– Senedd Cymru am 4:45 pm ar 22 Medi 2020.
Gan fod yna ddim gwrthwynebiad, dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y tair cyfres o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn i gyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati mewn modd gofalus sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynnal ein hadolygiad parhaus o'r cyfyngiadau symud, gan gynnwys y gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am y gofynion a'u cymesuredd bob 21 diwrnod.
Cyflwynwyd y rheoliadau hyn dros gyfnod rhwng 21 Awst ac 11 Medi. Yn ogystal â darparu ar gyfer lliniaru'r cyfyngiadau pan fo'r amgylchiadau'n caniatáu, maent yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n gyflym i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel yr ydym ni newydd drafod, o sut yr ydym ni wedi gweithredu gyda chyfyngiadau lleol ledled Caerffili a Rhondda Cynon Taf, 8 a 17 Medi, yn y drefn honno; ac, wrth gwrs, o 6 o'r gloch heddiw, bydd cyfyngiadau lleol hefyd yn berthnasol i Gasnewydd, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mae'r mesurau hyn yn ceisio rheoli'r feirws a diogelu iechyd y cyhoedd ar draws pob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol hyn. Ym mhob ardal, ni chaniateir i bobl gyfarfod dan do, gan gynnwys o fewn aelwydydd estynedig, ac ni ellir eu cynnal ar hyn o bryd. Gwaherddir pobl rhag mynd i mewn ac allan o bob ardal cyngor bwrdeistref sirol heb esgus rhesymol. Yn olaf, fel yr ydym ni eisoes wedi trafod heddiw, ym mhob un o'r chwe awdurdod lleol hyn bydd angen i leoedd sydd â thrwydded i werthu diodydd gau erbyn 11 p.m.
Fel y nodir yn y cynllun rheoli coronafeirws, sy'n amlinellu sut rydym ni'n monitro achosion a rheoli achosion lleol, mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar egwyddorion pwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson ac fe'u hadolygir yn ffurfiol bob pythefnos. Darparodd gwelliant rhif 8 ar gyfer y cyfyngiadau yng Nghaerffili a bwriadwyd ei drafod yn wreiddiol heddiw, ond caiff ei drafod nawr ar 29 Medi, ochr yn ochr â'r gwelliannau a oedd yn darparu ar gyfer cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Prif Weinidog y DU wedi nodi cyfyngiadau newydd y mae'n bwriadu eu cyflwyno yn Lloegr, gan gynnwys y bydd yn ofynnol i bob tafarn, bar a bwyty gau am 10 p.m. Yn dilyn y cyfarfod a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda Boris Johnson a Gweinidogion eraill ledled y DU ym mhroses COBRA y bore yma, rydym ar frys yn ystyried cyfyngiadau cenedlaethol pellach yng Nghymru, gan gynnwys pa un a fyddent yn cyd-fynd â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr ai peidio.
Ymdriniaf â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro. Mae gwelliant rheoliadau Rhif 6 yn gyntaf yn cynyddu nifer yr aelwydydd sy'n cael ymuno â'i gilydd ar aelwyd estynedig o ddwy i bedair. Yn ail, mae hefyd yn caniatáu dathliadau dan do yn dilyn priodas, partneriaeth sifil neu angladd i hyd at 30 o bobl. Mae'r rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas, megis pryd bwyd wedi'i drefnu mewn gwesty neu fwyty, a rhaid iddynt ddigwydd mewn lleoliad a reoleiddir. Yn olaf, roedd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion awdurdodi a gosod amodau ar gyfer treialu cyfres o dri digwyddiad awyr agored ar gyfer hyd at 100 o bobl.
Mae rheoliadau Rhif 7 yn caniatáu ymweliadau â phreswylwyr cartrefi gofal, hosbisau a gwasanaethau llety diogel i blant. Paratowyd canllawiau gyda'r sector, a bydd pob lle yn rhoi ei drefniadau ei hun ar waith fel bod modd ymweld yn ddiogel. Hefyd, roedd gwelliant rheoliadau Rhif 7 yn gwahardd trefnu digwyddiadau cerddorol didrwydded i fwy na 30 o bobl. Gellir cosbi'r rhain drwy gosb benodedig o £10,000, ac rydym ni wedi gweld hyn ar waith yn dilyn y digwyddiadau ym Manwen a mannau eraill. Roedden nhw hefyd yn darparu ar gyfer ailagor casinos.
