– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Mehefin 2020.
Symudwn yn awr at eitem 5, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae COVID-19 yn dal i gael effaith mawr ar fy mhortffolio i ac ar yr adran, ac mae digwyddiadau tramor hefyd yn cael effaith mawr arnom ni yma yng Nghymru. Tra'n bod ni yma yng Nghymru'n gweld lleihad yn nifer yr achosion o COVID, mae'n werth nodi bod swyddogion o Fudiad Iechyd y Byd—y World Health Organization—wedi'i gwneud hi'n glir bod y sefyllfa fyd-eang yn gwaethygu. Mae dros 7 miliwn o achosion wedi cael eu cadarnhau ledled y byd; 400,000 o bobl wedi marw. So, mae ffordd bell gyda ni i fynd, ond, i nifer o wledydd, mae'n bosibl fod y gwaethaf eto i ddod, ac mae'n hymrwymiad ni i wledydd sy'n datblygu wedi parhau yn ystod y pandemig, ynghyd â'n ymrwymiad ni i fasnach deg, sydd wedi cael sylw arbennig y mis yma gan ein bod ni'n dathlu'n deuddegfed flwyddyn fel Gwlad Masnach Deg.
Rwyf am danlinellu'r sioc a'r dicter y mae Llywodraeth Cymru a chynifer o bobl ledled Cymru a'r byd yn ei deimlo ynghylch lladd George Floyd gan swyddog heddlu, a'r ymateb llym a gafwyd wedyn gan Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae dinasyddion yr Unol Daleithiau yn protestio'n gyfiawn yn erbyn hiliaeth amlwg a wynebir gan bobl ddu, sydd fel pe bai wedi ymwreiddio mewn rhai sefydliadau. Mae'n amlwg efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau datganoledig i herio gweithredoedd Llywodraeth gwlad arall yn uniongyrchol, ond rwy'n credu bod dyletswydd foesol arnom i godi llais. Fel y dywedodd ein Gweinidog iechyd, Vaughan Gething:
Rhaid inni herio hiliaeth, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ble bynnag y down o hyd iddo, gan gynnwys yma yn y wlad hon.
Nawr, rydym yn gwybod heb amheuaeth nad yw hiliaeth sefydliadol yn broblem sydd ond yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae gennym ffordd bell i fynd yn ein gwlad ein hunain i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond rydym wedi datgan yn glir ein hundod â phawb sy'n protestio. Ond nid yw undod yn ddigon. Rhaid inni fod yn barod i herio gwledydd eraill, yn enwedig pan fydd y gweithredoedd hynny'n creu ymateb yma yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ac yn gofyn iddynt atgoffa Arlywydd yr Unol Daleithiau am ei rwymedigaethau i barchu hawliau dynol ac i ofyn iddo gydnabod yn ddiamod fod bywydau pobl dduon yn bwysig.
Rwyf hefyd wedi gofyn i'n tîm cysylltiadau rhyngwladol fonitro'r sefyllfa bryderus yn Hong Kong a phwysleisio ein hymrwymiad yn Llywodraeth Cymru i egwyddorion democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.
Nawr, rydym wedi defnyddio'r wybodaeth amhrisiadwy a ddarparwyd gan ein swyddfeydd rhyngwladol ynglŷn â sut y mae Llywodraethau tramor eraill yn llacio cyfyngiadau symud er mwyn helpu i roi siâp i'n cynlluniau a'n hymateb yma yng Nghymru.
Mae'r cloc yn tician mewn perthynas â datblygu perthynas newydd â'r UE, a phan ddaw'r cyfnod pontio i ben, bydd ein perthynas fasnachu bresennol â llawer o wledydd eraill y byd hefyd yn dod i ben. Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynglŷn â thrafodaethau masnach yr Unol Daleithiau, ac yn enwedig y pryder cynyddol ynghylch gostwng safonau bwyd a lles anifeiliaid y DU, ac mae'r posibilrwydd y bydd cyw iâr wedi'i glorineiddio'n cael ei fewnforio yn destun pryder mawr. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i ni na fyddant yn cytuno i ostwng safonau mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth a addawyd ganddynt yn eu maniffesto a byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn ei gylch.
Hoffwn droi yn awr at dwristiaeth. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn hynny y prynhawn yma. O'r Prif Weinidog i lawr, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o faint yr her sy'n wynebu'r sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau, ac ers i'r argyfwng ddechrau, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr y diwydiant. Rydym yn gwybod na ddaw tymor yr haf yn ei ôl wedi iddo fynd heibio. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda'r diwydiant a chymunedau lleol i sicrhau ei bod yn ddiogel i ddychwelyd at dwristiaeth cyn gynted ag y bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu. Rydym yn gwybod y byddai'r diwydiant yn hoffi i ni ddarparu dyddiad ar gyfer pryd y gall y diwydiant ailddechrau, ond rydym wedi dweud yn gyson y cawn ein llywio gan y wyddoniaeth, ac nid gan ddyddiadau, ac ni fyddwn yn llacio'r cyfyngiadau hyd oni fydd y cyngor meddygol yn dweud ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny.
Rydym wedi addo y byddwn yn rhoi o leiaf dair wythnos o rybudd i'r diwydiant er mwyn paratoi ar gyfer ailagor ac rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ba bryd y gallwn ddangos ein bod yn agosáu at yr amser cywir i ailagor darpariaeth llety a rennir heb gyfleusterau, a nodir yn y parth oren yn rhaglen y Prif Weinidog. Rydym yn ymwybodol y bydd y diwydiant yn gwylio datganiad 21 diwrnod yr wythnos nesaf yn ofalus iawn, a byddwn yn edrych am arwydd gan y Prif Weinidog mewn perthynas â'r sector twristiaeth.
Rydym yn ymwybodol iawn, wrth i fusnesau nesáu at fis Awst, y bydd gofyn iddynt gyfrannu'n ariannol at gynllun ffyrlo, ac rydym yn deall pwysigrwydd y dyddiadau hyn i fusnesau. Felly, rydym yn paratoi—ac yn paratoi'n fanwl—ac mae hynny wedi cynnwys datblygu canllawiau a phrotocolau manwl i gefnogi'r sector a diogelu'r gymuned a staff ac ymwelwyr.
Ein pecyn cymorth ni i'r diwydiant yw'r mwyaf hael yn y DU, yn enwedig drwy ein cronfa cadernid economaidd bwrpasol, lle rydym wedi dyfarnu dros £10 miliwn i fusnesau twristiaeth, o 5 Mehefin ymlaen, gan ddiogelu dros 4,500 o weithwyr. Ac fel y clywsoch, bydd cam 2 y gronfa yn paratoi'r ffordd i ragor o fusnesau twristiaeth gael mynediad at y cronfeydd hyn. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun ffyrlo neu i greu pecyn pwrpasol ar gyfer y sector.
Yn anffodus, mae'n debyg mai'r diwydiant digwyddiadau fydd yr olaf i ymadfer, ac rydym yn gobeithio gweithio'n agosach byth gyda threfnwyr ledled Cymru i ystyried y ffordd ymlaen. Mae'r sector diwylliant a'r celfyddydau hefyd o dan bwysau aruthrol. Y sefydliadau hyn yn aml yw calon ein cymunedau, a byddant hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid allweddol i gynnig cyngor ac arweiniad ac rydym wedi blaenoriaethu ein hymatebion ar gyfer y gweithgareddau mwyaf hanfodol yn y tymor byr, a chefnogi sefydliadau sydd â phroblemau llif arian a chaledi cyffredinol. Ac rydym hefyd yn darparu canllawiau ar sicrhau bod chwaraeon yn dychwelyd yn ddiogel ac ar ailagor cyfleusterau pan fo'r amodau'n iawn.
O ran y Gymraeg, dwi wrth fy modd bod dysgu Cymraeg wedi dod mor boblogaidd yn ystod y cyfnod cloi yma. Lai na phythefnos ar ôl cloi lawr yng Nghymru, lansiodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddosbarthiadau Cymraeg newydd gyda 8,300 o bobl newydd yn ymuno.
