7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau

– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:21, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.

Cynnig NDM7477 Helen Mary Jones

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:21, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hyderu na fydd y Siambr yn cael ei gorlethu gan ormod o Helen Mary Jones y prynhawn yma, ond mae'r amserlen, wrth gwrs, y tu hwnt i fy rheolaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno adroddiad y pwyllgor diwylliant i'r Senedd ar effaith COVID-19 ar dreftadaeth ac amgueddfeydd. Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gennym yn yr haf, wrth gwrs, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl dystion, i staff y pwyllgor a'n cyd-Aelodau—rwy'n rhagfarnllyd, wrth gwrs, ond credaf ein bod yn un o'r pwyllgorau gorau yn y Senedd—ac rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymgysylltiad ar y materion hyn ac am dderbyn ein hargymhellion. Dadl fer yw hon wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, ac ni allaf ond cyffwrdd ag ychydig o uchafbwyntiau.

Fel ar draws ein bywyd cenedlaethol, mae effaith pandemig COVID ar y sector treftadaeth wedi bod yn ddwys ac o bosibl yn drychinebus. Caewyd drysau ein hamgueddfeydd, ein llyfrgell genedlaethol, a sychodd yr incwm. Ond mae rhai materion wedi symud ymlaen ers i ni gyflwyno ein hadroddiad, ac mae'r sefydliadau wedi gallu defnyddio'r cynlluniau cymorth sydd wedi bod ar gael. Croesawn gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru yn fawr iawn, ac yn wir yr adnoddau ychwanegol ar gyfer y gronfa honno a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ac rydym yn croesawu ymestyn y cynllun ffyrlo, er y byddai wedi bod yn braf pe bai wedi bod yn bosibl i hynny ddigwydd pan oedd ei angen yng ngogledd Lloegr a Chymru, yn hytrach nag aros nes bod ei angen yn Surrey, ond nid dyma'r amser i fod yn chwerw, ac mae'r prif sefydliadau diwylliannol yn ein sicrhau y byddant yn gallu defnyddio'r estyniad a fydd, wrth gwrs, yn eu helpu i gadw eu staff. Mae sefydliadau wedi gallu agor, ac eithrio yn y cyfnod dan gyfyngiadau, er ei bod yn amlwg fod y niferoedd yn gyfyngedig ac felly yr effeithir ar incwm.

Tynnodd tystion ein sylw at bwysigrwydd gallu digideiddio eu casgliadau. Dyna'r ffordd, wrth gwrs, y gall y cyhoedd ledled Cymru, a thu hwnt yn wir, gael mynediad at rai o'r eitemau pwysig iawn sydd gennym yn ein sefydliadau cenedlaethol. Ond yn ôl ein tystiolaeth ni, mae'r gallu i wneud hyn drwy'r pandemig wedi bod yn amrywiol. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 ynglŷn â'r angen am strategaeth i gynyddu mynediad digidol at gasgliadau, ac edrychwn ymlaen at weld y strategaeth genedlaethol honno'n cael ei chynhyrchu. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 3 ynghylch darparu adnoddau ar gyfer digideiddio, mae gennym rai pryderon o hyd. Roedd yr adolygiad pwrpasol o'r llyfrgell genedlaethol yn ddiweddar yn dweud yn glir fod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn, ac mae'r llyfrgell yn glir fod angen adnoddau arnynt i wneud hynny'n bosibl. Bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad ar hyn, ac edrychwn ymlaen at drafodaethau pellach gyda'r sector a chyda'r Dirprwy Weinidog.

Dywedodd tystion wrthym fod yr argyfwng wedi gwneud iddynt ystyried ymhellach yr angen i ehangu a dyfnhau mynediad at ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r agenda ddigideiddio, ond mae hefyd yn ymwneud â sefydliadau cenedlaethol yn gweithio'n agosach gyda sefydliadau lleol, llyfrgelloedd lleol, amgueddfeydd lleol a sicrhau bod ein casgliadau'n fwy hygyrch.

Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r dangosyddion perfformiad ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, hyrwyddo mwy o gydweithredu ac annog cyflawni canlyniadau ym maes iechyd, addysg, trechu tlodi a chynhwysiant cymdeithasol. Cawsom ein hargyhoeddi'n fawr, Ddirprwy Lywydd, gan yr hyn a ddywedodd y sefydliadau wrthym am eu gallu i gyfrannu at yr holl agendâu pwysig hyn.

Nawr, unwaith eto, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r contract diwylliannol newydd, sy'n ofynnol ar gyfer sefydliadau sy'n derbyn arian o'r gronfa adferiad diwylliannol, yn gam pwysig i'r cyfeiriad iawn, ond unwaith eto, credwn fod mwy i'w wneud. Yn fwyaf arbennig, mae'n hanfodol fod gan sefydliadau adnoddau i wneud y math hwn o waith maes.

Mae llawer o bwyntiau pwysig eraill yn yr adroddiad na allaf eu crybwyll nawr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwyf am sicrhau bod gan yr Aelodau amser i gyfrannu a bod gennyf innau amser i ymateb i'r pwyntiau a wnaiff yr Aelodau. A gaf fi ddiolch unwaith eto i'n holl dystion, i'n staff ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at y ddadl.  

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:25, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae bob amser yn bleser ac yn rhwystredig, weithiau, cael dilyn Helen Mary, oherwydd mae hi mor ysbrydoledig ac weithiau'n bryfoclyd yn ei sylwadau, a byddwn yn dweud ei fod yn gyfuniad hyfryd i'w gael gan un o'ch gwrthwynebwyr.

O ran y cynllun ffyrlo, sy'n sylweddol iawn yn fy marn i, rydym wedi galw am rywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gwrando arno—ein llais ni, ymhlith llawer o leisiau eraill, mae'n siŵr. Ond mae'n bwysig iawn i'r sector. Darllenais yn y 'Financial Times' heddiw mai'r sector treftadaeth, ar 30 y cant, yw'r sector sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r cynllun ffyrlo, a dywedodd yr amgueddfa genedlaethol wrthym pa mor bwysig oedd y cynllun iddynt hwy. Felly, rwy'n falch y bydd yma tan ddiwedd mis Mawrth ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y peth iawn.

Roeddwn yn credu bod Helen Mary ar fin canmol Llywodraeth y DU, ond tynnodd yn ôl ar y funud olaf, gan gadw ei hygrededd o fewn ei phlaid ei hun beth bynnag, rwy'n credu, hyd yn oed os—. Roeddwn yn aros i weld rhyfeddod y naid honno i ganmol Llywodraeth y DU. Ond o ddifrif, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gynllun pwysig iawn, a nawr ein bod ar fin gweld ein ffordd allan o'r argyfwng gyda brechlyn rownd y gornel, rwy'n credu y gwelir bod y cynllun ffyrlo, wrth edrych yn ôl, wedi bod yn rhan allweddol o reoli canlyniadau economaidd yr argyfwng iechyd cyhoeddus erchyll hwn.

Credaf fod Helen yn llygad ei lle wrth ddweud am bwysigrwydd digideiddio'r casgliadau, gwaith sydd wedi datblygu'n sylweddol iawn. Cawsom dystiolaeth yr wythnos diwethaf ynglŷn â pha mor arloesol oedd y llyfrgell genedlaethol 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd ar y math hwn o weithgaredd, a'r amgueddfa hefyd, fe wyddom. A chredaf y byddai llawer ohonom wedi defnyddio'r adnoddau hyn: mae llawer o ysgolion, llawer o fyfyrwyr, a llawer o ddinasyddion na fyddent o bosibl wedi ymweld â chyfleusterau'r sefydliadau treftadaeth gwych hyn eu hunain wedi gallu gweld rhai o'r adnoddau bendigedig ar-lein. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i hynny barhau oherwydd bod iddo botensial i ddod â'r casgliadau cyfan yn fyw, nid yn unig y rhai y gellir eu dehongli ar unrhyw un adeg, neu eu harddangos yn ffisegol ar unrhyw un adeg.

Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw pwysigrwydd mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb a gwell canlyniadau iechyd. Oherwydd rydym wedi gweld cyfleusterau'n agor ychydig wythnosau'n ôl erbyn hyn. Gwnaeth yr amgueddfa genedlaethol gynlluniau ar gyfer ailagor Sain Ffagan yn rhannol, er enghraifft; wrth gwrs, mae trefniadau rhagarchebu a chyfyngiadau ar waith yno. Ond mae'n bwysig iawn fod ein cyfleusterau'n agored i bobl pan fydd ganddynt fwy o amser a phan fyddant am fynd i weld yr atyniadau hyn a hefyd i wneud ymarfer corff ar y safleoedd niferus yn y sector treftadaeth—eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phethau tebyg. Felly, mae gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi'r mynediad mwyaf posibl i'r rheini nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn o bosibl a'r gallu, yn lleol, i fwynhau gerddi neu beth bynnag yn eithaf hanfodol yn fy marn i, fel y mae agor y cyfleusterau hyn i ysgolion fel mater o flaenoriaeth, ac yn enwedig y rheini sydd mewn ardaloedd o dlodi cymharol.

Ar gyfer y dyfodol hefyd, credaf y bydd casglu deunydd o'r cymunedau hyn ar sut y llwyddasant i ymdopi â COVID yn bwysig iawn. Oherwydd pe bai unrhyw un ohonom wedi astudio epidemig 1920, rwy'n siŵr y byddai'n canolbwyntio ar salwch Lloyd George, gwaith yr elusennau mawr, Ambiwlans Sant Ioan efallai—rwy'n gwisgo eu tei, Urdd Sant Ioan, heddiw—sefydliadau gweithgar a phwerus iawn o ran cadw cofnodion, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw hynny i gyd. Ond rwy'n credu y byddai llawer o'r pethau cymdeithasol wedi'u colli 100 mlynedd yn ôl, ond nawr gallwn gyfleu hynny. Bydd gennym ddyddiaduron, bydd gennym gynlluniau gwaith ac adroddiadau dosbarth gan bob math o ysgolion a sefydliadau cymunedol sy'n helpu pobl i brosesu'r digwyddiad anhygoel hwn yn ein bywyd cenedlaethol. A chredaf y bydd yn bwysig iawn dysgu o hynny yn y dyfodol, felly cadw'r adnoddau hynny, ond hefyd cyfleu'r profiad hwnnw, a chredaf y byddai o werth hanesyddol mawr. Oherwydd bu'n rhaid inni astudio'r hyn a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl ac atgoffa ein hunain bod masgiau'n cael eu gwisgo 100 mlynedd yn ôl ar strydoedd Caerdydd ac nid yn unig yn Tokyo neu lle bynnag, lle credwn mai peth Asiaidd yn unig yw gwisgo masgiau, a chredaf fod hynny'n ddadlennol iawn. Felly, gobeithio y daw hynny'n rhan annatod o gasgliadau cenedlaethol.

Ac a gaf fi ganmol y sefydliadau sy'n gweithio mor galed? Rwyf newydd ddarllen yr wythnos hon am y £55,000 y mae'r amgueddfa wedi'i gael i roi hwb i'w chynnig dysgu yn ystod COVID, a daeth yr adnodd hwnnw o gronfa'r Fonesig Vivien Duffield, ac mae'n dangos i chi nad yw ein sefydliadau treftadaeth yn dibynnu ar grantiau'r Llywodraeth yn unig ond eu bod allan yno'n ceisio cael y gwerth mwyaf posibl i ni a bod ystod eang o arian ar gael iddynt pan fyddant yn codi arian yn effeithiol iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:32, 18 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad arall ac am y cyfle i'w drafod o heddiw yma. Mae'r gyfres yma o adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i daflu goleuni ar effaith COVID ar wahanol rannau o’r sector celfyddydau a chreadigol, ac, yn bwysicach, yn cynnig argymhellion pendant am beth sydd angen ei wneud.

Mae'r adroddiad yma, wrth gwrs, yn edrych yn benodol ar effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn hollol grediniol bod yn rhaid i Lywodraeth gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol er mwyn sicrhau eu cadernid a'u datblygiad i'r dyfodol. Mae gennym ni nifer dda o sefydliadau cenedlaethol sy'n cyfrannu'n helaeth at ein bywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Maen nhw'n rhan greiddiol o fywyd ein gwlad, yn cwmpasu theatr, opera a dawns, llenyddiaeth a llyfrau, archifau ac amgueddfeydd, heb anghofio’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Ond mae'r sefydliadau yma yn wynebu heriau sylweddol yn sgil yr argyfwng iechyd presennol, ond mae'n rhaid pwysleisio, fodd bynnag, fod y sefyllfa sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd wedi cael ei gwneud yn waeth oherwydd tanwariant, tanfuddsoddiad a llymder dros y ddegawd diwethaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarn a diamwys a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth briodol a haeddiannol i'n sefydliadau pwysig ni.

Fe gyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, oedd yn crynhoi hanes blwyddyn brysur iawn i’r sefydliad, efo bron i 2 filiwn o ymweliadau i’w gwefannau ac mae yna dros 300,000 o eitemau wedi cael eu digideiddio. Yn ddiweddar, fe gynhaliodd y llyfrgell genedlaethol yr adolygiad teilwredig, ac mae'n rhaid dweud bod y sefyllfa ariannol bresennol yn un difrifol. Mae'r llyfrgell wedi profi gostyngiad o 40 y cant yn ei grant cynnal—dydy hynny ddim yn wir am sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac mae tanfuddsoddiad wedi bod o ran isadeiledd a chynnal a chadw’r safleoedd. Mae yna ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o fwy na £60 miliwn ar gyfer ei wyth safle. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu'r incwm a denu nawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn amlwg mae COVID wedi ychwanegu at yr ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd, ac mi fyddai cael diweddariad gan y Dirprwy Weinidog am y trafodaethau ariannol efo'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn fuddiol iawn, dwi'n credu.

Fel mae Helen Mary wedi sôn, mae COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y maes digidol, ac mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn rhoi sylw haeddiannol i hyn. Mae angen i sefydliadau gydweithio a pheidio â dyblygu gwaith, yn enwedig o ran paratoi defnyddiau dysgu digidol ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol a byrddau iechyd. Ac mae angen i'r cynnydd mewn gweithgareddau ar-lein gael adnoddau priodol i lwyddo. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Dirprwy Weinidog sut mae o'n meddwl y dylai setliadau cyllid ar gyfer y sector yn y dyfodol ddarparu ar gyfer digideiddio casgliadau lleol a chenedlaethol a darparu ar gyfer gweithgareddau addysgol ac allgymorth ar y we.

Gaf i droi at ddau fater i gloi? Mae Eluned Morgan wedi nodi bod Llywodraeth Cymru am ryddhau astudiaeth dichonoldeb ar sefydlu archif genedlaethol i Gymru. Dwi'n credu bod hyn yn rhan o'r ddealltwriaeth oedd rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru ar gychwyn y Senedd yma. Mae COVID-19 wedi amharu ar waith yr ymchwiliad, dwi'n deall, ond dwi yn edrych ymlaen at weld y casgliadau a beth fydd y camau nesaf yn sgil yr astudiaeth yma. Felly, mi fyddai'n ddefnyddiol os medr y Dirprwy Weinidog roi ryw fath o amserlen inni ar gyfer cyflwyno'r gwaith yma.

Mae COVID-19 wedi amlygu'r argyfwng ail gartrefi sy'n wynebu ein cymunedau ni, ac, efo hynny, mae yna beryg i'n treftadaeth ni hefyd wrth i enwau gwreiddiol rhai o'r tai yma gael eu colli am byth. Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi llusgo ei thraed pan fo'n dod i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg yn hynod siomedig. Rydym ni'n parhau i wynebu sefyllfa lle does yna ddim ffordd o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru—enwau sy'n rhan mor bwysig o dreftadaeth a hanes ein gwlad. Mae angen rheoleiddio statudol. Dydy'r Llywodraeth hon ddim yn mynd i gyflwyno hynny, ond mae angen deddfu yn y chweched Senedd doed a ddelo. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:37, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Gan mai fi yw'r pedwerydd neu'r pumed siaradwr, rwy'n credu, mae'r rhan fwyaf o'r hyn roeddwn am ei ddweud bellach wedi'i ddweud, felly dim ond ychydig o sylwadau penodol rwyf am eu gwneud. Yr un cyntaf yw croesawu'r adroddiad, a chroesawu'n benodol y model hwn o adroddiadau byr ac i'r pwynt sy'n amserol ac yn gyfredol iawn, oherwydd mae'r ffordd honno'n gwarantu y gallant gael effaith uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd ar y pryd.

Un o'r pethau a'm trawodd fwyaf yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gawsom oedd pwysigrwydd faint o ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd o wahanol fathau, sydd bellach yn cael eu rhedeg bron yn gyfan gwbl gan gymunedau lleol, gan wirfoddolwyr, sy'n gyfrifol am godi eu harian eu hunain, ond sy'n chwarae rhan hanfodol yn cadw hanes y gymuned, y wybodaeth gymunedol sy'n bodoli. Roedd yn amlwg i mi fod llawer o waith y dylid ei wneud ac y mae angen ei wneud i gyfuno'r rhain a'u hasio gyda'i gilydd ar ryw ffurf gydlynol.

Gwnaeth peth o'r dystiolaeth a gawsom argraff fawr arnaf, o ran—nid yn gymaint yr anawsterau, ond y cyfleoedd sy'n codi o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn enwedig mewn perthynas â digideiddio. Roedd yn ymddangos i mi, gyda phob un o'r rhain, o ran y rôl y gallant ei chwarae nawr gyda chwricwlwm cenedlaethol Cymru yn ein hysgolion—. Dim ond dwy enghraifft yn fy etholaeth i. Mae crochenwaith Nantgarw yn rhywbeth sydd wedi mynd drwy ddadeni'n ddiweddar o ran pa mor gyfarwydd yw pobl ag ef a'r gwerth y mae pobl yn ei roi arno, oherwydd ei fod mor brin, ac oherwydd ei ansawdd. Wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID, edrychasant ar ffyrdd dychmygus iawn o godi arian. Maent wedi troi teilchion hynafol o grochenwaith yn emwaith, ac wedi bod yn ei werthu, yn ogystal â darparu llawer o wybodaeth leol am y gwaith a'r ffordd roedd y crochendy'n gweithio. Yr un peth gyda Neuadd y Dref Llantrisant—gwn fod y Gweinidog diwylliant wedi bod yno droeon. Ac wrth gwrs, mae'r rhain i gyd yn sefydliadau sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn ddibynnol iawn ar grantiau i oroesi, ac mae eu goroesiad yn gwbl hanfodol.

Y pwynt y byddwn yn ei wneud, ac efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidog wneud sylw arno, yw hwn: mae'r rôl y mae'r rhain yn ei chwarae nawr o fewn ein system addysg i'w gweld yn bwysig iawn i mi, yn ogystal â'r angen i'r cwricwlwm cenedlaethol gynnwys, ymgysylltu a chwmpasu, rywsut, yr holl ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd a sefydliadau hyn. Felly, os ydym am addysgu am hanes Cymru mewn gwirionedd, am hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt, wel, mae'r sefydliadau gennym yno. Yr hyn nad oes ganddynt yw'r integreiddio, yr adnoddau, y digideiddio i sicrhau bod y deunyddiau hynny ar gael ac yn hygyrch mewn ffordd sy'n cyflwyno'r cwricwlwm mewn gwirionedd. Felly, credaf mai'r un neges a ddaeth allan ohono'n gryf iawn i mi yw'r cyfle gwych sydd gennym gan ein bod yn edrych yn awr ar yr adnoddau sydd gennym, a sut y gallwn sicrhau gymaint yn well yn y dyfodol eu bod ar gael i holl bobl ein cymunedau, ond hefyd fel rhan ganolog o'n system addysg. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:41, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser unwaith eto gen i fel Gweinidog diwylliant i ymateb i'r drafodaeth yn y Siambr ynglŷn â'n sefydliadau cenedlaethol nodedig. Wrth wneud hynny, gaf i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a hefyd pwysleisio, wrth gwrs, ein bod ni wedi ymateb yn ysgrifenedig ym mis Medi, ac wedi nodi ein bod ni fel Llywodraeth yn falch iawn o allu derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac ein bod ni'n mynd ymlaen i'w gweithredu nhw? Fe wnaf i bwysleisio ar hynny yn fy ymateb cryno, gobeithio, i'r ddadl hon. Gaf i bwysleisio eto y gwnaf i ysgrifennu yn uniongyrchol at yr Aelodau am unrhyw bwyntiau na fyddaf i ddim wedi gallu eu hateb yn uniongyrchol?

Y neges bwysig sydd gen i, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gwrando ar y cais sydd wedi cael ei wneud yn gyson am gynyddu'r cyllid ar gyfer y sectorau rydym ni wedi eu trafod heddiw, er gwaethaf y cyd-destun cyllidol difrifol anodd rydym ni'n gweithio o'i fewn, ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, yn dilyn y galw am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, fe gyhoeddais i y byddai yna £10.7 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion. Yng ngoleuni'r ffaith bod yna geisiadau wedi cael eu gwneud i ni fel Llywodraeth nad oeddem ni'n gallu darparu cyllid iddyn nhw oherwydd bod nifer y ceisiadau yn llawer mwy enfawr na maint y cyllid, fe fydd yn rhaid inni geisio ffyrdd ar draws y Llywodraeth o weld os oes modd inni ddarparu rhyw gymaint yn rhagor o gyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, os oes peth ar gael, neu gynllunio ar gyfer hynny yn y blynyddoedd ariannol nesaf. Ond mae cronfa adferiad diwylliannol wedi cyrraedd £63.7 miliwn, ac, fel dywedais i, mae'r diddordeb yn y grantiau o bob math, gan gynnwys y grantiau treftadaeth 15 munud, wedi bod yn rhyfeddol, ac roeddwn i'n falch iawn o weld hynny.

Gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi siarad am dderbyn mor bwysig ydy'r datblygiad digidol i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud i ymateb i sefyllfa COVID ac i ddatblygu ffordd o gyfathrebu ac o fod ar gael i'r cyhoedd drwy Gymru? Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y modd y mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng yma, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy'r llyfrgell ddigidol. Mae llwyfannau digidol yn sicr yn mynd i gael mwy o rôl i'w chwarae yn y dyfodol agos, ac mi fyddwn ni'n ceisio ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n gallu cyllido o fewn y ffiniau cyllidol ac ariannol sydd gyda ni y datblygiad digidol, a bod hyn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Ac mae gwella sgiliau digidol y boblogaeth yn gyffredinol yn rhan bwysig iawn o'r prosiect yma, fel bod pobl yn gallu manteisio ar yr arlwy sydd ar gael.

Ond does yna ddim byd tebyg, wrth gwrs, i ymweld â safleoedd hanesyddol mewn gwirionedd—nid yn rhithiol ond yn bersonol. Ac mae hyn wedi bod yn anodd iawn yn y cyfnod yma. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi cael y profiad, oherwydd lle rydw i'n byw yn Llandaf, a dwi'n gwybod am lawer o bobl eraill hefyd, gan ein bod ni'n cerdded mwy ac yn teithio llawer llai, ein bod ni yn gweld pethau newydd yn ein cymunedau lleol yn ystod y cyfnod yma ac yn ailddarganfod safleoedd hanesyddol lleol. Ac mae hynny wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'n cymunedau.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, a dwi'n sicr nid hwn yw'r tro cyntaf ac nid hwn fydd y tro olaf y byddwn ni'n dod ynghyd fel Aelodau i ddangos cefnogaeth i'r sector ddiwylliannol. Ac mae'r feirniadaeth a'r anogaeth greadigol rydw i'n eu cael bob amser gan yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn y dadleuon yma yn rhywbeth sydd yn helpu i'm cadw innau ar y llwybr cul, fel petai. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:46, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Unwaith eto, nid oes ymyriadau, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Unwaith eto gyda dadleuon yn deillio o waith ein pwyllgor gwelwn ehangder y gefnogaeth, ehangder y syniadau a'r gydnabyddiaeth drawsbleidiol o ba mor bwysig, yn yr achos hwn, yw ein sector treftadaeth a diwylliannol i bob un ohonom.

Mewn ymateb i David Melding, roeddwn yn credu fy mod yn eithaf caredig tuag at Lywodraeth y DU. Roeddwn i'n gwneud fy ngorau. Dywedais fy mod yn falch eu bod wedi ei wneud, ond rwy'n credu y byddem i gyd y  cydnabod, mae'n debyg, y byddai wedi bod yn well pe byddent wedi'i wneud ychydig yn gynt. Ond y pwynt y mae David yn ei wneud yn bwysig iawn am yr angen am fynediad at gyfiawnder cymdeithasol: a oes angen i ni roi blaenoriaeth i gael ein hysgolion o'n cymunedau tlotaf i mewn, ac oherwydd na all pawb fynd i mewn i'n hamgueddfeydd, a ddylem fod yn flaenoriaethau felly? Ac fe'm trawyd yn fawr gan yr hyn a ddywedodd am y ffordd y mae'r amgueddfa genedlaethol yn casglu straeon COVID. Bydd hon yn archif wych—yr holl leisiau na allem eu clywed 100 mlynedd yn ôl y byddwn yn gallu eu clywed drwy'r prosiect hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld eu gwaith wrth iddo gael ei gynhyrchu. Dylwn ddatgan rhyw fath o fuddiant fel hanesydd dihangol fy hun. Bydd hwn yn adnodd gwych i haneswyr y dyfodol, a bydd yn sicrhau yr adroddir straeon pawb, nid dim ond y lleisiau mawr, fel y dywedodd David Melding. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei sylwadau cadarnhaol iawn am waith ein pwyllgor. Mae'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio y bydd angen cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth ar ein sefydliadau ac i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn fregus wrth wynebu'r argyfwng oherwydd y blynyddoedd o gyni. A bydd gennyf innau hefyd ddiddordeb mewn gweld y cynnydd o ran datblygu'r archif genedlaethol. Bydd angen i'r Llywodraeth barhau i gefnogi ein sefydliadau mawr ac yn wir, ein sefydliadau lleol llai. Bydd yn amser hir cyn y bydd y rhai a oedd yn bwrw iddi go iawn i allu gweithio'n fwy masnachol, bydd yn amser hir cyn y gallant ddychwelyd i'r lle hwnnw. 

Mick Antoniw, wrth gwrs, oedd yr un a awgrymodd yr adroddiad byr ac i'r pwynt, felly mae'n iawn i'w gymeradwyo. Ac rwy'n credu ei fod wedi galluogi ein pwyllgor i ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid mewn ffordd eithaf hyblyg ac ymatebol. Ac mae'r hyn a ddywed Mick am y cyfleoedd  digideiddio, wrth gwrs, yn gwbl gywir. Mae'n iawn i wneud y pwyntiau am y posibilrwydd o gofnodion wedi'u digideiddio, yn ogystal â chofnodion go iawn, yn ein sefydliadau i gyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol ledled Cymru, a dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn hefyd i dynnu sylw at yr arloesi sy'n digwydd mewn sefydliadau diwylliannol lleol, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod gemwaith crochendy Nantgarw ar fy rhestr cardiau Nadolig, rhag ofn bod unrhyw un yn gwrando. Mae'n hardd tu hwnt, ac am syniad clyfar, i ddefnyddio'r hyn sydd yn ei hanfod yn gynnyrch gwastraff nid yn unig i gynhyrchu incwm ar gyfer y crochendy, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ohono. Nid wyf wedi bod yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef, ac rwy'n sicr yn mynd i fynd pan fydd hynny'n bosibl.

Rwy'n falch iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion. Ac rydym yn ddiolchgar fel pwyllgor, ac mae'r sector yn ddiolchgar, am yr adnoddau ychwanegol sydd wedi'u darparu a'r cyllid ychwanegol yr wythnos hon. Gwn y bydd yn cydnabod y bydd angen cymorth pellach yn y tymor canolig, ac roeddwn yn falch o glywed yr hyn a ddywedodd am chwilio am gymorth trawslywodraethol.

Yma, hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am y cyfraniad addysgol posibl wrth i ni symud at y cwricwlwm newydd, lle bydd llawer mwy o amrywiaeth yn yr hyn a addysgir i'n pobl ifanc pan fyddant yn cael eu haddysgu am eu treftadaeth a'u diwylliant. Tybed a allai'r Dirprwy Weinidog, yn dilyn y ddadl heddiw, siarad â'r Gweinidog addysg a gweld a ellid symud rhai adnoddau i gefnogi'r llyfrgell genedlaethol efallai, a hefyd yr amgueddfa genedlaethol, mewn perthynas â'u hagenda ddigideiddio, oherwydd mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau gwych hynny ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru ac yn wir, i bob un ohonom.

Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad go iawn, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y dyddiau pan allwn ymweld â'n sefydliadau yn y ffordd yr arferem allu gwneud hynny. Yn y cyfamser, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r ffyrdd arloesol y maent wedi ymateb i gyfnod heriol iawn, ac rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall bod ganddo gonsensws trawsbleidiol mewn perthynas ag amddiffyn ein sefydliadau—lleol a chenedlaethol—a sicrhau y byddant yno i ni pan ddown allan o hyn, ac i'n plant a'n hwyrion mewn cenedlaethau i ddod.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:51, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:51, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn atal y trafodion yn awr i ganiatáu inni newid staff yn y Siambr, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:51.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.