2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 22 Medi 2020.
2. Beth yw dadansoddiad cyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol o'r mesurau ym Mil Marchnad Fewnol y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru? OQ55533
Mae Bil Marchnad Fewnol y DU Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ymhell y tu hwnt i'r strwythur y gallai fod ei angen i sicrhau cydweithrediad economaidd a rheoleiddiol rhwng cenhedloedd y DU, ac mae'n ymosodiad difrifol ar y setliad datganoli a'n pwerau ni yng Nghymru.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac rwyf yn cytuno ag ef. Cwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf i fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gydag eraill yn Senedd y DU er mwyn diogelu democratiaeth Cymru rhag y cipio pŵer hwn sy'n rhan annatod o'r Bil Marchnad Fewnol, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, ac rwy'n croesawu hynny. Bydd gweithio mewn ffordd draws-ddeddfwrfa yn hanfodol yn y cyfnod sydd i ddod, felly heddiw bydd ASau Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliant a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid i'r Senedd hon roi ei chydsyniad cyn bod y darpariaethau yn y Bil, sydd â'r nod o drosglwyddo pwerau datganoledig yn ôl i San Steffan—cyn i hynny ddod i rym. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwnnw, ac os felly, a wnewch chi berswadio eich cyd-Aelodau Llafur Cymru yn San Steffan i'w gefnogi y prynhawn yma?
Wel, nid wyf i wedi gweld testun y gwelliant hwnnw. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw na ddylid trosglwyddo pwerau, doed a ddelo, o'r Senedd hon i San Steffan. Felly, mae'n gynnig syml iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld, ar y bleidlais ddechrau'r wythnos diwethaf, fod fy mhlaid i yn Senedd y DU a'i phlaid hi ac eraill yn y Siambr hon wedi gallu sefyll yn gadarn wrth ymwrthod â'r egwyddorion sydd wrth wraidd y Bil hwn. Fel y mae hi'n ymwybodol o'r trafodaethau a gafwyd o'r blaen, mae'r Bil hwn mewn llawer ffordd yn torri ar draws y setliad datganoli'n llwyr ac yn cloi'r newidiadau hynny mewn ffordd na fyddai'r Senedd hon yn gallu ei gwrthdroi. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i weithio ar sail drawsbleidiol yn y Senedd a mawr obeithio y bydd hynny'n parhau.
Tybed a allai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog amlinellu'r canlyniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol pe bai'r Siambr hon yn peidio â rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn gael ei ruthro ymlaen gan Lywodraeth y DU. Ac, a allai hefyd egluro pam y dylai hyn fod o bwys mawr i'r busnesau, y ffermwyr, y cynhyrchwyr bwyd, y myfyrwyr a'r etholwyr mewn etholaeth fel fy un i yn Aberogwr?
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. O ran y Senedd hon, nid wyf i'n disgwyl y bydd yn gwneud unrhyw beth arall, yn fy marn i, ond gwrthod caniatâd ar gyfer y darn hwn o ddeddfwriaeth. Dylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater; felly, dylai Llywodraeth y DU beidio â bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Bydd Huw yn cofio, fel y bydd Aelodau eraill, pan wnaeth y Senedd hon wrthod ei chydsyniad y tro diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen er gwaethaf hynny, a chawsom sicrwydd clir gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried yr amgylchiadau hynny'n unigryw ac yn rhyfeddol. Ac yng ngoleuni hynny, yn fy marn i, ni allai Llywodraeth y DU gyfiawnhau bwrw ymlaen heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig o ran y darn hwn o ddeddfwriaeth.
Mae e'n iawn i godi'r pwynt bod hwn yn Fil sy'n cael gwir effaith ar fywydau beunyddiol dinasyddion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru. Dylai unrhyw ddefnyddiwr nad yw eisiau gweld cig eidion sydd wedi'i chwistrellu gan hormonau ar ein silffoedd, sydd eisiau gweld uchelgais Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar ddefnydd plastig untro ac i gynnal safonau uchel o ran adeiladu a rheoleiddio landlordiaid, ac sydd eisiau sicrhau y dylai'r math o uchelgais y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosti barhau i fod ar gael, fod yn pryderu ynghylch ddarpariaethau'r Bil hwn. Dylai unrhyw fusnes yng Nghymru sydd eisiau cael cyfres o safonau ar gyfer mesur ei gynnyrch a'i gyflenwad fod yn bryderus. Dylai unrhyw fusnes sy'n ceisio cysoni Llywodraeth y DU yn ceisio pwerau cymorth gwladwriaethol drosto'i hun, ac ar yr un pryd yn meddu ar rwymedigaethau hefyd i fusnesau yn Lloegr fel Llywodraeth Lloegr, a'r gwrthdaro buddiannau y mae hynny'n amlwg yn ei gyflwyno, fod yn bryderus ynghylch cynnwys y Bil hwn.
Mae'n amlwg bod y DU yn dymuno bwrw ymlaen a thorri cytundebau rhyngwladol yn fwriadol, ynghyd â chuddio gwir fwriad y Bil ar yr un pryd, sef ceisio cymryd yn ôl reolaeth dros y lle democrataidd hwn, ond gyda gallu newydd i frigdorri cyllideb Cymru ar gyfer blaenoriaethau'r Torïaid. Beth fyddai hyn yn ei olygu i'r rhaglen lywodraethu y mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon yn ddemocrataidd i'w chyflawni ar eu rhan? A fyddai ef yn cytuno â mi fod hyn yn gofyn am bryder o'r newydd ynghylch dosbarthu'r gronfa ffyniant gyffredin, ac y mae, yn ei hanfod, yn ymosodiad ar y ddemocratiaeth hon, datganoli a, Llywydd, yn ymosodiad ar y lle hwn?
Wel, byddai'r Bil, pe bai'n cael ei basio'n gyfraith, yn cyfyngu ar weithredoedd nid yn unig y Llywodraeth hon, ond Llywodraethau olynol yng Nghymru ac, yn wir, effeithiolrwydd y Senedd hon i wneud y math o newidiadau uchelgeisiol yn y gyfraith a diwygio yng Nghymru yr hoffai eu gwneud. Soniais yn fy nghwestiwn cynharach am y ffyrdd ymarferol iawn y mae hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr a dinasyddion ledled Cymru. Mae rhai o'r darpariaethau yn y Bil yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddai rhai yn atal y Senedd rhag pasio cyfreithiau na Gweinidogion rhag gwneud rheoliadau, ond fe fydden nhw, i bob pwrpas, yn golygu na fyddai modd eu gorfodi ar lawr gwlad yng Nghymru. Nawr, mae'r rhain yn newidiadau sy'n creu risg ddifrifol o gyfyngu ar weithredoedd y Llywodraeth hon a Llywodraethau'r dyfodol i gyflawni addewidion maniffesto ac i fod yn uchelgeisiol ar ran pobl Cymru. Mae hi'n nodi'n benodol yr effaith ar y gronfa ffyniant gyffredinol. Rwy'n credu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn eithaf agored ynglŷn â'r ffaith y byddai'r darpariaethau yn y Bil yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Llywodraeth y DU gamu heibio'r pwerau sydd i bob pwrpas wedi bod yn eiddo i Weinidogion Cymru i reoli'r rhaglenni olynol i raglenni'r UE yng Nghymru—yn amlwg yn cefnu ar yr ymrwymiad a gafodd ei wneud i beidio â gwrthdroi'r setliad datganoli a phwerau Llywodraeth Cymru o ran y rhaglenni olynol hynny.
Mae cwestiynau 3 [OQ55549] a 4 [OQ55531] wedi'u tynnu yn ôl. Cwestiwn 5—Janet Finch-Saunders.