– Senedd Cymru am 8:03 pm ar 10 Mawrth 2020.
Grŵp 13 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â strwythurau corff llais y dinesydd ac ymgysylltu â'r corff. Gwelliant 40 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r gwelliannau. Angela Burns.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i gynnig gwelliannau 40, 19 ac 20 yn ffurfiol.
Daw hyn i hanfod, i galon, y corff llais y dinesydd. Os siaradwch chi â dinasyddion, maen nhw eisiau corff llais, maen nhw eisiau bod â chorff cynrychioliadol sy'n lleol iddyn nhw, sy'n deall eu materion lleol, sy'n deall eu bwrdd iechyd lleol, rhywun y gallan nhw fynd ato'n rhwydd—ac, wrth gwrs, nid byrddau iechyd yn unig bellach, ond bydd y cartref preswyl lleol, preifat neu gyhoeddus, bydd yn ofal cartref, bydd ar draws pob math o leoliadau. Ceir ofn gan rannau sylweddol o Gymru y cawn ni ein torri allan o hyn, a bod popeth yn cael ei ganoli yma yn y de-ddwyrain. Mae gan y gogledd, yn arbennig, ymdeimlad cryf iawn o'r datgysylltiad hwnnw; mae gan y gorllewin ymdeimlad cryf iawn o'r datgysylltiad hwnnw, a dydyn ni ddim eisiau i hynny ddigwydd. Felly, dyma pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn, er mwyn ceisio sicrhau, ar wyneb y Bil, nad dim ond addewid yw hyn, ond ei fod mewn gwirionedd yn ysgrifenedig, y bydd y corff llais hwn yn cynrychioli pobl ar sail mor agos iddyn nhw â phosibl.
Nawr, dydw i ddim, fel y gŵyr pob un ohonoch, yn berson cwbl afresymol, ac rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda'r Gweinidog yn helaeth ac wedi gwrando arno ar wahanol gyfnodau, yn siarad am hyn. Felly, rwyf i wedi cymedroli o ddweud fy mod i eisiau gweld union gopi o'r cynghorau iechyd cymuned—un ar gyfer sir Benfro, un ar gyfer sir Gaerfyrddin, un ar gyfer Ceredigion—ac rwy'n barod i ddilyn y model rhanbarthol, a dyna pam y mae gwelliant 40, sy'n ymdrin â'r strwythur hwnnw o gorff rhanbarthol yn bwysig iawn, iawn. Mae'n debyg i welliant 59, a gyflwynwyd gan y Gweinidog, a gwelliant 75, a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth. Ond rydym ni'n credu, ar ôl siarad â'r Gweinidog, ac ar ôl siarad â gwahanol bobl, pe gallem ni ei ddatblygu ar sail ranbarthol, gan efallai adlewyrchu ein byrddau partneriaeth rhanbarthol—sydd yno, sydd wedi eu hymgorffori, a dywedwyd wrthym fod cymaint o'n cyfeiriad teithio dros y pump neu'r 10 mlynedd nesaf yn mynd i ddibynnu ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny—roedd yn ymddangos yn amlwg iawn i'w gwneud nhw yn ôl troed ar gyfer corff llais rhanbarthol.
Rwy'n drist iawn bod y Gweinidog, er gwaethaf ein sgyrsiau, wedi parhau i fod yn ddi-ildio ar y pwynt hwn. Mae arno eisiau hyblygrwydd, ac rwy'n deall yr awydd hwnnw. Ond byddwn i'n eich rhybuddio, Gweinidog, bod eich ymdrech i sicrhau hyblygrwydd yn y fan yma, fel sydd wedi digwydd yn y Bil drwyddo draw, yn creu risg wirioneddol o adael gormod oddi ar y llyfrau—gormod i benderfyniadau dilynol, canllawiau dilynol, addewidion dilynol a bwriad dilynol. Ac yn anad dim, yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw rhyw gorff sydd wedi ei ganoli mewn man lle, os yw'r dinesydd eisiau cael gafael arno, y mae'n rhaid iddo ffonio y lle hwnnw, ac efallai y daw rhywun—efallai y daw rhywun o Gaerdydd i sir Benfro, efallai y daw rhywun o Gaerdydd i Arfon i wrando ar rywun, clywed eu problemau a cheisio eu datrys. Nid dyna yr ydym ni ei eisiau. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i weld ein gwelliant ni, sy'n cynnwys yr ardal leol, yn cael ei roi ar wyneb y Bil, mewn gwirionedd. A phe byddai ein gwelliant ni yn methu, yna byddwn i'n cefnogi gwelliant Plaid. Er, fy unig sylw yw y gallai'r strwythurau yr ydych chi'n awgrymu y gallai fod wedi ei seilio arnyn nhw gael eu newid yn y fformat newydd, os ydyn nhw'n newid llywodraeth leol, os oes, wyddoch chi—. Felly, dyna pam aethom ni am y byrddau partneriaeth rhanbarthol, oherwydd ein bod ni'n credu, beth bynnag sy'n digwydd, ei bod yn debygol mai'r rhain fydd y creigiau na fydd byth, byth yn symud.
A, Gweinidog, meddyliais yn hir ac yn drylwyr am hyn, oherwydd roeddwn i'n credu, 'Wel, os bydd ein gwelliant ni yn methu ac wedyn un Plaid Cymru yn methu, y peth gorau wedyn efallai fyddai mabwysiadu eich gwelliant chi, sy'n addo ymgynghori wyneb yn wyneb pryd bynnag y bo modd, sut bynnag y bo modd', ond po fwyaf yr oeddwn i'n ystyried y peth, po fwyaf yr oeddwn i'n meddwl, 'Na, dydy hynny wir ddim yn iawn.' Corff yw hwn i gynrychioli llais y dinesydd, lle bynnag y bo, nid lle bynnag y byddwch chi neu'r corff—gwahaniaeth mawr.
Mae yna bump o welliannau yn y grŵp yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r tri sydd wedi cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr.
Mae 59 yn welliant gan y Llywodraeth, sydd yn gam ymlaen o beth oedd gennym ni ynghynt—yn sôn am yr angen i lais y dinesydd gynrychioli pawb ymhob rhan o Gymru. Ond, ydych chi'n gwybod beth? Geiriau ydy'r rheini, a beth rydyn ni wedi trio ei wneud drwy lunio gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 yn fan hyn oedd trio rhoi rhyw fath o gnawd ar yr esgyrn hynny, er mwyn perswadio pobl ein bod ni go iawn yn ceisio creu corff newydd a fydd yn teimlo yn agos atyn nhw, achos mae hynny yn bwysig iddyn nhw. Achos nid dim ond llais y cleifion ydy'r cynghorau iechyd cymunedol ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn llais i'r cymunedau y mae'r cleifion hynny yn byw ynddyn nhw. Ac mae perthynas uniongyrchol, dwi'n meddwl, rhwng llais y claf neu lais y gymuned a'r cymunedau hynny y maen nhw'n eiriolwyr drostyn nhw yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig iawn i fi. Ac mae ofn colli hynny yn un arall o'r rhesymau, un o'r prif resymau, pam na allwn ni gefnogi'r Bil yma fel y mae o, oherwydd mae'n cymryd corff lleol cryf efo presenoldeb lleol cryf, dwi'n meddwl, ac yn bwriadu dileu hwnnw a rhoi yn ei le fo gorff sydd â strwythur nad ydym ni ddim yn gwybod beth fydd hwnnw a phresenoldeb ar lefel leol neu ranbarthol nad oes gennym ni ddim syniad sut byddai fo yn edrych.
A gadewch i mi ddweud wrthych chi sut mae'r Bil yma yn edrych o'r gogledd, er enghraifft. O'r gogledd, mae'n edrych fel bod yna Fil yn y fan hyn sydd yn ceisio cael gwared ar gyngor iechyd cymuned effeithiol iawn yn y gogledd oherwydd ei fod e wedi bod yn effeithiol iawn yn ei sgrwtini o record y Llywodraeth yn rhedeg Betsi Cadwaladr. Dyna sut mae'n edrych o'r gogledd. Does yna ddim amheuaeth am hynny. Dwi wedi cyfeirio unwaith yn barod at y gwaith rhagorol mae'r cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn ymgysylltu â'r cyhoedd ar draws y gogledd orllewin ynglŷn â'r newidiadau trychinebus, fel dwi'n eu gweld nhw, i drefniadau fasgwlar, a dwi wedi eu llongyfarch nhw ar y gwaith maen nhw yn ei wneud.
