Cydraddoldeb yn y Gyfraith

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

3. Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael hefo'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â chydraddoldeb yn y gyfraith, yn sgil adroddiad Comisiwn Thomas? OAQ54863

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 7 Ionawr 2020

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon fod pwyllgor Cabinet ar gyfiawnder yn cael ei greu i fwrw ymlaen gydag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a minnau yn aelodau o'r pwyllgor Cabinet hwnnw, a bydd mynediad at gyfiawnder a chydraddoldeb gerbron y gyfraith yn faterion allweddol wrth inni ystyried sut i fwrw ymlaen gydag argymhellion yr adroddiad.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:42, 7 Ionawr 2020

Mae'n glir bod system gyfiawnder wan yn arwain at anghydraddoldeb drwyddi draw, ac mae anghydraddoldeb i'w weld yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad gan gomisiwn Thomas, ac mae o'n sôn am orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig fel troseddwyr yn y system gyfiawnder a diffyg cyfleusterau i fenywod a diffyg gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl tu mewn i'r system. Ac mae'r adroddiad yn sôn y gallai'r system gyfreithiol bresennol arwain at anfanteision difrifol i bobl Cymru ac, yn wir, fod hynny'n digwydd ar hyn o bryd—anfanteision nad ydy pobl yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon yn eu profi. Beth ydy eich gweledigaeth hirdymor chi ar gyfer dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru o ran creu cydraddoldeb? Dwi'n clywed y camau cyntaf dŷch chi'n mynd i gymryd, ond beth ydy eich gweledigaeth tymor hir chi?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:43, 7 Ionawr 2020

Wel, rŷn ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, yn galw am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yma i Gymru, fel ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth cyfiawnder sydd yn gymwys i bob elfen o gymdeithas yma yng Nghymru, a sicrhau—wnaeth Siân Gwenllian sôn am rôl menywod a sôn am leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder—bod darpariaeth wahanol ar gael i fynd i'r afael â'r sialensiau yn y ddau cohort hynny. Er enghraifft, rŷn ni wedi bod yn glir iawn, fel Llywodraeth, ein bod ni ddim yn credu bod digon o gyfleusterau yma i fenywod yng Nghymru. Dŷn ni ddim eisiau gweld carchar i fenywod, ond rŷn ni eisiau gweld darpariaeth amgen mewn canolfannau lle mae'n bosib i fenywod gadw cysylltiad â'u teuluoedd ac â'u plant, er enghraifft. Mae gormod o fenywod yn y system garchar yn gyffredinol a buasai cael darpariaeth amgen yma yng Nghymru yn gallu'n helpu ni i ddelio gyda rhai o'r sialensiau pwysig hynny.

Mae argymhellion pwysig hefyd yn yr adroddiad, gyda llaw, ynglŷn â mynediad i'r gyfraith drwy'r Gymraeg yn y system gyfiawnder. Mae pennod 11 yn frith o argymhellion ynglŷn â darpariaeth well drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein llysoedd ni, yn ein haddysg gyfreithiol ni, yn llysoedd y crwner ac ati. Felly, mae hyn yn rhan bwysig o agenda'r comisiwn, ac yn un o'r pethau y bydd pwyllgor y Cabinet y mae'r Prif Weinidog wedi'i sefydlu yn edrych arno'n gynnar.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.