O ran gwelliant rheoliadau Rhif 9, ers 14 Medi, bu'n ofynnol i holl drigolion Cymru dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do megis siopau. Mae hyn yn dilyn cynnydd parhaus yn nifer yr achosion ar draws rhai rhannau o Gymru, mewn termau absoliwt ac fel cyfran o nifer y bobl sy'n cael eu profi. Roedd y rheoliadau hyn hefyd yn diwygio ymhellach y ddarpariaeth ar gyfer aelwydydd estynedig. Gall uchafswm o chwech o bobl gyfarfod dan do ar unrhyw un adeg, a rhaid i'r rhain fod o'r un aelwyd estynedig. Er hynny, nid yw plant o dan 11 oed wedi'u cynnwys yn y rheol hon o chwech. Y bwriad hefyd oedd y byddai'r ddadl heddiw yn ystyried gwelliannau sy'n ymwneud â swyddogaeth annibynnol awdurdodau lleol. Mae'r rhain nawr wedi'u dirymu a'u hail-wneud; byddant yn cael eu trafod ar 29 Medi.
Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir, rydym yn gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo; mae'r rhain yn deillio'n bennaf o bobl nad ydynt yn cadw pellter cymdeithasol ac nad ydynt yn dilyn y cyfyngiadau. Byddwn unwaith eto'n pwysleisio na chaniateir inni gwrdd â phobl eraill dan do, naill ai yn eu cartrefi nac mewn tafarndai, caffis na bwytai, oni bai ein bod i gyd yn rhan o'r un aelwyd estynedig.
Llywydd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran cadw Cymru'n ddiogel. Mae'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir yn y rheoliadau hyn yn dal yn angenrheidiol i barhau i fynd i'r afael â'r pandemig hwn, a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. O ran eitemau 6, 7 a 9, sy'n cael eu cynnwys gyda'i gilydd, bydd yr Aelodau'n gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst 2020. Adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 6 a Rhif 7 ar 14 Medi, a ddoe adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 9. Nawr, rydym yn cydnabod, wrth inni drafod y rheoliadau hyn heddiw, fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud rheoliadau diwygio pellach, sy'n dangos pa mor gyflym mae'r Llywodraeth yn gweithredu yn y materion hyn.
Daeth rheoliadau Rhif 6 i rym ar 22 Awst a chaniataodd i hyd at bedair aelwyd ymuno â'i gilydd ar aelwyd estynedig, a phobl i ymgynnull dan do mewn grŵp o hyd at 30 o bobl ar gyfer digwyddiadau penodol. Daeth rheoliadau Rhif 7 i rym ar 28 Awst ac maent yn gwneud diwygiadau pellach i'r prif reoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys y rheoliad na chaiff neb, heb esgus rhesymol, fod yn rhan o'r gwaith o drefnu rhai digwyddiadau cerddorol didrwydded, a bod rhywun sy'n methu â chydymffurfio â'r cyfyngiad yn troseddu ac y gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig o £10,000 iddo. Maent hefyd yn cynnwys bod yn rhaid i bobl gael esgus rhesymol i ymgynnull dan do, i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal, hosbis neu lety diogel i blant, gan egluro bod gan bobl esgus rhesymol i ymgynnull er mwyn cael gwasanaethau addysgol.
Ar gyfer rheoliadau Rhif 6 a Rhif 7, gwnaethom yr un pwynt adrodd rhinweddau, sef nad oedd y rheoliadau'n destun ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, nodwyd esboniad Llywodraeth Cymru mai'r pandemig oedd yn gyfrifol am hyn a'r angen am ymateb brys er mwyn iechyd y cyhoedd, a bod y newidiadau'n cael eu cyfleu i'r cyhoedd a busnesau drwy ddarllediadau gwybodaeth gyhoeddus parhaus a chynadleddau i'r wasg. O ran rheoliadau Rhif 7, nodwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau parhaus gyda'r heddluoedd yng Nghymru ynghylch cyflwyno trosedd newydd.
Gwnaeth rheoliadau Rhif 9 newidiadau pellach i'r prif reoliadau, a ddaeth i rym ar 14 Medi. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cyfyngu ar gynulliadau dan do o aelodau o aelwyd estynedig i chwech o bobl, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed, a'i gwneud yn ofynnol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn ardaloedd cyhoeddus dan do safleoedd agored a chanolfannau trafnidiaeth, oni bai bod eithriad yn berthnasol neu fod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb.
Nododd ein hadroddiad ddau bwynt adrodd ar rinweddau. Mae'r cyntaf yn ymwneud â rheoliadau Rhif 6 a Rhif 7. Nodwyd na chafodd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol eu paratoi mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn am yr un rhesymau. Fodd bynnag, nodwyd bod asesiad effaith integredig yn cael ei ddatblygu ac y caiff ei gyhoeddi'n fuan, ac rydym yn croesawu hynny. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r newidiadau. Yn ail, nodwyd bod y rheoliadau hyn yn cyflwyno mesurau tynhau cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Fel y cyfryw, mae'r rheoliadau hyn yn dod o fewn cwmpas ystyriaethau hawliau dynol ar gyfer hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a siarter hawliau sylfaenol Ewrop. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau fod yn gymesur â chyflawni nod cyfreithlon.
Nawr, o ran y materion penodol yr wyf wedi cyfeirio atynt yn y rheoliadau hyn ynghylch cyfarfod dan do a gwisgo gorchuddion wyneb, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd neu y gallai'r cyfyngiadau a gofynion fod yn berthnasol i hawliau o dan erthygl 8, sef yr hawl i barchu bywyd teuluol a phreifat; erthygl 9, rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd; erthygl 11, rhyddid i gynulliad a chymdeithas; ac erthygl 14, gwahardd gwahaniaethu. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn, ac rydym yn cytuno, i'r graddau bod gofynion a osodir gan y rheoliadau yn ymwneud â'r hawliau hynny neu'n ymyrryd â nhw, y gellir cyfiawnhau'r ymyrraeth oherwydd mai ei amcan dilys yw darparu ymateb iechyd cyhoeddus i'r bygythiad a achosir gan ddigwyddiadau cynyddol a lledaeniad y coronafeirws ledled Cymru ac sy'n gymesur â'r nod hwnnw. Diolch, Llywydd.
Hoffwn ddweud ar goedd fy mod yn credu bod angen i ni roi'r gorau i bleidleisio ar y rheoliadau hyn wythnosau ar ôl iddyn nhw gael eu gosod. Nid yw hon bellach yn sefyllfa foddhaol gyda'r system Cyfarfod Llawn hybrid sydd gennym ni nawr. Cyfeiriodd y Gweinidog ei hun at rai o'r pethau yr ydym yn pleidleisio arnynt heddiw yng nghyswllt rêfs, cynlluniau treialu ar feysydd chwaraeon, gorchuddion wyneb—cyflwynwyd y rhain i gyd dros fis yn ôl, a dyma ni heddiw yn aros am gyfres arall o reoliadau nad yw'r Prif Weinidog yn barod i wneud datganiad arnynt.
O ystyried yr effaith y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar bob agwedd ar fywyd, o'r economi i farwolaethau cynyddol posib oherwydd canser ac yn gysylltiedig â chaledi economaidd, mae'n hanfodol ein bod yn cael dadl fwy amserol ar y rheoliadau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi hyn. Mae'r rhain eisoes wedi'u newid a'u diwygio mewn rhai meysydd, y rheoliadau sydd ger ein bron. Mae gennym ni sefyllfa sydd bron yn ymdebygu i gyfyngiadau symud mewn rhannau o'r de, ac eto, heddiw, rydym yn pleidleisio ar reoliadau a gyflwynwyd dros fis yn ôl. Felly, o gofio hynny, rwyf eisiau hysbysu'r Llywodraeth a'r Gweinidog yr hoffem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, weld mwy o ddadlau a mwy o herio pan gaiff y rheoliadau hyn eu cyflwyno a bod yn rhaid i'r oedi hwn ddod i ben. Mae angen inni gael mwy o graffu ar y rheoliadau. Diolch, Llywydd.
Mi gefnogwn ni'r rheoliadau yma heddiw yma, achos, yn gyffredinol, mi rydyn ni'n cytuno efo'r angen i gyflwyno, yn gyffredinol, y cyfyngiadau, neu lacio'r cyfyngiadau, sydd ynddyn nhw. Ond, mi wnaf innau ychydig o bwyntiau, y cyntaf o'r rheini hefyd am y broses sgrwtini a'r ffaith bod wythnosau lawer wedi pasio yn fan hyn rhwng cyflwyno rhai o'r newidiadau yma—hyd at fis ers cyflwyno rhai o'r newidiadau yma yn achos Rhif 6. Wrth gwrs bod yr amgylchiadau presennol yn ddigynsail, ond nid yn unig mae'r sefyllfa rydyn ni ynddi rŵan o ran yr oedi yma yn hynod anarferol, mae o yn anfoddhaol iawn yn ddemocrataidd. Mae o'n creu dryswch democrataidd, dwi'n meddwl, ond mae o hefyd yn creu dryswch ymarferol. Er enghraifft, efo gwelliannau Rhif 6, mae'n sôn am ganiatáu peilota cyfarfodydd awyr agored hyd at 100 o bobl mewn chwaraeon ac ati; mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw bod y peilota wedi cael ei ddyfarnu i fod yn rhy beryglus i barhau ac wedi dod i ben 10 diwrnod yn ôl, a dyma ni'n cael ein gofyn i gymeradwyo'r gwelliannau hynny. Felly, mae o'n creu dryswch.
Mae'n rhaid, yn y pandemig yma yn gyffredinol, i negeseuon fod yn glir. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yn gyffredinol edrych ar sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu clywed a sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu deall. Rydyn ni'n gwybod yn iawn, o engreifftiau o gyfweliadau ar y cyfryngau gan bobl yn ein cymunedau ni, bod pobl yn dal wedi'u drysu gan yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud o ran eu hymddygiad mewn llawer o achosion. Felly, dwi'n apelio am negeseuon cliriach, ac mae hynny, i fi, ynghlwm â'r angen i'r broses sgrwtini fod yn agosach at amserlennu y rheoliadau eu hunain. Os oes yna ddryswch yn fan hyn, yn ein Senedd genedlaethol ni, does yna ddim rhyfedd bod yna ddryswch ar lawr gwlad.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am hurtrwydd cynyddol trafod pethau dros fis ar ôl iddyn nhw ddigwydd, tra yn y byd go iawn, mae pethau newydd yn mynd rhagddynt, yn aml yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ar yr un pryd ag yr ydym ni'n siarad am yr hen bethau.
Rwy'n ddiolchgar, serch hynny, i'r Gweinidog iechyd am gynnwys yn ei gyfraniad, yr hyn yr oeddwn i'n credu oedd rhai cyfeiriadau at y cyfyngiadau symud lleol gan gynghorau lleol yr ydym ni wedi'u gweld yn ddiweddar. A gaf i eglurhad pa un ai bwriad y sylwadau hynny oedd bod yn ddefnyddiol gan sôn am rywbeth a oedd yn gyfredol, neu a yw'r pethau penodol yr oedd yn eu dweud ynghylch hynny yn berthnasol i'r gwelliannau penodol yr ydym yn pleidleisio arnyn nhw heddiw?
Yn gyffredinol, ein ffordd ni o weithredu fu pleidleisio yn erbyn yr holl gyfyngiadau deddfwriaethol ynglŷn â'r coronafeirws. Rydym o'r farn eu bod yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, a byddai'n llawer gwell gennym y math o ddull y mae Sweden wedi'i fabwysiadu yn esiampl lwyddiannus. Mae gennym ni rai rheoliadau lliniarol yn y fan yma, ond mae gennym ni, ac ni wn ai dyma faes y Gweinidog iechyd—. Fe ddywedsoch chi ein bod wedi gweld llawdriniaethau'n gostwng 62 y cant yn GIG Cymru; ein bod wedi gweld 16,000 yn llai o atgyfeiriadau canser. Credaf, rhwng Cymru a Lloegr yr wythnos diwethaf, inni weld 70 o farwolaethau yn sgil COVID ond 125 yn sgil hunanladdiad. A yw'r rhain yn gymesur?
Rheoliadau Rhif 6—rydym yn mynd o ddwy i bedair aelwyd estynedig, sy'n rhoi mwy o ryddid, a hefyd yn caniatáu dathliadau digwyddiad bywyd, sydd, mi dybiaf, yn cyfeirio at briodasau; maent hefyd yn berthnasol i angladdau, felly rydym yn cefnogi'r lliniaru cyfyngedig hwnnw. O ran rheoliadau Rhif 7, unwaith eto, rydym yn cefnogi ailagor casinos, i'r graddau y gellir gwneud hynny, a hefyd y lliniaru o ran ymweliadau â chartrefi gofal. Mae cyfyngiadau ar rai digwyddiadau cerddorol didrwydded y tybiaf ei fod yn golygu rêfs torfol awyr agored, o ystyried bod y rhain mewn cyfres gyfansawdd o gyfyngiadau, a chredaf, hyd yn oed yn Sweden, fod cyfyngiadau ar y mathau hynny o ddigwyddiadau. Byddwn yn cefnogi rheoliadau Rhif 7.
Nid ydym yn cefnogi Rheoliadau Rhif 9. Mae gennych y drefn hon o aelwydydd estynedig—maent yn cyfarfod beth bynnag, felly, fel aelwydydd, mae'n debyg, o bosibl, yn trosglwyddo'r feirws, os yw hwnnw'n bresennol—pam wedyn cyfyngu i chwech mewn grwpiau o aelwydydd a ganiateir fel arall i gyfarfod mewn gwahanol grwpiau o chwech? Mae'r gwahaniaeth yn y trefniadau ar gyfer plant o'u cymharu â Lloegr yn drafferthus. A hefyd, mae gorfodi gwisgo gorchudd wyneb wedi ei ehangu, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud cyn hyn bod y dystiolaeth dros eu gwisgo yn wan. Rydych yn dweud eich bod yn gwneud gwaith ymchwil o ran pobl yn eu gwisgo a'u tynnu wrth fynd i mewn ac allan o fwytai—ac y gallai hynny fod yn wrthgynhyrchiol—ac eto rydych wedi'i gynnwys yn rhywbeth gorfodol ar gyfer siopau ar sail sylfaen dystiolaeth wan iawn, ar y gorau. Felly, byddwn yn cefnogi rheoliadau 6 a 7 ond yn pleidleisio yn erbyn Rhif 9. Diolch.
Rwyf wedi cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig hwn, oherwydd roedd angen y mesurau hyn i osgoi miloedd o farwolaethau diangen, felly wrth gwrs fy mod i yn eu cefnogi. Byddaf yn parhau i gefnogi'r holl fesurau angenrheidiol ac felly byddaf yn pleidleisio dros yr holl ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw.
Fodd bynnag, mae gennyf broblemau gyda'r ffordd yr ymdrinnir â'r ddeddfwriaeth. Gofynnir i ni bleidleisio ar fesurau a roddwyd ar waith, fel y dywedwyd eisoes, ond rwy'n ei bwysleisio, rai wythnosau'n ôl. Er fy mod yn derbyn bod hyn yn angenrheidiol yn gynnar yn y pandemig, nid oes rheswm y gallaf i ei weld dros beidio â phleidleisio ar fesurau cyn eu gweithredu. Dylem fod yn trafod yr angen am y mesurau hyn yn gynnar er mwyn inni allu argyhoeddi'r cyhoedd yn ehangach o'u hangen. Nid oes rhaid i Lywodraeth Cymru fy argyhoeddi i bod angen y mesurau a roddwyd ar waith gan y rheoliadau coronafeirws; mae'n rhaid iddynt argyhoeddi'r cyhoedd yng Nghymru.
Rhaid i aelodau o'r cyhoedd gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, felly mae'r rheoliadau hyn—pe bai pawb wedi cadw at y rheoliadau hyn, ni fyddem ni nawr yn ystyried gosod rhagor o gyfyngiadau, ond mae llawer o ddryswch o hyd ynghylch yr hyn sy'n angenrheidiol a'r hyn nad yw'n angenrheidiol. Yr unig ffordd y byddwn yn osgoi cyfyngiadau symud lleol neu hyd yn oed rhai cenedlaethol yw drwy argyhoeddi pobl i gadw at y rheolau, drwy argyhoeddi pobl bod angen y rheolau. Mae pob cyfres o reoliadau diwygio hyd yma wedi'i hategu gan adroddiad gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yn tynnu sylw at y diffyg ymgynghori cyhoeddus ar y rheoliadau. Felly, rwy'n derbyn nad yw hyn wedi bod yn bosibl hyd yma, ond mae ei angen yn ddirfawr. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fesurau i reoli'r coronafeirws ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno ei deddfwriaeth gerbron y Senedd hon cyn iddi ddod i rym?
Os ydym ni eisiau osgoi sefyllfa o gyfyngiadau symud cenedlaethol arall yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yna mae arnom ni angen pobl Cymru ar ein hochr ni, yn cefnogi mesurau, yn hytrach na bod rhai yn dewis eu hanwybyddu. Fel arall, mae'r hyn sy'n digwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn arwydd o bethau i ddod i weddill y wlad. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi gwrthwynebu'r rheoliadau hyn yn gyson, oherwydd credaf eu bod yn gwbl anghymesur â'r bygythiad a ddaw yn sgil y coronafeirws. Ond hoffwn ddweud yn gyntaf faint yr oeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth yn gynharach am y modd y caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo, wythnosau ar ôl iddynt gael eu gweithredu gan y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n warth democrataidd, a chredaf hefyd fod 30 munud yn eithaf annigonol i drafod mesurau mor llym. Wrth gwrs, mae lliniaru i'w groesawu bob amser, ond mae swm a sylwedd y cyfyngiadau at ei gilydd yr un fath. Rydym ni wedi troi ein gwlad, i bob pwrpas, yn garchar agored, fel yr wyf wedi'i ddweud unwaith o'r blaen, ac rydym ni bellach yn gwneud hynny ar sail fwy llym fyth yn lleol.
Pan edrychwch chi ar fygythiad y coronafeirws o ran niferoedd, mae'n rhaid ichi ystyried tybed a oes gan y Llywodraeth, boed ar lefel y DU neu yn y weinyddiaeth ddatganoledig, unrhyw synnwyr o gymesuredd o gwbl. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y DU yn dangos mai dim ond 22 yw'r cyfartaledd symudol saith diwrnod y marwolaethau o'r coronafeirws, neu, mewn gwirionedd, yn ymwneud â choronafeirws—dyna sy'n ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth fel achos bosib y farwolaeth—sef yr union fan lle'r oedd yng nghanol mis Gorffennaf. Dim ond 138 o bobl yn y Deyrnas Unedig gyfan sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda'r coronafeirws, a'r marwolaethau fesul miliwn yw 615. Hyd yn oed os cymerwch chi hynny fel arwydd o nifer y marwolaethau oherwydd coronafeirws, yn hytrach na phobl sy'n marw gyda'r coronafeirws arnyn nhw, nid wyf yn credu bod hynny fel cyfran o'r holl boblogaeth, yn cyfiawnhau'r datgymaliad economaidd enfawr a hefyd y dinistr yn ein bywyd cymdeithasol, gyda holl oblygiadau hynny. Mae'n rhaid i ni adennill synnwyr cymesuredd.
Dyfynnwyd Sweden gan Mark Reckless ac mae hwn yn achos addysgiadol iawn. Dim ond 15 o bobl sydd yn Sweden gyfan mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda COVID. Mae ganddynt 60,000 o achosion o COVID, 15 o bobl mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae eu cyfartaledd symudol saith diwrnod ers diwedd mis Gorffennaf wedi bod rhwng un a thair marwolaeth. Nid yw Sweden wedi cael unrhyw gyfyngiadau symud gorfodol, er eu bod wedi cael mesurau cadw pellter cymdeithasol gwirfoddol ac ati.
Ni allwch chi wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng profiadau gwahanol wledydd. Weithiau, bydd ystyriaethau lleol yn creu gwahaniaethau sylweddol. Ond pan ystyriwch y costau enfawr yr ydym ni wedi'u hysgwyddo, o'u cymharu â'r hyn sydd wedi digwydd yn Sweden, am ganlyniad sydd ychydig bach yn wahanol, credaf fod hynny'n gondemniad o bolisi swyddogol, felly pleidleisiaf yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a diolchaf i'r pwyllgor am eu gwaith craffu. Ac o ran y pwyntiau ehangach a godwyd gan Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth ynghylch y broses, caiff y rhain eu gwneud wrth ystyried y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ y mae'r Senedd hon wedi ei darparu ar ei chyfer. Mae'r Llywodraeth bob amser yn agored i sgyrsiau am y modd y caiff busnes ei drafod, ac, wrth gwrs, mae gan y Llywydd a'r Pwyllgor Busnes swyddogaeth bwysig o ran sicrhau y gwneir hyn yn unol â'n gweithdrefnau ein hunain. Galwyd y Senedd hon yn ôl, wrth gwrs, yn ystod yr haf i basio rheoliadau cadarnhaol 'gwnaed' hefyd. Clo pwysig ar allu'r Llywodraeth i wneud y rheoliadau hyn yw'r ffaith bod yn rhaid i'r Senedd gytuno arnynt er mwyn iddynt barhau.
Rydym mewn amgylchiadau digynsail, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i nodi, a rhan o'n her yw pa mor gyflym y mae angen inni weithredu, ond hefyd pa mor gyflym y mae cwrs y pandemig yn newid. Mae dechrau'r rheoliadau hyn sy'n cael eu trafod heddiw yn ymwneud â lliniaru pellach, ac eto rydym ni nawr yn trafod cyfyngiadau pellach sy'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig gyda rhybudd sylweddol am y niwed a fydd yn digwydd yn y wlad hon, fel mewn rhannau eraill o'r DU, oni bai y gweithredir mesurau pellach. Rwy'n credu bod pwynt Rhun ap Iorwerth am eglurder a chyflwyno neges yn bwysig. Mae bob amser yn bwysig ystyried sut mae ein negeseuon yn cael eu derbyn a'u deall gan y cyhoedd, ac rwyf yn credu y bydd yr ymgysylltu gydag arweinwyr y pedair gwlad yn helpu gyda hynny ym mhob rhan o'r DU.
O ran pwynt Mark Reckless, byddwn yn trafod rheoliadau Caerffili a Rhondda Cynon Taf yr wythnos nesaf, fel y nodwyd gan y Trefnydd a hefyd yn fy sylwadau agoriadol. Roedd Neil Hamilton a Mark Reckless yn awyddus i nodi eu bod yn ffafrio dull Sweden, ac fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mae'r gyfradd marwolaethau, mi gredaf, yn Norwy dros 200 o farwolaethau, a mwy na 5,000 o farwolaethau yn Sweden. Nid yw cymharu y niwed a fu yn y gwahanol wledydd Nordig yn fanteisiol iawn i'r sefyllfa yn Sweden, nac yn wir yn ei chymeradwyo fel y dull y dylem ei fabwysiadu yma.
Byddwch yn cofio, rwy'n credu, yfory ac yn yr wythnosau i ddod, y byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gam cyntaf yr ymateb. Yn hytrach nag awgrymu y dylem fod wedi mynd ati mewn modd llai caeth, y pryder yn y fan yna yw: a wnaethom ni ddigon ar yr adeg iawn gyda'r wybodaeth a oedd gennym ni? Nid yw'r Llywodraeth yn mynd i newid ei safbwynt yn llwyr a mabwysiadu ymagwedd fwy laissez-faire Sweden o ran rheoli'r risg wirioneddol i bob un ohonom ni yn sgil y coronafeirws. Credwn fod y rhain yn fesurau cymesur sy'n cael eu gweithredu nawr i osgoi niwed sylweddol, ond nid oes dewis perffaith i'w wneud. Rydym yn cydnabod bod anfanteision i'r cyfyngiadau symud hefyd.
Mae'r holl reoliadau heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut i gydbwyso'r rhyddid a fwynhawn wrth reoli bygythiad sylweddol parhaus y coronafeirws. Mae ein dull gweithredu wedi'i lywio, fel arfer, gan adran y prif swyddog meddygol, cyngor iechyd cyhoeddus, swyddogion gwyddonol a'n grŵp cynghori technegol, ac rydym yn cyhoeddi crynodeb o'u cyngor a'r astudiaeth a wnânt o'r dystiolaeth yng Nghymru, y DU a thu hwnt yn rheolaidd ac yn agored. Fel y nodais, rydym yn cymryd camau penodol a chymesur, fel yr ydym yn ei wneud mewn ymateb i'r cynnydd mewn achosion yn y de-ddwyrain.
Y prif bwynt, serch hynny, yw bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wneud dewisiadau a dilyn y mesurau sydd ar waith, i'n cadw ni, ein hanwyliaid a'n cymuned yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn. Yn benodol, mae angen i bob un ohonom ni gadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, mae angen i ni olchi ein dwylo'n aml, mae angen i ni weithio gartref lle bynnag y bo modd gwneud hynny, mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf. Ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau eraill sydd ar waith yn lleol. Mae'r rheoliadau i bawb eu dilyn er budd pawb. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel, a gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly rŷn ni'n gohirio'r eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gweld gwrthwynebiad unwaith eto, felly rŷn ni'n gohirio ar yr eitem yna.
Y cynnig nesaf, felly, o dan eitem 9: a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n clywed gwrthwynebiad i'r cynnig yna hefyd, ac rŷn ni yn gohirio y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.