– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 26 Ionawr 2021.
Symudwn yn awr at eitem 5, sy'n ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Dwi'n hapus iawn heddiw i allu cyhoeddi ein polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Dywedais i yn ôl ym mis Chwefror, wrth gyhoeddi’r fersiwn drafft o’r polisi, ei bod hi'n bwysig inni ddeall bod yr iaith rŷn ni'n ei defnyddio gartref yn effeithio ar ba mor gyfforddus mae'n plant ni'n teimlo wrth ddefnyddio'r iaith honno nes ymlaen yn eu bywydau.
Ein nod ni gyda'r gwaith yma yw cefnogi ac annog pobl sydd â sgiliau Cymraeg, ond efallai sydd heb eu defnyddio'n ddiweddar, i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant nhw—hynny yw, i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae'r polisi yma yn canolbwyntio ar sut i ddylanwadu ar hyn. Wrth gwrs, mae'r iaith rŷn ni'n ei siarad gyda'n plant ni—yn wir, pob ymddygiad iaith—yn ganlyniad i lawer o ffactorau gwahanol. Dyw newid ein hymddygiad ddim yn hawdd, yn enwedig unwaith bod patrwm wedi'i sefydlu.
Fel mae'r ffigurau a'n hymchwil ni yn eu dangos, mae yna gartrefi ledled Cymru lle mae yna rieni yn medru siarad Cymraeg ond sydd am sawl rheswm—diffyg hyder, diffyg arfer, teimlad nad yw eu Cymraeg nhw, efallai, ddim yn ddigon da—ddim yn defnyddio’r Gymraeg gyda'u plant nhw. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth rŷn ni'n gallu i helpu iddyn nhw wneud hyn.
Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnes i bwysleisio fy mod i am glywed gan deuluoedd fel rhan o'r ymgynghoriad ar y polisi yma—ar gyfer teuluoedd mae'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud yn y maes yma wedi'r cwbl. Fel rhan o'r ymgynghoriad a'n hymchwil ni i drosglwyddo’r Gymraeg, rŷn ni wedi clywed gan deuluoedd lle mae rhieni wedi colli eu hyder nhw yn yr iaith. Rŷn ni hefyd wedi clywed barn a phrofiadau rhieni lle taw nhw yw'r unig oedolyn yn y teulu sy'n medru'r Gymraeg. Mae rhai o'r bobl rŷn ni wedi siarad gyda nhw wedi bod drwy’r system addysg Gymraeg eu hunain ond maen nhw eu hunain wedi'u magu mewn teuluoedd di-Gymraeg. Rŷn ni wedi clywed, wedi gwrando ac wedi bwydo'r safbwyntiau hyn i gyd mewn i’r gwaith.
Roedd un rhiant—fe wnaf i ei alw'n Steve—yn siarad Cymraeg ond yn sôn bod ei bartner e ddim. Roedd partner Steve yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i bywyd oherwydd bod dim Cymraeg gyda hi. Doedd hi na Steve ddim am i'w plentyn golli mas. Rŷn ni hefyd wedi clywed gan Lucy. Mae Lucy yn gallu siarad Cymraeg, ac, wrth edrych yn ôl ar ei hamser hi yn yr ysgol, mae'n cofio taw dim ond yn ei harddegau y gwnaeth hi ddechrau ddefnyddio’r Gymraeg oedd ganddi. Mae hi nawr yn oedolyn ac yn fam, ac mae ganddi bersbectif gwahanol ar ei Chymraeg hi. Roedd hi'n awyddus i ddefnyddio Cymraeg gyda'i phlentyn o'r cychwyn cyntaf. Mae'r safbwyntiau gwahanol yma, a llawer mwy, wedi cyfoethogi llunio'r polisi hwn.
Wrth gwrs mae angen i ni helpu rhieni i ddechrau ar eu taith nhw gyda'r iaith drwy roi cyfleoedd iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg, a dyna pam ein bod ni'n cefnogi hynny eisoes drwy waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Mudiad Meithrin a'n partneriaid eraill ni. Ond ffocws y polisi yma yw dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio’r iaith gyda'u plant. Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg ac, yn hollbwysig, dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, sef dau brif darged Cymraeg 2050.
Does yna'r un peth ar ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl ddewis trosglwyddo'r Gymraeg. Mae'r polisi yma yn cyflwyno cyfres o gamau gweithredu i ni eu dilyn dros y ddegawd nesaf er mwyn creu cylch rhinweddol o rieni yn defnyddio'r Gymraeg gyda'u plant, a'u plant nhw wedyn yn yr un modd yn siarad Cymraeg gyda'u plant nhw.
Adeiladu ar sylfaen o waith rŷn ni wedi’i wneud yng Nghymru dros flynyddoedd lawer rŷn ni'n ei wneud, nid ail-greu'r olwyn. Nawr, mae angen inni wthio ffiniau ac arbrofi gyda dulliau newydd o weithio, gan gymryd risgiau o dro i dro, bod yn barod i fethu, ond gan ddysgu o’r methiannau hyn, a hynny heb fwrw bai ar neb. Dim ond drwy wneud hyn mae'n well ac mae ffordd i ni ddeall impact ein gwaith ni.
Rŷn ni am greu awyrgylch o gydweithio rhwng unigolion a sefydliadau lle mae cyfle i bawb rannu. Wedi'r cyfan, does gan neb chwaith fonopoli ar syniadau da. Welwn ni ddim o holl ganlyniadau'n gwaith ni dros nos. Mae beth rŷn ni'n dreial ei wneud yn digwydd dros genedlaethau—dyna holl bwynt y peth. Ond mae'r gwaith o sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol o siaradwyr Cymraeg yn y teulu yn dechrau heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad yma. Rwyf wedi bod yn dweud bod dewis iaith yn ddewis anymwybodol yn aml, yn bersonol iawn, ac yn bownd o barhau er gwaethaf unrhyw bolisi os dydyn ni ddim yn wynebu hynny. Felly, rwy'n falch o weld y symudiad hwn tuag at well ddealltwriaeth o le iaith mewn deinameg deuluol. Ac wrth edrych ar argymhellion y polisi, dwi'n troi at yr ail, y ddeinameg deuluol honno, yn hytrach na chaffael iaith strwythurol. Rwy'n amau bod y 'pwy' ym mhob teulu mor ddylanwadol â'r 'sut'. Mae yna nifer o argymhellion yn ymwneud â methodoleg ymchwil bellach. Yn sicr, mae angen carfan o fwy na 60 o deuluoedd arnoch chi ar gyfer hyn. Ond a yw hi o reidrwydd yn broses ymwthiol sy'n cael ei hawgrymu? Sut ydych chi'n bwriadu rheoli hynny mewn ffordd sensitif, a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn barod am y broses o weithio gyda'r 60 o deuluoedd hyn?
Roeddwn hefyd yn falch o weld yn lansiad yr ymgynghoriad llynedd gydnabyddiaeth mai'r system addysg sy'n sicrhau caffael sgiliau'r Gymraeg, ond nid yw hynny'n sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo, ac mae'r adroddiad yn dweud hynny. Dwi ddim am ailedrych ar brofiad dysgwyr heddiw, ond gallwn gytuno nad yw bob amser wedi bod yn un cadarnhaol. Ar gyfer ein cenhedlaeth bresennol o oedolion ifanc sydd wedi cael profiad gwael o ddysgu Cymraeg, neu sydd ddim wedi mwynhau eu hysgol cyfrwng Cymraeg, beth allwn ni ddweud wrthyn nhw nawr i'w helpu nhw dros y rhwystr emosiynol hwnnw, mewn ffordd? Achos mae'n ddigon i bobl fel fi sydd wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn cyntaf y dylai fy mhlant i gael yr hyn na drosglwyddodd fy rhieni i fi, sef dwyieithrwydd—roeddwn i am lynu wrtho. Ond beth allwch chi ei newid nawr yn y tymor presennol, yn y neges i rieni newydd gydag amlygiad negyddol i'r Gymraeg fod dwyieithrwydd werth y gwaith caled, ac mae wedi bod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n dysgu gartref ar hyn o bryd?
Hyfforddiant athrawon—rwy'n chwilfrydig iawn clywed mwy am le mae'r proffesiwn addysg yn mynd i ffitio i mewn fan hyn o safbwynt seicoleg trosglwyddo'r iaith, achos mae hyn yn fy nharo i fel achos o physician heal thyself weithiau. A gyda llawer mwy o athrawon yn ein hysgolion a cholegau sydd â sgiliau Cymraeg nag sy'n barod i ddysgu Cymraeg, neu ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sut ydych chi'n gweld yr argymhelliad penodol hwn yn y polisi yn gweithio?
