1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ54949
Wel, mae llawer ohonynt, yn cynnwys cytundeb masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn a channoedd o filiynau o bunnau ar gyfer gwella ffyrdd; yn benodol, £600 miliwn ar gyfer ffyrdd gwell yn rhanbarth yr Aelod yng ngogledd Cymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Un o'r llwybrau allweddol yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r llwybr o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd coridor yr A55, sydd, fel rydych eisoes wedi'i ddweud, yn mynd drwy fy etholaeth. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymdrech i fuddsoddi mewn rhai o'r mannau cyfyng ar hyd y ffordd honno. Ond a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn bryd inni wella'r A55 yn sylweddol, fel y gallwn ei chodi i statws traffordd, lle mae'n cael y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen er mwyn ymdopi â'r gofynion a roddir arni? Fel y brif ffordd i mewn ac allan o ogledd Cymru, mae'n hollbwysig i'r rhanbarth, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r tagfeydd sy'n digwydd yn rheolaidd yno mewn ffordd lawer mwy sylweddol nag rydym wedi'i wneud hyd yma.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo ef ac i eraill ynglŷn â faint rydym yn ei wario ar welliannau a mannau cyfyng ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae ein rhestr o welliannau yn £600 miliwn, ac mae'n ymestyn o ben gorllewinol gogledd Cymru, yr holl ffordd ar draws at y ffin â Lloegr—rhaglenni gwaith pwysig iawn ar yr A55 a fydd yn gwella trafnidiaeth drawsffiniol a thrawsgymunedol, gan ddefnyddio prif ffordd gogledd Cymru.
Ond mae'n rhaid dweud nad yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae rheilffyrdd yn hanfodol bwysig hefyd ar gyfer teithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Dyna pam rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU, yn y gyllideb, yn gwneud taliad o £215 miliwn, sef, yn fras, y swm y byddem wedi disgwyl ei weld yn cael ei wario yng ngogledd Cymru pe bai Llywodraeth y DU wedi darparu'r un faint o fuddsoddiad y pen i'r rhanbarth ag y gwnaeth i rannau eraill o Loegr.
Weinidog, mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn fwy effeithiol pan fyddant yn cyfuno dulliau o deithio—bysiau sy'n cysylltu â gorsafoedd rheilffordd a chysylltiadau rheilffordd. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog mewn ymateb i gwestiwn cynharach, mae'r dull hwnnw'n caniatáu inni fod yn fwy effeithiol yn ein system drafnidiaeth. Fodd bynnag, pan nad oes bysiau'n mynd, mae gennym broblemau wrth roi'r cyfuniad hwnnw at ei gilydd.
Rydym yn gweld llawer o broblemau gyda bysiau. Gwn y bydd Bil ar wella bysiau yn cael ei gyflwyno drwy Lywodraeth Cymru, ond os na fydd y bysiau yno ymhen blwyddyn neu ymhen dwy flynedd, pan fydd gan awdurdodau lleol allu i'w rheoleiddio, bydd gennym broblem enfawr, oherwydd bydd y bobl hynny ar eu colled.
Beth allwch chi ei wneud yn awr i sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n gweithio i bobl, yn y Cymoedd, yng nghwm Afan, ac ar draws llawer o gymunedau eraill? Rydym yn gweld gwasanaethau bysiau'n cael eu torri oherwydd bod y gweithredwr yn gweld cyfleoedd masnachol yn diflannu. Maent yn gweld nad yw'n fasnachol hyfyw mwyach. Nawr, os ydym eisiau i'r bobl hynny weithio o gwmpas yr ardal a gallu cael mynediad at swyddi oherwydd eu bod yn defnyddio cyfuniad o rwydweithiau, yr un sylfaenol yw'r bws. A wnewch chi sicrhau bod gennym wasanaethau bysiau, os gwelwch yn dda?
Tri pheth sydd gennyf i'w ddweud mewn ymateb i gwestiwn Dai Rees. Yn gyntaf oll, rydych yn iawn: bydd y Bil yn cyflawni llawer o ran darparu amrywiaeth o arfau i awdurdodau lleol y cawsant eu hamddifadu ohonynt ers sawl degawd. Ond ni fydd y Bil ar ei ben ei hun yn datrys y problemau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn hanfodol bwysig. Rydym wedi gallu ei gynnal drwy gyfnod hir o gyni ar £25 miliwn y flwyddyn, ond mae angen i mi wneud datganiad clir iawn ynghylch parhad y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Disgwylir y bydd yr arian hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol yn ychwanegol at, nid yn lle, cyllid yr awdurdodau lleol eu hunain. Mae'n gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol, hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn o gyni, yn gallu gwneud cyfraniadau i wasanaethau bysiau lleol. Ac mae'r trydydd pwynt rwyf am ei wneud, Lywydd, yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac yn benodol, gallu awdurdodau lleol i gynllunio ymyriadau trafnidiaeth, a gwasanaethau bysiau yn benodol, ar sail ranbarthol. Bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn amhrisiadwy yn hyn o beth.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o rwystredigaeth a diffyg amynedd ynghylch y ffaith nad yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy wedi'i sefydlu eto. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y gwaith sydd angen ei wneud i sefydlu'r cysylltiad hwnnw?
Wrth gwrs. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth achos busnes amlinellol o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn adolygu eu canfyddiadau er mwyn nodi'r camau nesaf. Gallaf gadarnhau hefyd fod yr achos busnes amlinellol wedi amcangyfrif cyfanswm y gost gyfalaf i redeg pedwar trên yr awr ar linell Glynebwy.
Mae'n bwysig nodi mai Network Rail sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei gynnal ac o'r herwydd, mae'n atebol i'r Adran Drafnidiaeth. Felly, bydd y gallu i gyflawni unrhyw welliannau i'r seilwaith dros y blynyddoedd nesaf yn dibynnu'n llwyr ar gymorth llawn gan Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar gyfleoedd yn y dyfodol i wella gwasanaethau cyn bo hir, Lywydd.
Cwestiwn 4, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, cafwyd rhywfaint o drafodaeth yn y Siambr ddoe am y cynnig—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn? Cwestiwn 4.
Mae'n ddrwg gennyf. Ymddiheuriadau.