2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56010
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin y DU ar y setliad datganoli? OQ55988
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin wedi torri pob addewid i bobl Cymru, gan gynnwys na fyddem yn waeth ein byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn parhau i herio unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddargyfeirio materion sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Mae'n ddrwg gennyf, a gaf fi ofyn—? A yw'r Llywodraeth wedi cytuno i grwpio hwn gyda chwestiwn 6?
Maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd. Do, yn wir. Maddeuwch i mi.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, David.
Diolch. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, rwy'n cefnogi Brexit yn frwd. Fodd bynnag, rwyf bob amser wedi dadlau y dylai pob cymhwysedd a ddychwelir i Lywodraeth y DU sy'n gymhwysedd datganoledig gael ei drosglwyddo i'r Llywodraethau datganoledig yn ei gyfanrwydd. Mae hyn hefyd yn wir am unrhyw fuddion ariannol sy'n deillio o adael yr UE. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn amlygiad o'r budd ariannol hwnnw. Felly, rwy'n annog y Cwnsler Cyffredinol i bwysleisio i Lywodraeth y DU y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennych i hyn gael ei weithredu yn y fath fodd fel mai Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ble y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Wel, diolch i David Rowlands am y cwestiwn pellach hwnnw. Pe baem yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, o fis Ionawr ymlaen, byddai Cymru wedi cael dyraniad blwyddyn lawn o tua £375 miliwn, yn ogystal â'r taliadau sydd eisoes yn cael eu gwneud drwy'r rhaglenni presennol. Fel y gŵyr, yn lle hynny nawr bydd cronfa gwerth £220 miliwn ledled y DU, ac nid oes manylion o hyd ynglŷn â sut y caiff yr arian hwn ei ddosbarthu. Rwy'n falch o allu dibynnu ar ei gefnogaeth i’n hymgyrch barhaus dros ewyllys pobl Cymru fod arian yn cael ei roi yn lle'r holl arian hwn, a bod materion sy'n ymwneud â'r cronfeydd hynny yn cael eu datganoli i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy niddordeb yn y rôl ddi-dâl o gadeirio grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, ond mae fy nghwestiwn y tu hwnt i waith y grŵp hwnnw. Rwyf wedi derbyn sylwadau, Weinidog, gan gynrychiolwyr o'r sector addysg uwch yng Nghymru, gyda'u pryderon ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU a chynigion Llywodraeth y DU. A nodant y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn dechrau fel rhaglen beilot, gyda chyfanswm o £200 miliwn ar gyfer y DU gyfan, tra bod Cronfa Trefi Lloegr, mewn cyferbyniad—Lloegr yn unig—wedi cael £4 biliwn ac wedi’i sefydlu'n gyflym. Ac maent yn nodi'r gwahaniaeth rhwng addewid y Blaid Geidwadol ym maniffesto 2019, sy'n dweud,
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn...mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ym mhob un o'n pedair gwlad.
Ac o leiaf— dyma'r geiriau— yn cyfateb i faint y cronfeydd hynny ym mhob gwlad.
Nid ydynt yn deall yr anghysondeb rhwng addewid y maniffesto a manylion yr adolygiad. Felly, Weinidog, a allech chi ein helpu ni a'n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddeall yr anghysondeb clir rhwng yr hyn a addawyd a'r hyn sydd ar gael nawr?
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am y gwaith y mae wedi'i wneud, gydag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru, yn cadeirio'r grŵp a wnaeth, i helpu'r Llywodraeth i ddyfeisio'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, a gyhoeddwyd hanner ffordd drwy'r mis diwethaf? Roedd yn gynnyrch cydweithredu a chreadigrwydd mawr, ac mae'n adlewyrchu buddiannau amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol, ym mhob sector yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'n sôn amdanynt yn ei gwestiwn. Bydd yn gwybod gystal â minnau mai'r hyn y mae pobl a sefydliadau a busnesau a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ei eisiau yw cyllid teg a thryloyw, yn hytrach na gwleidyddiaeth pot mêl. Ac rwy'n credu mai dyna pam y maent wedi dangos eu cefnogaeth i’r fframwaith y mae wedi ein helpu i'w ddyfeisio.
Nawr, mae dwy elfen i hyn. Un ohonynt yw'r elfen gyfansoddiadol—ac rydym eisoes wedi trafod honno heddiw, a gwn ei fod yn rhannu fy marn ei bod yn warthus, mewn gwirionedd, mai'r dull y mae Llywodraeth y DU wedi’i fabwysiadu yw osgoi hynny. Ond mae manteision ymarferol iawn i hyn hefyd, fel y gwn ei fod yn gwybod. Rhan o'r weledigaeth sydd gennym fel Llywodraeth yw galluogi'r cronfeydd hyn i gael eu hintegreiddio â chronfeydd eraill sydd ar gael o wahanol ffynonellau, i'w cyflenwi ar lawr gwlad drwy'r rhwydwaith cyflenwi sydd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yng Nghymru eisoes, a'u hadeiladu a'u dyfeisio ar sail cydweithredu, gweithio ar y cyd, ymgynghori a chydgynllunio. Nid oes yr un o'r rheini'n nodweddion o'r hyn a ddeallwn yw dull Llywodraeth y DU o weithredu, ac mae pob un ohonynt yn nodweddion o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yn y dyfodol.
Gwnsler Cyffredinol, rydym wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn siarad dro ar ôl tro am ei hagenda lefelu am i fyny, ond prin oedd y dystiolaeth o hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddiweddar mewn perthynas â Chymru. A nawr, wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod pontio, mae'r addewid mynych na fyddem geiniog yn waeth ein byd ar ôl Brexit yn edrych yn go dila, wrth i'r Canghellor roi rhagor o fanylion am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r gronfa ffyniant gyffredin, sut y bydd yn cyflawni ei haddewid fel cronfa addas a phriodol yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, yn enwedig mewn ardaloedd fel fy un i?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn fod mewn sefyllfa i roi asesiad iddi o'r gronfa ffyniant gyffredin, ond nid yw'r manylion prin a roddodd y Canghellor i ni yn yr adolygiad o wariant yn ein galluogi i wneud hynny'n hyderus. Nawr, bydd yn gwybod, fel rwyf fi, fod rhaglenni a busnesau a sefydliadau, sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru a fydd wedi gobeithio y byddai rhaglenni ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd, er mwyn parhau i gyflawni’r manteision i gyflogadwyedd, twf, pontio i fod yn ddi-garbon, a'r holl fanteision eraill rydym wedi'u cael o gyllid hyd yma. Ac nid ydynt yn y sefyllfa honno gan nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu manylion am raglenni sydd i ddod, a gwyddom eisoes y bydd cyllid y flwyddyn nesaf yn gyfran fach iawn o'r hyn y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall, a'r hyn a addawyd i bobl Cymru yn wir. Mae'n un o restr hir o addewidion a dorrwyd gan y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan.