– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Ac felly, rydym am symud at eitem 4, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da. Ddydd Iau yr wythnos hon fydd Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Ers 1992, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 3 Rhagfyr yn ddiwrnod i hyrwyddo hawliau a llesiant pobl anabl a dathlu eu cyflawniadau ledled y byd. Y thema ar gyfer 2020 yw adeiladu'n ôl yn well tuag at fyd ôl-COVID-19, sy'n gynhwysol o ran anabledd, yn hygyrch ac yn gynaliadwy. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar y problemau yn ein cymdeithas ni ac wedi ymhelaethu arnyn nhw. Nid yw llawer o'r rhain yn bethau newydd nac yn benodol i COVID, ond maen nhw wedi dod yn fwy amlwg i bob un ohonom ni. Yn ystod y pandemig, mae unigedd, datgysylltiad, torri ar drefn arferol a thorri ar wasanaethau wedi effeithio'n fawr iawn ar fywydau ac iechyd meddwl llawer o bobl anabl.
Mae'r data diweddaraf sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 68 y cant, neu bron saith ym mhob 10, o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn deillio o gymunedau ein pobl anabl yng Nghymru yn y cyfnod rhwng misoedd Mawrth a Gorffennaf. Fe adroddwyd hefyd bod niferoedd anghymesur o bobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o farw oherwydd COVID, ac rwy'n siŵr fod hwnnw'n achos tristwch mawr i ni i gyd. Fe ddaeth i'r amlwg hefyd nad o ganlyniad syml ac anochel i anabledd y cafwyd y gyfradd hon o farwolaethau, gan fod llawer o'r marwolaethau hyn yn amlwg wedi eu gwreiddio mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol. Gan adeiladu ar y cynnydd araf, rhaid cyfaddef, a wnaed dros y 25 mlynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ym mis Tachwedd 1995, mae'n rhaid inni gymryd camau cadarnhaol fel y gallwn wneud yn well wrth inni ddod dros effeithiau COVID.
Ers 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, model sy'n cydnabod bod pobl sydd â namau yn cael eu gwneud yn anabl gan weithredoedd ein cymdeithas ni ac nid gan eu hanableddau nhw. Wrth ddweud 'gweithredoedd ein cymdeithas ni', mae'n rhaid cofio mai pobl sy'n dylunio ac yn cyflawni'r camau anablu hyn, a phobl a systemau sy'n gwneud pobl yn anabl, boed hynny'n cael ei ysgogi gan ddiwylliant sefydliadol, anwybodaeth, rhagfarn neu ddifaterwch pur. Er bod llawer o'n gwaith ni wedi canolbwyntio'n briodol ar geisio lliniaru gweithredoedd ein diwylliant ni o ragfarn yn erbyn pobl anabl, rwy'n bwriadu archwilio sut y gallwn ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â rhagfarn yn erbyn pobl anabl.
Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall y model hwn, gan ei fod yn newid ein ffordd ni o feddwl. Mae'n golygu ein bod ni'n canolbwyntio ar nodi a dileu'r rhwystrau i gyfraniadau pobl anabl. Mae'n rhaid inni gynnwys y dull hwn yn ein holl waith ni wrth ddatblygu a chyflawni polisïau ar draws holl waith y Senedd. Dyna pam rwy'n falch o gefnogi ymgynghoriad presennol y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl geisio am swydd etholedig yn etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae hwn yn gam rhagweithiol tuag at leihau rhai o'r rhwystrau a allai fod fel arall yn atal unigolyn rhag cymryd rhan mewn democratiaeth leol a chynrychioli ei gymuned drwy sefyll am swydd etholedig. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gronfa hon yn annog pobl anabl i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Mae angen clywed eu lleisiau nhw ym mhob rhan o'r gymdeithas.
Mae gan bobl anabl ran allweddol i'w chwarae yn ein hadferiad economaidd ni hefyd, a dyna pam, yng Nghymru, y bydd gennym ni hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl cyn bo hir. Fe fydd yr hyrwyddwyr hyn yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i lunio gweithlu sy'n cynrychioli pawb ac yn agored i bawb. Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y cyflogwyr yn cael eu cefnogi gan becyn cymorth newydd, 'Cymru fwy cyfartal: canllaw ymarferol i gyflogwyr sy'n cyflogi pobl anabl', a gaiff ei lansio ddydd Iau nesaf i gyd-fynd â diwrnod rhyngwladol pobl anabl.
