– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Ionawr 2020.
Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oes unrhyw welliannau wedi eu cyflwyno, mae'r amser a neilltuwyd ar gyfer y ddadl Cyfnod 3 ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) wedi ei leihau. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, gan Lywodraeth Cymru, os caf i? Mae'r cyntaf yn gais am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ei gynigion am gorff newydd i lais y dinesydd yng Nghymru. Fel y bydd y rheolwr busnes yn gwybod, ac fel, yn wir, y bydd y Trefnydd yn gwybod, bwriad y Llywodraeth yw bod cynghorau iechyd cymuned yn cael eu disodli gan un corff llais y dinesydd i weithredu fel corff gwarchod cleifion yng Nghymru, ac mae'n ymddangos y bydd y polisi hwnnw'n cael ei weithredu'n llawn gan y Llywodraeth. Un o'r pethau yr hoffwn i ei weld, os oes corff fel hwnnw'n mynd i fodoli, yw ei fod yn cael ei leoli mewn rhan arall o Gymru, y tu allan i Gaerdydd. Ac a gaf i gyflwyno cais ar gyfer fy etholaeth i fy hun, gan ei bod wedi'i lleoli'n ganolog ar hyd arfordir y Gogledd, ac yn hawdd ei chyrraedd ar hyd coridor yr A55, fel lleoliad addas posibl? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, lle bo modd, fod y swyddi'n mynd y tu allan i'r brifddinas hon, o ystyried nifer y swyddi sydd eisoes yma o ran swyddi Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus, ac rwy'n credu y byddai lleoli corff newydd fel hwn yn y Gogledd yn mynd yn bell iawn tuag at gydnabod pwysigrwydd y rhanbarth hwnnw i Lywodraeth Cymru.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran unrhyw gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i chynnig i wasanaethau tân Awstralia o ganlyniad i'r tanau gwyllt yn y fan honno? Rydym ni i gyd wedi gweld y golygfeydd ofnadwy o gartrefi'n cael eu dinistrio, eiddo'n cael ei ddinistrio, busnesau'n cael eu dinistrio, ac yn wir y dinistr enfawr o fywyd gwyllt yn Awstralia yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n siŵr fod pawb yn cydymdeimlo'n fawr iawn â'r rheini yr effeithiwyd arnynt. Ond wrth gwrs, yn anffodus rydym wedi gweld diffoddwyr tân dewr yn cael anhawster ymdopi â'r her o'u blaenau, ac mae rhai, wrth gwrs, wedi colli eu bywydau.
Mae nifer o aelodau staff sy'n ddiffoddwyr tân ar gyfer gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cysylltu â mi, ac maen nhw'n awyddus i fynd allan a chynorthwyo mewn ffordd ymarferol. Wedi trafod hyn gyda nhw, mae'n ymddangos mai ymateb gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw nad oes ganddo'r adnoddau i'w galluogi i gael eu rhyddhau yn y ffordd honno. Rwy'n credu, o ystyried y cysylltiadau rhwng Cymru ac Awstralia, y byddai'n gyfle gwirioneddol i gryfhau'r cysylltiadau hynny a sefyll ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân lawr yno pe byddai Cymru yn gallu dod o hyd i'r adnodd i anfon nifer o ddiffoddwyr tân o bob un o'r gwasanaethau tân yno a chynorthwyo yn yr ymdrech honno. Felly rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch a allai hyn fod yn bosibl.
Diolch i Darren Millar am godi'r materion hynny. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â dyfodol llais y claf yng Nghymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gwnaeth gais brwd ar ran ei etholaeth ei hun. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y mater penodol hwn, wrth gwrs. Ond, yn fwy cyffredinol, gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, yn eithaf diweddar, ein strategaeth leoli ein hunain, oherwydd deallwn fod angen inni ddangos arweiniad yn y maes hwn i sicrhau bod ein hôl-troed cyflogaeth yn ymestyn ledled Cymru a'n bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n hyrwyddo ein hymdrechion i ddatgarboneiddio a'n polisi 'canol y dref yn gyntaf ' ac ati. Felly, byddwn i'n awgrymu y dylai'r Aelod edrych ar y strategaeth honno, dim ond o ran y diddordeb cyffredinol sydd ganddo ef yn y dull hwnnw.
O ran y tanau yn Awstralia, yn amlwg, rydym yn anfon ein cydymdeimlad at bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae'n amlwg yn ddinistriol iawn i'r wlad. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig, neu, yn sicr, rwyf wedi gweld cwestiwn ysgrifenedig, ar yr union bwnc hwn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Gwnaf i'n sicr eich bod chi hefyd yn cael yr ymateb hwn, ac, yn amlwg, mae hi wedi bod yma i glywed yr ymholiad penodol hwnnw ynglŷn â'r gwasanaeth tân.
Hoffwn i godi mater y tynnwyd fy sylw ato gan bobl sy'n gweithio yn y sector cymorth i bobl anabl—nad yw eich Llywodraeth bellach yn ariannu Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru. Sefydlwyd y llinell gymorth dros 20 mlynedd yn ôl yn ystod dyddiau bore oes datganoli, ac mae wedi cefnogi mwy na 50,000 o bobl yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n rhaff achub hanfodol i'r 64,000 o bobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu. Dim ond y llynedd, fe gefnogwyd mwy na 2,000 o bobl drwy'r gwasanaeth. Nawr, rwyf wedi cael gwybod ei bod yn costio tua £150,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth ac, hyd yma, mae wedi cael ei redeg gan Mencap. Rwy'n credu bod hynny'n werth ardderchog am arian, o ystyried ei fod yn ymdrin ag achosion cymhleth, fel helpu rhieni i herio penderfyniadau am oriau cymorth yn ffurfiol, helpu teuluoedd mewn trallod drwy gwestau a rhoi cyngor ynghylch cael gafael ar wasanaethau sy'n darparu addysg arbenigol. Felly, ar ran y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn, hoffwn i gael esboniad ynghylch pam fod y cyllid hwn yn dod i ben ar gyfer y gwasanaeth hwnnw, a hoffwn wybod hefyd beth, os unrhyw beth, y bwriedir ei roi yn ei le ar ôl 1 Ebrill.
Hoffwn godi mater cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o ddarparu absenoldeb â thâl i oroeswyr cam-drin domestig. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Gweinidog y dylai hyn ddigwydd a galwodd ar gynghorau lleol i'w gyflwyno. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pryd y byddwch chi'n ei gyflwyno ar gyfer eich gweithwyr chi eich hun? Felly, byddai datganiad buan ar y mater hwnnw i'w groesawu.
Ac, yna, yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Dafydd Iwan a'r holl ymgyrchwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y penwythnos i gael y clasur o 1983 ' Yma o Hyd ' i safle Rhif 1 yn Siart iTunes y DU? Llwyddwyd i wneud hynny. Fe aeth i Rif 1—y tro cyntaf erioed i gân Gymraeg gyrraedd Rhif 1 y DU. Felly, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau dathlu gyda ni, ar ran Llywodraeth Cymru. Efallai ein bod ni mewn cyfnod gwleidyddol tywyll ar hyn o bryd, ond rwy'n credu ei bod yn werth i ni gyd gofio:
'Er gwaetha' pawb a phopeth, ry'n ni yma o hyd'.
Diolch i Leanne Wood am godi'r ddau—y tri—mater hwn yn y Siambr y prynhawn yma. O ran y cyntaf, yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynglŷn â'r llinell gymorth i bobl anabl, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf i o fy mlaen heddiw.FootnoteLink
Ond mae hefyd wedi nodi y byddai'n awyddus i roi diweddariad neu ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu mater absenoldeb â thâl i oroeswyr cam-drin domestig, oherwydd gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydym wedi dweud ein bod yn awyddus i wneud rhywfaint o gynnydd arno yn Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, mae'n ymwneud â ni yn dangos arweiniad yn y maes hwn. Felly, bydd datganiad gan y Gweinidog yn cael ei gyhoeddi ar hynny.FootnoteLink
Ac, wrth gwrs, dathlu'r gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd Rhif 1 yn siart iTunes—rwy'n credu bod hynny wedi codi llawer o aeliau dros y penwythnos, ond mae'n sicr yn gyfle i hyrwyddo Cymru a hyrwyddo ein hiaith fendigedig.
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am gyflwr enbyd nifer o ysgolion yn rhanbarth y De-ddwyrain? Rydym ar ddeall bod pum ysgol mewn mesurau arbennig, a bod angen gwelliant sylweddol ar dri ohonyn nhw, ac mae pum ysgol lle mae cynnydd yn cael ei adolygu yn dilyn arolygiadau Estyn.
A gawn ni ddatganiad hefyd gan y Prif Weinidog am y cyhoeddiad gan Brif Weithredwr Airbus—maddeuwch i mi os nad wyf i'n cael ei enw'n iawn—Guillaume Faury, fod gwarant y bydd y gwaith o gynhyrchu adenydd yn y DU yn parhau? Ac addawodd ef ymhellach fod Airbus yn gweithio gyda'r Llywodraeth newydd ar strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol yn y DU. Mae hyn, wrth gwrs, i bob golwg yn groes i broffwydoliaethau gofid a gwae a glywir yn aml yn y Siambr hon.
Ar y mater cyntaf, o ran ysgolion a'ch pryder ynghylch ysgolion penodol unigol o fewn y rhanbarth yr ydych chi'n ei gynrychioli, byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ac o bosibl i'r awdurdod lleol yn codi'r pryderon sydd gennych chi ynglŷn â'r ysgolion penodol hynny.
Ac, ar yr ail, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru eisiau i Airbus fod yn llwyddiant mawr. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn Airbus a'i weithlu yn ystod y blynyddoedd, ac rydym yn awyddus iawn i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Hoffwn i godi dau fater, Trefnydd. Mae un ohonyn nhw yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r llygredd aer trychinebus y mae fy etholaeth i yn sicr yn dioddef ohono. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gyflymu'r newid i geir glân. Gwyddom fod diffyg pwyntiau ailwefru neu ail-lenwi yn gwneud pobl yn nerfus ynghylch newid i gerbydau trydan neu hydrogen, ond gwyddom fod 10 pwynt gwefru trydan newydd yn cael eu gosod bob dydd ledled y DU. Serch hynny, dywedodd un gwerthwr ceir o Gaerdydd wrthyf nad oedd unrhyw fannau ail-lenwi â hydrogen yng Nghymru, a bod yr un agosaf yn Swindon, ond gwn fod hynny'n anghywir. Os ydym yn cael yr anhawster hwnnw ymysg pobl sydd i fod cynghori pobl ar beth sydd orau i'w brynu, teimlaf fod angen inni gywiro hynny. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol ein bod ar flaen y gad o ran hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy, o ganlyniad i waith ymchwil a gafodd ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, ac maen nhw wedi gosod pwynt gwefru ar gyfer hydrogen ym Maglan. Mae o leiaf un cwmni wedi'i leoli yn Llandrindod ac sy'n arloesi cerbydau hydrogen wedi gosod un arall yn y Fenni. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl yn y chwyldro hwn a sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau ail-lenwi/ailwefru cerbydau trydan a hydrogen er mwyn adeiladu ar yr arbenigedd sydd gennym eisoes yng Nghymru ar dechnolegau'r dyfodol.
Yn ail, roedd yn ofid imi ddarllen ddoe fod heddlu gwrthderfysgaeth yn rhoi Extinction Rebellion yn y dosbarth o sefydliadau eithafol, gan ei roi ar yr un lefel ag eithafwyr adain dde neu grefyddol. Felly, a all Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd yn cyfarwyddo ysgolion i beidio â chyfeirio pobl ifanc sy'n pryderu am yr argyfwng hinsawdd at raglen Prevent, sydd eisoes wedi colli hygrededd, fel pe baen nhw'n risg i ddiogelwch, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn gwbl groes i'r hyn y dylem ni fod yn annog pobl ifanc i'w wneud?
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian ychwanegol drwy'r gyllideb ddrafft ddiweddaraf a gyhoeddwyd gennym, sy'n ceisio cefnogi a chynyddu'r defnydd o gerbydau trydan yma yng Nghymru. Ond, ynghyd â hyn, rydym hefyd yn paratoi ar gyfer cyfleoedd hydrogen yr ydym yn disgwyl y byddant yn cael eu cyflwyno yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf. Mae gweithgareddau rhanddeiliaid yn cynnwys datblygu clwstwr diwydiannol y De, y Grid Cenedlaethol a'u prosiect arloesi 2050 di-garbon, datblygu gweithgareddau ym Mharc Ynni Baglan, y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato—ac mae hynny'n rhan o fargen twf y De-orllewin—ynghyd â dyluniad manwl datrysiadau hydrogen hybrid yn Sir Benfro. Ochr yn ochr â hyn, mae cymorth ymgynghori'n cael ei ddarparu i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i helpu i asesu'r cyfleoedd hydrogen ar gyfer y Gogledd yn rhan o ddatblygiad y fargen twf ar gyfer rhaglenni a phrosiectau sy'n cynnwys gwres, pŵer a thrafnidiaeth. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy ac awdurdodau lleol Gwent i hwyluso ymchwil ar y cyfleoedd posibl i wneud y mwyaf o dreialon hydrogen Riversimple sy'n digwydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd hefyd. Felly, mae corff da o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn i sicrhau ein bod yn y lle iawn i allu manteisio i'r eithaf ar ein hymateb i'r cyfleoedd yno.
