– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 6 Hydref 2020.
Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch, Llywydd dros dro. Cynigiaf yn ffurfiol y pedair set o reoliadau ger ein bron heddiw, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn unwaith eto o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, trwy weithdrefnau brys i gefnogi ein camau parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws sy'n parhau. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020—byddaf i'n cyfeirio atyn nhw yn awr fel y rheoliadau diwygio ac yna'r rhif, er mwyn osgoi llond ceg—yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, sef y prif reoliadau. Diwygiwyd y prif reoliadau o 22 Medi eleni i gyflwyno gofynion ar y rhan fwyaf o safleoedd trwyddedig mewn ardaloedd diogelu iechyd lleol i gau erbyn 11pm a pheidio ag agor cyn 6am. Mae'r darpariaethau hynny wedi'u disodli bellach gan ofynion newydd sy'n cwmpasu Cymru gyfan, sy'n darparu bod yn rhaid i eiddo sydd â thrwydded i werthu alcohol i'w yfed ar y safle roi'r gorau i werthu erbyn 10pm a chau erbyn 10.20pm a pheidio ag ailagor tan 6am. Mae'n ofynnol i safleoedd o'r fath ddarparu gwasanaeth eistedd yn unig, ac mae'n rhaid i safle sydd â thrwydded all-werthu ar gyfer alcohol roi'r gorau i werthu alcohol erbyn 10pm. Yn ogystal, mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb i gynnwys cwsmeriaid mewn lletygarwch dan do oni bai eu bod wrth fwrdd ac yn bwyta neu'n yfed, a staff pan fyddan nhw yn ardal gyhoeddus y safle. Gwnaed y rheoliadau a daethant i rym ar 24 Medi.
Gwnaed rheoliadau diogelu iechyd diwygio Rhif 13 ar 25 Medi, a daethant i rym ar 26 Medi. Diwygiwyd y prif reoliadau o 8 Medi 2020 i gyflwyno cyfyngiadau mewn cysylltiad ag ardal diogelu iechyd leol Caerffili. Mae rheoliadau diwygio Rhif 13 yn ymestyn y cyfyngiadau i ardal diogelu iechyd leol arall sy'n cynnwys 13 ward etholiadol yn ardal Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, ac maen nhw'n darparu na ellir trin unrhyw aelwyd o fewn yr ardal honno yn rhan o aelwyd estynedig, ac yn gwahardd ffurfio aelwyd estynedig. Mae'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno wedi eu gwahardd rhag gadael neu aros i ffwrdd o'r ardal honno heb esgus rhesymol, ac mae'n ofynnol i drigolion yr ardal honno weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Mae pobl o'r tu allan i'r ardal honno wedi eu gwahardd rhag dod i mewn i'r ardal heb esgus rhesymol. Ar hyn o bryd mae gennym ni batrwm cyffredin ar gyfer cyfyngiadau lleol yng Nghymru, a bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â'r hyn yr wyf wedi ei amlinellu.
Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 12 o'r prif reoliadau, hynny yw, y rhwymedigaeth i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws neu ei ledaenu. Fel y dywedais i, o 24 Medi, mae pob safle trwyddedig wedi ei wahardd rhag gwerthu alcohol ar ôl 10pm ac mae'n rhaid iddo gau erbyn 10.20pm fan pellaf. Mae'r darpariaethau hyn bellach wedi eu hymestyn er mwyn sicrhau bod safleoedd sydd, er nad ydynt wedi eu trwyddedu, yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain, yn ddarostyngedig i'r un gofynion â safleoedd sydd wedi eu hawdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol.
Gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 14 ar 25 Medi a daethant i rym ar 27 Medi. Mae'r rheoliadau yn cyflwyno cyfyngiadau lleol tebyg ar gyfer dinas a sir Caerdydd a dinas a sir Abertawe.
Yn olaf, gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 15 a daethant i rym ar 28 Medi. Cyflwynodd y rhain gyfyngiadau lleol tebyg ar gyfer ardaloedd sirol Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg fel ardaloedd diogelu iechyd lleol sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol. Yn unol â chynllun rheoli'r coronafeirws, rydym ni wedi nodi ein dull o fonitro achosion a rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau yr ydym wedi eu cyflwyno wedi eu seilio ar egwyddorion bod yn ofalus, cymesuredd a sybsidiaredd.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio dull gofalus sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth o ymdrin â'r coronafeirws, gan gynnwys trwy'r gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am gyfyngiadau perthnasol a'u cymesuredd bob 21 diwrnod. Mae pob un o'r rheoliadau sy'n ymwneud ag ardaloedd diogelu iechyd lleol yn cael eu hadolygu bythefnos ar ôl eu cyflwyno, a phob wythnos wedi hynny os bydd y cyfyngiadau yn parhau yn hirach na hynny. Llywydd—neu yn hytrach Llywydd dros dro—mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran cadw Cymru yn ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn sy'n parhau. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd eu cefnogi nhw heddiw.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Bydd yr Aelodau yn gwybod, wrth gwrs, mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Mae rheoliadau diwygio Rhif 12—nid wyf i'n bwriadu ailadrodd y naratif y mae'r Gweinidog wedi ei roi, y cyfrif cywir o'r hyn y mae'r rheoliadau hynny yn cyfeirio ato yn benodol. Byddaf i'n mynd yn syth at ein hadroddiad ar reoliadau Rhif 12, a nododd dri phwynt teilyngdod. Nododd y cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a'r ail na fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau hyn, ac mae ein trydydd pwynt adrodd yn tynnu sylw at ddau fater pwysig yn ymwneud â'r prif reoliadau yn gyffredinol. Yn gyntaf, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod cadw ar flaen yr holl newidiadau yn mynd yn fwyfwy anodd a dryslyd i aelodau'r cyhoedd. Yn ail, rydym yn tynnu sylw at anghysondeb posibl yn y prif reoliadau y mae angen eu hegluro.
