2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 15 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â’r datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe mewn ymateb i gwestiynau gan Adam Price, wrth siarad am bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans? A dyfynnaf:
'Nid yw'r broblem yn un y gellir ei datrys yn nwylo'r gwasanaeth ambiwlans yn unig... Mae'n fater systemau cyfan, lle mae'n rhaid i ni allu clirio pobl drwy'r system gyfan, fel y bydd lle wrth y drws ffrynt pan fydd y system yn dod dan bwysau, fel sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf.'
Ac a yw’n disgwyl i ni gredu’r Prif Weinidog pan ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price:
'rŷn ni wedi datrys y broblem... ac mae'r sefyllfa lot yn well nag yr oedd hi pan roeddwn i'n dod i ddechrau fel Gweinidog dros Iechyd'?
Oherwydd buaswn yn awgrymu, Lywydd, nad dyna yw profiad fy etholwyr sy'n cael eu gwasanaethu gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.
Ie, credaf fod y Prif Weinidog yn iawn i'w ddisgrifio fel mater system gyfan; mae hynny'n bendant yn wir. Mae'r ymweliadau rwyf wedi'u gwneud drwy ddechrau cyfnod y gaeaf, yn y flwyddyn galendr hon eisoes, wedi atgyfnerthu hynny i mi. Ac mae'n newid o'r hyn ydoedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn hytrach na chlywed pobl yn dweud pan fyddech yn mynd i mewn i adrannau brys, 'Mae angen mwy o feddygon ymgynghorol arnom', eu clywed yn dweud 'Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol.' Felly, mae'n sicr yn fater system gyfan.
Ond hefyd, pan edrychwch ar ein sefyllfa, credaf fod gennym, mewn gwirionedd. Os edrychwch yn wrthrychol ar ein sefyllfa o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, rydym yn well yn awr na phan ddechreuodd y Prif Weinidog ei gyfnod fel Gweinidog iechyd. Mae gennym nifer o bethau sydd wedi gwella yn ein system. Yr her i ni, fel bob amser, yw pa mor gyflym rydym yn gwneud gwelliannau yn ein systemau iechyd a gofal, a chyflymder a natur newidiol y galw a'r angen. A dyna'r her gyson sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd, ac mae'n gysylltiedig â'r cwestiynau a'r sgyrsiau a gawsom ddoe ynglŷn â'r gronfa trawsnewid yn ei hystyr ehangach mewn perthynas â gofal iechyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Hoffwn pe gallwn ei alw'n ddigonol; mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl ar ddatganiadau'r Gweinidog ynghylch pwysau'r gaeaf dros y tair blynedd diwethaf, ac mae bob amser yn dweud yr un pethau. Mae bob amser yn sôn am norofeirws a'r ffliw, ac mae'n dweud yr un pethau pan fo gennych flwyddyn heriol iawn, pan fo gennych lawer o norofeirws neu'r ffliw mewn gwirionedd, ac mae'n dweud yr un pethau pan nad yw'r sefyllfa, fel eleni, mor heriol â hynny.
Nawr, efallai ei fod yn gywir fod rhai agweddau ar y gwasanaeth mewn gofal heb ei drefnu wedi gwella ers cyfnod y Prif Weinidog, ond un peth sydd heb ei ddatrys yw'r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Nawr, Lywydd, gŵyr pob un ohonom fod Gweinidogion Cymru yn ein Senedd wedi bod yn gyfrifol am y portffolios iechyd a gofal cymdeithasol am yr 20 mlynedd diwethaf. A all y Gweinidog ddweud wrthyf, a all roi sicrwydd i ni heddiw, na fyddwn yn cael yr un sgwrs ymhen blwyddyn arall, heb sôn am ymhen 20 mlynedd arall?
Wel, nid wyf yn disgwyl cael y sgwrs hon ymhen 20 mlynedd; rwy'n gobeithio y bydd fy mywyd wedi symud ymlaen i bwynt gwahanol erbyn hynny.
Ond o ran rhai o'r pethau a ddywedoch chi, pan fyddwch yn dweud nad yw'n heriol, mewn gwirionedd, mae'r cyd-destun rydym yn darparu iechyd a gofal ynddo yn heriol. Ac nid yw'n gysylltiedig â'r ffliw neu norofeirws yn mynd ar led neu'r tywydd yn unig; mae'n ymwneud â natur newidiol a hwyliau ein poblogaeth. Ac yn y datganiad a gyhoeddais yn gynharach heddiw, y ffaith ein bod wedi cael cynnydd o 23 y cant mewn galwadau ambiwlans coch yn ystod y cyfnod hwnnw—y bobl salaf, fwyaf gwael—cynnydd o'r natur honno o un gaeaf i'r llall, dyna'r math o duedd y byddech yn disgwyl ei gweld dros sawl blwyddyn, nid dros un gaeaf. Felly, mae'r cyd-destun yn wahanol. Mae'r cynnydd yn wahanol. Ac nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae pob rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob un o bedair gwlad y DU yn disgrifio'r un cynnydd o ran heriau a phwysau.
Ac o ran y staff rwyf wedi cyfarfod â hwy, maent yn deall natur yr heriau a welant yn dod drwy'r drws yn dda iawn, ac nid ydynt yn eu disgrifio fel, 'Mae'n union yr un fath â gaeafau blaenorol lle na all y system ymdopi.' Felly, rydych yn dychwelyd at yr her ynghylch y rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ac unwaith eto, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd. Pan edrychwch ar y gwaith y mae'r byrddau partneriaeth yn ei wneud a'r ffordd y maent wedi defnyddio arian, nid yn unig y gaeaf hwn, ond y gwelliant yn y berthynas—. O ganlyniad i'r gwelliannau hynny a'r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn gweld y llif yn cael ei adfer, rydym yn gweld y llif yn parhau mewn gwahanol rannau o'r wlad, i mewn ac allan o'r ysbyty. Ac rydym yn fwy llwyddiannus nag erioed am gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain bellach hefyd.
Serch hynny, rydym yn dal i ofyn, 'Sut rydym yn mynd hyd yn oed ymhellach?', a dyna pam ein bod yn edrych nid yn unig ar y gaeaf hwn, ond tuag at y gaeaf nesaf, o ran sut rydym yn mynd ymhellach ac yn gwario mwy, nid yn unig arian at ei gilydd, ond mwy i sefydlogi ac i wella'r gwasanaethau ar y rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain yn fwy llwyddiannus, ac ar y ffyrdd i'w cael allan o ysbytai, pan nad dyna'r lle iawn ar gyfer eu triniaeth mwyach.
Wel, y broblem, wrth gwrs, Lywydd, yw nad oes unrhyw un yn amau'r Gweinidog pan fo'n dweud y pethau hyn, ond y broblem yw ei fod wedi bod yn dweud amrywiaeth ohonynt, ac mae ei ragflaenwyr wedi bod yn dweud amrywiadau ar y thema. Efallai'n wir, ac nid wyf yn cwestiynu ei ffigurau, fod gennym, er enghraifft, nifer anarferol o gleifion agored i niwed, ond mae hynny'n arwain at y cwestiwn pam fod y cleifion hynny'n dod mor agored i niwed, pam nad ydynt yn derbyn y gofal yn y gymuned y dylent fod yn ei gael, a daw â ni'n ôl at holl fater y methiant llwyr i sicrhau dull system gyfan.
Mae angen i ni ddweud yn glir iawn, Lywydd, nad ymosodiad ar y staff mo hwn. Gwyddom fod y staff yn gwneud gwaith rhagorol. Gwyddom hefyd fod awdurdodau lleol, mewn rhai lleoedd, yn cydweithredu'n dda neu ddim cystal â'u byrddau iechyd lleol, a lle maent yn cydweithredu'n dda, fod hynny'n sicrhau newid. Ond fy nghwestiwn fyddai: ble mae'r arweinyddiaeth genedlaethol i ddarparu'r newid hwnnw ar raddfa fwy? Nawr, heb os, bydd y Gweinidog yn siarad eto am y gronfa trawsnewid, ond hoffwn atgoffa'r Siambr eto ei fod ef neu ei blaid wedi bod yn gyfrifol am hyn ers 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma yn rhoi mwy o sicrwydd i mi na'r holl bethau eraill y mae wedi'u dweud dros y blynyddoedd blaenorol.
Ond hoffwn ddychwelyd at un peth penodol. Felly, mae'r Gweinidog newydd gydnabod, fel y dywedodd y Prif Weinidog, mai un o'r problemau mewn perthynas â rhyddhau cleifion o ambiwlansys i ysbytai—un o'r rhesymau dros y pwysau—yw bod angen dull system gyfan. Felly, rwy'n synnu braidd yn hynny o beth fod y Gweinidog wedi penderfynu sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arall eto fyth i adolygu'r gwasanaeth ambiwlans. Os nad yn y gwasanaeth ambiwlans y mae'r problemau mewn gwirionedd, ond mewn gofal cymdeithasol, gydag oedi wrth drosglwyddo gofal—a'r capasiti sydd wedi'i ddileu o'r system, buaswn yn dadlau—pam y bydd cael adolygiad arall eto fyth o'r gwasanaeth ambiwlans yn ddefnyddiol, rhywbeth y mae wedi dweud wrthyf ar adegau eraill ei fod yn berffaith iawn? Rwyf wedi drysu braidd.
Nid oes gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud i amddiffyn y penderfyniad, a bod yn gwbl onest. Ond yr hyn y buaswn yn ei ofyn iddo'n ffeithiol yw: pwy fydd aelodau'r adolygiad gorchwyl a gorffen hwn? Mae wedi dweud wrthym pwy fydd y cadeirydd a'r is-gadeirydd—neu gyd-gadeiryddion, rwy'n ymddiheuro. Wel, pwy fydd yr aelodau? Sut y bydd llais cleifion, ac yn enwedig y cleifion mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu, yn cael ei glywed yn yr adolygiad? A phryd y mae'n disgwyl iddo adrodd? Oherwydd credaf fod pob un ohonom yn colli amynedd gydag adolygiadau a grwpiau gorchwyl a gorffen. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw Gweinidog iechyd sy'n barod i wneud penderfyniad.
Rwy'n gwneud penderfyniadau bob dydd yn y swydd hon. Rwyf wedi gwneud nifer o benderfyniadau ynglŷn â chyfarwyddo dyfodol y gwasanaeth, nid yn unig y cynllun trosfwaol 10 mlynedd yn 'Cymru Iachach' ond llawer mwy, fel y gŵyr yr Aelod. Rwy'n derbyn bod yna ymdeimlad o theatr yn perthyn i hyn, ond o bryd i'w gilydd, dylem geisio ymwneud â rhai o elfennau mwy realistig yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yn y gwasanaeth.
Pan fyddwch yn sôn ynglŷn â pham fod cleifion mor agored i niwed, gwyddom yn iawn pam fod llawer o'n cleifion yn fwy agored i niwed yn awr nag yn y blynyddoedd a fu. Mae'n rhan o'n hanes llwyddiannus o gadw pobl yn fyw am fwy o amser. Mae hefyd yn ymwneud, yn rhannol, â her baich afiechyd a chlefydau nad ydynt rhan o'r broses o heneiddio'n naturiol. Felly, mae'r Aelod yn gwybod hynny'n iawn.
O ran dileu capasiti o'r system, nid ydym wedi dileu capasiti o'r system o reidrwydd. Yr her i ni yw ein gallu i'w gynyddu ar draws y system gyfan i'r graddau ei fod yn ddigon cynaliadwy wedyn i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnom. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn holi unrhyw sylwebyddion gwrthrychol ynglŷn â ble mae'r capasiti hwnnw'n bodoli, ni chredaf y byddent yn cytuno â dadansoddiad yr Aelod.
Ac o ran y tasglu a sefydlais, fe wyddoch yn iawn pwy yw'r cadeiryddion, a byddaf yn cyhoeddi'r holl aelodau a fydd yn rhan ohono maes o law. Rwy'n disgwyl iddynt adrodd i mi er mwyn gwneud awgrymiadau cynnar cyn diwedd y gaeaf hwn, felly cyn diwedd mis Mawrth. Rwy'n disgwyl cael syniad cadarn o hynny o fewn cyfnod o oddeutu tri mis. Nid wyf wedi sefydlu rhywbeth i gymryd chwech i 12 mis er mwyn osgoi'r her. Mae gennyf ddiddordeb mewn cael cyngor a her ynglŷn â sut i wneud hyn ar draws y system gyfan.
Credaf fod yr Aelod wedi camddeall bod hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar y gwasanaeth ambiwlans yn unig. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwella argaeledd ambiwlansys, ac mae angen edrych ar y system gyfan er mwyn gwneud hynny. Edrychaf ymlaen at allu adrodd yn ôl ar hynny'n iawn i'r Aelodau pan fydd y cyngor hwnnw ar gael i mi.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gennym fyddin anhunanol o 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai un o’i blaenoriaethau er mwyn cefnogi'r gwaith o sicrhau gwell hawliau i ofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oedd cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu.
Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £15 miliwn mewn gwasanaethau ataliol sy'n cefnogi oedolion ag anghenion gofal a gofalwyr sydd angen cefnogaeth. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2019, cyhoeddodd eich Llywodraeth y byddwch yn datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol eleni i gryfhau cydgysylltiad cenedlaethol cymorth i ofalwyr. Mae tystiolaeth wedi dod i'r amlwg sy'n dangos bod 59 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi nodi eu bod, dros gyfnod y Nadolig, wedi'i chael hi'n anodd iawn, a bod 45 y cant yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, hyd yn oed.
Mae cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru wedi nodi bod gofalwyr ledled Cymru yn aberthu cymaint wrth ofalu am rywun annwyl, ond caiff eu cyfraniad i gymdeithas ei anwybyddu i raddau helaeth, ac ni chaiff ei werthfawrogi'n ddigonol. Pa gamau a roddwch ar waith, Ddirprwy Weinidog neu Weinidog, i sicrhau y bydd y cynllun gweithredu cenedlaethol newydd y byddwch yn gweithio arno yn mynd i'r afael â hyn?
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn pwysig iawn. Credaf fod pob un ohonom yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr yn ei wneud—y 370,000 y cyfeiriodd atynt—ac rydym am sicrhau bod eu bywydau mor hawdd ag y gallwn.
Soniodd mai un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru oedd bywyd ochr yn ochr â gofalu. Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gofalwyr yn gallu dweud eu bod yn ofalwyr a'n bod yn eu hadnabod fel gofalwyr, fel eu bod yn gallu cael mynediad at unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt. Ac rydym am sicrhau hefyd fod cyngor a gwybodaeth ar gael ar eu cyfer. A dyna ein tair blaenoriaeth, ac rydym wedi cefnogi'r blaenoriaethau hynny drwy gyfres o fentrau cyllido, ac rydym wedi rhoi pwyslais o'r newydd ar y grŵp cynghori gweinidogol—y grŵp sy'n cynghori'r grŵp gofalwyr.
Rwy'n ymwybodol hefyd fod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cynnal ymchwiliad helaeth i ofalwyr a bod ganddynt 31 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, a byddwn yn ymateb iddynt cyn bo hir. Felly, gallaf roi sicrwydd iddi ein bod yn rhoi ystyriaeth drylwyr i ofalwyr a'n bod yn mynd i'r afael â'u problemau.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrechion yn hyn o beth, ond mae'n rhaid inni wynebu'r ffeithiau: yn fwy nag unrhyw genedl arall yn y DU, mae Cymru'n ddibynnol iawn ar ei gofalwyr. Canfuwyd bod canran yr oedolion sydd wedi bod yn ofalwyr yn ystod eu bywydau fel oedolion yn 63 y cant yn Lloegr, yn 65 y cant yn yr Alban, yn 66 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ond yn 70 y cant yng Nghymru.
Roedd Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014—ac roeddwn yn bresennol yn ystod y broses o graffu arni—yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnig asesiad i unrhyw ofalwr. Wrth ystyried y data ar nifer yr asesiadau a gynhaliwyd, ymddengys fod yna duedd gadarnhaol, gyda'r niferoedd yn codi o 6,178 yn 2016-17 i 7,261 yn 2018-19. Nid yw'n ddigon da. O edrych ar y sefyllfa'n fwy manwl, darganfûm fod nifer yr asesiadau yng Nghymru wedi gostwng mewn saith awdurdod lleol mewn gwirionedd.
Wrth ystyried canfyddiadau’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr y bydd nifer y gofalwyr yn y DU yn cynyddu oddeutu 60 y cant erbyn 2030, dylem fod yn gweld cynnydd yn yr asesiadau hyn, nid gostyngiad. Felly, a wnewch chi, fel y Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb am hyn, edrych i weld pam nad yw hyn yn digwydd mewn bron i 40 y cant o'n hawdurdodau lleol, a gweld a oes rhai gofalwyr yn cael eu hamddifadu o'u hawl statudol i asesiad?
Roedd yn arloesol, yn y Ddeddf y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati, fod gan ofalwyr hawl i asesiad gofalwr, ac rydym am sicrhau bod cymaint o ofalwyr â phosibl yn cael arfer yr hawl honno. Dyna pam mai un o'n blaenoriaethau yw nodi pwy sy'n ofalwyr ac i ofalwyr nodi drostynt eu hunain eu bod yn ofalwyr, gan fod llawer o bobl yn cyflawni'r rôl o ofalu am rywun annwyl heb nodi eu bod yn ofalwyr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn pwysleisio pwy sy'n ofalwr a pha gymorth sydd ar gael. Ac wrth gwrs, credaf fod yn rhaid i ni dderbyn hefyd nad yw rhai gofalwyr yn dymuno cael asesiad. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud a chredaf ein bod wedi gweld o'r holl adroddiadau a gafwyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a chan sefydliadau eraill nad yw rhai pobl yn cael y gwasanaeth yr hoffem ni, fel Llywodraeth, eu gweld yn ei gael. A dyna pam ein bod yn rhoi mwy o adnoddau tuag at brosiectau sy'n ymwneud â gofalu, ac mae'r grantiau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir yn rhoi cyllid sylweddol i sefydliadau gofalwyr, ac rydym yn bwriadu cynyddu ein cefnogaeth.
Diolch. Hoffwn bwysleisio unwaith eto mai nifer yr asesiadau—pan fydd gofalwyr yn awyddus i gael yr asesiadau ac yn methu eu cael. Ers Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, credaf ei bod hyd yn oed yn bwysicach nad yw eich Llywodraeth yn gwneud cam â'r rheini.
Nawr, mae gofynion gofal cymdeithasol fel darparu cefnogaeth i ofalwyr a phlant sy'n derbyn gofal a diwallu anghenion gofal cartref yn rhoi pwysau ariannol enfawr ar awdurdodau lleol. Er enghraifft, mae awdurdod lleol Sir Fynwy yn wynebu diffyg o £4 miliwn eleni, yn rhannol o ganlyniad i ofynion gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fy awdurdod lleol i, yn rhagweld diffyg ariannol o £12.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Er bod y gyllideb ddrafft yn dyrannu £40 miliwn drwy grant arbennig i awdurdodau lleol ar gyfer mynd i'r afael â phwysau mewn gofal cymdeithasol yn 2020-21, ni lwyddodd y £30 miliwn a ddyrannwyd drwy grantiau i awdurdodau lleol y llynedd i fynd i'r afael â'r pwysau hyn mewn gofal cymdeithasol. Felly, mae'n debyg ei fod yn gwestiwn amlwg iawn ar fy rhan: pam eich bod yn meddwl y bydd £40 miliwn yn ddigon i helpu'r awdurdodau lleol hyn i gyflawni eu dyletswyddau, yn enwedig o gynnwys eu dyletswyddau tuag at ofalwyr a phlant sy'n derbyn gofal?
Yn sicr, defnyddiwyd y £30 miliwn yn effeithiol iawn gan awdurdodau lleol. I raddau helaeth, gadawyd y penderfyniad ynglŷn â sut y byddai'n cael ei ddefnyddio i'r awdurdodau lleol, gan eu bod yn agosach at eu hanghenion. Ond yn sicr, gwyddom am y mathau o faterion y gwnaethant ddefnyddio'r £30 miliwn hwnnw ar eu cyfer: defnyddiodd naw awdurdod lleol y cyllid i gefnogi gwasanaethau oedolion a phobl hŷn; defnyddiodd wyth awdurdod lleol y cyllid i gefnogi gofal cartref i bobl hŷn; a defnyddiodd un ar ddeg o awdurdodau lleol gyfran i gynyddu cyflogau ar draws y sector, sy'n broblem, wrth gwrs—y lefelau cyflog sy'n bodoli yn y sector gofal cymdeithasol. Ac felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi £10 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol iddynt ei ddefnyddio yn y mathau o ffyrdd a ddisgrifiais, ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y teimlant y byddant o gymorth, gan ein bod yn derbyn yn llwyr fod yna bwysau ar y sector gofal cymdeithasol.
Mae'n hanfodol bwysig i bobl Cymru ein bod yn gallu darparu gofal digonol iddynt pan fydd ei angen arnynt, a dyna pam fod gennym amrywiaeth eang o fentrau i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym wedi sôn am y cronfeydd trawsnewid a'r gronfa gofal integredig, ac mae'r rheini'n cael eu defnyddio i sicrhau y ceir gweithio integredig er mwyn helpu'r sector gofal cymdeithasol. Ac rwy'n llwyr gydnabod y mater ynglŷn â phlant, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn gweithio i geisio cadw plant gartref gyda'u teuluoedd, lle rydym yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i geisio eu cynorthwyo i aros yno'n hytrach na gorfod mynd yn rhan o'r system ofal. Felly, mae gennym lu o fentrau, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i ni wneud mwy.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd.
Weinidog, roeddwn yn awyddus i holi am y meddylfryd sy'n sail i'r rheswm pam fod ein graddfeydd cyflog ar gyfer meddygon mewn ysbytai yn wahanol i'r rheini a geir yn Lloegr, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar recriwtio a chadw staff. Ar gyfer meddygon sylfaen y flwyddyn gyntaf, nodaf fod ein graddfeydd rhwng £1,300 a £1,500 yn uwch y flwyddyn nag yn Lloegr, ond onid yw meddygon yn edrych y tu hwnt i hynny ac yn gweld, ar ddiwedd y flwyddyn sylfaen honno wrth iddynt fynd i mewn i'r ail flwyddyn sylfaen, eu bod yn cael cynnydd o oddeutu £2,800 yn Lloegr o gymharu â £700 yn unig yng Nghymru? Mae hynny wedyn yn gadael oddeutu £600 y flwyddyn yn llai iddynt nag y byddai meddygon cyfatebol yn ei gael yn Lloegr. Ac mae hynny'n parhau hyd at gofrestryddion arbenigol, lle maent yn dechrau ar oddeutu £600 yn llai nag yn Lloegr, ac yna ar frig y pwynt cyflog uchaf, mae'r cyflog oddeutu £1,000 yn llai nag yn Lloegr. Pan fyddaf yn siarad â meddygon yng Nghymru, rwy'n aml yn gweld bod eu canfyddiad o'r gwahaniaeth rhwng y graddfeydd cyflog a'r syniad fod cyflog rywsut yn sylweddol is yng Nghymru yn gwbl anghymesur â'r gwahaniaethau cymharol fychan hynny rwyf newydd eu disgrifio, a tybed, felly, a yw hynny'n awgrymu effaith negyddol ar recriwtio a chadw staff, sy'n gwbl anghymesur â'r swm cymedrol o arbedion a wneir yn sgil y graddfeydd cyflog is a ddisgrifiais.
Mae dau bwynt y credaf y dylwn eu gwneud. Y cyntaf yw, o ran y meddylfryd y tu ôl i'r trefniadau cyflog, mae hynny'n fater a negodir rhwng y Llywodraeth, cyflogwyr y GIG, a'r undeb llafur cydnabyddedig, Cymdeithas Feddygol Prydain, felly ceir ystod o bethau i'w hystyried gyda hynny. Yn amlwg, o'r ochr ddiwydiannol, rydych yn disgwyl y byddent yn awyddus i gael y cytundeb gorau posibl i'w haelodau, ond hefyd mae angen cydbwyso'r hyn y gall y system ei fforddio a'r hyn y mae hynny'n ei wneud o ran recriwtio a chadw staff. A cheir rhywfaint o sensitifrwydd mewn perthynas â graddfeydd gwahaniaethol o bosibl, ar bob ochr i'r ffin. Ceir ychydig o wahaniaeth, yn amlwg, ar ben iau'r raddfa oherwydd y contract a roddwyd ar waith yn Lloegr. Ac mewn gwirionedd, wrth i ni ymgysylltu'n uniongyrchol iawn â Chymdeithas Feddygol Prydain a'u pwyllgor meddygon iau, roeddent yn gwbl glir eu bod o'r farn ein bod wedi gwneud y peth iawn yn peidio â gwneud yr un peth.
Rydym wedi cytuno, fel rhan o'r ffordd arferol, y byddwn yn parhau i negodi'r heriau tymor hwy o ran cyflog meddygon ymgynghorol, lle credaf y byddai'n well mabwysiadu ymagwedd amlwladol, ond mae hynny'n rhywbeth i'w drafod ac i siarad amdano, ynghyd ag adolygiad o'r sefyllfa parthed contract y meddygon iau yma yng Nghymru. Yn sicr, ni cheir agenda i geisio arbed ychydig o arian ac i beryglu'r gwaith o recriwtio a chadw staff, oherwydd mewn gwirionedd, mae meddygon yn edrych ar gyfres lawer ehangach o bethau: maent yn edrych ar hyfforddiant, maent yn edrych ar ragoriaeth, dyfodol y gwasanaethau ac a ydynt yn credu ei fod yn rhywle y maent yn dymuno gweithio ynddo mewn gwirionedd. Dyna pam fod gennym ymgyrch, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', gan fod yr holl agweddau hynny'n gwneud gwahaniaeth i ble mae ystod gyfan o weithwyr iechyd proffesiynol yn dewis dilyn gyrfa.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Os caf droi at fater penodol pensiynau, credaf mai pan fu'r Gweinidog yn dirprwyo dros y Prif Weinidog mewn cwestiynau blaenorol i'r Prif Weinidog y gofynnais iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr i dalu'r costau ychwanegol hynny i feddygon, ac a fyddem yn gwneud yr un peth yng Nghymru. Rwy'n gweld ein bod yn gwneud hynny bellach; cafwyd cyfarwyddyd gweinidogol i hynny ddigwydd.
Ond tybed a gaf fi dynnu sylw at wahaniaeth allweddol rhwng yr hyn a wnawn yng Nghymru a'r sefyllfa i Lywodraeth y DU yn Lloegr, fel y crybwyllais wrth y Gweinidog Cyllid yn gynharach yn y pwyllgor, yn yr ystyr mai trafodiad cyfrifyddu rhwng GIG Lloegr a'r Trysorlys ydyw i Lywodraeth y DU yn y bôn. Ar y llaw arall, i ni yng Nghymru, onid ydym yn wynebu'r un clogwyn ag y mae meddygon eu hunain yn ei wynebu, ac maent yn dewis peidio ag ymgymryd â sesiynau ychwanegol, gan fod effeithiau'r sesiynau ychwanegol hynny ar eu pensiynau gymaint yn fwy fel bod gwneud hynny'n costio arian iddynt? Ac mae costau ymylol y sesiynau hynny'n enfawr oherwydd y ffordd y maent yn rhyngweithio â'r system bensiynau. Onid yw hynny'n wir hefyd i Lywodraeth Cymru os ydynt yn dewis talu'r dreth honno? Ac a yw'n sicr yn ffordd gost-effeithiol, ar gyfer unrhyw beth y tu hwnt i'r tymor byr iawn, o wario arian trethdalwyr Cymru ar y symiau sylweddol iawn hyn i dalu treth pensiwn i Lywodraeth y DU a ninnau ond yn cael cynnydd cymedrol yn nifer y sesiynau a ddarperir gan feddygon yn sgil hynny?
Credaf ei bod yn broblem real iawn ac yn sicr nid yw wedi'i datrys. Yng nghyd-destun y pwysau ar bob gwlad yn y DU a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn y gaeaf, mae'n waethygiad o hynny gan fod rhai o'r bobl rydym yn sôn amdanynt ar reng flaen y system ysbytai ynghyd â phobl sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol hefyd, boed hynny mewn gwasanaeth oriau arferol neu'r tu allan i oriau. Felly mae'n effeithio ar y system gyfan ac mae grwpiau eraill o staff, clinigol ac anghlinigol, yn cael eu heffeithio gan yr un mater.
Felly, o ran y dewis a wnaed yn Lloegr, buaswn yn dweud ei bod yn eithaf rhyfeddol gwneud hynny ynghanol ymgyrch etholiadol a gwneud hynny heb unrhyw gyswllt â Llywodraethau eraill y DU hefyd. Ni chredaf fod hynny wedi'i adlewyrchu'n arbennig o dda yn y ffordd roedd llawer o staff gofal iechyd, ni waeth beth oedd eu barn ar sut i bleidleisio, yn teimlo am y ffaith bod y dewis hwnnw wedi cael ei wneud, ac mae gwir angen mynd yn ôl i edrych ar yr effaith uniongyrchol. Yr effaith ar staff ar ymyl y clogwyn y mae rhai'n ei hwynebu o bosibl yw cael biliau yn ystod y flwyddyn sydd yr un faint neu'n fwy na'u cyfraddau cyflog neu symiau sylweddol o arian nad ydynt wedi darparu ar eu cyfer ac na allant gynllunio ar eu cyfer, ac ni allech ddisgwyl o fewn rheswm iddynt allu gwneud hynny chwaith.
Ceir her hefyd ynghylch effeithiau hirdymor y cynllun pensiwn. Os yw eich enillwyr uwch a'ch cyfranwyr uwch yn dod allan o'r cynllun hwnnw heb wneud cyfraniadau, mae hynny'n effeithio ar bawb sy'n rhan o'r cynllun. Ond yn fwy na hynny, rheolau'r DU yw'r rhain, ac maent yn rheolau'r DU sydd wedi'u cynllunio a'u gweithredu gan Drysorlys y DU—maent yn effeithio ar bob un ohonom. Ac rwy’n sicr yn gobeithio, yng nghyllideb y DU sydd ar ddod o fewn y misoedd nesaf, y byddant yn datrys y broblem y maent wedi'i chreu. Oherwydd bydd yn costio mwy o arian i'w datrys fel arall, gan y byddwn yn gwneud hynny yn yr ystyr ein bod eisoes wedi gorfod gweithio o gwmpas y trefniant yn awr; byddwn yn gwneud hynny drwy dalu mwy am weithgarwch, yn y sector annibynnol yn ôl pob tebyg, i adfer gweithgarwch na fydd yn digwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ond yn fwy na hynny, rydym yn colli ewyllys da'r staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ac efallai y bydd rhai o'r staff sy'n dod i weithio oriau ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd gwladol, i ymgymryd â mentrau rhestrau aros ym mhob un o bedair gwlad y DU, yn penderfynu peidio â dychwelyd, ac efallai y byddwn yn gweld bod angen i ni recriwtio, hyfforddi a chadw hyd yn oed mwy o'r staff hynny yn y dyfodol, gyda hyd yn oed mwy o gost i'r trethdalwr a'r gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn gwneud hynny.
Credaf ei fod yn fesur hunandrechol. Rwyf wedi ysgrifennu, neu byddaf yn ysgrifennu eto cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi gwybod i'r Aelodau pan fyddaf yn gwneud hynny, at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt, unwaith eto, gael pwl o synnwyr cyffredin, i edrych eto ar y rheolau, ac i wneud y peth iawn i'r gwasanaeth iechyd gwladol, gan y bydd pob un ohonom yn talu os na fyddant yn gwneud hynny, ac mae'n llythrennol yn effeithio ar filoedd ar filoedd o achosion o ofal a thriniaeth cleifion. Mae'n rhaid mai dyna'r dewis anghywir i'w wneud, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn, a gallant ddadlau ynglŷn â phwy ddylai gymryd y clod am hynny wedyn.