Ac, yn olaf, roeddwn yn siarad â rhywun sy'n arwain y cynllun mentora ieithoedd rhyngwladol sy'n cael ei redeg gan rai o'n prifysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwnaeth hi'r pwynt bod angen lleoedd diogel i oedolion sydd â rhywfaint o wybodaeth a sgil i wneud camgymeriadau, ac rŷch chi jest wedi canolbwyntio ar hynny yn eich sylwadau olaf yna. Gall y teulu fod yn un o'r lleoedd hynny, a dim ond ffordd arall o chwarae gyda'r iaith yw gwneud camgymeriadau. Mae chwarae gyda'r Gymraeg fel hyn yn gallu helpu plant â phatrymau iaith a'u hannog nhw i ofyn cwestiynau heb feirniadaeth, heb sôn am godi hyder oedolion. Felly, beth yw'ch meddyliau ehangach am leoedd diogel i oedolion chwarae gyda'r iaith y tu allan i'r cartref? Ac os gallaf, rwyf yn argymell ein polisi ni tipyn bach, os hoffech chi wybod mwy. Diolch.
Diolch yn fawr, Suzy. Jest yn gyntaf, dwi yn meddwl ei bod hi'n werth inni edrych nôl yn hanesyddol ar beth sydd wedi digwydd, achos rŷn ni'n gwybod, yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gwnaeth lot o bobl oedd yn medru'r Gymraeg beidio â phasio'r Gymraeg ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Felly, mae'n rhaid inni ddysgu o beth ddigwyddodd yn fanna, beth oedd y cyd-destun hanesyddol. Roedd y capeli yn dechrau chwalu, roedd pob math o bethau yn newid. Roedd newidiadau cymdeithasol yn digwydd ac mae'n rhaid inni ddysgu o beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol. A hefyd, mae'n rhaid inni fod yn sensitif i'r ffaith bod ymyrryd yn y teulu yn rhywbeth sy'n anodd iawn, a dwi ddim yn meddwl bod lle i'r Llywodraeth. Mae'n rhaid inni fod yn rili, rili sensitif o ran sut mae'r Llywodraeth yn gallu ymyrryd yn y teulu. A dyna pam mae hwn—dŷn ni'n gorfod, dwi'n meddwl, jest cerdded yn rili ofalus yn y maes yma.
Beth sy'n glir yw, mewn rhai teuluoedd, mae dewis iaith yn rhywbeth sydd wedi'i benderfynu; mae wedi cael ei drafod. Ac yn sicr, yn fy nheulu i, roedd hi'n amod priodas bod yn rhaid i fy ngŵr i ddysgu Cymraeg fel ein bod ni'n gallu siarad Cymraeg â'r plant. Nawr, dŷn ni ddim yn mynd i ofyn i bobl Cymru ei gwneud hi'n amod priodas i siarad Cymraeg, ond dwi yn meddwl beth ŷn ni'n gobeithio ei wneud yw bod pobl o leiaf yn cael y drafodaeth, eu bod nhw yn gwneud dewis iaith yn rhywbeth maen nhw o leiaf wedi'i ystyried. Achos beth sydd wedi dod yn glir o beth ŷn ni wedi clywed yw ei bod hi'n rhywbeth mae pobl yn cwympo mewn iddi heb rili ystyried, a dim ond nes ymlaen, ar ôl i'r patrymau iaith gael eu sefydlu, maen nhw'n dechrau ystyried y peth, ac mae'n fwy anodd wedyn unwaith mae pobl wedi cwympo mewn i batrwm iaith.
Wrth gwrs, beth ŷn ni'n gwneud yn fan hyn yw adeiladu ar raglenni sydd wedi bod eisoes hefyd. Mae rhaglen Twf, wrth gwrs, 2001, a rhaglen Cymraeg i Blant, felly rŷn ni'n adeiladu ac wedi ystyried beth ŷn ni wedi'i ddysgu o'r rhaglenni rheini, ac mae'n bwysig bod y rhain yn cyd-dynnu gyda'i gilydd. Dyw hwn ddim wedi'i anelu at athrawon, ond dwi yn meddwl bod gwaith ymchwil yma efallai y gall athrawon ein helpu ni gyda. Dyna pam mae neges a thôn, y ffordd rŷn ni'n siarad, yn rili bwysig, ein bod ni'n cael y tôn yn iawn, ein bod ni ddim yn gwthio pobl i wneud rhywbeth lle maen nhw'n anghyfforddus. Ac mae lot o waith rŷn ni wedi'i wneud fel adran i fod i'n helpu ni gyda beth sy'n mynd i helpu pobl i ymgymryd â mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Ac felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn edrych i weld ble allwn ni ddysgu. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu methu, fel rŷch chi'n ei ddweud, Suzy, yn rhywbeth sy'n bwysig. A dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod yna le ble mae pobl ddim yn cael eu beirniadu, a byddwn i'n rili hapus, Suzy, i glywed rhai o'ch syniadau chi, achos un peth rŷn ni'n gwneud yn glir yn fan hyn yw bod dim monopoli gyda ni ar syniadau; rŷn ni'n fwy na hapus ac rŷn ni'n awyddus iawn i glywed os oes syniadau eraill gan bobl. Achos mae hwn yn faes eithaf newydd; does dim lot o bobl yn y byd yn gwneud hwn. Rŷn ni wedi edrych ar lefydd eraill. Mae ambell i beth efallai bod y Basgiaid wedi'i wneud, mae diddordeb gyda ni i edrych mewn i hynny, er enghraifft, fel camau ymlaen hefyd.
Diolch am y datganiad a'r adroddiad, a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen yn fanwl. Ffocws y polisi, meddech chi, ydy dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio'r iaith efo'u plant. Ar ddiwedd y dydd, balchder yn y Gymraeg a hyder yn ei gwerth hi fydd yn creu y newid mawr sydd ei angen, a hoffwn i wybod beth fydd yn eich maniffesto chi ynglŷn â hyrwyddo hynny i holl deuluoedd Cymru mewn ffordd uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf.
Fe ddywedoch chi nad oes yna'r un peth ar ei ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl drosglwyddo'r Gymraeg, a bod y polisi yma'n cyflwyno cyfres o gamau gweithredu. Fedrwch chi amlinellu beth ydy'r camau rheini'n fras, a sut gwnaethoch chi benderfynu ar y rhain? Beth ydy'r dystiolaeth sydd yna sydd y tu ôl i'r camau gweithredu rydych chi wedi'u dewis, a sut ydych chi'n mynd i fonitro llwyddiant y rhain i weld ydyn nhw'n cyrraedd y nod ai peidio? Ac fel rydych chi wedi sôn, mae yna beth gwaith wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd i helpu teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg efo'u plant. Nod prosiect Twf, a oedd ar waith rhwng 2001 a 2016, oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd o fanteision magu plant yn ddwyieithog, a chael dylanwad cadarnhaol ar eu defnydd o'r Gymraeg. Dwi'n cofio'r cynllun Twf yn glir iawn pan oedd ar waith mewn rhannau o fy etholaeth i, ac mae'n rhaid imi ddweud mi oeddwn i'n siomedig iawn pan ddaeth o i ben oherwydd mi oedd o yn creu llwyddiant. Mi oeddwn i'n dyst i hynny fy hun o ran y teuluoedd a welais i yn cael budd o fod yn cael eu hannog drwy'r cynllun yna. Fe ddechreuodd Cymraeg i Blant fel olynydd i Twf yn 2016, ond heb fuddsoddiad digonol. A fyddech chi'n cytuno efo hynny, nad oedd dim buddsoddiad ar lefel ddigonol ar gyfer Cymraeg i Blant—neu yn parhau felly? Dwi'n credu mai'r nod ydy cynyddu nifer y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg—felly mae'r sifft wedi symud rhyw ychydig—ac felly hefyd i gefnogi rhieni, gofalwyr, darpar rieni, darpar ofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu i gyflwyno defnyddio'r Gymraeg gartref a throsglwyddo'r Gymraeg i'w plant, ond fel rhan o'r ymdrech i gael mwy o blant i fynd ymlaen i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Ydych chi'n credu bod yna ddadl erbyn hyn dros ailgyflwyno cynllun Twf, o feddwl ei fod yn dal i gael ei ystyried fel cynllun llwyddiannus, ac sydd yn dal i gael ei arddangos fel esiampl o arfer da?
