– Senedd Cymru am 7:09 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r drosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant a'r gwelliannau eraill—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i gynnig dau welliant Plaid Cymru yn y grŵp yma. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dyw'r Bil ddim ond yn gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag perfformio neu gael eu harddangos ar gyfer adloniant mewn amgylchedd o syrcas deithiol. I fi, mae'r diffiniad yna yn llawer rhy gyfyng, ac mi fydd Aelodau, wrth gwrs, wedi derbyn negeseuon gan fudiadau megis yr RSPCA ac Animal Defenders International yn mynegi'r un farn ac yn eich hannog chi i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn hynny o beth.
O dan y ddeddfwriaeth, mae'n dal i fod yn gyfreithlon i fynd ag anifail gwyllt ar daith gyda syrcas deithiol a'i hyfforddi ar gyfer perfformio yng Nghymru—efallai, wrth gwrs, ar gyfer ei arddangos yn ddiweddarach mewn gwlad heb waharddiad. Nawr, byddai hyn yn dal i wneud yr anifeiliaid hynny'n agored i lawer o'r ffactorau sy'n peryglu lles ac yn gwneud bywyd mewn syrcas deithiol mor anodd iddynt. Ar hyn o bryd, nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael â realiti o'r fath na'r heriau niferus y tu hwnt i berfformio ac arddangos yn unig sy'n gwneud bywyd mewn syrcas deithiol yn realiti annymunol i'r anifeiliaid, gan gynnwys cael eu cludo a'u gorfodi i hyfforddi wrth gwrs.
Nid yw'r gwelliant hwn yn ymwneud ag amddifadu o eiddo, mae'n ymwneud ag atal problemau lles sy'n gysylltiedig â natur amharhaol syrcasau teithiol. Mae materion lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i berfformio ac arddangos, a dylai deddfwriaeth ymdrin â chaethiwed, straen wrth gael eu cludo, hyfforddiant dan orfodaeth a grwpio cymdeithasol annormal sy'n parhau'n realiti i'r anifeiliaid hyn. Byddai gwrthod y gwelliannau hyn yn golygu, wrth gwrs, y byddwn yn dal i ganiatáu i anifeiliaid gwyllt deithio a hyd yn oed hyfforddi gyda syrcasau teithiol, ac felly ni fyddwn ond yn gwahardd perfformio neu arddangos.
Un ffocws mawr ar gyfer y Bil hwn oedd rhoi diwedd ar weld anifeiliaid gwyllt yn teithio mewn syrcasau teithiol, a chredaf y byddai colli'r cyfle hwn yn arwyddocaol. Nawr, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi archwilio i weld sut y byddai peidio â chael gwaharddiad llwyr yn annhebygol o fodloni disgwyliadau'r cyhoedd. Felly, byddai ein gwelliant cyntaf yn dod â Chymru'n agosach at y gwaharddiadau mwy cadarn a welwn mewn lleoedd fel Gweriniaeth Iwerddon, lle mae'r ddeddfwriaeth yn dweud na chaniateir i berson ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas, a bod unrhyw gyfeiriad at syrcas yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw fan lle caiff anifeiliaid a ddefnyddir mewn syrcas eu cadw neu eu hyfforddi.
Gan ddod at ein hail welliant, rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno ei bod hi'n hen bryd cael gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru, ond er ei fod ar yr agenda ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru, ni fydd y genedl olaf ym Mhrydain yn awr i gyflwyno gwaharddiad. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt yn y Cynulliad, fel ag yr oedd, ers o leiaf 2006, gyda chyflwyno datganiad barn a oedd yn gobeithio y gallai Deddf Lles Anifeiliaid 2006 rymuso Cymru i weithredu. Cymerodd naw mlynedd i ni—yn 2015, felly—i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn credu nad oes lle i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ond wrth gwrs rydym yn dal i aros. Yn Lloegr, yn y cyfamser, daeth Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau 2019 i rym ym mis Ionawr eleni, ac yn yr Alban, wrth gwrs, mae gwaharddiad wedi bod mewn grym ers 2018.
Fodd bynnag, fel y'i drafftiwyd, ni ddaw gwaharddiad arfaethedig Cymru i rym tan 1 Rhagfyr eleni, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n amlwg fod amgylchiadau'n ei gwneud yn annhebygol yn awr y gwelwn unrhyw syrcasau teithiol yn ymweld â Chymru yr haf hwn—er, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn ddiweddarach yn yr hydref, o bosibl—ond wrth gwrs, byddai'n golygu wedyn mai Cymru fyddai'r unig leoliad lle byddai perfformiad syrcas yn dal i fod yn realiti cyfreithlon i anifeiliaid gwyllt, er mai dros dro fyddai hynny.
