4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit ers i'w deitl gael ei newid ar 4 Mawrth 2020? OQ55462
Cymeraf bob cyfle i sefyll dros Gymru, er gwaethaf y diffyg ymgysylltu ystyrlon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi bod mewn sawl cyfarfod gyda'r Tâl-feistr Cyffredinol ac mewn cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar 21 Mai, ac mae cyfarfod arall o'r pwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer yfory.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Mae hi yn destun gofid i mi ei bod hi'n ymddangos nad yw pob Llywodraeth yn y DU yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn y cyfnod cythryblus hwn i sicrhau y caiff holl ddinasyddion y DU eu trin yn gydradd lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae'n dorcalonnus, er gwaethaf gwahanol fforymau ar gyfer trafod a dadlau, er gwaethaf adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a gwir ewyllys am berthynas sy'n parchu datganoli, sy'n gynhwysol ac yn gydweithredol, rwyf wedi darllen rhai o'ch erthyglau diweddar ac nid wyf yn eu gweld naill ai'n adeiladol nac yn gydweithredol. A wnewch chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y diffyg cyd-parch a pherthynas ymarferol, ac, er fy mod yn sylweddoli bod rhaid i'r ddwy ochr weithio ar hyn, beth arall y gallwch chi, Lywodraeth Cymru, a'r Senedd ei wneud i newid hyn? Diolch.
Wel, dydw i ddim yn siŵr pa erthyglau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, ond byddwn i'n dweud fy mod i wedi ceisio ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yng nghyswllt pob un o'n hymrwymiadau o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r bwriad arfaethedig i wyro o'r cyfnod pontio. Mae wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sicrhau, er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol amlwg rhwng y Llywodraeth yma a'r Llywodraeth yn Llundain, mai'r egwyddor arweiniol yw sicrhau bod cynrychiolaeth deilwng ac ystyriaeth deilwng i fuddiannau Cymru yn y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud ar ran y DU. Rydym ni wedi ceisio fel Llywodraeth yn gyson, nid i wneud dim byd ond cwyno, ond i gyflwyno dadl adeiladol dros ddewisiadau amgen ar bob cam. Hyd yn oed mewn amgylchiadau lle nad oes fawr o obaith i'r rheini gael derbyniad gwresog nac effeithio ar y gweithredu yn San Steffan, rydym ni wedi teimlo mai'r peth priodol a chywir i'w wneud ar ran pobl Cymru yw cyflwyno dadl resymegol ar sail tystiolaeth ar bob cam, ac i gymryd pob cyfle posib i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Ac mae'n fater o rwystredigaeth oherwydd, pan fydd ymgysylltu yn gweithio'n dda, mae'n gynhyrchiol iawn. Rydym ni fel Llywodraeth yn dymuno gweld mwy o hynny.
Gweinidog, ar sawl achlysur gerbron y pwyllgor, rydych chi wedi nodi'r heriau yr ydych chi wedi'u hwynebu wrth geisio cael Llywodraeth y DU i gyflwyno syniadau a phenderfyniadau ac i gydweithio mewn gwirionedd â Llywodraeth Cymru. A ydych chi felly, fel finnau, yn gresynu wrth agwedd Llywodraeth y DU at hyn o ran y negodi rhwng yr UE a'r DU, ac y dylid cael mwy o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, fel bod cydweithredu mewn gwirionedd yn gweithio, ac nid yn cael ei orfodi?
Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Dylai'r egwyddor fod yn un o gydweithredu, a dylai hynny allu digwydd mewn modd lle caiff pob un o bedair Llywodraeth y DU yr un parch a'r un cyfle i gyfrannu. Efallai fod hierarchaeth Seneddol dan ddamcaniaeth gyfansoddiadol y DU, ond mewn gwirionedd nid oes hierarchaeth o lywodraethau, a dylid trin llywodraethau fel rhai cydradd yn y trafodaethau hynny.
O ran y trafodaethau y mae'n cyfeirio atyn nhw yn benodol, bydd yn gwybod o'n trafodaethau yn y pwyllgor ein bod yn siomedig iawn ynghylch diffyg ymwneud gwirioneddol â hynny, hyd yn oed i'r graddau y maent yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli. Ond, eto, yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni, fel Llywodraeth, wedi manteisio ar bob cyfle, ac rwyf wedi ysgrifennu rwy'n credu 10 neu 11 o lythyrau at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dweud yn glir iawn beth yw ein safbwynt o ran y negodiadau hynny. Ond, mewn gwirionedd, dylai'r rheini fod yn destun trafodaethau yn Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a fyddai, pe bai'n cyflawni ei gylch gorchwyl, yn galluogi i'r math hwnnw o gyd-gyfrannu ddigwydd—nid yw wedi gwneud hynny eto.