1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:16 am ar 24 Mehefin 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Blaid Dorïaidd, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth ailddechrau gweithgarwch siopau nwyddau dianghenraid yng Nghymru, ond cadwodd ei rheol deithio 5 milltir, sy'n golygu bod llawer o deuluoedd ledled Cymru yn dal i fethu mynd i weld eu hanwyliaid. Wrth i fwy a mwy o bobl ddychwelyd i'r gwaith a rhyngweithio'n ddiogel â chydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd, roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn gyfle gwych i ystyried diddymu rheol deithio 5 milltir Llywodraeth Cymru. Mae busnesau dianghenraid wedi cael caniatâd i ailddechrau masnachu, a chan fod pobl yn gallu teithio mwy na 5 milltir i ymweld â chanolfan arddio, mae'r cwestiwn yn codi o hyd pam na allant weld eu hanwyliaid. Felly, a allwch ddweud wrthym, Brif Weinidog, pa dystiolaeth wyddonol benodol sydd gennych fel Llywodraeth dros gadw'r rheol 5 milltir?
Lywydd, mae’n rhaid i mi gywiro Aelodau bob tro rwy'n ateb cwestiwn. Ar y cychwyn, rwy’n credu ei fod yn gamgymeriad, ond pan fydd yn rhaid i mi ei gywiro dro ar ôl tro, rwy'n dechrau meddwl ei fod yn fwriadol. Fe ŵyr yr Aelod yn iawn nad oes rheol o'r math y mae'n ei ddisgrifio yn bodoli. Pe bai'n rheol, byddai rheoliad yn bodoli. Nid oes unrhyw reoliad yn bodoli. Dywed y rheoliad wrth bobl am aros yn lleol. Cyngor i bobl yw pum milltir ar beth y gallai 'aros yn lleol' ei olygu, a byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai arweinydd yr wrthblaid yn gofyn ei gwestiynau’n gliriach fel nad yw pobl yn cael yr argraff anghywir. Mae’n rhaid i bobl aros yn lleol; mae’n rhaid iddynt ddehongli hynny yn eu hardaloedd eu hunain.
Rydym wedi cadw'r rheol 5 milltir am bythefnos arall. Os bydd popeth fel y gobeithiwn y bydd erbyn dechrau mis Gorffennaf, gallwn gadarnhau na fydd hynny'n berthnasol yng Nghymru mwyach. Mae wedi bod yn rhan bwysig iawn o'n harfogaeth i atal y feirws rhag lledaenu o un gymuned i'r llall. Mae Mr Davies yn cynrychioli etholaeth yn ne-orllewin Cymru lle mae pobl wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn ag ymwelwyr o'r tu allan i'r rhan honno o Gymru, o fannau lle mae'r feirws wedi bod yn lledaenu'n fwy eang, yn dod â'r feirws hwnnw yno gyda hwy. Gan ein bod wedi cael rheol 'aros yn lleol' yng Nghymru, mae lleoedd fel Sir Benfro wedi cael eu gwarchod i raddau helaeth rhag effaith y coronafeirws. Dyna lwyddiant ein polisi, ac mae etholwyr yr Aelod yn teimlo’r effaith honno’n uniongyrchol.
Brif Weinidog, gallwch roi faint fynnoch o liw ar hyn, ac rydych newydd ddweud nad oes rheol 5 milltir yn bodoli—os felly, pam ar y ddaear cynnwys 5 milltir yn y canllawiau yn y lle cyntaf? Mae'n gwbl amlwg fod eich rheol 5 milltir yn parhau i beri gofid anfesuradwy i gynifer o deuluoedd ledled Cymru. Cawsoch gyfle yr wythnos diwethaf i roi rhywfaint o obaith i deuluoedd y gallent ddechrau gweld eu hanwyliaid yn ddiogel, gan gydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol.
Nawr, ddoe, gwelsom ragor o gyfyngiadau’n cael eu codi mewn rhannau eraill o'r DU, lle gwnaed y penderfyniad i lacio'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn Lloegr o 2m i 1m. Cyflwynwyd ein rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yma yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig, a hynny'n briodol er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Fodd bynnag, wrth i gyfradd R barhau i ostwng i'r lefel hon, mae'n iawn ailasesu'r rheoliadau hyn. Dywedodd eich cyd-Aelod, arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, ei fod yn croesawu’r datganiad yn gyffredinol, gan ychwanegu ei fod yn credu bod Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud y peth iawn a’i fod yn eu cefnogi yn hynny o beth. O ystyried bod Sefydliad Iechyd y Byd eisoes yn argymell pellter o 1m o leiaf, a allwch gadarnhau pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llacio'r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, a pha drafodaethau rydych yn eu cael gyda gweithwyr proffesiynol, ac yn wir, eich cyd-Aelodau ynglŷn â’r mater hwn?
Lywydd, gan ddychwelyd at bwynt cyntaf yr Aelod, gobeithiaf ei fod yn cynghori ei etholwyr ei bod yn gwbl bosibl yng Nghymru heddiw i bobl sydd â rheswm tosturiol dros wneud hynny deithio mwy na phellter lleol er mwyn gweld pobl sydd angen yr ymweliad hwnnw. Byddai'n drueni mawr pe bai—[Anghlywadwy]—ynglŷn â hynny, gan y dylai'r bobl yn yr amgylchiadau a ddisgrifiodd allu gweithredu yn unol â'r gallu hwnnw i ymweld â rhywun ar sail dosturiol lle mae hynny'n angenrheidiol. Mae hynny ar gael i bobl yng Nghymru heddiw, fel y bu ers i'r newidiadau gael eu gwneud.
O ran y newidiadau a wnaed dros y ffin, edrychaf ymlaen at weld y dystiolaeth sy'n sail i'r newidiadau hynny. Siaradais fore ddoe â Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet, ac addawodd y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn gweld yr holl dystiolaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i defnyddio wrth ddod i’w chasgliadau. Nid oedd y dystiolaeth honno wedi cyrraedd erbyn diwedd ddoe, ond rydym yn sicr yn gobeithio’i gweld heddiw.
Yng Nghymru, mae’r neges yn dal i fod yr un fath: arhoswch 2m ar wahân. Dyna'r ffordd ddiogel i ymddwyn. Y wyddoniaeth rydym wedi'i gweld yw'r wyddoniaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau sy'n dweud y byddai'r risg yn cynyddu pe baech yn haneru'r pellter i rhwng dwy a phum gwaith yn fwy na phe baech yn cadw pellter o 2m. Dyna'r wyddoniaeth; roedd gan yr Aelod ddiddordeb yn y wyddoniaeth pan oedd yn ymwneud ag ef. Dyna'r wyddoniaeth mewn perthynas â'r rheol 2m. Os gallwn wneud rhai eithriadau mewn rhai sectorau gan fod trosglwyddiad y clefyd yn gostwng yng Nghymru, ar yr amod ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, gan roi mesurau lliniaru ar waith, yna wrth gwrs, byddwn yn ystyried hynny'n ofalus iawn.
Gwn fod sectorau yn Lloegr yn aros heddiw i weld y canllawiau ar sut y byddant yn gallu defnyddio'r cyngor a roddwyd iddynt ddoe mewn ffordd ymarferol. Rydym ninnau hefyd yn edrych ymlaen at eu gweld. Os bydd modd lleihau’r rheol 2m drwy eithriadau, gan ddefnyddio iechyd y cyhoedd bob amser fel ein prif brawf, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Ond byddwn yn gwneud hynny drwy edrych ar y dystiolaeth yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad, yn hytrach na gwneud y penderfyniad ac yna chwilio am y dystiolaeth.
Wel, Brif Weinidog, un sector sydd yn sicr angen rhywfaint o lacio yn y rheoliadau yw'r sector twristiaeth a lletygarwch. Nawr, croesawyd y datganiad yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, ond mae wedi arwain at fwy o gwestiynau nag o atebion, o ystyried yr ohebiaeth rwyf wedi’i chael gan bobl sydd â busnesau twristiaeth. Mae angen eglurder ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, yn fy marn i ar ffurf strategaeth fanwl ar gyfer y tymor byr, ac yn wir, y tymor hwy—strategaeth sy'n nodi bwriad Llywodraeth Cymru yn glir yn erbyn amserlenni, dyraniadau cyllid a chymorth i sicrhau y gall busnesau barhau i fod yn hyfyw, a strategaeth sy'n ateb cwestiynau’r sector, yn hytrach na pheri mwy o ddryswch nag erioed i’r gweithredwyr.
Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo felly i ddarparu strategaeth benodol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru sy'n amlinellu sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector yn y tymor byr ac yn darparu eglurder ar gyfer y tymor hwy, fel y gall busnesau fod yn hyderus ynghylch hyfywedd y diwydiant wrth symud ymlaen? Ac o ystyried pa mor fregus yw'r sector lletygarwch yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i gefnogi busnesau lletygarwch ledled y wlad?
Wel, Lywydd, mae'r cyhoeddiad a wnaethom ddydd Gwener yn rhoi gobaith i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Deilliodd o drafodaethau manwl iawn gyda'r sector ei hun. Mae’n rhaid i'r sector baratoi yn awr i ddangos y gall ailagor yn ddiogel mewn perthynas â llety hunangynhwysol, a'i fod yn gallu gweithio gyda’i gymunedau lleol, gan fod cydsyniad cymunedol yn parhau i fod yn rhan hanfodol bwysig o'r cynllun ar gyfer y diwydiant hwnnw.
Pan fydd y diwydiant wedi dangos, fel rwy'n sicr yn gobeithio y gall, ei fod yn gallu ailagor yn ddiogel ar y telerau rydym wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn, ein nod fydd ychwanegu at yr ystod o bethau y gall y diwydiant hwnnw eu gwneud. Ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny gam wrth gam, ein bod yn rhoi hyder i gymunedau lleol, drwy ddangos y gellir ailagor y diwydiant mewn ffordd sy'n diogelu iechyd staff, ymwelwyr, a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. A chredaf fod y diwydiant yn deall hynny'n dda iawn.
Lywydd, ymddengys i mi fod y galwadau am eglurder mewn set o amgylchiadau sydd mor aneglur yn methu’r pwynt yn gyfan gwbl. Os gall yr Aelod ddweud wrthyf beth fydd sefyllfa'r feirws yng Nghymru ymhen chwe wythnos, heb sôn am chwe mis, byddai modd inni ddarparu eglurder o'r math y mae'n gofyn amdano, ond nid yw hynny’n bosibl. Ac rwy'n siŵr ei fod yn deall hynny—nad oes yr un ohonom yn gwybod sut y bydd y clefyd hwn yn datblygu wrth inni fynd drwy'r haf ac i mewn i’r hydref. Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu canllawiau ymlaen llaw i sectorau yng Nghymru, ond byddai gofyn inni ddarparu eglurder lle nad yw hynny’n bosibl yn rhoi prosbectws ffug i'r diwydiannau hynny, nid rhywbeth defnyddiol o'r math rydym am ei ddarparu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Brif Weinidog, dim ond newydd ddychwelyd i'w cartrefi ar ôl llifogydd mis Chwefror roedd rhai preswylwyr pan gwympodd glaw trwm yn ardal Pentre yr wythnos diwethaf, gan achosi rhagor o ddifrod i eiddo. Yn 2017, roedd disgwyl i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd ac aelodau i’r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol cyn diwedd y flwyddyn honno. Mewn gwirionedd, ni chafodd aelodau’r pwyllgor hwnnw, a sefydlwyd o dan delerau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, eu cyhoeddi tan fis Mawrth 2019, ac ni chynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf tan fis Mehefin 2019. Dyna ddwy flynedd heb ffocws digonol ar strategaeth eich Llywodraeth ar lifogydd. Brif Weinidog, pam y cymerodd hi gymaint o amser i wneud hynny?
