1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cafwyd adroddiadau y bu’n rhaid gwrthod 26,000 dos o frechlyn AstraZeneca ar y cam profi. Roedd y dosau hyn wedi’u dynodi ar gyfer Cymru. A allwch roi diweddariad i'r Cyfarfod Llawn ynghylch eich dealltwriaeth o'r rheswm pam y cawsant eu gwrthod, a sut y gallai hynny effeithio ar y cyflenwad yng Nghymru?
Gallaf. Mae'n ymwneud ag oedi yn y broses o swp-brofi’r dosau. Felly, credwn y bydd oedi i'r cyflenwad yng Nghymru, yn hytrach na’u bod yn cael eu colli’n gyfan gwbl, ac mae'n fater sy'n effeithio ar y DU hefyd. Felly, mae gennyf gyfarfod arall gyda'r Gweinidog brechlynnau, Nadhim Zahawi, o Lywodraeth y DU yr wythnos hon. Rwy'n cael cyfarfod arall gyda Gweinidogion Cabinet cyfatebol ar gyfer iechyd o bob rhan o'r DU yr wythnos hon hefyd. Felly, rydym yn parhau i siarad gyda’n gilydd am faterion cyflenwi a darparu’r brechlyn, a hyd y gwelaf, nid oes problem benodol y gallaf roi mwy o fanylion yn ei chylch yn y ffordd y mae’r Aelod yn gofyn, heblaw dweud fy mod yn gobeithio rhoi sicrwydd defnyddiol ynghylch y ffaith bod y pedair gwlad yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'r oedi i'n cyflenwad yn rhywbeth rydym yn disgwyl gallu gwneud iawn amdano fel y gall ein staff a'n cydweithwyr gwych a gweithgar yn y GIG barhau i gyflwyno'r rhaglen frechu i helpu i ddiogelu pobl ledled y wlad.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn gadarnhau: roeddwn yn sôn am frechlyn AstraZeneca, nid yr oedi tra hysbys—
Na, rwy’n deall.
—gydag ad-drefnu'r ffatri a brechlyn Pfizer.
Ond os caf eich holi hefyd ynglŷn â thystiolaeth a ymddangosodd ym mhapurau'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau mewn perthynas â’n cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r gwaith y mae SAGE wedi'i wneud ar ganfyddiad y cymunedau hynny o’r rhaglen frechlyn, roedd y gwaith a wnaethant yn nodi bod canran uchel—72 y cant, mewn gwirionedd—o'r bobl a holwyd naill ai'n annhebygol neu'n annhebygol iawn o gael y brechlyn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dawelu ofnau pobl yn ein cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac i fynd i'r afael â'r dystiolaeth y mae SAGE wedi'i chyflwyno fod y cymunedau hynny’n gyndyn o fanteisio ar y brechlyn?
Wel, rydym eisoes yn gweithio nid yn unig gyda ffigurau sydd wedi ein helpu yn y gorffennol—felly mae Emmanuel Ogbonna a Ray Singh hefyd yn awyddus i fod o gymorth—ond hefyd Race Council Cymru. Rydym yn awyddus i estyn allan at arweinwyr cymunedol, fel rydym wedi bod yn ei wneud, gan fy mod yn cydnabod bod hyn yn bryder gwirioneddol. Felly, mae gennych y cyfosodiad hwn lle mae pobl o gymunedau o darddiad du ac Asiaidd ar y naill law yn fwy tebygol o ddioddef niwed yn sgil COVID, ac ar y llaw arall, yn hytrach na bod yn fwy awyddus i gael eu diogelu gan y brechlyn, dyna ble y ceir fwyaf o amheuaeth ynghylch y brechlyn. Ac fel y gwyddoch, mae llawer o newyddion ffug yn cael ei ledaenu ynglŷn â’r brechlyn, am ei effeithiolrwydd, am bandemig COVID yn gyffredinol a dweud y gwir, ac mae'n un o'r achlysuron pan nad yw'n ymwneud â'r Llywodraeth hon yn unig yn fy marn i, ond â'r pedair Llywodraeth a’r holl bobl ar ben cyfrifol gwleidyddiaeth, ni waeth o ba blaid, yn rhoi neges unedig i’n hetholwyr, sef bod y brechlynnau hyn wedi cael eu cymeradwyo gan reoleiddiwr annibynnol yn unig. Nid oes unrhyw wleidydd yn penderfynu a yw'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Y rheoleiddiwr sy’n penderfynu a ellir eu defnyddio a sut y gellir eu defnyddio, a gwaith gwleidyddion a'n gwasanaethau iechyd wedyn yw sicrhau eu bod yn cael eu darparu. Felly, byddwn yn annog pawb, pan ddaw eich tro, i sicrhau eich bod yn barod, i gael y brechlyn, i gael eich diogelu a byddwch yn diogelu eich hunan, eich anwyliaid, ac wrth gwrs, llawer o bobl eraill ledled y wlad hefyd.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac os gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn rheolaidd ar y ffigurau hyn wrth i'r broses o gyflwyno'r brechlyn yma yng Nghymru fynd rhagddi, gan eu bod yn eithaf brawychus—72 y cant ym mhapurau’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio tawelu unrhyw ofnau a allai fod yn treiddio i'r cymunedau hynny gan atal pobl rhag cael y brechlyn.
Ond hefyd, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg bellach, wrth i’r rhaglen frechu fynd rhagddi, fod un o bob pum aelod o staff cartrefi gofal, er enghraifft, yn gwrthod cael y brechlyn. Nawr, dyna yw eu dewis, oherwydd yn amlwg, mae pobl yn cael cynnig y brechlyn ac nid oes unrhyw orfodaeth, ond os yw un o bob pum aelod o staff yn gwrthod cael y brechlyn, mae hynny'n cael effaith, yn arbennig wrth gwrs, ar breswylwyr, a allai fod wedi cael y brechlyn. A ydych yn ymwybodol o’r ffigur hwnnw o un o bob pump yn gwrthod manteisio ar y brechlyn? Ac os ydych yn ymwybodol ohono, pa waith sydd wedi'i wneud i dawelu meddwl aelodau staff, sydd mewn lleoliad bregus, fod y brechlyn yn ddiogel ac yn y pen draw yn ddiogel ar gyfer diogelu'r preswylwyr y mae'r staff mor ymroddedig iddynt?
Ydw, rwy'n ymwybodol fod problem gyda rhai staff yn gwrthod manteisio ar yr amddiffyniad y mae'r brechlyn yn ei gynnig. Mewn gwirionedd, cefais sgwrs gyda Vikki Howells ynglŷn â hyn ddoe ar y gwaith rydym yn bwriadu ei wneud, nid yn unig gyda darparwyr a chomisiynwyr, ond hefyd gyda chynrychiolwyr undebau llafur i bwysleisio i'w haelodau, unwaith eto, y pwynt a wneuthum yn eich ail gwestiwn: nid yw’r brechlynnau’n cael eu darparu oni bai bod y rheoleiddiwr annibynnol yn eu cymeradwyo fel rhai diogel ac effeithiol, a cheir amodau ar gyfer eu defnydd hefyd.
Felly, mae'n bwysig iawn dweud hynny'n uchel ac yn glir o bob safbwynt gwleidyddol: annog staff i dderbyn y brechlyn pan fydd ar gael; i gydnabod eu bod mewn sefyllfa lle maent yn gofalu am rai o'n dinasyddion mwyaf bregus—mae'n ymwneud â'u diogelu hwy, y bobl y maent yn gweithio gyda hwy, y bobl y maent yn gofalu amdanynt, yn ogystal â phobl yn eu teuluoedd a'u cymunedau. Byddwn yn parhau i edrych ar gyfraddau derbyn i sicrhau ein bod yn darparu amddiffyniad y brechlyn i gymunedau cyfan, fel y mae pob un ohonom yn dymuno’i weld, a llwybr allan o'r argyfwng hwn. Pan ddaw’r pandemig i ben yn y pen draw ar ryw bwynt, bydd gennym gryn dipyn o waith ar ôl i'w wneud o hyd mewn perthynas ag adfer, darparu gofal iechyd ac mewn termau economaidd. Fodd bynnag, gallwn gyrraedd yno’n gynt o lawer os gallwn gyflwyno'r rhaglen frechu cyn gynted â phosibl ac os yw pobl yn derbyn eu brechlynnau pan gânt gynnig cyfle i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Y bore yma, mae yna awgrym y gallai'r JCVI argymell newid y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu os ydy tystiolaeth, sy'n dechrau ymddangos rŵan, yn dangos fod brechu yn cael effaith ar sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo hefyd. Hynny ydy, ei fod o nid yn unig yn stopio rhywun rhag mynd yn sâl ond yn gwarchod pobl eraill o'u cwmpas nhw hefyd. Dwi'n gwybod mai dilyn cyngor y JCVI ydy polisi Llywodraeth Cymru, ond all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor barod ydy'r Llywodraeth i newid y strategaeth, os oes angen, o ran yr isadeiledd digidol angenrheidiol ac ati? Ydy'r Llywodraeth yn gallu gweithredu polisi newydd ar fyr rybudd os mai dyna ydy'r cyngor mae'r Llywodraeth yn ei gael?
Wel, mae cwestiwn damcaniaethol yno i raddau ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud os caiff newid penodol ei wneud neu beidio. Yr hyn y credaf sy'n llawer cliriach, serch hynny, a chredaf ei fod yn gwestiwn teg i'w ofyn, pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y grŵp arbenigol annibynnol sydd wedi rhoi cyngor i ni ar sut i wneud y defnydd gorau o frechlynnau, sut i sicrhau’r budd iechyd y cyhoedd mwyaf a sut i achub y nifer fwyaf o fywydau—pe bai eu cyngor yn newid, beth fyddai safbwynt y Gweinidogion? Credaf fod hwnnw'n gwestiwn teg, ac rwy'n barod i ddweud, pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn newid eu cyngor, byddwn yn amlwg yn ei ystyried gyda'r cyngor a gaf gan fy mhrif swyddog meddygol a byddwn yn disgwyl wedyn i safbwynt a chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru newid hefyd. Oherwydd drwy gydol hyn, rwyf wedi bod yn awyddus i wneud dewisiadau sy'n dilyn y cyngor mor agos â phosibl, a helpu i achub bywydau. Pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu o'r farn fod ffordd wahanol neu ffordd well o wneud hynny, wrth inni ddod i ddeall mwy am y brechlynnau sydd ar gael gennym, wrth inni ddeall mwy am COVID a'i wahanol straeniau a mathau, yna wrth gwrs, rwy’n barod i newid fy mhenderfyniad a’r hyn y mae hynny'n ei olygu i Lywodraeth Cymru a'n gwasanaeth iechyd gwladol a’n gwasanaeth brechu.
Dydy hynny ddim yn ateb fy nghwestiwn i. Nid gofyn a fyddech chi'n newid y polisi y gwnes i ond: ydy'r capacity gennych chi? Ydy'r gallu gennych chi o fewn eich systemau i ddilyn trywydd newydd os oes angen? A pha baratoadau sy'n cael eu gwneud am hynny?
Os caf i symud ymlaen, mae'n amlwg mai'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca sydd wedi bod yn cael ei ffafrio, achos ei fod yn fwy hyblyg; yn haws i'w ddefnyddio o ran ei storio a'i drosglwyddo, ac yn y blaen. Ond, wrth i dystiolaeth ein cyrraedd ni, o Israel yn arbennig, dwi'n meddwl, am sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo gan bobl sydd wedi cael eu brechu, mae'n edrych yn bosib—ac nid rhywbeth rhethregol ydy hyn, achos mae angen paratoi ar gyfer pob amgylchedd gwahanol—mai dim ond yr un Pfizer fyddai'n dangos y gwelliant yma o ran trosglwyddiad. Rŵan, mae hwn yn fath newydd iawn o frechiad. Mae'r dechnoleg newydd yma, mRNA, yn debyg o fod yn rhan amlwg iawn wrth ddelio efo pandemigau yn y dyfodol. Mi fydd angen isadeiledd, wedyn, sy'n caniatáu rholio allan y brechlynnau mRNA yn gyflym iawn a'r angen i'w cadw nhw'n oer, ac ati. Ydy'r Llywodraeth rŵan, yng nghanol y pandemig yma, â'i llygaid ar ddatblygu'r math yna o isadeiledd ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gweld pa mor gyflyn mae'n bosib ei rolio allan ar gyfer y broblem dŷn ni'n ei wynebu heddiw?
Wel, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ar effeithiolrwydd a nodweddion brechlynnau a'r bygythiadau rydym yn ceisio ymladd yn eu herbyn. Credaf fod mynd y tu hwnt i hynny braidd yn ddi-fudd ac yn ddamcaniaethol, gan fod angen inni ddeall y dystiolaeth sydd wedi’i chadarnhau, yn hytrach na'r hyn a allai fod yn datblygu neu beidio. Ceir posibilrwydd bob amser y bydd gwahanol bethau’n digwydd ar wahanol adegau. Rwy'n hyderus, serch hynny, fod yr hyblygrwydd a'r agwedd gadarnhaol y mae ein GIG wedi eu dangos drwy gydol yr argyfwng hwn yn rhywbeth a fydd hefyd yn ein helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol.
Credaf ei bod yn werth nodi hefyd y dylem edrych ymlaen at ddiwedd mwy optimistaidd i 2021 na'r flwyddyn rydym newydd ddod drwyddi, ond nid yw hynny'n golygu y bydd y flwyddyn yn ddi-risg. Hyd yn oed wrth inni frechu'r boblogaeth o oedolion, ni chredaf y gall pobl edrych ymlaen at ddychwelyd yn gyfan gwbl at y ffordd roedd pethau ar y pwynt hwn ym mis Ionawr 2020. Credaf mai'r her yw ein bod yn mynd i orfod byw gyda COVID am beth amser. Ar ôl inni gael ein diogelu gan y brechlyn, bydd gennym y newidiadau y byddech chi a minnau'n eu gweld bob blwyddyn gyda'r ffliw, er enghraifft, lle mae gwahanol straeniau’n dod i'r amlwg ac mae angen ystyried y ffordd orau o ddiogelu pobl a'r hyn y mae angen i ni ei adeiladu'n rhan reolaidd o'n seilwaith, a bydd hynny, wrth gwrs, hefyd yn rhan o'r ffordd rydym yn ymdrin â bygythiadau newydd a bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, boed yn straen gwahanol o COVID, neu'n wir, yn fygythiadau gofal iechyd eraill yn ogystal.
Diolch. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy'n siomedig eich bod yn ymddangos fel pe baech yn diystyru fy nghwestiynau fel rhai damcaniaethol. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, oherwydd os ydym wedi dysgu unrhyw beth dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld y gall y pandemig hwn daflu pob math o bethau atom ac mae angen inni baratoi ar gyfer gwahanol ganlyniadau.
Nawr, gyda niferoedd yr achosion yn gostwng, diolch byth, mae llawer o bobl yn dioddef hefyd ar ôl bron i flwyddyn o gyfyngiadau difrifol ar eu bywydau, ac yn ddealladwy, byddant yn awyddus i wybod yn awr beth yw'r amserlen ar gyfer pa bryd y gallant roi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Nawr, nid wyf am ofyn i chi roi'r amserlen honno i ni heddiw, oherwydd, fel y dywedaf, mae'r pandemig hwn wedi bod yn un syndod ar ôl y llall, felly gall pethau newid mewn ychydig wythnosau, hyd yn oed, ond yr hyn rwy’n awyddus i’w gael yw sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y caledi a'r problemau iechyd gwirioneddol a achosir gan y cyfyngiadau symud eu hunain, ac mai ffocws canolog y Llywodraeth yw cael strategaeth i ymadael â'r cylch o gyfyngiadau symud, ac y byddwn yn cael cyfnod adfer sy'n mynd i'r afael â'r niwed a wnaed, yn enwedig, er enghraifft, i blant a phobl ifanc.
Wel, wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau symud yn achosi niwed yn ogystal â manteision, ac rydym wedi bod yn onest iawn ynglŷn â hynny mewn datganiadau a wnaed gennyf fi, gan y Prif Weinidog a chan y papurau tystiolaeth rydym wedi'u cyhoeddi gan ein grŵp cynghori technegol, ac yn wir, y datganiadau a gyhoeddwyd gan ein prif swyddog meddygol. Felly, nid yw hyn yn ffactor newydd i ni ei ystyried. Mae bob amser yn gydbwysedd rhwng y niwed y gall cyfyngiadau symud ei achosi ar ffurf mwy o arwahanrwydd, y dadleoli rhwng gwahanol bobl a'r effaith ar blant a phobl ifanc, a dyna pam ein bod wedi bod mor awyddus i geisio cynnal dysgu wyneb yn wyneb cyhyd ag y bo modd; dyna pam mai hon yw ein blaenoriaeth arwyddocaol gyntaf, fel rydym wedi’i ddweud bob amser, o ran gallu dod allan o gyfyngiadau symud lefel 4 fel y maent heddiw.
Felly, rydym yn cydnabod effaith mwy hirdymor y cyfyngiadau symud rydym yn eu rhoi ar waith, ynghyd â'r manteision sylweddol y mae cyfyngiadau symud yn eu darparu i helpu i leihau cyfraddau heintio, a helpu i atal pobl rhag dal COVID a'r niwed y byddai hynny’n ei achosi. Rydym eisoes wedi gweld ystadegau brawychus ac ofnadwy ar nifer y bobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd, nifer y bobl sydd wedi colli eu bywydau a chanran y marwolaethau ychwanegol, sy'n gymaint ac yn fwy nag unrhyw ganran o farwolaethau ychwanegol a welwyd ers yr ail ryfel byd. Rydym yn byw drwy gyfnod eithriadol ac mae cyfyngiadau symud yn set eithriadol o fesurau.
Bydd angen i'r adferiad fod yn economaidd, ac mae colli gwaith yn creu niwed i iechyd pobl hefyd. Gwyddom y bydd niwed corfforol i wella ohono ac i roi cyfrif amdano, ac nid yn unig ar ffurf cyflyrau fel strôc a chanser, ond bydd her sylweddol hefyd o ran iechyd meddwl a llesiant. Felly, rydym yn cydnabod y bydd yr adferiad iechyd yn hir ac yn sylweddol, ond rwy'n hyderus y bydd ein GIG yn goresgyn yr her honno. Fe fydd arno angen ein cefnogaeth, bydd arno angen ein dealltwriaeth a bydd arno angen inni wneud dewisiadau am y cyllidebau sydd ar gael i ni.
Er y bydd y flwyddyn nesaf yn anodd—tymor nesaf y Senedd hon, er y bydd yn llawn o heriau sy'n gysylltiedig â COVID—fe fydd yn flwyddyn lawer mwy optimistaidd i edrych ymlaen ati gyda'r ymdeimlad hwnnw o adferiad, yn hytrach na’r 10 neu 11 mis diwethaf rydym newydd ddod drwyddynt. Felly, credaf y gall pob un ohonom fod yn hyderus y bydd ein GIG yn dal i fod yma ac yn addas at y diben, cyhyd â'n bod yn gwneud dewisiadau ynglŷn â sut rydym yn ei gefnogi fel Aelodau etholedig yma yn y Senedd.