Ac oes yna unrhyw un wirioneddol yn gweld y byddai corff llais y dinesydd cenedlaethol, canolog, ei naws a'i natur yn gallu darparu yr un math o sgrwtini lleol? Dydw i ddim yn teimlo y byddai'r sgrwtini hwnnw yno. Mi fyddai rhai pobl yn dweud, 'Mi fyddai'r sylw i gyd ar y de'. Wel, dwi ddim yn un sy'n licio rhannu de a gogledd. Eisiau un wlad unedig ydw i, ac mi wnaf y gwahoddiad fan hyn: os ydych chi'n cael eich ffordd fel Llywodraeth, dewch â'r corff llais y dinesydd a sefydlwch o â'i bencadlys yn y gogledd. Mi fyddai hynny yn dda o beth ac, o bosib, yn ateb yr hyn dwi wedi ei beintio fel senario funud yn ôl. Ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ateb y broblem wedyn mewn rhannau eraill o Gymru fyddai'n edrych arno fo fel llais sydd â gormod o sylw ar y gogledd. Ond dyna fo, dwi wedi gwneud y gwahoddiad hwnnw rŵan.
Felly, beth mae'n gwelliant ni a'r Ceidwadwyr yn ei wneud ydy trio lliniaru hyn, trio ymateb i'r canfyddiad yna sydd yna o beth sy'n digwydd yn fan hyn drwy dynnu'r llais lleol i ffwrdd a beth rydym ni wedi ei wneud ydy trio diffinio—. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau, wrth gwrs, efo'r Llywodraeth yn trio eu perswadio nhw i gynnig diffiniad o sut allwn ni weithio yn rhanbarthol—wedi methu, ac felly wedi cynnig hwn. A dwi'n gwybod bydd y Llywodraeth yn gwrthod ein gwelliant ni, yn dadlau, dwi'n siŵr, ei bod hi'n anodd iawn yn gyfreithiol i ddiffinio beth ydy 'rhanbarthol'. Ond, wrth gwrs, mae yna lawer o gyrff sydd yn gweithio ar lefelau rhanbarthol, ac, i ymateb i'r pwynt wnaethpwyd gan y Ceidwadwyr yn gynharach, dydyn ni ddim yn bod yn prescriptive ynglŷn â pha ranbarth i'w ddilyn yn fan hyn, ond mae gennym ni lot o gyrff rhanbarthol—y gwasanaeth tân i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen—a'r cwbl fyddai'r Llywodraeth angen ei wneud yn ei datganiad polisi fyddai egluro beth fyddai'r footprint rhanbarthol hwnnw.
Mi allai fo hyd yn oed newid dros amser, ac yn sicr y bwriad hefo'r gwelliant yma ydy rhoi'r hyblygrwydd yna i'r Llywodraeth gynnig y cyswllt lleol cryf yna tra yn parhau, o hyn ymlaen, i chwilio am y model gorau i ddarparu hynny. Rydym ni wedi trio'n gorau i gyfarfod y Llywodraeth hanner ffordd, ond dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Llywodraeth deithio ar y ffordd honno tuag atom ni, felly gwrthod y Bil fyddwn ni o ganlyniad, dwi'n meddwl.
Un o'r beirniadaethau mwyaf o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned oedd colli'r llais lleol, rhanbarthol. Rydym ni wedi rhoi ein cefnogaeth i welliannau Angela oherwydd, yn ein barn ni, byddan nhw'n helpu i adfer y cysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu colli drwy gael gwared ar y Cynghorau Iechyd Cymuned a'u disodli gan gorff cenedlaethol bach gyda swyddfa yng Nghaerdydd, er enghraifft. Os yw'r corff newydd i fod yn wir lais y dinasyddion, mae'n rhaid iddo fod â chynrychiolaeth ym mhob rhan o Gymru a bod ar gael i bawb, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Mae'r pleidleisiau ar y Bil hwn hyd yn hyn, rwy'n ofni, wedi gwanhau llais y dinesydd yng Nghymru ymhellach, wedi lleihau atebolrwydd gweision cyhoeddus ymhellach, ac wedi tynnu mwy o bŵer oddi wrth bobl a lleoedd i gyrff cyhoeddus. Ond mae'r gwelliannau hyn yn rhoi cyfle i wrthdroi'r duedd honno, pan mai lleisiau lleol annibynnol yn unig sy'n rhoi her wirioneddol yn lleol. Mae hyn yn hollbwysig, fel y clywsom, yn enwedig yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle y bu'r cyngor iechyd cymuned yn arbennig o effeithiol wrth roi llais i'r dinesydd, a hynny weithiau, efallai, er diflastod pobl mewn cyrff cyhoeddus a phobl yn y Llywodraeth, ond mae angen i ni eu canmol am wneud eu gwaith, gan gydnabod, fel y dywedodd Angela yn gynharach, fod perchnogi problem, gweithredu ar broblem, amlygu problem, mynd i'r afael â phroblem, yn creu canlyniadau cadarnhaol, yn creu budd o ran enw da, yn creu gweithwyr hapus ac yn creu dinasyddion hapus. Mae'r diwylliant cyferbyniol yn creu'r gwrthwyneb i'r holl bethau hynny.
Fel y dywedodd y bwrdd cynghorau iechyd cymuned a'r cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, dylid nodi'n glir yn y Bil y bwriad bod gan y corff llais y dinesydd bresenoldeb lleol sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru. Maen nhw'n dweud y dylai'r Bil adlewyrchu'n glir y bwriad bod gan y corff llais y dinesydd bresenoldeb lleol sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru. Maen nhw'n dweud ei bod yn ofynnol i'r corff ddangos ei fod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru ar sail wyneb yn wyneb a fyddai'n helpu i sicrhau bod pawb, gan gynnwys y rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu teithio'n hwylus o bosibl neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, yn gallu rhannu eu barn a'u profiadau yn hyderus gyda'r corff llais y dinesydd. Mae'n rhaid i'r corff fod ag adnoddau a chyllid priodol i gefnogi a datblygu ei staff a'i aelodau gwirfoddol trwy ddysgu a datblygu priodol, maen nhw'n dweud. Maen nhw'n dweud bod pobl ledled Cymru yn glir bod angen i gorff llais y dinesydd newydd fod â grym os yw i fod yn wirioneddol gryf, yn wirioneddol annibynnol, yn llais gwirioneddol i adlewyrchu eu barn ac i gynrychioli eu buddiannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol a lleol. Oherwydd ni fydd pobl yn ffyddiog bod gan y corff newydd y grym hwn a'i fod yn gallu diwallu eu hanghenion ymhell i'r dyfodol os nad yw hyn wedi ei nodi'n glir o fewn y fframwaith statudol sy'n cael ei sefydlu ar gyfer y corff.
Profwch fy mod i'n anghywir os gwelwch yn dda: dangoswch fod fy sylwadau cychwynnol yn gwbl annilys a'ch bod yn gwrando ar yr hyn sy'n gwneud i bethau weithio'n iawn, a'ch bod yn credu bod yn rhaid i ni gael cydbwysedd effeithiol rhwng y Llywodraeth a'r bobl fel bod llais y bobl bob amser yn cael ei barchu, bob amser yn cael ei glywed ac y gweithredir arno bob amser. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod pethau'n mynd yn wael i'r cyfeiriad anghywir.
Dim ond i ategu yn sydyn iawn rhai o'r sylwadau roedd Rhun yn eu gwneud. Fe gyfeiriodd Rhun at y gwaith godidog mae'r cyngor iechyd cymunedol yn y gogledd wedi'i wneud ar y gwasanaethau fasgwlar yn benodol, ond un o nifer helaeth o achosion yw hwnnw. Mi ddywedaf wrthych chi fod y cyngor iechyd cymunedol wedi chware rôl allweddol yn y gwaith o gwmpas yr unedau gofal dwys i fabanod newydd-anedig. Ydych chi'n cofio'r ymgyrch fawr honno, yr ymgyrch a enillwyd yn y pen draw? Mi oedd y cyngor iechyd ynghanol yr ymgyrch honno.
Maen nhw wedi bod yn lladmerydd ardderchog i deuluoedd a'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y sefyllfa yn Nhawel Fan. Mae honno wedi bod yn achos flaenllaw iawn ar draws y gogledd, a'r cyngor iechyd cymunedol ynghanol y gwaith yn y fan yna. Fasgwlar, rydyn ni wedi clywed amdano fe. Yr holl agenda o gwmpas y mesurau arbennig. Unwaith eto, y cyngor iechyd cymunedol yw llais y bobl, sydd wedi bod yno bob tro, ym mhob amgylchiadau, yn ymladd ac yn sefyll wrth gefn y cleifion a'r trigolion, yn gwneud yn union beth mae'n dweud ar y tin.
Ddylai neb yn y fan hyn fod o dan unrhyw gamddealltwriaeth: mae hwn yn cael ei weld fel Llywodraeth Cymru yn cau i lawr llais cryf ac effeithiol a lladmerydd dros bobl gogledd Cymru. Nawr, dwi'n gwybod y bydd y Gweinidog yn dadlau yn wahanol, ac, wrth gwrs, mae hawl gyda fe i'w wneud, ond dyna yw'r canfyddiad.
