1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2020.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth yn ystod pandemig COVID-19? OQ56018
Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am hynna. Rydym ni'n parhau i weithredu proses ailsefydlu gwasanaethau deintyddol yn ddiogel a fesul cam. Mae'r rhan fwyaf o bractisau deintyddol yn darparu ystod lawn o driniaethau i gleifion yng Nghymru erbyn hyn. Fodd bynnag, mae mesurau iechyd cyhoeddus COVID-19 gofynnol yn parhau i fod yn angenrheidiol. Mae ystyriaethau diogelwch yn golygu y gellir trin llai o gleifion mewn unrhyw un sesiwn glinigol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon y bydd rhethreg, naïfrwydd ac anfedrusrwydd llwyr cefnogwyr Brexit yn Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn llawer anoddach i ni recriwtio deintyddion a staff eraill ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn a thu hwnt?
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le—ym maes deintyddiaeth, mae 17 y cant o'r holl ddeintyddion sydd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar hyn o bryd yn dod o Ewrop. Mae'r ganran honno yn uwch yn y cwmnïau corfforaethol mwy sy'n cyflenwi canran fawr o wasanaethau deintyddol. Amcangyfrifir bod deintyddion sy'n cael eu recriwtio o'r Undeb Ewropeaidd yn darparu cymaint â 30 y cant o holl driniaeth ddeintyddol y GIG yma yng Nghymru, ac mae'r bobl hynny eisoes wedi rhoi'r gorau i ddod, Llywydd. Dyna'r pwynt, a dweud y gwir? Nid ydyn nhw'n credu y bydd croeso iddyn nhw yn y Deyrnas Unedig o'r math y byddai Mr Reckless yn dymuno ei chreu. Byddai'n well ganddo pe na bydden nhw yma ac maen nhw'n clywed y neges honno ganddo ef ac, o ganlyniad, maen nhw wedi rhoi'r gorau i ddod. Nid oedd ganddyn nhw unrhyw sicrwydd ynghylch eu cyflogaeth, nid oedd ganddyn nhw unrhyw sicrwydd ynghylch eu preswylfa, roedden nhw'n wynebu gostyngiad i werth y bunt o ganlyniad i'r ffordd y mae Brexit wedi ei lywio gan y Llywodraeth hon.
Rwy'n credu i mi gyfeirio y tro diwethaf, Llywydd, at gyfarfod yr oeddwn i'n bresennol ynddo, o dan arweiniad y Prif Weinidog ar y pryd. Roedd yn ei swyddfa ef gyda'r Ysgrifennydd Gwladol cyntaf dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, David Davis. Gwnaeth y Prif Weinidog ar y pryd gyfres o bwyntiau pwysig iawn i'r Ysgrifennydd Gwladol am y ffin yn Iwerddon, am borthladdoedd Cymru, am recriwtio i wasanaethau cyhoeddus. Cyfeiriodd Carwyn Jones yn ei gwestiwn atodol at anfedrusrwydd a naïfrwydd. Wel, roedd i'w weld yn eglur y diwrnod hwnnw. Dywedwyd wrthym ni mai dyma fyddai'r trafodaethau hawsaf yr oeddem ni erioed wedi bod yn rhan ohonyn nhw, bod y Deyrnas Unedig yn gwybod beth yr oeddem ni'n ei wneud ac y byddai'r tramorwyr hynny yn mynd ar chwâl cyn gynted ag y byddem ni'n rhoi ein gofynion ar y bwrdd. Pa mor anghywir oedd hynny fel y gwelwn ni erbyn hyn.
Prif Weinidog, mae deintyddiaeth yn bwnc llosg iawn yn etholaeth Gorllewin Clwyd ar hyn o bryd o ganlyniad i gyhoeddiad gan Bupa Dental Care UK y byddan nhw'n yn cau eu clinig ym Mae Colwyn. Mae hynny yn mynd i effeithio ar tua 12,000 o bobl yn fy etholaeth i, ac mae'r bwrdd iechyd lleol wedi eu hysbysu y dylen nhw geisio cofrestru gyda deintyddion eraill y GIG yn ardal y gogledd. Ar ôl iddyn nhw gysylltu â'r deintyddion hynny, dywedir wrthynt nad ydyn nhw'n derbyn cleifion ychwanegol. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth ymateb i gwestiynau Carwyn Jones, ond y realiti yw y dylech chi fod wedi bod yn hyfforddi mwy o ddeintyddion dros y degawd diwethaf; ni ddylech chi fod yn gorfod dibynnu ar ddeintyddion yn dod i mewn o dramor. Pe byddem ni wedi hyfforddi niferoedd digonol—a chi sydd wedi bod yn gyfrifol am gynllunio'r gweithlu dros yr 20 mlynedd diwethaf—yna ni fyddem yn y llanastr yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd, gyda phrinder deintyddion ledled Cymru.
Nawr, rwyf i wedi gofyn am gyfarfod gyda'ch Gweinidog iechyd a'r prif swyddog deintyddol i drafod y sefyllfa ym Mae Colwyn, ac maen nhw wedi gwrthod derbyn fy nghais am gyfarfod. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gennym ni ddigon o ddeintyddion yn cael eu hyfforddi yng Nghymru nawr i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y dyfodol? A sut y gallwch chi sicrhau pobl ym Mae Colwyn y bydd gwasanaethau deintyddol y GIG ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw eu hangen yn y dyfodol?
Wel, mae'r llanastr yr ydym ni ynddo, fel y dywedodd yr Aelod, yn bodoli oherwydd y cyngor a roddwyd ganddo ef a'i debyg i bobl yng Nghymru y byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac na fydden nhw'n gweld unrhyw anfanteision o gwbl yn eu bywydau. Ac eto, yr hyn y maen nhw'n ei ddarganfod yw bod ei gyngor ef a chyngor pobl yn ei blaid ef wedi arwain at y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu ym Mae Colwyn heddiw, lle nad yw corff corfforedig mawr, a oedd yn gallu darparu'r gwasanaethau hynny, yn gallu denu'r staff sydd eu hangen erbyn hyn. Mae honno'n sefyllfa ddifrifol yn y gogledd, fel yr archwiliodd Siân Gwenllian gyda mi yn y fan yma bythefnos yn ôl. Esboniais bryd hynny y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd—yr uned addysgu deintyddol a fydd yn cael ei sefydlu ym Mangor a fydd yn denu rhagor o staff i'r ardal; gwaith y dirprwy brif swyddog deintyddol, yr Athro Paul Brocklehurst, o ran rhoi cyngor yn uniongyrchol i'r bwrdd iechyd.
Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar am ddyfodol deintyddiaeth. Nid yw'r dyfodol yn fater o ddibynnu'n llwyr ar fwy o ddeintyddion—mae'n fater o ehangu'r proffesiwn deintyddol, mae'n fater o wneud gwell defnydd o aelodau eraill o'r tîm deintyddol, a gwneud yn siŵr y gall y gweithgareddau hynny a gyflawnir amlaf y mae angen i ddeintyddion eu cyflawni gael eu cyflawni gan bobl sydd wedi eu hyfforddi i wneud hynny, ond nad ydyn nhw angen yr hyfforddiant hir iawn a'r arbenigedd prin iawn y mae deintyddion eu hunain yn ei gynrychioli.
Mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n bryderus bod yna ddiffyg cynllunio gwasanaeth deintyddol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dwi wir yn bryderus am sefyllfa deintyddiaeth yn fy etholaeth i. Mae cau deintyddfeydd preifat yn ddiweddar ar y tir mawr wedi gwaethygu eto'r anhawster mae pobl yn ei gael i gofrestru efo ac i ddarganfod deintydd sy'n gwneud gwaith NHS. Mae'r camau dwi wedi eu cymryd efo deintydd yn Ynys Môn i gynyddu capasiti yn wynebu rhwystr ar ôl rhwystr, a ninnau wedi llwyddo i ddenu dau ddeintydd i mewn, ond yn methu â chael y bwrdd i gytuno i gynyddu'r contract. Ar ben hynny, mae gen i bryder mawr am beth sy'n digwydd i wasanaethau deintyddol arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, efo colli gwasanaethau a methiant i recriwtio yn gwneud i fi feddwl bod yna gynllun i israddio gwasanaethau. A gawn ni adolygiad llawn o wasanaethau deintyddol yn fy etholaeth i, ac yn wir yn y gogledd-orllewin yn ehangach?
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda Rhun ap Iorwerth am y problemau sy'n wynebu pobl yn y gorllewin, yn y de ac yn y gogledd hefyd. Mae hynna yn gwaethygu, achos mae yna'r problemau dwi wedi eu hesbonio prynhawn yma. Wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r Gweinidog i weld os oes yna fwy o fanylion rydym ni'n gallu eu rhoi i'r Aelodau, ac i fod yn glir gyda phobl am y camau mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn eu cymryd i dreial i ddelio â'r problemau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd.FootnoteLink