Fe fyddaf i'n siarad â rhanddeiliaid a chynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl yn rheolaidd drwy ein fforwm cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Rwyf wedi cadeirio chwe chyfarfod o'r fforwm hwn ers dechrau'r pandemig, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 21 Hydref. Mae eu cyngor a'u harweiniad nhw wedi ein helpu ni i ddeall sut mae'r pandemig yn effeithio ar wahanol gymunedau, yr hyn sy'n achos pryder i bobl, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i wneud pethau'n well, yn haws ac yn deg. Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r grŵp trawsbleidiol ar bobl anabl hefyd am eu rhan nhw yn y gwaith o daflu goleuni ar effeithiau COVID-19 o ran annhegwch. Mae aelodau fforymau anabledd yn cyfrannu at grŵp cyfathrebu hygyrch Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi gwybod inni am yr anawsterau a ddaw ar draws gwahanol grwpiau, gan gynnwys pobl anabl, wrth gael gafael ar wybodaeth yn ystod pandemig COVID-19. Fe roddodd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl adborth allweddol ar y canllawiau 'Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws', gan sicrhau bod ystyriaethau hygyrchedd yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu ac addasu canolfannau trefol a mannau gwyrdd. Felly, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth ni dros y misoedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid wedi bod o fudd enfawr.
Un o sgil-effeithiau enbydus y pandemig fu'r effaith ar yr economi ac yn enwedig o ran gallu sefydliadau'r trydydd sector i godi arian a chynnal eu hincwm. Mae hynny yn ei dro wedi cyfyngu ar eu gallu i gefnogi eu haelodau ac mae'r dyfodol yn llai sicr iddynt. Dyna pam rwy'n falch y dyrannwyd £200,000 o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer ail-greu i ariannu prosiectau anabledd ledled Cymru. Fe fydd hyn yn ychwanegu at y £100,000 a ddyrannwyd i Gymru o gynllun argyfwng COVID ledled y DU. Fe fydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau bach i naw o sefydliadau pobl anabl ledled Cymru, gan gefnogi gwaith hanfodol, rhoi gwybodaeth a chyngor a datblygu ffyrdd newydd o ymateb i anghenion pobl anabl o ran COVID-19.
Rwy'n hapus dros ben fod yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd wedi cytuno i arwain prosiect i lunio adroddiad ar effaith COVID ar bobl anabl. Fe fydd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Foster i ddwyn ynghyd yr wybodaeth, y dystiolaeth a'r astudiaethau achos.
Yn olaf, fy mwriad i yw y bydd yr adroddiad pwysig hwn yn llywio'r gwaith o adnewyddu fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd' a lansiais i yn 2019. Drwy ystyried y fframwaith eto yng ngoleuni COVID, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n gallu gweithredu ar garlam i ymgorffori'r hyn a ddysgwyd yn sgil y pandemig hwn. Gydag ystod mor bwysig o waith yn digwydd yng Nghymru, mae'n bleser gennyf wahodd pob un o Aelodau'r Senedd i ddathlu gyda mi gyfraniad pobl anabl yng Nghymru ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl, sy'n ceisio nodi a mynd i'r afael â'r gwahaniaethu, ymyleiddio, allgáu a diffyg hygyrchedd y mae llawer o bobl sy'n byw gydag anableddau yn eu hwynebu. Fe alwodd y Cenhedloedd Unedig nôl ym 1992 am ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu pobl sy'n byw gydag anableddau i'w gynnal ar yr adeg hon, ar y dyddiad hwn ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae'n gyfle inni amlinellu ac ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy yma yng Nghymru ein gwlad. Mae effeithiau'r coronafeirws, fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, wedi pwysleisio'r angen i weithredu yn hyn o beth, a hynny ar fyrder.
Mae llawer o elusennau pobl anabl yma yng Nghymru wedi uno i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu gyda phendantrwydd i ddiogelu llesiant a goroesiad pobl anabl ac eraill sydd mewn perygl mawr o gael y feirws. I bobl anabl, mae'n amhosibl dilyn llawer o'r cyngor ar sut i osgoi haint, fel hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol. Mae angen cymorth bob dydd ar lawer o bobl anabl ac mae angen cymorth cynorthwywyr personol a gweithwyr gofal arnynt. Fe fynegwyd pryderon ynghylch ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu pan fydd gweithwyr gofal yn ynysu neu'n mynd yn sâl. Mae elusennau pobl anabl wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau cydgysylltiedig ar waith ar sut i ymateb i brinder gweithwyr gofal. Mae'n amlwg bod pobl anabl yn debygol o wynebu niwed, nid yn unig yn sgil coronafeirws ei hun ond drwy'r pwysau cyffredinol sydd ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ddarparu gofal cymdeithasol a darparu gwybodaeth a chymorth hawdd ei gael yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu trin fel dioddefwyr anochel yn y pandemig hwn, ac felly rydym yn croesawu'r arian yr ydych chi newydd ei amlinellu yng ngoleuni COVID-19.
Rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn ei hateb hi, i gadarnhau y rhoddir blaenoriaeth i bobl anabl yn y rhaglen frechu sydd i ddod yma yng Nghymru. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn y DU ac, yn anffodus, ni chaiff Cymru ei heithrio o hynny. Fe fu yna gynnydd o 84 y cant yn nifer y troseddau casineb anabledd ar-lein a adroddwyd i'r heddlu yng Nghymru y llynedd. Er nad yw deddfwriaeth troseddau casineb yn gyfrifoldeb a ddatganolwyd i'r Senedd hon, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer eiriolaeth a chymorth i ddioddefwyr. Mae'n rhaid inni ddal ati i annog yr heddlu i weithio mewn partneriaeth â phobl anabl a'u sefydliadau nhw i sicrhau bod troseddau casineb anabledd yn cael eu cydnabod, eu cofnodi a'u hadrodd yn fanwl gywir.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod fy mod i'n cefnogi ymgyrch y Bleidlais Borffor, a anelir at godi mater ymwybyddiaeth o anabledd i'r rhai sydd mewn swyddi etholedig ar bob lefel. Mae'r gymdeithas yn parhau i osod heriau sylweddol ar bobl anabl, ac mae'n hanfodol bod pob llais o bob sector o gymdeithas Cymru yn cael eu clywed a'u bod nhw i gyd yr un mor ddilys â'i gilydd. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl wrth geisio swydd etholedig ar gyfer etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Rwy'n croesawu hyn ac yn edrych ymlaen at weld mwy o ymgeiswyr anabl yn sefyll mewn etholiadau ar lefel leol a chenedlaethol yn y dyfodol. Fe fyddai hynny'n ychwanegu llawer o werth at y gwaith a gafodd ei wneud yn y fan hon.
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a gaf i ofyn am y cyfleoedd sydd gan bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru? Mae angen i gyrff llywodraethu chwaraeon fabwysiadu dull sydd wedi'i gynllunio, sy'n fwy cydlynol a chydgysylltiedig o ymdrin â chwaraeon pobl anabl yng Nghymru. A ydych chi'n cytuno y dylai cyrff llywodraethu chwaraeon osod nodau ar gyfer codi cyfraddau cyfranogiad ymhlith pobl anabl, a sut mae Llywodraeth Cymru am arolygu'r cynnydd hwnnw o ran cael mwy o bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod angen mwy o gyfleusterau pob tywydd yng Nghymru i sicrhau bod cyfranogiad yn bosibl drwy gydol y flwyddyn? Fe all cymryd rhan mewn chwaraeon fod â rhan bwysig wrth wneud i bobl anabl deimlo eu bod yn cymryd mwy o ran a'u bod yn rhan gynhenid o gymdeithas. Dyma un o'r amcanion ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, a diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad hi heddiw.
Wel, diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones. Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei chefnogaeth hi i ymuno â'r dathliad hwnnw a chydnabod cefnogaeth gadarnhaol i Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, a diolch i chi nid yn unig am groesawu'r datganiad, ond am gyflwyno materion eraill hefyd, yn enwedig materion na wnes i fynd i'r afael â nhw, er enghraifft, o ran chwaraeon pobl anabl.
Mae'n bwysig ein bod ni'n dechrau, wrth gwrs, drwy ymateb i'r pwyntiau lluosog iawn a wnaethoch chi, drwy edrych ar yr effaith sydd wedi bod ar bobl anabl o ganlyniad i COVID-19, a phwysigrwydd dysgu, gwrando a gweithio gyda phobl anabl i fynd i'r afael â'r materion hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ein bod ni, yn gynharach yn ystod y pandemig, wedi cydnabod bod llawer o anawsterau, er enghraifft, sy'n wynebu pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg: cadw pellter cymdeithasol, ac fe gyfeirioch at y pwynt hwnnw am newidiadau i'r amgylchedd ffisegol, ac anawsterau o ran cynnal y pellter cymdeithasol o 2m. Fe godwyd hyn—y pwyntiau hynny—mewn fforwm cynnar ar gydraddoldeb anabledd, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael papur briffio a ddrafftiwyd gan RNIB Cymru a Chŵn Tywys Cymru, yn ôl ym mis Mai, a oedd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch mesurau trafnidiaeth gynaliadwy arfaethedig. Ac, wrth gwrs, fe fu'n rhaid adlewyrchu'r pwyntiau hynny mewn asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb; mae Cŵn Tywys Cymru yn anfon briff i mi a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac yn cyfleu hynny wedyn i awdurdodau lleol o ran newidiadau i amgylcheddau ffisegol, ac yna, ym mis Mehefin, fel y dywedais i, wrth gyhoeddi canllawiau o'r enw 'Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws'. Mae'r rhain i gyd yn faterion allweddol ar gyfer egluro sut rydym ni wedi gweithio gyda phobl anabl a'u sefydliadau nhw i geisio sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, cyn belled ag y bo modd, o ran yr effeithiau.
Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig hefyd ein bod ni wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r trydydd sector, ac yn arbennig drwy ddweud bod £1.1 miliwn o gymorth i'w roi i 24 o sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl—y gronfa argyfwng gwasanaethau gwirfoddol. Roedd 14 o sefydliadau, gan gynnwys Sparkle (De Cymru), Mirus-Cymru, RNIB, Anabledd Gallu Gwneud, Pobl yn Gyntaf y Fro, Parlys yr Ymennydd Cymru—yr holl sefydliadau hyn yn gallu cael cymorth o ganlyniad i'r gronfa honno a ddarparwyd gennym ni.
Mae'n bwysig eich bod wedi codi mater troseddau casineb, ac roedd y ffaith bod yr ystadegau troseddau casineb a gawsom ni'n fwyaf diweddar yn nodi bod 11 y cant yn parhau i fod yn droseddau casineb anabledd. Mae hyn yn peri pryder mawr. Mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth. Rydym wedi rhoi cyllid o £22,000 i Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar gyfer ymgynghoriad troseddau casineb gyda'u holl rwydweithiau nhw o oedolion ag anableddau dysgu. Mae'n hanfodol gwneud hynny, wrth gwrs, drwy sesiynau o bell, gan ymgysylltu â Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, i archwilio dewisiadau. Ond rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref hefyd i annog Llywodraeth y DU i gydnabod troseddau casineb ac, wrth gwrs, rydym ni'n aros nawr am y safbwynt o gyhoeddiad adolygiad Comisiwn y Gyfraith.
Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau allweddol, ac rwyf wedi mynd i'r afael â llawer ohonyn nhw yn fy mhapur i heddiw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—fel yr ydych chi eich hun wedi cydnabod—y bydd argaeledd y gronfa swyddi etholedig yn gwneud gwahaniaeth. Yn wir fe ddyfarnwyd y contract i Anabledd Cymru ar gyfer cyflwyno'r gronfa hon—prosiect peilot—i estyn cymorth i ymgeiswyr anabl, yn ein hetholiadau Seneddol a llywodraeth leol, ac rydym yn gobeithio y bydd y gronfa honno'n eu helpu nhw i gystadlu ar yr un lefel ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. Felly, rwy'n croesawu eich holl sylwadau, yn arbennig o ran cydnabod y sgôp a sylweddoli mai trwy weithio gyda phobl anabl sy'n dymuno gweithredu, a dysgu oddi wrthyn nhw—nid dim ond gwrando, maen nhw'n dymuno gweithredu—y gallwn ni ddwyn hyn ynghyd a bod yn atebol yn y datganiad heddiw.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad.
Mae grŵp Plaid Cymru yn croesawu'r datganiad hwn, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n cefnogi'r nod o nodi a dileu'r rhwystrau ar gyfraniadau pobl anabl i fywyd cyhoeddus, ac fe fyddwn ni'n hapus i hyrwyddo'r gronfa newydd hon i alluogi a chefnogi pobl i ennill swydd etholedig. Nawr, ynglŷn â'r gronfa honno, fe hoffwn i wybod beth sy'n cael ei wneud, mewn ffordd gyfredol, i sicrhau y caiff y gronfa ei gweinyddu a'i rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n croesawu'r ffaith mai Anabledd Cymru fydd yn gwneud y gwaith gweinyddol, ond mae angen arolygaeth barhaus ar hynny.
Erbyn hyn, mae pandemig COVID wedi amharu ar fywyd bob dydd i bawb. Eto i gyd, mae'n hanfodol nad ydym ni'n colli golwg ar y ffordd anghymesur yr effeithiwyd ar fywydau pobl anabl. Mae unigedd, unigrwydd, datgysylltiad, torri ar drefn arferol bywyd a thorri ar wasanaethau wedi effeithio'n fawr ar fywydau ac iechyd meddwl pobl anabl. Felly, pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda sefydliadau pobl anabl a niwroamrywiaeth i sicrhau bod cyfyngiadau COVID Llywodraeth Cymru yn gymesur ac nad ydyn nhw'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol rhwng pobl nac yn rhoi pobl anabl dan anfantais?
Mae gweithwyr sy'n anabl wedi ymdrin â'r bwlch cyflogaeth anabledd a'r bwlch cyflog anabledd ers ymhell cyn argyfwng COVID-19. Mae diwylliant sydd â rhagfarn yn erbyn pobl anabl yn golygu bod gweithwyr sy'n anabl yn ei chael hi'n anodd cael eu cyflogi, i ddatblygu o fewn eu cyflogaeth a chael eu talu'n iawn. Felly, rwy'n croesawu'r rhaglen hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl a'r canllawiau newydd i gyflogwyr, ond a wnaiff y Gweinidog egluro beth y gall hi ei wneud i sicrhau bod cyflogwyr yn ymgysylltu â'r rhaglen newydd a'r canllawiau ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Leanne Wood, a diolch am gydnabod y datganiad, a hefyd, yn fy marn i, ymhlyg yn hynny roedd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn ymwneud â'r camau y mae'n rhaid inni eu cymryd i ddileu'r rhwystrau, pan rydym yn gwneud pobl yn anabl drwy bolisi ac arferion oherwydd nad ydym wedi ystyried effaith y rhwystrau hyn.
Rwyf am ateb yn gyntaf—dim ond i roi mwy o eglurder ar argaeledd y gronfa swyddi etholedig. Ac rwy'n falch, fel rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni yma yn y Senedd—fe fyddai pob plaid yn derbyn bod hwn yn beth pwysig. Dyfarnwyd y contract i Anabledd Cymru. Y diben yw darparu cymorth hanfodol i ganiatáu i ymgeiswyr sy'n anabl gymryd rhan mewn etholiadau i'r Senedd a llywodraeth leol, oherwydd maen nhw'n debygol o wynebu costau uwch oherwydd eu hanableddau, felly fe fydd y gronfa'n eu helpu nhw i gael yr arian i dalu'r costau hynny. Hyd yn ddiweddar, mae yna ffactor cyfyngol wedi bod o ran sefydlu cronfa, oherwydd mae wedi bod yn anodd eithrio'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anableddau'r unigolyn oddi wrth derfyn treuliau'r ymgeiswyr, ond rydym yn mynd i'r afael â hynny erbyn hyn. Disgwylir i ddeddfwriaeth fod ar waith erbyn diwedd y flwyddyn hon, a fydd yn hwyluso'r dull hwn ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol.
Ond mae'n bwysig bwrw ymlaen â hyn, ac fe fydd gwasanaeth cynghori i annog a chefnogi pobl anabl i ymgeisio mewn etholiad, cymorth ariannol i gynorthwyo darpar ymgeiswyr—felly, mae'r rhain i gyd yn fanylion cyhoeddus pwysig ar gyfer y pleidiau gwleidyddol heddiw—i dalu costau cymorth ychwanegol, gweinyddu'r gronfa a rheoli dyraniadau sydd ar gael i gefnogi ymgeiswyr anabl. Fe fydd adroddiad gwerthuso yn cael ei baratoi erbyn mis Rhagfyr 2022 i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun tymor hwy, ac rwy'n siŵr mai dyna'r hyn yr oeddech yn ei geisio o ran canlyniadau hynny, sef cynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ar bob lefel o gynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru. Felly, fe agorodd yr ymgynghoriad ar 11 Tachwedd ac fe ddaw i ben ar 21 Ionawr, ac rwy'n annog pawb i ymateb i hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar hefyd eich bod chi wedi codi materion am effaith COVID ei hun, y cyfyngiadau symud a'r cyfyngiadau cymdeithasol, a chyfyngiadau ar fywydau pobl anabl. Rydym wedi ymgysylltu â sefydliadau pobl anabl a niwroamrywiaeth nid yn unig drwy ein fforymau cydraddoldeb i bobl anabl, ond drwy lawer o feysydd eraill lle'r ydym wedi gallu dod at ein gilydd a gwrando a dysgu o'u profiad nhw.
Wrth gwrs, fe fynegwyd bod gweithio o gartref a gweithio rhithwir wedi bod yn fanteisiol ar sawl cyfrif yn hyn o beth. Mae wedi golygu nad oes cymaint o faterion wedi bod yn ymwneud ag argaeledd cludiant. Ond mae hynny wedi arwain at unigrwydd ac ynysu hefyd, ac, wrth gwrs, mae yna bobl anabl hefyd nad oes modd iddynt weithio gartref o ran yr effaith ar eu cyflogwyr a'u disgwyliadau nhw. Mae'n rhaid inni weithio yn agos iawn â Chyngres Undebau Llafur Cymru i edrych ar eu hawliau nhw hefyd, oherwydd mae gan bobl anabl ran allweddol yn ein hadferiad economaidd ni.
O ran yr hyrwyddwyr cyflogaeth, mae hon yn neges hyglyw i gyflogwyr am bwysigrwydd recriwtio a chadw, mewn ffordd sy'n gynhwysol, weithwyr sy'n anabl. Hyrwyddwyr cyflogaeth i bobl anabl ydyn nhw ac fe fyddan nhw'n ganolog i'n gwaith ni wrth symud ymlaen. Mae gennym becyn cynhwysfawr o gefnogaeth i gyflogwyr, fel y dywedais i yn fy natganiad—pecyn cymorth ar-lein, rhwydwaith o bobl anabl, cynllun hyrwyddwyr cyflogaeth i'w lansio. Ond hefyd yn rhan o'r ymrwymiad i gyflogadwyedd COVID-19, rydym wedi recriwtio chwe hyrwyddwr cyflogaeth i bobl anabl. Ceir llawer mwy o gyfleoedd i gydweithio gydag arweinwyr busnes, gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol a chynrychiolwyr cyflogwyr. Ac rwy'n credu y bydd gwaith yr hyrwyddwyr hynny'n ysbrydoledig ac fe gaiff ei anelu nid yn unig at ddileu camsyniadau ond at gymryd camau hefyd ar gyfer darganfod lle gall cyflogwyr gael yr offer i ddileu'r rhwystrau, drwy gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn eu gweithle. Ond fe geir bwlch cyflog pobl anabl yn ogystal â bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â bwlch cyflog hiliol, ac mae'n rhaid edrych ar yr holl faterion economaidd-gymdeithasol hynny hefyd.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. I nodi'r diwrnod rhyngwladol ddydd Iau, fe fyddaf i, ynghyd ag eraill, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar gyfer Leonard Cheshire Cymru, a'r pwnc yw ymgysylltiad gwleidyddol, gan annog pobl ifanc anabl i ddefnyddio eu llais nhw a phleidleisio yn y broses wleidyddol. Felly, fe fydd y drafodaeth heddiw yn fan cychwyn da ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Eleni, wrth gwrs, fe gaiff y diwrnod ei fframio gan y pandemig, ac mae gennyf i ychydig o gwestiynau am anabledd a choronafeirws. Yn gyntaf, Gweinidog, a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag UNSAIN am eu gwaith ymchwil ar weithwyr anabl a gweithio gartref? Yn ôl eu hymchwil nhw, mae gweithwyr anabl sy'n gweithio gartref wedi bod yn fwy cynhyrchiol ac wedi bod yn absennol oherwydd salwch am lai o amser na phan roedden nhw yn y swyddfa. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi galwad yr undeb i roi hawliau newydd i bobl anabl weithio o gartref os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny yn rhan o'r amddiffyniad 'addasiadau rhesymol' sydd ganddyn nhw eisoes o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb?
Fy ail bwynt i yw nad yw pob anabledd i'w weld yn amlwg, fel y crybwyllwyd sawl gwaith yn y fan hon heddiw. Mae rhai yn fwy gweladwy nag eraill. Mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Crohn a Colitis hefyd, ac fe amcangyfrifir bod chwarter y bobl sydd â'r cyflyrau hynny wedi eu rhoi yn y dosbarth sy'n 'eithriadol o agored i niwed'. Un o'r prif faterion y maen nhw wedi eu hwynebu drwy gydol y pandemig yw mynediad i doiledau rhad ac am ddim, sy'n lân ac ar gael i'w defnyddio. Felly, a wnewch chi gefnogi ymgyrch Crohn a Colitis UK i sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, y busnesau a'r cyflogwyr yn rhoi arwyddion priodol ar eu toiledau nhw i ddangos nad yw pob anabledd yn amlwg? Ac yn benodol, a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Crohn's a Colitis UK i flaenoriaethu mynediad i gyfleusterau toiled gyda'r gwasanaethau newid a gwaredu gwastraff priodol i ganiatáu i bawb sydd â bagiau colostomi allu newid y rhain gydag urddas mewn amgylchedd preifat a glân, ac nad ydyn nhw'n rhwystro’r unigolion hyn rhag byw bywyd llawn fel pawb arall dim ond oherwydd na allan nhw gael mynediad i'r cyfleusterau toiled sy'n weddus? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi am nodi'r diwrnod, fel y dywedwch chi, ddydd Iau, drwy ymuno â Leonard Cheshire. Yn wir, fe dreuliais i lawer o amser nid yn unig gyda'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ond gyda sefydliadau eraill hefyd fel Leonard Cheshire, sydd wedi ymgysylltu â mi a Gweinidogion eraill, ac mae pobl ifanc yn codi cwestiynau gyda ni am y materion sy'n effeithio arnyn nhw. Fe wn i y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth i'r datganiad hwn ddydd Iau.
Rwy'n credu mai un o nodweddion y misoedd diwethaf fu amlder yr ymgysylltu a gawsom ni gyda sefydliadau. Mewn rhai ffyrdd, rydym wedi llwyddo i ymgysylltu'n rhithwir â mwy byth o sefydliadau o bosibl, oherwydd bod modd ymgysylltu o gartref. O'r gogledd i'r de-ddwyrain a'r gorllewin, rydym ni'n ymgysylltu â phobl anabl. Yfory mae gennyf i fy fforwm hiliol i Gymru; fe fyddwn ni'n ymgysylltu yn yr un ffordd o Ynys Môn i Gasnewydd. Fe wn i oherwydd sylwadau a gefais i fod TUC Cymru wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd. Rwyf i wedi bod yn cyfarfod â'u pwyllgor cydraddoldebau nhw ac, wrth gwrs, yna rydych chi'n clywed gan y gwahanol undebau am y materion a'r heriau penodol a'r gwaith da y maen nhw wedi bod yn ei wneud o ran arolygon.
Ond yn sicr, o ran gwaith a sylwadau UNSAIN, fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r rhain, oherwydd fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru ei hunan yn datblygu polisïau gweithio o bell ac yn ystyried yr effaith a gaiff hynny ar bobl sy'n gallu gweithio o gartref ac sy'n dymuno gweithio o gartref, o gofio, yn aml, efallai ei bod yn fwy anodd ar bobl rheng flaen nad ydyn nhw'n gallu gweithio o gartref, neu sydd ar gyflog is ac sydd â llai o awdurdod o fewn eu sefydliad. Felly, rwy'n credu y bydd gwaith a thystiolaeth a sylwadau UNSAIN yn bwysig iawn yn hyn o beth. Yn sicr, rwyf i am wneud yn siŵr, ar gyfer pob ffrwd bolisi sy'n cael ei chyflwyno, fod yna asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a'n bod ni'n gofyn am farn ac yn ymgysylltu â'r rhai sydd fwyaf difreintiedig ac nad oes ganddynt lais mor gryf ag eraill, efallai, sydd mewn sefyllfa economaidd-gymdeithasol well.
Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n ystyried hynny'n ofalus iawn, ac rwy'n falch eich bod chi wedi achub ar y cyfle hwn, Joyce, i godi'r materion hyn sy'n ymwneud â'r rhai sy'n cael profiad ac yn dioddef o afiechyd Crohn. Mae wythnos Crohn yn wythnos bwysig i godi ymwybyddiaeth o bobl sy'n agored iawn i niwed, ond pobl sy'n gallu byw eu bywydau—ac, wrth gwrs, lle nad yw hynny bob amser yn weladwy, fel yr ydych chi'n dweud; nid yw anableddau yn weladwy bob amser mewn ystod eang o anableddau. Ond mae wythnos Crohn yn golygu y gallwch gyflwyno'r galwadau penodol hyn sy'n ymwneud â thoiledau cyhoeddus, hygyrchedd, arwyddion, a chydnabyddiaeth o anghenion penodol y rhai sy'n dioddef o afiechyd Crohn. Diolch.
Rwy'n edrych ymlaen at siarad a gwrando ar ddiwrnod ymgysylltu gwleidyddol pobl ifanc anabl Leonard Cheshire a lansiad Anabledd Cymru o faniffesto pobl anabl ddydd Iau. Mae gan bob awdurdod cyhoeddus ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 i sicrhau eu bod nhw'n ateb anghenion pobl anabl ac yn cynnwys pobl anabl mewn ffordd weithredol wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau. Mae Deddf Cydraddoldeb y DU yn nodi hefyd bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ystyried ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n effeithio ar bobl anabl, ac na ddylech aros hyd nes y bydd unigolyn anabl yn cael anhawster defnyddio rhyw wasanaeth. Er hynny, fe wn i o'm gwaith achos i fy hun a'm gwaith i wrth gadeirio grwpiau trawsbleidiol ar anabledd, awtistiaeth a chyflyrau niwrolegol yn y Senedd hon yng Nghymru fod gormod o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddweud wrth bobl anabl beth y gallan nhw ei gael, yn hytrach na gweithio gyda nhw i gytuno ar eu hanghenion a gofyn iddyn nhw beth maen nhw'n awyddus i'w gyflawni. Mae hyn yn niweidiol ac yn gostus, ac yn rhywbeth y gellir ei lwyr osgoi ac mae'n arbennig o berthnasol i bobl ag anableddau cudd. O ystyried mai'r thema ar gyfer 2020 ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig ddydd Iau yw 'nid yw pob anabledd yn weladwy', pryd a sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynnwys pobl anabl yn y gwaith o gynllunio, gwerthuso ac adolygu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb a'ch deddfwriaeth chi eich hun hefyd?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Fel y dywedais, rwy'n diolch i'r grŵp trawsbleidiol am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud. Rwyf wedi ymddangos ger eich bron ac mae eich cyfraniad chi wedi bod mor bwysig, unwaith eto o safbwynt trawsbleidiol. Ond hefyd, roeddwn i'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn fawr iawn, a oedd yn cwmpasu'r holl anghydraddoldebau a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig. Ond ar un ystyr, mae'n debyg mai dyna un o destunau diwrnod y Cenhedloedd Unedig, a'r hyn a drafodir ddydd Iau yw nid yn unig sut y gellir dysgu gwersi; ond sut y gallwn fynd i'r afael â hyn nawr mewn gwirionedd—. Mae'r ddeddfwriaeth gennym ni, fel y dywedwch chi, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb gennym ni; mae'n ymwneud â gweithredu—rwy'n credu mai hwnnw yw'r pwynt allweddol—y ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.
Rwy'n credu imi grybwyll yn fy natganiad—wel, rwy'n gwybod fy mod i wedi crybwyll—y fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd', a lansiais i yn 2019 ac a gyd-gynhyrchwyd, mewn gwirionedd, â sefydliadau pobl anabl sy'n cwmpasu pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig—ac fe wn i eich bod chi'n cydnabod hyn, Mark—nad yw hyn yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yn unig; mae'n ymwneud â thrafnidiaeth, mae'n ymwneud â diwylliant, mae'n ymwneud â thai, mae'n ymwneud ag addysg. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gyflawni hynny wedyn drwy ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Rwy'n credu hefyd, pan fyddwn ni, fel rwy'n siŵr ac yn gobeithio y byddwn ni, yn pasio'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a fydd yn dod gerbron y Senedd yn fuan iawn, y bydd hyn hefyd yn bwysig o ran yr effeithiau ar bobl anabl.
Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd. Mae hi'n gwneud y gwaith nawr gyda phobl anabl ar effeithiau COVID. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu'r gwersi, ond hefyd i ddod o hyd i'r ffordd ymlaen o ran mynd i'r afael â'r materion hyn fel bydd pobl anabl yn dylanwadu yn wirioneddol ar bolisi cyhoeddus o safbwynt eu bywydau nhw eu hunain, o'r dystiolaeth sydd gennym ni, y data yr ydym ni'n eu deall, ac y bydd hynny'n dylanwadu nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rydym ni am atal y trafodion nawr i ganiatáu ar gyfer newid drosodd yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny'n ddiymdroi? Fe fydd y gloch yn cael ei chanu ddau funud cyn ailgychwyn y trafodion. Fe ddylai unrhyw Aelod sy'n cyrraedd wedi'r newid drosodd aros nes i'r gloch gael ei chanu cyn dod i mewn i'r Siambr. Diolch.