O ran Extinction Rebellion, mae uned eithafiaeth a gwrthderfysgaeth Cymru wedi rhoi gwybod inni nad yw heddlu Prevent yn dosbarthu Extinction Rebellion fel grŵp neu ideoleg eithafol. Yn amlwg, nid yw'n sefydliad sydd wedi'i wahardd, ac, o ganlyniad, nid yw cysylltiad ag ef neu aelodaeth ohono yn unrhyw fath o drosedd, er fy mod wedi gweld awgrym yn y cyfryngau y gallai fod. Rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod pobl ifanc yn siarad yn erbyn newid hinsawdd, ac rydym eisiau i'n plant a'n pobl ifanc ni i gyd fod yn aelodau moesegol, gwybodus o'n cymdeithas, oherwydd dyna'r egwyddorion sy'n llywio ein cwricwlwm newydd i raddau helaeth hefyd.
Ond, o ran perthynas Llywodraeth Cymru ag Extinction Rebellion, rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni, yr amgylchedd a materion gwledig yn benodol yn cyfarfod â nhw, ac rydym yn cael trafodaeth barhaus â'r sefydliad. Mae'r trafodaethau hynny yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol dros ben.
Gweinidog, hoffwn i gael dau ddatganiad, y cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at gynhyrchu ynni gan losgyddion biomas. Mae ymgyrchwyr yn y Barri wedi galw am atal neu roi'r gorau ar unwaith i weithio ar y llosgydd biomas yno, ac rwyf wedi clywed bod trafodaeth am gael llosgydd arall ar wastadeddau Gwynllŵg ger Casnewydd, sy'n peri pryder yn lleol. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch beth yw polisi Llywodraeth Cymru tuag at losgyddion biomas ac a oes ganddi unrhyw gynlluniau i osod moratoriwm ar gymeradwyo datblygiadau o'r fath yng Nghymru yn y dyfodol?
Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano yn dod gan Weinidog yr Economi. Mae Liberty Steel yng Nghasnewydd yn colli 72 o swyddi, a gallai cyhoeddiad gan Tata Steel ar waith Orb, eto yng Nghasnewydd, gael gwared ar 380 o swyddi eraill. O ystyried yr amodau heriol y mae'r diwydiant dur yn eu hwynebu yng Nghymru, pa gynlluniau busnes argyfwng ac wrth gefn sydd ar gael i helpu nid yn unig y teuluoedd ond hefyd y gweithwyr profiadol yn y diwydiant hwn yn ein gwlad?
O ran y mater cyntaf, sy'n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff, cododd Mike Hedges fater tebyg yn y Siambr yn ystod yr wythnosau diwethaf, a gwn i fod y Gweinidog wedi rhoi gwybodaeth gefndirol gynhwysfawr iddo ar bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac rwy'n gwybod y byddai hi'n awyddus i rannu'r un peth â chi. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried yr adroddiad gan Gynllun Gofodol Cymru ar ddigonolrwydd y datganiad amgylcheddol cyn ymgynghoriad cyhoeddus o ran llosgydd biomas y Barri. Felly, dyna'r sefyllfa ddiweddaraf o ran hynny.
Ac wrth gwrs, roeddem yn bryderus iawn o glywed am y posibilrwydd o golli swyddi yn yr ardaloedd yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw. Rwy'n gwybod y cafwyd datganiad gan y Gweinidog Ken Skates am gyhoeddiad Liberty Steel Casnewydd, ac roedd y datganiad hwnnw yn ystod y diwrnodau diwethaf. Unwaith eto, deallaf ei fod yn ateb rhai cwestiynau'n ymwneud â'r diwydiant dur yn ehangach, gan gynnwys Orb, yn y Siambr yn ddiweddar hefyd. Ond mae'n awyddus iawn i sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, a phan fydd mwy i'w ddweud, bydd yn sicr o rannu hynny gyda'r Aelodau.
Rwy'n ymwybodol ein bod ni wedi cael llawer o ddatganiadau ar ddur yn y Siambr hon, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond dros y penwythnos cefais i wybod gan ffynhonnell ddibynadwy fod un contractwr penodol ym Mhort Talbot wedi diswyddo 16 aelod o staff yn barod. Yn y bôn, dywedodd Tata wrthyn nhw y bydden nhw'n cael yr anfoneb am y nwyddau a brynwyd ganddyn nhw i wneud darn o waith ond na fyddan nhw'n cyflawni'r gwaith penodol hwnnw; dyna gymaint o fanylion ag y gallaf i sôn amdanynt. Ond hoffwn i Lywodraeth Cymru roi datganiad yn benodol ar gontractwyr, oherwydd mae'n ymddangos mai nhw yw'r cyntaf i fynd. Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu cyflogi gan asiantaethau ac nid oes ganddyn nhw yr un hawliau â gweithwyr ffurfiol Tata ym Mhort Talbot. Felly, hoffwn i glywed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol o ran y contractwyr, oherwydd er mai un cwmni yw hwn, beth fydd yn digwydd wedyn gyda chwmnïau contractio eraill yn y dref? Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar swyddi a ffyniant.
Yr ail fater yr oeddwn i eisiau ei godi gyda chi: rydych wedi bod yn ddigon caredig i ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â'r cyfrifiad. Yn amlwg, mae rhai fel y gantores Kizzy Crawford sy'n ymgyrchu gan nad oes opsiwn ar y cyfrifiad ar gyfer dewis diffiniad Cymreig du, dim ond Prydeinig du, yn dweud eu bod am gael opsiwn penodol ar y cyfrifiad—ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi bod yn ei ddilyn—ar gyfer Cymreig a du . Nawr, mae fy nghydweithwyr Leanne Wood a Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac maen nhw wedi cael ateb yn ôl yn dweud y gallwch ddewis opsiwn o ysgrifennu ar y ffurflen i ddiffinio eich hun fel Cymreig du. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da ac nid yw'n mynd yn ddigon pell. Maen nhw wedi dweud wrth Leanne Wood a Liz Saville Roberts mewn llythyr eu bod wedi gwneud cryn dipyn o waith arolygu a chwestiynu yng Nghymru, a dydw i ddim yn ymwybodol o hynny o gwbl, oherwydd fel arall nid wyf yn credu y byddai gennym ni'r dicter hwn. Beth arall y gallwch chi ei wneud i roi pwysau ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i beidio â chyflwyno'r Mesur hwn i'r Senedd yn 2020 cyn ymgynghori ymhellach ar y cwestiynau a'r dewisiadau hynny? Oherwydd rwy’n teimlo bod y gymuned o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yma yng Nghymru yn cael ei siomi.
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar bod y materion hyn wedi cael eu codi eto'r prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol, ar fater dur, y bydd y Gweinidog yn cwrdd â Dr Henrik Adam, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel Europe, yn ystod yr wythnosau nesaf mewn cysylltiad â Tata yn benodol. Fodd bynnag, gwnaed pwyntiau da ynghylch y contractwyr ac yn amlwg y gadwyn gyflenwi lawn sy'n dibynnu i raddau helaeth ar Tata. Felly, byddaf i'n siŵr o roi gwybod i'r Gweinidog ynghylch y cais am y datganiad, a hefyd yr wybodaeth yn ehangach ar yr onglau penodol hynny yr ydych wedi'u nodi.
O ran yr ail fater, cefais gyfle i gwrdd â'r Dirprwy Brif Ystadegydd Cenedlaethol dim ond yr wythnos diwethaf i drafod y mater penodol hwn, ynghylch y modd nad yw'r cyfrifiad presennol mor gynhwysol ag y byddem ni'n dymuno iddo fod, a gobeithio y byddwn yn gallu dod i gasgliad boddhaol a chadarnhaol ar y mater hwn. Yn amlwg, rwy'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar hynny. Ar hyn o bryd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal rhai grwpiau ffocws mewn gwahanol rannau o Gymru i edrych ar yr hyn y mae modd ei wneud i wella'r mater hwn, ond rwy'n credu eu bod wedi ymgysylltu'n dda iawn yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, ac mae gwir ewyllys ac awydd i wneud gwelliant.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, os gwelwch yn dda. Byddwn i hefyd yn cysylltu fy hun â'r sylwadau a gafodd eu gwneud yn gynharach gan Leanne Wood; cafodd y llinell gymorth anabledd dysgu ei hariannu gan y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwyf i hefyd wedi cael sylwadau gan Gyngor Cymru'r Deillion, sydd wedi cael toriad yn eu cyllid o dan y rhaglen honno, ac, fel Cadeirydd y Pwyllgor, gan Adoption UK, sydd hefyd wedi cael toriad yn eu cyllid. Rwy'n deall hefyd fod Anabledd Cymru a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar wedi gweld toriadau yn eu cyllid dan y rhaglen hon. Nawr, mae hyn yn ategu'r pryderon sydd gennyf am gyllid y trydydd sector yng Nghymru, sydd ddim yn gynaliadwy o gwbl. Rydym yn gweld sefydliadau y mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn hapus iawn i gyfeirio atynt sy'n ei chael hi'n anodd iawn, iawn i gael cyllid craidd, ac felly'n dibynnu ar yr arian a ddaw o'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Felly, hoffwn i hefyd gael eglurhad o'r hyn sydd wedi digwydd yma, a datganiad cyffredinol am y Gronfa gan y Dirprwy Weinidog. Diolch.
Wel, rwy'n gwybod bod codiad wedi bod yng nghyfanswm y cyllid y mae'r Gweinidog Iechyd wedi'i roi i'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond rwyf hefyd yn gwybod ei fod ef a'r Dirprwy Weinidog, rwy'n credu, yn mynd i'r pwyllgor iechyd yfory ar gyfer gwaith craffu. Felly, credaf y byddai hwn yn gyfle da i ymdrin â rhywfaint o'r manylder hwnnw gyda nhw.
Trefnydd, yn y gorffennol, mae wedi bod yn gwrtais bob amser pan fydd Gweinidog yn ymweld ag etholaeth un o'r Aelodau, fod hysbysiad o hynny'n cael ei anfon ymlaen llaw. Yn ddiweddar, rwyf wedi sylwi bod hysbysiadau o'r ymweliadau hynny yn dueddol o fod yn fwy ac yn fwy munud olaf, yn aml gydag ymddiheuriad fod yr hysbysiadau hynny'n funud olaf. Ond hoffwn i nodi fy mod wedi bod yn ymwybodol bod nifer o'r ymweliadau hynny wedi cael eu cadarnhau wythnosau lawer ymlaen llaw. Ddoe, bu Gweinidog yn ymweld â fy etholaeth i, ac ni chefais i unrhyw hysbysiad o gwbl, er fy mod yn ymwybodol bod Aelodau Cynulliad eraill yn y rhanbarth hwnnw wedi cael hysbysiad am y digwyddiad penodol hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, Trefnydd, os ydych chi'n cytuno â mi y dylai hysbysiadau barhau, eich bod chi'n trafod hyn gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, fel bod hysbysiadau'n cael eu cyflwyno mewn modd amserol, ac yn wir i'r holl ACau yn hytrach na dim ond ACau penodol?
Ydw, ac rwy'n ymddiheuro i Russell George os na chafodd wybod am ymrwymiad gweinidogol o fewn ei etholaeth. Os caf y y manylion wrtho, byddaf yn ymchwilio i hynny, ond yn sicr, byddaf yn addo trafod â'r holl swyddogion preifat i sicrhau ein bod ni'n rhoi gwybod i'r holl Aelodau am yr ymweliadau hynny sy'n cael eu cynnal yn eu hardal. Ac unwaith eto, ymddiheuriadau i Russell George.
A gaf i ofyn i'r Trefnydd a all drefnu bod y Gweinidog priodol yn gwneud datganiad am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000? Wrth gwrs, byddem ni oll yn croesawu bysiau cyhoeddus mwy hygyrch i bobl anabl, ac mae'n wir, wrth gwrs, fod cwmnïau yn gwybod ers tro bod y rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, yn fy rhanbarth i, mae hyn yn effeithio ar blant yn ardaloedd y Tymbl a Drefach gan fod y lleoedd sbâr a oedd ar gael ar fysiau awdurdod lleol, yr oedd rhieni'n gallu eu prynu, wedi lleihau gan fod cwmnïau preifat wedi dewis peidio â darparu'r gwasanaeth yn hytrach nag addasu eu bysiau.
Mae'n ymddangos yn debygol i mi fod hyn yn effeithio ar rannau eraill o Gymru, a hoffwn i gael cyfle i ofyn i un o Weinidogion Cymru beth y gellir ei wneud ynghylch hyn, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn un o'r canlyniadau anfwriadol hynny. Rwy'n credu ei bod yn wir dweud na all y contractwyr preifat ddweud nad oedden nhw wedi cael rhybudd, ond os yw hyn yn arwain at y sefyllfa o'r plant yn gorfod cerdded, ac weithiau'n gorfod cerdded pellteroedd eithaf hir, gall fod â goblygiadau i bolisi Lywodraeth Cymru.
Efallai fod angen inni ailystyried y gyfraith bresennol, sydd ond yn ein hymrwymo i—credaf ei bod yn ddwy filltir i blant ysgolion cynradd a thair milltir—. Dwy filltir i blentyn ysgol gynradd, o feddwl bod plant ysgol gynradd bellach mor ifanc â thair blwydd oed—er y bydden nhw wedi bod bron yn chwe blwydd oed pan ddaeth y rheoliadau hyn i rym gyntaf. Rwy'n credu bod yna oblygiadau. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod a oes goblygiadau mewn rhannau eraill o fy rhanbarth i. Codwyd y pryderon gyda fi o Sir Gaerfyrddin, ond mae'n amlwg bod mwy o oblygiadau i ardaloedd gwledig nag i rai trefol. Felly, pe bai modd i'r Gweinidog wneud datganiad fel y gallem drafod hyn ymhellach, byddem yn ddiolchgar iawn.
Mae gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Economi a Thrafnidiaeth y maes hwn o fewn ei bortffolio. Byddaf yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r drafodaeth yr ydym ni wedi'i chael a'r pryderon penodol yr ydych chi wedi'u disgrifio yn eich ardal chi, ac yn ei wneud yn ymwybodol o'r cais hwnnw am y datganiad, oherwydd mae'r pwyntiau yr ydych chi'n eu codi yn bwyntiau pwysig.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar adnoddau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n cael llawer o e-byst gan etholwyr, boed hynny'n gleifion, yn aelodau o'r teulu neu'n staff sydd, yn seiliedig ar eu profiad eu hunain, yn dymuno rhannu awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella gwasanaethau yn y Bwrdd Iechyd. Rwy'n dyfynnu un o'r rhain, a ddaeth i law y mis hwn:
'Ychydig cyn y Nadolig, aeth fy ngŵr yn sâl gyda haint difrifol ar ei frest a ddatblygodd i fod yn niwmonia. Cafodd ei dderbyn dair gwaith i'r adran achosion brys. Yn y diwedd, ar y trydydd achlysur, cafodd ei dderbyn i'r uned dibyniaeth fawr lle cafodd ofal rhagorol. Fodd bynnag, y ffaith yw, ar dri achlysur, yn fy marn i fel nyrs gofrestredig, ni chafodd ei brysbennu'n dda. Roedd metron yr uned yn gweithio'n galed iawn i symud cleifion drwy'r adran ac roedd hi'n cyflwyno'i hun i gleifion, ond nid oedd yn ymddangos bod ganddi lawer o gymorth staff iau. Ymddiheurodd am gyflwr yr adran, a oedd yn amlwg dan ormod o bwysau. Gobeithio y bydd hi’n cael yr amser a'r adnoddau i roi trefn ar yr adran hon. A allwch chi wneud rhywbeth i'w helpu drwy ofyn i Lywodraeth Cymru roi mwy o adnoddau i Glan Clwyd ar frys? Nid dim ond drwy daflu arian at y broblem, ond drwy wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario i sicrhau bod gwelyau ar gael yn y prif ysbyty a hefyd yn yr ysbytai cymunedol, fel nad yw pobl yn meddiannu gwelyau yn y sector aciwt pan mai gofal ysbyty cymunedol sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n ddiolchgar i'r staff a'r ymgynghorwyr yn yr uned dibyniaeth fawr am y ffaith bod fy ngŵr yn dal yn fyw, ond rwy'n ofni ei fod yn lwcus o hynny ar ôl yr hyn y bu drwyddo yn yr adran achosion brys. Gobeithio y caiff yr e-bost hwn sylw er lles pob un ohonom ni sy'n byw yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.'
Galwaf am ddatganiad yn y cyd-destun hwnnw, nid yn unig am gyfanswm yr arian sy'n cael ei wario ond, yn y cyd-destun hwn, yn ymateb i awgrymiadau ynglŷn â sut y byddai modd gwario'r arian hwnnw'n well.
Gofynnaf i Mark Isherwood, os caf, rannu'r ohebiaeth honno gyda mi a chyda'r Gweinidog Iechyd er mwyn i ni ei hystyried yn llawnach. Gwn i y byddai'r Gweinidog Iechyd eisiau ei hystyried yng nghyd-destun ei ymdrechion yn y Gogledd hefyd. Ond credaf fod pwynt Mark Isherwood yn wirioneddol ategu pwysigrwydd llais y claf a phrofiad y defnyddiwr o fewn y GIG, a'r ffaith ein bod ni, drwy ddal hynny, yn sicr yn gallu ceisio parhau i wneud y gwelliannau y mae'r cleifion a'u teuluoedd yn eu disgwyl. Felly, bydd y math hwnnw o gyfraniad, rwy'n credu, yn ddefnyddiol iawn ac rwy'n edrych ymlaen at gael hynny ac unrhyw gyfraniadau tebyg eraill y mae Mark Isherwood yn dymuno tynnu ein sylw atynt.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar frys gan y Gweinidog trafnidiaeth ynglŷn â'r pryderon ynglŷn â'r cwmni awyrennau Flybe? Mae yna awgrymiadau yn dod o San Steffan fod Llywodraeth Prydain yn ystyried rhyw fath o becyn ariannu ar gyfer y cwmni awyrennau, sydd yn bwysig iawn o ran Maes Awyr Caerdydd, yn cynnig nifer o hediadau i ag o Gaerdydd, ac wrth gwrs yn gyfrifol am y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, sydd wedi dod yn bwysig i unigolion, i fusnesau ac o ran llywodraethiant Cymru, sydd yn bwysig iawn i'w gofio.
Rwy'n deall gan fy nghydweithiwr i yn San Steffan Jonathan Edwards AS ei fod o wedi gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth yno heddiw a oes yna unrhyw gyfathrebiad wedi bod gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r pryderon am Flybe. Mi ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth nad oes yna unrhyw beth wedi'i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny. Dwi'n synnu rhywfaint am hynny. Ond, o ystyried pwysigrwydd y cwmni yma, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig rŵan yn egluro'n union y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a'r sicrwydd mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdano fo ynglŷn a'r dyfodol?
Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r cryn sylw yn y cyfryngau i Flybe. Serch hynny, pan oeddem yn dod i mewn i'r Siambr y prynhawn yma, nid oedd unrhyw sylw wedi dod oddi wrth y cwmni. Ond rydym eisoes yn cynnal trafodaethau gyda maes awyr Caerdydd ar effaith bosibl y cwmni hedfan yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, neu, yn wir, gwtogi ar nifer y llwybrau allan o Gaerdydd. Wrth gwrs, mae toll teithwyr awyr yn rhan o'r darlun hwn, ac fe wyddoch ein bod wedi ymgyrchu'r hir—a chredaf fod hon yn farn sy'n cael ei rhannu gan bob plaid yn y Siambr—ynghylch datganoli toll teithwyr awyr i Gymru fel y gallwn ni wneud ein penderfyniadau ein hunain o ran sut y byddem ni'n cefnogi Maes Awyr Caerdydd.
Rwy'n credu ei bod yn glir o'r hyn sy'n digwydd yn Flybe fod problem fawr gyda chysylltedd rhanbarthol, ac rydym yn awyddus i barhau i gynnal y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Ond, fel y dywedais, ar hyn o bryd, deallwn mai dim ond dyfalu sydd ynghylch Flybe ac ni ddaeth unrhyw beth ffurfiol gan y cwmni eto.
Diolch i'r Trefnydd.