1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Hydref 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y gyllideb atodol a gafodd ei chyhoeddi neithiwr? Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn cyfnod sgrwtini y Pwyllgor Cyllid yn yr wythnosau nesaf. Mae yna symiau sylweddol wedi cael eu symud o fewn y flwyddyn ariannol yma, fel y buaswn yn ei ddisgwyl, oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, ac mae hynny'n cynnwys i lywodraeth leol. Ond mae yna ansicrwydd mawr yn parhau wrth gwrs am gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Heb fynd i fanylion mawr, mae fy nghyngor i yn Ynys Môn, er enghraifft, wedi gallu siarad efo fi am y rhai miliynau o bunnoedd o ddiffyg y maen nhw'n gallu eu hadnabod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf yn uniongyrchol oherwydd y pandemig yma, pwysau ar y sector gofal. Rydych chi'n edrych ar bethau fel pwysau ychwanegol ar y cynllun lleihau'r dreth gyngor, oherwydd bod mwy o bobl yn ddibynnol arno fo ac yn y blaen.
Ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi amlinelliad diweddaraf inni o beth fyddai'r egwyddorion y bydd y Llywodraeth yn eu dilyn o ran sicrhau bod cynghorau yn gallu cydbwyso eu llyfrau y flwyddyn ariannol nesaf? Ac a wnaiff hi edrych eto, yn sgil yr hyn sy'n cael ei amlygu rŵan, ar y syniad o gyllidebu dros gyfnod hirach—tair blynedd, dywedwn ni—er mwyn rhoi rhagor o sicrwydd ar gyfer y dyfodol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am nodi pwysigrwydd sicrwydd i awdurdodau lleol, ond hefyd i Lywodraeth Cymru, mewn perthynas â rheoli ei chyllideb dros gyfnod o flynyddoedd. Rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy siom ynglŷn â'r newyddion heddiw na cheir adolygiad cynhwysfawr o wariant mwy hirdymor ac yn hytrach, y bydd gennym gylch gwariant blwyddyn—adolygiad o wariant un flwyddyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ceisio rhoi mwy o sicrwydd i iechyd yn Lloegr, i ysgolion yn Lloegr a hefyd i brosiectau seilwaith mawr. Ond nid yw hynny o unrhyw ddefnydd i Lywodraeth Cymru o gwbl, oherwydd mae angen i ni wybod faint fydd cyfanswm ein cyllid er mwyn deall o ble y daw'r cyllid ychwanegol, os o unman, os oes peth ar gael ar gyfer ysbytai yn Lloegr, er enghraifft. Felly, rwy'n credu ei fod yn ganlyniad siomedig iawn i Lywodraeth Cymru a hefyd wedyn i awdurdodau lleol, oherwydd ni allwn drosglwyddo'r sicrwydd hwnnw os na fyddwn wedi'i gael ein hunain.
Rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd yn paratoi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwyf eisoes wedi cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau ac yn ddiweddar un gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai, a oedd yn awyddus iawn i bwysleisio'r achos dros gymorth i awdurdodau lleol. Ac o ran dull strategol y Llywodraeth yn gyffredinol, nid yw'n syndod o ystyried ein sefyllfa ein bod wedi cytuno eto eleni, yn amlwg, y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn flaenoriaeth i ni, ond hefyd, unwaith eto, byddwn am roi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Diolch am yr ateb yna, ac, wrth gwrs, dwi'n cyd-fynd efo'r Gweinidog o ran y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen efo adolygiad gwariant cynhwysfawr ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'n brawf unwaith eto, i mi, nad ydy San Steffan a Whitehall yn gweithio i Gymru—maen nhw'n gweithio i San Steffan ac i Whitehall.
Yn parhau efo llywodraeth leol, un elfen sydd wedi taro llywodraeth leol, wrth gwrs, ydy colled incwm. Mae'n taro gwahanol awdurdodau lleol mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y math o elfennau sydd ganddyn nhw o fewn eu portffolios sydd yn dod ag incwm i mewn. Ond, wrth gwrs, mae colled incwm ar lefel llywodraeth leol yn cael effaith uniongyrchol ar bawb trwy'r dreth gyngor yn y pen draw, o bosib, ond yn sicr o ran cynaliadwyedd y gwasanaethau y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw. Felly, ydy'r Llywodraeth yn gallu rhoi sicrwydd y bydd digolledu yn digwydd o ran y golled incwm i lywodraeth lleol—a nid yn unig rŵan, wrth gwrs, ond mi fydd yna incwm a fydd yn cael ei golli am fisoedd lawer eto oherwydd natur y pandemig rydym ni'n byw drwyddo fo?
Wel, mae dwy ffurf ar gymorth i awdurdodau lleol: yn gyntaf oll, cafwyd y gronfa galedi, sef cronfa o £310 miliwn, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd—i gael pobl sy'n cysgu allan oddi ar y stryd, er enghraifft—y cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, gofal cymdeithasol i oedolion, glanhau ysgolion ac yn y blaen, a rhywfaint o gyllid cyffredinol i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r problemau y maent yn eu hwynebu. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym wedi sefydlu cronfa o £198 miliwn i fynd ag awdurdodau lleol i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â'r holl incwm y maent wedi bod yn ei golli. Caiff y cyllid hwnnw ei dynnu i lawr bob mis. Felly, gallaf ddweud ein bod hyd yma wedi talu dros £127 miliwn mewn costau ychwanegol drwy'r gronfa galedi honno, a £59 miliwn ar gyfer incwm a gollwyd hyd yma. Dylwn ddweud bod yr incwm a gollwyd yn cael ei hawlio bob chwarter, a'r gronfa galedi'n fisol. Felly, rwy'n credu bod y cyllid a neilltuwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol drwy'r ddwy gronfa, sef cyfanswm o £0.5 biliwn, yn ddigonol, yn ôl fy nealltwriaeth i o ran y trafodaethau a gefais gydag awdurdodau lleol, i ateb y ddwy agwedd ar yr her y maent yn ei hwynebu. Yn sicr, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, bydd trafodaethau pellach yn digwydd wrth inni symud ymlaen gyda phroses y gyllideb.
A dyna'r pwynt dwi'n ei wneud yn fan hyn: dydy hwn ddim yn rhywbeth sydd yn mynd i fod drosodd yn fuan. Mae eisiau edrych ar hyn fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.
Un cwestiwn olaf, eto ynglŷn â llywodraeth leol, ac eto ynglŷn â'r hirdymor. Dwi'n croesawu cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu i helpu busnesau yn uniongyrchol. Dwi'n dal yn gwthio am ragor o gymorth, yn arbennig i rai sectorau sy'n cael eu hitio yn arbennig o galed, a'r rhai sy'n dal yn llithro drwy'r rhwyd, wrth gwrs. Ond pan ddaw hi at y gwaith o adeiladu yr economi, ydy, mae help i'r busnesau unigol yn bwysig, ond hefyd mae'r cynllunio a'r datblygu economaidd fydd yn digwydd ar lawr gwlad yn mynd i fod yn bwysig, ac mae llywodraeth leol yn mynd i fod yn allweddol ac yn mynd i fod angen adnoddau er mwyn gallu gwneud y math yna o ddelifro datblygu economaidd yn lleol. A gawn ni amlinelliad o'r lefel o gefnogaeth datblygu economaidd y gall cynghorau ei disgwyl? Achos mae'r cynghorau'n nabod yr ardaloedd maen nhw'n eu gwasanaethu a'r cyfleon fydd yn codi wrth ailadeiladu.
Wel, byddwch yn sicr wedi cael blas eisoes o'r math o feysydd y byddwn yn buddsoddi ynddynt drwy lywodraeth leol gyda'r gwaith y mae Jeremy Miles wedi bod yn ei arwain ar y pecyn ailadeiladu, a byddwch wedi clywed y cyhoeddiad am £340 miliwn i gefnogi rhywfaint o'r gwaith hwnnw. A bydd rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n mynd drwy awdurdodau lleol, gan ganolbwyntio'n benodol ar adeiladu tai, er enghraifft—y dulliau adeiladu modern, y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu i safonau amgylcheddol da iawn. Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwneud cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf am gynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn y £340 miliwn hwnnw, felly ni ddywedaf ormod yn rhagor am y cynlluniau penodol a gyhoeddir, ond bydd gan awdurdodau lleol ran bwysig i'w chwarae yn nifer o'r cynlluniau hynny.
Wrth edrych tua'r dyfodol, rydym yn cael trafodaethau da iawn gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ystyried a oes gennym rôl yn cefnogi benthyca i awdurdodau lleol ymgymryd â pheth gwaith cyfalaf sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol ein hunain, blaenoriaethau a welwch yng nghynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, y meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i ni yw tai a gofal iechyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae'r rhain yn amseroedd pryderus i fusnesau Cymru ac i weithwyr ledled Cymru gyda'r pandemig sy'n mynd rhagddo. Pa asesiad a wnaethoch o'r costau ariannol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac a ydych wedi ystyried cost unrhyw gyfyngiadau symud posibl yn y dyfodol hefyd—cyfyngiadau ar sail dreigl?
Yn amlwg, mae effaith unrhyw gyfyngiadau ar fusnesau yn arbennig o galed, nid oes modd gwadu hynny, a dyna pam rydym wedi rhoi'r pecyn cymorth hwn o £300 miliwn ar waith ar gyfer busnesau, gyda golwg ar wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru, a gwneud y broses ymgeisio—lle mae angen gwneud cais ac nid yw'n awtomatig—cyn gyflymed ag sy'n bosibl i gael yr arian hwnnw i fusnesau cyn gynted â phosibl. Oherwydd gwyddom fod llawer o fusnesau'n wynebu cyfnod mor anodd fel na allant aros i'r cyllid hwnnw ddod drwodd iddynt hwythau hefyd.
Rydym hefyd yn cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU. Felly, er bod gan Lywodraeth Cymru rôl gref a phwysig iawn yn darparu lefel o gymorth busnes, o ran cymorthdaliadau cyflog, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny'n llwyr ac mae'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ar ei gyfer. Nid oes gennym lefel o adnoddau i allu camu i'r maes hwnnw ac ysgwyddo hynny heb gyllid gan Lywodraeth y DU. Felly, byddai unrhyw gymorth y gall y llefarydd ei gynnig yn hynny o beth o ran cyflwyno'r achos i'w gymheiriaid yn San Steffan yn cael croeso mawr.
Fe wnaf yr hyn a allaf yn hynny o beth, Weinidog. Mae'n amlwg y bydd y cyfnod atal byr yn cael effaith ariannol sylweddol ar fusnesau a chyflogwyr ledled Cymru. Rydych wedi sôn am yr angen i gydweithredu â Llywodraeth y DU. Ymddengys bellach fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwybod bod cyfnod atal byr yn dod ddydd Mercher diwethaf, ac eto ni ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Canghellor tan ddydd Gwener. Erbyn hynny, roedd eisoes yn glir na ellid cyflwyno'r cynllun cefnogi swyddi yng Nghymru yn gynharach nag a gynlluniwyd. Sut y sicrhewch yn awr fod cyllid digonol ar gael i lenwi unrhyw fylchau fel nad yw busnesau Cymru'n gorfod llenwi'r bwlch cyflog eu hunain yn y pen draw, neu yn y senario waethaf, yn diswyddo gweithwyr?
Mae'n drueni mawr na wnaeth Llywodraeth y DU ymateb yn gadarnhaol i'n cais i gyflwyno'r cynllun cefnogi swyddi wythnos yn gynt. Gwnaethom hyd yn oed gynnig darparu'r cyllid a fyddai'n llenwi'r bwlch o adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt wneud hynny. Felly, mae'n drueni mawr nad yw Llywodraeth y DU wedi bod o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldeb tuag at weithwyr yng Nghymru, fel y byddwn wedi hoffi iddynt fod. Byddaf yn cael cyfle, fel y soniais yn gynharach, i godi hyn eto gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn cyfarfod yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond yn amlwg, nid yw'n sefyllfa foddhaol, ac yn enwedig i fusnesau sydd bellach yn gorfod gwneud cais i ddau gynllun gwahanol er mwyn cynnal eu staff, ac rydym yn pryderu'n fawr, yn amlwg, am yr effaith a gaiff hynny ar y gweithlu ac ar swyddi pobl.
Diolch. Rwy'n cytuno gyda chi ar y pwynt olaf hwnnw, Weinidog; yn sicr nid yw'n sefyllfa foddhaol. Mae Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud ei bod yn ymddangos yn bosibl iawn fod rhai pobl yn syrthio drwy'r craciau rhwng y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cefnogi swyddi, ac mae Ben Cottam o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud mae faint o ddryswch sy'n gysylltiedig â hyn...yn dangos pa mor gymhleth y gall hyn i gyd fod i gyflogwr bach yng Nghymru.
Gan edrych tua'r dyfodol nawr, addawyd mynediad i fusnesau at hyd at £5,000 yr un o gyllid mewn rhai achosion drwy'r pecyn cymorth presennol sydd ar gael. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidog yr economi i sicrhau bod yr arian hwn ar gael i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl?
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ar gymorth i fusnesau yng Nghymru, ac rydym wedi ceisio creu cynllun yma sy'n rhoi gallu i awdurdodau lleol symud y grantiau hyn ymlaen i fusnesau cyn gynted â phosibl. Bydd rhai ohonynt, yn amlwg, yn awtomatig, o ran cefnogi'r busnesau sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw annog busnesau i sicrhau bod gan yr awdurdodau lleol eu manylion diweddaraf. Gwn fod hynny wedi dal ychydig o daliadau yn ôl o'r blaen, felly byddai hynny'n rhywbeth y byddwn yn annog busnesau i'w wneud. Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, a hoffwn fynegi fy niolch mawr i'r gweithwyr mewn awdurdodau lleol a gafodd y grantiau allan i fusnesau mor gyflym ac effeithlon y tro diwethaf, a gwn y byddant yn gwneud yr un peth eto—a llawer ohonynt yn mynd y tu hwnt i'r galw, gan weithio oriau hir i wneud hynny. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch gwirioneddol am hynny.