– Senedd Cymru am 2:54 pm ar 29 Medi 2020.
Ac felly dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7399 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y pedair cyfres o gynigion sy'n cynnwys rheoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn unwaith eto o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy ein gweithdrefnau brys i gefnogi sut yr ydym ni'n mynd ati ar hyn o bryd i ymdrin â'r coronafeirws. Fe ŵyr aelodau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'n strategaeth i ymdrin â'r coronafeirws mewn modd pwyllog sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys drwy'r gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am unrhyw un o'r gofynion a'r rheoliadau hyn, a'u cymesuredd, bob 21 diwrnod.
Cyflwynwyd y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw dros gyfnod rhwng 7 Medi ac 17 Medi. Maen nhw'n dangos y camau cyflym ond angenrheidiol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Er mwyn sicrhau ein bod wedi'n harfogi i wneud hynny, rydym ni wedi cynyddu pwerau awdurdodau lleol ac wedi gweithredu cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Dyna'r cyfresi o reoliadau sydd ger ein bron. Yn anffodus, fel y dywedais, rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y cyfraddau heintio cadarnhaol. Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod ni erbyn hyn wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol pellach ar draws Llanelli, Caerdydd ac Abertawe, a ddaeth i rym am 6 yr hwyr ar 26 Medi yng nghyswllt Llanelli, ac am 6 yr hwyr ar 27 Medi yng Nghaerdydd ac Abertawe. Caiff gwelliannau i'r prif reoliadau sy'n berthnasol i Gaerdydd, Abertawe a Llanelli eu trafod yn y Senedd ar 6 Hydref. Fel yr ydym ni wedi nodi yn ein cynllun rheoli'r coronafeirws, mae gennym ni ddull o fonitro achosion, ac rydym yn ceisio rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar yr egwyddorion o bwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson. Byddaf yn mynd i'r afael â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro.
O ganlyniad i ddata sy'n dangos cynnydd cyflym mewn achosion COVID-19 yng Nghaerffili, i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw, cyflwynwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 ar 8 Medi. Cyfeiriaf at bob un o'r rheoliadau dilynol yn ôl rhif eu gwelliant i'r prif reoliadau. Mae'r rheoliadau hyn yn gwahardd aelwydydd yn yr ardal rhag bod yn rhan o aelwyd estynedig neu rhag ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill. Pan fo aelwyd o ardal arall wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd o fewn yr ardal, ni chaiff yr aelwyd yn yr ardal honno bellach ei thrin yn rhan o swigen estynedig yr aelwyd honno. Mae'n gwahardd trigolion yr ardal rhag gadael neu gadw draw o'r ardal heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i drigolion yr ardal ddychwelyd i weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Ac mae'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal rhag dod i mewn i'r ardal honno heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl sy'n bresennol yn yr ardal wisgo gorchudd wyneb pan fyddant mewn safle agored, yn amodol ar yr esemptiadau a'r eithriadau, ac mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyfyngiadau a'r gofynion a gyflwynir gan reoliadau diwygio Rhif 8 gael eu hadolygu ar neu cyn 24 Medi, ac, os cânt eu hail-gyflwyno wedyn, o leiaf unwaith bob saith niwrnod wedi hynny. Yn olaf, mae cyfyngiadau ychwanegol wedi'u gosod ar bob safle sy'n gwerthu alcohol yn ardal yr awdurdod lleol, felly rhaid iddyn nhw roi'r gorau i werthu pob math o ddiodydd meddwol am 10 yr hwyr. Bwriadwyd i hyn fod yn 11 yr hwyr yn wreiddiol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor i helpu atal lledaeniad y feirws, mae cyfyngiad ledled Cymru o roi'r gorau i werthu alcohol am 10 yr hwyr wedi'i weithredu ers hynny ar gyfer pob siop sydd â thrwydded i werthu alcohol.
Ar 17 Medi, cyflwynwyd rheoliadau diwygio Rhif 10 i osod yr un cyfyngiadau ag yr wyf wedi'u disgrifio yn Rhondda Cynon Taf ag a gyflwynwyd ym mwrdeistref Caerffili. Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir: lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo, mae'r rhain wedi deillio'n bennaf o bobl yn peidio â chadw pellter cymdeithasol ac yn anwybyddu'r cyfyngiadau blaenorol. Bu cynnydd mawr yn nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn Rhondda Cynon Taf. Ar 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd am yr un rhesymau.
Yn olaf, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ymyrryd wrth i achosion ddigwydd fel y gallant weithredu i gau tir neu safleoedd lleol unigol ac atal digwyddiadau lleol. Daeth y rhain i rym ar 14 Medi. Rhoddwyd pwerau sy'n cyfateb yn fras i'r rhain i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Alban drwy reoliadau a wnaed gan Lywodraethau'r DU a'r Alban. O dan y rheoliadau hyn, caiff awdurdod lleol gyhoeddi cyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae'r pwerau hyn yn fodd i awdurdodau lleol gymryd camau ataliol effeithiol lle bo amgylchiadau'n gofyn am hynny. Ein bwriad ar hyn o bryd yw y daw'r prif reoliadau i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021. Mae hynny chwe mis o'r adeg y cawsant eu llunio a'u cyflwyno. Felly, bwriedir i'r rheoliadau ddod i ben ar yr un diwrnod.
Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.
Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hi yn ofid i mi na wnaed hynny ar lawr y Senedd yma, ond rwy'n llwyr barchu ei bod yn rhan o drafodion y sefydliad hwn p'un a ydych chi'n rhithwir neu yn y Senedd. Ond rwyf yn pryderu'n fawr am rai o'r honiadau—mewn gwirionedd, haeriad gennych chi heddiw i mi ar Twitter—eich bod, drwy eich gweithredoedd, yn cadw Cymru'n ddiogel, ac nad wyf i drwy fynychu'r trafodion seneddol hyn. Hoffwn ofyn am eglurhad gennych chi a yw'r rheoliadau yr ydych chi wedi'u cyflwyno ger ein bron heddiw neu'r rheoliadau a ddaw i rym yr wythnos nesaf sy'n cwmpasu Caerdydd a Bro Morgannwg, os byddwch yn mynychu cyfarfod seneddol a fyddech yn torri'r rheoliadau hynny, oherwydd rydych chi wedi awgrymu hynny mewn trydariad ataf. Felly, a allwch chi fy nghyfeirio at ble yn y rheoliadau hyn y byddaf yn torri'r rheoliadau hynny drwy fynychu'r Senedd hon, neu yn wir, Aelodau Seneddol, megis Kevin Brennan, yn mynychu San Steffan heddiw, ac eto mae ei gyd-Aelod seneddol o'r sefydliad hwn ym Mharc Cathays? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn pwysig y mae'n rhaid i chi ei ateb os ydych yn cyflwyno'r honiad hwnnw bod seneddwyr yn torri'r cyfyngiadau ac nad ydynt yn cadw Cymru'n ddiogel. Rydym ni i gyd wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n ddiogel ac rydym ni eisiau gweld diwedd y feirws yma. Dyna pam heddiw y bydd y Ceidwadwyr Cymreig am y tro cyntaf wrth gyflwyno rheoliadau yn ymatal ar y rheoliadau hyn oherwydd y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â'r materion hyn mewn modd mor ddi-hid.
Hoffwn hefyd ofyn am eglurhad gennych chi: a yw'r rheoliadau hyn yn dechrau'r broses o gyfyngiadau symud ar sail fwy rhanbarthol yn hytrach nag ar sail leol? A yw'n wir mai'r amser nawr i dafarndai a lleoliadau cymdeithasol gau o dan y cyfyngiadau yw 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch? Oherwydd sylwaf mewn sylwadau yn y wasg a wnaethoch chi yr wythnos diwethaf y byddech, mewn gwirionedd, yn disgwyl i bob digwyddiad cymdeithasol gau erbyn 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch. A yw hynny wedi'i gynnwys yn y rheoliadau ynteu ai eich dyhead chi yw hynny?
Unwaith eto, hoffwn ofyn am eglurhad ynghylch pa arweinwyr gwleidyddol, cynrychiolwyr etholedig gwleidyddol sy'n cael cyfarwyddyd am y rheoliadau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi, oherwydd unwaith eto, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, sylwais fod rhai Aelodau etholedig o sefydliadau eraill yn nodi eu bod wedi siarad â'r Gweinidog iechyd cyn cyflwyno'r rheoliadau hyn a chyn eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae hynny'n annerbyniol. Siawns nad oes cydraddoldeb ymysg Aelodau etholedig, ac y dylid briffio Aelodau, os cânt eu briffio, ar sail gyfartal. Byddwn yn ddiolchgar cael deall sut yr ydych yn mynd ati i friffio Aelodau sefydliad etholedig nad yw wedi'i gynnwys yn unfrydol yn y sesiynau briffio hynny os ydynt yn cynrychioli'r ardal benodol honno ac yn chwarae rhan bwysig wrth draddodi'r wybodaeth honno i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli.
Rydym ni'n troi eto fan hyn at ran o'n busnes seneddol ni sydd wirioneddol yn arwyddocaol—efallai'r rhan fwyaf arwyddocaol o'n trafodaethau ni ar yr adeg yma. Mae'n ymwneud â'r Senedd yma'n trafod ac, fel rydw i'n disgwyl, yn rhoi sêl bendith i reoliadau sy'n gosod cyfyngiadau difrifol iawn eto ar ryddid unigolion ac ar gymunedau. O ran y rheoliadau yn eitemau agenda 3, 4 a 5 sy'n ymestyn cyfyngiadau COVID i ragor o siroedd, rydym ni yn mynd i fod yn cefnogi, ond—a rydw i'n gwneud y pwynt yma eto—mi ydym ni'n credu y dylid bod yn cyflwyno'r cyfyngiadau ar ardaloedd mor fach â phosib ac y dylid gweithredu yn hyper-lleol, os leiciwch chi, lle bod hynny'n bosib.
Rydw i hefyd yn annog ystyried yn ofalus iawn wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Rydym ni'n edrych arnyn nhw yn eu cyfanrwydd, wrth gwrs, ac rydym ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol, ond mae eisiau edrych yn fanwl iawn ar wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Mae'n bosib bydd eisiau tynhau ymhellach, mewn rhai ffyrdd, beth sy'n digwydd ar ôl i'r tafarndai a'r bwytai gau am 10 o'r gloch a'r angen i wasgaru pobl heb iddyn nhw fynd i gartrefi ei gilydd ac yn y blaen, ond ar yr ochr arall, mae eisiau rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r impact ar les ac iechyd meddwl pobl ac ystyried camau, er enghraifft, i ganiatáu mwy o gyswllt i bobl sy'n debyg o ddioddef o unigrwydd. Mae'n bwysig cofio bod y cyfyngiadau yma'n cael impact ddofn iawn ar bobl o fewn ein cymunedau ni.
Hefyd, mae'n bwysig cofio ein bod ni'n delio â dull o ddeddfu sy'n llai na boddhaol. Dwi'n pwysleisio'r angen i ddod â'r rheoliadau yma o'n blaenau ni cyn gynted â phosib, ac er bod yna lai o oedi rhwng gweithredu'r rheoliadau a'u trafod nhw nag yr oedd yr wythnos diwethaf, rydyn ni'n dal yn fan hyn yn trafod rheoliadau ddaeth i rym mor bell yn ôl â 7 Medi, ac mae'n rhaid trio tynhau'r amserlen.
Ac efo eitem agenda 6, er mai technegol ydy o mewn gwirionedd, yn cywiro camgymeriad blaenorol, dwi yn nodi bod y pwyllgor deddfwriaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad o pam bod angen i'r rheoliadau yma fod wedi dod i rym cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, ac mae yna ofynion clir iawn ar y broses ddylai gael ei dilyn yn Neddf Offerynnau Statudol 1946. Dwi'n nodi yn fan hyn fy niolch i'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith nhw.
A'n olaf, tra mai beth sydd gennym ni yn fan hyn yng ngwelliannau 10, 8 ac 11 ydy cyfyngiadau newydd sy'n gofyn i drigolion yr ardaloedd dan sylw chwarae eu rhan nhw mewn ceisio gwaredu'r feirws, gadewch inni gofio bod yn rhaid i'r Llywodraeth chwarae eu rhan nhw hefyd, yn arbennig felly pan mae'n dod at brofion. Sortiwch y profion; sicrhewch eu bod nhw ar gael pan fydd pobl eu heisiau nhw; bod canlyniadau yn cael eu dychwelyd yn gyflym er mwyn cael dechrau'r gwaith olrhain, a gobeithio wedyn na fyddwn ni ddim angen cymaint o reoliadau fel y rhai sydd o'n blaenau ni heddiw.
Dwywaith dwi wedi anghofio galw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, felly dyma ni ar y trydydd tro, dyma fi'n cofio i alw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i wedi sylwi, ac yn disgwyl yn eiddgar. Adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yw hwn mewn perthynas â'r pedair cyfres o reoliadau, felly mae'n adroddiad cyfansawdd. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ynglŷn â'r Coronafeirws yng Nghymru, a chymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hynny ar 5 Awst 2020. Adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 8 ar 21 Medi, a ddoe adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 10 a Rhif 11, ynghyd â'r rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol. Rydym yn cydnabod, wrth drafod y rheoliadau hyn heddiw, fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio rheoliadau diwygio pellach, sydd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn dangos pa mor chwim y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar y materion hyn.
Mae rheoliadau Rhif 8, Rhif 10 a Rhif 11 i gyd yn ymwneud â chyfyngiadau a gyflwynwyd ar gymunedau penodol. Daeth rheoliadau diwygio Rhif 8 i rym ar 8 Medi ac, fel y gŵyr yr Aelodau, maent yn cyflwyno cyfyngiadau mewn cysylltiad â bwrdeistref sirol Caerffili fel ardal diogelu iechyd leol. Yn fyr, mae'r cyfyngiadau'n cwmpasu aelwydydd estynedig, gwaharddiadau ar deithio o'r ardal ac i mewn iddi, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i breswylwyr weithio gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Yna, mae rheoliadau diwygio Rhif 10 yn cyflwyno cyfyngiadau tebyg ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o 17 Medi ymlaen, gyda chyfyngiad ychwanegol yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob safle sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol beidio ag agor cyn 6 y bore ac iddo gau am 11 yr hwyr neu cyn hynny bob dydd. Ac yna o 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau i awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd, ac roedd rheoliadau Rhif 11 hefyd yn cyfyngu ar oriau agor safleoedd trwyddedig i fwrdeistref sirol Caerffili.
Nawr, yn ein hadroddiadau, fe wnaethom ni dynnu sylw at y diffyg ymgynghori cyhoeddus neu asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r rheoliadau diwygio, ac ystyried hefyd asesiad Llywodraeth Cymru o'r graddau y mae unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol yn gyfiawn ac yn gymesur wrth geisio'r nod cyfiawn o ddiogelu iechyd y cyhoedd. Tynnaf sylw'r Aelodau felly at ein hadroddiadau ar y rheoliadau diwygio.
Yn ein cyfarfod ddoe, buom hefyd yn trafod ystyr yr hyn sy'n gyfystyr ag 'esgus rhesymol' at ddibenion y rheoliadau. Mae hwn yn fater y mae llawer o etholwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn wedi'i godi gyda phob un ohonom ni. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar y mater hwn a byddwn yn ysgrifennu at y Gweinidog yn benodol ar y mater yma.
Dychwelaf yn awr at y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020. Rheoliadau yw'r rhain a ddaeth i rym ar 18 Medi. Maen nhw'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ledled Cymru drwy roi cyfarwyddiadau i bobl berthnasol gau safleoedd unigol neu osod cyfyngiadau neu ofynion penodol arnynt. Maen nhw'n gwahardd rhai digwyddiadau, neu fathau o ddigwyddiadau, rhag digwydd, neu yn gosod cyfyngiadau neu ofynion arnynt, a gallant hefyd gyfyngu ar fynediad i ddigwyddiadau awyr agored cyhoeddus neu eu cau.
Mae ein hadroddiad yn gwneud pedwar pwynt rhinwedd, a hoffwn dynnu sylw at dri ohonynt yn fyr. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ynghylch y rheoliadau. Mae ein trydydd pwynt adrodd yn nodi nad yw'n ymddangos bod y canllawiau mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, neu o leiaf nad yw'n hawdd dod o hyd iddynt. Credwn y byddai sicrhau bod y canllawiau ar gael neu ei bod hi'n haws cael gafael arnynt yn gymorth defnyddiol i awdurdodau lleol ac aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno deall effaith y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o gyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn nodi'r gwahaniaeth mewn triniaeth rhwng y mathau o hysbysiad o ran y materion a nodir yn rheoliadau 11 a 12, fodd bynnag, nid yw'n glir pam mae angen y gwahaniaeth hwn.
Ac yna, yn olaf, fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ysgrifennu at y Llywydd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, yn esbonio pam yr oedd angen i'r rheoliadau ddod i rym cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd. Byddwn yn croesawu sylwadau'r Gweinidog iechyd ar y materion hyn yr wyf wedi'u crybwyll ynghylch y rheoliadau ynglŷn â swyddogaethau awdurdodau lleol. Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n rhannu siom Andrew R.T. ei fod wedi penderfynu mentro i'w swyddfa ym Mharc Cathays; mae wedi mynd ychydig ymhellach o'i gartref i gyrraedd yno nag y byddai i ddod i'r Senedd. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi ein bod ychydig yn llai ar ei hol hi wrth wneud y rheoliadau hyn na rhai o'r lleill yr ydym ni wedi'u gwneud o'r blaen. Ein bwriad ni yw pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn am yr un rhesymau a roddais yr wythnos diwethaf. Mae'n debyg y bydd y Gweinidog a'r Aelodau'n falch o glywed nad wyf yn bwriadu ailadrodd y rhesymau hynny. Fodd bynnag, a gaf i groesawu datganiad Andrew R.T. Davies y bydd y Ceidwadwyr o leiaf yn ymatal ar y gyfres hon? Mae'n dweud mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymatal—rwy'n credu eu bod wedi ymatal ar o leiaf un gyfres o'r blaen. Cafwyd llawer o gwynion ganddyn nhw am y rheol greulon 5 milltir, er fy mod yn credu eu bod wedi pleidleisio dros y gyfraith aros yn lleol a oedd yn gyfrwng i hyrwyddo hynny, ond rwy'n credu iddyn nhw ymatal ar gyfres arall ar y pryd, felly mae'n dda gweld eu bod bellach yn edrych ar y rhain gyda llygad ychydig yn fwy beirniadol nag o'r blaen.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog—? Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, credaf fod y rheoliadau hyn yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, a byddwn yn cwestiynu i ba raddau y maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth. Tybed, serch hynny, a gaf i ganolbwyntio'n benodol ar y tri chyngor a gynhwyswyd yn fwyaf diweddar? Fe wnaethoch chi nodi rhai egwyddorion gynnau fach ar gyfer y rheoliadau dan sylw, ac rydym yn sôn, o leiaf yn achos Caerffili, am gynnydd cyflym mewn rheoliadau ynglŷn â'r coronafeirws i gyfiawnhau'r rheoliadau. Ond gyda'r tri chyngor diweddaraf a gynhwyswyd, mae'n ymddangos bron fel eich bod yn llenwi'r bylchau yn y rhanbarth. Os edrychwch chi ar y cynghorau hynny'n unigol, tybed a ellir cyfiawnhau hynny ar sail unigol. Mae'n fy nharo i fod hyd yn oed llai o alw amdanyn nhw ac am y rheoliadau eraill. Ystyriwch, er enghraifft, Torfaen, lle mae un etholwr wedi dweud wrthyf, o leiaf ar sail data cyhoeddus sydd ar gael iddynt o ddoe ymlaen, ein bod yn gweld dim mwy na thua saith y dydd yn cael eu heintio yn Nhorfaen, ac yn gyffredinol ymddengys y buoch yn edrych ar drothwy o 20 o bob 100,000 o leiaf cyn i chi ystyried cyfyngiadau, a dyna oedd y sail i'ch asesiad yn ymwneud â thramor hefyd. Pam yr ydych chi wedi gosod rheoliadau a gofynion cyfyngiadau symud mor llym yn Nhorfaen pan ymddengys hi fod nifer yr achosion o'r coronafeirws yn sylweddol is na hynny?
Mae'r Gweinidog, unwaith eto, yn cymryd gordd i dorri cneuen, yn fy marn i. Onid yw hi'n anochel pan fyddwch yn llacio'r cyfyngiadau bod y risg o gynyddu haint yn sicr o ddigwydd? Ac, yn amlwg, wrth i ni ddynesu at y gaeaf, mae mwy o risg beth bynnag y bydd pobl yn dal unrhyw haint anadlol. Mae'n bennaf wir, lle ceir marwolaethau o COVID, eu bod yn digwydd ymhlith pobl hŷn. Pobl dros 85 oed yw 40 y cant o'r marwolaethau; 30 y cant yn y grŵp oedran o 75 i 84; a 15 y cant arall yn fy ngrŵp oedran i, 65 i 74; tra bod y rhan fwyaf o'r heintiau'n digwydd mewn pobl iau, ac nid ydyn nhw mewn perygl sylweddol o gwbl. Yn wir, cyfrifir bod rhywun dros 85 oed 1,000 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na rhywun sydd o dan 65 oed.
Felly, nid yw'r rheoliadau hyn yn gymesur, yn fy marn i, fel y dywed y Gweinidog. Yr hyn y mae wedi'i wneud—tybed a fyddai'n cytuno â hyn—mewn gwirionedd yw troi'r de yn arbennig yn fath o gyfres o 'gulags' sy'n cyfyngu pobl o fewn ffiniau'r awdurdod lleol y maen nhw'n byw ynddo. Nid ydyn nhw yn debygol o fod yn effeithiol oni bai eu bod yn parhau am gyfnod amhenodol, a byddwn yn parhau i weld cyfyngiadau symud dirifedi os nad ydym yn derbyn yr anochel: hyd nes y bydd brechlyn yn effeithiol ac wedi'i ddosbarthu'n eang, rhaid i'r risg o haint barhau.
Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau symud lleol heddiw. Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n iawn atal Cymry rhag symud o gwmpas ein gwlad ein hunain pan fydd y ffin, y porthladdoedd a'r meysydd awyr ar agor, ac yn agored heb brofion hefyd. Felly, pam y dylid caniatáu i bobl o dros y ffin sydd â chyfraddau heintio llawer uwch deithio'n rhydd, pan na all pobl Cymru yma, mewn rhai amgylchiadau, deithio i'r dref nesaf hyd yn oed? Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio i gyflwyno cyfyngiadau symud yn fy ninas a'm gwlad fy hun ond ei gadael yn agored i bawb arall ddod yma fel y mynnont.
Rydym ni eisoes wedi sôn am frechlynnau gorfodol, cyrffyw a hyd yn oed defnyddio'r fyddin, ac nid wyf yn siŵr beth mae gwyddoniaeth yn ei ddweud ynghylch yr angen i ni gau sefydliadau adloniant am 10 yr hwyr. Ble mae'r wyddoniaeth sy'n sail i hynny? Pam na chaniateir i DJs chwarae? Dylem fod yn trin pobl fel oedolion, oherwydd mae rhai busnesau wedi ymdrechu'n wirioneddol galed ac wedi gwario llawer o arian ar ragofalon. O'm rhan fy hun, es i Mocka Lounge yng Nghaerdydd a chafodd y rhagofalon a gymerwyd argraff fawr arnaf—roedden nhw wedi'u trefnu'n dda iawn. Gwn fod lleoedd eraill fel hynny hefyd.
Yn y rheoliadau hyn mae cymaint o wrthddywediadau. Mae gennym ni wahanu yn yr ysgol, ac eto ar y bws mae pawb yn cymysgu. Ychydig iawn y mae pobl yn ei wybod am fygydau, o ran pa mor aml y dylech newid eich mygydau. Rwy'n gweld pobl yn cerdded o gwmpas mewn sgriniau wyneb, yn meddwl eu bod yn amddiffyn eu hunain rhag anadlu pethau i mewn ac amddiffyn eraill rhag yr hyn y maen nhw yn ei anadlu allan, ond nid yw sgriniau wyneb yn gwneud hynny. Ble mae'r biniau i roi mygydau ynddyn nhw a chael gwared arnyn nhw'n ddiogel? Ble maen nhw? Rydych chi'n gweld mygydau ar lawr ym mhobman.
Mae'r dull gweithredu yn anhrefnus ac yn adweithiol. Dywedais yn y Senedd hon ym mis Mawrth na allwch chi ymladd pandemig heb brofion. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud wrthym ni o'r cychwyn cyntaf, 'Profwch, profwch, profwch'; fel arall, mae fel ceisio diffodd tân gyda mwgwd dros eich llygaid. Yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw meddwl am brosesau a meddwl am sut y gallwn ni amddiffyn yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed rhag dal y feirws yma. Sut mae gwarchod pobl?
Yn ei hanfod, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd yw profi. Faint ohonom ni sydd wedi bod yn sâl yn ystod y misoedd diwethaf a heb wybod a fu'r coronafeirws arnom ni oherwydd nad yw'r prawf gwrthgyrff wedi bod ar gael? Faint ohonom ni sydd â rhyw fath o imiwnedd i'r feirws ond na wyddom ni hynny? Nid ydym ni yn mynd i symud ymlaen ymhellach nes ein bod yn canfod ac yn ynysu'r feirws yma. Yn y cyfamser, mae'r cyfyngiadau symud hyn—bydd un arall ac un arall ac un arall. Bydd yn ddi-ben-draw, felly ni chefnogaf y cynigion heddiw, a dyma'r tro cyntaf.
Y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl. Byddaf yn ceisio ymdrin â phob un yn ei dro yn fyr. Gan ddechrau gydag Andrew R.T. Davies, mae'n amlwg fy mod yn gresynu at ei ymagwedd yntau a'i grŵp. O'r hyn y maen nhw yn ei ddweud, maen nhw'n ymatal nid am eu bod yn anghytuno â'r mesurau neu nad yw'r mesurau sy'n cael eu gweithredu rywsut yn briodol, ond mae'n gwestiwn ynglŷn â phroses yn hytrach na chanlyniad o ran sut yr ydym yn cadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.
Gallaf ddweud yn llwyr, yn gwbl ddidwyll, wrth bawb a phopeth yng Nghymru nad oes dim byd di-hid yn ein dull gweithredu. Mae'n cymryd llawer iawn o amser, egni ac ymdrech gan Weinidogion, ein swyddogion a'n cyd-Aelodau mewn awdurdodau lleol, sydd hefyd â dewisiadau eithriadol o anodd eu gwneud ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda nhw, gyda'r heddlu ac, yn wir, gyda'n gwasanaeth iechyd wrth gynnal a cheisio deall patrwm yr haint sy'n amlygu ei hun. Yn hytrach na chwilio am wrthdaro, credaf y dylai cynrychiolwyr etholedig fod yn chwilio am ateb i sut yr ydym yn ceisio atal y feirws ac amddiffyn Cymru rhag niwed.
Mae'n werth cadarnhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn mewn modd sy'n ystyried ein prosesau yma yng Nghymru. Mae'r brif weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r rheoliadau hyn gael cefnogaeth y Senedd neu maen nhw'n methu. Wrth gwrs, yn Lloegr, cyflwynir y rheoliadau cyfatebol gan orchmynion gweinidogol heb i Senedd y DU orfod pleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod ein proses yn well o lawer yn ddemocrataidd ac yn rhoi cyfle i graffu mewn modd bwriadol a rheolaidd, fel y mae i fod i'w wneud.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y materion yn ymwneud â theithio a'r cyfyngiadau teithio. Mae'n ofynnol i mi fod yma gan nad yw'n rhesymol ymarferol i mi wneud fy holl waith heb amrywiaeth o swyddogion eraill yma hefyd. Ar ddyddiau eraill, byddaf yn gwneud gwaith o gartref, pan fydd yn weddol ymarferol i mi wneud hynny. O ran briffio Aelodau, os na chysylltwyd â'r Aelod drwy amryfusedd, yna mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ni edrych arno. Nid yw hynny'n ymgais fwriadol. Unwaith eto, rydym yn ymdrechu'n galed i siarad â chynrychiolwyr etholedig ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan fo'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hyn hefyd. Ac o ran y sylw ynghylch yr amser cau ar gyfer y fasnach letygarwch, mae hynny yn y rheoliadau; 10 o'r gloch ar gyfer rhoi terfyn ar werthu alcohol, a 10.20 gyda'r nos pan fo'n rhaid i'r safle hwnnw gau.
Derbyniaf sylwadau Rhun ap Iorwerth am chwilio am ardal leol o fewn ardal cyngor lle bo hynny'n bosibl. Dyna'n union yr ydym ni wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae Llanelli yn ardal benodol. Pe na bai Llanelli yn rhan o Sir Gaerfyrddin ni fyddem yn ystyried gweithredu yn Sir Gaerfyrddin o ystyried gweddill y cyfraddau sy'n bodoli. Ystyriwn hyn bob tro y byddwn yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gyflwyno'r rheoliadau hyn—a yw'n bosib gweithredu mewn modd sy'n effeithio ar ardal sy'n llai na'r awdurdod lleol cyfan. Ar bob achlysur hyd at y cyfnod hwnnw, gwelsom nad oedd hi'n bosib mewn gwirionedd yn unol â'r dystiolaeth bod y feirws wedi lledaenu ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
Cyfyngiadau lleol i'r sir yw'r rhain, nid ydynt yn rhai rhanbarthol. Felly, nid yw'n golygu y gallwch chi deithio i unrhyw le o'ch dewis ar draws ardal ehangach de Cymru lle mae'r cyfyngiadau ar waith. Mae'n berthnasol i'r awdurdod lleol unigol yr ydych yn byw ynddo—unwaith eto, o ran y sylw am esgus rhesymol y deuaf ato'n ddiweddarach ar gyfer teithio. Rydym ni yn trafod yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol am yr hyn yr ydym ni yn ei wneud a pham, a bydd hynny'n parhau. Rydym yn mynd ati mewn sawl ffordd yn gwbl fwriadol. Nid penderfynu gorfodi'r mesurau hyn yr ydym ni yn ei wneud ac yna rhoi gwybod i awdurdodau lleol am ein penderfyniadau wedyn. Bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, o'i gysylltiadau ei hun, ein bod ni wedi mynd ati mewn modd bwriadol a gofalus iawn.
O ran y pwynt am brofion a wnaeth yr Aelod, rydym ni nawr yn cynnal 10,000 i 11,000 o brofion y dydd ledled Cymru. Erbyn hyn, mae 3,000 i 4,000 o'r profion hynny'n brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru a disgwyliwn i fwy o'r rheini gael eu cyflwyno dros y dyddiau nesaf wrth i ni gynyddu nid yn unig nifer y mannau profi a'r mynediad iddynt, ond faint o brofion sydd ar gael hefyd. Bydd yr Aelod yn gweld, wrth i ni gyflwyno nid yn unig mwy o'r profion hynny ond y lonydd cyson mewn canolfannau profi drwy ffenest y car yr wyf wedi'u cyhoeddi o'r blaen, y bydd gennym ni hefyd gyfres o ganolfannau galw heibio, yna rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod profion Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn y mannau hynny hefyd, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig llenwi'r bylchau sy'n cael eu creu gan heriau rhaglen labordai Goleudy ar hyn o bryd, ond y bydd gennym ni gapasiti ychwanegol beth bynnag o fewn y maes. Rydym ni hefyd yn defnyddio ein hadnoddau profi symudol wrth i gyfraddau heintio gynyddu mewn gwahanol rannau o Gymru.
O ran sylwadau Mick Antoniw, ynghylch y sylw am esgus rhesymol dros deithio, rwy'n credu ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu o ran ceisio nodi'r canllawiau sydd ar gael o ran yr hyn sydd yn esgus ac nad yw'n esgus rhesymol dros deithio. Yr her yw, os byddwn yn darparu canllawiau hyd yn oed yn fwy helaeth a manwl, y bydd gennym ni drwch o reolau yn y pen draw, ac mae'n her i ni. Byddwn yn ystyried y pwyntiau a wnaed yn adroddiadau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ond mae angen inni feddwl ynglŷn â phryd y byddwn ni mewn sefyllfa pan fo hi'n dal yn ymarferol i bobl ddeall—ac mae rhywfaint o hyn yn dibynnu ar farn aelodau unigol o'r cyhoedd am yr hyn sy'n esgus rhesymol mewn gwirionedd, i feddwl ynglŷn â sut maen nhw yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn hytrach na chwilio am ffordd o'u hosgoi. Ac o ran eich sylw am reoliadau'r awdurdodau lleol a'r canllawiau, byddwn yn edrych ar y canllawiau i weld a yw hynny wedi ei gynnwys; derbyniaf eich sylw a byddaf yn gwirio i weld beth sydd ar gael i'r cyhoedd ac ymhle. Derbyniaf hefyd y sylw am y camgymeriad clerigol wrth gyflwyno'r rheoliadau—roedd hynny'n rhywbeth a ddigwyddiodd unwaith yn unig, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Llywydd, rwy'n credu, i gadarnhau bod hynny'n wir. Byddwn yn sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o hynny yn yr ymateb ffurfiol i'ch adroddiad.
Gan droi at Mark Reckless, mae'n gyson—nid wyf yn cytuno ag ef ac nid yw'n cytuno â mi, ond mae'n gyson yn y safbwynt y mae wedi ei arddel drwy gydol y rheoliadau hyn. O ran yr ymchwydd cynyddol, gan ddefnyddio enghraifft Torfaen y canolbwyntiodd yn benodol arni, saith diwrnod yn ôl, y gyfradd fesul 100,000 yn Nhorfaen oedd 22.3, heddiw mae'n 47.9; gallwch weld cynnydd sylweddol yn lefelau'r feirws. Ac oherwydd ein bod yn deall bod y prif gyfraddau'n debygol o fod yn llai na'r sefyllfa wirioneddol—ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr oedi mewn profion yn labordai Goleudy—gallwn faentumnio o hynny nifer y bobl nad ydynt efallai'n dod o'u gwirfodd i gael eu profi.
Y pwynt arall rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio ei ystyried yw'r cyfraddau cadarnhaol—nifer y bobl ym mhob 100 sy'n profi'n gadarnhaol—ac eto, mae'r gyfradd yn Nhorfaen wedi cynyddu dros y saith a 14 diwrnod diwethaf. Credaf ei fod mewn gwirionedd yn cyfiawnhau—ac mae cefnogaeth i hyn ymysg yr holl randdeiliaid lleol—y mesurau a weithredwyd. Rhaid cyfaddef y byddwn yn trafod ac fe ofynnir i'r Senedd bleidleisio ar y rheoliadau hynny ar gyfer Bro Morgannwg, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.
Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, yn gyson â'i gyfeiriad bwriadol sarhaus wrth ddweud bod de Cymru wedi'i throi'n gulag. Credaf y bydd pobl sydd â theuluoedd sydd wedi dioddef mewn gwir gulags yn gweld hynny'n annymunol iawn ac yn gyfeiriad cwbl amhriodol i'w wneud yn y dewisiadau democrataidd yr ydym ni yn eu gwneud yma heddiw, ac yn y bygythiad yr ydym ni yn ei wynebu mewn pandemig iechyd cyhoeddus.
O ran sylwadau Neil McEvoy, mae'r her yn seiliedig yn fras ar gyswllt dan do mewn lleoliadau lletygarwch, ond yn enwedig yn y cartref. Credaf fod ymgais i ddweud na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau symud mewn ardaloedd ac na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yng Nghymru, oherwydd nad yw eraill yn gweithredu'n wahanol mewn rhannau eraill o'r DU. Credaf fod gwneud dim oherwydd nad yw eraill yn gweithredu yn ildio ein gallu i wneud dewisiadau yng Nghymru i ddiogelu a chadw Cymru'n ddiogel. Ac nid wyf yn credu bod hynny'n gam gweithredu priodol o gwbl. Credaf fod camddealltwriaeth hefyd o amcan a diben y profion. Credaf y gallai fod yn ddefnydd da o'i amser petai'n darllen y cyngor penodol a gawsom ni gan ein grŵp cynghori technegol. Credaf y gallai hynny helpu gyda rhai o'r sylwadau a wnaeth. Dywedodd hefyd wedyn ei bod hi'n bwysig ynysu'r feirws, gan fynnu ar yr un gwynt peidio â chael unrhyw gyfyngiadau teithio o gwbl. Rwy'n credu bod hynny'n gamddealltwriaeth gwirioneddol o'r hyn yr ydym ni yn ceisio'i gyflawni ac amcan a diben y rheoliadau hyn. Felly, cyfraniad braidd yn siomedig ac anaddas.
Mae'r rheoliadau sydd wedi'u trafod heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut yr ydym ni yn cydbwyso rhyddid unigol â rheoli bygythiad parhaus y coronafeirws ac mae'n pwyso'n drwm iawn ar feddyliau Gweinidogion sy'n gwneud y dewisiadau hyn ein bod yn gwneud dewisiadau gwirioneddol arwyddocaol ynghylch rhyddid unigol pobl, gan geisio gwneud y peth cywir, wrth gwrs, i gadw Cymru'n ddiogel. Mae ein dull gweithredu yn seiliedig, fel y bu erioed, ar gyngor y prif swyddog meddygol a'i adran, ein cynghorwyr gwyddonol, y grŵp cynghori technegol a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth o Gymru, ledled y DU a thu hwnt.
Fel y dywedais, credaf ein bod yn cymryd camau penodol a chymesur mewn ymateb i'r ymchwydd cynyddol o achosion o'r coronafeirws mewn ardaloedd awdurdodau lleol penodol. Ond, i orffen, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb parhaus i wneud dewisiadau ac i ddilyn y mesurau i'n cadw ni, ein teuluoedd, ein hanwyliaid a'n cymunedau'n ddiogel. Mae hynny'n golygu cadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, i olchi ein dwylo'n aml ac i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf, ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol sydd ar waith. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a gwneud ein rhan, fel Aelodau etholedig, i helpu cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, mae'r bleidlais o dan eitem 3 wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais o dan eitem 4 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 6 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Mae hynny'n dod â ni nawr at gyfnod o doriad. Fe fyddwn ni'n torri am gyfnod byr i alluogi newidiadau i'r Siambr. Felly, torri'r darllediad.
Rwy'n galw am drefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto.