1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau rhwng y cyflenwad o frechlynnau a'r capasiti i ddefnyddio'r brechiadau hynny yng Nghymru? OQ56124
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflymder cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? OQ56138
Diolch. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 5 ac 8 gael eu grwpio. Mae'r holl fyrddau iechyd yn paratoi i ehangu capasiti’n sylweddol ym mis Ionawr, pan fydd brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn dechrau cael eu darparu. Mae ein cynlluniau’n dibynnu ar weld Cymru'n derbyn ei chyfran deg o’r brechlyn mewn da bryd. Mae'r cyflenwad y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae Gweinidog brechlynnau'r DU wedi ail-gadarnhau ei sylwadau blaenorol y bydd ei chyfran deg o'r cyflenwad o'r brechlyn yn cael ei darparu i Gymru ar amser.
Diolch, Weinidog, ac mae’n braf clywed y sicrwydd hwnnw, gan ein bod, wrth gwrs, wedi clywed gwahanol straeon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf am heriau gyda'r cynhyrchiant a'r gadwyn gyflenwi, a dylem ragweld y bydd camgymeriadau bach wrth inni fynd yn ein blaenau; nid yw pethau'n mynd i fod yn berffaith. Yn gyntaf, clywsom am heriau gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, gan y bu oedi dros y penwythnos gydag un o’r pedwar swp o’r brechlyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru. Ac yna clywsom wrth gwrs am chwe Gweinidog iechyd yn yr UE yn ysgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â’u pryderon difrifol ynghylch oedi yn y broses o gyflenwi brechlyn Pfizer-BioNTech. Felly, a allwch ddweud wrth y Senedd p'un a fydd y mathau hyn o heriau a fydd yn digwydd o bryd i'w gilydd gyda'r gadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu yn effeithio ar y gwaith o ddarparu’r brechlynnau yn ddiogel ac yn gyflym yng Nghymru a ledled y DU, neu a all y cynlluniau sydd gennych ar waith liniaru'r problemau hyn gyda chyflenwi a gweithgynhyrchu brechlynnau?
Credaf ei fod yn gwestiwn teg, a diolch i'r Aelod am y ffordd y gofynnodd y cwestiwn hefyd, gan ei bod yn bwysig nad ydym yn bwydo ofnau pobl mewn perthynas â chyflwyno’r brechlyn. Credaf fod Pfizer-BioNTech wedi gwneud datganiad cyhoeddus eu bod yn ailasesu eu proses weithgynhyrchu eu hunain a bydd saib byr cyn y bydd ganddynt broses weithgynhyrchu gadarnach wedyn ar gyfer cynhyrchu’r brechlyn ar raddfa fawr yng Ngwlad Belg. Felly, efallai y byddwn yn gweld gostyngiad bach am gyfnod o amser yn nifer y brechlynnau Pfizer a ddaw i'r DU, ond mae'r gwneuthurwyr wedi dweud yn glir eu bod yn credu y bydd ganddynt fwy o gyflenwad mwy cadarn yn dod i ni wedyn.
A chyda chyflenwad AstraZeneca, mae'n haws o ran y gadwyn gyflenwi, gan fod peth ohono wedi'i gynhyrchu yn yr Almaen, ond rydym yn disgwyl i'r uned ddosbarthu yn Wrecsam fod yn cyflenwi mwy a mwy o gyflenwad y DU. Ond rydym yn deall wedyn fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn gwbl briodol, yn swp-brofi er mwyn sicrhau bod sypiau'n cael eu profi a'u gwarantu'n iawn cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r system. Felly, rydym wedi gweld saib yn hynny, oedi i un o'r sypiau. Gallwn ddisgwyl hynny; gallwn hefyd ddisgwyl y bydd hynny’n llyfnhau dros amser, gan fod AstraZeneca wedi ymrwymo i ddarparu niferoedd sylweddol uwch o'r brechlyn hwnnw i bob gwlad yn y DU. Ac mae'n bwysig. Gyda chadwyni cyflenwi a dosbarthu cymharol gymhleth, efallai y bydd rhai problemau bach yn codi. Os yw'r rheini'n berthnasol, byddaf yn adrodd arnynt yn agored, a'r hyn y maent yn ei olygu o ran y cyflenwad o'r brechlyn. Byddaf yn nodi’n glir p’un a yw hynny'n gohirio neu'n symud unrhyw un o'r cerrig milltir sydd gennym. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw, cyn gynted ag y cawn frechlyn y gall ein gwasanaeth iechyd ei ddefnyddio a'i ddosbarthu, bydd yn cael ei ddarparu i'w roi i bobl cyn gynted â phosibl. Hoffwn ofyn i'r cyhoedd fod yn amyneddgar gyda'n GIG. Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl; ni fydd pobl yn cael eu hanghofio. Gan weithio gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn wneud rhywbeth y gall Cymru fod yn wirioneddol falch ohono gyda'n rhaglen frechu dan arweiniad y GIG.
Weinidog, a gaf fi a fy mhlaid ategu’ch sylwadau am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn? Byddwn i—a phob un ohonom, rwy'n credu—yn annog pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. A gaf fi ofyn i chi: ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi egluro ei sylwadau, a allech chi egluro—a yw wedi tynnu’n ôl ei ddatganiad y dylem wneud i'r brechlyn Pfizer bara hyd nes bod y cyflenwad nesaf wedi'i drefnu, neu ei ddatganiad mai'r rheswm am hynny yw er mwyn osgoi unrhyw risg y bydd brechwyr yn cicio'u sodlau heb ddim i'w wneud?
Mae’r Prif Weinidog wedi egluro ei safbwynt ar sawl achlysur, ac atebais nid yn unig y cwestiynau yn y cyfryngau, ond oddeutu 20 munud o gwestiwn brys ddoe. Rwy'n cydnabod bod cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn.
Ond a yw wedi’i dynnu'n ôl? Nid ydych wedi ateb.
Ni chredaf y gallaf fod yn gliriach ynglŷn â'r safbwynt—nad yw'r brechlyn yn cael ei ddal yn ôl, mae’n cael ei gyflenwi i'n GIG cyn gynted ag y gall y GIG ei ddarparu, ac mae ein seilwaith wedi cynyddu'n sylweddol i ganiatáu ar gyfer darparu mwy fyth o'r cyflenwadau hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny. A dylwn ddweud ein bod yn yr un sefyllfa â gwledydd eraill y DU yn yr ystyr fod gennym gyflenwad o frechlyn Pfizer-BioNTech wedi’i storio mewn cyfleusterau storio sylweddol i'w ddosbarthu cyn gynted ag y gall pob gwlad ei gael. Felly, mae'r brechlyn Pfizer sy’n cael ei ddarparu heddiw yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dod o gyflenwad y byddant eisoes wedi'i gael, yn union fel y mae yma yng Nghymru, ac mae'n ymwneud â chapasiti pob un o'n systemau cyflenwi i allu ei ddarparu i freichiau'r cyhoedd. Ac edrychaf ymlaen at y ffigurau ar gyfer diwedd yr wythnos hon i weld y cynnydd sylweddol rwy’n ei ddisgwyl yn y cyflenwad o'r brechlyn Pfizer-BioNTech a'r brechlyn AstraZeneca, ac edrychaf ymlaen at weld pobl ar draws y Siambr yn croesawu ac yn dathlu llwyddiant ein GIG wrth i hynny ddigwydd.
Wel, mae'r bwlch rhwng y cyflenwad o'r brechlynnau a'r capasiti i ddarparu’r brechlynnau hynny yng Nghymru yn achosi pryder arbennig mewn perthynas â swyddogion yr heddlu. Wrth ymateb i chi yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru am weld ystyriaeth o rywfaint o flaenoriaeth i blismona—nid blaenoriaeth lawn, ond rhywfaint o flaenoriaeth—yn y rhaglen frechu COVID-19. Mae llawer o swyddogion presennol a chyn swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi ysgrifennu ataf ers hynny yn nodi, 'Bob dydd, mae swyddogion yr heddlu a staff yn mentro dod i gysylltiad ag unigolyn â COVID, ei ddal eu hunain a dod â'r feirws angheuol yn ôl i'w eu cartrefi eu hunain', ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi rhywfaint o flaenoriaeth i blismona. A ddydd Llun, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf, ac rwy’n dyfynnu, fod ‘Ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu’ wedi cysylltu â hwy y penwythnos diwethaf i ddweud bod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gartref yn cael y brechlyn, ac eto nid yw plismona ar y rheng flaen yn cael ei ystyried yn risg, na hyd yn oed yn cael defnyddio unrhyw frechlyn sbâr neu heb ei ddefnyddio. Beth yw eich ymateb felly i'w datganiad penodol y gallai hyd yn oed rhoi swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr, fod yn fan cychwyn?
Wel, credaf y dylwn fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau y bûm yn eu hailadrodd wrth Delyth Jewell ac eraill ynglŷn â'r rhestr flaenoriaethu. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n bwyllgor annibynnol ac arbenigol, wedi rhoi cyngor i ni ar sut i wneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael gennym; mae prif swyddogion meddygol wedi cymeradwyo'r cyngor hwnnw, gan y bydd yn helpu i achub cymaint o fywydau â phosibl. Mae'r rhestr flaenoriaeth un i naw gyfredol y mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi'i hargymell—ac mae pob Llywodraeth, gan gynnwys eich cymheiriaid Ceidwadol yn Lloegr, wedi dilyn y flaenoriaeth honno, gan y dylai hynny olygu y bydd 99 y cant o'r bobl sy'n cael eu derbyn i ysbytai a'r marwolaethau wedi’u cynnwys yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf hynny. Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried cyngor i'w roi i brif swyddogion meddygol a Gweinidogion fel fi ym mhob un o'r pedair Llywodraeth ar gam nesaf y brechu sydd i ddod. Ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y cyngor hwnnw a dealltwriaeth, os byddant yn rhoi cyngor ar grwpiau risg galwedigaethol ar gyfer ail gam y brechu—boed yn athrawon, swyddogion yr heddlu, gyrwyr tacsi neu yrwyr bysiau, mae angen i bobl ystyried risg y niwed y gall COVID ei achosi i wahanol alwedigaethau. Pan gaf y cyngor hwnnw, byddaf yn gwneud penderfyniad. Byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch y penderfyniad hwnnw, ond gallwch ddibynnu ar y ffaith y bydd fy newis yn seiliedig ar iechyd y cyhoedd, er mwyn achub y nifer fwyaf o fywydau cyn gynted â phosibl.