– Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 4 a 5 yn enw Neil Hamilton, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 3 ac 8 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliannau 6 a 7 yn enw Gareth Bennett. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.
Dyma ni nawr yn cyrraedd eitem 10. Eitem 10 yw dadl Plaid Brexit ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig grŵp Plaid Brexit i groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU, y pasiwyd ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin nos Lun gyda mwyafrif o 77. Rwy'n llongyfarch yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr am fod eu Llywodraeth wedi cyflwyno'r Bil hwn a mynd i'r afael yn hwyr yn y dydd â rhai o'r diffygion yn y cytundeb ymadael y mae fy mhlaid wedi cwyno amdanynt. Nodaf ddwy effaith eang y Bil, a byddaf yn siarad amdanynt yn fy sylwadau yn eu tro: yn gyntaf, yr hyn y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn ail, yr hyn y mae'n ei wneud mewn perthynas â datganoli.
Rwy'n falch iawn nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, datblygiad rwyf wedi ymgyrchu drosto drwy gydol fy oes fel oedolyn. Mae'n well gennyf fod y tu allan i'r cytundeb ymadael hwn na pheidio â bod allan o gwbl. Fodd bynnag, mae agweddau ar y cytundeb sy'n anfoddhaol iawn. Cawn ein calonogi, os ein synnu, fod y Prif Weinidog, drwy geisio deddfu yn y ffordd y mae'r Bil hwn yn ei wneud, yn ceisio mynd i'r afael â hyn, i ryw raddau o leiaf.
Y rheswm pam fod y cytundeb ymadael mor anfoddhaol i'r DU ond mor foddhaol i'r Undeb Ewropeaidd yw'r modd y trefnir negodiadau—hynny yw, parodrwydd Llywodraeth y DU i gytuno i roi i'r UE yr hyn roeddent am ei gael yn y cytundeb ymadael cyn i'r UE gytuno i roi i ni yr hyn rydym am ei gael mewn cytundeb masnach. Y rheswm pam y cytunodd Llywodraeth y DU i hwnnw yw nad oedd ganddi fwyafrif. Gall y Ceidwadwyr ddiolch i Theresa May am hynny, ond chwaraeodd Llafur ei rhan hefyd drwy addo yn 2017 y byddent yn parchu canlyniad refferendwm yr UE a mynd ati i wneud y gwrthwyneb wedyn. Pleidleisiodd o blaid cytundeb ymadael a fyddai wedi cadw'r DU gyfan ynghlwm wrth yr UE, gan gynnwys o fewn ei hundeb tollau, a deddfwyd yn ddiweddarach i atal y DU rhag gadael heb gytundeb er mwyn ceisio gorfodi'r DU i aros yn yr UE yn gwbl groes i ganlyniad y refferendwm.
Felly, sefydlodd Nigel Farage Blaid Brexit, enillodd yr etholiad Ewropeaidd a gyrru Theresa May o'i swydd. Er mwyn torri'r impasse seneddol, cefnogodd y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, y cytundeb ymadael presennol. Mae dadlau bod cytundeb ymadael yn gysegredig, fel y mae gwrthwynebwyr y Bil hwn yn ei wneud, yn hwyluso buddiannau'r UE a'r dull o drefnu y ceisient ei orfodi i hyrwyddo eu buddiannau hwy ar draul ein buddiannau ni. Roedd yn cyd-fynd ag awydd yr UE i geisio sicrhau taliad ysgaru fel y'i gelwid a'i fodel dewisol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn gyntaf. Nid oedd yn addas ar gyfer y DU.
Erbyn canol 2017, roedd awdurdodau treth a thollau'r DU ac Iwerddon wedi cyfrifo i raddau helaeth sut i osgoi unrhyw seilwaith ar y ffin neu ffin galed yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd y trafodaethau hynny eu terfynu gan yr UE yn dilyn etholiad Mehefin 2017, gan rymuso eu cynghreiriaid yn y Blaid Lafur i weithio gyda hwy, i bob pwrpas yn erbyn negodwyr eu gwlad eu hunain.
O, dewch wir, mae hynny'n hurt. Mae'n honiad hurt.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad y cyn Brif Weinidog yn ddiweddarach. A yw'n cael ymyrryd, Lywydd, neu a yw hynny'n anseneddol ar hyn o bryd? Iawn.
Pam y dylem rannu—[Torri ar draws.] Arhoswch nes y clywch chi hyn. Pam y dylem rannu marchnad sengl ac undeb y tollau y DU ar hyd môr Iwerddon pan allai'r UE osgoi ffin yng Ngogledd Iwerddon drwy wneud archwiliadau ar draws y môr Celtaidd rhwng Iwerddon a gweddill yr UE? Wrth gwrs, mewn sefyllfa o'r fath, byddai'r UE ac Iwerddon yn dod i weld gwerth y trefniadau amgen synhwyrol niferus rydym wedi'u cyflwyno yn fuan iawn er mwyn osgoi ffin weladwy. Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle inni ailagor y materion hyn a sicrhau bod unrhyw setliad yn deg ac er budd y DU yn ogystal â'r UE.
Cafwyd llawer o sŵn a chynddaredd yn y dyddiau diwethaf. Mae nifer wedi neidio i'r casgliad fod gadael heb gytundeb bellach yn llawer mwy tebygol, am fod ymddiriedaeth wedi'i golli yn ôl pob sôn. Rwy'n tybio mai'r realiti yw bod cytundeb wedi dod yn llawer mwy tebygol. Y rheswm am hynny yw bod y gost i'r UE o beidio â dod i gytundeb newydd godi. Os byddant yn gwrthod rhoi inni—[Torri ar draws.] Awgrymaf fod y cyn Brif Weinidog yn gwylio'r hyn a wnânt yn hytrach na gwrando ar yr hyn a ddywedant ar y pwynt penodol hwn. Os gwrthodant roi telerau boddhaol inni ar y cytundeb masnach, fel rydym am ei gael, byddwn yn gwrthod rhoi'r hyn roeddent hwy am ei gael, ac yn credu'n anghywir eu bod eisoes wedi'i gael, ar brotocol Gogledd Iwerddon.
Mae beirniaid yn iawn pan fyddant yn dweud nad oes darpariaeth mewn cyfraith ryngwladol i wladwriaeth newid un rhan yn unig o gytuniad y mae wedi'i gytuno, er bod darpariaethau wrth gwrs i wladwriaethau ymwrthod â chytuniadau cyfan. Rwy'n gobeithio felly, yn niffyg cytundeb boddhaol â'r UE, y bydd y DU yn tynnu'n ôl o'r cytuniad cyfan, gan gynnwys ei threfniadau ariannol a'r materion masnach hynny a bennwyd yn anghywir ymlaen llaw i ffafrio'r UE, er enghraifft ar ddangosyddion daearyddol. Er hynny, credaf ei bod bellach yn fwy tebygol nag o'r blaen y cyrhaeddir cytundeb masnach gyda'r UE ac ar delerau mwy ffafriol i'r DU nag y byddai wedi bod yn bosibl eu cyflawni heb i'r Prif Weinidog gryfhau ei law negodi drwy'r Bil hwn. Os felly, cawn farnu ynghylch ei rinweddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Trof yn awr at yr effaith ar ddatganoli. Dywed hen bennau wrthyf fod angen i mi ddeall mai proses yw datganoli, nid digwyddiad, ond dyna'n union yw'r broblem. Mae proses sydd ond yn arwain i un cyfeiriad yn creu perygl y bydd Cymru'n cerdded yn ei chwsg tuag at annibyniaeth. Mae ymagwedd newydd San Steffan tuag at gonfensiwn Sewel yn ffordd ddefnyddiol o gywiro hyn. Dair blynedd yn ôl, rwy'n credu, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol gyfiawnhau ymyrryd gerbron y Goruchaf Lys oherwydd ei fod yn gobeithio y gellid ei berswadio i roi grym cyfreithiol i gonfensiwn Sewel. Ni wnaeth hynny, a deddfodd San Steffan o blaid y cytundeb ymadael er na chytunwyd ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol. Efallai mai profi'r system oedd hynny, oherwydd unwaith eto, er y bydd y mwyafrif yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill mae'n debyg, yn gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil hwn, mae Senedd San Steffan yn sofran a gall fwrw yn ei blaen beth bynnag.
Ffordd sicr o chwalu'r DU.
Cawn weld. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr a thu hwnt yn trafod rhinweddau neu fel arall canlyniadau'r Bil hwn mewn perthynas â datganoli, ac rwy'n gobeithio ymateb iddynt mewn manylder priodol wrth gloi'r ddadl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn synnu pe bawn yn clywed rhai o'r Aelodau'n dadlau bod y Bil hwn yn cipio pŵer yn erbyn datganoli tra bod eraill yn honni ei fod yn ymchwydd o bŵer i ddatganoli. Rwy'n credu bod y gwirionedd yn llai eithafol.
Ers blynyddoedd lawer, ac yn gynyddol, mae pŵer yng Nghymru wedi'i arfer gan yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru a'r DU gyfan i roi diwedd ar hynny. O ganlyniad, bydd pŵer yn llifo o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan a'r sefydliadau datganoledig. Mae Bil Marchnad Fewnol y DU yn dylanwadu ar hyn i raddau, yn ein cyfyngu yma rhag arfer rhai pwerau, ond yn cadarnhau ac yn hyrwyddo ein defnydd o bwerau newydd mewn meysydd eraill. Rwy'n cefnogi'n gryf yr egwyddor o gydnabyddiaeth gilyddol ac anwahaniaethu ac at ei gilydd, y ffordd y mae'r Bil yn datblygu'r rhain. Dadleuodd y Gweinidog ddoe y byddant yn cyfyngu ar ei Lywodraeth a'r Senedd hon. Rwy'n cytuno. Rwy'n ei groesawu. Mae'n ofni ras i'r gwaelod o ran safonau rheoleiddio. Edrychaf ymlaen at fwy o gystadleuaeth—defnyddwyr yn cael eu grymuso i benderfynu drostynt eu hunain yn hytrach na gwneud fel rydym ni'n dweud. I wneud hynny, mae angen iddynt wybod beth y maent yn ei brynu. Ar y mater hwn, mae'r Gweinidog yn gwneud rhai pwyntiau cymhellol. Byddwn yn annog y Ceidwadwyr i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o sicrhau bod labelu'n cael ei reoleiddio'n briodol er mwyn grymuso defnyddwyr.
Daw'r Siambr hon a Thŷ'r Cyffredin yn fwy pwerus am ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, felly hefyd Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credwn fod hynny i'w groesawu. Ers degawdau, mae'r model traddodiadol o sofraniaeth seneddol yn San Steffan wedi bod dan fygythiad yr Undeb Ewropeaidd, sydd ond yn crynhoi mwy o bwerau, a phroses datganoli sydd ond yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth. Mae Senedd San Steffan yn ymladd nôl. Dylem groesawu hynny.
Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1, 4 a 5 a gyflwynwyd yn ei enw—Neil Hamilton.
Gwelliant 4—Neil Hamilton
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.
Gwelliant 5—Neil Hamilton
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Mark Reckless, rwy'n croesawu'r rhannau o'r Bil marchnad fewnol sy'n ailwladoli pwerau o'r UE i San Steffan ac i'r Seneddau datganoledig. Fel ef, rwyf wedi bod yn ymladd ar hyd fy oes wleidyddol i weld y nod hwn yn cael ei gyflawni, byth ers i mi ddod yn ymgeisydd seneddol yn ôl ym 1973. Ond rwy'n gwrthwynebu'r rhannau o'r Bil sy'n rhoi rhagor o bwerau i'r sefydliad hwn ac i'r sefydliadau datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei araith ddoe, mae'r Bil hwn yn rhoi dwsinau o bwerau newydd i'r Senedd, i Senedd yr Alban ac i Ogledd Iwerddon hefyd. Ac fel y dywedodd Mark Reckless, disgrifir datganoli fel proses, nid digwyddiad, a gwelaf felly fod y Llywodraeth Geidwadol yn rhan o'r broses honno, sydd, fel y dywedodd Mark Reckless, yn bygwth chwalu'r Deyrnas Unedig yn y pen draw. Oherwydd nid oes fawr o amheuaeth, yn sicr mewn perthynas â'r Alban, nad yw'r broses ddatganoli wedi gwneud dim i leddfu'r awydd am annibyniaeth—mewn gwirionedd, mae wedi bwydo'r bwystfil. Ac mae'n ddigon posibl, maes o law, y bydd yr Alban yn ymwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig, a chredaf y byddai hynny'n drueni. Nid yw cenedlaetholwyr Cymru wedi bod agos mor llwyddiannus â chenedlaetholwyr yr Alban, ond serch hynny, byddai'r un posibilrwydd yn bygwth Cymru yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod Cymru'n cael cam mawr gan ddatganoli a dyna pam rwyf wedi addasu fy marn am werth y lle hwn yn ystod y pedair blynedd a hanner y bûm yma. Yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cymru wedi mynd am yn ôl o'i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Dim ond 75 y cant o gyfartaledd y DU yw'r incwm cyfartalog yng Nghymru, fel y gwyddom. Felly, pa obeithion bynnag oedd gan bobl ar y pryd y cytunwyd ar y setliad datganoli, yn sicr nid ydynt wedi'u cyflawni.
Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru mor wrthwynebus i ddatganoli pwerau o Frwsel i San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast. Ymddengys eu bod bellach yn ddig iawn ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn arfer pwerau mewn perthynas â'r materion a fydd yn cael eu hailwladoli, ond nid oeddent yn poeni o gwbl am y pwerau hynny'n cael eu harfer gan bobl na allwn prin mo'u henwi, heb sôn am eu rheoli, ym Mrwsel. Wedi'r cyfan, o dan drefn bleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig, dim ond 8 y cant o'r pleidleisiau sydd gan y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, un comisiynydd allan o 27 a 10 y cant o'r pleidleisiau yn Senedd Ewrop. Pa farn bynnag a fydd gennych am y rhifyddeg honno, mae'n siŵr o arwain at gynnydd enfawr mewn democratiaeth ac atebolrwydd mewn perthynas â maes sylweddol o gyfreithiau a wneir ac y cawn ein llywodraethu ganddynt.
Ond wrth gwrs, mae marchnad sengl y Deyrnas Unedig yn bwysicach o lawer i Gymru nag yr oedd marchnad sengl yr UE erioed. Wedi'r cyfan, mae 60 y cant o allforion Cymru yn mynd i Loegr ac mae 84 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw yn Lloegr. Pe bai unrhyw berygl o Falcaneiddio marchnad y Deyrnas Unedig, y collwr mawr fyddai Cymru ac yn sicr nid Lloegr. Dyna pam ei bod mor bwysig pasio'r egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol ac anwahaniaethu a gynhwysir yn y Bil hwn, oherwydd eu bod mewn gwirionedd yn gwarantu mynediad Cymru i farchnad y Deyrnas Unedig, a fyddai, pe bai'n cael ei wrthod, yn drychineb llwyr i economi Cymru.
Nawr, roedd agwedd Jeremy Miles tuag at hyn braidd yn chwerw ac mae wedi'i ddisgrifio fel man cychwyn i ras i'r gwaelod a fydd yn tanseilio'r safonau uchel rydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd mewn perthynas â safonau bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Ond fel Mark Reckless, nid wyf yn gweld pam y dylai'r Llywodraeth amddifadu defnyddwyr o'r hawl i ddewis. Gadewch iddynt benderfynu pa safonau y maent am eu dilyn. Wedi'r cyfan, mae llawer o bobl yn credu mai bwyd organig sydd orau i ni, ac mae ganddynt hawl i'w barn, ond ni ddylid cael penderfyniad llywodraethol ynglŷn ag a ddylid gorfodi hynny ar bawb arall. Ac felly, rwy'n credu mai mater i ni fel unigolion yw penderfynu drosom ein hunain beth sydd orau yn ein barn ni a pheidio â chael y Llywodraeth i wneud hynny ar ein rhan. Ond wrth gwrs, greddf gyntaf Llywodraeth Cymru yw rheoleiddio, cyfyngu ac ymyrryd.
Mae'r darpariaethau cymorth gwladwriaethol hefyd wedi bod yn ddadleuol yn y Bil hwn, ond wrth gwrs, mae Lloegr yn rhoi cymhorthdal enfawr i Gymru. Yn wir, tri rhanbarth Llundain, de-ddwyrain a dwyrain Lloegr sy'n sybsideiddio pob rhanbarth a gwlad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £18 biliwn y flwyddyn, daw £14.7 biliwn ohono o San Steffan, neu Whitehall, oherwydd mai dim ond ychydig dros £2 biliwn y flwyddyn a godwn mewn refeniw treth incwm yng Nghymru ac ychydig dros £1 biliwn ar y trethi datganoledig eraill. Mae hynny'n £4,500 y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Nid yw'n syndod, felly, fod Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad mai'r sawl sy'n talu ddylai gael penderfynu. A chredaf y byddai'n niweidiol iawn i ddyfodol yr undeb pe bai yna unrhyw system arall yn hytrach na'r hyn a gynigir o ganlyniad i'r Bil hwn. Pan fo cymaint o gymhorthdal trethdalwyr yn Lloegr yn llifo i Gymru, mae'n annirnadwy y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i gyflwyno system lle gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio eu harian i dandorri cwmnïau o Loegr a gweithredu ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel cystadleuaeth annheg. Pan ddigwyddodd hyn yn 2014, rwy'n cofio—
Mae eich amser ar ben, Neil Hamilton. Dewch â'ch cyfraniad i ben.
Byddai hynny'n sicr yn peryglu'r undeb. Ers 27 mlynedd, rwyf wedi ymgyrchu, mae UKIP wedi ymgyrchu, dros ailwladoli pwerau o'r UE i'r DU, felly rydym yn croesawu'r rhan honno o'r Bil, ond y bygythiad parhaol i undod a chyfanrwydd y DU yw datganoli ei hun. Mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi dangos eu dirmyg tuag at bobl Cymru—
Rwyf wedi rhoi 30 eiliad ychwanegol i chi. Bydd rhaid i mi symud ymlaen yn awr. Diolch.
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y gwelliant yn enw Rebecca Evans.
Yn ffurfiol.
Rwy'n galw nawr ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 3 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau Plaid Cymru. Ni all Plaid Cymru groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU. Yn wir, rydym yn ei weld fel ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru. Y Bil hwn yw'r ymosodiad unigol mwyaf ar ddatganoli ers ei greu. Nid cipio pŵer yn unig a wneir gan y Bil marchnad fewnol ond dinistrio dau ddegawd o ddatganoli. Bydd dau refferendwm yn cael eu hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth Cymru yng ngoleuni'r Bil hwn sy'n cael ei gynnig yn San Steffan.
Nawr, mater o ymddiriedaeth yw hyn, Lywydd. Amlinellodd y Papur Gwyn ar gyfer y Bil hwn, a ryddhawyd yn gynharach yr haf hwn, ddwy reol gynllunio i gefnogi'r amcanion cyffredinol hyn, sef: (1) meithrin cydweithredu a deialog, a (2) hyrwyddo ymddiriedaeth a sicrhau didwylledd. Ar y ddau fater, mae'r Bil yn torri ei reolau ei hun. Ar gyfer cydweithredu a deialog, gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, dywedodd Jeremy Miles nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu llawer â Llywodraeth Cymru ar hyn ers dechrau'r flwyddyn, ac nid oedd yn gwybod beth fyddai'r Bil yn ei gynnwys yn fanwl ychwaith. Mae'n amlwg nad yw hyn yn arwydd o gydweithio a deialog adeiladol. Ac o ran didwylledd, agorodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ond er hynny, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhyddhau crynodeb hyd yn oed o'r cyfryw ymgynghoriad ar unrhyw adeg ers cau'r ymgynghoriad a chyhoeddi'r Bil. Pa reswm arall a fyddai'n esbonio hyn ar wahân i'r ffaith bod mwyafrif helaeth o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn mynegi barn negyddol?
Sut y gallwn ymddiried yn San Steffan i edrych ar ôl buddiannau Cymru pan fo'n amlwg o'r Bil hwn, a'u gweithredoedd, eu bod yn benderfynol o ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli sefydledig ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig? Mae'r ffordd fyrbwyll y mae San Steffan yn ymdrin â'r pandemig eisoes wedi dangos sut y gallwn ni yng Nghymru wneud yn well drosom ein hunain. Mae angen inni gryfhau, nid gwanhau ein pwerau ein hunain. Y cwestiwn y mae'n rhaid i'r Aelodau a phobl ledled Cymru ei ofyn a'i ateb heddiw yw: pwy ydych chi'n ymddiried fwyaf ynddynt, Cymru neu San Steffan?
O ran cydnabyddiaeth gilyddol, mae cwmpas cydnabyddiaeth gilyddol yn bellgyrhaeddol, gan gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu'n effeithiol, ac mae hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU newid y rheolau'n unochrog. Mae hyn yn golygu y bydd yn anodd iawn i'r Llywodraethau datganoledig wyro oddi wrth safonau Lloegr, ac ni fyddant yn gallu gorfodi'r safonau hynny yn erbyn mewnforion o Loegr. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael yr hyblygrwydd i gyflwyno gwahanol reolau a rheoliadau y credwn y byddent yn diogelu dinasyddion Cymru ac o fudd iddynt. Bydd Cymru yn awr yn ddi-rym i atal cynnyrch o ansawdd isel fel cyw iâr clorinedig rhag llifo i'n harchfarchnadoedd, gan dandorri ffermwyr Cymru. Gallai orfodi Cymru i droi llygad dall at greulondeb i anifeiliaid a gallai arwain at ddychwelyd at wyau batri a mathau eraill o fwyd a gynhyrchir drwy ddefnyddio arferion gwahanol.
Nid oes ymddiriedaeth na pharch, ac ymhell o adfer rheolaeth, byddai'r Bil hwn yn ein rhoi mewn lle llawer gwaeth na'r sefyllfa rydym ynddi fel aelodau o'r UE. Rydym yn colli rheolaeth—rydym yn colli'r rheolaeth gyfyngedig sydd gennym yn awr.
Mae sgil-effeithiau rhyngwladol y Bil hwn hefyd yn glir i'w gweld. Ni ddylem mewn unrhyw amgylchiadau groesawu Bil sydd, yn ôl cyfaddefiad y Llywodraeth ei hun, yn torri cyfraith ryngwladol.
Mae monitro'r Bil marchnad fewnol hefyd yn bwysig. Mae problemau difrifol ynghlwm wrth ddarpariaeth reoleiddiol arfaethedig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sy'n goruchwylio marchnad fewnol y DU. Ni ellir ymddiried mewn corff anetholedig a sefydlwyd gan San Steffan i fod yn ddiduedd, gan agor y drws i gorfforaethau enfawr herio cyfreithiau Cymru yn y llys, gan sathru ar ein democratiaeth yn y broses. Lywydd, mae'n debyg iawn i gêm rhwng Cymru a Lloegr, lle caniateir i Loegr nid yn unig ddewis y canolwr, ond wedyn i benderfynu pa reolau y dylai'r canolwr eu dilyn a beth ddylai'r cosbau fod.
Y ffordd ymlaen, wrth i mi gloi—gallaf weld yr amser—mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn targedu pwerau Cymru ers Brexit, wedi'i gwneud yn fwy beiddgar gan bleidlais Brexit mewn gwirionedd. Annibyniaeth yw'r unig ateb cynaliadwy i rwystro ymosodiadau San Steffan ar genedligrwydd a sefydliadau Cymru. Bellach, rhaid i Lywodraeth Cymru o leiaf archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu ein democratiaeth. Mae arnom angen mwy na geiriau. Mae arnom angen Llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth yng Nghymru a fydd yn ein grymuso i wrthsefyll ymosodiadau San Steffan ar ein democratiaeth.
Mae gan Dai Lloyd ddylanwad rhyfedd ar y cloc, yn amlwg. [Chwerthin.]
Galwaf ar Gareth Bennett nawr i gynnig gwelliannau 6 a 7, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.
Gwelliant 6—Gareth Bennett
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig fy ngwelliannau heddiw ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru. Gwelliannau 6 a 7 yw'r rhain, er eglurder i'r nifer fawr o Aelodau, yn ddiau, a allai fod yn awyddus i bleidleisio drostynt ar ddiwedd y ddadl hon.
Nawr, rwy'n cefnogi Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig at ei gilydd gan ei fod yn gam arall tuag at gyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn 2016, sef i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym wedi cael llawer o ddadleuon am Brexit dros y pedair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r ddadl hon rydym yn ei chael heddiw yn cyffwrdd ar faterion pwysig eraill, megis pa fath o DU a ddaw i'r amlwg ar ôl Brexit. Os gallaf fentro crynhoi dadleuon y prif bleidiau fel y gwelaf fi hwy, mae'n ymddangos bod gan Lafur a Phlaid Cymru obsesiwn ynghylch pwerau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Ymddengys bod ganddynt obsesiwn ag unrhyw ymgais ymddangosiadol gan Lywodraeth y DU i danseilio'r setliad datganoli—obsesiwn, byddwn yn dweud, hyd at baranoia bron—tra bo'n ymddangos bod gan y Ceidwadwyr fwy o ddiddordeb mewn sicrhau masnach ddilyffethair, ddirwystr i fusnesau Cymru ledled y DU ar ôl Brexit.
Nawr, tybed pa rai o'r safbwyntiau hynny y byddai'r rhan fwyaf o bobl gyffredin yng Nghymru yn fwy tebygol o gydymdeimlo â hwy. Rydym wedi clywed areithiau gofidus am y Bil hwn gan y chwith, ac wrth gwrs, mae ganddynt hawl i'w barn. Ond a gawn ni chwistrelliad o realiti yma? Nid oes gan y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru ddiddordeb ym manylion cyfansoddiadol y setliad datganoli, y cyfan y maent hwy ei eisiau yw ansawdd bywyd gwell. Nid ydynt yn poeni os caiff anghydfodau eu setlo gan un o swyddogion y farchnad fewnol neu ryw gorff arall. Nid ydynt yn poeni os yw cymal 46 rhyw gytundeb neu'i gilydd mewn perygl o gael ei dorri, oherwydd, a bod yn onest, nid ydynt hyd yn oed yn gwybod beth yw cymal 46. Ar wahân i David Melding, pwy sydd? Ond bydd pobl yng Nghymru'n malio os collir swyddi yng Nghymru oherwydd bod tarfu ar fasnach am fod Llywodraeth Cymru, er enghraifft, am roi feto ar gytuniad masnach rhyngwladol y mae Prif Weinidog y DU am ei lofnodi.
Bydd pobl yng Nghymru'n malio os bydd cwmnïau o Gymru'n colli busnes am na allant fasnachu'n ddirwystr dros y ffin â chwmnïau o Loegr. A gaf fi ategu'r pwynt a wnaeth Neil Hamilton—[Anghlywadwy.]. Dyma'r realiti economaidd? Os yw Jenny Rathbone, fel y clywsom ddoe, am gael rheoliadau llymach yng Nghymru ar blastigion na'r hyn sydd ganddynt yn Lloegr, mater iddi hi yw hynny, ond a yw'n fodlon aberthu busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru ac ansawdd bywyd pobl yng Nghymru er mwyn yr egwyddor honno? Yn amlwg, mae plastig yn broblem, ond nid problem yng Nghymru yn unig yw hi. Pa mor wahanol y mae hi'n credu y bydd y rheoliadau yn Lloegr beth bynnag? Mae'n debyg y byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol nad oes ganddynt ffetish cyfansoddiadol ynglŷn â'r pethau hyn yn cytuno mai'r ffordd fwyaf synhwyrol ymlaen ar ôl Brexit fyddai un set gyffredin o reoliadau ledled y DU, nid pedair set wahanol. Felly, neges i Lafur Cymru: rhowch y gorau i fod yn griw o anoraciau gwleidyddol a deffro i realiti'r hyn a fydd yn effeithio ar bobl normal.
Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi'u cythruddo hefyd y gall Llywodraeth y DU ymyrryd mewn meysydd fel iechyd ac addysg. Mae hyn braidd yn chwerthinllyd, gan fod gennym wasanaeth iechyd sydd ar chwâl a system addysg sy'n disgyn i lawr y gynghrair fyd-eang. Prin fod hon yn sylfaen gadarn ar gyfer gweiddi am fwy o bwerau i'r lle hwn. Y gwir amdani yw bod mwy a mwy o bobl yn gweld bod datganoli'n gwneud cam â Chymru. Mae mwy a mwy o bobl am weld diwedd ar y trychineb cyfansoddiadol go iawn, sef datganoli ei hun. Mae mwy a mwy o bobl yn mynegi eu hawydd i ddiddymu Senedd Cymru. Mae fy mhlaid am wneud hynny hefyd, er ein bod, wrth gwrs, am gael cydsyniad democrataidd pobl Cymru i wneud hynny. Yn fyr, rydym am gael refferendwm i weld a yw pobl Cymru yn dal i fod eisiau datganoli mewn byd ôl-Brexit, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliannau heddiw. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi gymeradwyo Plaid Brexit am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw yn wyneb y gwadu parhaus ein bod yn gadael yr UE annwyl y mae pobl ar feinciau'r Llywodraeth ac ym Mhlaid Cymru yn teimlo mor angerddol yn ei gylch? Mae Llafur, Plaid Cymru ac eraill yn y wlad hon wedi gwneud popeth yn eu gallu i'n hatal rhag cyflawni mandad democrataidd pobl Cymru. Yn gyntaf, fe wnaethant geisio ein hatal rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yna, fe wnaethant geisio gohirio'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd drwy ymestyn y cyfnod pontio, ac yn awr rydych yn ceisio tanseilio cynlluniau a fydd yn sicrhau bod gan fusnesau Cymru fynediad dilyffethair i'n marchnad fwyaf—gweddill y Deyrnas Unedig. Mae 75 y cant o fasnach Cymru gyda gweddill y DU. Bydd Bil Marchnad Fewnol y DU yn sicrhau, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, ar 31 Rhagfyr 2020, y bydd busnesau yng Nghymru yn parhau i allu elwa o fasnach ddi-dor â rhannau eraill o'r DU. Ac wrth i ni ddechrau'r adferiad economaidd araf o'r coronafeirws, mae diogelu swyddi ac osgoi costau ychwanegol i fusnesau neu ddefnyddwyr yn hanfodol bwysig, a dyna pam ein bod yn cefnogi'r Bil hwn.
Mae'r Bil yn ailddatgan bod y Deyrnas Unedig wedi'i gyfansoddi o bedwar partner, ac o dan y cynlluniau hyn, bydd gan gwmnïau gyfle cyfartal i fasnachu, ni waeth ble yn y Deyrnas Unedig y maent wedi'u lleoli. Mae'r Bil hefyd, wrth gwrs, yn cynnal y safonau uchel rydym yn eu mwynhau ledled y DU mewn meysydd fel hylendid bwyd, safonau lles anifeiliaid a rheoliadau eraill, gan sicrhau cydweithrediad â Llywodraethau datganoledig. Ac rwy'n falch fod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog ar gyfer cyfnod pontio Brexit wedi cydnabod ddoe fod peth gwaith da wedi'i wneud ar sail draws-DU ar fframweithiau cyffredin.
Mae'r Bil hefyd, wrth gwrs, yn cyflawni addewid Boris Johnson i bobl Gogledd Iwerddon y byddwn yn gadael yr UE fel un Deyrnas Unedig ac na fydd ffin dollau ym môr Iwerddon, rhywbeth y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i gefnogi yn erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon. Mae'r Bil hefyd yn gwarantu y datganolir rhagor o bwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon pan ddaw'r cyfnod pontio i ben yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd o leiaf 65 o bwerau polisi newydd a oedd gynt yn bodoli ar lefel yr UE yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Senedd hon yng Nghymru. Ac yn allweddol, ni fydd yr un o bwerau presennol Senedd Cymru yn cael eu dileu—dim un. Mae'n gwneud rhethreg yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn fwy rhyfeddol byth, gyda'r holl sôn am ymosodiad ar ddatganoli a dwyn pwerau a chipio pŵer, oherwydd mae'n gwbl glir: ni chaiff yr un o bwerau'r Senedd hon eu cymryd oddi arni o ganlyniad i'r Bil hwn.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud nad oes angen y Bil, ac rydym yn derbyn ar y meinciau hyn mai rhyw fath o 'backstop' ydyw, ond mae'n rhoi'r hyn sydd ei angen yn anad dim ar fusnesau yng Nghymru, sef sicrwydd—sicrwydd a fydd yn eu galluogi i barhau i fasnachu yn y dyfodol a chadw'r swyddi rydym angen iddynt eu diogelu yn yr economi, yn enwedig ar yr adeg anodd hon. Ac mae'n gwarantu mynediad i farchnad gyfan y DU, gan osgoi'r risg y gallai gwleidyddion fethu sicrhau'r cytundebau fframwaith a gyda Llywodraeth ymwahanol gynyddol aflonydd yn yr Alban, a chredaf ei fod yn ormod o risg i swyddi yng Nghymru. Ar hyn o bryd, gwneir llawer o benderfyniadau buddsoddi y DU gan gyrff anetholedig yr UE ac yn gwbl briodol, bydd y Bil hwn yn dod â hynny i ben pan ddaw'r cyfnod pontio i ben. Mater i wleidyddion a etholwyd yn y DU gan bobl y DU wedyn wrth gwrs fydd defnyddio pwerau gwario i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau, gan gynnwys unrhyw gynlluniau a geir yn uniongyrchol yn lle cynlluniau'r UE, gan gynnwys cyfleoedd cyfnewid.
Nawr, ym maes datblygu economaidd a seilwaith, bydd y Bil hwn yn galluogi mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, oherwydd bydd y pwerau y bydd Llywodraeth y DU yn eu hetifeddu gan yr UE yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru. Mae llawer o wledydd sydd â llywodraethau datganoledig yn rhannu pwerau, gan gynnwys yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau, ac mae hwn, wrth gwrs, yn gyfle dwbl i gael llawer mwy o fuddsoddiad i Gymru, ac mae gan y ddwy Lywodraeth, wrth gwrs, gyfrifoldeb i weithredu i sicrhau twf economaidd, yn enwedig ar adeg mor anwadal. Dyna pam y caf fy synnu'n llwyr, a dweud y gwir, fod gennym Lywodraeth Cymru sy'n cwyno bod Llywodraeth y DU eisiau pwerau er mwyn gallu buddsoddi yng Nghymru. Pam ar y ddaear y byddech chi'n cwyno am hynny? Rydych wedi cael sicrwydd y bydd y buddsoddiadau ychwanegol hyn yn fwy na'r grant bloc Barnett a gawn ar hyn o bryd, felly nid oes gennyf syniad pam y byddech am wrthwynebu buddsoddiad yn ein seilwaith yn y wlad hon.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl glir y bydd lefel y cyllid i Gymru, o ganlyniad i gynlluniau'r UE a ddaw i ben, yn aros yr un fath ac na fydd Cymru'n colli ceiniog. A dyna y pleidleisiodd pobl Cymru drosto. Dyna pam y collodd eich plaid gynifer o seddi yn yr etholiadau y llynedd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Felly, er mwyn sicrhau marchnad fewnol gref ac i ddiogelu buddiannau busnesau ar hyd a lled y wlad hon ac ar hyd a lled Cymru, rwy'n annog pobl i gefnogi'r cynnig.
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfarchiad yno, yn rhoi croeso i mi siarad. Wel, clywsom gan Neil Hamilton y dylem barchu ein meistri ariannol, clywsom gan Gareth Bennett 'ar gyfer Gymru, gweler Lloegr', ond hoffwn fynd â'r Aelodau yn ôl i 1998, pan gafodd cytundeb Gwener y Groglith ei llunio a'i lofnodi. Gwnaethpwyd hynny o ganlyniad i lawer iawn o waith gan John Major, Prif Weinidog Ceidwadol, Tony Blair, Prif Weinidog Llafur, Bertie Ahern yn Iwerddon—llawer iawn o wleidyddion a ddaeth â'r gwrthdaro i ben, gwrthdaro a oedd wedi bod yn bla ar Ogledd Iwerddon ers 1969 ac y gellid olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1689 a thu hwnt. Gwrthdaro y credai llawer o bobl na ellid ei ddatrys oherwydd diffyg hunaniaeth gyffredin sy'n dal i fodoli yng Ngogledd Iwerddon, ac eto, ar draws y pleidiau, gwelsom wleidyddion yn dod at ei gilydd ac yn trafod ffordd o roi diwedd ar y gwrthdaro mewn ffordd aeddfed. Ac edrychwch arnom yn awr. Edrychwch arnom yn awr—testun sbort. Gwlad sydd nid yn unig yn falch o dorri cyfraith ryngwladol, ond sy'n cyfaddef hynny. Mae gwladwriaethau wedi bod yn torri cyfraith ryngwladol ers blynyddoedd—gwnaeth yr Unol Daleithiau hynny, gwnaeth yr Undeb Sofietaidd hynny yn y rhyfel oer, mae gwladwriaethau'n dal i wneud hynny yn awr, ond nid wyf yn credu bod unrhyw un mewn gwirionedd yn ddigon twp i gyfaddef hynny.
A dyma ni fel gwlad. Ers blynyddoedd, rydym wedi dweud wrth eraill, 'Edrychwch arnom, rydym yn batrwm o ryddid a democratiaeth gan ein bod yn wlad sy'n seiliedig ar reolau, rydym yn parchu rheolau rhyngwladol', a dyma ni, yn torri'r gyfraith. Sut y gallwn bregethu i eraill yn y dyfodol os ydym yn torri'r gyfraith yn ôl ein haddefiad ein hunain? Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod nid yn unig yn y Senedd gan Brandon Lewis fel Gweinidog, ond rhywbeth y mae wedi'i ailadrodd ac sydd heddiw wedi achosi ymddiswyddiad yr Arglwydd Keen, Adfocad Cyffredinol yr Alban, oherwydd mae'n parchu ei enw da proffesiynol. Dyna pa mor wael yw sefyllfa rydym ynddi.
Gadewch inni atgoffa ein hunain: cefnogodd Prif Weinidog y DU y cytundeb ymadael, cafodd ei gymeradwyo gan y Senedd ar 23 Ionawr 2020—Boris Johnson oedd y Prif Weinidog. Dywedodd ei fod yn gytundeb parod i'w bobi, cytundeb parod ar gyfer y ffwrn. Wel, mae'r Alasga pob wedi troi'n Eton mess bellach, onid yw, gan nad oes cytundeb yn bodoli nawr. Mae wedi troi ei gefn ar gytundeb y gwnaeth ef ei hun ei gefnogi, wyddoch chi pam? Ni wnaeth ei ddarllen. Ni wnaeth ei ddarllen. Dywedais ar y pryd y byddai hyn yn rhoi ffin i lawr canol Môr Iwerddon. Dywedodd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hynny ar y pryd—grŵp nad ydynt yn gyfeillion mynwesol i mi, rhaid dweud. Roedd y Prif Weinidog yn anghytuno. Ac yn awr, naw mis yn ddiweddarach, o diar, mae'r cyfan yn dod yn ôl ar ei ben. Ni ddarllenodd y peth ar y pryd, a dyma'r sefyllfa rydym ynddi.
Fe'i clodforodd. Fe'i hyrwyddodd. Fe'i cefnogodd. Dywedodd fod hwn yn gytundeb a fyddai'n gytundeb ymadael a fyddai'n tynnu'r DU allan o'r UE, ac yn awr mae'n troi ei gefn arno. Pa mor dwp y mae hynny'n gwneud inni edrych fel gwlad, a sut y mae hynny'n adlewyrchu ar Brif Weinidog y DU? Pam y byddai unrhyw wlad yn ymddiried yn y DU mewn negodiadau masnach? Pam? Oherwydd yma mae'r DU yn cytuno ar rywbeth a wedyn yn dad-gytuno. Pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn ymddiried ynom? Dyna'r broblem. Ni fydd unrhyw wlad sydd ag enw o'r fath—. A gwelwn, wrth gwrs, fod Dominic Raab wedi rhuthro draw i America, oherwydd gall weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar wleidyddiaeth America a beth fydd hynny'n ei olygu i gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau, ac yma mae gennym Ysgrifennydd Tramor sydd yn y sefyllfa honno.
A gadewch i mi fod yn hollol glir: rwy'n cytuno bod yn rhaid cael rheolau ym marchnad sengl y DU. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni allwn gael sefyllfa lle na all nwyddau o Gymru fynd i Loegr—mae'n amlwg na allwn, ac am resymau a wnaed yn dda gan Darren Millar ac eraill. Mae'n amlwg na allwn gael sefyllfa lle mae'n anos buddsoddi mewn un rhan o'r DU oherwydd rhwystrau. Ni allwn gael sefyllfa lle nad oes rheolau o gwbl—rhywbeth y mae'r DUP yn ei argymell mewn gwirionedd—oherwydd mewn marchnad fewnol heb reolau y mwyaf sy'n ennill, a'r mwyaf yw Lloegr. Ni allwn ennill y frwydr honno, a dylem groesawu marchnad fewnol sy'n seiliedig ar reolau. Rwy'n croesawu hynny; rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn. Fy anhawster i yw hyn: mae gwrthdaro buddiannau uniongyrchol yn Llywodraeth y DU—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Nid yw mewn sefyllfa lle mae'n Llywodraeth ffederal drosfwaol sy'n cynrychioli'r wlad gyfan yn unig—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Sut y gallwn fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU sy'n Llywodraeth Loegr yn ogystal â Llywodraeth y DU fod yn deg â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon? Dyna'r broblem sydd gennyf. Mae'n cyfateb i Lywodraeth yr Almaen yn dweud wrth weddill yr UE beth yn union ddylai'r telerau masnach o fewn yr UE fod.
Byddai wedi bod yn llawer gwell pe gellid bod wedi cytuno ar hyn, a chredaf y gellid bod wedi cytuno arno—gellid bod wedi cytuno ar hyn. Gallem fod wedi cael pedair Llywodraeth y DU yn cytuno ar set gyffredin o reolau. Byddai er budd pawb, hyd yn oed Plaid Genedlaethol yr Alban, pe bai hynny'n ddigwydd, oherwydd nid yw i'r Alban golli mynediad i farchnad sengl fewnol y DU yn mynd i fod o fudd i'r SNP. Byddai wedi bod cymaint yn well pe bai hyn wedi'i wneud ar sail cytundeb, consensws, yn hytrach na gorfodaeth. Ac rwy'n dweud wrth y Ceidwadwyr gyferbyn: rwy'n deall eu hangerdd dros yr undeb. Rwy'n deall eu hangen i amddiffyn yr hyn y mae eu Llywodraeth yn ei wneud. Rwy'n deall hynny. Ond does bosibl na allwch weld bod ymddangos fel pe bai'n gosod y drefn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, fod hynny'n gwanhau'r undeb. Nid yw'n cryfhau'r undeb—mae'n ei wanhau.
Mae dyddiau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sofraniaeth seneddol wedi mynd yn fy marn i. Mae arnom angen gwell cyfansoddiad, gwell DU, ac yn y ffordd honno, gallwn ffynnu. Nid wyf yn credu mai annibyniaeth yw'r unig ateb, ond rwy'n credu bod hon yn bartneriaeth o wledydd cyfartal; mae Darren Millar yn iawn i ddweud hynny. Gadewch i ni ei wneud felly, gadewch i ni gael cyfansoddiad sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a gadewch i ni symud oddi wrth y sefyllfa hon lle mae'n fater syml o San Steffan yn gosod y drefn a bod rhaid i'r gweddill ohonom dderbyn.
Wel, déjà vu, dyma ni eto. Mae'n teimlo fel 2016, 2017, 2018 a 2019—hysteria, darogan gwae a gormodiaith. Rwyf wedi darllen rhai o'r sylwadau a fu yn y penawdau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Jeremy Miles:
Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar bobl Cymru.
Wel, mae'n ddrwg gennyf, Jeremy, ond pleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd ac o bosibl eu bod wedi gweiddi'n uwch fis Rhagfyr diwethaf pan dorrwyd y wal goch fel y'i gelwir mewn modd rhyfeddol, hyd yn oed yng Nghymru, ar yr addewid o sicrhau Brexit.
Mae gennym Blaid Cymru hefyd: dyma
'ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli.'
A'r un nesaf:
'Bydd dau refferendwm yn cael eu hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio.'
Dyna fy ffefryn arbennig i, ac mae'n rhaid i mi anghytuno. Os bydd unrhyw beth yn dinistrio datganoli, yr alwad gan Blaid a Llafur am fwy ohono fydd yn gwneud hynny am ei fod, yn fy marn i, wedi bod yn gyfle anferth a gollwyd ar sawl lefel. Ac rydych chi'n sôn am refferenda, wel, am un dda! Pan fydd democratiaeth yn rhoi'r canlyniad iawn i chi, mae'n iawn, ond pan nad yw'n gwneud hynny, fe fyddwch yn cicio ac yn sgrechian yr holl ffordd i'r etholiad cyffredinol yn 2019, ac yn dal i anwybyddu'r neges glir a roddwyd i chi gan yr etholwyr. Mae'r dicter gwleidyddol ffug yn rhagweladwy, ac mae'n siomedig iawn na welsom y geiriau 'ymyl clogwyn' neu 'ergyd drom' yn y cymysgedd hefyd. Ond yn awr, hyn. Rydych yn gweiddi, fel arfer, y tu mewn i'ch siambr atsain eich hun. Nid yw aelwydydd yng Nghymru yn trafod hyn—maent yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, maent yn ceisio cael apwyntiadau meddygon teulu, ac maent yn golchi eu dwylo. Do, cefais un neu ddau o negeseuon e-bost yn ei gylch, ond mae'n amlwg fod etholwyr gogledd Cymru yn poeni mwy am erlid bodaod tinwyn na'r hyn sydd yn y Bil hwn.
Rwy'n derbyn nad yw amseriad y Bil wedi bod yn wych o ran y cyfnodau ymgynghori. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnodau digynsail ar fwy nag un lefel. Ac rydym i gyd yn gwybod sut y mae'r broses yn gweithio, oherwydd dyma yw ein proses ni hefyd: gellir gwneud gwelliannau synhwyrol, a gall y Llywodraeth eu cyflawni os oes ganddynt fwyafrif. Yma, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei mwyafrif tenau i basio unrhyw gyfraith y mae ei heisiau, boed ei bod wedi ymddangos mewn maniffesto ai peidio. Ac fel y gwyddom i gyd, rheoliadau atodol sy'n rhoi manylion i ddeddfwriaeth sylfaenol. Cafodd Llywodraeth Geidwadol y DU ei gwneud yn blaid fwyafrifol, byddwn yn dweud, o ganlyniad uniongyrchol i lawer o'r giamocs yma yn y Siambr hon. Nid wyf yn mynd i ailadrodd y dadleuon treuliedig am Brexit, safonau, sofraniaeth, ond rwy'n ystyried ymadroddion fel 'cipio pŵer' a 'ras i'r gwaelod' yn ddiangen ac yn blentynnaidd iawn. Rhoddodd prif negodwr Brexit y Prif Weinidog yn Ewrop, David Frost, reswm da dros y Bil hwn mewn edefyn manwl ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Mae'n ymddangos bod yr UE yn peryglu cyflenwadau bwyd i Ogledd Iwerddon. Rwy'n siŵr y byddai'r rheswm hwnnw'n unig yn ddigon i argyhoeddi unrhyw unoliaethwr sy'n credu yng nghyfanrwydd yr undeb i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Roedd Plaid Brexit yn llafar iawn y llynedd ar ba mor wael oedd y cytundeb ymadael. Nid oedd neb eisiau gwybod amdano bryd hynny, ac os yw diffyg ffydd yr UE yn golygu bod rhaid i ni droi cefn er budd clir y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon, rwy'n gyfforddus iawn â hynny. Mae'r Bil hwn yn gam arall ar ein taith—ein taith hir ac anodd—tuag at sofraniaeth genedlaethol, ac am y rheswm hwnnw, hoffwn gofnodi y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heb ei ddiwygio heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Ddoe, gofynnodd Darren Millar pam ein bod yn dioddef Senedd Ewrop yn dal cymaint o bŵer dros ein tynged, tra'n bod ni'n gwrthwynebu i Lywodraeth y DU ysgwyddo'r cyfrifoldebau polisi a'r pwerau i'w harfer ar ein rhan. Y rheswm y gwnawn hynny yw bod y pwerau a ddelir gan Senedd Ewrop, ac yn eu tro, gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi'u negodi a'u cytuno. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir yn achos y Bil marchnad fewnol, sy'n ymgais i gipio grym gan Senedd Lloegr, ac mae'n peri gofid mawr eu bod wedi anghofio holl gysyniad sybsidiaredd yn llwyr, rhywbeth a oedd yn un o egwyddorion craidd yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gadael yn awr, rydym yn derbyn hynny'n llwyr, ond rhaid inni ddeall bod y Bil hwn, yn syml iawn, yn mynd i'n hatal rhag gwneud ein dyletswydd i ddiogelu a gwella bywydau dinasyddion Cymru, sydd wedi cydsynio i adael inni wneud hynny ar eu rhan mewn refferendwm ac etholiadau seneddol dilynol. Ac os nad ydynt yn hoffi'r hyn a wnawn, gallant bleidleisio dros y pleidiau ymylol fel UKIP, sydd am wrthdroi llanw hanes a rhoi'r allweddi cyfrifoldeb dros dynged Cymru yn ôl i Senedd y DU.
Felly, rwy'n pryderu bod y meysydd lle byddem yn cael ein hatal rhag gweithredu er budd ein pobl, ein tir a'n hamgylchedd, yn cynnwys ein hanallu i wahardd bwyd difwynedig, boed wedi'i addasu'n enetig, wedi'i dyfu â chig eidion wedi'i fwydo â hormonau, cyw iâr clorinedig, neu wedi'i fagu drwy reibio'r Amazon, sy'n ofynnol er mwyn eu bwydo â chyflenwadau cyson o soia, yn hytrach na'r ffordd rydym ni'n cynhyrchu ein cig ar borfa. Felly, os nad oes gennym gytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd, byddwn yn gweithredu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, a golyga hynny na fyddwn yn gallu atal y llif o'r mathau hyn o safonau amgylcheddol gwael o amaethyddiaeth, safonau lles anifeiliaid gwael, a gynllunnir yn unig i sicrhau'r elw mwyaf posibl. Nid David Attenborough yn unig sy'n tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn drychineb o ran yr amgylchedd, hinsawdd a rhywogaethau. Mae llawer o bobl yn dweud nad yw hon yn ffordd o barhau i gamddefnyddio adnoddau'r blaned hon.
Felly, mae'n debyg y byddem, er enghraifft, yn cael ein hatal rhag cryfhau Rhan L o'n rheoliadau tai fel mai dim ond cartrefi gweddus o ansawdd i safon ddi-garbon y gellid eu hadeiladu, ac y gallem atal unrhyw beth arall rhag cael ei adeiladu. Ac yn olaf, byddai'n gorfodi ein cwmnïau dŵr yng Nghymru i gadw at safonau amgylcheddol ac economaidd llawer is cwmnïau dŵr Lloegr, a fu'n gyfrifol y llynedd am lygru, rhyddhau carthion crai i afonydd Lloegr 200,000 o weithiau oherwydd rheoleiddio gwael gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Nid oes arnom angen ras i'r gwaelod. Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud busnesau'n amhosibl eu gweithredu. Mae angen inni sicrhau, gyda'n gilydd, y gallwn gyflwyno gwelliannau cyson i fynd i'r afael â llygredd ein hafonydd a'n moroedd. A dylem allu annog Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i ddilyn ein harweiniad, fel y maent wedi'i wneud ar bethau fel bagiau plastig. Ni phleidleisiodd pobl dros weld eu plant yn nofio mewn carthion, ac nid ydynt eisiau bwyta pysgod wedi'u llygru â phlastig. Rwy'n cytuno â Darren Millar fod y rhan fwyaf o fasnach Cymru gyda gweddill y DU. Ond mae hynny'n lwcus, oherwydd mae'n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd unrhyw gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd rhaid inni ddibynnu ar ein hadnoddau ein hunain o fewn y Deyrnas Unedig i gynnal safonau byw a lles ein cymdeithas.
A dweud y gwir, nid wyf yn credu na ddarllenodd Boris Johnson yr hyn roedd yn ei lofnodi. Neu os gwnaeth, fe ragdybiodd y byddai'r cytundeb parod i'w bobi fel y'i galwai yr oedd yn ei addo i bawb—y byddai'n gallu sleifio'i ffordd allan ohono wedyn ac y byddai'n meddwl am ryw ateb arall ar y ffordd, a dywedodd rhywun, 'Peidiwch â phoeni, llofnodwch y peth, deliwch ag e.' Nid dyna'r ffordd o ymdrin â—i gael pobl i ymddiried ynoch. Ac nid wyf yn ymddiried ynddo i reoli'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer Cymru, ac nid wyf yn cael fy nenu gan y briwsion sydd ar y bwrdd y mae Darren Millar yn dweud eu bod yn eu cynnig.
Lywydd, pan fyddaf yn gwrando ar y rhai sy'n cyflwyno'r prif gynnig, rwy'n meddwl tybed faint ohonynt sydd wedi darllen y Bil a'r dogfennau ategol mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynd drwyddo, a dyma fy marn i ynglŷn â'r pwyntiau allweddol, y prif bethau sydd o'i le arno.
Y peth cyntaf yw ei fod yn deddfu i gyfreithloni anghyfreithlondeb. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n cyfyngu'n benodol ar y farnwriaeth ac yn ei thanseilio. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n rhoi pwerau i Weinidogion heb unrhyw graffu priodol, naill ai gan y Senedd na Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n tanseilio datganoli. Nid yw'n dileu pwerau penodol, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw rhoi'r pwerau i ymgymryd â swyddogaethau datganoledig i Weinidogion y Llywodraeth heb unrhyw graffu o bwys. Yn fy marn i, mae hynny'n tanseilio datganoli. Mae'n agor y drws ar safonau bwyd is—soniwyd am gyw iâr clorinedig, ond gallai fod nifer fawr o enghreifftiau eraill. Mae'n agor y drws ar safonau amgylcheddol is. Mae'r Torïaid wedi gwrthwynebu camau i sicrhau na fydd cymalau'n cael eu glastwreiddio. Mae'n cyfyngu ar allu'r Senedd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn unol ag ymrwymiadau maniffesto etholiadol mewn perthynas â phwerau datganoledig. Mae'n amlwg yn tanseilio democratiaeth; mae'n tanseilio canlyniad dau refferendwm. Mae'n agor y drws ar breifateiddio'r GIG—ni ellir gwadu hynny. Ac yn fwy na dim, mae'r Bil hwn yn gwbl ddiangen, oherwydd yr hyn y cytunwyd arno o'r cychwyn a'r hyn a fwriadwyd oedd y ceid fframweithiau cyffredin ac y ceid fframwaith cyffredin ar gyfer y farchnad fewnol a chymorth gwladwriaethol. Mae'r Llywodraeth wedi dewis torri'r ddealltwriaeth honno'n unochrog a gosod deddfwriaeth unochrog i ddiystyru'r holl gytundebau a dealltwriaeth. Nid yn unig fod y Bil yn ddiangen, fel y disgrifiwyd ddoe yn y drafodaeth yn y Senedd, mae'n ffiaidd, a dyna pam ein bod ni ar ochr Llafur yn ei wrthwynebu.
Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Fel gwnes i esbonio ddoe yn fy natganiad ar y Bil, mae sawl reswm sylfaenol dros wrthwynebu'r Bil ac felly dros bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Gaf i jest dynnu sylw at bedwar o'r prif resymau hynny? Yn gyntaf—er nad yw e, yn wahanol i lawer o'r Bil, yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli—y gwahoddiad i Senedd y Deyrnas Gyfunol dorri'r gyfraith ryngwladol. Byddai hynny ynddo'i hun yn ddigon, pan ddaw'r amser, i wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Gall y Senedd hon, yn amlwg, ddim torri'r gyfraith ryngwladol. Mae hynny'n ddadl gref dros beidio â chydweithredu â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud hynny.
Yn ail, byddai Rhan 6 o'r Bil, am y tro cyntaf ers datganoli, yn rhoi pwerau eang iawn i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio arian trethdalwyr i fuddsoddi yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Yn benodol, mae Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol yn siarad am gael gwneud penderfyniadau yr honnir eu bod nhw wedi cael eu cymryd gan fiwrocratiaid Brwsel, ond dyw hynny, wrth gwrs, jest ddim yn wir. Byddai'r pwerau maen nhw'n eu cynnig yn caniatáu iddyn nhw ariannu ysbytai a datblygiadau tai yn uniongyrchol, er bod iechyd a thai, yn gyffredinol, yn cael eu heithrio o gyllid Ewropeaidd. Wrth gwrs, rwyf wedi clywed rhai yn dweud, yn cynnwys heddi, mewn ffordd hollol anghredadwy, fod unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ychwanegol at y cyllid a fyddai fel arall o fewn cyllideb Cymru. Rwy'n cymryd, felly, bydd arweinydd yr wrthblaid a'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn ymrwymo i wrthwynebu'r pwerau newydd hyn oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhoi gwarant y bydd unrhyw wariant arfaethedig yn ychwanegol at y cyllid sy'n ddyledus i Gymru o dan fformiwla Barnett neu'r warant a wnaed gan ymgyrchwyr 'leave' na fyddem yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddem wedi'i gael pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn drydydd, gan droi at y rheswm arfaethedig am y Bil: y dymuniad, y dywedir, i ddiogelu'r farchnad fewnol. Fel yr eglures i heddi a ddoe, ac rwy'n ategu sylwadau Carwyn Jones yn hyn, rydym ni'n cefnogi amcan marchnad fewnol i'r Deyrnas Gyfunol, ond nid yw'r ymdrechion i gyd-ddatblygu cyfres o fframweithiau cyffredinol, sef y ffordd orau o sicrhau’r amcan hwnnw, yn cael eu gwella, ond yn hytrach, yn cael eu tanseilio drwy orfodi dyletswyddau cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu ar draws pob rhan o'r economi, heb ddim o'r mesurau diogelwch y mae egwyddorion o'r fath yn dibynnu arnyn nhw er mwyn gweithredu'n dderbyniol.
Rhaid i broses sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithredu a chydlynu rhwng y Llywodraethau fod wrth wraidd unrhyw farchnad fewnol. Gadewch i mi roi un enghraifft yn unig, gan adael y cwestiwn o fewnforio o'r Unol Daleithiau o'r neilltu. Gadewch i ni dybio fod Gweinidogion yn y Deyrnas Gyfunol yn penderfynu mai'r unig ffordd i alluogi sector cig eidion Lloegr i aros yn gystadleuol yn rhyngwladol yw caniatáu i ffermwyr ddefnyddio hormonau a gwrthfiotigau mewn gwartheg bîff. Gallai'r Senedd hon wrthod rhoi'r un rhyddid i ffermwyr Cymru, ond, Llywydd, ni allai hi atal cig eidion â chwistrelliad hormonau o Loegr rhag cael ei werthu ar silffoedd archfarchnadoedd yng Nghastell-nedd nac Aberystwyth. Ac ni allai hyd yn oed fynnu bod labeli i ddweud wrth ddefnyddwyr Cymru fod y cig eidion hwnnw wedi cael ei drin felly.
Ymhell o ddiogelu marchnad fewnol, mae'r Bil yn wn cychwyn ar gyfer ras i'r gwaelod—ac rwy'n amddiffyn defnyddio'r ymadrodd hwnnw—gyda rhan leiaf reoledig y Deyrnas Gyfunol yn trechu ac yn darostwng gweddill y Deyrnas Gyfunol i'r safonau isaf hynny. Ac os yw Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol eisiau inni gredu eu bod nhw o ddifrif yn eu protestiadau y byddan nhw'n cynnal, neu hyd yn oed yn gwella, ar safonau mewn diogelwch bwyd neu amddiffyniadau amgylcheddol, gadewch iddyn nhw roi'r sicrwydd hynny ar wyneb y Bil.
Ac, yn olaf, Llywydd, a gaf i dynnu sylw Aelodau at ran o'r Bil lle mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyfaddef ei bod yn ceisio dadwneud datganoli, sef yr ymgais i ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o bynciau a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006? Mae ein cyngor cyfreithiol wedi bod yn glir erioed: dyw hwn ddim yn fater a gedwir yn ôl. Ac mae'n ymddangos nawr fod cyfreithwyr Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cytuno ar hynny. Dyna pam mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am ei ychwanegu, er mwyn iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain a phennu'r rheolau neu'r diffyg rheolau, gyda llaw, a fydd yn gymwys ar ôl diwrnod olaf Rhagfyr eleni.
Unwaith eto, a gaf i fod yn glir? Rŷn ni o blaid cyfundrefn cymorth gwladwriaethol glir a chadarn y mae pob rhan o'r Deyrnas Gyfunol wedi cytuno iddi ac sy'n destun gorfodaeth gan reoleiddwyr gwirioneddol annibynnol. Ond dydyn ni ddim yn barod i gytuno bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd â dyletswydd i ofalu am fuddiannau Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, fel datblygu economaidd ac ati, yn cael cynllunio a phlismona system y gall hi ei defnyddio i ffafrio busnesau yn Lloegr dros rai yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.
Dyna ddim ond pedwar o'r rhesymau niferus dros wrthwynebu Bil y farchnad fewnol, a byddwn i'n annog pob un o'r Aelodau yma i gefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig sydd ger ein bron.
Mark Reckless i ymateb i'r ddadl. Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Ac a gaf i ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a oedd, yn fy marn i, yn gymedrol at ei gilydd o ran eu cywair? Credaf fod y ddadl, yma ac yn San Steffan, yn well heddiw efallai na'r hyn ydoedd ychydig ddyddiau'n ôl.
Agorodd Neil Hamilton y ddadl, heb gymeradwyaeth unfrydol y Siambr, rhaid imi ddweud, ond diolch, Neil. Fe gyfeirioch chi at yr ymgyrchu a wnaethoch chi hefyd ar hyd eich oes fel oedolyn yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn sicr eich aelodaeth gynnar o'r gynghrair a wrthwynebai'r Farchnad Gyffredin, a chredaf efallai fod dyrchafiad diweddar iawn i fod yn arweinydd UKIP yn y categorïau hynny, ond cofiaf hefyd eich pleidlais ar y cynnig ymbaratoi i gefnogi Maastricht, a theimlwn fod hynny'n anffodus.
Siaradodd Dai Lloyd wedyn, ac ni roddodd unrhyw groeso i'r cynnig hwn na'r Bil marchnad fewnol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n syndod i unrhyw un. Teimlwn ei fod wedi siarad yn gryf iawn. Dywedodd y byddai'n dinistrio dau ddegawd o ddatganoli; byddai'n sathru ar ddemocratiaeth. Ac yna dywedodd, 'A ddylai pobl ymddiried yng Nghymru neu San Steffan?' mewn ymdrech i fwrw sen ar San Steffan fel pe na bai ASau o Gymru yn San Steffan. Yna dywedodd ei bod yn annheg i Loegr ddewis y canolwr er mai Llywodraeth y DU ydyw, ac yna llwyddodd ef ei hun i ailosod y cloc.
Gareth Bennett a siaradodd nesaf. Dywedodd wrthym ei fod yn cynrychioli Plaid Diddymu'r Cynulliad. Credaf iddo ddweud wedyn y byddai'n pleidleisio dros ei holl welliannau. Ni allwn glywed yn iawn oherwydd y cyn Brif Weinidog yn ei rôl newydd yn heclo o'r meinciau cefn, ynghyd â'r arch-heclwr ar yr ochr arall, felly ni chlywais bopeth a ddywedodd Gareth, ond diolch iddo am ei gyfraniad.
Yn sicr fe glywais Darren Millar, a dechreuodd ei araith mewn ffordd dda iawn yn fy marn i, drwy gymeradwyo Plaid Brexit. Ac yn wir, rwy'n gweld bod David Melding newydd ymuno, ond roedd gennym dri allan o dri o gefnogwyr gadael yr UE ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ein sesiwn gorfforol hefyd i groesawu'r ddadl, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Fe'n hatgoffodd fod Boris Johnson wedi dweud y byddai Gogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r DU gyfan. Ni fyddai ffin ar hyd môr Iwerddon. Yn bendant, ni fyddai unrhyw ddatganiadau allforio rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain. Ac mae arnaf ofn, syr, nid oeddwn yn ei gredu, oherwydd fe edrychais ar y cytundeb ymadael ac roedd yn ymddangos i mi ei fod yn darparu ar gyfer yr holl bethau hynny. Fe wneuthum danbrisio ei allu a'i barodrwydd i'w rwygo ar ôl ennill ei fwyafrif mawr yn yr etholiad. O'm rhan i, rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae'n ei wneud. Nid oeddwn yn meddwl y byddai'n digwydd, ond mae'n ei wneud, a chredaf y bydd yn cryfhau ei safbwynt negodi'n fawr drwy gynyddu'r gost i'r UE o beidio â gwneud cytundeb masnach rydd, oherwydd byddant yn colli protocol Gogledd Iwerddon.
Credaf iddo ddweud y byddai llawer mwy o wariant gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, a byddwn yn croesawu hynny wrth gwrs. Maent i'w gweld yn argraffu llawer iawn o arian—gobeithio y gallant ei ddefnyddio i fwrw ymlaen ag adeiladu ffordd liniaru'r M4, ymhlith pethau eraill.
Yna cawsom Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, yn ein hatgoffa eto am Gytundeb Gwener y Groglith 1988, mater y mae wedi sôn amdano droeon yn y Siambr hon, fe gofiaf. Fe'm synnwyd braidd gan ei sylwadau yn syth ar ôl hynny, oherwydd eglurodd ei bod yn arfer eang gan wladwriaethau i dorri cyfraith ryngwladol, ond yr hyn a wrthwynebai oedd gonestrwydd Brandon Lewis yn cyfaddef hynny, rhywbeth y bydd gan ei fyfyrwyr ddiddordeb yn ei drafod gydag ef yn y dyfodol yn Aberystwyth rwy'n siŵr.
Soniodd hefyd am Dominic Raab a'i rôl yn awr yn yr Unol Daleithiau yn esbonio'r sefyllfa a sut y bydd yn cefnogi heddwch yng Ngogledd Iwerddon mewn gwirionedd. Ac rwy'n cofio gweithio gyda Dominic Raab ar fater allweddol sydd bellach yn dod i'r amlwg. Cefais fy synnu'n fawr yn 2012 pan oedd estraddodi Abu Qatada—. Roedd Theresa May yn ymdrechu mewn gwahanol ffyrdd ac roedd yn mynnu cymhwyso dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn hytrach na'n dyfarniad ein Goruchaf Lys ein hunain, mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn anos iddi allgludo Qatada, neu o leiaf ei ffordd gyntaf o geisio gwneud hynny. Ac yn y pen draw, dywedodd wrthyf a Dominic Raab ei bod yn gwneud hyn oherwydd y cod gweinidogol. Edrychais arno a chyfeiriai at ddyletswydd drosfwaol Gweinidogion i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytuniadau, a oedd i'w weld i mi yn rhwystr eithriadol ar sofraniaeth y Senedd a'r hyn roeddwn wedi meddwl oedd yn ddyletswydd ar Weinidogion i weithredu yn unol â'r gyfraith fel y'i pennwyd gan y Senedd. A chyda Dominic Raab euthum i weld David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, a gwneud yr achos ar hyn mewn gwirionedd, a chredaf i ni berswadio, neu o leiaf daeth yn ôl atom a dweud ei fod yn credu bod angen diwygio'r cod gweinidogol. Yn y pen draw, cafodd ei atal gan Nick Clegg rhag gwneud hynny ar y pwynt hwnnw, ond dywedodd pe bai'n cael mwyafrif byth, y byddai'n ei newid ac yn tynnu'r chwe gair hynny allan. Ac yn 2015 roedd cystal â'i air. Ac oherwydd hynny gallai Brandon Lewis ddweud yr hyn a ddywedodd yn Nhŷ'r Cyffredin ac aros yn ei swydd fel Gweinidog.
Yna cawsom Mandy Jones yn ein hatgoffa bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, yn 2016 yn wir—gryn dipyn o amser yn ôl erbyn hyn. Ychydig yn fwy diweddar, fe'n hatgoffodd am ddatblygiadau gyda'r wal goch yng ngogledd Cymru. Gwelai'r Bil fel rhan o'r broses ddeddfwriaethol arferol a bod rhai pethau'n cael eu gadael i Weinidogion drwy reoliadau. Ceryddodd rai o'r Gweinidogion yma am eu hiaith ac yna fe'n hatgoffodd i gyd—yn bwysig iawn rwy'n credu—fod Plaid Brexit yn dweud y llynedd yr hyn y mae Boris yn ei ddweud yn awr, ac felly rydym yn croesawu hynny.
Cyfeiriodd Jenny Rathbone at blant yn nofio mewn carthion a rhai datblygiadau eraill a allai fod yn wael iawn y dywedai y byddent yn deillio o'r Bil hwn. Dywedodd ei bod yn fwyfwy tebygol o arwain at adael heb gytundeb. Unwaith eto, rwy'n anghytuno'n gryf â hyn, oherwydd mae'n cynyddu'r gost i'r UE o beidio â dod i gytundeb.
Yna cawsom Mick Antoniw a roddodd gyfraniad byr. Gofynnodd i brif gynigwyr y cynnig—a thybiaf mai fi a olygai—a wyf fi wedi darllen y Bil, a'r ateb i hynny yw 'do'. Rwyf hefyd yn ystyried bod y ddogfen 'Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21' yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn eithaf defnyddiol. Rwy'n deall nad yw ein Llyfrgell wedi cael amser i wneud un ar gyfer yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn ddogfen San Steffan. Ond edrychaf ymlaen at ei bwyllgor—darllen yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud ar y mater. Soniodd am gyfreithloni anghyfreithlondeb, ond wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth yn gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr a yw'n ymwybodol o'r datblygiadau gyda Bob Neill a Damian Green a'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Byddwn yn croesawu'r newidiadau yn y Bil a gynigir. Os mai'r Senedd sy'n dweud ei bod yn mynd i wneud hyn yn hytrach na Gweinidogion yn unig, rwy'n credu y bydd yn gryfach byth. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd Gweinidogion yn cael mwyafrif yn y Senedd os bydd angen. Mae'n llai tebygol y bydd barnwyr yn ymyrryd â'r hyn y mae'r Bil yn ei ddweud os mai'r Senedd yn hytrach na Gweinidogion fydd yn ei ddweud, a chredaf y bydd yn helpu i berswadio'r Undeb Ewropeaidd i newid ei safbwynt ac i roi gwell cytundeb i ni nag y byddem yn ei gael fel arall.
I orffen, cawsom bedair prif ddadl gan y Gweinidog yn erbyn y Bil. Yn gyntaf, am dorri cyfraith ryngwladol. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi cyfeirio at hynny. Rwy'n credu ei fod hefyd yn erbyn i Lywodraeth y DU wario arian yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd ysbytai a thai, oherwydd nid yw'r UE wedi gwario arian yn y meysydd hynny. Nid wyf yn deall y gwrthwynebiad hwnnw mewn gwirionedd. Hoffwn hefyd ei hysbysu o'r ffaith bod Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin o leiaf o'r farn fod,
[y] Bil (cymalau 46-47) yn cynnwys pŵer "i ddarparu cymorth ariannol" ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn newid y setliadau datganoli. Gall Llywodraeth y DU wario mewn meysydd datganoledig eisoes.
Mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Gobeithio y bydd mwy ohono—byddai ffordd liniaru'r M4 yn ddechrau da. Ond dylid cael mwy o gydweithredu â Llywodraeth Cymru a dylai fod fframweithiau cyffredin mewn meysydd priodol, ond rwy'n cefnogi cael y gydnabyddiaeth gilyddol, cael yr anwahaniaethu, cael marchnad fewnol sy'n gweithio i'r DU gyfan a chael safbwynt sy'n ein galluogi i gael cytundeb gwell gyda'r Undeb Ewropeaidd nag a fyddai'n bosibl fel arall. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig i fy nghyd-Aelodau. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ond, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud cyn yr amser pleidleisio. Felly, egwyl o bum munud.