Nawr, rwy'n ddiamynedd yn fy awydd i weld gwaharddiad yn cael ei weithredu, er fy mod yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers cyflwyno'r gwelliant penodol hwn yn gynharach eleni, ac rwy'n derbyn hefyd, wrth gwrs, fod yr ail welliant yn dibynnu i raddau helaeth ar basio'r gwelliant cyntaf, ond byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi ein dau welliant i'r Bil hwn. A hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, na fyddaf yn cyfrannu at y ddadl ar y grŵp nesaf o welliannau, ond bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno i'r Bil hwn heddiw. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y gwelliant yn fy enw i yn y grŵp hwn, gwelliant 3. Byddwn hefyd yn cefnogi'r gwelliant cyntaf y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno heddiw, ond ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant gan Blaid Cymru, ac fe wnaf egluro pam. Gallwn fod yn hynod o Churchillaidd a cheisio apelio ar feinciau'r Llywodraeth i gefnogi ein gwelliannau gerbron y Siambr heddiw, ond rwy'n tybio fy mod yn cofio o'r cyfnod pwyllgor mai ychydig iawn o lwc a gawsom. Ond rwy'n credu eu bod yn werth eu gosod yng Nghyfnod 3, yn enwedig y gallu i sicrhau na ellid troi ymarferion hyfforddi a wneir gydag anifeiliaid syrcas yn ffynhonnell incwm drwy ffi i syrcasau. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae bwlch yn y Ddeddf, fel y tystiodd gwybodaeth a roddwyd i ni yn y cyfnod pwyllgor, Cyfnod 1, gan amrywiol sefydliadau a ddywedai, 'Byddai'r ddeddfwriaeth hon yn atal anifeiliaid rhag cael eu harddangos yn y cylch at ddibenion adloniant', ond roedd perygl y gallai anifeiliaid ddal i deithio gyda'r syrcas honno i Gymru a mynd drwy drefn hyfforddi y tu allan i gylch y syrcas yn y pen draw a allai greu incwm drwy ffi i'r syrcas—i berchnogion ac arddangoswyr syrcas.
Fel y dywedodd Llyr, llefarydd Plaid Cymru, mae hwn wedi cael ei daflu o gwmpas yn awr ers 2006, gyda'r datganiad barn cyntaf. Does bosibl nad yw'n gwneud synnwyr, os ydym yn mynd i roi deddfwriaeth drwy Senedd Cymru, ein bod yn ceisio cau unrhyw fylchau a nodwyd yn y dystiolaeth arbenigol a gawsom yn y pwyllgor. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi gwelliant 3 yn y grŵp penodol hwn, oherwydd nid yw'n ceisio trawsnewid y Bil, mae'n ceisio gwella'r Bil a chau unrhyw fylchau a allai, yn y dyfodol, gynnig ffrwd incwm i berchnogion syrcas pan fyddant yn dod i Gymru gyda'r anifeiliaid y gallent fod yn eu cludo gyda hwy. Mae'n ymddangos yn ymarfer cwbl resymegol i wneud hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymatal rhag gwrthwynebu'r gwelliant penodol hwn, gan ei fod wedi'i seilio ar y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor.
Ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno, eto am fod y dystiolaeth yn dangos yn glir fod angen cyfnod pontio, o'r adeg y dôi'r ddeddfwriaeth i rym, er mwyn i berchnogion syrcas ddod o hyd i gartrefi addas ar gyfer yr anifeiliaid hyn, yr anifeiliaid gwyllt hyn, y bydd angen rhoi sylw i ystyriaethau ynglŷn â'u lles yn y pen draw. Ac unwaith eto, cafwyd tystiolaeth o hynny yng Nghyfnod 1. Gallaf gydymdeimlo â Llyr pan fo'n gwneud y pwynt y byddai'n well ceisio ei wneud cyn gynted ag sy'n bosibl, ond y gwir amdani yw ein bod yn sôn am anifeiliaid byw ac mae yna ystyriaethau lles yn gysylltiedig â hynny, a phan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i rym, bydd angen iddi roi lle i anadlu er mwyn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i gartref addas ar eu cyfer yn y dyfodol. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 3 a galwaf ar Senedd Cymru i gefnogi gwelliant 3, sy'n sefyll yn fy enw i, yn y grŵp hwn.
Dyma'r ail dro i'r Aelodau gyflwyno gwelliannau i ymestyn cwmpas y drosedd. Gwnaethant yr un peth yng Nghyfnod 2, pan gawsant eu gwrthod gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud yn glir iawn mai diben y Bil hwn yw mynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru. Mae deddfwriaeth arall ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid. Diben cul iawn sydd i'r Bil hwn ac mae'n ceisio ei gwneud yn drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio neu beri neu ganiatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol. Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw'r anifail yn perfformio neu os caiff ei arddangos. Os yw syrcasau'n dewis cadw a hyfforddi eu hanifeiliaid gwyllt a'u defnyddio mewn ffordd wahanol, bydd ganddynt hawl i wneud hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny'n gyfreithlon.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, mae'r syrcasau eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu parhau i ddefnyddio eu hanifeiliaid gwyllt, er nad fel rhan o'r syrcas deithiol. Ac er mwyn gwneud hyn, mae'n debyg y byddai angen iddynt eu hyfforddi. Mae'n debygol fod unrhyw benderfyniad ar ddyfodol eu hanifeiliaid gwyllt wedi'i wneud eisoes, o gofio'r gwaharddiad yn Lloegr a ddaeth i rym ym mis Ionawr. Byddai rhywun yn tybio y byddai'n aneconomaidd i syrcasau barhau i fynd â'u hanifeiliaid gwyllt gyda hwy pan fyddant yn mynd ar daith os na allant eu defnyddio, er mai penderfyniad iddynt hwy fyddai hynny.
Mae'r gwelliannau a gynigir yn gyfystyr â gwaharddiadau de facto, naill ai ar gadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol—a fyddai'n gyfystyr ag amddifadu o eiddo'n gyfan gwbl—neu ar hyfforddi anifeiliaid gwyllt, a byddai hyn yn creu risg o dramgwyddo'r hawl i fwynhau eiddo'n heddychlon, a ddiogelir gan erthygl 1 o brotocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae cyfyngu ar y modd y caiff anifail ei ddefnyddio mewn amgylchedd syrcas, fel rydym yn ceisio ei wneud yma, yn llai o ymyrraeth nag amddifadu perchennog ohono'n llwyr, neu gyfyngu ar y modd y maent yn defnyddio anifeiliaid gwyllt y tu allan i amgylchedd y syrcas.
Rwy'n deall awydd yr Aelod i weld gwaharddiad yn cael ei weithredu cyn gynted ag sy'n ymarferol, ac nid oes modd cyfiawnhau defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol mwyach ar gyfer adloniant yn unig, a dyna pam y cyflwynais y ddeddfwriaeth hon. Dylai'r Bil, os yw'n llwyddiannus, gael Cydsyniad Brenhinol ganol mis Awst ar y cynharaf, a dod i rym ar 1 Rhagfyr. Cafodd y dyddiad dod i rym ei godi gan yr Aelod yn ystod y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a dywedais y byddwn yn ystyried dyddiad dod i rym cynharach, fel y gwneuthum pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor y llynedd. Fodd bynnag, yn ei adroddiad Cyfnod 1, wrth gydnabod y pryderon ynghylch amseriad y gwaharddiad a'r galwadau i gyflwyno'r gwaharddiad yn gynharach, nododd y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
'Byddai amser a ganiateir ar gyfer craffu deddfwriaethol ar y Bil yn darparu cwmpas cyfyngedig i’r dyddiad dod i rym gael ei gyflwyno’n gynharach. O ystyried hyn, a goblygiadau ymarferol cyflwyno’r gwaharddiad yn ystod y tymor teithio, rydym yn fodlon bod y dyddiad dod i rym yn rhesymol ac yn briodol.'
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cofio mai'r rheswm dros osod y dyddiad dod i rym ym mis Rhagfyr yw y bydd disgwyl i syrcasau teithiol sydd wedi defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu teithiau ac wedi dychwelyd i'w man aros dros y gaeaf erbyn hynny. Ond fel y nododd Llyr, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw'r syrcasau hyn wedi teithio o gwbl eleni, ac mae'n rhy gynnar i ddweud pa bryd y caniateir y math hwn o weithgaredd. Ond fel y nodwyd gennych, mae'n bosibl y gallai'r syrcasau fynd ar daith yn hwyrach eleni, ac os byddant yn gwneud hynny, mae'n bosibl y byddant yn penderfynu peidio â theithio eto yng Nghymru gyda'u hanifeiliaid gwyllt, o gofio bod y gweithgaredd wedi'i wahardd bellach yn Lloegr, lle mae'r ddwy syrcas wedi'u lleoli.
Byddai gweithredu gwaharddiad yn ystod y tymor teithio, a allai fod unrhyw adeg tan ddiwedd mis Tachwedd, yn rhoi'r syrcasau mewn sefyllfa anodd ac afresymol o orfod cydymffurfio â darpariaethau'r Bil tra byddent ar daith gyda'u hanifeiliaid gwyllt. Rydym wedi edrych ar y dyddiad dod i rym yn ofalus iawn, ac nid oes fawr ddim i'w ennill o'i gyflwyno ychydig wythnosau'n gynharach fel y byddai'n debygol o fod.