Nid wyf yn cytuno â'r Aelod o gwbl fod penodiadau o'r math hwnnw wedi golygu nad ydym wedi cael ffocws sylweddol iawn ar lifogydd, llifogydd mewndirol ac arfordirol, yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio tymor y Cynulliad hwn i sicrhau’r pecyn cyllido mwyaf uchelgeisiol a welsom erioed ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, a thrwy weithio gyda'n hawdurdodau lleol, rydym wedi diwygio'r gyfran o gyllid rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol—rydym bellach yn ariannu'r holl waith paratoi ar gyfer y cynlluniau hynny. A bydd ein cyfraniad at gymorth grant i awdurdodau lleol yn cynyddu i 85 y cant o gyfanswm y cynlluniau hynny. Credaf fod hynny'n dangos i ba raddau rydym wedi buddsoddi yn y maes hwn mewn ffordd fwy cadarn o lawer nag ambell benodiad.
Rwy’n cydymdeimlo’n llwyr, Lywydd, â'r unigolion y soniodd Adam Price amdanynt, sydd wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn cael trefn ar eu cartrefi, dim ond i wynebu llifogydd eto. Ond pan fyddant yn ymdrin â hynny, ni chredaf eu bod yn poeni am benodiadau i bwyllgorau'r Llywodraeth.
Rydym mewn dau argyfwng uniongyrchol—un sy’n gysylltiedig ag iechyd ac un economaidd. Ond mae trydydd argyfwng—yr argyfwng ecolegol, na allwn fforddio ei anwybyddu. Bydd yn arwain at ganlyniadau hirdymor, ond bydd rhai canlyniadau uniongyrchol hefyd, gan gynnwys risg uwch o lifogydd. Nawr, mae ymchwil gan brifysgolion Birmingham a Southampton yn dangos y gallai plannu coed ger afonydd leihau uchder llifogydd mewn trefi hyd at 20 y cant. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru’r targed uchelgeisiol a gafodd ganmoliaeth eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030. Gostyngwyd y targed i 2,000 hectar. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni cyfartaledd o 300 hectar y flwyddyn yn unig, ac yn y 12 mis hyd at fis Mawrth eleni, dim ond 80 hectar a gyflawnodd—4 y cant o'r targed. Brif Weinidog, ble mae'r brys yn yr argyfwng hinsawdd?
Lywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod nad oedd faint o goetir a grëwyd yng Nghymru y llynedd yn ddigon da. Yn ogystal â chreu coetir newydd, mae'n bwysig dweud bod yna ymdrech enfawr yn digwydd i ailstocio coetir. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethom blannu mwy o goed ar gyfer ailstocio coetir y llynedd nag y gwnaethom y flwyddyn flaenorol. Ond ni chrëwyd gymaint o goetir newydd ag y byddem yn dymuno’i weld y llynedd. I raddau, mae’n ymwneud ag amseriadau yn y rhaglen datblygu gwledig o ran pryd y caiff arian ei ryddhau i'r sector. Ond rydym wedi rhoi pedair gwaith yn fwy o arian i gynllun Glastir, sydd wedi bod yn—. Rowndiau creu coetir Glastir yw’r ffordd fwyaf llwyddiannus rydym wedi'i darganfod hyd yn hyn o ysgogi gwaith plannu coed newydd yng Nghymru. Mae’r gyllideb ar gyfer y rhaglen bellach yn £8 miliwn, i fyny o £2 filiwn, ac rwy’n hyderus y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol ac angenrheidiol ar greu coetir newydd yng Nghymru, ochr yn ochr â’n huchelgais ar gyfer coedwig genedlaethol.
