2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i bobl yng Nghymru y mae'r cyfyngiadau symud yn effeithio ar eu hiechyd meddwl? OQ55802
Diolch yn fawr, Hefin, a diolch am ofyn dau gwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg heddiw. Mae'r pandemig a'r cyfyngiadau wedi effeithio arnom ni i gyd mewn rhyw ffordd neu gilydd, ond rŷn ni'n cydnabod yr effaith ychwanegol sydd wedi bod ar iechyd meddwl a lles. O ganlyniad i hyn, rŷn ni wedi buddsoddi dros £9 miliwn ychwanegol i gefnogi cymorth i iechyd meddwl, ac i ymateb i'r newidiadau yn y maes yma.
Diolch, Weinidog. Rwy'n cymeradwyo'r cyhoeddiad a wnaed heddiw hefyd—y buddsoddiad mewn iechyd meddwl a gyhoeddwyd gennych y prynhawn yma. Rwy'n bryderus am etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ac sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID, nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o'r blaen ac sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng COVID hwn. A gaf fi ofyn i chi a ellir rhoi mwy o arian i linell gymorth CALL i gefnogi'r bobl hynny? Beth arall rydych yn ei wneud i helpu pobl nad ydynt, o bosibl, eisiau mynd at eu meddyg teulu gyda'u problem iechyd meddwl oherwydd nad ydynt erioed wedi gorfod gwneud hynny o'r blaen? Pa gamau sy'n cael eu cymryd yn y meysydd hynny, os gwelwch yn dda?
Diolch, Hefin. Rwy'n credu bod rhaid i ni gydnabod bod rhai pobl yn dal i deimlo ychydig o embaras ynglŷn â'r ffaith y gallai fod angen cymorth iechyd meddwl arnynt, ac felly, rhaid i ni sicrhau bod mecanweithiau ar waith iddynt gael rhywfaint o help. Weithiau efallai na fyddant eisiau mynd drwy eu meddyg teulu, a dyna pam rydym eisoes wedi ehangu llinell gymorth CALL, felly diolch am holi ynglŷn â honno. Mae'r cyfleuster hwnnw eisoes wedi'i ehangu. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau i'r llinell gymorth honno. Roeddwn yn ddigon ffodus i siarad â'r pennaeth yn Wrecsam am y gwasanaethau y gallant eu darparu, a gallant hefyd fod yn wasanaeth cyfeirio lle gall pobl fynd i gael cymorth ychwanegol.
Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi cyflwyno cynllun cymorth therapi gwybyddol ymddygiadol newydd ar-lein. SilverCloud yw enw'r cynllun. Cafodd ei lansio ym mis Medi, ac mae tua 2,000 o bobl eisoes wedi'i ddefnyddio. Fe'i cefnogir gan arbenigwyr ac rwy'n gobeithio y bydd hwn yn fecanwaith y gallai pobl nad ydynt o bosibl wedi gorfod ymdrin â'r mater hwn o'r blaen fod yn barod i'w ddefnyddio i weld a allant ymdrin â rhai o'u problemau drwy'r cyfleuster cymorth ar-lein hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai'r Aelodau o'r Senedd yn helpu i hysbysebu hynny i'w hetholwyr.
Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n pryderu'n fawr am y cymorth y mae dysgwyr addysg bellach a'r sector yn ei gael. Mae addysg uwch wedi cael £10 miliwn arall ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac er bod rhywfaint o hwnnw ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gorfod ynysu yn eu llety myfyrwyr, credaf fod rhywfaint ohono ar gyfer ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac ymdrin â materion iechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi—gwn fod hyn yn cynnwys addysg hefyd—a wnewch chi drafod gyda'r Gweinidog Addysg i weld a ellid ymestyn y math hwn o gymorth i gynnwys addysg bellach hefyd? Credaf fod angen buddsoddiad pellach, mwy o fuddsoddiad, mewn materion iechyd meddwl, cwnsela ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad, yn enwedig yn y sector addysg bellach.
Diolch yn fawr am hynny, Nick. Yn sicr, credaf ein bod wedi rhoi cryn gefnogaeth i ysgolion ac i addysg uwch. Byddaf yn edrych i weld a oes angen inni roi cymorth ychwanegol i addysg bellach. Mae'n debyg y byddant yn gallu cael gafael ar gronfeydd cyllid eraill, ond nid wyf yn ymwybodol bod yna bot penodol ar gyfer addysg bellach hyd yma, felly byddaf yn edrych ar hynny, Nick. Ychydig wythnosau'n unig y bûm yn y swydd—fe edrychaf ar hynny.
Mandy Jones.
A allwch chi fy nghlywed, Lywydd?
Gallwn, ewch amdani.
Diolch. Croeso i'ch rôl newydd, Weinidog. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw ein hiechyd meddwl, mae'n fater i bob unigolyn, bob teulu a phob cymuned. Rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â chau campfeydd, sydd, yn ogystal â darparu manteision iechyd meddwl ymarfer corff, yn gymunedau bach ynddynt eu hunain, a hefyd mannau addoli ar gyfer gweddïo cymunedol. Mae'r ddau fath o sefydliad yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chymuned ac rydym angen y pethau hynny yn awr yn fwy nag erioed. Weinidog, a wnewch chi gydnabod pwysigrwydd campfeydd a mannau addoli—ac rydych newydd sôn am ymarfer corff hefyd—i'n hymdeimlad o lesiant, ac a allwch chi wneud popeth yn eich gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor ar ôl i'r cyfnod atal byr hwn ddod i ben yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
Diolch, Mandy. Bu'n rhaid i'r Llywodraeth wneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Penderfynasom y byddai'n well cael cyfyngiadau symud eithaf llym dros gyfnod byrrach, yn hytrach na gadael rhai pethau ar agor. Ac roedd llawer o achosion lle gallem fod wedi dweud, 'Wel, dim ond hwn', neu, 'Dim ond hwn', a byddai hynny wedi cyfrannu at effaith lai yn gyffredinol o ran ceisio atal y feirws rhag lledaenu. A dyna'r rheswm pam y cafodd campfeydd eu cau. Rydym yn deall yn iawn. Mae cysylltiad cydnabyddedig rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl gwell. Felly rydym yn gwybod nad yw cau campfeydd yn benderfyniad a wnaethom yn ysgafn a dyna pam y byddwn yn eu hailagor.
Ac yn sicr mannau addoli—gwyddom pa mor bwysig yw'r rheini i iechyd meddwl a llesiant pobl. Ceir tystiolaeth eto i awgrymu bod yr agwedd ysbrydol ar fywydau pobl yn rhywbeth a all wella eu hiechyd meddwl. Ac yn sicr, fel menyw gyda gŵr sy'n offeiriad, gwn ei fod yn fater pwysig i lawer o bobl ac, unwaith eto, byddwn yn falch iawn o fod yn agor y mannau addoli hynny wythnos i ddydd Sul.