1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei chyllideb? OAQ54852
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn y drefn gyllidebol a bennir gan Lywodraeth y DU. Mae cyllidebau'n cael eu monitro'n agos gan swyddogion, ac mae hyn yn cynnwys rhagfynegi ac egluro amrywiannau yn y gyllideb. Rwy'n derbyn adroddiadau misol gan y cyfarwyddwr cyllid, ac yn trafod perfformiad ariannol gyda swyddogion. Rwy'n gyfrifol am gymeradwyo diwygiadau i'r gyllideb yn ystod y flwyddyn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn archwilio un agwedd ar eich cyllideb, sef y setliad llywodraeth leol. Mewn perthynas â hynny, hoffwn ddyfynnu rhai ffigurau i chi: 2 y cant, 4.2 y cant, a 6.5 y cant. Y ffigur cyntaf, 2 y cant, yw cyfradd chwyddiant y DU; yr ail ffigur, 4.2 y cant, yw'r cynnydd cyfartalog hael yn y gyllideb a ddyrannwyd gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol. Felly pam, Weinidog, fod y trydydd ffigur, 6.5 y cant, yn nodi'r cynnydd cyfartalog yn nhreth gyngor awdurdodau lleol? Onid yw hyn yn awgrymu rheolaeth ariannol wael gan awdurdodau lleol, ac a ddylech adolygu'ch dyfarniad yn unol â hynny?
Wel, wrth gwrs, mater i’r cynghorau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod bod y setliad y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn eleni yn un eithriadol o dda. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda CLlLC ac eraill wrth bennu'r gyllideb, a deall y pwysau sydd arnynt. A'n hymrwymiad ers y dechrau oedd rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol, a chredaf ei bod yn deg dweud bod llawer o awdurdodau lleol wedi cael siom ar yr ochr orau ynghylch y setliadau y maent wedi gallu eu derbyn. Ac mae rhai wedi nodi efallai na fydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn eu hardaloedd lleol mor fawr ag y rhagwelwyd ganddynt i ddechrau, oherwydd y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei rhoi.
Weinidog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dweud bod datgysylltiad o hyd rhwng dyraniadau'r gyllideb a'n dyheadau priodol iawn i ddod yn Gymru garbon isel a charbon niwtral. A sylwaf fod y pwyllgor hefyd wedi dweud y dylai'r gyllideb ddrafft egluro a dangos yn glir sut y bydd dyraniadau cyllid yn cefnogi'r flaenoriaeth ddatgarboneiddio. Felly, a allwn ddisgwyl y bydd cyllidebau'r dyfodol yn fwy tryloyw a chlir yn hyn o beth, neu a ydych yn credu bod cyllideb eleni yn enghraifft o ymarfer gorau?
Yn sicr, ni chredaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud ein bod wedi cyflawni ymarfer gorau yn gyfan gwbl eto, ac mae hynny wedi bod yn glir iawn, gan ein bod wedi llunio cynllun uchelgeisiol i wella’r gyllideb. Rwy’n ei weld fel cynllun treigl pum mlynedd, o ran sut y gallwn ymdrechu’n barhaus i wella’r ffordd rydym yn gosod ein cyllideb a’r ffordd y gallwn ystyried ble rydym yn rhoi arian Llywodraeth Cymru—neu arian cyhoedd Cymru. O ran datblygu’r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb, gwnaethom hynny gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, sydd, mae’n rhaid i mi ddweud, wedi canmol Llywodraeth Cymru am gymryd cam da tuag at greu Cymru wyrddach. Yn amlwg, rydym yn cydnabod bod gennym lawer i’w wneud o hyd. Ond mae'r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb yn ystyried y gwiriwr siwrnai, a ddatblygwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny'n ymwneud â sut y gallwch ddangos yn ymarferol, a sut y gallwch sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau, drwy gydol proses y gyllideb, a’r gwaith o’i monitro a'i hasesu.