Ers 2015, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dioddef gostyngiad cyson yn eu cyllid, tra'n ymgymryd â mwyfwy o gyfrifoldebau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn wynebu toriad pellach o £7.5 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn torri'n ôl ar gyllid, yn torri'n ôl ar blannu coed, ac mae'n ymddangos ei bod yn torri'n ôl ar ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nawr, yr hyn y mae llawer o bobl yn y Rhondda a chymunedau cyfagos ei eisiau yn awr yw ymchwiliad brys wedi'i arwain gan arbenigwyr i ddarganfod pam y maent yn dioddef llifogydd parhaus ac yn hollbwysig, beth sydd angen ei wneud i atal hyn. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad o'r fath heddiw?
Wel, Lywydd, nid ydym yn torri'n ôl ar blannu coed; rydym yn rhoi pedair gwaith cymaint o fuddsoddiad tuag at blannu coed. Ac er bod CNC, yn anochel, wedi gorfod ysgwyddo'i gyfran o ddegawd o gyni—felly, nid cyllideb CNC sy'n cael ei chwtogi bob blwyddyn; cyllideb Llywodraeth Cymru sydd wedi cael ei chwtogi bob blwyddyn ers 2010, ac rwy'n ofni na ellir ystyried bod unrhyw ran o'r gwasanaeth cyhoeddus yn gwbl ddiogel rhag hynny. Bydd yna ymchwiliadau. Mae yna gyfrifoldebau cyfreithiol ar yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru pan fydd llifogydd yn digwydd. A gwn fod yr elfennau lleol hynny'n gweithio'n galed iawn eisoes i wneud yn siŵr ein bod yn deall pam y cafwyd llifogydd eto yn y rhannau hynny o'r Rhondda yn ddiweddar iawn, er mwyn ychwanegu hynny at ein dealltwriaeth o'r llifogydd a gafwyd yn ôl ym mis Chwefror, ac yna, pan fydd yr ymchwiliadau lleol wedi dod i ben, byddwn yn defnyddio'r canlyniad i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi mesurau lliniaru pellach ar waith.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Brif Weinidog, ddoe, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU y byddai bwytai, tafarndai a lleoliadau adloniant yn ailagor, a newid o fod yn rheoliadau i fod yn ganllawiau, gan ddweud y byddai'n ymddiried yn synnwyr cyffredin pobl Prydain. A allwch chi gadarnhau nad yw'r pwyslais ar synnwyr cyffredin Prydeinig yn berthnasol i Gymru a'ch bod yn bwriadu cadw Cymru sawl wythnos y tu ôl i Loegr?
Cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid yma at arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan a'i gefnogaeth gyffredinol i ddull gweithredu Llywodraeth y DU. Yn yr un modd, ar wahân i fy ngrŵp i, onid yw'n wir fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod yma i'r dull gweithredu gwahanol a alluogwyd gan ddatganoli yng Nghymru? Yn wahanol i'r canllaw pum milltir sy'n cael ei drafod yn helaeth, mae'r rheol 2m wedi'i hymgorffori yn y gyfraith, gyda phob busnes yng Nghymru yn gorfod enwebu rhywun i fod yn atebol ar gyfer eu herlyn. Cafodd ei gymeradwyo a'i ymgorffori gan y Senedd hon gyda chefnogaeth Aelodau Llafur a Phlaid Cymru, yn ogystal â phleidleisiau'r Ceidwadwyr Cymreig. Os yw'r Aelodau eisiau dilyn dull gweithredu Llywodraeth y DU ac ailagor ein heconomi, onid oes angen iddynt bleidleisio dros hynny?
Lywydd, roedd cyhoeddiadau'r Prif Weinidog ddoe yn gyhoeddiadau ar gyfer Lloegr. Mae'n rhaid i'r Senedd hon dderbyn ei chyfrifoldebau, fel y dywed yr Aelod, dros wneud rheoliadau i Gymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi iechyd ein poblogaeth yn gyntaf yn y ffordd y cyflwynwn gynigion i lawr y Senedd a cheisio sicrhau cefnogaeth iddynt. Ceir lleiafrif—sy'n cael ei gynrychioli gan yr Aelod—a fyddai'n dymuno byw yn rhywle arall a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn wahanol. Rydym yn hyderus fod y rhan fwyaf o'r Senedd yn cefnogi'r dull a ddefnyddiwn, ond rydym yn hyderus fod pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd.
Brif Weinidog, nid yw'r ffaith bod rhai pobl efallai mewn lleiafrif neu'n anghytuno â'ch dull gweithredu yn golygu eu bod eisiau byw yn rhywle arall. Heddiw, rydym yn pleidleisio ar y gyllideb atodol, sy'n priodoli ac yn ailddyrannu llawer iawn o gyllid. Ond yng ngwelliant eich Llywodraeth i ddadl a gynhelir yn ddiweddarach heddiw, rydych yn awgrymu nad yw'n ddigon a bod yn rhaid i Lywodraeth y DU fynd ati ar frys i ddileu cyfyngiadau ariannol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ymateb yn effeithiol i'r pandemig.
Ond onid defnydd eich Llywodraeth o bwerau afresymol sydd gennych eisoes ym maes iechyd sy'n achosi dirywiad yn refeniw Cymru o'i gymharu â Lloegr? Beth yw effaith cyfyngiadau symud llymach, sy'n para'n hwy yng Nghymru ar refeniw Cymru a'r cyfraddau treth incwm hynny? Pa ddirywiad pellach a welwn yn awr yn nerbyniadau'r dreth trafodiadau tir, o gofio bod marchnad dai Lloegr wedi ailagor chwe wythnos yn ôl, ac eto rydych yn parhau i wahardd gwerthwyr rhag arddangos tai yma, heblaw am eiddo gwag? O ystyried y twll cyllidol a ddaw i ganlyn hynny, pa mor hir fydd hi, Brif Weinidog, cyn i chi ddefnyddio'r pwerau a roddwyd i chi gan y Ceidwadwyr i godi swm digyfyngiad o dreth incwm?
Lywydd, mae'r Aelod bob amser yn llwyddo i droi cwestiwn synhwyrol yn nonsens, fel y gwnaeth ar y diwedd. Felly, gallwch fod yn eithaf sicr nad oes cynnig o'r fath yn unman, heblaw yn ei feddwl ei hun.
Nid yw'r pwyntiau rydym yn eu gwneud i'r Trysorlys ond yn gyfres o bwyntiau synhwyrol. Rydym eisiau'r gallu i droi cyfalaf yn refeniw, ar adeg pan fo'r pwysau ar ein cyllidebau refeniw yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydym eisiau mwy o hyblygrwydd i allu defnyddio'r gronfa Gymreig mewn modd a fyddai'n caniatáu inni ymateb i amodau pandemig byd-eang. Mae'r rhain yn fesurau synhwyrol a fyddai'n ein galluogi i reoli'r pwysau sydd arnom mewn ffordd sy'n ymateb iddynt o fewn ein hadnoddau ein hunain. Mae'n bryd i reolau'r Trysorlys ddal i fyny â natur datganoli, a gobeithio y gallwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gyflymu rhywfaint o'r meddylfryd sydd, yn fy marn i, wedi glynu at ffyrdd blaenorol o wneud pethau yn rhy hir.
Cyn i mi alw'r cwestiwn nesaf, ac yn unol â fy rôl i sicrhau bod busnes y Senedd yn cael ei gynnal yn briodol, ac i'n hatgoffa i gyd ein bod yn cyfarfod heddiw o bell ac yn rhithwir, rwy'n ymwybodol fod un Aelod yn y Siambr ac yn ffilmio ei hun ac yn darlledu i'r perwyl hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf am ofyn i'r Aelod hwnnw gael ei dynnu o'r Senedd rithwir yn awr, ac fe fyddwn yn cau'r Siambr maes o law. Fy nghyngor i Mr McEvoy yw i beidio â chwarae gemau gyda'ch Senedd.
Cwestiwn 3—David Rowlands.