2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:40, 17 Tachwedd 2020

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i fusnes yr wythnos hon: bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gwneud datganiad llafar am Tata Steel yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:41, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad busnes, Trefnydd. A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n ymwybodol y bydd nifer o bractisau deintyddol a weithredir gan BUPA yn cau y flwyddyn nesaf, o ganlyniad i gyhoeddiad a wnaed gan y cwmni hwnnw yn y gogledd. Bydd hynny'n effeithio ar tua 10,000 o bobl yn fy etholaeth i fy hun sy'n dibynnu ar bractis BUPA ym Mae Colwyn, ac, fel y gwyddoch chi, mae eisoes prinder deintyddion y GIG lle mae modd ceisio cofrestru â nhw fel dewis amgen. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa hon, a hoffwn i weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnig ateb i'r bobl benodol hyn yn fy etholaeth i fy hun ac, yn wir, y rhai sydd wedi'u heffeithio mewn mannau eraill yn ardal Caernarfon, yn ôl a ddeallaf i. Felly, a gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig iawn hwn? Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:42, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn. Yn y lle cyntaf, rwy'n credu y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Iechyd ofyn i'w swyddogion gysylltu â'r bwrdd iechyd yn y gogledd i ddeall y sefyllfa'n well, gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo maes o law.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Cyn imi godi materion o dan y datganiad busnes heddiw, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gywiro'r Cofnod. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiais i mewn camgymeriad yn erbyn y cynnig ar y cyd ar Ddiwrnod y Cadoediad, ac roeddwn i wedi bwriadu ymatal ar y cynnig fel yr oedd wedi'i gyflwyno, er mwyn pleidleisio ar welliant Plaid Cymru. Er fy mod yn deall nad oes modd newid y bleidlais yn ôl-weithredol, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn, Llywydd, i gywiro'r Cofnod.

Gwyddom y gall ôl-effeithiau COVID hir adael pobl yn ddi-anadl, yn llesg, yn methu canolbwyntio ac mewn poen. Canfu astudiaeth gan King's College Llundain fod pobl hŷn, menywod a phobl sy'n cael nifer o symptomau gwahanol pan oedd ganddynt glefyd corafeirws yn fwy tebygol o ddatblygu COVID hir. Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Llywodraeth yn Lloegr gynlluniau i sefydlu mwy na 40 o glinigau arbenigol i ymdrin â COVID hir. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am ymateb Cymru i fynd i'r afael â'r cyflwr gwanychol hwn? A fydd gwasanaethau a chlinigau adsefydlu'n cael eu sefydlu yma i drin pobl a'u helpu i ddychwelyd at fywyd mor normal â phosibl? Sut yr ydym ni'n mynd i gyfrannu at ymchwil ar hyn? Beth yw'r strategaeth yng Nghymru i ymdrin â COVID hir?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:44, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai Leanne Wood wedi clywed y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gan David Melding yn gynharach, yn sôn am yr heriau sy'n gysylltiedig â COVID hir, yn enwedig yn etholaeth y Rhondda, a'r angen i sicrhau bod yr unigolion sydd wedi'u heffeithio yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Byddaf i'n bendant yn sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'ch pryder am hyn a'ch cais am ddatganiad yn benodol ar COVID hir, a gwn i y bydd e'n ystyried pryd fyddai orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sut y cefnogir unigolion yr effeithiwyd arnynt.FootnoteLink

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:44, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yr oeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog iechyd meddwl am fod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar ddementia a gafodd ei gynnal gennym ni'n ddiweddar a lle'r oeddem ni'n canolbwyntio ar y mater hwn, ond rwy'n siŵr y byddai'r ddau'n cytuno â mi fod y dystiolaeth y gwnaethom ni ei glywed, o ran effaith cyfyngiadau ar ymweld, gan y rhai sy'n byw gyda dementia yn gwbl dorcalonnus . Rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill, fel fi, yn awyddus iawn i archwilio, ar lawr y Siambr, botensial profion llif unffordd cyflym newydd i ddarparu ymweliadau diogel â chartrefi gofal. Nawr, rwyf i mor awyddus ag unrhyw un i weld myfyrwyr yn dod adref ar gyfer y Nadolig, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ddarparu ymweliadau diogel â chartrefi gofal fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:45, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, yn wir mae'n gyfnod eithriadol o anodd i bobl sydd ag anwyliaid mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio ac, yn wir, i'r bobl hynny mewn lleoliadau nad oes modd iddyn nhw weld teulu a'r ffrindiau y maent yn eu caru. Felly, mae hynny'n gwbl ddealladwy. Ac mae'r angen i gydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles gydag awydd i ddiogelu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal rhag y risg o haint yn un heriol iawn.

Mewn ymateb i gais tebyg gan Lynne Neagle ac eraill, yr wythnos cyn diwethaf darparodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn ymwneud â'r gwaith sy'n canolbwyntio ar gartrefi gofal. Ac yn benodol, soniodd am y ffaith ein bod ni'n ystyried ystod o ddewisiadau i gefnogi darparwyr i alluogi'r dewisiadau ymweld hynny sydd wedi cael asesiad risg, gan gynnwys, er enghraifft, man cyfarfod drwy'r podiau ymweld hynny ac ati, a hefyd, wrth gwrs, dreialu'r profion cyflym i ymwelwyr. Felly, fel y dywedais i, rydym wedi cael y datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar, ond rwy'n ymwybodol nawr bod Lynne Neagle yn awyddus iawn i gael y cyfle i glywed datganiad llafar ac i ofyn cwestiynau am hynny ac, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried yn briodol.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:47, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â digartrefedd yn ystod y pandemig. Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu ar y stryd a sicrhau bod llety brys ar gael—cam yr oeddwn i a llawer o rai eraill yn ei groesawu ar y pryd. Fodd bynnag, wrth i'r pandemig barhau i fynd rhagddo, rydym unwaith eto yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i gysgu mewn drysau siopau, y tu ôl i finiau neu ar ystadau diwydiannol. Ac yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf i wedi cael nifer o bobl o'r fath yn dod i fy swyddfa ranbarthol â thaer angen help arnynt. Dim ond y penwythnos hwn, gwelais o leiaf dri o bobl yn cysgu ar y stryd. Ar ddechrau misoedd y gaeaf, â COVID-19 ar gynnydd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod o hyd i lety i'r rhai sy'n cael eu hunain heb do dros eu pen a heb unman i arfer hylendid dwylo da. Felly, Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech ofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wneud datganiad brys i'r Senedd hon am y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf i roi terfyn ar gysgu ar y stryd unwaith ac am byth. Diolch, Llywydd.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:48, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfle i roi sylwadau byr ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i sicrhau y gall pobl ddod oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â phartneriaid mewn awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi bod yn gwbl anhygoel o ran sicrhau bod pobl yn gallu dod oddi ar y stryd ar hyn o bryd. Ond y cam nesaf, wrth gwrs, yw sicrhau y gall pobl fynd ymlaen i'r hyn y mae ein Gweinidog Tai yn ei alw'n 'gartref am byth', ac rwy'n credu y bydd y gwaith hwnnw'n hynod bwysig, yn ogystal â sicrhau na fydd pobl yn dychwelyd i'r strydoedd dros gyfnod y Nadolig. O ran pryd y byddai'r cyfle nesaf i glywed ynghylch hynny, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod cwestiwn i'r Gweinidog Tai ynghylch cysgu ar y stryd yn cael ei ofyn yfory yn y Siambr, felly gallai hynny fod yn gyfle cynnar i glywed am y cynlluniau nesaf.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:49, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ynghylch darpariaeth gofal critigol, yn benodol yn y de-ddwyrain. Heddiw, cafodd agoriad hirddisgwyliedig Ysbyty Prifysgol y Faenor newydd yng Nghwmbrân ei hysbysebu'n dda. Gobeithio y gwnaiff hyn drawsnewid gofal critigol ac arbenigol yn y de-ddwyrain. Mae'n wir dweud ei fod yn adeilad newydd gwych, yn gyfleuster newydd, ond mae yna faterion y mae angen eu datrys. Mae rhai gweithwyr y GIG wedi ymddiried ynof eu bod nhw'n ofni bod prinder staff yn yr ysbyty. Mae yno oddeutu 471 o welyau a llawer o ystafelloedd preifat, sy'n wych ar yr wyneb ond, wrth gwrs, yna mae angen mwy o staff neu staff nyrsio nag y byddech chi gyda wardiau traddodiadol. Felly, a gawn ni'r diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud i recriwtio mwy o staff i gyfleusterau newydd fel Ysbyty Prifysgol y Faenor?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:50, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Nick Ramsay am godi'r pryder hwnnw, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ymateb i fater tebyg iawn a gododd yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae ysbyty'r Faenor yn ysbyty o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau sy'n ddelfrydol ar gyfer rheoli cleifion sydd â COVID a'r rheini heb COVID, ac wrth gwrs mae llawer o ystafelloedd ynysu yno i atal lledaeniad ac yn y blaen. Felly, fel y dywed Nick Ramsay, mae'n gyfleuster rhagorol. Rydym ni'n fodlon bod y bwrdd iechyd wedi trafod y cynlluniau i agor yr ysbyty gyda chydweithwyr clinigol, gan gynnwys efallai'r cyd-weithwyr hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi. Ond, wrth gwrs, mae'n iawn ac yn briodol codi unrhyw bryderon sydd gan bobl a bod yn rhaid i bawb gydweithio i sicrhau bod y risgiau hynny'n cael eu lleihau. Felly, fe fyddwn i'n  gwahodd Nick Ramsay i anfon y pryderon a godwyd gydag ef yn ddienw at y Gweinidog Iechyd fel y gall ef eu hystyried nhw a sicrhau bod y pryderon hynny yna'n cael eu codi'n uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:51, 17 Tachwedd 2020

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglyn â phenderfyniad y Llywodraeth i dorri'r gefnogaeth mae wedi bod yn ei darparu ar gyfer y sector ynni hydro yng Nghymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae yn bisâr fod gennym ni ar un llaw Lywodraeth sy'n dweud eu bod nhw eisiau tyfu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ond ar y llaw arall yn torri'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'r sector ynni hydro—yn wir, yn tynnu'r mat o dan draed y sector, yn gadael, mae'n debyg nawr, rai o'r prosiectau hynny i fod yn anghynaladwy. Dwi'n gwybod am o leiaf un sy'n wynebu cynnydd o 1,000 y cant yn y trethi busnes maen nhw'n mynd i orfod eu talu. Mi wnaeth y sector gynnig cyfaddawd, a'r Llywodraeth i bob pwrpas yn anwybyddu hynny. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi anwybyddu argymhellion wnaethpwyd mewn adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth eu hunain, oedd yn cynnig datrysiad tymor hir i'r sefyllfa. Mae cyfathrebu gyda'r sector wedi bod yn eithriadol o sâl, nifer yn teimlo eich bod chi wedi claddu eich pennau yn y tywod, yn sicr wedi troi cefn arnyn nhw. Felly, mae angen datganiad arnom ni i geisio deall rhesymeg y Llywodraeth y tu ôl i'r penderfyniad hyn, sydd yn ymddangos yn benderfyniad neu'n gam gwag fydd yn gwneud dim byd ond tanseilio'r ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:52, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

At hynny, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio rhyddhad bragdai bach. Nawr, ar hyn o bryd mae bragdai bach, y mae gennym ni lawer iawn ohonyn nhw yma yng Nghymru—y rhai sy'n cynhyrchu llai na 5,000 o hectolitrau y flwyddyn—yn cael gostyngiad o 50 y cant yn y dreth y maen nhw’n ei thalu, ond mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diwygio hynny, gan leihau'r trothwy'n sylweddol, gan effeithio'n ddifrifol ar y rhan fwyaf o fragdai yma yng Nghymru. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen yn y pwyllgor ac yma yn y Siambr. Dywedodd y Gweinidog nad oedd yn ymwybodol o'r mater ond y byddai'n gwirio a yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno unrhyw sylwadau. Ysgrifennodd hi ataf wedyn yn dweud nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud hynny gan nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ac felly ni fyddai Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd hyn. Nawr, mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr ag agwedd Llywodraeth yr Alban, sydd wedi gwneud ymdrech ar y cyd i gyflwyno sylwadau ar ran y bragdai bach yno. Felly, mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn rhagweithiol; mae Llywodraeth Cymru yn eistedd yn ôl ac yn dweud, 'Nid ein problem ni yw hon.' Nawr, mae bragdai bach yn un o'r llwyddiannau sydd gennym ni o ran twf y sector, a bydd llawer o hynny'n cael ei ddadwneud os caiff y trothwy treth hwn ei leihau. Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth yn ei gylch ac rwyf eisiau clywed beth yn union yw cynlluniau'r Gweinidog.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:54, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, ar y mater cyntaf, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i'r sector dŵr, ond byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod ein cefnogaeth yn canolbwyntio'n fawr ar gynlluniau ynni dŵr sydd wedi'u harwain gan y gymuned. Rwy'n nodi bod gennych chi gwestiwn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ynni adnewyddadwy yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i godi hynny, neu rwy'n siŵr y byddwch chi'n ysgrifennu at y Gweinidog i godi'r pryderon hynny ar ran y sector hefyd.

Yn bersonol, rwy'n rhannu pryder Llyr am y rhyddhad i fragdai bach. Yn sicr, rwyf wedi codi hynny fel Aelod etholaethol gyda Llywodraeth y DU ar ran y bragdy Gŵyr rhyfeddol sydd gennym ni—bu'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle i ychwanegu hynny. Ond byddaf i'n siarad â'r Gweinidog ar y mater penodol hwn, oherwydd mae ein bragdai bach yn arbennig o bwysig i lawer o'n cymunedau.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:55, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gawn ni ddadl ar y galw ledled Cymru ac, yn wir, ledled y DU, ar Lywodraeth y DU i ddatblygu ymgyrch defnyddio budd-daliadau ar draws y DU i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth ariannol yn ei gael mewn gwirionedd, yn enwedig wrth i'r dirywiad daro ein teuluoedd incwm isaf a'n cymunedau difreintiedig. Hefyd, a fyddai modd inni wneud y  cynnydd dros dro cyfredol o £20 yr wythnos ar gyfer credyd cynhwysol yn barhaol a'i ymestyn ar draws y budd-daliadau newydd a fydd yn disodli credyd cynhwysol yn y dyfodol agos? Mae'n sicr bod hwn yn rhwymedigaeth foesol, felly gadewch inni ddangos ble mae'r Senedd yn sefyll ar y mater hwn. 

Ac, yn yr un modd, a gawn ni ddadl hefyd ar yr ymgyrch flynyddol ar gyflogau byw gwirioneddol, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, ac ymgyrch Dinasyddion Cymru i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal? Eto, byddai'n caniatáu i'r Aelodau yn y fan hon ddangos eu cefnogaeth i hyn mewn egwyddor, ond gan hefyd gydnabod—mae COVID yn sicr wedi dangos hyn i ni—mai'r gweithwyr cyflog isel hynny sydd fwyaf gwerthfawr mewn gwirionedd, y rhai sy'n gofalu am ein cyfeillion a'n teulu, sy'n llenwi'r silffoedd, yn dosbarthu ein nwyddau, yn gweithio ar lawr y siop ac ar lawr y ffatri. Y nhw yw'r rhai sy'n haeddu ac sydd angen y cyflog byw gwirioneddol.

Llywydd, yn olaf, ar bwnc gwahanol iawn, mae darparwyr cyfleusterau diwylliannol yn fy ardal i wedi gofyn a gawn ni ddatganiad sy'n esbonio pam mae'n rhaid i ganolfannau celfyddydol a theatrau fel adeiladau yn eu cyfanrwydd aros ar gau? Oherwydd mae’r theatrau hyn yn fwy na mannau perfformio yn unig; maent yn darparu lle ar gyfer gweithdai, dosbarthiadau, cyfarfodydd, gwasanaethau addysgol, ac yn cael eu gweithredu a'u rheoleiddio'n broffesiynol a gallant fodloni gofynion diogelwch. Felly, gallai datganiad helpu i egluro y gall y lleoedd hyn, y cyfleusterau hyn, agor, yn amodol ar weithgarwch wedi’i reoleiddio ac nad yw'n ymwneud â'r enw 'theatr' neu 'leoliad diwylliannol' neu 'fan perfformio'. Byddai hyn yn help mawr. Diolch, Trefnydd.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:57, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am gyflwyno tri mater gwirioneddol bwysig y prynhawn yma. Roedd y cyntaf yn ymwneud â phwysigrwydd sicrhau bod pawb yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo, ac mae manteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau lles yn un o'n meysydd gweithredu pwysig ar hyn o bryd. Drwy ein cyllid ein hunain, rydym yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes hwn. Rhwng mis Ionawr a mis Medi eleni, mae'r gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau sy'n cael ei ddarparu drwy gronfa gyngor sengl Llywodraeth Cymru wedi helpu aelwydydd ledled Cymru i hawlio dros £20 miliwn o incwm budd-dal lles ychwanegol. A gadewch inni gofio, mae hynny'n £20 miliwn o gyllid sydd wedyn bron yn sicr yn cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol hefyd. Mae'n gwbl wir, serch hynny, fod angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud mwy, ac mae llythyr ar y cyd nawr wedi'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, ac wedi'i lofnodi gan Weinidogion o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn galw arnynt i gael dull gweithredu mwy strategol ar gyfer budd-daliadau lles, ac rwy'n credu bod honno'n ymgyrch bwysig y gallwn ni i gyd ei chefnogi. Ac, wrth gwrs, roedd y cyflog byw gwirioneddol yn rhywbeth y siaradodd y Prif Weinidog yn angerddol yn ei gylch yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ac fe wnaeth ef noddi'r digwyddiad hwnnw yn ddiweddar yn y Senedd wrth gwrs. Cyfeiriodd at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y contract economaidd, er enghraifft, yn ystyried hynny i gyd, a'r gwaith yr arweiniodd ef arno yn bersonol i sicrhau bod y GIG yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud llawer o gynnydd yn y maes hwnnw, ond mae llawer eto i'w wneud.

Ac yna, yn olaf, rydym wedi dechrau'r broses o ganiatáu i theatrau ailagor gyda chapasiti cyfyngedig, a diwygiwyd ein canllawiau erbyn hyn i ganiatáu i theatrau ailagor yn y safleoedd hynny os ydynt yn ceisio darlledu heb gynulleidfa yn bresennol, neu ar gyfer ymarfer hefyd. Ein disgwyliad yw y bydd disgwyl i ddigwyddiadau—digwyddiadau'n fwy cyffredinol—allu ailddechrau yn y gwanwyn. Felly, bydd angen i'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn fod yno i gefnogi'r sector a sicrhau'r cynaliadwyedd hirdymor yn y cyfamser. Ond, yng ngoleuni'r cyd-destun iechyd cyhoeddus ehangach, mae'n ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd aros ar gau i'r cyhoedd, a chafodd ein rhaglen o ddigwyddiadau prawf ei gohirio. Felly dyna, yn anffodus, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, a dyna pam mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi'r gronfa adfer honno ar waith.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:00, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Llywodraeth roi datganiad ynghylch pam mae niferoedd lawer o goed aeddfed ac iach yn cael eu torri i lawr ar ymylon ein cefnffyrdd? Ac, yn y datganiad hwnnw, a fyddai modd inni ganfod pwy sydd wedi awdurdodi'r ymyriadau dinistriol hyn? Mae enghraifft eithafol yn digwydd wrth inni siarad ar ffordd osgoi Cwmbrân, yr A4042.

Mae'n hysbys bod coed yn elfen eithriadol o bwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, gan eu bod yn amsugno llawer iawn o garbon deuocsid. Mae eu lleoliad ar ymylon y ffyrdd yng Nghymru yn eu gwneud yn arbennig o effeithlon yn y broses hon, heb sôn am eu rhinweddau pwysig yn amsugno sain.

Gweinidog, mae hyd yn oed archwiliad sydyn o'r coed hyn yn dangos eu bod yn aeddfed ac yn iach ac, felly, nad oeddent yn achosi unrhyw berygl diogelwch penodol. Felly, a gawn ni ddatganiad yn esbonio pam mae Llywodraeth sydd i fod yn ymrwymedig i Gymru ddi-garbon yn caniatáu, o bosibl yn awdurdodi, yr arfer dinistriol hwn i'r amgylchedd?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:01, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf i'n gyfarwydd â'r coed penodol na'r darn o ffordd y mae David Rowlands yn cyfeirio atyn nhw ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth yn y lle cyntaf, gan ddisgrifio ei bryderon, fel y gall y Gweinidog ymchwilio i'r mater a rhoi ymateb manylach iddo.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch i'r Trefnydd. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddwn yn awr yn cael toriad bach er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr. Diolch yn fawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:01.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:11, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.