Nawr, dwi ddim yn gwybod a yw rhai o'r cynghorau iechyd eraill yn llai effeithiol, ac efallai ein bod ni'n gweld colli'r cyngor iechyd yn y gogledd oherwydd methiannau eraill. Dwi ddim yn gwybod. Dim ond y cyngor iechyd yn y gogledd dwi'n gwybod amdano fe. Dwi'n dweud wrthych chi nawr: y canfyddiad yw ei fod e'n cael ei weld fel ffordd i osgoi y sgrwtini, a'r atebolrwydd a'r craffu mae'r bwrdd iechyd a'r Llywodraeth wedi'i wynebu dros y blynyddoedd.
Nawr, mi allech chi wneud un peth i anfon neges glir i bobl gogledd Cymru. Mi allech chi wneud penderfyniad cydwybodol y bydd y corff yma'n cael ei leoli, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, yng ngogledd Cymru. Dwi'n meddwl byddai hynny'n mynd peth o'r ffordd i daweli feddyliau pobl y gogledd. Ond, yn anffodus, does dim amheuaeth—mae colli'r cyngor iechyd yn mynd i fod yn golled ac mae gan y Llywodraeth lawer iawn o waith i'w wneud i ddarbwyllo pobl nad oes yna agenda arall yn cael ei chwarae allan fan hyn.
Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwrando eto ar y ddadl ar y gwelliannau hyn, oherwydd, yn wir, mae hyn wedi bod yn rhan sylweddol o hynt y Papur Gwyn ac, yn wir, drwy Gyfnodau 1 a 2. Nawr, rwyf yn cydnabod, er hyn, ein bod yn yr un man cychwyn yn fras, sef sut yr ydym ni'n sicrhau bod y corff llais y dinesydd yn cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru a'i fod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru.
Nodais yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2 y byddwn i'n cyfarfod â llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau i wrando ar eu pryderon a cheisio canfod ffordd gyffredin ymlaen. Roedd y cyfarfod yn adeiladol ac fe wnaethom ni gynnydd o ran cytuno ar sut y gellid gwella'r Bil. Mae'n anffodus na fu'n bosibl i bob un ohonom ni ddod i gytundeb ar safbwynt cyffredin, ond mae'n gam cadarnhaol y bu rhywfaint o gydnabyddiaeth bod gwelliant y Llywodraeth yn gam ymlaen. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 19 ac 20. Rwy'n cytuno y bydd y gwelliannau hynny, os cânt eu pasio, yn cryfhau'r Bil. Rwyf bob amser wedi bod yn glir trwy gydol y broses graffu na all y corff newydd, er mwyn cyflawni ei ymyraethau yn effeithiol, fod yn bell oddi wrth y bobl y mae angen iddo gynrychioli eu lleisiau. Mae ei gwneud yn ofynnol i'r corff roi sylw i bwysigrwydd ymgysylltu wyneb yn wyneb wrth geisio barn a darparu cymorth gyda chwynion, fel sy'n ofynnol gan welliannau 19 ac 20, yn fy marn i, yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen yn hynny o beth.
Mae gwelliannau 19 a 20 yn ategu gwelliant 59 y Llywodraeth, sy'n ychwanegu cryfder pellach yn y maes hwn, ac rwyf, wrth gwrs, yn hapus i'w cefnogi. Mae gwelliant 59 y Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff nodi yn ei ddatganiad polisi sut y mae'n bwriadu sicrhau ei fod yn gallu cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru, ei fod yn hygyrch i bobl ledled Cymru, a hefyd sut y mae'n bwriadu sicrhau bod ei staff ac eraill sy'n gweithredu ar ei ran, er enghraifft gwirfoddolwyr, yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â phobl ledled Cymru. Mae hynny'n gosod dyletswyddau clir ar y corff llais y dinesydd ynghylch ei ymgysylltiad â phobl ledled Cymru. Nid Bil ar gyfer y gogledd, y de, y dwyrain, y gorllewin neu'r canolbarth yn unig yw hwn; mae'n Fil ar gyfer y wlad i gyd, yn gorff llais y dinesydd ar gyfer y wlad i gyd. A bydd yn rhaid iddo gyhoeddi datganiad yn esbonio ei bolisi yn y cyswllt hwn. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 59 y Llywodraeth a'r ddau welliant yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes, 19 ac 20.
Fodd bynnag, nid wyf i'n cefnogi gwelliannau 40 a 75. Fe wnaf ymdrin â gwelliant 75 yn gyntaf, oherwydd, nid wyf i'n credu ei fod yn cyflawni'r hyn y mae'r cynigydd yn ei ddymuno mewn gwirionedd. Pan edrychwch chi ar y geiriad, nid yw'n glir beth yw lefel ranbarthol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn glir ynghylch beth sy'n cael ei gynnig. Yn yr un modd, nid yw'n glir yng ngwelliant 75 beth yw ystyr 'presenoldeb parhaol effeithiol'. Gallai olygu presenoldeb amser llawn gweithredol, neu gallai olygu rhywbeth sy'n bodoli am byth. Nawr, rwy'n parhau i fod o'r farn fod nid yn unig heriau technegol yn y fan yna, ond hefyd, o ran gwelliant 40, mae ei gwneud yn ofynnol i gorff llais y dinesydd sefydlu cyrff rhanbarthol ar ôl troed y byrddau partneriaeth rhanbarthol o leiaf yn cynnig rhywfaint o sicrwydd yn ein trefniadau presennol.
Fodd bynnag, rwy'n dal i gredu, ac fe wnaf ddychwelyd at y pwynt hwn am annibyniaeth, i gorff annibynnol—a bydd y corff llais y dinesydd newydd yn llawer mwy annibynnol na'r trefniadau presennol ar gyfer corff a gynhelir o fewn bwrdd iechyd Powys—na ddylid cyfyngu ar ei allu, y corff llais y dinesydd, i benderfynu beth ddylai ei strwythur lleol fod. Y corff ei hun fydd yn y sefyllfa orau i farnu hyn, ar sail yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn anghenion lleol a fydd yn newid dros y blynyddoedd nesaf, a bydd ganddo'r wybodaeth i wybod sut i weithredu yn y modd mwyaf effeithiol. Nid yw gosod cyfyngiadau, yn fy marn i, er budd gorau'r corff na'r cyhoedd y bydd yn eu gwasanaethu yn y pen draw. Fe dderbyniaf ymyriad ac yna fe ddof i ben.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi wedi cyfeirio unwaith neu ddwy nawr at Bowys. Siaradwch yn uniongyrchol â'm hetholwyr i a phobl y gogledd—ac eglurais sut yr wyf i'n credu bod hyn yn cael ei weld ganddyn nhw—sut yr ydych chi'n egluro wrthyn nhw y bydd y corff llais y dinesydd yr ydych chi'n ei gynnig yn fwy annibynnol, y bydd yn eich dwyn chi yn gadarnach i gyfrif, na'r cyngor iechyd cymuned a'r gwaith rhagorol y mae wedi bod yn ei wneud yn y gogledd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf?
Mae corff corfforaethol hyd braich, sy'n gallu ymgymryd â'i gontractau ei hun, ei drefniadau ei hun, ei brydlesi ei hun, yn llawer mwy annibynnol na chorff a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae holl staff y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol trwy Fwrdd Iechyd Powys. Nawr, mae symud y bobl hynny i gorff corfforaethol hyd braich, annibynnol, sy'n gallu pennu eu materion eu hunain, yn ddiau yn ffordd fwy annibynnol o weithredu na'u trefniadau presennol. Dyna yw ffeithiau yr hyn sy'n cael ei gynnig. Yr her yn y fan yma yw pa un a yw'r Aelodau yn gallu ac yn barod i ddisgrifio'n onest y gwahaniaeth rhwng y trefniadau hynny a'r rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Mae'r Bil presennol yn rhoi'r pŵer i gorff llais y dinesydd sefydlu pwyllgorau, i'w alluogi i sefydlu pwyllgorau lleol neu ranbarthol sy'n canolbwyntio ar anghenion lleol neu ranbarthol fel y maen nhw, nid y Llywodraeth, yn eu gweld. Fe all, fel y soniais, i gontractau neu brydlesi ar gyfer safleoedd. Felly, gall bennu lle y dylid lleoli ei swyddfeydd. Ni fydd wedi ei glymu i leoliad a bennir gan y Gweinidogion yng Nghaerdydd, fel y tybir yn aml sy'n wir. Mater i'r corff llais y dinesydd fydd penderfynu ym mhle y bydd wedi ei leoli, nid dim ond ei brif swyddfa, ond pob un o'i leoliadau rhanbarthol eraill hefyd.
Nid yw'r awydd i beidio â rhagnodi'r strwythur yn gysylltiedig ag arian. Mae'r asesiad o effaith rheoleiddiol yn amlwg yn cynnwys costau ar gyfer nifer o swyddfeydd. Mae'r costau yn yr asesiad effaith yn seiliedig ar y llety cynghorau iechyd cymuned presennol, sydd â staff wedi eu gwasgaru ar draws 12 lleoliad yng Nghymru. Wrth ddatblygu a pharatoi ei ddatganiad o bolisi, byddwn yn disgwyl i'r corff ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys er mwyn sicrhau bod ei drefniadau'n cael eu cefnogi'n frwd gan bobl ledled Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng caniatáu i'r corff bennu ei strwythur lleol ei hun, yn seiliedig ar ei asesiad ei hun, a'i gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb ledled Cymru ac yn gallu eu cynrychioli. Felly, rwy'n dal i fod wedi ymrwymo i sefydliad sydd â gwreiddiau lleol, ond lle mae'r corff ei hun yn pennu lle y mae wedi'i leoli a sut y caiff ei drefnu, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r dull hwnnw.
Angela Burns i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi ymdrin â hyn drwy ddewis ychydig o ddarnau bychain ohono. Mae arnaf eisiau dileu'r ddadl 'cynhelir gan Bowys', oherwydd rwy'n credu, a dweud y gwir, fod hynny'n anonest; taflu llwch i'r llygaid, os mynnwch chi. Nid oes gan Bowys unrhyw ysbytai—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gorffen fy mrawddeg, Kirsty Williams, rwy'n gwybod eich bod yn hoffi amddiffyn Powys bob amser, roeddwn i ar fin gorffen fy mrawddeg—sy'n amlwg iawn. Diolch. Maen nhw wedi gweithredu'n dda iawn o dan ymbarél Powys. Mewn gwirionedd, dydw i ddim yn credu bod, 'Maen nhw'n mynd i fod yn fwy annibynnol ac, felly, byddan nhw'n well', yn ddigon da, oherwydd maen nhw eisoes wedi dangos y gallan nhw fod yn well, eu bod nhw'n gallu bod yn annibynnol. Gwnaeth Llyr Huws Gruffydd achos cwbl anhygoel dros gyngor iechyd cymuned y gogledd a'r gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth alw—
Os caf i roi enghraifft benodol—diolch am dderbyn yr ymyriad—o'r heriau y mae'r trefniadau presennol yn eu darparu: pan, gyda phrif Weithredwr blaenorol y mudiad cynghorau iechyd cymuned, yr oedd her ynghylch ei ymddygiad, ni allai'r cynghorau iechyd cymuned eu hunain gymryd camau oherwydd ei fod yn gyflogai i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd yn rhaid i Bowys gytuno ar amrywiaeth o gamau i'w cymryd. Dyna fy mhwynt i: nid oedden nhw'n gallu ymgymryd ag amrywiaeth o fesurau. Ni allan nhw sefydlu eu prydlesi eu hunain, ni allan nhw wneud eu materion cyflogaeth eu hunain, ar eu ffurf bresennol. Bydd y ffordd newydd hon o weithredu yr ydym ni'n ei chynnig yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny ac yn rhoi iddyn nhw y pellter a'r grym i reoli eu tynged eu hunain.
Ni ddywedais i, ar unrhyw adeg yn ystod fy nghyfraniadau, na ddylen nhw fod yn annibynnol ar Bowys. Nid wyf yn credu ei fod yn rheswm sylfaenol dros wneud y newidiadau hyn i'r corff llais y dinesydd. Fy marn bersonol i yw y gellid dehongli llawer o'r newidiadau i'r corff llais y dinesydd—yn wir, rwyf i yn eu dehongli—fel ymgais i'w ffrwyno: gadewch i ni geisio cael eu cefnogaeth. Rwyf i'n dymuno gwneud yn siŵr bod y corff llais y dinesydd—. Nid corff fy llais i yw hwn, corff llais fy etholwyr ydyw, eich etholwyr chi, a'ch etholwyr chithau, ac rwyf i'n dymuno gwneud yn siŵr eu bod nhw'n credu mai eu corff llais y dinesydd nhw yw hwn.
Dydw i ddim yn credu eu bod yn poeni ar hyn o bryd ym mha le y mae'n cael ei gynnal a chan bwy, ond rwy'n derbyn eich pwynt y dylai fod yn gorff annibynnol, ac rwy'n hapus iawn i hynny ddigwydd. Yr hyn nad wyf i'n hapus yn ei gylch yw: nid yw'n dweud yn unman yn y Bil hwn, 'Pan fyddwch yn ailgyfansoddi eich hun, ac yn ailgasglu eich holl gyfarwyddwyr, ac yn ailgasglu eich staff a'ch prif weithredwr a'ch cadeirydd, y byddwch chi, ac mae'n rhaid i chi, sicrhau bod gennych chi freichiau a choesau, bod gennych chi filwyr ar strydoedd Cymru ym mhob twll a chornel o Gymru.' Nid yw'n dweud hynny.
Ac rwy'n siomedig iawn yn eich gwelliant 59. Er fy mod wrth fy modd eich bod wedi derbyn 19 ac 20, y gwnaethoch chi a'ch swyddogion weithio arnyn nhw gyda mi, rwy'n siomedig yn 59 oherwydd bod ein gwelliant 40 yn seiliedig ar eich sylwadau yn y cyfarfod a gawsom y gallai byrddau iechyd rhanbarthol fod y graig gadarn i'w hadeiladu arni. Felly, roeddwn i'n barod i ddod ymlaen—do, fe wnaethoch chi. Deuthum ymlaen a dweud, 'Iawn, fe wnaf droi oddi wrth cael un yn Hywel Dda ac un yn y fan hon ac un yn y fan acw, byddaf yn ei adeiladu ar ôl troed ychydig yn fwy.' Ystyriwyd mai byrddau rhanbarthol, ystyriwyd mai byrddau partneriaeth oedd y ffordd allweddol o wneud hynny. Felly, dyna pam yr wyf i'n siomedig iawn yn eich gwelliant 59 a dyna pham na fyddaf i'n ei gefnogi.
Oherwydd, rwy'n poeni'n ofnadwy, ein bod, nid yn unig yn mynd i fod â Bil nad oes ganddo'r dull priodol o allu dweud, 'Os ydych chi'n methu o ran eich dyletswydd ansawdd, dyma'r canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl; os nad ydych chi'n ei wneud, dyma a fydd yn digwydd—ac am eich dyletswydd o onestrwydd', ac nid oes unrhyw fesur na grym gwirioneddol yn yr holl beth, ond rydym ni yn awr yn mynd i fod â chorff llais y dinesydd lle—ac rwy'n eich clywed yn dweud na fydd yn digwydd—mewn egwyddor, gallai'r tîm newydd ddweud, 'Rydym ni'n mynd i fod ag un corff yn unig a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fydd dim ond bod â chynrychiolwyr draw fan yna a fydd yn wirfoddolwyr i gyd ac ni fyddan nhw'n staff.'
Gadewch i mi ddweud wrth y gogledd, fel rhywun sy'n byw yn y gorllewin, fy mod i'n gwbl fodlon i'r corff llais y dinesydd fod wedi ei leoli yn y gogledd, oherwydd yr hyn yr wyf i eisiau iddo ei wneud yw fy mod i eisiau iddo fod wedi ei leoli mewn man lle yr ydych chi'n teimlo eich bod ar gyrion pethau, lle yr ydych chi'n teimlo'n ynysig, lle yr ydych chi'n teimlo eich bod wedi eich gadael y tu allan mewn ffordd. Felly, rwy'n gwbl fodlon iddo fod wedi ei leoli yno, oherwydd rwy'n gwybod, os yw wedi ei leoli mewn lle fel y gogledd, y bydd gan y bobl sy'n ei gynnal ddealltwriaeth glir iawn o'r rheswm pam y mae mor bwysig i bob cornel o Gymru, holl ymylon Cymru, gael eu dwyn i mewn a'u cynrychioli ac y rhoddir llais iddyn nhw. Felly, nid oes gennyf i unrhyw broblem â'r awgrym hwnnw, a hoffwn i bawb, os gwelwch yn dda, gefnogi gwelliannau 40, 19 ac 20.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 40. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 19 yw'r gwelliant nesaf. Angela Burns.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Felly, derbynnir gwelliant 19.
Gwelliant 59 yw'r gwelliant nesaf. Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Os derbynnir gwelliant 59, bydd gwelliant 75 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 59. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 59. Gwelliant 75, felly, yn methu.