1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws? OQ55825
Gwnaf wrth gwrs. Rydym yn gwneud popeth posibl i gefnogi busnesau ar draws pob rhan o Gymru. Ym Mro Morgannwg, er enghraifft, mae 612 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint wedi cael arian drwy'r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, gan sicrhau miloedd o swyddi, ac wrth gwrs, mae ein pecyn gwerth £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn dal ar agor i geisiadau.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn anffodus wrth gwrs, caewyd un edefyn o gymorth—y grant datblygu busnes—ar ôl 24 awr. Dywedai un neges fod hynny wedi digwydd er mwyn asesu'r ceisiadau, a dywedai neges arall nad oedd rhagor o arian ar gyfer ceisiadau pellach. A all y Gweinidog roi unrhyw hyder heddiw i'r ddadl y dylid ailagor y gronfa hon, os yw'n denu cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, ac y bydd y rhai a wnaeth gais aflwyddiannus yn cael ail gyfle os caiff y gronfa ei hailagor?
Wel, gallaf ddweud wrth Andrew R.T. Davies ein bod ar hyn o bryd yn asesu'r ceisiadau sydd wedi'u gwneud hyd yma. Yn wir, mae arian eisoes wedi'i ddyfarnu. Fel rhan o'r gronfa cadernid economaidd, mae cam 3 eisoes wedi darparu dros £40 miliwn o ddyfarniadau i fusnesau. Roedd angen gweithredu ar frys ym mhob un o'r camau. Mae hynny'n cynnwys cam 3. Dyna pam y gwnaethom oedi proses y ceisiadau am grantiau datblygu, fel y gallwn eu hasesu'n gyflym, i ni allu cael arian i fusnesau. Mae camddealltwriaeth wedi bod ynghylch pwrpas y grantiau datblygu. Grantiau datblygu yw'r rhain; nid dyfarniadau arian brys ydynt. Y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol sy’n cynnig hynny, cronfa sydd ar gael i bob busnes o hyd. Wrth gwrs, byddwn yn dysgu o'r ceisiadau a gyflwynwyd fel y gallwn deilwra pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd yn ôl anghenion busnesau, ac os yw hynny'n golygu datblygu ffurf newydd ar gyllid grantiau datblygu, bydd hwnnw ar gael i fusnesau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fecanwaith ar gyfer mynegi diddordeb trwy wefan Busnes Cymru. Felly, hoffwn ddweud wrth unrhyw fusnes a oedd yn bwriadu gwneud cais 'Daliwch eich gafael ar eich ceisiadau ac yn bwysig, daliwch eich gafael ar eich holl dystiolaeth ddogfennol ategol hefyd oherwydd gallai fod yn hanfodol bwysig yn yr wythnosau i ddod wrth inni symud o gam 3 y gronfa cadernid economaidd i gam 4 y gronfa cadernid economaidd'.
Ers COVID, mae gwasanaeth y Post Brenhinol yn y Rhondda wedi dirywio'n ddramatig. Mae etholwyr wedi adrodd am enghreifftiau fel llythyr dosbarth cyntaf yn cymryd wyth diwrnod i fynd o Porth i Pentre, a chwe diwrnod arall i fynd o Porth i Bontypridd. Dywedir wrth bobl am wneud apwyntiadau gyda'r swyddfa ddidoli yng Nghlydach os na allant aros am bost brys. Nawr, byddai hyn yn ddigon drwg ar adegau arferol, ond gyda niferoedd cynyddol o bobl yn gweithio gartref, a niferoedd cynyddol o bobl yn aros am apwyntiadau meddygol brys, mae’n amharu ar yr economi leol yn ogystal ag iechyd pobl. Ysgrifennais at y Post Brenhinol bron i fis yn ôl, yn gofyn iddynt am welliannau ac am esboniad, ac rwy'n dal i aros am ateb. Yng ngoleuni'r problemau y mae hyn yn eu hachosi i gynifer o bobl mewn cymaint o gymunedau yn Rhondda, beth y gall y Llywodraeth ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? A wnewch chi atgoffa'r Post Brenhinol am eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i'n cymunedau ledled y wlad?
A gaf fi ddweud wrth Leanne Wood fy mod yn siomedig iawn o glywed am lefel y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i'w hetholwyr yn Rhondda? Ac wrth gwrs, er bod yn rhaid i fusnesau weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID, sy’n gallu arwain weithiau at oedi yn y gwasanaethau a ddarperir, mae hyn yn newyddion siomedig, a byddaf yn gwneud ymholiadau ar ran yr Aelod lleol, ac yn dwyn y mater i sylw'r Post Brenhinol. Cyn gynted ag y clywaf ganddynt, fe gysylltaf â chi.
Weinidog, mae llawer o ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar sail hunangyflogedig, neu fel gweithwyr llawrydd. Mae llawer o fy etholwyr yn y sefyllfa honno, ac wrth gwrs, y brif ffynhonnell o gymorth ar eu cyfer fu'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig. Nawr, a gaf fi ddweud yn gyntaf pa mor bwysig i'r busnesau unigol hynny yw'r gronfa cydnerthedd diwylliannol—cronfa'r gweithwyr llawrydd—ac mae llawer o bobl wedi elwa ohoni. Ond y brif ffynhonnell o gymorth yn amlwg yw cymorth Llywodraeth y DU. Nawr, mae yna bum miliwn o bobl hunangyflogedig yn y DU, sy'n golygu bod tua 250,000 i 300,000 neu fwy yn ôl pob tebyg yng Nghymru, sy'n golygu, yn llythrennol, na fydd 50,000, 60,000, 70,000 ohonynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Mae llawer ohonynt yn etholwyr i mi, a chefais sylwadau ganddynt i'r perwyl hwn. Beth arall y gellir ei wneud i gefnogi'r hunangyflogedig a'r gweithwyr llawrydd? Pa sylwadau sy'n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig? Disgrifiodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Sefydliad y Cyfarwyddwyr y gronfa fel un wastraffus, ddigyfeiriad ac wedi'i thargedu'n wael. A ydych chi'n cytuno â hynny, ac a ydych chi'n cytuno bod angen cynllun newydd go iawn i gefnogi gweithwyr hunangyflogedig yng Nghymru?
Rwy'n credu y gellid gwneud mwy bob amser o ran bod yn ymatebol ac yn gyfrifol. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy cyfrifol ac ymatebol i anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd, i'r bobl sy'n parhau i ddisgyn trwy'r rhwyd nad ydynt eto wedi cael cymorth yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i nodi. Ac yma yng Nghymru, rydym wedi cau llawer o'r bylchau hynny, fel y nodwyd eisoes, drwy greu’r gronfa adferiad diwylliannol, cronfa i weithwyr llawrydd. Mae'r gronfa cymorth dewisol wedi cael cymorth ariannol ychwanegol, ac wrth gwrs, rydym wedi sefydlu dyfarniadau dewisol i awdurdodau lleol, sy'n werth cyfanswm o £25 miliwn. Ac mae'r grantiau hynny ar gael i unig fasnachwyr, ac yn amodol ar feini prawf penodol wrth gwrs. Ond mae hyn yn dangos sut rydym yn camu i’r adwy, gan gau bylchau a grëwyd gan gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU. Ond rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael ag anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd.