2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safbwynt negodi'r UE yn ystod y trafodaethau presennol ar y gytundeb fasnach? OAQ55133
Mae mandad negodi drafft yr UE yn adlewyrchu i raddau helaeth y datganiad gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE ym mis Hydref y llynedd. Gwnaethom ni, fel Llywodraeth, nodi ein safbwynt ar y datganiad gwleidyddol yn 'Y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru' ym mis Ionawr eleni.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n edrych fel pe gallai'r UE geisio mynnu bod parhau i fod yn ddarostyngedig i Lys Cyfiawnder Ewrop yn rhagofyniad i unrhyw gytundeb masnach. Yn eich barn chi, a ddylai llysoedd y DU, neu lysoedd Cymru pe bai ein barnwriaeth yn cael ei datganoli, barhau i fod yn ddarostyngedig i Lys Cyfiawnder Ewrop pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben?
Wel, nid wyf yn deall y cysyniad o 'ddarostyngedig'. Mae gennym Lywodraeth y DU ar hyn o bryd sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o gwestiynu rôl y farnwriaeth ym mywyd cyhoeddus Prydain. Credaf fod risgiau sylweddol i roi gormod o bwyslais ar hyn, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae'n sicr yn faes lle dylid mabwysiadu agwedd fwy pragmatig. Er enghraifft, ceir llawer o enghreifftiau o lywodraethu ar sail yr UE yn ei gyfanrwydd: mae Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop yn un a allai fod ym meddyliau'r Aelodau, o ystyried yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, lle gallai rhywfaint o lywodraethu ar sail Ewrop gyfan, gan gynnwys, mewn rhai achosion, awdurdodaeth y llys, fod yn gam synhwyrol i'w gytuno er mwyn diogelu buddiannau ehangach.
Credaf fod canolbwyntio ar un agwedd yn unig, fel y mae cwestiwn yr Aelod yn ei wneud, yn dangos methiant i fynd i'r afael â'r effaith a gaiff hynny ar nifer o feysydd eraill, gan gyffwrdd, er enghraifft, ar ddiogelwch dinasyddion Prydain, ac rwy'n siŵr y byddai pob un o'n hetholwyr yn cymryd hynny'n ganiataol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig deall bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i dderbyn darpariaethau caeau chwarae gwastad o'r math a gynhwyswyd yng nghytuniadau Canada a De Korea gan yr UE, a'r confensiynau cyffredinol i beidio â chaniatáu dirywiad a'r confensiynau rhyngwladol y cyfeiriwyd atynt yn y cytuniadau hynny. Yr hyn y mae'r UE yn ei ddweud, serch hynny, yw y dylem, yn wir, fod yn ddarostyngedig i'r UE ar sail barhaus drwy ufuddhau i'w rheolau yn y meysydd hyn, beth bynnag ydynt, heb unrhyw fewnbwn democrataidd ac yna fod Llys Cyfiawnder Ewrop yn penderfynu sut y dehonglir y rolau hynny. Nawr, a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi safbwynt y DU neu'r UE?
Mae gallu'r Aelod i lunio gwawdlun yn ddi-ben-draw. Nid dyna yw safbwynt yr UE. Yr hyn a ddywedodd y datganiad gwleidyddol, a lofnodwyd—a gytunwyd—gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU yw y dylai'r safonau sy'n gymwys yn y ddau ar ddiwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yng nghyd-destun y cae chwarae gwastad, barhau i fod yn gymwys. Nid yw'n wir y gallwch gymharu'n syml â chytundeb masnach rydd Canada. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cytundeb dim tariff, dim cwota. Nid dyna gytundeb Canada—cymerodd saith mlynedd i'w negodi. Mae'n cynrychioli degfed ran o'r fasnach sydd gan y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae 5,000 km i ffwrdd. Nid oes unrhyw gymhariaeth mewn perthynas â masnach. A ffantasi yn fy marn i yw disgwyl i'r un darpariaethau fod yn gymwys mewn cytundeb â'ch cymydog agosaf, gyda 10 y cant yn fwy o fasnach, na'r hyn a osodwch ar bartner masnachu llawer llai sylweddol o ran cyfaint ar yr ochr arall i'r byd.
Gwnsler Cyffredinol, yn amlwg, ddoe, cadarnhaodd y cyngor cyffredinol fandad negodi'r UE—[Anghlywadwy.] Mae ychydig yn llymach na'r drafft gwreiddiol, gan nodi'n glir safbwyntiau cryf ar y cae chwarae gwastad hwn. Yfory, byddwn yn gweld symudiad agoriadol Llywodraeth y DU, gan ein bod eto i gael hynny wedi'i ddiffinio'n glir. Ond yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw economi Cymru a sut i sicrhau na chaiff economi Cymru ei niweidio gan negodiadau'r UE a'r DU yn y dyfodol.
Nawr, o ran hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag ochr yr UE i sicrhau bod ei safbwynt—ei heconomi a'r materion sy'n bwysig i Gymru—yn cael eu hadlewyrchu a'u trafod yn Ewrop, yn ogystal ag yn y DU? Oherwydd yn aml iawn, gwyddom yn y DU—. A gwyddom fod Boris Johnson a Dominic Cummings—cyflwyno eu safbwynt eu hunain yn unig a wnânt; nid ydynt yn cyflwyno barn rhannau eraill o'u plaid hyd yn oed. A wnewch chi sicrhau y caiff safbwynt Cymru ei gyflwyno ar bob ochr a phob llwybr fel y gallwn gael cyfran deg o hyn?
Wel, rydym yn parhau i wneud hynny. Roedd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ym Mrwsel yn ddiweddar, bydd y Prif Weinidog yno cyn bo hir. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod yr hyn sydd er budd economi Cymru yn cael ei ddeall gan bawb o'n cyd-siaradwyr.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod mai sefydliadau Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain fydd y partïon i'r negodiadau yn y cyfnod o negodi sydd o’n blaenau. Nid oes set gyfochrog o negodiadau na thrafodaethau y gallai neu y dylai Llywodraeth Cymru eu cael yn y cyd-destun hwnnw. Ein disgwyliad, ein gweledigaeth, o sut y dylai hyn weithio’n ymarferol yw y dylai Llywodraeth y DU gytuno i'r Llywodraethau datganoledig chwarae rôl yn y trafodaethau hynny wrth osod safbwynt DU gyfan mewn perthynas â materion sydd wedi'u datganoli.
Fel y bydd yn gwybod, hyd yma nid yw honno'n egwyddor y mae Llywodraeth y DU wedi'i chytuno mewn ffordd sy'n dderbyniol yn ein barn ni. Mae gallu Llywodraeth Cymru i adlewyrchu buddiannau Cymru, ac i adlewyrchu cymwyseddau datganoledig y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru, yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ei gydnabod er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru drwy'r cyfnod hwnnw.