13. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

– Senedd Cymru am 6:23 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:23, 3 Tachwedd 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Dwi'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7444 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:24, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y Gorchymyn hwn a'r gwaith parhaus ar y fframwaith ehangach.

Mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn sefydlu polisi newydd yn y gyfraith ar gyfer cyfranogiad y DU yn system masnachu allyriadau'r UE. Gan ddechrau ar 1 Ionawr 2021, bydd y cynllun yn cymell allyrwyr carbon mwyaf Cymru i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau wrth sicrhau chwarae teg ledled y DU.

Mae'r cynllun wedi ei gynllunio i weithredu fel system annibynnol os oes angen, ond y mae wedi ei gynllunio hefyd i hwyluso'r broses o gysylltu â system yr UE, ar yr amod bod y DU a'r UE yn dod i gytundeb. Dyma fyddai orau gan Lywodraeth Cymru a dyma'r canlyniad gorau i bob parti.

Mae'r cynllun yn gweithredu drwy osod terfyn cyffredinol ar gyfanswm yr allyriadau o weithfeydd diwydiannol, gorsafoedd pŵer a gweithredwyr awyrennau sy'n cymryd rhan. Mae'n ofynnol i gyfranogwyr y cynllun adrodd ar eu hallyriadau ac ildio nifer cyfatebol o lwfansau allyriadau yn flynyddol. Gellir prynu lwfansau allyriadau o arwerthiant y Llywodraeth neu ar y farchnad eilaidd. Caiff rhai lwfansau eu dyrannu heb daliad i ddiwydiannau sydd mewn perygl o ollwng carbon. Trwy bennu uchafswm absoliwt ar allyriadau, mae sicrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei ganlyniadau amgylcheddol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn un o gyfres o ddeddfwriaeth, y byddaf i'n disgrifio yn gryno. Mae'r Gorchymyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw yn sefydlu strwythur cynllun masnachu allyriadau'r DU ac elfennau polisi sylweddol, fel cwmpas, y terfyn uchaf a'r taflwybr, diffiniad lwfansau allyriadau, gorfodi a swyddogaeth rheoleiddwyr. Rydym ni hefyd yn cwblhau Gorchymyn arall, a fydd yn cael ei wneud trwy ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Bydd hwn yn ymdrin â dyrannu lwfansau am ddim a materion sy'n ymwneud â'r gofrestrfa. Yn ogystal, bydd is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cyllid 2020 yn ymdrin â phob agwedd ar ddewisiadau lwfansau allyriadau a dulliau sefydlogrwydd y farchnad. Mae'r Senedd wedi rhoi ei chydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gyfer yr agwedd hon ar y cynllun.

Yn olaf, mae deddfwriaeth sy'n defnyddio pwerau sylfaenol o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 yn cael ei gosod gan Lywodraeth y DU i ganiatáu i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol barhau â'i swyddogaeth fel y corff rheoleiddio ar gyfer y farchnad lwfansau allyriadau.

Mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn ceisio eglurder ynghylch agweddau ar y fframwaith nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol, a gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn benodol i mi yn ei lythyr diweddar ynghylch datrys anghydfod. Rydym ni'n bwriadu uwchgyfeirio anghydfodau i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, o gofio mai hwn yw'r unig ddewis sydd ar gael i ni nes i'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol ddod i ben. Bryd hynny, byddwn yn adolygu'r trefniadau. Fodd bynnag, dylai ein hymdrechion ganolbwyntio yn bennaf ar osgoi anghydfod. Mae ein concordat drafft, fel y cafodd ei gyflwyno i Weinidogion i'w gymeradwyo, yn disgrifio nifer o strategaethau i wneud hyn, gan gynnwys comisiynu tystiolaeth sydd wedi ei chwmpasu ar y cyd a phenodi cynghorwyr arbenigol i gynnal adolygiad cymheiriaid o'r dystiolaeth sy'n ffurfio penderfyniadau. Mae Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i ni gael cyngor gan y pwyllgor newid hinsawdd cyn deddfu ar gyfer cynlluniau masnachu carbon newydd a chyn gwneud diwygiadau penodol, er enghraifft i gwmpas neu hyd y cynllun.

Bydd gan bwyllgorau'r Senedd gyfle i graffu ar y cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat cysylltiedig, a byddwn yn ystyried eich barn cyn cwblhau'r dogfennau. Bydd sicrhau pontio cynaliadwy i sylfaen ddiwydiannol Cymru yn hanfodol os ydym ni am gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd mewn modd cymdeithasol gyfiawn. Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymhelliad ariannol i fusnesau reoli'r broses bontio mewn ffordd gost-effeithiol a hyblyg, wrth gynnal sicrwydd ynghylch yr amcan amgylcheddol cyffredinol. Felly, rwyf i'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 3 Tachwedd 2020

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wrth siarad heddiw, rwyf i'n tynnu sylw at ein dau adroddiad ar y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft hwn. Yn gyntaf, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 21, ac yn ail, o ran ein swyddogaeth gyfansoddiadol a'r Gorchymyn drafft yn rhan o'r fframwaith cyffredin ar gyfer cynllun masnachu allyriadau ledled y DU.

Fe wnaeth ein hadroddiad cyntaf, a gafodd ei osod ar 28 Medi 2020, un pwynt adrodd technegol, gan nodi bod y Gorchymyn drafft yn cael ei wneud yn Saesneg yn unig. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi

'ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei greu na’i osod yn ddwyieithog' gan y bydd yn destun craffu gan Senedd y DU. Nododd ein hunig bwynt rhinwedd gefndir polisi'r Gorchymyn drafft fel elfen ddeddfwriaethol o fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU ac fe wnaeth gydnabod llythyr y Gweinidog atom ni dyddiedig 18 Medi a oedd yn cynnwys rhestr ddiffiniol o'r gosodiadau yng Nghymru a oedd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft.

Ystyriodd ein hail adroddiad, a gafodd ei osod yr wythnos diwethaf, y Gorchymyn drafft yn rhan o'r fframwaith cyffredin ehangach ar gynllun masnachu allyriadau'r DU, a hoffwn i dynnu sylw at rai pwyntiau pwysig o'r adroddiad hwnnw. Er ein bod ni'n derbyn egwyddor cynllun ledled y DU, fe wnaethom ni nodi ein siom ein bod ni wedi gorfod craffu ar y Gorchymyn drafft heb fod yr holl ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys y cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat llywodraethu, ar gael mewn modd amserol. Arweiniodd y siom a'r pryder hwn ynghylch y dull a gafodd ei fabwysiadu at nifer o argymhellion gennym ni sy'n ymwneud â'r ddadl heddiw a datblygiad y fframwaith yn y dyfodol.

Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am sut y bydd y dull yn gweithredu ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, wrth i'r broses o ddatrys anghydfodau rhwng y Llywodraethau gael ei chynnwys yn y concordat llywodraethu. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog, yn ystod y ddadl hon, egluro sut y bydd yr anghydfodau yn cael eu datrys, ac yn fwy cyffredinol, fe wnaethom ni argymell hefyd y dylai'r Gweinidog egluro sut y bydd dulliau yn gweithredu ar gyfer newidiadau i'r fframwaith cyffredin yn y dyfodol, gan gynnwys y Gorchymyn, er mwyn caniatáu i bwyllgorau'r Senedd a rhanddeiliaid gymryd rhan. Rwyf i'n nodi sylwadau'r Gweinidog heddiw. Fe wnaethom ni nodi'r posibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU gyflwyno treth garbon ar gyfer y DU gyfan a fyddai'n disodli cynllun masnachu allyriadau'r DU. Rydym yn rhannu pryderon y Gweinidog ynglŷn â'r pwynt hwn, ac fe wnaethom ni argymell ei bod hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau yn rheolaidd.

Ac yn olaf, fel y cyfeiriais ato'n gynharach, rydym ni wedi siomi ein bod ni wedi gorfod craffu ar y Gorchymyn drafft yn absenoldeb elfennau eraill o'r fframwaith cyffredin. Mae hwn yn hepgoriad difrifol ac yn tanseilio'r broses graffu. Felly, rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, yn y dyfodol, nad yw'n gofyn i'r Senedd ystyried is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â fframwaith cyffredin cyn sicrhau bod y ddogfen fframwaith dros dro ar gael i'r Senedd graffu arni. Diolch, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 3 Tachwedd 2020

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y Gorchymyn drafft yng nghyd-destun ei waith ehangach ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU. Ni fydd ein gwaith ar y fframwaith cyffredin yn cael ei gwblhau tan yn llawer diweddarach y tymor hwn pan fydd yr holl gytundebau perthnasol ar waith. Er nad wyf i'n dymuno achub y blaen ar gasgliad y pwyllgor, mae nifer o faterion pwysig wedi dod i'r amlwg, y mae gwerth tynnu sylw Aelodau'r Senedd atyn nhw i helpu i lywio'r ddadl heddiw.

Mae cynllun masnachu allyriadau'r UE yn arf allweddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn gonglfaen i bolisi Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Er mwyn i Gymru wireddu ei huchelgeisiau newid hinsawdd ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit, mae cynllun credadwy ac ymarferol yn lle cyfranogiad y DU yng nghynllun masnachu allyriadau'r UE yn hanfodol. Cyn troi at fanylion cynllun y DU, hoffwn i fynegi ein siom bod gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft, sy'n sefydlu cynllun masnachu allyriadau'r DU, heb gael cyfle i ystyried y cytundeb fframwaith dros dro. Y cytundeb hwn fydd yn nodi'r trefniadau llywodraethau o ran cynllun masnachu allyriadau'r DU, gan gynnwys prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau yn y dyfodol. Rydym yn deall bod amseriad cyhoeddi'r cytundeb fframwaith dros dro hwn y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau, yn y dyfodol, na fydd gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo na chytuno ar elfennau deddfwriaethol fframweithiau cyffredin heb weld yr holl ddogfennau fframwaith cysylltiedig.

Gan symud ymlaen i gynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n cael ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, mae cynllun y DU yn adlewyrchu'n agos dyluniad cynllun presennol yr UE. Yn ôl y Gweinidog, mae hyn er mwyn lleihau unrhyw rwystrau neu rwystrau canfyddedig i gytundeb cysylltu â'r UE. Mae'n ymddangos bod hwn yn ddull synhwyrol, o ystyried y dewis y mynegodd llywodraethau ar gyfer cynllun cysylltiedig yr UE-DU. Ar yr un pryd, mae wedi arwain at feirniadaeth bod diffyg uchelgais yng nghynllun y DU a bod cyfle wedi ei golli i sefydlu system newydd ar ôl Brexit sy'n dangos bod y DU yn arwain y byd o ran lleihau allyriadau.

Fe wnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar y darpariaethau allweddol sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft sydd o'r diddordeb mwyaf i'r pwyllgor: cwmpas y cynllun a'r terfyn uchaf—cyfanswm lefel yr allyriadau a fydd yn cael eu caniatáu. Bydd cwmpas cynllun y DU yn cyfateb i gwmpas cynllun yr UE, o ran y sectorau a'r nwyon tŷ gwydr a gaiff eu cwmpasu. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu'r cynlluniau, ond nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd cynllun annibynnol yn y DU. Mae tua 11,000 o gyfranogwyr yng nghynllun yr UE; bydd hyn yn gostwng i ryw 1,000 mewn cynllun annibynnol. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r farchnad, y mwyaf llwyddiannus yw'r cynllun. Fe wnaethom ni glywed bod perygl, heb gynnydd yn ei gwmpas, y gallai cynllun annibynnol yn y DU fod yn anwadal. Os na chaiff cytundeb cysylltu ei gyflawni, bydd angen edrych eto ar gwmpas y cynllun, cyn gynted â phosib. Mae'r pedair Llywodraeth wedi ymrwymo i ystyried y dewis i ehangu cwmpas, ond, yn realistig, gall unrhyw ehangu posibl ar gwmpas y cynllun fod flynyddoedd i ffwrdd.

Gan symud ymlaen at y terfyn uchaf ar allyriadau, bydd y terfyn cychwynnol neu dros dro yn cael ei osod 5 y cant yn llai na chyfran dybiannol y DU o gynllun masnachu allyriadau'r UE. Mae'r terfyn hwn, fel y nododd y Gweinidog, yn dynnach ac felly yn fwy uchelgeisiol nag y byddai wedi bod o dan gynllun yr UE. Yn llythyr Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd at y pedair Llywodraeth dyddiedig Mawrth 2020, dywedodd fod cynigion interim y Llywodraethau ar gyfer y cynllun yn anghyson ag uchelgais sero net y DU, yn benodol o ran y lefel uchel o allyriadau a gaiff eu caniatáu o dan y terfyn arfaethedig. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod perygl wrth fabwysiadu'r cynllun masnachu arfaethedig o anfon neges niweidiol yn rhyngwladol, ac os caiff y terfyn ei osod yn rhy uchel, mae perygl iddo danseilio'r cynllun fel cynllun masnachu. Ac eto, nid yw'r Llywodraethau wedi ystyried y rhybudd hwn wrth gwblhau eu cynigion. Yn hytrach, maen nhw wedi ymrwymo i adolygu'r terfyn yng ngoleuni cyngor pwyllgor newid hinsawdd y DU ar dargedau carbon yn y dyfodol y mae disgwyl iddyn nhw gael eu cyhoeddi fis nesaf. Ond heb unrhyw ddisgwyl o ddiwygio'r terfyn tan fis Ionawr 2023 os nad hwyrach, bydd y cynllun yn gweithredu ar lefel is nag y gallai yn ei flynyddoedd cynnar. Fe wnaeth yr Arglwydd Deben, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y DU bwysleisio i ni fel pwyllgor bwysigrwydd gwneud pethau yn iawn a'u gwneud yn iawn o'r dechrau. Nid ydym ni wedi ein hargyhoeddi hyd yn hyn y bydd y cynllun sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft yn gwneud hyn.

Llywydd, rydym yn tynnu sylw at y materion hyn gan wybod yn iawn fod y bleidlais heddiw yn benderfyniad 'derbyn neu wrthod'. Bydd ein hadroddiad ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU yn nodi ein barn ar y cynllun, fel y mae wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, ac unrhyw welliannau yr ydym ni'n credu y mae angen eu gwneud, wrth symud ymlaen. Yn olaf, er bod gofyn i ni gymeradwyo'r Gorchymyn drafft sydd ger ein bron heddiw, nid oes sicrwydd a fydd cynllun y DU yn dwyn ffrwyth. Mae'n anffodus iawn, â dim ond ychydig wythnosau cyn diwedd y cyfnod gweithredu, nad yw Llywodraeth y DU wedi egluro hyd yn hyn a fyddai'n well gan Lywodraeth y DU, os nad oes modd dod i gytundeb cyswllt, gael cynllun annibynnol yn y DU neu dreth allyriadau carbon a gadwyd yn ôl. Ar hyn o bryd, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn dal i gymryd camau unochrog i gyflwyno treth a gadwyd yn ôl. Nid wyf i'n dymuno agor y ddadl heddiw ar y da a'r drwg sy'n gysylltiedig â phenderfyniad o'r fath. Fodd bynnag, os caiff penderfyniad o'r fath ei wneud, bydd y Gorchymyn drafft sydd ger ein bron, ar ôl ei wneud, yn ddi-werth. Gweinidog, os felly, a wnewch chi egluro a fydd gan y Senedd ran mewn diddymu'r Gorchymyn hwn? Diolch, Llywydd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:36, 3 Tachwedd 2020

Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r Gorchymyn yma wedi cael ei gyhoeddi ar ei ben ei hun, i bob pwrpas—in isolation fel maen nhw'n ei ddweud yn Saesneg. Mae e i fod yn rhan o becyn o bum darn o ddeddfwriaeth oddi fewn i fframwaith cyffredin a bod hwnnw'n cael ei weld ochr yn ochr â'r concordat yma sydd i fod i gael ei gytuno ar sut mae Llywodraethau'n mynd i ddod at ei gilydd i wneud iddo fe weithio. Nawr, mae gofyn i ni basio'r Gorchymyn yma heddiw heb i ni allu gweld y Gorchymyn yma yn y cyd-destun ehangach yna o holl ddarnau eraill y jig-sô, i fi, yn gamgymeriad. Ac, wrth gwrs, mae hwnna'n rhywbeth a ddywedwyd wrthym ni y byddwn ni yn cael ei weld cyn ein bod ni'n gwneud y penderfyniad. Ond dyma ni, fel rŷn ni wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Chadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, yn gorfod gwneud y penderfyniad heb weld y cytundeb fframwaith cyffredin, sydd, i fi, yn gamgymeriad.

O ganlyniad i hynny, wrth gwrs, does gyda ni ddim eglurder ynglŷn â pha brosesau gwneud penderfyniad fydd yna yn y dyfodol ar draws y pedair gwlad. Dŷn ni ddim yn ddigon eglur, yn fy marn i, ynglŷn â sut fydd unrhyw anghydweld rhwng y Llywodraethau'n cael ei ddatrys yn y tymor hir. A dwi'n meddwl bod y ffaith bod y Gweinidog wedi cyfeirio, yn ei sylwadau agoriadol, at ryw drefniant dros dro yn dweud cyfrolau am ble ydyn ni o safbwynt y berthynas rhwng y Llywodraethau yn cyd-ddatblygu'r cynllun sydd ger ein bron. Does dim eglurder, chwaith, o ran ble fydd y pres yn mynd—ble fydd y refeniw o'r cynllun yn mynd? Fydd e'n mynd yn ôl i boced y Trysorlys yn Llundain, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, neu a fydd yna gronfa dadgarboneiddio diwydiannol, fel y mae'r Gweinidog yn awyddus i'w weld? Os bydd y pres yn cael ei rannu ar draws y Deyrnas Unedig, sut fydd e'n cael ei rannu? Dŷn ni ddim yn gwybod os bydd e, wrth gwrs, ond sut fydd e'n cael ei rannu? Mae yna gymaint o gwestiynau sylfaenol heb eu hateb.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:38, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Os caiff y refeniw ei rannu, a fydd yn cael ei rannu ar sail poblogaeth? A yw'n mynd i ddod drwy fformiwla Barnett? A yw'n mynd i adlewyrchu'r ffaith bod 9 y cant o'r gosodiadau sy'n ddarostyngedig i'r cynllun wedi eu lleoli yng Nghymru, neu fod 15 y cant, rwy'n credu, o allyriadau'r DU o fewn y cynllun yn dod o Gymru? Mae cyfranogwyr cynllun masnachu allyriadau yn cyfrif am 46 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru a 30 y cant o allyriadau'r DU. Felly, heb atebion i'r cwestiynau hyn, mae perygl y byddwn ar ein colled yn anghymesur yma yng Nghymru.

Nawr, cynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau'r UE yw'r ffordd gywir ymlaen, ond rwyf i'n rhannu llawer o'r pryderon, yn enwedig y pryderon y mynegodd Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, ynghylch lefel yr uchelgais yn y fan yma, yn enwedig o ran y terfyn uchaf ar allyriadau a chwmpas y cynllun. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, fel yr ydym ni wedi clywed, yn dweud wrthym ni fod y cynigion yn anghyson â'n huchelgeisiau sero net. Ac eto, dyma ni heddiw, yn symud ymlaen beth bynnag, yn cymeradwyo hyn, o bosibl, yn ystod wythnos yr hinsawdd, o bob wythnos—pa mor eironig yw hynny?

Nawr, rwy'n sylweddoli nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd; mae'n fwy o adlewyrchiad o'r ffordd draed moch y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â'i pharatoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond mae hyn yn cael ei ruthro drwodd. Mae'n cael ei ddwyn ger ein bron mewn modd tameidiog. Ac, wrth gwrs, fel yr ydym ni wedi clywed, mae'n debygol iawn na fydd cynllun masnachu allyriadau beth bynnag, oherwydd bod Llywodraeth y DU erbyn hyn yn awgrymu mai'r dewis y maen nhw'n ei ffafrio yw treth allyriadau carbon. Felly, gallai hyn i gyd fod yn ddi-werth ymhen ychydig wythnosau. Ac, wyddoch chi, er ein bod ni'n cefnogi egwyddor cynllun masnachu allyriadau cysylltiedig, mae hyn mewn gwirionedd yn cynrychioli popeth sy'n anghywir am y broses, ar lefel rynglywodraethol, yn sicr, ond ar lefel y Senedd hefyd. Nid yw'n ddelfrydol; dadl 15 munud yw hon, ac, wrth gwrs, y mae wedi ei chyflwyno cyn i'r pwyllgor newid hinsawdd gael cyfle i ystyried a chwblhau ei drafodaethau ar y mater. Felly, mae'n destun rhwystredigaeth, ac mae arnaf ofn nad oes dewis gan Blaid Cymru ond ymatal.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 3 Tachwedd 2020

Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl. Fel y gwnes i ddisgrifio yn gynharach, bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn bolisi eithriadol o bwysig os yw Cymru am sicrhau sylfaen ddiwydiannol lwyddiannus a di-garbon yn y dyfodol. Rwyf i'n amlwg yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch lefel gychwynnol y terfyn uchaf a chwmpas y diwydiannau sydd i'w cynnwys. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt y bydd gosod y terfyn uchaf a'r taflwybr yn broses dau gam. Felly, mae lefel gychwynnol y terfyn uchaf eisoes yn fwy uchelgeisiol na phe byddem ni wedi aros yn system yr UE, a byddaf i'n cael rhagor o gyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr. Byddaf i hefyd yn gweithio gyda fy nghymheiriaid yn Llywodraethau eraill y DU i ymgynghori ar ddiwygiadau i'r terfyn, ac, yn sicr, y pwynt a gododd Mick Antoniw ynghylch sut y mae pwyllgorau yn cyflawni eu swyddogaeth graffu—mae hynny'n rhywbeth y byddaf i'n ei drafod hefyd i weld sut y mae gwledydd eraill yn ymdrin â'r broses hon hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon y mae'r Aelodau wedi eu codi ynglŷn â'r swyddogaeth graffu.

Bydd estyniad i'r cwmpas yn cael ei ystyried yn ystod yr adolygiad cyntaf o'r system gyfan, a fydd yn dod i ben erbyn diwedd 2023, fel y crybwyllodd Mike Hedges, a'n nod yw bod y cynllun masnachu allyriadau cyntaf yn y byd i osod taflwybr sy'n gyson â'r llwybr tuag at sero net. Yn y cyfamser, mae'r cynllun presennol yn darparu cyfnod pontio esmwyth i fusnesau sy'n wynebu cryn ansicrwydd yn sgil ein hymadawiad â'r UE, ac mae hefyd yn hwyluso'r gallu i gysylltu â system yr UE, sef yr hyn yr ydym ni'n ei ffafrio yn gryf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yr hyn y mae'r pedair gwlad yn ei ffafrio yn gryf ar y lefel yr ydym ni'n ymdrin â hi, ar lefel weinidogol; hwn yw'r canlyniad gorau i bob parti. Ond, fel y cyfeiriodd yr Aelodau ato, yn anffodus, mae Llywodraeth y DU—adran wahanol yn Llywodraeth y DU i'r un yr wyf yn ymdrin â hi—wedi bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ynglŷn â'r dreth garbon. Ond rwyf i yn awyddus i sicrhau'r Aelodau fy mod i wedi ei gwneud yn glir iawn mai hwn yr ydym ni'n ei ffafrio, a'r gwledydd eraill hefyd yn yr un modd.

O ran y fframwaith ehangach, fel yr addewais i, byddaf i'n rhannu'r cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat â'r pwyllgorau perthnasol cyn gynted ag y byddan nhw ar gael. Yn ddelfrydol, bydden nhw wedi bod ar gael nid yn unig cyn y ddadl heddiw, ond cyn y craffu gan bwyllgorau ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae'r dogfennau, yn anffodus, yn dal i fod yn y broses glirio. Fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato, mae hyn y tu hwnt i fy rheolaeth i. Mae'r prif benderfyniadau polisi ar gyfer sefydlu'r cynllun wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau polisi sylweddol eraill ar y cynllun masnachu allyriadau nes bod pob un o'r pedair deddfwrfa wedi craffu ar y cytundeb fframwaith amlinellol a'r concordat a'u cwblhau. Mae'n bwysig cytuno ar y Gorchymyn a'i ddwyn i'r Cyfrin Gyngor er mwyn sefydlu cynllun masnachu allyriadau'r DU ar 1 Ionawr 2021. Felly, y tro hwn, gofynnaf i'r Aelodau gytuno ar y Gorchymyn cyn craffu ar y dogfennau fframwaith ehangach cysylltiedig. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:43, 3 Tachwedd 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.