1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac felly yn gyntaf arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y gwyddoch, yn anffodus, Cymru sydd â'r gyfradd heintio COVID-19 uchaf yn y DU, ac mae wyth o'r 10 ardal fwyaf heintiedig yn y DU yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr i gyd yn y tri uchaf. Yn naturiol, ceir dyfalu o hyd ynghylch pa un a fydd mesurau pellach yn cael eu cyflwyno a sut y gallai'r cyfyngiadau hynny effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl. Prif Weinidog, gydag achosion mor niferus yng Nghymru, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yr ydych chi'n bwriadu gwneud penderfyniad am unrhyw gyfyngiadau pellach yng Nghymru? Ac o gofio bod cynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru ei hun yn cadarnhau bod cyfradd achos o fwy na 300 o achosion fesul 100,000 o bobl o dan lefel rhybudd 4, a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a ydych chi'n bwriadu symud Cymru i fyny i'r lefel nesaf erbyn hyn?
Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn yna. Byddwn yn edrych bob un dydd yr wythnos hon ar y ffordd y mae'r ffigurau yng Nghymru yn symud. Dywedais yn fy nghynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, oni bai ein bod ni'n gweld arwyddion bod y cynnydd presennol yn cael ei atal a'i wrthdroi, yna mae'n anochel y bydd angen mesurau pellach. Nawr, cyflwynwyd cyfres bwysig o fesurau wythnos i ddydd Gwener diwethaf o ran atyniadau a lletygarwch. Cymerwyd mesurau pellach gennym ni yr wythnos diwethaf o ran ysgolion ac atyniadau awyr agored. Mae'n rhaid i ni allu rhoi cyfle i'r ymyraethau hynny weithio. Os na fyddwn ni'n eu gweld nhw'n gweithio, fel y dywedais ddydd Gwener, yna rwy'n credu ei bod hi'n anochel y bydd angen cymryd camau pellach i atal llif y coronafeirws fel y'i gwelwn yng Nghymru heddiw. A byddaf yn gwneud hynny bob dydd yr wythnos hon.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna, Prif Weinidog, a gwn fod y Gweinidog iechyd wedi cadarnhau ddoe nad oes dim, wrth gwrs, oddi ar y bwrdd o ran mwy o gyfyngiadau COVID dros y Nadolig, ac rwy'n derbyn ac yn deall hynny yn llwyr, ac rwy'n sylweddoli y byddwch chi'n cael trafodaethau pellach gyda Llywodraethau eraill y DU yn ddiweddarach y prynhawn yma am gyfyngiadau'r Nadolig hefyd.
Nawr, wrth gwrs, mae gan Gymru fwy na dwywaith cymaint o achosion COVID-19 o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU, ac mae dau fwrdd iechyd wedi cadarnhau erbyn hyn y byddan nhw'n gohirio rhywfaint o driniaeth nad yw'n driniaeth frys, ac felly rydym ni hefyd yn edrych ar argyfwng a fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd hefyd efallai. Byddwch wedi gweld pryderon Cymdeithas Gofal Dwys Cymru, sydd wedi rhybuddio na fydd gwasanaethau gofal critigol yn gallu ymdopi dros gyfnod y gaeaf heb ymyrraeth ar y lefel uchaf, ac yn sgil llacio rheolau am ychydig ddyddiau dros y Nadolig bydd hyd yn oed mwy o bwysau, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, ar wasanaethau'r GIG yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU heddiw wedi cynnig trin cleifion nad ydyn nhw'n gleifion COVID yn Lloegr i helpu i leddfu'r pwysau ar ysbytai Cymru ac i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu.
O ystyried difrifoldeb y mater, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r cynnydd i nifer yr achosion o ran capasiti ysbytai ledled Cymru? Yn ail, yng ngoleuni'r galwadau am ymyrraeth gan rai yn y proffesiwn meddygol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r byrddau iechyd lleol am eu cynlluniau ar gyfer darparu llawdriniaeth ddewisol a gofal rheolaidd dros yr wythnosau nesaf? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa un a fyddwch chi'n manteisio ar gynnig Llywodraeth y DU i alluogi cleifion nad ydynt yn gleifion COVID i gael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr os oes angen?
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n deg i mi dynnu sylw at y ffaith fod Cymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ar y lefel uchaf o goronafeirws yn y Deyrnas Unedig heddiw. Ar wahanol adegau, mae pob un o'r pedair gwlad wedi bod yn y sefyllfa honno. Roedd Lloegr ynddi yn gynharach yn yr haf, roedd Gogledd Iwerddon yn y sefyllfa honno ychydig wythnosau yn ôl, mae'r Alban wedi cael yr un profiad o ran stribed y canolbarth. Felly, mae hwn yn batrwm sy'n esblygu lle mae cynnydd sydyn i nifer yr achosion yn digwydd mewn gwahanol leoedd.
O ran capasiti yn y gwasanaeth iechyd, ceir dau fath o gapasiti yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Ceir capasiti ffisegol o ran nifer y gwelyau: mae 16 y cant o welyau acíwt yn GIG Cymru nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio heddiw. Felly, mae capasiti ffisegol yn cael ei ymestyn, ond nid yw'n cael ei ymestyn i'r pwynt o dorri. Y capasiti arall yr ydym ni'n sôn amdano yw staff, a dyna lle mae'r anawsterau presennol ar eu mwyaf difrifol yn fy marn i. Mae gennym ni'r nifer uchaf o staff ar unrhyw adeg yn ystod eleni sy'n hunanynysu ac am resymau eraill ddim ar gael i fod yn y gwaith; 1,500 yn fwy o bobl yr wythnos diwethaf nag oedd yn wir ym mis Medi. A'r broblem a wynebwyd mewn rhai rhannau o'r GIG, a'r rheswm pam mae rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gohirio, yw oherwydd nad oes gennym ni staff ar gael i barhau â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd eisiau ei wneud, ac rydym ni'n gorfod canolbwyntio'r adnoddau staff sydd gennym ni ar y pethau mwyaf brys hynny, gan gynnwys darparu ar gyfer y nifer gynyddol o bobl sy'n dioddef o goronafeirws. Felly, rydym ni'n dibynnu ar ymgysylltiad rheolaidd â'n holl fyrddau iechyd, i edrych ar allu'r system i barhau i wneud pethau heblaw coronafeirws, ac mae hynny yn amrywio o un bwrdd iechyd i'r llall ar hyn o bryd, ond mae'n ymgysylltiad dyddiol sydd gennym ni gyda nhw i wneud yn siŵr, cyn belled â phosibl, bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud yr holl bethau y byddem ni i gyd eisiau iddo eu gwneud.
O ran y llythyr ar gyd-gymorth, wrth gwrs, byddaf yn ymateb iddo, gan gymeradwyo eto yr egwyddor o gyd-gymorth sydd wedi bod yno drwy'r coronafeirws. Mae Cymru wedi cyflenwi 11 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol i GIG Lloegr yn ystod yr argyfwng hwn yn rhan o'n cyd-gymorth, ac mae'r llythyr a gefais heddiw yn ailddatgan hynny, ac rwy'n hapus iawn i'w gymeradwyo unwaith eto.
Prif Weinidog, er bod pandemig COVID yn parhau i waethygu yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, ceir rhai pryderon dilys o hyd gan lawer ledled y wlad am ganlyniadau negyddol cyfyngiadau pellach, yn enwedig, fel y dywedasoch yn gynharach, yr effaith ar iechyd meddwl pobl. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Aberconwy yn gynharach, fis diwethaf, aeth Mind Cymru ati gydag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i siarad â mwy na 13,000 o bobl am effaith y pandemig ar iechyd meddwl yng Nghymru, a dangosodd eu gwaith ymchwil bod tua hanner y rhai a gymerodd ran yn dangos gofid seicolegol clinigol sylweddol, gyda thua 20 y cant yn adrodd effeithiau difrifol. Felly, allwn ni ddim twyllo ein hunain na allai cyfyngiadau pellach wneud bywyd yn anodd i lawer o bobl, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at gymorth ac yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch i'r rhai sydd eu hangen mewn gwirionedd.
Wrth i Lywodraeth Cymru wneud ei phenderfyniad ar y camau nesaf i Gymru, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad o'r effaith ar iechyd meddwl sydd wedi cael ei gynnal o ran unrhyw gyfyngiadau pellach? A allech chi ddweud wrthym ni pa gymorth ychwanegol a fydd ar gael i bobl sydd ei angen, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio gwasanaethau ac yn annog pobl i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dioddef o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau pellach?
Wel, diolchaf i'r Aelod. Mae'n faes hollol bwysig, wrth gwrs. Mae'n codi yn yr holl sgyrsiau yr wyf i'n eu cael pan fyddaf yn siarad â phobl y tu hwnt i'r Senedd. Mae'n codi mewn sgyrsiau gyda'n gweithwyr iechyd, sydd wedi bod trwy flwyddyn ofnadwy nid yn unig o ran straen corfforol y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond y traul emosiynol sy'n cael ei achosi o weld pobl a fyddai fel arall yn heini ac iach yn dioddef o'r clefyd ofnadwy hwn. Mae'n codi yn rheolaidd iawn yn y trafodaethau yr wyf i'n eu cael gyda phobl ifanc, sy'n effro iawn i'r effaith y bydd eleni wedi ei chael ar eu synnwyr o wydnwch ac edrych i'r dyfodol.
Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu drwy'r llu o wahanol asesiadau effaith yr ydym ni wedi eu cynnal yw bod yn rhaid darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, oherwydd bydd y math o gymorth y gallai unrhyw berson unigol ddymuno ei gael amrywio o'r ffordd y bydd pobl eraill yn dymuno cael gafael arno. Dyna pam mae gennym ni'r amrywiaeth o wasanaethau sydd gennym ni: llinell gymorth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i bobl sydd eisiau siarad â rhywun nad ydyn nhw angen ei gyfarfod eto, ac i rai pobl dyna'r ffordd orau o ymdrin ag ef. Dydyn nhw ddim eisiau cael sgwrs yn barhaus; maen nhw eisiau gallu siarad gyda rhywun gan wybod bod y person hwnnw yn fedrus ac yn gallu eu helpu, a chan wybod, pan fyddan nhw'n rhoi'r ffôn i lawr, mai dyna ddiwedd y sgwrs. Mae ein pobl ifanc yn aml yn tueddu i ffafrio mathau o gymorth ar-lein gyda phroblemau iechyd a llesiant meddwl. Maen nhw'n hoffi defnyddio'r ymarferion a'r cymorth sydd ar gael yn y ffordd honno, a byddai'n well gan bobl eraill eistedd wyneb yn wyneb â rhywun a gwybod, os bydd angen siarad â'r person hwnnw eto yr wythnos nesaf, y bydd y person hwnnw ar gael iddyn nhw. Rydym ni wedi cryfhau'r holl feysydd hynny yn yr ymateb yr ydym ni wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf, i geisio ymateb i'r effaith ar synnwyr pobl o lesiant.
Mae cyfeirio at y gwasanaethau hynny yn dibynnu nid yn unig ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond ar ein partneriaid yn y trydydd sector, fel Mind Cymru, ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Wrth i ni gychwyn y flwyddyn nesaf, pryd yr ydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd mwy o resymau dros fod yn obeithiol y bydd y profiad hwn yn dod i ben, bydd angen i ni roi sylw o hyd nid yn unig i effeithiau uniongyrchol y feirws, ond yr effaith hirdymor y gall coronafeirws ei chael ar lesiant corfforol pobl, ond hefyd eu llesiant meddyliol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Prif Weinidog y DU wedi rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun dro ar ôl tro drwy ddim ond rhoi sylw rhannol a hwyr i alwad Marcus Rashford i ddarparu prydau ysgol am ddim yn Lloegr. Er bod gan y Llywodraeth Geidwadol wrthwynebiad ideolegol i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, yng Nghymru, mae gennym ni rwymedigaeth foesol. Darparu prydau ysgol am ddim yw un o'r ffyrdd gorau o liniaru effeithiau gwaethaf ail don o gyni cyllidol y Torïaid, a fydd yn taro'r tlotaf galetaf, fel y mae adolygiad Marmot, a gyhoeddwyd heddiw, wedi ei ddangos. Yn ei adroddiad ei hun ym mis Mehefin y llynedd, canfu Sefydliad Bevan nifer o ddiffygion gyda'r system prydau ysgol am ddim bresennol yng Nghymru. Nid yw'r gwerth o'r cymorth, dywedant, yn ddigonol i godi digon o blant allan o dlodi bwyd. Gyda 180,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a ydych chi'n difaru cael gwared ar y targed hirsefydlog i ddileu tlodi plant erbyn eleni, ac a yw hynny yn rhoi mwy o gyfrifoldeb arnoch chi erbyn hyn i weithredu?
Llywydd, rwy'n credu y bydd hanes Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig hwn yn gwrthsefyll archwiliad gofalus iawn. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod rhan gynnar y pandemig, a ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i sicrhau y byddem ni'n parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim drwy'r hydref a hyd at wanwyn y flwyddyn nesaf. Mae'r lwfans yr ydym ni'n ei ddarparu ar gyfer prydau ysgol am ddim fesul disgybl yn uwch nag yn Lloegr, yn uwch nag yn yr Alban—yr uchaf yn y Deyrnas Unedig, mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, mae tlodi plant yn bwysig iawn i ni, ac mae mwy o bethau yr hoffem ni eu gwneud. Dyna pam, yn ystod y tymor hwn, yr ydym ni wedi dyblu ac yna dyblu eto nifer yr adegau yn ystod gyrfa ysgol plentyn y caiff fanteisio ar yr hyn a elwid ar un adeg yn grant gwisg ysgol. O'r flwyddyn galendr nesaf ymlaen, byddwn yn dechrau cyflwyno swm ychwanegol o arian sydd ar gael i ddisgyblion ym mlwyddyn 7, blwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd—swm ychwanegol o arian i'w lwfans prydau ysgol am ddim bob dydd i wneud yn siŵr nad oes yn rhaid i'r plant hynny ddewis rhwng bwyta brecwast neu fwyta cinio.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo yn ddiweddar i brydau ysgol am ddim cyffredinol i bob plentyn ysgol gynradd. Ym 1943, cyflwynodd y Ffindir gyfraith yn ei gwneud yn gwbl ofynnol i brydau ysgol am ddim gael eu gweini i bob plentyn, polisi sy'n dal i fod ar waith heddiw. Ac fel y mae profiad y Ffindir wedi ei ddangos—rydym ni wedi modelu llawer o'n system addysg arnyn nhw, ac mewn gwirionedd mae'r ymrwymiad hwn yn gwbl ganolog i'r model, gan ei fod yn addysg fwyd mewn ysgolion, mae'n arf cyfannol y maen nhw'n ei ddefnyddio i sicrhau manteision pellgyrhaeddol y tu hwnt i ffreutur yr ysgol. Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod dros 70,000 o blant sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. I unioni'r cam hwn, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn codi'r trothwy cymhwysedd fel y byddai plant ym mhob cartref sy'n cael credyd cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim, a byddem ni'n cyflwyno amserlen eglur i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl, ar sail model y Ffindir, gan ddechrau gyda phrydau ysgol am ddim i fabanod. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cefnogi'r ymdrech hon?
Byddaf eisiau gweld manylion yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Yn arbennig, Llywydd, byddaf eisiau gweld o ble y bydd yr arian yn cael ei gymryd er mwyn talu am ymrwymiad o'r fath, oherwydd pan eich bod chi mewn Llywodraeth, dyna'r dewis yr ydych chi'n ei wynebu—na ellir gwario arian sy'n cael ei wario ar un diben ar rywbeth arall. Rydym ni'n gwario ein cyllideb bob blwyddyn hyd at yr uchafswm, ac eleni a'r flwyddyn nesaf byddwn yn tynnu arian ychwanegol allan o gronfeydd wrth gefn er mwyn gallu parhau i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, byddaf yn edrych ar fanylion yr hyn y mae'r Aelod yn ei gynnig, nid dim ond y pennawd y mae wedi ei gynnig i ni y prynhawn yma, ond faint y bydd hyn yn ei gostio ac o ble y mae'n credu y bydd yr arian yn dod i dalu amdano. Ac os caf weld manylion hynny, byddaf yn hapus i'w ystyried.