Felly, Lywydd, nid wyf yn credu bod angen yr un o'r gwelliannau hyn. Diben y Bil yw mynd i'r afael â phryderon moesegol—[Torri ar draws.] Ie.
Diolch. Nid oeddwn yn siŵr fod ymyriadau'n cael eu caniatáu.
Nid wyf innau'n gwybod chwaith.
Wel, gan eich bod wedi tynnu sylw at hynny, na, ni chânt eu caniatáu.
Nac ydynt. O'r gorau. Diben y Bil—
Yn gyflym iawn, oherwydd rwy'n berson caredig iawn.
Rwyf am ofyn am bwynt o eglurhad ynglŷn â'r gwelliant a gyflwynais ar hyfforddiant. Fe ddywedoch chi yn eich sylwadau agoriadol fod perchnogion syrcas wedi dweud y byddant yn defnyddio'r anifeiliaid mewn ffordd wahanol. Fe ddywedoch chi hynny yn eich sylwadau agoriadol, Weinidog. Felly yn sicr mae gwelliant 3 yn amlwg yn ceisio atal hynny rhag digwydd mewn ymarferion hyfforddi, a ddylai'r gwelliant sy'n cael ei dderbyn gan y Llywodraeth hefyd felly, yn eich geiriau chi, atal y perchnogion rhag defnyddio'r anifeiliaid mewn ffordd wahanol.
Rwy'n credu fy mod wedi egluro hynny yn fy ateb cynharach, Lywydd.
Felly, diben y Bil yw mynd i'r afael â phryderon moesegol am y ffordd y caiff anifeiliaid gwyllt eu defnyddio mewn syrcasau teithiol. Mae deddfwriaeth arall eisoes ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau. Diolch.
Llyr Gruffydd yn ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wel, diolch am y cyfraniadau i'r drafodaeth hon ynghylch y grŵp cyntaf hwn o welliannau. Rwyf wedi fy nhristáu braidd, Weinidog, wrth eich clywed yn derbyn yn gyndyn braidd y gallai anifeiliaid gwyllt fynd ar daith gyda syrcasau yng Nghymru yn yr hydref, pan allem ddeddfu yn awr mewn gwirionedd, heddiw, i atal hynny rhag digwydd.
Ac fe gyfeirioch chi at 'fwynhau eiddo'n heddychlon', gan ddyfynnu eich geiriau chi, fel hawl ddynol. Hyd yn oed pan fydd yn mynd yn groes i les anifeiliaid? Rwy'n credu bod cwestiynau difrifol y mae angen eu gofyn ynglŷn â hynny. Rwy'n teimlo ei bod yn eithaf croes i'r graen ein bod yn deddfu yma i ddiogelu lles anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac yna'n dewis diffinio hynny mewn ffordd mor gul fel ein bod yn colli cyfle go iawn yma i'w ymestyn y tu hwnt i berfformio ac arddangos yn unig.
Fe sonioch chi fod darnau eraill o ddeddfwriaeth ar waith sy'n diogelu lles anifeiliaid. Rwy'n deall hynny, ond rydym yn cael neges glir gan nifer o sefydliadau lles anifeiliaid y cyfeiriais atynt yn dweud wrthym eu bod yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Felly, mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le yn y darpariaethau presennol sydd i'w cael. Felly, rwy'n siomedig nad ydych yn derbyn y gwelliannau hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn fwy cyffredinol hefyd mewn penbleth ynglŷn â hyn ac yn rhannu fy siom.
Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i beidio â gwastraffu'r cyfle hwn i wneud cymaint o wahaniaeth ag y gallwn yn y ddeddfwriaeth hon, ac rwyf am ofyn i chi gefnogi dau welliant Plaid Cymru y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn symud i bleidlais yn syth, ac yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl unwaith eto o bum munud cyn inni bleidleisio ar y gwelliant yma a'r ddau nesaf. Felly, dwi'n dod â'r sesiwn i ben am bum munud.
[Anghlywadwy.] [Chwerthin.] O blaid 25, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf.
A yw'n cael ei gynnig?
Cynnig.
Cynigiwyd gan Andrew R. T. Davies
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—gydag un Aelod—[Anghlywadwy.] Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 oedd bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Gwelliant 2. Llyr Gruffydd.
Mae gwelliant 2 wedi ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, ac mae un Aelod eto heb fedru pleidleisio. Canlyniad y bleidlais yw bod 12 o blaid, un yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.