1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Medi 2020.
2. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau i gyllid cyhoeddus o ganlyniad i'r pandemig COVID-19? OQ55514
Llywydd, mae asesiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos cynnydd mawr iawn i'r diffyg ariannol ar gyfer y DU gyfan yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllideb Cymru rhag effaith y sioc economaidd ar draws y DU ar refeniw datganoledig sy'n deillio o'r pandemig.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich Llywodraeth wedi annog awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn eiddo masnachol ledled y wlad. Rydych chi wedi rhoi benthyg arian trethdalwyr iddyn nhw wneud hynny, ac mae Banc Datblygu Cymru yn benthyca arian yn uniongyrchol i gwmnïau preifat sy'n datblygu eiddo masnachol. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rhoddodd y banc fenthyciadau gwerth £34.1 miliwn o arian trethdalwyr i ddatblygwyr eiddo, ac eleni mae gan y banc ddwy gronfa ar gael i ddatblygwyr eiddo, sy'n dod i gyfanswm o £97 miliwn. Mae'r rhan fwyaf ohono yn y gronfa eiddo masnachol, a darperir yr holl arian gan Lywodraeth Cymru, hynny yw, y trethdalwr. O ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, mae arbenigwyr eiddo yn rhagweld y gallai eiddo masnachol golli 50 y cant o'i werth ac y bydd enillion rhent yn mynd ar chwâl wrth i fusnesau gau a lleihau maint swyddfeydd gan fod mwy o staff yn gweithio gartref neu eu bod angen gwyliau rhent. Mae hyd yn oed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyfaddef i ostyngiad o 14 y cant o leiaf i werth yn ystod y flwyddyn nesaf. Os yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn iawn, gallai Banc Datblygu Cymru golli £7.7. miliwn mewn un flwyddyn os bydd yn buddsoddi ei gronfa eiddo masnachol gyfan o £55 miliwn. Gallai'r banc eisoes fod wedi colli £4.7 miliwn ar fuddsoddiadau y llynedd. Gallai'r darlun fod yr un mor wael i awdurdodau lleol. Mae Cyngor Sir y Fflint, er enghraifft, yn berchen ar 13 o ganolfannau busnes ac ystadau diwydiannol. Felly, faint o arian trethdalwyr a fuddsoddwyd mewn eiddo masnachol y gellid ei golli oherwydd y cyfyngiadau symud? Faint o arian ydych chi wedi ei neilltuo i achub cynghorau sy'n colli arian oherwydd lleihad i fuddsoddiadau mewn eiddo masnachol? Ac a yw Banc Datblygu Cymru wedi newid ei feini prawf benthyca ar gyfer datblygwyr eiddo masnachol ers i'r coronafeirws ymddangos a newid y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn cyflawni busnes?
Wel, Llywydd, rwy'n credu mai'r risg yng nghwestiwn yr Aelod yw cyfuno canlyniadau byrdymor a hirdymor y pandemig. Yn y byrdymor, nid oes amheuaeth o gwbl bod coronafeirws wedi effeithio ar werthoedd eiddo masnachol ac y byddan nhw'n parhau i gael eu heffeithio wrth i sioc economaidd y pandemig ddatblygu ar draws ein heconomi. Ond nid wyf i'n credu y dylem ni gymryd yn ganiataol bod yr effeithiau byrdymor hynny yn sicr o fod yn nodweddiadol o'r ffordd y bydd yr economi yn gwella. Nid wyf i'n credu ychwaith ei bod hi'n deg i feirniadu unrhyw sefydliad am wneud penderfyniadau benthyca mewn un cyfres o amgylchiadau pan fydd rhywbeth cwbl anrhagweladwy yn gwneud gwahaniaeth wedyn i'r ffordd y caiff y buddsoddiadau hynny eu prisio erbyn hyn. Yr hyn yr wyf i'n disgwyl ei weld yw fy mod i'n disgwyl i benderfyniadau benthyca gael eu calibradu nawr i'r gyfres bresennol o amgylchiadau a welwn, ac rwy'n disgwyl ein gweld ni'n cymryd golwg hirdymor ar rai o'r buddsoddiadau hynny a pheidio â gwneud penderfyniadau byrbwyll a fyddai'n ymateb i'r hyn yr ydym ni i gyd yn sicr yn gobeithio sy'n effaith dros dro cyfres fyd-eang o amgylchiadau ar ein heconomi ac y bydd yr economi yn gwella mewn ffyrdd a fydd yn diogelu'r buddsoddiadau hynny yn y tymor hwy.
Rwy'n credu bod Michelle Brown wedi rhoi sylw i bopeth yn y fan yna, do, Prif Weinidog? Ond hoffwn eich holi am y sefyllfa o ran treth. Ddoe, yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog cyllid, pryd y siaradodd am effaith y pandemig ar werthu tai ac ar dreth trafodiadau tir. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r pandemig parhaus nid yn unig ar y dreth honno ond ar bob treth, gan gynnwys cyfradd treth incwm Cymru? Ac rydych chi newydd sôn mewn ymateb i Michelle Brown bod y fframwaith cyllidol yn cefnogi cyllideb Cymru yn erbyn ergydion fel pandemig ac ergydion annisgwyl yn y DU ac yn rhyngwladol. A ydych chi'n ffyddiog bod y fframwaith cyllidol yn gweithredu yn briodol ac y bydd yn amddiffyn cyllideb Cymru a refeniw treth Cymru yn llwyr rhag sioc y pandemig?
Wel, Llywydd, pe bawn i'n cymryd ymadrodd Nick Ramsay yn llythrennol, yn 'amddiffyn yn llwyr', yna nid wyf i'n tybio y gallwn i sicrhau hynny, gan y bydd effaith coronafeirws yn cael ei theimlo ar draws economi gyfan y DU yn ogystal ag economi Cymru, ac ar draws refeniw Llywodraeth y DU yn ogystal â'n refeniw ni. Rwy'n ffyddiog bod y fframwaith cyllidol yn ein hamddiffyn rhag ergydion a fyddai'n cael eu dioddef yng Nghymru pan fo'r ergydion hynny yn cael eu dioddef mewn mannau eraill. Bydd addasiad y grant bloc yn cymryd hynny i ystyriaeth a bydd yn golygu ein bod ni'n cael ein diogelu rhag yr effeithiau hynny.
Rwyf i hefyd yn falch o allu dweud wrth yr Aelod, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cymryd diddordeb agos iawn yn y mater ar y pryd, bod y rheol cyllid canlyniadol o 105 y cant sydd gennym ni o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol eisoes wedi darparu £360 miliwn i Gymru na fyddai wedi dod i Gymru oni bai am y fframwaith cyllidol a'r rhan honno ohono a negodwyd gennym ni ar y pryd. Felly, rydym ni'n cael ein hamddiffyn gan y fframwaith cyllidol. Nid oes yr un ohonom ni'n cael ein hamddiffyn rhag yr effaith fyd-eang y mae coronafeirws yn ei chael ar economi gyfan y DU ac yn ehangach.
Prif Weinidog, rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cytuno â mi pan ddywedaf y gall defnydd arloesol o gymwyseddau treth gael effaith gadarnhaol ar ein cyllid cyhoeddus, yn ogystal â dod â manteision cymdeithasol cadarnhaol eraill. Fel y gwyddoch, rwy'n gefnogwr brwd o'r dreth ar dir gwag, a allai nid yn unig roi hwb i gyllid cyhoeddus ond, yn bwysicach, gweddnewid ein cymunedau hefyd. Felly, roeddwn i'n siomedig o ddarllen y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf am y llusgo traed gan Weinidogion y DU ar y mater hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar Weinidogion y DU i barchu'r setliad datganoli fel y gellir datblygu'r cynigion hyn a pheidio â gadael iddyn nhw ddefnyddio ymateb i'r pandemig fel esgus dros beidio â gweithredu neu fynd yn ôl ar eu gair?
Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna, ac rwy'n cydnabod yn llwyr y diddordeb y mae hi wedi ei gymryd yn y mater o dreth ar dir gwag. Rwy'n cofio'n dda y ddadl fer a gynhaliodd ar y pwnc hwn. Yn anffodus, mae hon yn agwedd llawer llai cadarnhaol ar ein trafodaethau gyda'r Trysorlys. Er i mi allu siarad yn gadarnhaol am y fframwaith cyllidol, mae hon yn stori llawer llai boddhaol.
Gadewch i ni gofio am eiliad, Llywydd, mai'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yw defnyddio pŵer a roddwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2017 y Ceidwadwyr. Mae hwn yn bŵer a roddwyd ar y llyfr statud gan y Llywodraeth ar y pryd, ac mae'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gynnig trethi newydd ar gyfer Cymru. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio i ni ddewis treth gul a phenodol yn fwriadol, treth ar dir wag, nad oedd yn dreth ddadleuol, mewn nifer o ffyrdd, mewn egwyddor, i roi prawf ar y peirianwaith hwnnw. Mae dros ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i'r cynnig hwnnw gael ei gyflwyno am y tro cyntaf i'r Trysorlys. Ac, er gwaethaf yr hyn sydd, ar rai adegau, wedi bod yn berthynas weddol gynhyrchiol, cawsom lythyr siomedig iawn gan Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ym mis Awst, yn ailagor cyfres gyfan o gwestiynau a dadleuon a oedd eisoes wedi eu hateb mewn trafodaethau blaenorol. Mae arnaf ofn mai'r hyn sy'n dod i'r amlwg yw nad yw'r peirianwaith yr aethom ni ati i roi prawf arno yn foddhaol; nid yw'n gymwys i ymdrin â'r mater y rhoddodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ei hun ar y llyfr statud i Gymru. Byddwn yn parhau i weithio yn ddyfal arno, fel y dywedodd Vikki Howells, ond mae arnaf ofn mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu yw bod y peirianwaith ei hun wedi torri y tu hwnt i allu ei drwsio.