Rwy'n cyfeirio yn awr at reoliadau diwygio Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15. Unwaith eto, mae'r rhain wedi eu hamlinellu gan y Gweinidog o ran eu cynnwys a'r cyfyngiadau maen nhw'n eu dwyn i rym. Nid yw ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn—hynny yw, ar reoliadau Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15—yn codi unrhyw faterion newydd ynghylch cymhwyso cyfyngiadau i gymunedau yng Nghymru, ond rydym ni yn tynnu sylw'r Aelodau at yr adroddiadau i gynorthwyo'r ddadl heddiw.
Ac mae un mater arall yr hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau ato, hynny yw: yn y dyfodol, mae'r pwyllgor yn bwriadu ystyried i ba raddau y mae'r memoranda esboniadol yn cynnwys tystiolaeth o'r rheswm pam y rhoddir cyfyngiadau symud ar rai ardaloedd a'r rhesymau dros y brys hwnnw. Diolch, Llywydd dros dro.
Yn anffodus, mae hwn yn ddigwyddiad wythnosol bellach y mae'n rhaid i ni, yn amlwg, ymdrin â'r rheoliadau hyn, er fy mod i yn croesawu'r ffaith bod y rheoliadau yn cael eu cyflwyno mewn modd mwy amserol, er eu bod yn dal i lusgo, yn amlwg, ac rwy'n croesawu'n fawr ddadl a thrafodaeth amser real ar lawer o'r rheoliadau hyn, yn hytrach na'n bod yn eu trafod ryw bythefnos ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ar waith mewn rhai ardaloedd.
Nid yw'r un gwleidydd o gwbl, o unrhyw blaid liw, nac yn annibynnol, hyd yn oed, yn y Siambr hon yn dymuno gwneud unrhyw beth sy'n rhoi dinesydd Cymru o dan anfantais neu'n achosi niwed iddo, ac rwy'n credu bod pawb yn cefnogi'r bwriad i sicrhau ein bod yn gwneud popeth er lles gorau i amddiffyn pobl Cymru rhag y feirws ac effeithiau'r feirws ar iechyd pobl.
Ond mae gennym ni y Ceidwadwyr Cymreig bryderon ynghylch rhai o'r rheoliadau hyn. Af i drwyddyn nhw: rheoliad 12, o ran cyfyngiadau cyrffyw ac yn enwedig lleoliadau gweithgareddau cymdeithasol—rydym ni yn llwyr gefnogi'r syniad o wasanaeth bwrdd yn unig ac yn gwisgo mygydau mewn lleoliad o'r fath, ond yr hyn yr ydym ni yn ei chael yn anodd yw nad ydym ni wedi gallu gweld y dystiolaeth sy'n dweud bod y cyrffyw am 10 o'r gloch—neu 10.20pm yng nghyd-destun Cymru—yn cael effaith sylweddol mewn gwirionedd o ran atal lledaeniad y feirws a pheidio ag atal pobl rhag symud eu gweithgareddau cymdeithasol i mewn i leoliad tŷ. Rwy'n gwybod ei fod yn weithgaredd anghyfreithlon, ond fe wnaethom ni glywed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw gan un o'n cyd-Aelodau ei fod yn digwydd yng Nghymru a bod pobl yn parhau â'r sefyllfa gymdeithasol honno mewn partïon tŷ neu bartïon stryd. Ac felly byddwn ni yn ymatal ar y rheoliad hwnnw, oherwydd, fel y dywedais i, rydym ni'n llwyr gefnogi'r rheol bwrdd yn unig o fewn lleoliad cymdeithasol tafarn neu leoliad tebyg, ond mae gennym ni amheuon ynghylch a yw effeithiolrwydd y cyrffyw yn helpu mewn gwirionedd ac nid yn llesteirio sicrhau bod gweithgareddau cymdeithasol yn digwydd mewn amgylchedd rheoleiddiedig, fel tafarn neu fath tebyg o leoliad.
O ran gwelliant 13, sy'n ymdrin â'r cyfyngiadau a osodwyd yn Llanelli, rydym ni yn cefnogi'r rheoliadau hyn yn fawr iawn ar y sail mai dyma'r hyn yr ydym ni wedi bod yn galw amdano. Pan fo'r dystiolaeth leol yn dangos yn glir bod angen, yn hytrach na gorfodi cyfyngiadau ledled y sir neu'r rhanbarth cyfan, caiff ei wneud mor lleol â phosibl. Ac rydym yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn defnyddio'r wybodaeth honno, ond hoffem ni iddyn nhw rannu'r wybodaeth honno yn ehangach a defnyddio'r data lleol hynny pan fyddan nhw'n cyflwyno cyfyngiadau eraill.
Cyfyngiad Rhif 8 a chyfyngiad Rhif 9 ar bapur y gorchymyn, eitemau 14 a 15, sy'n ymwneud â Chaerdydd ac Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg—byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau hyn am y rheswm nad ydym yn credu bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r un meini prawf mewn gwirionedd ag y gwnaethon nhw eu defnyddio wrth bennu'r cyfyngiadau ar gyfer lleoliad tref Llanelli, yn hytrach na Sir Gaerfyrddin, a byddem ni'n croesawu'n fawr pe gallai'r Gweinidog roi hyder i ni y bydd, wrth iddo symud ymlaen, yn dechrau defnyddio'r data lleol hyn mewn ffordd fwy penodol, fel nad oes gennym ni gyfyngiadau symud ar draws sir gyfan na chyfyngiadau symud rhanbarthol.
A hoffwn i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog: wrth edrych ar y ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, rydym ni'n sôn am Fro Morgannwg—. Rwy'n datgan buddiant fel un o drigolion Bro Morgannwg ac fel cynghorydd i'r awdurdod lleol yno, ond mae pobl wedi bod yn siarad—yn amlwg, rydym ni'n croesawu'r gwelliant yng Nghaerffili; wel, wrth edrych ar y ffigurau targed heddiw, mae Bro Morgannwg mewn gwell sefyllfa na Chaerffili, a hoffwn i ddeall pryd y bydd Bro Morgannwg, er enghraifft, yn cael ei hadolygu, er mwyn gallu codi rhai o'r cyfyngiadau hyn, gobeithio. Os mai dyna'r trywydd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w ddilyn yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili, yna, siawns, ar sail y niferoedd, dylai Bro Morgannwg fod yn destun mesurau o'r fath hefyd.
A hoffwn i orffen ar y nodyn hwn, os caf i: rwyf i yn credu ei bod yn anffodus i'r Prif Weinidog ddwyn cyd-Weinidogion Ceidwadol i gyfrif, boed yn Aelodau o'r Senedd neu pa un a oedden nhw yn Aelodau Seneddol, pan fo ganddyn nhw etholwyr yn wirioneddol naill ai yn rhedeg busnesau neu'n breswylwyr yn yr ardal—. O edrych ar y niferoedd, wrth edrych ar Gonwy, er enghraifft, yr oedd cyfyngiadau sir gyfan wedi eu gorfodi arni—eu gosod arni, dylwn i ddweud—y diwrnod o'r blaen, ar y diwrnod adrodd diwethaf, 8.5 ym mhob 100,000; ar y cyfartaledd treigl saith diwrnod, 64 ym mhob 100,000; ac yn yr wythnos adrodd ddiwethaf, yr wythfed ar hugain i'r pedwerydd, 60.6 ym mhob 100,000 o achosion. Gwynedd, ychydig dros y ffin, lle nad oes unrhyw gyfyngiadau yn bodoli o gwbl—ar y diwrnod adrodd diwethaf, 16.9 achos ym mhob 100,000; cyfartaledd saith diwrnod, 73.1; a'r wythnos adrodd ddiwethaf, 72.3.
Nawr, nid wyf i'n dymuno gosod cyfyngiadau ar unrhyw ardal nad oes angen y cyfyngiadau hynny arni, ond, pan fyddwch chi'n gynrychiolydd cymuned, p'un a ydych yn aelod o'r sefydliad hwn neu yn San Steffan neu'n gynghorydd, nid ydych yn gwneud eich gwaith os nad ydych yn cyfleu barn yr etholwyr hynny. A phan fydd pobl yn gweld eu bywoliaeth yn mynd i'r wal oherwydd cyfyngiadau penodol sydd wedi eu gosod ar y busnesau hynny rhag gweithredu mewn amgylchedd maen nhw wedi ei greu sy'n ddiogel, nid ydyn nhw'n bod yn afresymol wrth ofyn i'w cynrychiolwyr gyfleu'r safbwyntiau hynny i'r Llywodraeth yn y fan yma neu'r Llywodraeth yn San Steffan neu'r awdurdod lleol, ac rwyf yn gofyn am eglurder gan y Gweinidog ynghylch sut y mae ef a'i swyddogion yn dehongli'r data pan fydd un sir, fel yr wyf i newydd ei nodi, yn destun cyfyngiadau, ac yna nid yw'r sir drws nesaf, sydd â chyfradd heintio uwch, o dan unrhyw gyfyngiadau.
Mae hi braidd yn anffodus—roeddwn i'n ceisio gwrando ar y siaradwr blaenorol ac roedd tarfu ar y cysylltiad drwy'r amser. Ond, er hynny, fy rheswm dros siarad yma yw i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad, ac ailadrodd bod llwyddiant y cyfyngiad cyhoeddus yn dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn ei gilydd a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. A dyna pam rwyf i'n credu bod ymddygiad Dominic Cummings a Margaret Ferrier AS mor beryglus, a hefyd ar yr un pryd yn digalonni'r bobl hynny. Ond mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion yng Nghaerffili, sydd wedi ei nodi, a Chasnewydd, yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yng Nghymru yn deall ac yn derbyn y rhesymau dros y cyfyngiadau hyn. Ac rwyf i'n credu bod gostyngiad yn nifer yr achosion yn Sir Gaerfyrddin hefyd. Felly, wrth gwrs, mae'n hanfodol, felly, ein bod yn ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl wedi ei rhoi yn y system honno. Rydych chi wedi dweud bod y cyfyngiadau lleol yn cael eu hadolygu'n gyson. A allai'r bwrdd iechyd neu Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi data amser real yn Llanelli ac ardaloedd eraill, fel y gall trigolion fonitro cynnydd a deall pa feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellid codi'r cyfyngiadau? Ond, ar ran yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, a phopeth yr wyf i wedi ei glywed gan y gymuned honno, mae cefnogaeth ysgubol i gamau gweithredu'r Llywodraeth, ac rwyf i'n dymuno cofnodi hynny. Diolch.
Cyfres o reoliadau o'n blaenau ni eto heddiw. Mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 12, sef eitem agenda 6, oherwydd ein bod ni'n cyd-fynd yn gyffredinol â'r budd sydd yn dod o gau tafarndai ac ati yn gynnar, er ein bod ni'n credu y gellid mynd ymhellach na hynny. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant 13, sydd yn ymwneud â Llanelli, lle dangosodd y Llywodraeth eu bod nhw'n gallu gweithredu ar lefel hyperleol.
Rydym ni'n dal i ystyried beth rydym ni am wneud efo gwelliannau 13 ac 15, yn dibynnu ar beth mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud wrthym ni y prynhawn yma. Y rheswm am hynny ydy, yn unol â'r hyn dywedodd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, dwi yn credu y byddai'n wirioneddol bwysig—rwy'n credu ei bod hi'n allweddol, mewn difrif—i'r pwyllgor deddfwriaeth, a thrwy hynny y Senedd, wrth gwrs, gael gweld y data sy'n dangos yn glir pam bod angen gweithredu ar lefel ardal awdurdod lleol cyfan. Mae'n bosib bod angen, mae'n bosib bod y data yn berffaith glir, ond mae angen, er mwyn gallu cefnogi'r rheoliadau, gallu gweld y data yna, ac roeddwn i'n falch o glywed Mick Antoniw yn gwneud y pwynt hwnnw. Mae'r cyfyngiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn rhai sylweddol—nid yr un mor sylweddol ag adeg y lockdown yn ôl ar ddiwedd Mawrth, Ebrill, Mai, ond yn sylweddol serch hynny. Mae angen inni fod yn siŵr dydy pobl ddim yn dioddef fwy nag sydd yn rhaid o ran eu llesiant ac, wrth gwrs, yn economaidd. Mae angen y data, dwi'n meddwl, er mwyn gallu penderfynu os ydy'r cyfyngiadau'n gymesur. Ac, yn achos gwelliant 13, Llanelli, mi wnaeth y Llywodraeth brofi eu bod nhw'n gallu gwneud hynny, ond nid felly efo 14 ac 15. Ac wrth gwrs, mi ddaw'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno yn y gogledd o'n blaenau ni ymhen wythnos, byddwn i'n gobeithio.
Yr elfen arall sy'n pryderu llawer ydy'r anomali lle mae yna waharddiad ar bobl o ardal cyfyngiadau uwch yng Nghymru rhag mynd i ardal risg isel, ond ddim gwaharddiad ar bobl o ardal risg uchel yn Lloegr rhag mynd i'r un ardal. Wel, mae yna ganlyniad i hynny mewn perthynas â'r rheoliadau yma. Mae hynny—yr anomali yna—yn gwneud i'r rheoliadau yma, yn eu tro, ymddangos i rai fel eu bod nhw yn annheg ac yn anghymesur—yn annheg â phobl yng Nghymru. Go iawn, yr anghysondeb sy'n annheg, felly pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gael gwared ar yr anghysondeb hwnnw a sicrhau bod yr un gwaharddiadau yn berthnasol i'r bobl o'r tu allan i Gymru ag y sydd i drigolion a dinasyddion Cymru?
Dim ond un cwestiwn sydd gen i, ond dim ond i ddweud, gan fy mod i'n dod o ardal sydd wedi bod yn destun y mesurau lleol hyn ers cryn amser, gyda Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr, mae fy rôl i, a rôl pobl eraill yn yr ardal, i raddau helaeth wedi bod i egluro wrth bobl pam mae'r mesurau yn angenrheidiol a'u hannog i gadw atyn nhw, er mor anodd yw hynny i fusnesau ac unigolion. Yr oedd yn syfrdanol gweld llythyr gan gyd-Aelodau yn y gogledd a oedd yn ymddangos yn wirioneddol Johnsonaidd yn ei ymagwedd, a ddaeth yn agos at annog pobl i dorri'r rheolau a'r rheoliadau hynny. Byddwn i'n annog Andrew R.T. Davies i fyfyrio ar hynny.
Mae fy nghwestiwn yn syml iawn, er hynny: Gweinidog, mae gen i lawer o bobl sydd wedi eu dal yn y broblem o fod wedi trefnu teithio. Mae gan rai ohonyn nhw gyfrifoldebau gofalu; maen nhw wedi gohirio teithio ond maen nhw wedi ei aildrefnu ac roedden nhw'n bwriadu mynd ar wyliau, rhai ohonyn nhw o Faes Awyr Caerdydd. Ond, y teithiau hedfan hynny a'r gweithredwyr teithio hynny—nid yw rhai ohonyn nhw yn cynnig ad-daliadau, neu os ydyn nhw'n cynnig aildrefnu teithiau hedfan a llety, maen nhw'n gwneud hynny am gost uchel iawn. A oes gennym ni unrhyw eglurder erbyn hyn er mwyn i ni allu dweud wrth y gweithredwyr teithio hyn a'r gweithredwyr hedfan hyn, 'Dylech chi fod yn deg â'r cwsmeriaid hyn; rhowch ad-daliad iddyn nhw, cynigwch ad-drefnu hirdymor iddyn nhw neu peidiwch â chodi'n afresymol arnyn nhw i aildrefnu teithiau hedfan'?
Wel, Gweinidog, rydych chi'n sicr yn gwybod sut i ysgogi gwrthwynebiad, onid ydych chi? Rwy'n cofio'r gyfres gyntaf o brif reoliadau coronafeirws, a phleidleisio yn erbyn y rheini. Rwy'n credu mai dim ond tri neu bedwar ohonom ni oedd bryd hynny. Yr wythnos diwethaf, roedd saith neu wyth yn gwrthwynebu, a'r wythnos hon mae gennych chi'r brif wrthblaid yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau symud sylweddol yr ydych yn eu gorfodi ar siroedd cyfan yn y de-ddwyrain. Mae hyd yn oed Plaid yn dweud y byddan nhw'n ystyried eu safbwynt cyn penderfynu a ddylid eich cefnogi ai peidio.
Tybed a wnewch chi ystyried a yw hyn yn ymwneud o gwbl â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli'r rheoliadau hyn. Rwyf i, fel y gwyddoch chi, o'r farn eu bod yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, ond maen nhw hefyd yn gaeth, maen nhw hefyd yn fympwyol ac rydych chi hefyd wedi bod yn amddiffynnol ac yn gaeedig yn y ffordd yr ydych wedi eu cyflwyno.
Pam ar y ddaear na allwn ni gael yr wybodaeth ar lefel ward y mae Andrew R.T. Davies yn gofyn mor fedrus amdano? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei chyhoeddi i lawr i lefel unigol ar eu gwefan am bron i 24 awr. Pam na allwch chi roi'r data ward hynny i'r cyhoedd ac ymgysylltu yn wirioneddol â'r ddadl? Rydych chi'n gweld y lefel hon o wrthwynebiad erbyn hyn oherwydd nad ydych chi wedi gwneud hynny, ac rwyf i wedi siarad o'r blaen am flinder cyfyngiadau COVID. Bydd mwy ohono, oherwydd nid yw'n cael ei wneud yn drawsbleidiol mwyach; mae'n cael ei orfodi gan Lywodraeth Lafur Cymru yn erbyn gwrthwynebiad eang.
A gaf i ofyn i chi, yn benodol, am y trefniadau cau erbyn 10pm? Pa un a yw'n 10pm neu yn 10.20pm, siawns nad yw'n wrthgynhyrchiol gorfodi pawb i adael ar unwaith. Sut y mae hynny yn helpu i leihau lledaeniad? Beth am y busnesau lletygarwch hynny a fuddsoddodd gymaint i sicrhau eu bod yn ddiogel rhag COVID ac yn barod i ailagor, ac yna rydych chi'n gwneud hynny iddyn nhw?
Yn benodol, ac yn olaf, hoffwn i ofyn am y cyfyngiadau cyngor; y rheol dybiedig hon nad ydych yn cael croesi ffin cyngor yng Nghymru: nid peidio â mynd allan o'r rhanbarth, y rhanbarth eang yn y de sydd â heintiau, ond i beidio â mynd allan o ardal benodol eich cyngor; nid eich atal rhag mynd o fewn ardal y cyngor. Gweinidog, unwaith eto, rwy'n eich gweld yn mynd i'ch swyddfa ym Mharc Cathays ond ni fyddwch yn dod yma. Beth yw pwrpas hyn a beth ydych chi'n ei ofyn i Lywodraeth y DU o ran yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn Lloegr?
Rydych chi yn sôn am barchu datganoli, ond a ydych yn dweud wrthyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw wneud i ardaloedd sirol Lloegr yn union fel yr ydych chi yn ei wneud yng Nghymru, oherwydd ein bod ni yn dweud, 'Nid ydych yn cael gadael ardal y sir', felly dyna y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddweud ar gyfer cyfyngiadau lleol yn Lloegr? Pa awdurdod sydd gennych chi i wneud hynny? Neu, a ydych chi'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw ychwanegu, 'Gallwch chi fynd allan o'ch ardal leol, ond mae'n rhaid i chi beidio â chroesi'r ffin i Gymru'? Neu, a ydych chi yng Nghymru yn cynnig rheoli ffiniau lle'r ydych chi'n cyfyngu ar bobl o Loegr, sy'n gallu symud yn rhydd o fewn Lloegr, i ddweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n cael symud i Gymru? A yw datganoli wedi dod at hyn?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad. Nid oeddwn i wedi bwriadu gwneud heddiw, ond rwyf wedi cael llond bol ar y lol a'r rwtsh llwyr sy'n cael eu hyngan gan y Prif Weinidog yn y Siambr hon heddiw, ac yn wir Aelodau eraill o'r Blaid Lafur ynglŷn â'r datganiad a wnaed gan Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Senedd hon ar feinciau'r Ceidwadwyr.
Ni wnaeth unrhyw aelod o'r Blaid Geidwadol mewn unrhyw ffordd o gwbl—gadewch i mi ei gwneud yn glir i bawb heddiw—mewn unrhyw ffordd o gwbl annog pobl i dorri'r gyfraith ac anwybyddu'r cyfyngiadau coronafeirws hynny. Mae'n fy ngwneud yn grac iawn i wrando ar bobl yn awgrymu bod hynny yn wir. Yr hyn yr oeddem ni yn ei godi oedd pryderon dilys ar ran y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli nad ydyn nhw wedi eu hargyhoeddi gan gymesuredd ymateb Llywodraeth Cymru o ran y cyfyngiadau lleol sydd wedi eu gosod ar nifer enfawr o bobl yn y gogledd erbyn hyn, gan gynnwys y rhai hynny yn fy etholaeth i fy hun.
Ac rwyf i'n gofyn i'r Prif Weinidog ddod i'r Siambr hon ac ymddiheuro rywbryd yn y dyfodol am ddechrau'r syniad hwnnw gyda sylw camarweiniol y mae wedi ei daflu yn fympwyol ar lawr y Siambr hon y prynhawn yma, ac rwyf i'n gofyn iddo ac yn ei annog i'w dynnu yn ôl a gwneud y peth iawn, oherwydd yr oedd yn ffugiad llwyr awgrymu ein bod ni wedi annog pobl i dorri'r gyfraith.
A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd dros dro. Byddaf i'n ymdrin â'r sylwadau yn y drefn y maen nhw wedi eu gwneud yn y ddadl. Rwyf i'n nodi'r sylwadau y gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor, Mick Antoniw. Rydym ni yn darparu cwestiynau cyffredin a chanllawiau i geisio cynorthwyo pobl â gofynion y rheoliadau a sut i helpu pobl i ddilyn y rheolau newydd.
Ac, wrth gwrs, mae'r gofynion oherwydd bod y coronafeirws yn parhau i ledaenu a'r holl niwed y bydd yn ei achosi ac y mae eisoes yn ei achosi. Ddoe, nodais fod derbyniadau i'r ysbyty wedi mwy na dyblu dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n ofni fy mod i'n disgwyl gweld cyfanswm y marwolaethau yn cynyddu hefyd. Bwriad y camau yr ydym ni yn eu cymryd yw osgoi achosi niwed gwirioneddol iawn ledled y wlad, a bwriad y cwestiynau cyffredin yw helpu pobl i ddilyn y rheolau hynny i'w cadw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel.
Byddwn i'n croesawu ymgysylltu â'r pwyllgor ynghylch yr wybodaeth yn y memorandwm esboniadol. Mae i fod yn ddefnyddiol. Os oes ffordd o gael y sgwrs honno â'r pwyllgor byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y pwyllgor, o bryd i'w gilydd, wedi ein helpu ni o ran cysondeb mewn darpariaethau deddfwriaethol. Mae hynny'n rhan o bwynt y craffu. Rydym ni'n gwneud y rheoliadau hyn mewn modd cyflym oherwydd y darlun sy'n newid yn gyflym o ran y coronafeirws, ac rwy'n credu bod gwerth i'r pwyllgor ymgymryd â'i swyddogaeth graffu cyn i'r ddeddfwrfa wedyn allu arfer ei swyddogaeth wrth benderfynu pa un a all y rheoliadau hyn barhau ai peidio. Ond, mae hynny'n ddewis ar gyfer sut y mae'r ddeddfwrfa yn dymuno mynd ati i weithredu.
Byddaf i'n ymdrin â Joyce Watson, Rhun ap Iorwerth ac yna Huw Irranca cyn i mi droi at y grŵp o sylwadau gan Andrew R.T. Davies, Darren Millar a Mark Reckless. Rwyf i'n credu bod Joyce Watson yn iawn: mae'r rheoliadau sydd gennym ni yn dibynnu ar ymddiriedaeth a chefnogaeth a ffydd y cyhoedd ein bod ni yn gwneud hyn am y rhesymau cywir, bod sail briodol dros wneud hynny. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r dystiolaeth sydd gennym ni ar ffurf data caled, mae hefyd yn ymwneud â'r wybodaeth gymunedol ehangach sydd gennym ni am ledaeniad ac ail-ymddangosiad didostur y coronafeirws. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn, yn yr holl dystiolaeth yn y pôl piniwn yr ydym ni'n ei gweld, fod cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd i'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gadw Cymru yn ddiogel.
O ran cyflwyno cyfyngiadau, mae cyfnod o 14 diwrnod i'w hadolygu wedyn, yna mae'n rhaid i ni eu hadolygu eto o leiaf pob saith diwrnod, ac mae hynny'n golygu bod cyfnod rheolaidd i adolygu'r sefyllfa ym mhob ardal sydd â chyfyngiadau lleol ar waith ac i ni ystyried y ffordd allan ohonyn nhw. Ac rwyf i yn awyddus i weld ardaloedd yn symud allan o gyfyngiadau. Nid yw'n beth hawdd na rhwydd i gyflwyno cyfyngiadau ar sut y mae pobl yn byw eu bywydau o gwbl.
O ran data'r bwrdd iechyd a'r wybodaeth am y lledaeniad sy'n cael eu casglu, ac mae hwn yn bwynt y mae siaradwyr eraill wedi ei godi hefyd, rwy'n awyddus ein bod ni yn darparu gwybodaeth reolaidd am yr hyn sy'n digwydd ar lefel fwy lleol. Rwy'n dymuno gallu gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n bosibl adnabod unigolion ohoni. Mewn rhai ardaloedd, bydd nifer yr achosion mor isel y gallai tynnu sylw at achos unigol ei gwneud yn bosibl adnabod y person hwnnw. Ond rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni allu ei ddatrys ac rwy'n awyddus i wneud hynny. Rwy'n credu y byddai'n helpu i ymdrin â rhai o'r pryderon y mae Aelodau eraill wedi eu codi.
O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y data sy'n sail i'r camau y gwnaethom eu cymryd, yn benodol yng nghyswllt Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg, roedd gennym ni ddata bryd hynny a gwnaed achos clir iawn i ni gan bob awdurdod lleol a gan bob bwrdd iechyd perthnasol eu bod, yn yr ardaloedd hynny, yn hyderus, oherwydd y data yr oedden nhw'n eu gweld ynghylch y nifer cynyddol o achosion a'r wybodaeth gymunedol a oedd ganddyn nhw gan TTP, y bydden nhw mewn sefyllfa lle'r oedden nhw yn mynd i fynd uwchlaw'r pwynt data ffurfiol i ymyrryd. A rhoddwyd y pwynt fel a ganlyn: yr oedd gwreichion yr oedd pawb yn gallu eu gweld ac roedden nhw'n awyddus i allu gweithredu cyn bod tân coedwig gwirioneddol. Ac felly, dyna'r gyfatebiaeth a gafodd ei chyflwyno i ni mewn termau clir iawn gan dimau iechyd cyhoeddus yn ogystal â gan bob un o'r arweinwyr a'r prif weithredwyr hynny.
Yn fwy na hynny, fodd bynnag, bryd hynny, roedd gennym ni fwy o her o ran data labordy goleudy. Felly, roeddem ni'n gwybod bod y ffigurau yr oeddem ni yn eu gweld ychydig—wel, roedden nhw hyd yn oed yn hwyrach na'r data a fyddai gennym ni fel arfer. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethom ni drafod hyn fwy nag unwaith gyda'r awdurdodau lleol hynny ac roeddem ni'n gallu gweld, gyda'r data'n cynyddu a'r gyfradd gadarnhaol a oedd gennym ni, mewn gwirionedd, ein bod ni yn bendant yn mynd i gyrraedd pwynt pan fyddem ni yn torri'r marc 50. Ac yna mae'r pwynt ynghylch pam y byddem ni yn aros pe byddai gennym ni'r lefel honno o hyder a barn unedig glir iawn gan ein timau iechyd cyhoeddus, ein hasiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol ac arweinwyr yr awdurdodau lleol dan sylw hefyd, gan gynnwys—ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—arweinyddiaeth y swyddog proffesiynol, nid arweinyddiaeth yr aelodau etholedig yn unig.