A gaf i estyn llongyfarchiadau hefyd i'r Urdd ar gynnal Eisteddfod T? Gwnaeth dros 6,000 gystadlu, gyda nifer o'r rhain yn gynulleidfaoedd newydd. Roedd hwn yn ddigwyddiad arloesol i S4C ac i'r Urdd, ac roedd hwn wedi cael ei ddarlledu'n fyw, a dyma'r peth digidol mwyaf i blant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig yn ystod COVID-19.
Darlledwyd neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd ar 18 Mai. Gofynnodd pobl ifanc Cymru i ni stopio'r cloc mewn ymateb i COVID-19 a meddwl sut ydyn ni am weld y byd yn y dyfodol. Fe wnaeth y neges yna gyrraedd 37 miliwn o bobl ledled y byd, a hynny mewn 57 iaith, gan gynnwys yr holl ieithoedd mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn eu cynrychioli.
Mae'r sialensau sydd ynghlwm â'r firws yn mynd i barhau am sbel i ddod, ond dwi'n hyderus y byddwn ni'n dod drwy hyn fel gwlad ymhen amser, a fan hyn mae'n werth dyfynnu Waldo Williams:
'Gobaith fo’n meistr: rhoed Amser i ni’n was'.
Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad.
Os caf ddechrau drwy gysylltu fy hun a fy mhlaid yn llwyr â sylwadau'r Gweinidog am y sefyllfa yn Unol Daleithiau America, a mynegi pa mor falch wyf fi ei bod wedi teimlo y gall ysgrifennu ar ran Cymru fel cenedl a mynegi ein pryderon. Mae'r Gweinidog yn gywir, wrth gwrs, pan ddywed nad oes yr un genedl, ysywaeth, yn rhydd o'r math hwn o ragfarn a gwahaniaethu. I ategu cwestiwn Adam Price i'r Prif Weinidog yn gynharach, a fydd hi'n cael trafodaethau pellach gyda'i chyd-Weinidogion i drafod y cyfle i agor amgueddfa benodol sy'n amlygu hanes a chyfraniad cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i ni yma yng Nghymru? Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o atal rhagfarn a gwahaniaethu yw i'n pobl ifanc yn enwedig ddeall yr hanes yn well.
Ar dwristiaeth, rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'n ei ddweud am beidio â bod eisiau ceisio rhoi dyddiadau; mae'n amlwg yn amhosibl gwneud hynny. Ond mae'n sôn yn ei datganiad y bydd canllawiau sectoraidd pellach i fusnesau ynglŷn â sut y gallant agor yn ddiogel. Croesewir hyn yn fawr, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn deall bod angen i'r canllawiau hynny fod ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau, er enghraifft, os oes angen i fusnesau wneud addasiadau i adeilad, boed yn addasiadau i far neu i gwch, fod ganddynt amser i roi hynny ar waith, a hefyd eu bod yn gallu ailhyfforddi eu staff os bydd angen.
Tybed a all ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n disgwyl cael canlyniad y trafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, trafodaethau rwy'n eu croesawu'n fawr. Oherwydd, unwaith eto, gallai busnesau—. Bydd yn helpu busnesau'n fawr os ydynt yn gwybod pa fath o gymorth a allai fod ar gael pan ddaw'r pecynnau presennol i ben, a sut beth fydd y cymorth hwnnw.
Ar y sector diwylliannol a'r celfyddydau, mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn hollol iawn i ddweud pa mor bwysig yw'r sefydliadau hyn, a hoffwn gymeradwyo Cyngor Celfyddydau Cymru, er enghraifft, ar y ffordd y maent wedi ymateb i'r sector ac wedi gweithio gydag ef. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai fod yn bosibl inni agor rhai o'n sefydliadau allweddol—rwy'n meddwl am yr amgueddfa werin yn Sain Ffagan, er enghraifft—yn gynt nag eraill? Ac os gwnawn hynny, efallai y byddwn am sefydlu rhyw fath o system flaenoriaethu, fel bod pobl ifanc yn arbennig yn cael mynediad at yr hanes hynod bwysig hwn. Ac a all y Gweinidog ddweud rhagor wrthym am y cymorth a ddarparwyd drwy gyngor y celfyddydau ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r cynllun hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond bod mwy na'r disgwyl o bobl wedi ymgeisio amdano o bosibl.
Bydd angen i chi ddod i ben yn awr, ac fe ddychwelaf atoch ymhen munud neu ddau ar ôl i'r Gweinidog ymateb i'r gyfres gyntaf o gwestiynau.
Rwy'n ymddiheuro. Fe roddaf y gorau iddi yn y fan honno a dod yn ôl.
Y Gweinidog.
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr, Helen Mary, a diolch am y gefnogaeth ynglŷn â'n safbwynt ni a'n hymateb ni i Black Lives Matter yma yng Nghymru, a hefyd am y neges rŷn ni'n glir eisiau ei rhoi i'r Unol Daleithiau.
O ran yr amgueddfa, a gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o glywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach mewn perthynas â'r syniad o ddatblygu rhyw fath o amgueddfa? Byddwn yn sicr yn ymchwilio i hynny fel adran ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gydnabod y dylanwad a'r effaith a'r ffordd y mae pobl dduon wedi cyfrannu at fywyd Cymru dros y blynyddoedd, ac y dylid cydnabod hynny. Mae'n hollol anghredadwy i mi fod pobl wedi bod yn mynychu ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd, er enghraifft, heb unrhyw syniad pwy ydoedd na beth a wnaeth, a chredaf fod hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Mewn perthynas â'r canllawiau sectoraidd y sonioch chi amdanynt, rwy'n meddwl ein bod yn ar fin eu cwblhau a byddant ar gael i westai, i gyfleusterau, i gyfleusterau chwaraeon, i atyniadau twristiaeth. Mae'r holl waith hwnnw wedi'i wneud yn drylwyr dros nifer o wythnosau drwy gydgysylltu ac ymgynghori â chynrychiolwyr o'r sector. Felly, mae'r cyfan ar gael, a bydd ar gael yn ystod yr wythnos nesaf, ac felly, wrth gwrs, bydd hynny'n helpu pobl i roi camau ar waith.
Pan fyddwn yn sôn am y pecynnau a all fod ar gael gan Lywodraeth y DU, yn amlwg rwy'n gwybod eisoes fod y Gweinidog cyllid wedi ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am estyniad i'r cynllun ffyrlo, a hyd yn oed i ystyried y bydd angen sylw arbennig ar sectorau penodol fel y sector twristiaeth. Ond rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth fod hyn y tu hwnt i'n gallu i ariannu o'r fan hon yng Nghymru.
Ar fater yr amgueddfa werin, roeddem eisoes wedi dweud yn yr adolygiad 21 diwrnod diwethaf y byddai amgueddfeydd awyr agored yn gallu agor yn y dyfodol agos, felly rydym wedi rhoi amser iddynt baratoi. Gwn fod Sain Ffagan eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith i baratoi a bod yn barod ar gyfer hynny, ac i wneud yn siŵr fod y canllawiau y maent wedi'u datblygu yn cael eu dilyn yn fanwl, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi hyder i'r cyhoedd pan fydd yn agor y bydd yn ddiogel iddynt fynd i mewn i'r amgueddfa.
Ac yn olaf, ar becyn cyngor y celfyddydau, fe fyddwch yn ymwybodol fod cronfa o £17 miliwn wedi'i hailgyfeirio o gyllidebau presennol. Rhywfaint o'r gronfa honno—. Roedd cronfa gydnerthedd gwerth £7 miliwn ar gyfer y celfyddydau, ac roedd cyfle, fel y dywedwch, i weithwyr llawrydd allu wneud cais ar gyfer honno. Gwn fod llawer o'r arian hwnnw eisoes wedi'i glustnodi, ond yn sicr mae cyfle i weithwyr llawrydd ofyn am gymorth o'r cyllid hwnnw.
Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd, ac fe fyddaf yn gryno. Rhaid cyfaddef fy mod wedi anghofio bod gennyf ail swp o gwestiynau. Rwy'n ymddiheuro.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd am y ffaith eu bod wedi addasu'n wych. Ond dywedir wrthyf ein bod wedi cael cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg ar-lein, rhywbeth sy'n amlwg yn galonogol iawn. Gwn ei bod wedi gorfod ailbroffilio ei chyllideb, ond a yw'r Gweinidog yn hyderus fod digon o adnoddau ar gael i'r rhai sy'n dymuno dysgu Cymraeg ar yr adeg anodd hon i allu gwneud hynny?
O ran ymgyrch Black Lives Matter, a wnaiff ystyried siarad â'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y gallem adlewyrchu hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn well yng Nghymru yn ein cwricwlwm wrth inni symud ymlaen? Rwy'n derbyn ei phwynt ynglŷn â'r modd nad yw hi'n debygol fod pobl ifanc sy'n astudio yn ysgol Thomas Picton yn gwybod pwy ydyw. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd felly, a wnaiff hi ystyried edrych yn y tymor canolig—nid yw hyn yn rhywbeth a all ddigwydd ar unwaith—ar yr henebion hanesyddol hynny, yr adeiladau cyhoeddus hynny, a'r bobl y maent wedi eu henwi ar eu holau, i weld a yw'n bryd inni gynnal adolygiad tebyg i'r un sy'n cael ei wneud yn Llundain, i sicrhau nad ydym yn coffáu pobl nad ydym am adlewyrchu eu hanes.
Diolch. O ran y gefnogaeth a roddir i ddysgu Cymraeg ar-lein, credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yn amlwg, mae'n llawer rhatach na gwneud pethau wyneb yn wyneb. Felly, mae'r holl gyllid a oedd yn cael ei roi tuag at gyswllt wyneb yn wyneb yn cael ei wneud ar-lein erbyn hyn. Yr hyn sy'n ddiddorol, mewn gwirionedd, yw bod mwy o bobl yn dod i'r dosbarthiadau ar-lein nag a ddeuai i'r ystafell ddosbarth go iawn, felly credaf fod cyfle gwirioneddol inni ailfeddwl ynglŷn â'r ffordd rydym yn darparu addysg Gymraeg i oedolion yng Nghymru. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae pethau'n symud. Yn amlwg, mae gan rai pobl ychydig o amser sbâr ar hyn o bryd i allu datblygu eu sgiliau iaith, ac rydym yn falch iawn o weld hynny'n digwydd.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn hynod ymwybodol o bwysigrwydd adrodd hanesion Cymru, ac mae'n fater o sôn am hanesion lluosog Cymru. Mae'n rhaid i hynny gynnwys bywydau pobl dduon. Gwn fod y Prif Weinidog yn awyddus iawn ac yn deall y dylai fod yn fater ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod yr Ysgrifennydd addysg yn edrych arno o ran y cwricwlwm newydd a sut y gellir cynnwys hynny. Yn amlwg, byddai'n gwneud synnwyr i wahanol ysgolion o amgylch y wlad ymateb i'r hyn a ddigwyddodd iddynt yn lleol. Felly, mae angen i chi roi hyblygrwydd, a chredaf mai dyna yw holl bwrpas y cwricwlwm newydd—fod pobl yn gallu ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn lleol hefyd.
Ar y sefyllfa mewn perthynas â henebion yng Nghymru, mae'n amlwg na ddylem ddathlu gweithredoedd pobl yn y gorffennol lle mae gennym bryderon gwirioneddol am yr hyn y mae hynny'n ei gynrychioli i ni, yn foesegol. Credaf ein bod eisoes wedi gweld yng nghyngor dinas Caerdydd fod y ddadl honno wedi dechrau, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweld y ddadl honno'n digwydd ledled Cymru yn awr—mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn edrych ar rai o'r cerfluniau a'r henebion eraill sy'n bodoli yng Nghymru o bobl na ddylem fod yn eu dathlu o bosibl, ac mae cyfle, gobeithio, i ni ganolbwyntio ar hynny.
Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog cydraddoldebau yn awyddus iawn i edrych ar sut rydym yn datblygu yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth roedd hi'n edrych arno ymhell cyn i'r lladd ddigwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae'r cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol eisoes yn cael ei ddatblygu. Felly, rwy'n hyderus iawn o'r ffaith ein bod yn hynod ymwybodol mewn gwirionedd fod yna anfanteision gwirioneddol o hyd i bobl dduon yn ein cymunedau, a bod angen inni ganolbwyntio ar hynny, yn enwedig yn awr yng nghyfnod y coronafeirws.
A gaf fi ddechrau, Weinidog, drwy gadarnhau ar ran Plaid Geidwadol Cymru fod bywydau pobl dduon yn bwysig? Rwy'n gobeithio y gwelir marwolaeth greulon George Floyd yn y dyfodol fel moment dyngedfennol, pan ddigwyddodd rhywbeth, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau ond ym mhob cwr o'r byd, yn enwedig yn ein hachos ni yng Nghymru ac yn y DU, pan wnaethom archwilio ein hanes ein hunain ac yn arbennig ein hagweddau a'n hymrwymiad i sicrhau mwy o gydraddoldeb, ond y modd y mae hynny'n fyr o'r nod yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol.
Caf fy atgoffa o waith y cynorthwyodd Helen Mary a minnau i'w wneud 20 mlynedd yn ôl, pan oedd y pwyllgor cydraddoldeb cyntaf ar y pryd—credid ei fod yn arloesol iawn ar y pryd gyda llaw, pan gawsom ddatganoli gyntaf—yn edrych ar adroddiad Lawrence ac fe wnaethom argymell bod y cwricwlwm yn archwilio rôl môr Hafren yn y fasnach gaethweision, a oedd, er yn seiliedig ym Mryste, yn cynnwys porthladdoedd de Cymru hefyd. Mae'n sobreiddiol meddwl, 20 mlynedd yn ddiweddarach, fod llawer iawn i'w wneud eto, er ein bod wedi gwneud cynnydd hefyd.
A gaf fi ddweud fy mod yn credu mai mater i bob cenhedlaeth yw penderfynu sut y defnyddir eu mannau cyhoeddus mwyaf amlwg a sut y cânt eu defnyddio i goffáu neu ddathlu personoliaethau penodol neu achosion ehangach ar y cyd? Rwy'n credu y dylid ei wneud drwy fyfyrio dwfn ac yn ystyrlon, oherwydd mae angen iddo fod yn brofiad dysgu i bawb, i'r gymdeithas ehangach. Felly, nid wyf yn hoffi'r syniad fod y materion hyn yn cael eu setlo ar fympwy, ni waeth pa mor gryf a diffuant yw hynny, a heb broses briodol. Rwy'n gobeithio y bydd cyfarfod y pwyllgor diwylliant yfory yn dechrau edrych ar yr agwedd dreftadaeth hon ar bwy sy'n cael eu dathlu a ble a sut y cawn ffordd briodol o ymdrin â'r materion hyn sy'n ddadleuol iawn weithiau.
Yn fy set gyntaf o gwestiynau, hoffwn ofyn un penodol am dwristiaeth. Rwy'n credu bod consensws yn awr yn y Siambr y gellir agor busnesau llety hunanarlwyo, ac mae angen i hynny fynd rhagddo'n gyflym. Ceir cwestiwn ynglŷn â llawer o barciau carafannau a chartrefi modur sydd â chyfleusterau a rennir, ond gallent eu cau a chaniatáu carafannau a chartrefi modur i mewn wedyn, a chan eu bod yn meddu ar eu cyfleusterau eu hunain, gallent ddefnyddio lleiniau, gan ganiatáu rhyw lefel o fusnes yn y parciau hynny. Rwyf wedi mynd ar drywydd y mater hwn eisoes mewn cwestiwn ysgrifenedig, ac rwy'n gobeithio y cawn ateb llawnach a pholisi llawnach er mwyn inni gael hyblygrwydd i'r rhai sy'n gallu dangos eu bod wedi cau'r cyfleusterau a rennir sydd ganddynt ar y safle, fel y gallant agor wedyn ar gyfer yr unedau hunanddarpar sydd yno. Ond rwy'n gofyn i chi edrych ar y cwestiwn penodol hwnnw pan fydd yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau symud yn digwydd ymhen wythnos.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, diolch i'r Blaid Geidwadol am gadarnhau eu cefnogaeth i Black Lives Matter, fel y byddwn yn ei ddisgwyl. Felly, mae'n dda iawn fod gennym gonsensws pendant o ran ein hymagwedd yma yng Nghymru.
Mewn perthynas â'r cwricwlwm, ceir agweddau craidd ar y meysydd dysgu a phrofiad o fewn y cwricwlwm newydd a fydd yn tanlinellu pwysigrwydd edrych ar hyn fel mater sy'n codi o fewn y cwricwlwm. Ond unwaith eto, mater i'r bobl hynny'n lleol fydd penderfynu sut y byddant yn datblygu hynny ac yn mynd ati i'w wneud.
Ar fater twristiaeth, gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud llawer o waith manwl iawn ar beth fydd yn gallu agor yn ystod y cyfnod oren. Rydym yn edrych ar yr hyn y mae llety a rennir neu gyfleusterau a rennir yn ei olygu, ac rydym yn sicr yn edrych ar feysydd carafannau ac a fyddent yn gallu agor pe baent yn cau cyfleusterau a rennir. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym eisoes yn ei wneud.
Hoffwn danlinellu ein bod ni i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i weld pethau'n mynd yn ôl i'r arfer yn rhai o'n hardaloedd twristiaeth allweddol yn arbennig, ond er mwyn tanlinellu hynny, beth bynnag a wnawn, mae'n rhaid inni ddod â'r gymuned gyda ni. Rwy'n credu bod llawer o nerfusrwydd yn dal i fodoli mewn rhai mannau ac mae angen inni ddatblygu hyder pobl. Rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau hyn y buom yn eu gosod, ac y buom yn eu datblygu yn rhoi sicrwydd i'r cymunedau y bydd yn ddiogel i agor pan fydd y gyfradd R mewn man lle rydym yn hyderus y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod strategaeth dwristiaeth gydlynol ac uchelgeisiol yn galw hefyd am weithredu mewn partneriaeth â gweddill y DU? Ac er bod yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru yn bwysig iawn, mae angen iddo fod yn gysylltiedig â materion ehangach hefyd—rydych chi eisoes wedi sôn am y cynllun ffyrlo. Rwy'n gobeithio y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, pan fydd yn weithredol, yn gallu buddsoddi'n sylweddol mewn twristiaeth. Mae'n sector mor allweddol yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae'n mynd i alw am gefnogaeth barhaus dros y 18 mis nesaf yn ôl pob tebyg. Oherwydd hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd yr hyn a fydd, gobeithio, yn dymor twristiaeth llawnach o lawer y gwanwyn nesaf, bydd llawer o ailadeiladu i'w wneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yng Nghymru gyda rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, ond mae angen inni fod yn rhan o ddull partneriaeth ehangach yn y DU yn ogystal, yn enwedig ar rai o'r ffynonellau ariannu mawr posibl hynny.
Ac yma, rwy'n credu y gall ein strategaeth farchnata fwydo i mewn i un y DU hefyd, ond credaf nad ydym wedi gwneud cymaint ag y gallem ei wneud yn y gorffennol, ers dyddiau Awdurdod Datblygu Cymru yn ôl pob tebyg. Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael strategaeth farchnata o'r radd flaenaf i Gymru. Credaf mai dyna'r hyn y dylem anelu ato eto, oherwydd mae'r Llywodraeth mewn sefyllfa wych i gyflwyno strategaeth farchnata, yn enwedig ar gyfer twristiaeth, oherwydd mai methiant y farchnad yn unig sydd yno, gyda chymaint mwy o ddarparwyr bach nad ydynt yn gallu ymuno â'i gilydd i ariannu strategaeth farchnata, ond gall y Llywodraeth wneud hynny. Ond mae angen inni hefyd fwydo i mewn i seilwaith y DU. Mae llysgenadaethau tramor, er enghraifft, a theithiau masnach yn allweddol i gael ein hatgoffa yn eu cylch, oherwydd os ydym yn hyrwyddo Cymru ar gyfer twristiaeth, rydym yn ei hyrwyddo ar gyfer busnes ehangach hefyd.
Diolch, David. Yn sicr—byddwn yn dweud bod cysylltiad hynod o agos rhyngom a diwydiant twristiaeth y DU. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â'i gymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig, ac mae llawer o'r canllawiau sy'n cael eu datblygu, yn cael eu datblygu ar y cyd â gweddill y DU lle bo'n bosibl. Oherwydd efallai nad yw'n gwneud synnwyr inni gael protocol ar wahân ar gyfer sut rydych chi'n defnyddio bwffe yng Nghymru i sut y byddech chi'n defnyddio bwffe yn yr Alban. Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn cael eu trafod yn fanwl.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr—nid ar ochr y Llywodraeth yn unig, ond ar ochr y diwydiant hefyd—. Felly, mae gennym gynrychiolwyr o Gymru ar fwrdd VisitBritain. Mae Cyngor Diwydiant Twristiaeth y DU, wrth gwrs, yn bobl sy'n rhan o'r trafodaethau wythnosol y mae Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog, yn eu cael gyda'r diwydiant. Felly, rwy'n credu bod y cysylltiad â'r DU yn gryf iawn mewn gwirionedd.
Pan fyddwch chi'n sôn am strategaeth farchnata, ein strategaeth farchnata ar hyn o bryd wrth gwrs yw 'Croeso i Gymru, yn nes ymlaen', ac wrth gwrs, ar ryw adeg, byddwn yn newid hynny pan fyddwn yn teimlo ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Ond rwy'n credu bod llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud ar hyn. Mae gennym oddeutu 1 filiwn o ddilynwyr ar Twitter mewn perthynas â Wales.com. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith wedi'i wneud eisoes ar frandio Cymru. Rwy'n credu bod hynny mewn lle da iawn yn awr. Felly, dyna sut rydym yn hyrwyddo'r platfformau hynny i gynulleidfa ehangach ac yn cael Llywodraeth y DU i hyrwyddo ar ein rhan. Yn sicr, un o'r pethau rydym wedi bod yn ceisio eu pwysleisio o fewn y strategaeth ryngwladol newydd honno yw rhoi'r wybodaeth glir i Lywodraeth y DU ynglŷn â beth rydym am iddynt ei ddweud ar ein rhan, ac rwy'n credu ein bod ni mewn lle gwell o lawer gyda hynny yn awr.
Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am y gwaith rydych yn parhau i'w wneud, ac fe wnawn ni i gyd weddïo am heddwch ar draws y byd.
Mae economi fy rhanbarth, fel sawl rhan o Gymru, yn dibynnu'n drwm ar y sector twristiaeth, sector sydd wedi'i ddifetha gan y pandemig coronafeirws. Microfusnesau yw'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn fy rhanbarth, ac mae'r enillion a gollwyd wedi bod yn drychinebus. Oni weithredwn i ganiatáu i'r sector weithredu'n fuan, bydd llawer o'r busnesau hyn yn methu goroesi. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau tan ddiwedd Mehefin, ac ynglŷn â'r grantiau hyn o £10,000 neu £25,000, a fyddant yn daliad untro neu a gynigir mwy o gymorth os na fydd y sector yn gallu gweithredu ym mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst?
Er fy mod yn derbyn bod yn rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod o'r pwys mwyaf ac na fydd y sector twristiaeth yn gallu gweithredu fel y gwnâi cyn y coronafeirws, mae sawl ffordd o liniaru'r clefyd a dal i gael tymor twristiaeth, cyn belled ag y glynir at fesurau cadw pellter cymdeithasol. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r gell gyngor technegol ynglŷn â sut y gall twristiaeth a hamdden weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig hwn?
Mae llawer o barciau gwyliau yn fy rhanbarth yn cynnwys carafannau sefydlog, sydd yn ôl y gyfraith yn gorfod bod 5m oddi wrth ei gilydd. Mae'r rhain yn hunangynhwysol, gyda'u ceginau a'u hystafelloedd ymolchi eu hunain. Weinidog, a wnewch chi ystyried caniatáu i'r parciau hyn agor yn yr wythnos neu ddwy nesaf? Gellir cymryd camau i leihau risg i'r eithaf, o gofio bod y sector yn gwneud 70 y cant o'i refeniw yn ystod mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylid caniatáu i barciau gwyliau agor cyn gynted ag y bo modd?
Ac yn olaf, Weinidog, gyda mesurau cwarantin ar waith ar gyfer pawb sy'n teithio i'r DU, mae'n annhebygol y byddwn yn gweld llawer o dwristiaid tramor eleni. Ond ar yr ochr arall i'r geiniog, mae'n annhebygol y bydd trigolion y DU yn mwynhau gwyliau tramor chwaith. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, y bydd fy rhanbarth i, a Chymru gyfan, yn elwa o'r cynnydd anorfod mewn gwyliau yn y wlad hon? Diolch.
Diolch. Yn gyntaf oll, byddwn yn dweud y bydd y microfusnesau hynny, gobeithio, yn cael cyfle i wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd nesaf, ac mae'n cael ei thargedu'n benodol at y rheini yng ngham nesaf y gronfa cadernid economaidd. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn annog y bobl sydd wedi cysylltu â chi i edrych ar hynny, ac maent eisoes yn gallu asesu a fyddant yn gymwys, er nad yw'r gronfa wedi'i hagor yn ffurfiol eto.
Hefyd, o ran canllawiau, fel y dywedais, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i roi canllawiau ar waith fel ei bod yn gwbl ddiogel i leoedd fel parciau carafannau agor pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliad y gell gyngor technegol er mwyn edrych i weld a yw'r feirws yn cael ei gyfyngu ddigon iddi fod yn ddiogel i agor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r canllawiau hynny'n cael eu datblygu. Byddem yn annog y bobl sy'n gweithio ar safleoedd carafannau neu lety hunanarlwyo i edrych ar hynny, ond mae'n rhaid i mi danlinellu bod hyn i gyd yn amodol ar sicrhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny a bod y gyfradd R yn gostwng.
O ran gwyliau tramor, rydych chi'n hollol iawn. Mae'r mwyafrif helaeth—rwy'n credu ei fod tua 80 y cant neu 90 y cant—o'r bobl sy'n dod i Gymru yn ymwelwyr o'r Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Felly, wrth gwrs, byddem bob amser yn croesawu twristiaid o dramor pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, ond mae'n amlwg fod yr ymwelwyr hynny'n llai tebygol o ddod eleni. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn i danlinellu'r gobaith o gael mwy o bobl a fyddai'n awyddus i gael gwyliau yn y wlad hon.
Rwy'n credu mai'r pethau eraill sy'n rhaid i ni eu hystyried wedyn, wrth gwrs, yw cyfleoedd a bod yn greadigol wrth ymestyn y tymor i'r gweithredwyr twristiaeth hynny, a sut y gallwn ymestyn y tymor fel nad ydym yn cael torfeydd enfawr ar draethau a lleoedd fel a welsom yn Lloegr, rhywbeth na fyddai'n sefyllfa dda chwaith wrth gwrs. Felly, rhaid i hyn i gyd gael ei wneud yn ofalus tu hwnt a chyda chryn bwyll.
Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud ag elfen iaith Gymraeg eich portffolio. Yn gyntaf, ar addysg Gymraeg, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog addysg ynghylch ailagor mwy o ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a hefyd yr ymdrechion i fynd i'r afael ag allgáu digidol yno. Mae'n amlwg, rwy'n credu, fod yna broblemau cyffredinol, ond yn enwedig i ddisgyblion sy'n dod o deuluoedd Saesneg eu hiaith, ceir y rhwystr ychwanegol hwnnw. Felly byddwn yn awyddus i wybod pa waith a wnaethoch i geisio goresgyn hynny.
Mae fy ail gwestiwn, a'r olaf, yn ymwneud â'r cyhoeddiad gan y Coleg Cymraeg ei fod yn ymestyn ei gynllun ysgoloriaethau cymhelliant gwerth £1,500 dros dair blynedd i gynnwys pob myfyriwr sy'n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi 2020 ac sy'n dewis astudio o leiaf 40 o gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hon yn fenter wirioneddol wych. Pa waith sy'n cael ei wneud gydag ysgolion, gyda cholegau a chyda ein sefydliadau addysg uwch i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen hon?
Diolch yn fawr, Vikki. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda'r Gweinidog addysg, ac yn amlwg, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod cyfleoedd, yn enwedig ar gyfer disgyblion sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg i allu ymarfer eu Cymraeg, i allu cael gafael ar adnoddau a fyddai'n fuddiol iddynt o ran cael mynediad at ddeunyddiau a allai fod o ddefnydd iddynt. Mae cefnogaeth Hwb yn helaeth iawn—beth sydd ar gael o ran adnoddau i helpu pobl. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n ddefnyddiol, fel y dywedwch, os oes elfen o allgáu digidol, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg wedi rhoi adnoddau ychwanegol yn benodol er mwyn targedu'r plant nad oedd yn gallu gwneud defnydd o adnoddau ar-lein cyn hynny o bosibl. Ond rwy'n falch o weld bod hynny wedi digwydd.
Yn sicr, o ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ydw, rwy'n credu bod honno'n ffordd adeiladol iawn o gymell pobl, gobeithio, i wneud rhagor o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg—nid y cyfan o'u cwrs o reidrwydd, ond rydym yn sicr yn gobeithio y bydd hyn yn helpu, yn enwedig mewn meysydd hyfforddiant galwedigaethol. Cafwyd rhywfaint o gyhoeddusrwydd am hyn yr wythnos hon, er mwyn codi ymwybyddiaeth, gobeithio, ond mae angen ymdrech yn awr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i dargedu hynny at y myfyrwyr a fyddai'n fwyaf tebygol o elwa. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn anos o lawer o dan y cyfyngiadau symud—nodi pobl—ond credaf y gellir gwneud llawer o'r gwaith hwn ar-lein, ac yn sicr mae'r rhan fwyaf o'r bobl a fyddai'n elwa o hynny yn bobl sy'n treulio hanner eu bywydau, rwy'n credu, ar eu ffonau symudol. Felly mae yna ffordd amlwg iawn o allu eu cyrraedd a lledaenu'r newyddion.
Diolch, Llywydd. Heddiw, dwi wedi cyd-arwyddo llythyr i'r Prif Weinidog efo Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn a Chyngor Sir Ynys Môn yn amlinellu ein pryderon ni o ran y sector twristiaeth. Mae yna lawer iawn o fusnesau ar eu gliniau rŵan, ac rydyn ni'n gofyn, yn syml iawn, am lawer gwell eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn â'i chynlluniau i'r sector dros yr wythnosau a misoedd nesaf.
Y ffordd yma dwi wedi'i gweld hi: mi allwch chi un ai penderfynu bod angen cadw cyfyngiadau yn dynn, ac os felly, ymestyn cefnogaeth ariannol i'r sector, neu mi fydd eich cyngor gwyddonol chi yn awgrymu bod modd caniatáu rhywfaint o dwristiaeth, ac felly mi allwn ni ddechrau trafod amserlen ar gyfer lleihau'r gefnogaeth ariannol. Er, bydd dal angen cefnogaeth hirdymor oherwydd faint o'r tymor sydd wedi cael ei golli yn barod. Ond beth fedrwch chi ddim ei wneud ydy cadw'r cyfyngiadau'n dynn a pheidio cynnig cefnogaeth. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo hynny, ac a wnaiff hi sylweddoli bod yn rhaid i'r sector a'r busnesau sy'n barod yn teimlo bod yr unfed awr ar ddeg arnyn nhw—ydy hi'n teimlo bod yn rhaid cael mwy o eglurder gan y Llywodraeth? Beth ydy'r cynllun? Achos mae busnesau a'r darpar dwristiaid, wedi'r cyfan, angen hynny, rŵan.
Diolch yn fawr, Rhun. Rŷn ni wedi ei gwneud hi'n glir y byddwn ni'n rhoi tair wythnos o rybudd i'r rheini sy'n gweithio yn y sector yma fel eu bod nhw'n cael cyfle i baratoi. Wrth gwrs, cawn ni weld nawr, wythnos nesaf, os bydd yr R rate mewn sefyllfa lle y gallwn ni roi mwy o eglurder iddyn nhw ynglŷn â'r posibiliadau am agor yn y dyfodol.
Rŷn ni'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, bod furlough, bod y tapering yna yn mynd i ddechrau ym mis Awst, ac os nad oes modd i bobl gael unrhyw fath o gyflog yn dod i mewn, wrth gwrs bydd hi'n amhosibl iddyn nhw dalu pobl. Felly, rŷn ni'n ymwybodol o'r dyddiad yna fel diwedd y sefyllfa, lle mae'n bosibl y bydd lot o bobl yn mynd i'r wal os na fyddwn ni yn y sefyllfa yna. Felly, rŷn ni'n ymwybodol dros ben o'r sefyllfa ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y cawn ni weld nawr os byddwn ni mewn sefyllfa erbyn wythnos nesaf i roi mwy o eglurhad i'r diwydiant.
Prynhawn da, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ni allwn siarad am ddim byd ar wahân i dwristiaeth, o ystyried yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Fel y gwyddom i gyd, mae'n debyg mai'r diwydiant lletygarwch oedd y cyntaf i gael ei daro; dyna'r diwydiant a gafodd ei daro galetaf ac y bydd angen ei daro am fwyaf o amser. Fy mhle i chi yw y dylech fabwysiadu strategaeth nad yw'n un-maint-i-bawb.
Rwyf eisoes wedi clywed rhai arwyddion calonogol iawn eich bod chi'n mynd i edrych ar rai sectorau, ond hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio dychymyg go iawn dros hyn, oherwydd mae gennyf gymaint o wahanol fathau o fusnesau—busnes sydd â thri iwrt, a fydd, gyda'i gilydd, yn cynnwys chwech o ymwelwyr, ac maent yn dweud wrthyf, 'Iawn, maent i gyd yn rhannu'r un cyfleusterau ystafell ymolchi. Fodd bynnag, beth yw'r gwahaniaeth rhwng chwech o bobl yn defnyddio'r ystafell ymolchi honno a chriw o weithwyr yn y Tesco lleol i gyd yn defnyddio'r un ystafell ymolchi yn ystod y dydd?' Felly, mae'n ymwneud â bod yn ddychmygus a meddwl drwy bethau mewn gwirionedd, nid mabwysiadu pwynt terfyn cyffredin yn unig. Rwy'n llwyr gydnabod bod yn rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn colli rheolaeth ar y rhif R, ond os ydym yn mynd i gefnogi'r busnesau hyn yn y dyfodol, mae angen inni gael yr hyblygrwydd hwnnw.
Fe sonioch chi hefyd—un pwynt olaf—am gydsyniad y gymuned. Nawr, mae hwn yn faes sy'n destun pryder i lawer iawn o bobl sydd wedi cysylltu â mi, gan nad oes unrhyw beth allan yno yn ei gylch ac unwaith eto, maent yn teimlo eu bod yn cael eu rhoi yn nwylo pobl eraill nad ydynt mor wybodus o bosibl, pobl a allai fod yn blwyfol iawn ynglŷn â'u hardal benodol a gall fod sawl agenda wahanol ar waith. Sut ydych chi'n mynd i ddiffinio 'cydsyniad y gymuned'? A fydd y busnesau hynny'n rhan o hynny, oherwydd nid yw'r busnesau yn fy ardal i, o'r rhai mawr iawn i'r rhai lleiaf, yn teimlo'u bod yn rhan o unrhyw beth. Teimlant nad oes neb yn cyfathrebu â hwy, ac nid ydynt am gael eu cau allan gan bobl sy'n gallu rhoi bloc cyffredinol arnynt o ryw fath o elfen gymunedol a fyddai'n annheg. Cyn belled â'i fod yn deg ac yn dryloyw, gall pobl fyw gydag ef. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn gweld hynny.
Diolch, Angela. Yn gyntaf, o ran cydsyniad y gymuned, credaf mai un peth y mae angen inni ei osgoi yw agor, a chanfod bod y cymunedau, yn lleol, yn elyniaethus tuag at y bobl sy'n dod i mewn. Dyna'r lle gwaethaf i fod, ac felly, mae angen inni ddatblygu cydsyniad yn y gymuned. Rydym yn siarad yn rheolaidd ag awdurdodau lleol am y teimladau yn eu cymunedau ac wrth gwrs, mae ganddynt gynrychiolwyr o fewn eu cymunedau. Rwy'n credu mai'r peth arall i'w danlinellu yw nad yw'r busnesau hyn yn gweithio ar wahân i'w cymunedau; maent yn rhan o'r gymuned, ac mae'n wirioneddol bwysig iddynt gael eu gweld, a lleisio eu barn, oherwydd maent hwy'n rhan o'r gymuned yn ogystal, ac mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio yn y busnesau hyn yn rhan o'r gymuned. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn i beidio â dweud 'ni a nhw', a'r diwydiant yn erbyn y gymuned; maent yn perthyn i'w gilydd ac maent yn symbiotig. Maent yn ddibynnol ar ei gilydd hefyd.
O ran y llety, mae'n wirioneddol anodd ac fe fydd yn wirioneddol anodd plismona pethau oni bai ei fod yn syml. Felly, er fy mod yn clywed eich ple am fod yn greadigol ac yn ddychmygus, mae'n rhaid inni hefyd feddwl sut y gallwn blismona'r system a gadael iddi weithredu, ac felly os symudwn oddi wrth gyfleusterau a rennir, mae'n anodd iawn gweld ble fyddai'r llinellau'n cael eu tynnu. Felly, er fy mod yn eich clywed, credaf fod yn rhaid inni gael rhywbeth y gellir ei roi ar waith ac y gallwn ei blismona, mewn ffordd.
Rwyf innau hefyd am sôn am dwristiaeth ond yn gyntaf oll, rwyf am sôn am ysgol Syr Thomas Picton. Aeth dau o fy mhlant i ysgol Thomas Picton, ac ni ddywedwyd wrthynt erioed, ni ddaeth dim adref erioed a oedd yn dweud am yr enw, y person y tu ôl i'r enw, ac yn sicr ni chafwyd unrhyw addysg a oedd yn hysbysu'r disgyblion, y rhieni na'r gymuned ynglŷn â'r person a roddodd ei enw i'r ysgol honno. Nid dyna'r enw sydd arni mwyach, diolch byth.
Ond rwyf am symud ymlaen at dwristiaeth, fel y dywedais, a chafwyd llawer o sôn yma ynglŷn â sut y gellir agor twristiaeth pan fydd y gyfradd R yn iawn, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Rwy'n llwyr gefnogi'r holl fesurau y mae'r Llywodraeth yma ac yn San Steffan wedi'u rhoi ar waith i helpu'r busnesau hynny i aros yn fyw. Ond yr un peth sydd heb ei grybwyll yma heddiw yw os ydych yn agor twristiaeth ac yn caniatáu pobl i mewn i gymuned, yna, ni allwch beidio â chaniatáu i bobl adael y gymuned honno. Felly, ar ôl i chi agor twristiaeth, rydych chi wedyn, de facto, wedi cael gwared ar aros yn lleol. Nid oes amheuaeth am hynny; bydd yn rhaid i'r ddau beth weithio gyda'i gilydd.
Ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn ynglŷn â chyfradd R—ac mae'n ofn, felly gorau oll os caiff ei leisio—yw nad ydym yn gwybod o ble y daw pobl, nid ydym yn gwybod beth yw'r gyfradd R yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt ar hyn o bryd. Felly, pa fath o archwiliadau a gwiriadau a wnawn i sicrhau bod pobl—? Oherwydd rwyf am i'r gymuned ddod gyda ni yma; rwyf am i bobl deimlo eu bod yn ddiogel, ac mae'n rhaid cael rhyw ddull o dawelu meddyliau pobl fod hynny'n wir. Ond yn fwy allweddol, bydd yn ddiwedd ar y mesurau aros yn lleol y mae pobl yn cydymffurfio â hwy—nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny yn fy meddwl i—a sut y gallwn gyfleu hynny i'r cyhoedd yn ehangach?
Diolch, Joyce. Credaf ei bod yn debygol ein bod yn cydnabod, pe baem yn agor y sector twristiaeth, y byddai'n anodd iawn peidio â symud oddi wrth y rheol i aros yn lleol. Wrth gwrs, bydd pobl yn teithio yno neu'n mynd oddi yno, byddai'n anodd iawn gofyn i bobl deithio i rywle ac i beidio â symud wedyn. Byddai'n anodd iawn ei blismona. Felly, rwy'n credu ein bod yn cydnabod hynny, a dyna pam y mae angen inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â hyn a deall mai dyna y byddai'n ei olygu. Wrth gwrs, mae angen inni fod yn ymwybodol felly fod yr hyblygrwydd mewn perthynas â'r rhif R, ar ôl inni agor hwnnw, yn golygu y byddem mewn sefyllfa wahanol iawn o ran agor ein cymunedau'n ehangach. Nid yw hyn yn hawdd ac mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn, a'r hyn sy'n glir i mi yw bod angen inni gael cefnogaeth y gymuned leol, fel rwy'n dweud.
Weinidog, yn y Cyfarfod Llawn fis yn ôl mewn ymateb i Siân Gwenllian, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o bryder y gallai cymal arfaethedig o fewn y Bil cwricwlwm ac asesu gael effaith andwyol ar yr enillion sydd wedi bod ym maes addysg Gymraeg, ac y byddech chi'n craffu'n fanwl ar y sefyllfa. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw newid wedi bod yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a ddoe, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion ddatganiad cyhoeddus yn pwyso o'r newydd ar y Llywodraeth i sicrhau newid i'r Bil cyn ei gyhoeddi, er lles datblygu Cymru'n wlad ddwyieithog yn unol â'n dyheadau ni oll.
Weinidog, sut mae rhoi'r Saesneg ar wyneb y Bil, a gorfodi plant sydd am gael addysg Gymraeg i optio allan, yn gyson gyda gweledigaeth y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg? I'r gwrthwyneb, onid yw'n hollol groes i eiriad ac ysbryd polisi'r Llywodraeth, sy'n datgan yn gwbl glir mai addysg Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau dwyieithrwydd cyflawn? A wnewch chi felly ymrwymo i wneud popeth o fewn eich gallu o fewn y Cabinet i fynnu bod yr adran addysg yn cefnogi, nid yn tanseilio, eich strategaeth iaith?
Diolch yn fawr. Jest i ddweud fy mod i wedi cael sawl trafodaeth gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater yma. Ac i'w wneud yn glir, dwi'n meddwl, gan ein bod ni'n wlad ddwyieithog, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud lot o synnwyr ein bod ni'n rhoi Cymraeg a Saesneg yn y Bil. Dyna beth y byddech chi'n disgwyl o wlad ddwyieithog. Beth sydd yn bwysig yw bod yna gyfle a'i bod hi'n bosibl inni sicrhau bod pobl yn cael eu trwytho yn y Gymraeg, fel sydd wedi digwydd yn draddodiadol yng Nghymru, yn arbennig tan yn saith oed. Mi fydd hynny'n bosibl yn y Bil a dwi'n hyderus y byddwn ni yn y sefyllfa yna.
A gaf fi ofyn i chi am Sw Mynydd Cymru? Clywsom yn gynharach mewn ateb gan eich cyd-Weinidog, Ken Skates, na fu unrhyw alw ar sŵau i gau yma yng Nghymru a'u bod yn cael caniatâd i agor, ond yn amlwg, gyda chyfyngiad teithio o 5 milltir, nid yw hynny'n mynd i fod yn ymarferol ar hyn o bryd, hyd nes y caiff y cyfyngiad hwnnw ei godi. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth ymateb i Joyce Watson, am ailagor y diwydiant twristiaeth, a byddwn yn eich annog i ystyried caniatáu, fel cam hanner ffordd hyd yn oed, i bobl deithio o fewn siroedd cyfagos, fel ffordd o agor rhai o'r atyniadau awyr agored hyn, y gellid eu hagor mewn ffordd ddiogel tra'n cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer ymwelwyr lleol hyd yn oed.
A gaf fi ofyn hefyd am y cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i'r sw honno? Hon yw sw genedlaethol Cymru. Mae gennym lyfrgell genedlaethol, mae gennym theatr genedlaethol, mae gennym amgueddfeydd cenedlaethol, ac mae pob un ohonynt yn cael cymorth blynyddol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw ein sw genedlaethol yn cael hynny. A yw hynny'n rhywbeth y gallwch ei ystyried, gan ddarparu rhywfaint o gymorth yn fwy aml ac yn fwy blynyddol yn y dyfodol, yn enwedig o gofio ei bod yn ased cenedlaethol annwyl iawn sy'n bwysig iawn i economi twristiaeth gogledd Cymru?
Diolch yn fawr iawn, Darren, a diolch ichi am ddadlau achos Sw Mynydd Cymru unwaith eto. Dim ond i gadarnhau ei bod yn gywir nad yw sŵau wedi gorfod cau yng Nghymru, ond fel y dywedoch chi, mae'n debyg nad yw'n fasnachol hyfyw iddynt wneud hynny tra bod mesurau aros yn lleol a'r dull lleol o ymladd coronafeirws ar waith. Felly, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos o ran y cyfleoedd i bobl deithio ymhellach, a bydd hynny i gyd yn dibynnu ar ble mae'r gyfradd R. Ond dim ond i gadarnhau bod Sw Mynydd Cymru wedi cael cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer mwy hael yn ei chefnogaeth i sŵau nag y maent wedi bod yn Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn werth tanlinellu hynny mae'n debyg.
Mae'r rhain yn adnoddau gwych i ni. Mae'n atyniad gwych i ymwelwyr yng ngogledd Cymru, ac yn sicr rydym wedi sefyll gyda hwy yn ystod y cyfnod hwn, ond yn amlwg rydym yn deall y pwysau sydd arnynt a'r swm anhygoel o arian sydd ei angen i fwydo anifeiliaid. Nid yw'r gost honno'n diflannu, ac un o'r rhesymau pam ein bod wedi bod mor awyddus i'w cefnogi, wrth gwrs, yw oherwydd y materion lles anifeiliaid rydym yn pryderu'n fawr yn eu cylch.
Weinidog, rwyf wedi bod yn cynnal cystadleuaeth traethawd i blant yn yr etholaeth yn ystod y cyfyngiadau, gyda'r pennawd, 'Fy arwr COVID yw...'. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn fodd o godi calon, ond mae hefyd wedi bod yn ffordd bwerus iawn i mi glywed lleisiau plant yn fy etholaeth. Mae wedi cael cefnogaeth dda iawn gan Ysgol Gyfun Gwynllyw, ac rwy'n eu cefnogi am hynny, ond hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth Vikki Howells am yr anawsterau a wynebir gan deuluoedd pan fo unigolyn ifanc mewn addysg Gymraeg lle nad yw'r rhieni'n deall Cymraeg. Mae un o'r bobl ifanc hynny wedi enwebu ei thad fel ei harwr, oherwydd ei fod wedi bod yn ei helpu gyda'i Chymraeg, ac mae hi'n dweud wrthyf ei bod wedi bod yn anodd iddo—ei henw yw Nina—'oherwydd mae'n rhaid iddo gyfieithu fy ngwaith i weld beth i'w wneud i fy helpu, a rhaid i mi ei helpu i wneud yn siŵr ei fod yn gywir wrth iddo ei gyfieithu.' Nawr, mae pob un ohonom sy'n addysgu ein plant gartref yn wynebu heriau enfawr, ond mae yna heriau real iawn os nad oes gennych ddealltwriaeth o'r iaith rydych chi'n ceisio helpu eich plentyn ynddi. Weinidog, beth yn rhagor y gallwch ei wneud, ar y cyd â'r Gweinidog addysg, i sicrhau bod y cymorth ar gael, er mwyn i'n holl bobl ifanc allu mwynhau'r cyfleoedd addysgol rydym am iddynt eu cael? Diolch.
Diolch yn fawr, Lynne. Rwy'n credu bod honno'n fenter wych—cynnal gêm neu her arwyr yn ystod y cyfnod hwn, ac mae'n wych clywed hynny. Ac mae'n hollol iawn fod yna bobl o gartrefi di-Gymraeg sy'n wirioneddol awyddus i wneud yn siŵr eu bod yn cynnal eu Cymraeg dros y cyfnod hwn. Ac yn sicr, pan wnaeth y Gweinidog addysg ei datganiad ar 'cadw'n ddiogel, dal ati i ddysgu', gwnaeth ymrwymiad pendant bryd hynny i sicrhau bod plant o gartrefi Saesneg eu hiaith a oedd yn mynychu ysgolion Cymraeg yn cael yr un hawl i gymorth. Ac rydym wedi gwneud yn siŵr fod cyngor a dolenni a chymorth ar gael, ar Hwb yn arbennig, ond hefyd rydym wedi gofyn i'r penaethiaid yn yr ysgolion hynny—yr ysgolion Cymraeg—i wneud yn siŵr eu bod yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer penaethiaid ac addysgwyr. A gwn fod hynny wedi digwydd am fod fy mhlant fy hun wedi cael peth o'r arweiniad hwnnw. Felly, mae'r canllawiau hynny eisoes ar waith yn cyfeirio at adnoddau. Ond byddwn hefyd yn eu hannog i fynd y tu hwnt i'r llwybrau academaidd traddodiadol yn unig, i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel yr Urdd. Mae llawer o'u gwaith yn cael ei wneud ar-lein nawr; rydych wedi clywed eu bod wedi cael yr Eisteddfod ar-lein, yr Eisteddfod T, lle roedd miloedd—7,000 o blant—wedi cymryd rhan. Ac mae adnoddau eraill ar gael ar S4C ac mewn mannau eraill. Felly, mae'r adnoddau ar gael, ond rwyf am ofyn iddynt gysylltu â'u penaethiaid, sydd wedi cael cyngor clir iawn ynglŷn â ble y gallant gael y cymorth hwnnw.
Diolch am y datganiad a roddwyd gennych yn gynharach, Weinidog, ac rwy'n falch iawn ynglŷn â'r materion yn ymwneud â George Floyd yn America—trist iawn. Byddai'n well gennyf ddweud bod pob bywyd yn bwysig—nid oes neb yn well na neb arall, unrhyw fod dynol, oherwydd hil neu ddosbarth neu ethnigrwydd. Rwy'n edmygu eich teimlad ar hynny, ac rydych wedi ysgrifennu at yr Americanwyr—gwych. Rwy'n credu y bydd y byd i gyd yn dysgu'r wers hon ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn gyfartal a bod gan bawb hawliau cyfartal fel dinasyddion ym mhob rhan o'r byd.
Weinidog, fy nghwestiwn i chi—un neu ddau: pa sicrwydd y gallwch ei roi i weithredwyr twristiaeth yng Nghymru y bydd eu busnesau'n ailagor yn y dyfodol agos iawn, i ganiatáu iddynt elwa o'r hyn sy'n weddill o dymor yr haf, sef 2020? A'r ail gwestiwn yw: yr holl ddigwyddiadau chwaraeon hyn, boed yn griced, rygbi, pêl-droed, neu'r Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, mae angen i'n mabolgampwyr gael hyfforddiant, a hyfforddiant egnïol, i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau penodol. Felly, beth rydych chi'n ei wneud gydag ochr chwaraeon ein harwyr cenedlaethol i wneud yn siŵr nad ydynt ar eu colled pan ddaw'r digwyddiadau, a heb fod ar eu colled oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 yn eu tai? Felly, a oes unrhyw gynllun ar eu cyfer, i wneud yn siŵr eu bod yn ymroi'n barhaus i'w gweithgareddau proffesiynol yng Nghymru? Diolch.
Diolch, Mohammad. A dim ond i danlinellu'r pwynt y byddwn yn ailagor ein sector twristiaeth pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Rydym wedi egluro ein system goleuadau traffig, lle byddwn yn edrych yn gyntaf am yr arwydd mai darpariaethau llety heb gyfleusterau a rennir fydd y rhai cyntaf i agor. Ac rydym yn braenaru'r tir er mwyn i hynny fod yn bosibl yn awr. Ond ni fyddwn yn symud hyd nes y bydd y cymunedau'n hapus i ni wneud hynny, a hefyd pan fydd y sefyllfa iechyd yn y lle iawn i ni ei wneud.
Ar y digwyddiadau chwaraeon, hoffwn ddweud yn glir fod yna lawer o chwaraeon awyr agored y gellir eu cynnal yn barod. Ond yn sicr, mae mabolgampwyr proffesiynol wedi gallu dechrau'n ôl—pobl fel pêl-droedwyr; maent wedi gallu gwneud hynny oherwydd mai dyna yw eu gwaith. Ond yn yr adolygiad nesaf, byddwn yn ystyried a fydd hi'n bosibl i athletwyr chwaraeon elît allu ymgymryd â hyfforddiant. Ac felly mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno, i weld a fydd hi'n bosibl adolygu hynny yn y cyfnod nesaf.
Weinidog, un peth a welsom drwy COVID-19 yw bod llawer o bobl yn dod i wneud mwy o ymarfer corff. Rwy'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu gweld yn cerdded ac yn loncian ac yn beicio o gwmpas lle rydym yn byw. Ond mae rhai pobl yn dod yn llai egnïol yn gorfforol, efallai oherwydd nad yw'r seilwaith arferol sy'n hwyluso eu hymarfer corff, fel campfeydd, ar gael. Mae hyn i'w weld yn adlewyrchu anghydraddoldebau iechyd—mae pobl sydd â gwell iechyd a gwell amgylchiadau'n tueddu i wneud mwy o ymarfer corff ac i'r gwrthwyneb yn achos y rheini sydd mewn amgylchiadau mwy difreintiedig. Ac roeddwn yn meddwl, wrth i ni adeiladu nôl yn well, fel rydym yn ei ddweud, tybed a fyddwch chi'n edrych ar agweddau iechyd y cyhoedd chwaraeon ac ymarfer corff i greu cysylltiadau llawer agosach nag a welsom hyd yn hyn, gan gydnabod pwysigrwydd iechyd corfforol a meddyliol gweithgarwch corfforol a chwaraeon.
Diolch yn fawr, John. Yn sicr, rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl fel pe baent yn treulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored, yn enwedig yn y tywydd braf a gawsom. Ond rydych chi'n llygad eich lle i danlinellu'r ffaith mai'r hyn sydd gennym i'w wneud yw annog y bobl hynny, yn enwedig o ardaloedd difreintiedig, nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, i ddechrau gwneud hynny o ddifrif. Ac rydym bob amser wedi bod yn awyddus iawn i annog hynny wrth gwrs. Ac un o'r pethau rydym wedi'u gwneud, wrth gwrs, yw addasu'r gronfa chwaraeon er mwyn sicrhau bod cronfa £8 miliwn ar gael fel y bydd y cyfleusterau chwaraeon hynny a fyddai wedi mynd i'r wal pe na baem ni wedi camu i mewn, yn dal i fod yno ar ben arall yr argyfwng hwn. Felly, o ran adeiladu nôl yn well, rwy'n credu ei bod hi'n sicr yn bwysig inni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau hynny ar gael er mwyn i'r cyfle i adeiladu nôl yn well fod yno, oherwydd heb y cyfleusterau chwaraeon hynny, byddai'n llawer mwy anodd i ni gyflawni hynny.
Diolch i'r Gweinidog.