Cwestiwn Brys: Cyfyngiadau COVID-19

– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 16 Rhagfyr 2020

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiwn brys, sydd i'w ofyn i'r Prif Weinidog, ac mae'n mynd i gael ei ofyn gan Paul Davies.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 16 Rhagfyr 2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymateb i'r pandemig COVID-19? (EQ0008)

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae nifer achosion y feirws yng Nghymru yn parhau i godi, gan roi ein GIG o dan straen dwys a pharhaus, drwy gyfuniad o bwysau’r pandemig a phwysau’r gaeaf. Mae'r amodau wedi'u cyrraedd yng Nghymru i symud i lefel rhybudd 4, fel y nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae’n ddrwg gennyf, Brif Weinidog. Rwy'n credu y gallwch barhau.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae'r amodau wedi'u cyrraedd yng Nghymru i symud i lefel rhybudd 4, fel y nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun yr wythnos hon. Byddwn yn cyflwyno mesurau newydd tynnach i ddiogelu iechyd pobl ac i achub bywydau.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Wrth gwrs, mae'n destun cryn ofid fod Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu rhoi ar waith yn genedlaethol i ymladd y cynnydd dramatig mewn achosion o COVID-19 ledled y wlad, a bydd hon yn ergyd chwerw i lawer o bobl ar draws Cymru sydd wedi cydymffurfio â chyfyngiadau’r Llywodraeth drwy'r flwyddyn ac sydd bellach yn wynebu cyfyngiadau pellach ar eu bywydau. Fodd bynnag, mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, ac o ystyried bod cyfradd R bellach yn uwch na 1.4 yng Nghymru, a chan fod cyfradd yr achosion a gadarnhawyd yn uwch na'r trothwy ar gyfer lefel rhybudd 4 yng nghynllun rheoli’r coronafeirws, rwy’n deall yn iawn yr hyn sy’n sail  i benderfyniad Llywodraeth Cymru.

Yn gyntaf, bydd llawer o bobl, yn ddealladwy, yn cwestiynu cymesuredd y mesurau hyn o bosibl, yn enwedig pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu, ac y bydd cyfyngiadau wedi'u targedu yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd penodol os yw'r dystiolaeth wyddonol yn caniatáu hynny? Wrth gwrs, ar hyn o bryd, bydd y mesurau hyn yn dilyn cyfnod o lacio cyfyngiadau rhwng 23 a 27 Rhagfyr, lle caniateir i bobl o Gymru deithio ledled y DU. A gwn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod cyfnod y Nadolig dros y 24 awr ddiwethaf, a deallaf y bydd datganiad yn cael ei wneud maes o law. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog egluro beth yn union yw'r trefniadau mewn perthynas â theithio, yng Nghymru, ac yn wir, ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

Mae hefyd yn hanfodol fod cyllid ac adnoddau digonol ar waith yn sail i'r newid i gyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, fel y gall pobl a busnesau sydd angen cymorth gael mynediad ato. Yn syml, ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau ysgwyddo baich y cyfyngiadau hyn heb gymorth y Llywodraeth. Ac felly, a all ddweud wrthym pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cyfyngiadau lefel 4, ac a all gadarnhau y bydd cymorth yn cael ei ddarparu ar frys ac nid yn nes ymlaen?

Nawr, mae’n rhaid rhoi cymorth i bobl sydd ei angen er mwyn eu hiechyd meddwl, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl, er mwyn sicrhau y bydd pobl yn cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod hwn. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud mwy wrthym am y cymorth y bydd yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod rhybudd lefel 4?

Er bod y cyfyngiadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod pan nad yw plant a phobl ifanc yn yr ysgol ac mewn lleoliadau prifysgol, bydd pryderon o hyd ynghylch yr hyn y gall y cyhoeddiad hwn ei olygu ar gyfer dechrau'r tymor academaidd nesaf. Ac felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau pa drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gyda'r sector addysg ynghylch effaith cyfyngiadau lefel 4? Ac a all gadarnhau ei fod yn dal yn bwriadu caniatáu i blant a myfyrwyr ddychwelyd i ysgolion, colegau a phrifysgolion ym mis Ionawr?

Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru hefyd i gyfleu unrhyw fesurau rhagofalus i bobl Cymru yn effeithiol er mwyn ennyn hyder y cyhoedd a’u cydymffurfiaeth â'r mesurau newydd hyn. Ac felly, rhwng nawr a 26 Rhagfyr, a all ddweud wrthym pa ganllawiau a chyfathrebiadau a gaiff eu gwneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn deall y mesurau newydd yn llawn, sut y gallant gael gafael ar gymorth, ac yn allweddol, pam fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn y lle cyntaf?

Ac yn olaf, Lywydd, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu gwerthuso ochr yn ochr â’r rhaglen frechu, gan y bydd gan honno hefyd rôl bwysig yn mynd i'r afael â'r feirws dros gyfnod y Nadolig. Mae angen gobaith ar bobl Cymru, ac mae'r rhaglen frechu yn rhan bwysig o atgoffa'r bobl fod golau ar ben draw’r twnnel tywyll iawn hwn ac mae’n rhaid i ni fod yn bositif ynglŷn â'r cynnydd a wneir yn hyn o beth. Felly, mae'n hanfodol fod mwy o fanylion yn cael eu darparu nawr ar y materion hyn, ac rwy'n croesawu unrhyw ddiweddariadau pellach y gall y Prif Weinidog eu rhoi yn ei ymateb. Diolch, Lywydd.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei ddealltwriaeth o'r amgylchiadau sydd wedi arwain at y cyhoeddiad heddiw ac am y cwestiynau manwl y mae wedi'u gofyn. Ein bwriad yw y bydd y rhain yn gyfyngiadau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y ffaith bod amrywiad yn lefel y coronafeirws mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r coronafeirws yn codi ym mhob rhan o'n gwlad, ac mae'n rhaid inni gymryd y camau a fydd yn diogelu pob rhan o'n gwlad, a dyna pam y byddwn yn gwneud hyn ar sail Cymru gyfan. Ond fel y cydnabu Paul Davies, mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun yn nodi llwybr y gellid ei gydnabod drwy wahanol lefelau o gyfyngiadau pe bai rhai rhannau o Gymru yn dangos mewn ffordd ddibynadwy a chynaliadwy eu bod ar ran wahanol o’r sbectrwm i rannau eraill o Gymru. Nid ydym yn y sefyllfa honno yma heddiw. Ond rwyf wedi rhoi ymrwymiad heddiw y byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau lefel 3, lefel 4 dair wythnos ar ôl iddynt gael eu cyflwyno, a bydd hynny'n rhoi cyfle i ni weld a yw'r gwahaniaeth dibynadwy, cynaliadwy hwnnw wedi'i gyflawni.

O ran trefniadau teithio, nid yw'r trefniadau teithio ar gyfer pum niwrnod cyfnod y Nadolig yn newid. Bydd y cyngor i bobl yn cael ei gryfhau heddiw yn y datganiad ar y cyd y byddwn yn ei gyhoeddi gan y pedair Llywodraeth, yn annog pobl i deithio pan fo angen yn unig, ac yn arbennig, i beidio â theithio o ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion i ardaloedd lle ceir nifer isel o achosion, ac rwy'n llwyr gefnogi’r cyngor hwnnw, a fydd yn cael ei nodi yn ddiweddarach y prynhawn yma.

O ran cyllid, byddwn yn darparu lefel uwch o gyllid y tu hwnt i'r £340 miliwn rydym eisoes wedi'i gyhoeddi. Byddwn yn sicrhau bod manylion ynglŷn â hynny ar gael cyn diwedd yr wythnos hon. Byddwn yn ceisio gwneud cymaint â phosibl o ddefnydd o'r dulliau sefydledig o roi cymorth gan Lywodraeth Cymru i'r busnesau sydd ei angen gan fod defnyddio mecanweithiau sefydledig yn golygu y gallwn wneud hynny’n gyflym. A dywedais wrth y Senedd ddoe, yn y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol pan wnaed newidiadau i letygarwch, mae miliynau o bunnoedd eisoes wedi'u rhoi i fusnesau yr effeithir arnynt, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'n cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol am y cymorth y maent yn ei roi gyda hynny.

Fe fuom yn trafod ddoe a gwnaeth arweinydd yr wrthblaid nifer o bwyntiau pwysig am iechyd meddwl, Lywydd. Nid wyf am eu hailadrodd yma, ar wahân i ddweud, o ran cydbwysedd y niwed sydd y tu ôl i'r holl benderfyniadau a wnawn fel Llywodraeth, fod yr effaith ar iechyd meddwl a lles pobl bob amser yn rhan ymwybodol o'r cyfrifiad a wnawn, ac rydym yn parhau i wneud hynny, a bydd y gwasanaethau a ddarparwn i helpu pobl gydag effaith y newidiadau ar eu lles meddyliol ar gael yn y cyfnod ar ôl y Nadolig.

Mae trafodaethau’n parhau, wrth gwrs, ynglŷn â dechrau’r tymor addysg nesaf. Trafodais y mater hwn fy hun gyda’r Gweinidog Addysg ddoe, ac mae’n parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau addysg lleol, undebau llafur, rhieni ac eraill. Mae sicrhau nad yw plant ar eu colled o ran addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru, a dyna sut y byddwn yn mynd ati ar ddechrau'r tymor ysgol nesaf.

Yn olaf, gan gytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies ynglŷn â phwysigrwydd cynnig rhywfaint o obaith i bobl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn, bydd brechu’n parhau fel y cynlluniwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lefel 4. Rhoddwyd y brechlynnau cyntaf i breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf yr heriau tymor byr sylweddol iawn sy'n ein hwynebu, mae'r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn nesaf yn wahanol, ac mae cyfathrebu hynny i'n cyd-ddinasyddion yn parhau i fod yn rhan o'r ffordd y byddwn yn helpu pobl i ymdopi â'r anawsterau y gwyddom eu bod yn cael eu hwynebu ym mywydau unigolion yn sgil lledaeniad y feirws yng Nghymru.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:41, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Fe wnaethom alw arnoch ddoe, Brif Weinidog, i roi ystyriaeth frys i gyflwyno cyfyngiadau haen 4 cyn 28 Rhagfyr os oes llawer o ardaloedd yng Nghymru, fel sy'n amlwg, eisoes ar lefel y difrifoldeb a nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd gennych. Felly, rydym yn croesawu hynny. Y cwestiwn amlwg yw, o gofio bod llawer o ardaloedd yng Nghymru eisoes ar y lefel honno o ddifrifoldeb, pam aros hyd yn oed tan noswyl y Nadolig a'r dyddiau canlynol. Pam ddim ymyrryd yn gynharach, yn enwedig yn yr ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o haint? Mewn perthynas â rhai ardaloedd yng Nghymru, er enghraifft, yn y gogledd-orllewin—ni chredaf y cafwyd unrhyw achosion newydd ar Ynys Môn ddoe—onid oes achos i ddadlau o hyd, o ystyried eich bod wedi cyfaddef bod egwyddor defnyddio dull rhanbarthol neu ddull lleol yn briodol, pam na ddylid rhoi’r dull rhanbarthol hwnnw ar waith yn gynharach hefyd i adlewyrchu’r hyn sydd i'w weld yn batrwm gwahanol yn y rhannau hynny o Gymru?

Mewn perthynas â’r llacio ar gyfer y Nadolig, rwy'n croesawu'r canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, ond onid oes perygl, os nad yw'r canllawiau a'r rheolau wedi'u halinio, y gallai hynny arwain at negeseuon cymysg a dryswch? A dywedaf hynny'n arbennig o gofio’r neges wahanol iawn a ddaw o Lundain a San Steffan y prynhawn yma, lle mae Prif Weinidog y DU, yn yr awr ddiwethaf, wedi bod ar ei draed yn dweud bod ‘cytundeb unfrydol’ fod yn rhaid i gynlluniau’r Nadolig fynd yn eu blaenau o hyd. Ac mae wedi bod yn disgrifio arweinydd eich plaid fel y Grinch a fyddai'n dwyn y Nadolig, ac mai ef yw'r un sy'n ei warchod. Dywedodd rai pethau negyddol iawn am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyfnod atal byr ar yr un pryd. Felly, ymddengys i mi fod perygl, oherwydd y negeseuon cymysg, na fydd pobl yn deall y neges rydych yn ceisio’i chyfleu ein bod mewn sefyllfa wahanol yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, ni allwn lacio’r rheolau yn yr un modd, ac oni bai eich bod yn newid y rheolau, gallai pobl ddod i’r casgliad anghywir, Brif Weinidog. Felly, hoffwn i chi roi sylw arbennig i'r pwynt hwn ynglŷn ag a oes angen i ni newid y rheolau er mwyn cynnal y canllawiau clir rydych bellach wedi'u rhoi.

Ar lefel fwy cyffredinol, rydym wedi cael nifer o newidiadau polisi gan Lywodraeth Cymru mewn cyfnod byr, onid ydym, dros y chwe wythnos ddiwethaf? Felly, cawsom y cyfnod atal byr. Credwn ein bod wedi dod allan o'r cyfnod atal byr yn rhy sydyn. Dywedasom ar y pryd—y dylem fod wedi cael rhyw fath o gyfnod clustogi o gyfyngiadau uwch byth. Wedyn, fe gawsom drefn fwy llac ei rheolau nag unman yn y DU am gyfnod, yn ôl pob tebyg, Brif Weinidog, yna cawsom yr hyn y byddai rhai wedi'i ystyried yn newid sydyn neu lym i gyfyngiadau uwch. Nawr, rydym wedi cael y cyhoeddiad hwn heddiw. Credaf fod Llywodraeth Cymru, o’i chymharu—yn sicr o’i chymharu â Llywodraeth y DU—wedi cael cryn dipyn o gymeradwyaeth, yn bennaf oherwydd y cysondeb a'r dull gofalus, pwyllog a chyson rydych wedi'i fabwysiadu am y rhan fwyaf o'r pandemig. A ydych yn credu bod hynny wedi'i ddadwneud dros yr wythnosau diwethaf? Sut y gallwch ailadeiladu'r ymdeimlad hwnnw o lwybr clir a chyson fel nad oes gennym ddull sy’n newid o un peth i'r llall o hyd, lle rydym yn mynd i mewn ac allan o gyfyngiadau gan beri dryswch a chryn dipyn o flinder ymhlith y cyhoedd, fel y gallwn weld, a ninnau'n symud bellach, yn anffodus, at sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gynyddu lefel y cyfyngiadau unwaith eto, inni allu gweld llwybr clir a chyson tuag at leihau nifer yr achosion a symud i lawr yr haenau yn hytrach na gorfod eu symud i fyny ac i lawr, fel rydym wedi’i weld, yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:46, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi, ‘Pam aros?’ Wel, oherwydd ein bod, fel bob amser, yn cydbwyso sawl gwahanol fath o niwed. Yn ymarferol, yr unig beth y gallem ei wneud heddiw nad ydym yn ei wneud tan Noswyl Nadolig yw cau pob busnes manwerthu nwyddau dianghenraid. Wrth gwrs, rydym wedi ystyried yn ofalus iawn a ddylem wneud hynny nawr, ond fe fydd yn gwybod mai'r cyfnod masnachu hwn cyn y Nadolig yw'r ychydig wythnosau pwysicaf yn y flwyddyn gyfan i gynifer o gwmnïau yng Nghymru.

Rydym yn cydbwyso niwed i'r economi fel rydym yn cydbwyso niwed i iechyd. Rydym yn cydbwyso materion cydraddoldeb hefyd: po dlotaf yr ydych, yr agosaf at y Nadolig yr ewch chi allan i brynu pethau gan fod yn rhaid i chi aros i wybod faint o arian sydd gennych yn eich poced i wneud hynny. Gallem gau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid heddiw, a byddai'r bobl sy'n ddigon ffodus i fod ag arian yn barod, neu sy'n gallu prynu pethau ar-lein yn hawdd, yn dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hynny, a byddai'r teuluoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru eisoes o dan anfantais bellach. Mae cyfres o wahanol fathau o niwed y mae'n rhaid i chi ei chydbwyso o hyd. Ein barn ni yw bod y cydbwysedd rydym wedi'i daro, gan fod yn glir y bydd cyfyngiadau newydd sylweddol ar waith yn syth ar ôl y Nadolig oherwydd y niwed rydym yn ei wynebu i iechyd, ynghyd â'r pethau rydym yn eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn taro’r cydbwysedd gorau y gallwn ei ganfod.

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi pam yn benodol na wnaethom gyflwyno'r newidiadau hynny yn yr ardaloedd â’r lefelau uchaf o'r haint. Wel, yr ateb yw na fyddent yn effeithiol. Nid yw cau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid mewn rhai rhannau o Gymru yn warant o gwbl na fyddai pobl wedyn yn teithio i rannau eraill o Gymru lle mae’r siopau ar agor. Ni fyddai’n fesur effeithiol i'w roi ar waith, a byddai’n gam gwag heb effaith. Ni chredaf ein bod yn dymuno gwneud rhywbeth felly. Ar ôl gofyn i mi pam nad wyf wedi gwneud mwy mewn rhai ardaloedd, gofynnodd i mi pam nad wyf wedi gwneud llai mewn ardaloedd eraill, a’r ateb i hynny yw ein bod yn parhau i dderbyn cyngor cryf mai mesurau cenedlaethol—negeseuon unigol yn cael eu cyfleu ym mhobman yn y ffordd gliriaf y gallwn eu rhoi—sydd â’r cyfle gorau i gael eu dilyn, ac felly i fod yn effeithiol. Nid wyf am gynnig lefel is o ddiogelwch i rai rhannau o Gymru nag eraill a minnau’n credu y byddai hynny'n arbed bywydau pobl.

Ac er ei bod yn wir, ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—nad yw pethau cynddrwg yng Ngwynedd ac Ynys Môn ag a oeddent yn y siroedd hynny ychydig wythnosau yn ôl, na chynddrwg â’u cymdogion, nid wyf yn teimlo bod gennym batrwm dibynadwy eto, a phatrwm sy'n rhoi hyder i ni, y bydd yr ardaloedd hynny’n parhau i fod ar lefelau is yn y dyfodol i’r graddau y byddech yn barod i gynnig lefel is o ddiogelwch iddynt. Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Llundain dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi cadarnhau popeth y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau wedi’i ddweud wrthym: fod lefelau is o ddiogelwch yn arwain at lefelau heintio uwch yn y dyfodol. Nid wyf am weld hynny'n digwydd mewn unrhyw ran o Gymru. Fel y dywedais wrth Paul Davies fodd bynnag, pe bai patrwm gwahaniaethol dilys, dibynadwy a chynaliadwy yn dod i’r amlwg, byddai'r cyfnod adolygu ar ddiwedd y tair wythnos yn caniatáu i ni roi sylw i hynny, ac mae’r cynllun a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun yn rhoi llwybr i ni tuag at wahaniaethu rhanbarthol. Nid ydym yn y sefyllfa honno heddiw; ni fyddai'n fuddiol i'r cymunedau y cyfeiriodd Adam Price atynt.

Lywydd, nid wyf yn gyfrifol am farn anffodus Prif Weinidog y DU, ac nid oes neges gymysg yma yng Nghymru. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi, ac fe’i hailadroddaf nawr, yw: mae’r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol fel mai dwy aelwyd yn unig a ddylai feddwl am ddod ynghyd dros gyfnod y Nadolig yn yr un aelwyd estynedig sydd gennym eisoes. Am y pum niwrnod hynny, byddwn yn caniatáu i aelwyd un person ymuno â'r aelwyd estynedig honno, ond dyna'r graddau llawn y dylem ei weld yma yng Nghymru o ran cymysgu rhwng aelwydydd. Cytunwyd yn y cyfarfod rhwng y pedair gwlad heddiw ar set gryfach o negeseuon a fydd yn berthnasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Cytunwyd hefyd ei bod yn hanfodol i ni allu parhau i ymateb i'r gwahanol batrymau a welwn ar draws y pedair gwlad. Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r datganiad ar y cyd y byddwn yn ei wneud fel pedair gwlad y prynhawn yma, ac rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r neges y bûm yn ei rhoi drwy gydol yr awr a hanner ddiwethaf mai dwy aelwyd yn unig a ddylai ddod ynghyd yma yng Nghymru.

Mae Adam Price yn tynnu sylw at y ffaith ein bod wedi cael patrymau newidiol o'r coronafeirws yma yng Nghymru a'n bod wedi gorfod ymateb iddynt. Nid wyf yn cytuno ag ef y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o’r farn fod yr amodau pan ddaethom allan o'r cyfnod atal byr yn rhai llac; dwy aelwyd yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd yng Nghymru, pedwar o bobl yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd mewn unrhyw leoliad awyr agored. Mae'r rheini'n gyfyngiadau anarferol ar allu normal pobl i gyfarfod â'i gilydd, ac maent wedi bod ar waith yma yng Nghymru ers diwedd y cyfnod atal byr. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom galibradu ein hymateb i'r patrwm newidiol a welwn. Wythnos yn ôl yn unig, roedd arweinydd Plaid Cymru yn fy annog i gadw tafarndai ar agor yn hirach ac yn cwyno nad oeddwn yn caniatáu i alcohol gael ei werthu. Heddiw, mae'n cydnabod y sefyllfa wahanol rydym ynddi yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn gorfod meddwl am ein hymateb gan fod y feirws yn newid o'n blaenau bob dydd, ac mae'r effaith y mae'n ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd.

Diolch i arweinydd Plaid Cymru am yr hyn a ddywedodd am y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun; ei bwriad oedd darparu mwy o eglurder i bobl ynghylch y llwybrau sy'n bodoli rhwng y gwahanol lefelau o ymyrraeth sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru. Bu’n rhaid i ni ddweud heddiw y bydd y manylion y mae’r ddogfen honno’n eu darparu ar gyfyngiadau lefel 4 yn dod i rym yng Nghymru yn syth ar ôl y Nadolig, ond mae hefyd yn nodi i bobl sut y gall pethau fod yn wahanol yn y dyfodol. Pan fydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn newid o'r cyfyngiadau difrifol iawn hynny a'r cyfyngiadau angenrheidiol yn y cyfnod ar ôl y Nadolig i ddyfodol gwahanol, ac wrth wneud hynny, credaf y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth gadarn y mwyafrif helaeth o'r bobl yma yng Nghymru.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:54, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud fy mod yn llwyr gefnogi penderfyniadau'r Prif Weinidog? Ond rydym yn agosáu at saith diwrnod mwyaf peryglus y flwyddyn: amser partïon swyddfa. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio atal y partïon hyn rhag cael eu cynnal? Bydd gan rai fwyd, bydd gan rai ddiodydd, bydd rhai’n cael eu cynnal yn y swyddfa, ond y partïon swyddfa hyn—mae'n rhaid i ni geisio eu hatal rhag digwydd. Er bod gan deuluoedd sy'n cyfarfod gadwyn fer, mae gan bartïon swyddfa—ac yna dychwelyd adref, ar drafnidiaeth gyhoeddus o bosibl—gadwyni hirion.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Mae Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig iawn rwy'n awyddus iawn i'w gadarnhau. Wrth gwrs rydym mewn cyfnod lle na ddylai unrhyw un sy’n barod i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif fod yn ystyried dod â nifer fawr o bobl ynghyd i gymysgu o dan unrhyw amgylchiadau. Ac mewn gweithle, nid yn unig y bydd yno unigolion a ddylai ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, ond bydd y bobl sy’n gyfrifol am y lleoliadau hynny'n rhwym i'r rheoliadau sydd gennym yma yng Nghymru fod yn rhaid rhoi’r holl fesurau angenrheidiol ar waith yn y gweithle i ddiogelu rhag y perygl y mae coronafeirws yn ei achosi. Felly, gadewch i mi ddweud yn glir: byddai’n gwbl groes i’r rheoliadau hynny, ac yn gwbl groes i gyfrifoldebau’r bobl hynny sy’n gyfrifol am leoliadau swyddfa, pe bai partïon swyddfa o’r math y disgrifiodd Mike Hedges yn cael eu cynnal. Mewn lleoliadau eraill, mewn lleoliadau lletygarwch wrth gwrs, byddai'r cyfyngiadau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn atal hynny, gan na all mwy na phedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol ddod ynghyd mewn lleoliadau o'r fath. Felly, gobeithio nad oes unrhyw un yn meddwl bod hwn yn gyfle i geisio ymestyn, plygu neu dorri'r rheolau hynny, ac nad oes unrhyw leoliad yn meddwl mai dyma'r adeg i ymgymryd â’r math hwnnw o weithgarwch. Mae'r sefyllfa yng Nghymru ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai unrhyw un gredu y byddai hynny'n rhywbeth call i'w wneud neu'n rhywbeth y byddai modd ei amddiffyn.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:56, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n codi i siarad, yn amlwg, o blaid y Prif Weinidog. Fy ymateb pennaf i'r cyhoeddiad heddiw yw rhyddhad. Rydym yn edrych ar y niferoedd, ac rydym yn gwrando ar y swyddogion iechyd a staff rheng flaen y GIG, yn fy rhanbarth fy hun yn unig, ac mae'r sefyllfa mewn perygl eithafol o fynd y tu hwnt i reolaeth. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, wrth gwrs; dyna eiriau'r bobl hynny y bu’n rhaid iddynt wneud y penderfyniadau anodd iawn hynny. Rydych chi a'ch Cabinet, Brif Weinidog, wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac rwy'n eich canmol am wneud hynny. Nid oes unrhyw un yn dymuno dweud wrth bobl eraill, 'Ni allwch wneud yr hyn rydych yn dymuno’i wneud'. Ond mae'n rhaid i chi wrando hefyd ar y bobl y mae pob un ohonom wedi'u clywed ar y radio, ar y teledu, ar Twitter—y gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofyn i ni weithredu. Ac ni allwn anwybyddu hynny. Gobeithio y bydd pawb sy'n siarad heddiw—ac rwy'n falch iawn fod y rhai sydd wedi siarad eisoes wedi gwneud hynny—yn adlewyrchu'r sefyllfa honno, a'i difrifoldeb, a'r pwysau anghynaladwy sy'n codi ar staff ein GIG. Gŵyr pob un ohonom, wrth gwrs, ein bod ynghanol misoedd y gaeaf, ac fel arfer, mae pwysau ar rai mannau, ond os ydych yn ychwanegu ffigurau COVID-19 at hynny, credaf ei bod yn eithaf amlwg i unrhyw un sy'n deall y ffigurau hynny fod rhaid gweithredu ar frys—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:58, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod at gwestiwn nawr, Joyce Watson, os gwelwch yn dda.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Mae golau ar ben draw’r twnnel—twnnel a fu ac sy'n parhau i fod yn dwnnel tywyll iawn—ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych wedi'i ddweud. Ond mae gennyf un cais heddiw, Brif Weinidog. Gofynnaf i chi gyfleu neges i bobl am weithwyr archfarchnadoedd. Mae pob un ohonom wedi gweld y ffaith eu bod wedi cael eu difrïo yn y siopau eleni, yn fwy felly nag unrhyw flwyddyn arall, felly a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i bobl, wrth iddynt ruthro i brynu bwyd, barchu’r gweithwyr yn yr archfarchnadoedd a’r siopau a fydd yn gweithio i'w gwasanaethu fel eu bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a'r hyn y maent ei eisiau?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:59, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr hyn a ddywedodd? Un o'r prif resymau pam y penderfynodd y Cabinet gyflwyno'r cyhoeddiad hwn heddiw oedd sicrhau bod pobl sy'n gweithio ar reng flaen ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwybod bod eu Llywodraeth yn gweithredu ar eu rhan. Rydym wedi bod yn asesu hyn dros nifer o ddyddiau, felly gwyddom ein bod wedi paratoi ar gyfer y foment hon, ond nid oes unrhyw reswm pam y dylent hwy wybod hynny, ac mae'r ymdeimlad hwnnw o ryddhad y cyfeiriodd Joyce Watson ato, yn fy marn i, yn cael ei rannu gan y bobl sy’n gwybod bellach fod camau’n cael eu cymryd yng Nghymru, nad ydym yn eu hosgoi, ac na fyddwn yn gwneud yr hyn sydd weithiau’n hawdd i’w wneud ac osgoi’r negeseuon anodd y mae’n rhaid i Lywodraethau eu rhannu.

Felly, credaf y byddwn yn cadarnhau greddfau gorau'r Cymry, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn awyddus i wneud y peth iawn. Maent yn dymuno gwneud eu cyfraniad. Maent am wybod bod eu Llywodraeth yn darparu’r cyd-destun sy’n caniatáu iddynt chwarae eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol fawr hon, a’r rheswm dros wneud y penderfyniad hwn a’i gyhoeddi heddiw oedd i gydnabod safbwyntiau ein gweithwyr ar y rheng flaen, ond i roi’r amser sydd ei angen ar ein cyd-ddinasyddion i baratoi ar gyfer y newidiadau y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â hwy nawr.

Heb os, bydd hynny'n rhoi mwy fyth o bwysau ar y bobl sydd wedi mynd i’w gwaith bob dydd yn ein harchfarchnadoedd drwy gydol y pandemig hwn, a rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn sicrhau bod y gweddill ohonom yn gallu mynd allan i gael y bwyd sydd ei angen arnom, hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau mwyaf ar rannau eraill o'n bywydau. Gadewch i mi ddweud y prynhawn yma, Lywydd: rwy’n disgwyl i’r archfarchnadoedd eu hunain sicrhau eu bod yn gwneud popeth i ddiogelu'r lleoedd hynny fel lleoedd lle mae angen diogelu iechyd y cyhoedd, ac i ddiogelu eu staff yn y gwaith a wnânt.

Rwy’n disgwyl i’r archfarchnadoedd sicrhau eu bod yn gosod terfynau uchaf ar gyfer y nifer fwyaf o bobl a ddylai fod y tu mewn i archfarchnad ar unrhyw adeg; eu bod yn plismona hynny'n ofalus wrth y fynedfa, a phan fydd ganddynt systemau unffordd yn eu siopau, y cedwir at y systemau unffordd hynny, yn hytrach na’u bod yno ar y llawr yn unig; eu bod yn darparu cyngor rheolaidd i bobl dros yr uwchseinyddion fel bod pobl yn deall yr hyn y disgwylir iddynt ei wneud; pan fydd pobl yn ciwio i adael yr archfarchnad ac i dalu am eu nwyddau, fod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n parchu'r argyfwng iechyd cyhoeddus rydym ynddo, ac yn parchu'r gweithwyr sydd yno i helpu'r gweddill ohonom.

Felly, rwy'n fwy na pharod i anfon y neges y gofynnodd Joyce Watson i mi ei rhoi. Mae'r bobl hynny’n mynd i’w gwaith bob dydd fel y gall y gweddill ohonom fynd i brynu'r pethau, y pethau angenrheidiol mewn bywyd, a dylid dathlu eu cyfraniad a’i barchu hefyd.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:02, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud; mae'n amlwg yn gyfnod anodd iawn i bawb. Mae gennyf rai cwestiynau penodol iawn yr hoffwn eu gofyn. Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, sut y bydd hyn yn effeithio ar westai, gyda llawer ohonynt wedi cymryd archebion am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr. Roeddent yn tybio eu bod yn ddiogel i wneud hynny. Os yw lletygarwch yn cau’n llwyr ar Ddydd Nadolig, sut y mae hynny'n effeithio ar y gwestai hynny? Mae angen iddynt wybod nawr, Brif Weinidog, oherwydd os oes rhaid iddynt ganslo archebion, mae'n rhaid iddynt wneud hynny ar unwaith.

Brif Weinidog, ni fydd yr agor a chau, agor a chau hwn yn gynaliadwy i rai busnesau. Rydym wedi siarad â'ch Llywodraeth o'r blaen am yr angen, o bosibl, am gefnogaeth hirdymor i alluogi rhai busnesau gael seibiant tan gyfnod y gwanwyn. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r costau i fusnesau o agor a chau, yn enwedig busnesau lletygarwch. A all y Llywodraeth roi ystyriaeth bellach i sut y gellir darparu'r cymorth hwnnw yn y tymor canolig i fusnesau y gallai fod yn well ganddynt gael seibiant dros y gaeaf, yn hytrach nag agor a chau?

Pryd y mae'n meddwl y gallai roi unrhyw syniad i fusnesau sydd am ailagor o'r math o amserlen a allai eu hwynebu? Brif Weinidog, rwy’n derbyn bod y cyfan yn dibynnu ar sut y mae'r feirws yn ymddwyn ac ni allwn ragweld hynny, ond mae'n anodd i fusnesau os nad ydynt yn gwybod a ydynt yn edrych ar ailagor ganol mis Ionawr, fod dim ystyriaeth o hynny’n bosibl tan ddiwedd mis Ionawr. A all roi unrhyw arweiniad arall iddynt?

Ac yn olaf, o ran yr hyn a ddywedodd heddiw am ddim ond dwy aelwyd yn cyfarfod yng Nghymru ar gyfer y Nadolig, a all egluro i ni—ai cyngor gan Lywodraeth Cymru yw hwnnw nawr, ai arweiniad, neu ai dyna fydd y gyfraith? Oherwydd fel y dywedoch chi, rwy’n credu, mewn ymateb i nifer o bobl eisoes heddiw, Brif Weinidog, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall yr hyn y mae gofyn iddynt eu wneud. Fe wnaiff faddau i mi, rwy'n siŵr, ond nid wyf yn siŵr yn fy meddwl fy hun beth rydych wedi'i ddweud hyd yn hyn, a ydym yn siarad yma am gyngor, cyngor wedi'i eirio'n gryf, arweiniad sy'n fwy ffurfiol ond os byddwch yn ei dorri, nid ydych y torri'r gyfraith, neu ofyniad cyfreithiol go iawn.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, ar y pwynt olaf gan Helen Mary Jones, byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater hwnnw pan fydd y datganiad rhwng y pedair gwlad wedi’i gytuno a'i gyhoeddi. Mae'n darparu'r cyd-destun y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw ynddo. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl gorddatgan arwyddocâd y penderfyniad. Nid yw'r rhan fwyaf o'n cyd-ddinasyddion yn myfyrio dros y gwahaniaeth rhwng arweiniad a rheoliad. Maent eisiau gwybod beth yw'r peth iawn i'w wneud. A dyma’r peth iawn i’w wneud: yng Nghymru, ni ddylai mwy na dwy aelwyd gyfarfod dros y Nadolig. Dyna ni. Nid wyf yn credu y gall fod yn fwy plaen. Nid wyf yn credu y gellir ei ddweud yn gliriach. Bydd p'un a ydym yn parhau i ddarparu hynny fel arweiniad neu reoliad yn dibynnu ar y cyd-destun ehangach, a ddaw'n amlwg y prynhawn yma, a byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol yn ei gylch bryd hynny, ond bydd y neges yr un fath. Mae'r neges yn union yr un fath yn y naill achos neu'r llall, ac fel y dywedodd Adam Price, y neges yw'r peth allweddol yma, ein bod yn cyfleu'r neges i bobl mor glir ag y gallwn, ac nid wyf yn credu y gallwn fod wedi bod yn gliriach.

Rydym yn gweithio gyda gwestai a sectorau eraill yn ystod y dydd i roi'r eglurder sydd ei angen arnynt. Mae llawer o'r hyn rydym wedi'i ddarparu eisoes yn ddigonol i ganiatáu ar gyfer cyfnod o seibiant mewn twristiaeth a rhai busnesau lletygarwch, a bydd cymorth pellach o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaethom heddiw. Mae arnaf ofn fod Helen Mary Jones yn gywir mewn gwirionedd pan atebodd ei chwestiwn ei hun ynglŷn â pha bryd y gall busnesau ailagor. Bydd adolygiad tair wythnos, felly byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth bryd hynny. Os yw’n bosibl cynnig unrhyw lacio ar y cyfyngiadau’n rhanbarthol neu’n genedlaethol, dyna fyddem am ei wneud wrth gwrs, ond bydd yn dibynnu’n llwyr ar i ba raddau y mae’r mesurau erbyn hynny'n lleddfu’r pwysau a welwn ar y gwasanaeth iechyd heddiw, pwysau sy'n anghynaladwy oni roddir camau ar waith i wrthdroi'r duedd honno. Os bydd y duedd yn cael ei gwrthdroi'n gynaliadwy o fewn tair wythnos, bydd hynny'n creu un cyd-destun. Os oes rhaid i ni fynd ymhellach a gwneud mwy er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd ar gael i bobl Cymru, nid yn unig ar gyfer coronafeirws ond yr holl bethau eraill yr edrychwn amdanynt, dyna a wnawn.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion i'r cwestiynau heddiw. Mae'r rhain yn amseroedd anodd i fusnesau, ac i gymunedau, ac yn wir i'r Llywodraeth. Bydd y rhai ohonom sy'n eistedd ar y meinciau cefn yn y Siambr hon yn gwybod, am bob e-bost a gawn yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, ein bod yn cael e-bost arall yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu tynhau. Nid yw'n hawdd gwneud y penderfyniad gorau o dan yr amgylchiadau hynny, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniadau cywir. Nid yw'n hawdd cynnig atebion rhanbarthol yng Nghymru ychwaith. Mae gan Gymru lawer llai o arwynebedd tir na Lloegr a'r Alban, a gobaith ofer yw credu y gellir atal y feirws neu ei gadw o un rhan o Gymru. Pan fyddwch yn croesi i sir Conwy o'r dwyrain, nid ydych yn mynd drwy siecbwynt. Mae'n hawdd croesi'r ffin, a hynny'n gwbl briodol. Nid lled môr Iwerddon yw afon Menai, felly nid yw'n gweithredu fel rhwystr naturiol, a bydd pobl yn croesi ffiniau os bydd yn rhaid iddynt wneud hynny. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid a fy nghyd-Aelod Joyce Watson ynglŷn â phwysigrwydd gobaith. Mae golau ym mhen draw'r twnnel. Mae'n fater o faint o fywydau y gallwn eu harbed nes i ni gyrraedd y fan honno. Felly, fy nghwestiwn i, Lywydd, yw hwn: gyda golwg ar gynnig gobaith i bobl, oherwydd yn anochel fe gafwyd llawer o gyfyngiadau dros y misoedd diwethaf, a all y Prif Weinidog ddweud pryd y gallem gyrraedd nifer arwyddocaol yn glinigol o bobl wedi'u brechu, fel y gall pobl ddechrau breuddwydio am ddychwelyd i normalrwydd bryd hynny?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i Carwyn Jones am y cwestiynau hynny ac am y crebwyll y mae'n ei ddangos, wrth gwrs, ynglŷn â'r cydbwysedd heriol parhaus sydd i'w daro yn y penderfyniadau sy'n rhaid inni eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n iawn wrth gwrs. Pan fydd pobl yn ysgrifennu atom gyda safbwyntiau gwahanol iawn, nid yw byth oherwydd bod gan un safbwynt yr holl bethau cywir ar ei ochr ac nad oes unrhyw rinwedd o gwbl yn perthyn i'r safbwynt arall.

Yn y dyddiau diwethaf bûm yn gwrando'n astud iawn ar yr holl negeseuon a gawn gan uwch glinigwyr a gweithwyr rheng flaen, yn union fel y bûm yn gwrando ar negeseuon gan ofalwyr anffurfiol mewn cymunedau yng Nghymru sydd wedi dweud wrthyf am yr angen iddynt gael cefnogaeth ehangach gan deuluoedd dros y Nadolig er mwyn parhau i wneud yr holl bethau a wnânt bob dydd i ofalu am bobl eraill yng Nghymru. Mae un grŵp o bobl yn fy annog i dynhau pethau, a'r grŵp arall o bobl yn fy annog i beidio. Mae gan y ddau ddadleuon cryf iawn i'w gwneud, wrth iddynt drosglwyddo'r negeseuon hynny i mi. Ac mae'n rhaid i ni gael y penderfyniad cytbwys y cyfeiriodd Carwyn Jones ato. Ac wrth gwrs, mae'n iawn i dynnu sylw at y cyfyngiadau ar atebion rhanbarthol yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n dal i orfod pwysleisio nad gwahaniaeth dros dro rhwng un rhan o Gymru a'r llall yw'r hyn y byddai'n rhaid i ni ei weld, neu batrwm yn pendilio rhwng niferoedd yn codi a niferoedd yn gostwng, ond gwahaniaeth cyson a chynaliadwy rhwng rhai rhannau o Gymru ac eraill. Nawr, gall hynny ddigwydd a gall ddigwydd dros yr wythnosau i ddod, ac os bydd yn digwydd, mae ein cynllun yn caniatáu inni ymateb i hynny. Ond yn union fel y gwelsom rannau o Gymru gyda niferoedd yn gostwng, mae'r un rhannau o Gymru, ar wahanol adegau, wedi bod ar ben uchaf coronafeirws yn ystod y misoedd sydd wedi mynd heibio. Felly, byddai angen inni fod ar lefel wahanol o ddibynadwyedd gwahaniaethu er mwyn manteisio ar y llwybr penderfynu y mae'r cynllun yn caniatáu inni ei ddilyn.

Rwyf am orffen fy ateb i gwestiwn Carwyn Jones drwy gytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd gobaith. Heddiw, rydym yn brechu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal am y tro cyntaf yng Nghymru. Fe wnaethom frechu nifer o bobl yng Nghymru ar ben uchaf yr hyn a ddisgwyliem yr wythnos diwethaf. Os ydym am gyrraedd y niferoedd yr hoffem eu gweld a'r effaith y byddem am ei gweld ym mywydau pobl, rhaid inni weld brechlynnau eraill hefyd yn cael cymeradwyaeth reoleiddiol er mwyn cael brechu ar raddfa fawr i ddigwydd yma yng Nghymru. A hyd yn oed gyda phopeth yn ei le a chyda phenderfyniad enfawr ein gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i wneud y cyfraniad hwnnw, mae arnaf ofn na fyddwn yn y sefyllfa honno tan ymhell i mewn i ail chwarter y flwyddyn nesaf ar y cynharaf.