Ac yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae gan Gaerdydd gyfradd o 107.9 ym mhob 100,000; Abertawe 111.7; Castell-nedd Port Talbot 81.6; Torfaen 54.3; a Bro Morgannwg 43.4. Mae'r Fro wedi gweld gostyngiad ac mae hynny yn newyddion da. Rydym ni'n dymuno gweld y gostyngiad hwnnw yn parhau ac yna gallem ni fod mewn sefyllfa i godi'r cyfyngiadau hynny, ond roedd hynny wedi mynd yn uwch na 50 ar ôl i ni gymryd y mesurau hyn. Rwy'n credu ei fod yn dangos, os na fydd y Senedd yn pasio'r rheoliadau hyn heddiw, y byddem ni wedyn yn rhyddhau cyfyngiadau mewn ardaloedd lle'r ydym ni'n gwybod bod llawer iawn o achosion eisoes, ac rwy'n credu y byddai hynny'n gamgymeriad. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd—ni yn y ddeddfwrfa ac aelodau'r cyhoedd hefyd a'r rhai hynny sy'n aelodau o'r Llywodraeth—ond rwy'n credu bod y cam dilynol yn gwneud yr achos. Ac mae'r un peth yn wir am y gogledd hefyd. Nid ydym yn trafod rheoliadau'r gogledd heddiw, wrth gwrs, ond ym mhob un o'r awdurdodau hynny yn y gogledd y gwnaethom ni roi cyfyngiadau lleol arnyn nhw, mae pob un ohonyn nhw ymhell y tu hwnt i'r marc 50, ac rwy'n credu mai'r peth iawn i'w wneud oedd gweithredu pan wnaethom ni.
O ran y broses, rydym ni eisoes wedi ei disgrifio hi o'r blaen; mae gennym ni hefyd y prif swyddog meddygol a'r cyd-gadeiryddion celloedd cynghori technegol yn cymryd rhan. Ac mae gennym ni y cyngor hwnnw gan bob un o'r timau rheoli digwyddiadau sy'n dwyn ynghyd bartneriaid lleol. Mae gennym ni hefyd yr heddlu perthnasol ar gyfer yr ardal hefyd.
O ran cyfyngiadau teithio, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi nodi'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Rydym ni'n dymuno gweld yr ymateb ffurfiol i'r llythyr, ond rydym ni yn barod i weithredu i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni o ran diogelu iechyd y cyhoedd. Pwrpas y mesurau cyfyngiadau teithio yw cyfyngu'r feirws mewn ardal lle mae nifer uwch o achosion a hefyd i ddiogelu ardaloedd lle mae nifer llai o achosion. Nawr, nid oes gennym ni ddiddordeb mewn dweud bod hyn yn ymwneud â Lloegr na'r Saeson; mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag unrhyw ardal lle mae problem o ran nifer uchel o achosion, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac ymdrin ag ef. Rwy'n credu y byddai o fudd i bob un ohonom ni mewn gwirionedd, gael dull mwy cyffredin o wneud hynny ledled y DU. Mae Llywodraeth yr Alban yn defnyddio dull gweithredu sy'n debyg ar y cyfan ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael y dull gweithredu ar y cyd hwnnw, ond os na allwn ni argyhoeddi Llywodraeth Lloegr i weithredu yn yr un ffordd, yna byddwn ni'n defnyddio ein pwerau, ond byddwn yn gweithredu ar ein cyfrifoldebau i wneud hynny o dan ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd.
Gofynnodd Huw Irranca-Davies am y diwydiant teithio ac mae gennym ni farn glir iawn ein bod ni'n siomedig iawn yn y ffordd y mae rhai rhannau o'r diwydiant teithio wedi ymddwyn. Mae'r rhain yn gyfyngiadau cyfreithiol ar yr hyn y gall pobl ei wneud, ac os bydd pobl yn mynd ar wyliau o un o'r ardaloedd hyn sydd dan gyfyngiadau ac yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd, Birmingham, Bryste neu unrhyw un arall, yna byddan nhw'n torri'r gyfraith, ac nid yw hynny'n sefyllfa y dylai cwmnïau teithio orfodi pobl iddi—i ddewis rhwng colli swm sylweddol o arian neu dorri'r gyfraith a chymryd y risg. Rwyf i hefyd yn meddwl nad yw'n dda i'r diwydiant teithio ei hun. Pe byddai rhywun yn gadael ardal yng Nghymru lle ceir llawer o achosion, i fynd ar daith hedfan ac o bosibl i achosi lledaeniad ar yr awyren honno neu mewn cyrchfan, nid wyf i'n credu y byddai'n ddiwrnod da i'r diwydiant teithio wrth esbonio pam yr oedd wedi gweithredu yn y fath ffordd a oedd, i bob pwrpas, yn annog pobl i dorri'r gyfraith.
Byddaf i'n ymdrin yn awr â'r pwyntiau mwy pendant gan y bobl sy'n anghytuno ac yn gwrthwynebu'r rheoliadau. O ran y gogledd, byddwn yn trafod y rheoliadau hynny yr wythnos nesaf, ond fel y dywedais i, mae'r pedwar awdurdod yn y gogledd sydd mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau ychwanegol ymhell y tu hwnt i 50. Mae Gwynedd mewn sefyllfa wahanol i rai o'r awdurdodau hynny, oherwydd bod cyfradd Gwynedd wedi codi, ond rydym yn hyderus o'r data ychwanegol sydd gennym ni o'r broses profi, olrhain a diogelu ei fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn grŵp penodol o neuaddau preswyl myfyrwyr. Nawr, mae nifer yr achosion yn gymharol fach, mewn gwirionedd, yn ôl y darlun cyffredinol, ond mewn sir fel Gwynedd, gyda'r boblogaeth sydd ganddi, mae'n cynyddu'r gyfradd ymhell y tu hwnt i 70 yn ôl ffigurau heddiw. Ond oherwydd ein bod yn hyderus ynghylch ble mae'r lledaeniad—nad yw wedi mynd yn drosglwyddo cymunedol ym Mangor—nid oes angen i ni gymryd y camau ehangach hyn. Felly, rydym ni yn gosod y bar yn uchel wrth ystyried pa un a ddylem ni ymyrryd yn rhyddid pobl. Dyna'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio. Mae'n helpu i lywio'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yn Llanelli, lle mae cefnogaeth eang iddo. Felly, os yw'r data yn caniatáu i ni weithredu'r dull hwnnw, byddwn ni yn gwneud hynny, ac mae'n ystyriaeth reolaidd i'r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith.
O ran y cyfleoedd ar gyfer dadl amser real, wel, mae hwnnw yn ddewis i'r ddeddfwrfa yn y fan yma. Caiff y rhain eu gwneud o dan weithdrefnau sydd ar waith; maen nhw'n weithdrefnau sy'n agored, gan ddarparu deddfwriaeth gadarnhaol, ond mae'n rhaid i'r ddeddfwrfa gytuno arnyn nhw er mwyn iddyn nhw barhau mewn grym. Ac, wrth gwrs, o fewn Senedd y DU, nid oes ganddyn nhw yr un weithdrefn; mae mwy o graffu yma nag ar draws y ffin, ac rwyf i'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n ddewis i'r ddeddfwrfa yng ngweithrediad ei busnes a yw'n dymuno i adroddiad y pwyllgor fod yn rhan o'i hystyriaeth, oherwydd pe baen nhw'n dewis peidio â gwneud hynny, yna gallem ni, wrth gwrs, fod yn trafod y rheoliadau hyn yn gynharach. Rydym ni yn agored iawn i alluogi'r Aelodau i arfer eich swyddogaeth fel deddfwyr, cyn gynted â phosibl, i graffu ar yr hyn sy'n cael ei wneud.
O ran y cyrffyw 10 o'r gloch, unwaith eto, mae'n gyrffyw tebyg i'r un sydd wedi ei gyflwyno yn Lloegr. Mae gennym ni ychydig mwy o ryddid ar gyfer, os hoffech chi, amser 'gorffen eich diod', a rhan o'r rhesymeg dros hynny yw bod problem ynglŷn â chysondeb y neges. Pan ddywedodd Lloegr eu bod yn mynd i ddewis gweithredu'r dull 10 o'r gloch, bu'n rhaid i ni ddewis pa un a oeddem ni'n cadw at y dull 11 o'r gloch ai peidio; fe wnaethom ni ddewis peidio â gwneud hynny. Mae'n cynorthwyo cysondeb y neges ac yn cynorthwyo cydymffurfiaeth. Mae yna broblem ac rydym ni yn wirioneddol pryderu ynghylch pa un a ydym ni'n adleoli'r gweithgarwch ai peidio. Mae hynny'n helpu i ategu'r rhesymeg dros gadw eiddo trwyddedig ar agor, mewn gwirionedd, am rywfaint o'r amser. Ond mae pob un tîm iechyd cyhoeddus wedi dweud wrthym ni, o ran y cyfyngiadau, eu bod yn credu bod lledaeniad eilaidd o fewn safleoedd trwyddedig a bod angen cyfyngiad ffurfiol ar faint o amser y caiff pobl fod mewn safleoedd trwyddedig. Gan fod alcohol yn rhyddhau rhwystrau, ac rydym ni wedi gweld heriau penodol gyda phobl o ran digwyddiadau lledaenu wrth iddyn nhw yfed tan yn hwyr yn y nos ac o bosibl yn methu â chofio eu holl gysylltiadau hefyd. Felly, y mae wedi ei seilio ar wybodaeth leol ac y mae wedi ei seilio ar ddull gweithredu ledled y Deyrnas Unedig. Ac, mewn gwirionedd, fe ddaw o gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr i bennu'r mesur 10 o'r gloch yn gyntaf.
Rwyf i wedi siomi y bydd Aelodau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg. Rwy'n credu bod hynny yn gam difrifol iawn i'w gymryd pan all pawb weld heddiw fod y ffigurau mor uchel yn yr ardaloedd hynny fel eu bod nhw yn peri risg i ddinasyddion yn yr ardaloedd awdurdodau lleol hynny ac i ddinasyddion mewn rhannau eraill o'r wlad. Rwy'n gofyn unwaith eto i'r Aelodau Ceidwadol ailystyried eu hymagwedd, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, gan gynnwys fel deddfwyr. Nid wyf i'n cilio oddi wrth bobl sy'n gofyn cwestiynau anodd, ond rwyf i yn gofyn i bobl arfer eu cyfrifoldebau, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i gadw'r wlad yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus a hynod niweidiol hwn. Nid wyf i'n dymuno dychwelyd i'r lle hwn a gorfod darllen y ffigurau marwolaeth cynyddol yr ydym ni i gyd yn eu cofio o fis Ebrill a mis Mai. Rwy'n gofyn i bobl ystyried eto ac yn gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywaf wrthwynebiad, felly gohiriaf yr eitem honno hefyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf eto'r pleidleisio o dan yr eitem honno tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn yn oedi'r trafodion yn awr er mwyn caniatáu newid yn y Siambr.
Croeso nôl.