Gadewch i mi gytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price, serch hynny, ar y cychwyn, oherwydd, wrth gwrs, mae pryd o fwyd yn yr ysgol yn llawer mwy na bwyd yn unig. Lansiwyd yr ymgyrch dros brydau ysgol am ddim yma yng Nghaerdydd yn 1906 yn Neuadd y Ddinas yma yng Nghaerdydd, lle cyhoeddodd Cymdeithas Fabian bamffled sydd ag un o fy hoff deitlau o bob pamffled wleidyddol, oherwydd teitl y pamffled oedd, 'And they shall have flowers on the table'. Mae'n deitl hyfryd a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthych chi yw nad bwydo plant yn unig oedd y ddadl dros brydau ysgol am ddim, ond gwerthfawrogi plant. Roedd yn fater o ddweud wrth blant a oedd yn dod i'r ysgol eu bod nhw'n bobl yr oedd eu cymdeithas yn buddsoddi ynddyn nhw ac eisiau gwneud eu gorau drostyn nhw—'They shall have flowers on the table'. Ac yn ystyr arbrawf y Ffindir a'r pethau a ddywedodd Adam Price, rwy'n rhannu yn llwyr y farn bod darparu pryd o fwyd i blentyn yn yr ysgol yn fwy na dim ond rhoi bwyd yn eu stumogau; mae'n ymwneud â'r gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo i'r plentyn hwnnw, a'r arwydd eglur yr ydym ni'n ei roi iddo am fuddsoddiad y mae cymdeithas yn ei wneud yn ei ddyfodol.
Nid oes angen i mi ddweud wrthych chi am werth cyffredinoliaeth gynyddol; diben cyffredinoliaeth yw eich bod chi'n sicrhau bryd hynny bod pawb sydd ei angen yn ei gael. O ran eich pwynt am adnoddau cyfyngedig, mae angen i ni fod yn ddeallus, felly mae angen polisïau sy'n cyflawni mwy nag un amcan arnom ni. Ac felly gallwch weld, gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, os byddwch chi'n ei gysylltu, er enghraifft, â'r economi sylfaenol—pryd sylweddol wedi'i gynhyrchu o fewn y filltir sgwâr, y cyfnod sylfaen a'r economi sylfaenol, gan sicrhau caffael lleol, plant yn dysgu o ble y daw eu bwyd ar yr un pryd â helpu'r busnesau cynhyrchu bwyd lleol a gafodd eu taro'n galed iawn gan y pandemig a, phwy a ŵyr, efallai gan Brexit 'dim cytundeb'—siawns mai dyna'r math o bolisi deallus sydd ei angen arnom ni, Prif Weinidog, sy'n darparu i fodel ataliol arbedion hyd yn oed o safbwynt ariannol oherwydd y canlyniadau iechyd ac addysgol gwell i'r plant dan sylw ac, yn wir, eu cyfleoedd bywyd economaidd, ond sydd hefyd yn ei wneud mewn ffordd gyfannol i'r economi, i gael gwell amgylchedd, i gael gwell iechyd ar yr un pryd.
Llywydd, roedd yr holl ddadleuon hynny yn ddadleuon a arweiniodd at Lywodraeth Lafur yn cyflwyno prydau am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, oherwydd mae gennym ni frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd sydd am ddim i bob plentyn. A dyna'r union fath o amcan lluosog a arweiniodd at i'r Cabinet ar y pryd ddod o hyd i'r arian i fuddsoddi ynddo. Mae brecwast am ddim yn darparu bwyd i blant y bydden nhw fel arall yn mynd hebddo, mae'n gwneud eu dysgu yn fwy effeithiol oherwydd bod ganddyn nhw fwyd yn eu stumogau ac yn gallu canolbwyntio ar eu dysgu, mae'n darparu yn arbennig ar gyfer y teuluoedd hynny sydd ar gyrion gweithio, oherwydd os nad oes rhaid i chi dalu am ofal i'r plentyn neu am i'r plentyn gael ei fwydo, yna mae eich gallu i gymryd swydd neu i wneud mwy o oriau yn y gwaith hwnnw yn cael ei wella hefyd. Felly, dod ag amcanion lluosog at ei gilydd yn ddeallus yw'r union beth y byddai unrhyw Lywodraeth yn dymuno ei wneud ac, fel y dywedais, gallwch ei weld bob dydd yn y gwasanaeth blaengar a chyffredinol hwnnw y mae brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd yn ei gynrychioli.