– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 12 Chwefror 2020.
Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Alun Davies, sy'n fwy na pharod i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. [Chwerthin.] Mr Davies.
Rwyf wedi bod yn dawel iawn y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Gobeithio na fyddaf yn profi eich amynedd yn ystod y munudau nesa. Rwyf wedi rhoi munud i Mark Reckless, sydd wedi gofyn am gael siarad yn y ddadl hon.
Ddirprwy Lywydd, fe gofiwch, ychydig wythnosau yn ôl, teimlwn ein bod wedi cael sgwrs dda iawn mewn dadl fer a drafodai uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Blaenau'r Cymoedd, ochr yn ochr â rhai o syniadau a gweledigaeth Sefydliad Bevan ar gyfer y rhanbarth. Gobeithio y gallwn barhau â'r sgwrs honno heddiw, a gwneud hynny yng nghyd-destun cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg a sut y gall honno weithredu fel catalydd ar gyfer holl ranbarth Blaenau'r Cymoedd, a sut y gallwn ddefnyddio cwblhau'r A465 fel cyfle i greu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer rhanbarth Blaenau'r Cymoedd.
Cofiaf yn dda y ddadl a'r drafodaeth ynglŷn â chyhoeddiad y Cymoedd Technoleg. Roedd yn rhywbeth a drafodais ac y dadleuwyd yn ei gylch gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates. Deilliodd o benderfyniadau ynglŷn â Cylchffordd Cymru. Bydd Aelodau yn y Siambr yn cofio'r broses hir a phoenus o drafod a dadlau ynghylch y prosiect hwnnw. Ym mis Mehefin 2017, daeth y Llywodraeth i'r casgliad, yn dilyn diwydrwydd dyladwy, na allai'r prosiect hwnnw fwrw ymlaen gyda'r cymorth cyhoeddus yr oedd yn ei geisio. Ac roeddwn yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw. Rwy'n credu mai dyna oedd y penderfyniad cywir ar y cyfan. Ar ôl darllen y diwydrwydd dyladwy a mynd drwy'r broses honno gyda'r datblygwyr a swyddogion, roeddwn yn meddwl mai dyna oedd y penderfyniad cywir at ei gilydd.
Ond mae dweud nad ydych chi'n mynd i fuddsoddi mewn rhywbeth yn wahanol i ddweud eich bod chi'n mynd i fuddsoddi mewn rhywbeth. Roedd y sgyrsiau a gefais gyda'r Llywodraeth—ar y pryd, roeddwn yn aelod o'r Llywodraeth honno wrth gwrs—gyda Gweinidogion ar y pryd, yn ymwneud â rhanbarth Blaenau'r Cymoedd a sut y byddem yn defnyddio pwerau, cryfder, capasiti ac adnoddau'r Llywodraeth i fuddsoddi mewn datblygu economaidd a gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth hwnnw. Yn amlwg, roedd y ffocws ar Lynebwy ac roedd y ffocws ar Flaenau Gwent, ond nid wyf erioed wedi ystyried rhaniadau gwleidyddol y ffiniau sirol sy'n croesi Blaenau'r Cymoedd fel rhaniadau yn yr hyn y dylem fod yn ei wneud.
Rwy'n credu bod angen inni edrych ar Flaenau'r Cymoedd fel rhanbarth, o ben Hirwaun draw yn y gorllewin, i fy etholaeth i hyd at Fryn-mawr, hyd at Farewell Rock yn y dwyrain. Os gwnawn ni hynny, rwy'n credu y gallem ystyried gwneud llawer mwy na phe byddem yn edrych yn unig ar fuddsoddiadau unigol, dyweder, ym Merthyr, Rhymni neu Dredegar neu Lynebwy neu Aberdâr. Felly, wrth fwrw ymlaen â'r trafodaethau a gawsom ar y pryd, rwy'n gobeithio y cawn yr olwg a'r weledigaeth eang honno o'r hyn rydym am ei wneud.
Cyhoeddwyd menter y Cymoedd Technoleg gyntaf ar 27 Mehefin 2017. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ar benderfyniad y Cabinet ynglŷn â Cylchffordd Cymru, a dyma oedd y cyhoeddiad cyntaf ar yr hyn a elwid bryd hynny yn barc modurol Glynebwy. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adeiladu parc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, gyda chyllid o £100 miliwn dros 10 mlynedd, gyda'r potensial i gefnogi 1,500 o swyddi llawn amser newydd.... Byddwn yn dechrau’r prosiect annibynnol hwn drwy gyflwyno 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus.'
Ac roedd yn glir, ac rwy'n dyfynnu eto, fod hwn yn brosiect 'annibynnol' i'w ddarparu gan Lywodraeth Cymru ynghyd â phartneriaid lleol. Ar 20 Gorffennaf, tua mis yn ddiweddarach, cadeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd gyfarfod i ddatblygu cynigion manylach ar gyfer parc modurol Glynebwy, ac roeddwn yn aelod o'r cyfarfod hwnnw. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn yr hydref, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd gyllid ar gyfer cynllunio ac adeiladu gofod diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew, i roi hwb cychwynnol, fel y dywedodd, i'r cynlluniau ar gyfer y parc technoleg fodurol. Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, sef 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet faterion yn codi ynghylch bwriad TVR i symud i Lynebwy.
Y flwyddyn ganlynol, ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad i'r wasg a gyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25 miliwn pellach yn ei rhaglen Cymoedd Technoleg, a ailenwyd yn barc modurol, rhwng 2018 a 2021, gan fynd â chyfanswm y buddsoddiad dros y cyfnod hwn i dros £30 miliwn erbyn 2021. Ym mis Medi'r flwyddyn honno, 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai grŵp cynghori strategol y Cymoedd Technoleg yn cael ei sefydlu i roi cyngor ar sut y dylid buddsoddi'r £100 miliwn. Cyfarfu am y tro cyntaf a chyhoeddwyd ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth. Ym mis Ionawr y llynedd, cyflwynodd y Prif Weinidog presennol ymateb i gwestiwn ar y Cymoedd Technoleg, gan Adam Price rwy'n credu, yn ystod y sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog. Meddai:
'dywedodd y buddsoddiad gwreiddiol o gwmpas rhaglen Tech Valleys erioed y byddai'n rhaglen 10 mlynedd ac y byddai gennym ni £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd hynny. Ac, mewn gwirionedd, mae cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gynnar hon y rhaglen yn fwy nag y byddai rhan pro rata o'r swm hwnnw yn arwain ato. Mae'n anochel, yn ystod y cyfnod agoriadol, bod y pwyslais wedi bod ar fuddsoddi mewn seilwaith yn llwyr, gan fynd i'r afael â'r materion tir ac eiddo i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i greu'r swyddi hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yno i'w creu ar gyfer Glynebwy yn y dyfodol...ac y dylai roi ffydd i bobl yn lleol nad yw'r cynllun yn aros i ddigwydd—mae'n digwydd eisoes.'
Yn ystod yr un mis, mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'n ymrwymo £10 miliwn i'r ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, sef canolfan ymchwil a datblygu seiber i'w datblygu gan Thales a Phrifysgol De Cymru. Bydd y ganolfan yn galluogi busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau i brofi a datblygu eu cysyniadau digidol, ynghyd â darparu labordy ymchwil lle gall cwmnïau amlwladol mawr ddatblygu datblygiadau technolegol a phrofi rhai o'u syniadau. Dywedodd y Gweinidog fod y prosiect yn ganolog i brosiect y Cymoedd Technoleg. Ym mis Mawrth y llynedd, dywedodd Gweinidog yr economi:
'rydym eisoes wedi cymeradwyo datblygiad safle Rhyd-y-Blew...busnes ychwanegol ac unedau diwydiannol ysgafn yn The Works yng Nglynebwy. Bydd gwaith ailosod Techboard yn dechrau eleni. Ac rwy'n falch o allu dweud heddiw ein bod ar y blaen i'r proffil gwariant ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn, yn bennaf oherwydd y buddsoddiad yn y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, a allai fod wedi mynd i unrhyw le yn y byd—i Singapôr, i'r Almaen—ond yn lle hynny, dewisodd Thales ddod i Gymru.'
—ac mae wedi dewis Glynebwy.
Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Weinidogion olynol am wneud y datganiadau hynny, ac am wneud eu hymrwymiad i fenter y Cymoedd Technoleg yn glir, ac am sicrhau ein bod yn cael y buddsoddiad nid yn unig yng Nglynebwy, ond ym Mlaenau'r Cymoedd fel sydd arnom ei angen. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n glir iawn ynglŷn â diben hynny.
I mi, y diben yw ein bod ni fel Llywodraeth ac fel cyrff cyhoeddus yn buddsoddi mewn mannau lle ceir methiant yn y farchnad, ac yn buddsoddi mewn ffordd hyblyg, chwim i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi busnesau a chefnogi camau i greu cyfleoedd gwaith a mentergarwch lle bo hynny'n bosibl. Rwyf am inni allu defnyddio pŵer y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli ym Mlaenau'r Cymoedd, fel sail i weithgaredd economaidd, nad yw'n digwydd ym Mlaenau'r Cymoedd yn yr un modd ag y mae'n digwydd ym Mae Caerdydd, a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy.
Rwy'n cofio—mae'n un o fanteision, neu efallai, Ddirprwy Weinidog, un o anfanteision bod yn y lle hwn ers dros 13 mlynedd bellach—nifer o Weinidogion yn dod i wneud y datganiadau hyn; roeddwn yn un ohonynt fy hun. Cofiaf Leighton Andrews yn siarad yn argyhoeddiadol tu hwnt am yr angen i fuddsoddiadau ym Mlaenau'r Cymoedd fod yn gynaliadwy, i fod yn gynaliadwy o ran yr argyfwng hinsawdd yn gyffredinol, ond i fod yn gynaliadwy yn ariannol, yn gynaliadwy o ran yr economi, ac yn gynaliadwy o ran darparu swyddi nad ydynt yn swyddi 'yma heddiw, wedi diflannu yfory', yn gwbl ddibynnol ar grantiau, fel roeddent yn y 1980au.
Ond mae angen inni fynd y tu hwnt i hynny, ac un o'r ffyrdd y gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn gallu gweithredu—. A dyma ddiben y ddadl y prynhawn yma: ceisio cadarnhad gan y Llywodraeth fod prosiect y Cymoedd Technoleg yn mynd i wireddu'r uchelgeisiau y mae Gweinidogion olynol a'r Prif Weinidog presennol wedi'u hamlinellu ar ei gyfer—ac fe'i hamlinellwyd yn natganiadau'r Llywodraeth, datganiadau i'r wasg a dogfennau polisi—ond ei fod yn fwy na buddsoddiad mewn portffolio eiddo unigol yn unig, ei fod yn rhan o strategaeth ddiwydiannol a all arwain at unrhyw adfywiad ar draws Blaenau'r Cymoedd.
Pan gefais fy newis gyntaf i ymladd am sedd Blaenau Gwent yn 2009, un o'r rhesymau pam yr ymgyrchasom yn galed dros y ddwy flynedd rhwng 2009 a 2011 i sicrhau bod y gwaith deuoli ar yr A465 yn mynd rhagddo fel roeddem wedi bwriadu, oedd er mwyn sicrhau bod datblygu economaidd yn digwydd ym Mlaenau'r Cymoedd. Nid gofyn yn syml am i'r prosiect deuoli fynd rhagddo am unrhyw reswm arall yr oeddem, ond oherwydd y manteision economaidd y gallai eu dwyn i Flaenau'r Cymoedd. Fe wyddom, ac fe wyddem fod diogelwch ar y ffordd honno'n eithriadol o wael—roedd diogelwch ar y ffordd honno'n erchyll—ac roeddem yn sicr am iddi gael ei deuoli er mwyn achub bywydau pobl.
Gwyddem nad darn sylweddol o seilwaith oedd ei angen i ddiwallu ein hanghenion yn y dyfodol. Ond roeddem hefyd yn gwybod pe byddem yn gallu perswadio'r Llywodraeth—ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu perswadio'r Llywodraeth—y byddai'r buddsoddiad hwnnw'n digwydd, byddai bob amser yn cael ei weld fel rhan o strategaeth ddiwydiannol i ddarparu'r cysylltedd sydd ei angen arnom ym Mlaenau'r Cymoedd, i'n cysylltu â marchnadoedd ac i'n cysylltu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o economi a gweithgarwch economaidd sydd eu hangen arnom. Ac roedd y cysylltedd hwn, wrth gwrs, hefyd yn gysylltiedig â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn band eang cyflym iawn yn ogystal.
Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar botensial hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, a'r Gweinidog wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gallu cadarnhau mai menter y Cymoedd Technoleg yw'r fenter y cytunasom arni, er y bydd yn amlwg yn esblygu ac yn newid, a bydd y pwyslais yn newid dros amser—rwy'n cydnabod hynny; rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r pethau hyn yn ei wneud dros amser. Ond yn y bôn, mae angen inni allu meddu ar yr wybodaeth a'r sicrwydd o wybod y bydd yr uchelgeisiau a'r amcanion a osodasom i ni'n hunain yn 2017 yn sicrhau'r twf a'r sgiliau a'r buddsoddiadau ar raddfa fawr, a bod y sylfeini ar gyfer y gweithgaredd rydym am eu gweld yn cael eu gosod drwy hyn. Ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu cael amserlen ar gyfer hyn, oherwydd mae gennym nifer o uchelgeisiau gwahanol wedi'u gosod allan i ni, o ran amserlenni, ond rwy'n credu bod angen inni ddeall yn fanylach sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd.
Rwy'n gobeithio, ac rwyf am orffen gyda'r sylwadau hyn, y gallwn ymateb i'r her a osododd Victoria Winckler i mi fel Gweinidog yn ôl yn 2018, pan ddywedodd fod angen mwy o ffocws ar Flaenau'r Cymoedd. Rwy'n cytuno â hi, ac roeddwn yn meddwl bod ei beirniadaeth a'i chyfraniadau ar y pryd, yn gyfraniadau teg a rhesymol, a phe na bawn yn eistedd ar y fainc flaen, efallai y byddwn wedi'u gwneud fy hun. Rwy'n credu ei bod yn feirniadaeth deg a rhesymol.
Ond ni all, ac ni ddylai'r ffocws ar Flaenau'r Cymoedd fynd a dod gyda Gweinidogion unigol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o waddol y Llywodraeth ac yn rhan barhaol o raglen y Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl, gadarnhau bod uchelgeisiau rhaglen y Cymoedd Technoleg yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Gobeithio y gall gadarnhau bod y terfynau amser a'r uchelgeisiau yno i'w cyflawni ac rwy'n gobeithio, wrth wneud hynny, y gallwn greu adfywiad diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol gyda'n gilydd ym Mlaenau'r Cymoedd. Diolch.
Rwy'n llongyfarch yr Aelod am gael y ddadl ac yn diolch iddo am roi munud o'i amser i mi, a dymunaf ben-blwydd hapus iddo hefyd. Mae'r pwyslais, hyd y gwelaf, wedi esblygu a chlywsom ei fod yn barc modurol, ac yn fenter y Cymoedd Technoleg ac yn ddiweddar, rwy'n credu bod mwy o bwyslais ar seiberddiogelwch. A chytunaf ag Alun Davies fod angen i'r Llywodraeth hon fod yn chwim a bod angen i'r pethau hyn ddatblygu, ond hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y mae bellach yn disgrifio'r pwyslais. Hoffwn ddeall hefyd beth y dylai'r cysylltiad fod rhwng hyn a'r ffocws ar led-ddargludyddion cyfansawdd, gan roi mwy o flaenoriaeth efallai i Gasnewydd fel canolfan ar gyfer hynny, ond beth yw'r cysylltiadau a sut y bydd y mentrau hyn yn cynnal ei gilydd?
Rydym i gyd wedi cael ein siomi gan yr oedi a chostau ychwanegol yr A465, ond tybed a allai'r Gweinidog, pan fydd yn gwybod pryd y caiff y gwaith ei gwblhau, o ystyried yr oedi, o ystyried y cyfle enfawr y mae'r ffordd hon yn ei ddarparu i'r rhanbarthau—ac rwy'n cefnogi'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran cydgysylltu menter ranbarthol Blaenau'r Cymoedd, yn hytrach na chanolbwyntio ar gwm penodol yn unig—? A allem ddefnyddio'r A465, pan fydd wedi'i hagor, i farchnata ac i hyrwyddo'r rhanbarth ac fel cyfle gwirioneddol i annog mewnfuddsoddi?
Diolch. Galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi adleisio dymuniadau pen-blwydd Mark Reckless i Alun Davies? Mae hefyd yn ben-blwydd arnaf fi heddiw ac mae hefyd yn ben-blwydd ar Jenny Rathbone heddiw. Am drindod o Aelodau Cynulliad. Roeddwn yn ceisio meddwl beth oedd yn gyffredin rhwng y tri ohonom, gan ein bod ein tri'n cael ein pen-blwyddi fel Dyfryddion ar 12 Chwefror, a'r unig beth y gallwn ei feddwl, oherwydd ein bod yn griw amrywiol, mae'n deg dweud, yw mai ein hangerdd penderfynol wrth fynd ar drywydd ein diddordebau sy'n ein huno, ac yn sicr, rwy'n credu bod hynny'n nodweddu Alun Davies wrth iddo fynd ar drywydd yr agenda hon ar ran ei etholwyr. Mae wedi ymdrechu'n ddiflino i wneud hynny, a hynny'n briodol, ac mae'n parhau i wneud hynny.
Fe ddywedodd, a dywedodd Mark Reckless hefyd, y bydd y ffordd y caiff y weledigaeth hon, nad yw wedi newid, yn cael ei chymhwyso yn esblygu ac yn newid o ran ei phwyslais dros amser, a chredaf fod hynny'n iawn. Yn sicr, fy mhrofiad i dros y 12 mis diwethaf, oherwydd y newid yn yr economi fyd-eang ac yn arbennig y newid yn y sector modurol, yw bod y weledigaeth sylfaenol yn ei gylch wedi newid o ganlyniad i'r ffaith bod—a nododd Alun Davies hanes hyn yn deg—iteriad nesaf Cylchffordd Cymru wedi canolbwyntio'n bennaf ar y sector modurol, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu mewn strategaethau a ddiweddarwyd, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae TVR yn dal yn y cymysgedd fel prosiect y gobeithiwn ei weld yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau i'r cwmni, a chyhyd ag y gallant ddarparu tystiolaeth fod ganddynt yr arian, byddwn yn dilyn gyda'r buddsoddiad rydym eisoes wedi'i ddarparu a'r gyfran a gawsom yn y cwmni. Mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, a chredaf ei bod yn rhwystredig iddynt hwy ac i ninnau nad ydynt wedi gallu dechrau cynhyrchu eto, ond mae'r rheini'n sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt.
Rwy'n meddwl mai fy marn i ar y Cymoedd Technoleg, fel y dywedodd Alun Davies, yw bod rhaid iddo fod yn fwy na phortffolio o eiddo diwydiannol yn unig, er bod hynny'n elfen bwysig ohono, ac mae'r pethau hynny ar y gweill. Unwaith eto, rydym wedi cael ein plagio gan drafferthion, gyda rhai ohonynt yn dechnegol, rhai ohonynt yn ymwneud â chaffael a rhai'n ymwneud â chapasiti o fewn yr awdurdod lleol, y gwn ei fod yn fater y mae Alun Davies wedi tynnu sylw ato dro ar ôl tro—yr heriau i lywodraeth leol heb arian i gyflawni datblygu economaidd—ac rydym yn sicr wedi teimlo hynny yn y bartneriaeth hon. Ond mae ymrwymiad sylweddol o hyd i wario ar ddatblygu eiddo o safon ac ychwanegu at y portffolio diwydiannol ym Mlaenau Gwent, sy'n rhywbeth y mae wedi pwysleisio'i bwysigrwydd dro ar ôl tro. Felly mae hynny ar waith, mae hynny'n digwydd, mae'n digwydd yn arafach nag yr hoffem, ond mae'n mynd yn ei flaen.
Mae sgyrsiau ar y gweill hefyd gyda chwmnïau i ddenu mewnfuddsoddiad i'r ardal, ac rydym wedi gweld ffrwyth hynny yn sgil dyfodiad Thales, gyda buddsoddiad enfawr o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac arian cyfatebol gan y cwmni, i ddod â sgiliau seiberddiogelwch a sgiliau digidol yn fwy cyffredinol i Lynebwy, ac rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r coleg a chydag eraill i ychwanegu at hynny fel y gallwn gael cynnig sector cyhoeddus ochr yn ochr â'r ganolfan seiberddiogelwch. Felly, rydym yn bendant yn gweld Glynebwy a Blaenau Gwent fel cyfleuster cynhyrchu ar gyfer hyfforddi'r bobl ifanc i roi iddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi yfory, a gwneud hynny ym Mlaenau Gwent. Rwy'n credu bod honno'n weledigaeth gyffrous ac yn un y gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n ei rhannu. Mae'r rheini, unwaith eto, yn sgyrsiau sydd ar y gweill. Felly mae'r elfen dechnolegol yn dal i fod yno.
Mae'n debyg y dylwn sôn hefyd am y buddsoddiad a gawsom yng Nghanolfan Deunyddiau Uwch Dennison, gan greu cyfleuster hyfforddi peirianyddol o'r radd flaenaf ym mharthau dysgu Blaenau Gwent, sydd bellach yn un o ddim ond llond dwrn o golegau addysg bellach yn y DU a all ddarparu hyfforddiant cyfansawdd uwch fel rhan o'i gyrsiau peirianneg awyrenegol a chwaraeon modur, ac mae 60 o fyfyrwyr eisoes wedi dechrau yno; mae 30 y cant o'r rheini'n fenywod. Felly, rwy'n credu bod yna bethau y gallwn bwyntio atynt sy'n cyd-fynd yn llwyr â'r weledigaeth a'r dechnoleg sefydlol honno.
Ond y darn y bûm yn meddwl amdano ers ymgymryd â'r portffolio, yn ogystal â denu busnesau i Flaenau Gwent, yw beth y gallwn ei wneud i gefnogi'r busnesau sydd eisoes ym Mlaenau Gwent? Oherwydd dyma un o'r cymunedau sy'n wynebu'r her fwyaf yn ein gwlad, ac mae arnom ddyled foesol iddi yn fy marn i, i fynd i'r afael â'r heriau hynny a chefnogi'r cymunedau, nid dim ond denu'r disglair a'r newydd, ond edrych ar y cwmnïau gwydn sydd wedi wedi bod yn brwydro dan amodau anodd iawn am genedlaethau neu fwy, ac mae rhai ohonynt yn edrych yn flinedig pan edrychwch ar rai o'r adeiladau sydd ganddynt. Ac oherwydd eu rhan yn y gadwyn gyflenwi, maent yn eithaf agored i lawer o'r newidiadau a welwn bellach, o'r newid yn y sector modurol ond hefyd o'r effaith y mae Brexit yn mynd i'w chael ar greu gwrthdaro yn ein cysylltiadau masnachol.
Felly, beth y gallwn ei wneud i helpu'r busnesau sy'n bodoli'n barod a beth y gallwn ei wneud i helpu'r busnesau hynny i ddod yn fwy deallus yn dechnolegol ac yn fwy gwydn yn yr aflonyddwch digidol y gwyddom ei fod yn dod tuag atom? Dyna y bûm yn canolbwyntio arno, ac mae cwpl o bethau y gallaf eu dweud wrth yr Aelodau am yr hyn a wnaethom yn y cyswllt hwnnw. Y cyntaf yw'r ymrwymiad i raglen gwella cynhyrchiant a fydd yn dwyn timau rhanbarthol Llywodraeth Cymru at ei gilydd; y rhaglen arloesi deallus, sef rhaglen arloesi uchel ei pharch Llywodraeth Cymru; prosiect y cyngor datblygu economaidd lleol a phrosiect Upskilling@Work, dan arweiniad Coleg Gwent, mewn partneriaeth â rhaglen ASTUTE 2020 Prifysgol Abertawe, sy'n mynd â chyfleusterau ymchwil a datblygu i fusnesau bach a chanolig eu maint nad oes ganddynt eu cyfleusterau ymchwil a datblygu mewnol a sicrhau bod hynny ar gael ar draws Cymru, drwy arian Ewropeaidd. Ac rydym yn ceisio gweld a allwn ganolbwyntio'n benodol ar y rhaglen honno ym Mlaenau Gwent, ond hefyd ar draws ardal yr A465.
Rwy'n cytuno â phwynt Alun Davies fod angen inni sicrhau bod y buddsoddiad enfawr a wnawn ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n fwy na'r buddsoddiad roeddem wedi bwriadu ei wneud ar yr M4 pan gafodd hwnnw ei addo'n wreiddiol—dros £1 biliwn ar y ffordd hon—mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth mwyaf am ein harian a gwneud y gorau o'r buddsoddiad hwnnw. Bellach, mae gan dasglu'r Cymoedd is-grŵp sy'n canolbwyntio'n benodol ar yr A465, gan fwrw ymlaen â'r gwaith a wnaeth Alun Davies fel Gweinidog i geisio creu strategaeth economaidd ar gyfer y ffordd honno. Mae hynny'n sicr yn cael ei wneud, ac rydym yn ystyried sut y gallwn ddod â'r ffocws ymchwil a datblygu hwn i ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Y peth arall rydym yn ei wneud ar ben hynny yw rhaglen 5G y mae Simon Gibson, drwy'r gwaith a ddechreuodd gyda'r bwrdd arloesi, yn ei barhau gyda Llywodraeth Cymru drwy grŵp gorchwyl a gorffen, ac rydym newydd gael arian a gyhoeddwyd gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer man prawf 5G yn ardal Sir Fynwy/Blaenau Gwent, sydd â photensial sylweddol. Bydd hwnnw'n canolbwyntio ar yr ardal honno i weithio ochr yn ochr â phrifddinas-ranbarth Caerdydd.
Felly, unwaith eto, prosiect arall sy'n gysylltiedig â thechnoleg, ond gan edrych ar y busnesau yno. Felly, ceir y rhaglen gwella cynhyrchiant, sy'n ymwneud â gwella'r sgiliau a'r cyflogau sydd gennym yno. Ar ben hynny, rwyf wedi gofyn i Tegid Roberts, a wnaeth y gwaith ar ddod â gweithgynhyrchu Raspberry Pi yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr, edrych yn benodol ar yr hyn sy'n bodoli ym Mlaenau Gwent a sut y gall ef, ynghyd â'n timau mewnol, weithio gyda llond llaw o gwmnïau i weld sut y gellir eu helpu i dyfu, a pha fuddsoddiad y gallem ei ddarparu ar ben hynny. Felly, rwy'n credu bod adeiladu'r hyn sydd gennym yno yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na gwario'r £100 miliwn ar ddenu busnesau newydd. Felly, rwy'n credu bod honno'n elfen bwysig iawn yn ein gwaith.
Fel y crybwyllwyd, gofynnodd Mark Reckless gwestiwn am y ffordd, fel y gwnaeth Alun Davies, ac rydym yn gwneud ein gorau i oresgyn yr anawsterau presennol gyda'r contractiwr a chymhlethdodau peirianyddol ceunant Clydach, ac rydym yn dal i weithio'n galed i gwblhau'r rhan rhwng Gilwern a Bryn-mawr fan lleiaf cyn gynted ag y bo modd cyn mynd ati i gwblhau'r gweddill. Ond fel y dywedais, mae gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o'r ffordd sydd yno wedyn yr un mor bwysig ag adeiladu'r ffordd.
Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sylw i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau roedd yr Aelodau am eu trafod. Os nad wyf wedi gwneud hynny, mae gennym funud ar ôl ac fe wnaf fy ngorau i gywiro hynny. I gloi, Ddirprwy Lywydd, os nad oes unrhyw sylwadau pellach, credaf fod angen inni gydnabod pa mor heriol yw hyn fel cyfle datblygu economaidd. Holl bwrpas ei greu yn y lle cyntaf yw ei fod yn anodd ei wneud ac nad oedd wedi cael ei wneud yn llwyddiannus hyd yn hyn. Y ffocws technegol yw'r un cywir. Credaf fod y diffiniad o sut olwg sydd ar dechnoleg o anghenraid yn addasu ac yn newid fel y mynn yr economi fyd-eang. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar sgiliau. Credaf fod hynny'n iawn. Fel y dywedais, mae arnaf eisiau ychwanegu'r elfen cwmnïau gwreiddiedig, ond rwy'n credu bod clymu hynny wrth waith tasglu'r Cymoedd, gwaith prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn hanfodol bwysig, felly, fel y dywedodd Alun Davies yn gywir, nid datblygu economaidd ysbeidiol sydd gennym, ond rydym yn bwrw drwyddi â'r uchelgeisiau a nododd fel Gweinidog, yr uchelgeisiau y mae'r holl gyd-Aelodau sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd yn parhau'n ymrwymedig iddynt, ac rwyf fi fel Gweinidog yn sicr yn bwriadu gwneud yr hyn a allaf yn yr amser sydd gennyf i wireddu gweledigaeth yr uchelgais hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. Un peth sydd ar ôl gennyf i'w ddweud, sef 'Pen-blwydd hapus, Lee, Alun a Jenny.' A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.