lwgrwobrwyo'r etholwyr, ond yn ôl yn y byd go iawn, sut ar y ddaear y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymdopi â'r cynnydd tebygol yn y galw pan ydych eisoes yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaeth addas?
Wel, yn wahanol i'r adeg pan oedd cytundeb y fasnachfraint flaenorol yn cael ei lunio, pan oeddem yn gweithio ar drefniadau'r fasnachfraint gyfredol, gwnaethom sicrhau bod gwahanol weithgarwch modelu teithwyr yn cael ei ystyried fel nad oedd gan y gweithredwr a'r partner datblygu unrhyw amheuaeth ynghylch pa dasgau y byddai'n rhaid eu cwblhau i ateb y galw gan deithwyr. Felly, o ganlyniad, mae cyfleoedd gwirioneddol a sylweddol i allu cynyddu capasiti ar bwyntiau penodol yn y contract, yn ôl yr angen. Yn wahanol i'r cytundeb blaenorol, mae Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu mewn modd hyblyg o dan y cytundeb hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn buddsoddi £5 biliwn yn y rhwydwaith rheilffyrdd dros y 15 mlynedd nesaf.
Weinidog, ers 2012, mae cyfraddau gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu o 69 y cant i 75 y cant—mae llawer o hyn, rwy'n credu, wedi digwydd drwy gydweithredu gweithredol y tu ôl i'r llen, beth bynnag, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwy’n eich canmol am y gwaith hwnnw. Ymddengys i mi fod sgiliau a hyfforddiant yn arbennig o bwysig i gyflawni'r ffigurau gwell hyn, a chan eich bod yn pwysleisio'r economi sylfaenol, ymddengys i mi fod y dull hwn bellach yn dwyn ffrwyth yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Yn sicr. Ni allwn gytuno mwy â David Melding, ac o ran cronfa her yr economi sylfaenol, rwy'n falch fod Cymdeithas Tai Rhondda wedi llwyddo i sicrhau £100,000 i adfywio canol tref Tonypandy gyda dulliau newydd creadigol o ddefnyddio sgiliau lleol a sicrhau bod dyfodol cynaliadwy a hirdymor i ganol y dref.