Ac yn olaf gen i, mae yna broblemau mawr wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig, onid oes, o safbwynt rhieni sydd ddim yn hyderus yn eu Cymraeg, neu ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, yn ceisio cefnogi eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. A gallaf i ddychmygu ei bod hi'n her anferth i geisio bod yn gwneud hynny. Mae Estyn wedi ei nodi fel risg mawr. A fydd hyn yn cael lle blaenllaw yng nghynllun adfer addysg y Llywodraeth? A pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog cyllid i sicrhau cyllid ychwanegol er mwyn cefnogi'r gwaith adfer mawr sydd ei angen—ac a fydd ei angen—dros y misoedd nesaf ymhell heibio'r cyfnod pan fydd y feirws yn cilio?
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf reit: y ffordd rŷn ni'n sicrhau bod hwn yn gweithio yw sicrhau bod y rheini sydd yn siarad Cymraeg yn teimlo'n falch am y ffaith eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Ond hefyd mae angen codi hyder pobl efallai sydd wedi bod drwy addysg Gymraeg, wedi stopio ei siarad hi am sbel, a bod angen inni jest ailgynnau'r tân yna ynddyn nhw, fel pan fyddan nhw'n cael plant, eu bod nhw eisiau sicrhau eu bod nhw'n siarad Cymraeg gyda'u plant nhw. A beth oedd wedi rhoi sioc imi yw ei fod e'n dal yn bwynt, er enghraifft, yn sir Fôn, lle'r oedd yna un unigolyn yn siarad Cymraeg, dim ond 38 y cant o'u plant nhw oedd yn siarad Cymraeg yn dair oed. Hyd yn oed lle roedd yna ddau riant yn y teulu, dim ond 76 y cant oedd yn pasio'r Gymraeg i'w plant nhw. Felly, mae yna broblem mae'n rhaid inni edrych arni, a hyd yn oed petasem ni'n dechrau yn fanna, byddem ni eisoes yn camu ymlaen gyda ble'r ydyn ni o ran cynyddu niferoedd. Felly, mae hwn yn rhan o'n rhaglen ni i gyrraedd y 2050 yna.
Wrth gwrs, bydd yn rhaid ichi aros i glywed y manylder yn ein maniffesto ni, ond byddwch chi yn ymwybodol, o ran y cwricwlwm, ein bod ni yn awyddus iawn i sicrhau bod ymwybyddiaeth o Gymru, o hanes Cymru, bod hwnna i gyd yn bwysig iawn, a bod jest ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg yn rhan o beth ŷn ni'n gobeithio bydd pobl yn ei ddysgu yn y dyfodol.
O ran y camau gweithredu, mae'n gymysgedd o bethau lle mae yna dystiolaeth o beth sy'n digwydd, achos rydym ni wedi edrych ar bethau fel Twf a Chymraeg i Blant ac wedi dysgu o'r rheini, ond hefyd rydym ni'n arbrofol a dŷn ni ddim eisiau ymddiheuro am fod yn arborfol yn y maes yma. Mae Cymraeg i Blant, wrth gwrs, wedi cael ei asesu, ac fel rhan o'r asesiad yna rydym ni wedi cymryd y gaps lle oeddem ni'n meddwl bod angen inni eu llenwi, wedi edrych ar Twf ac wedi gweld os yw'n bosibl i gael y gorau maes o Gymraeg i Blant a'r cynllun newydd yma. Wrth gwrs, mae tua £700,000 yn cael ei wario ar Gymraeg i Blant, felly mae'n eithaf lot o arian ac wrth gwrs mae hwnna'n helpu i wneud pethau fel sicrhau bod bydwragedd yn siarad gyda rhieni o'r cychwyn cyntaf.
O ran y pandemig, wrth gwrs, mae hi'n bwysig ein bod ni'n cadw hyder plant a rhieni, yn arbennig y rheini sydd yn anfon eu plant nhw o gartrefi di-Gymraeg. Rŷn ni wedi gwneud lot o waith gyda Phrifysgol Bangor i geisio sicrhau bod blogs ac ati ar gael i rieni fel eu bod nhw'n deall—mae lot o brofiad gennym ni yma yng Nghymru o aildanio ac o sicrhau bod plant yn gallu dysgu Cymraeg yn gyflym. Mae pobl sydd yn dod o'r tu fas, pan maen nhw'n cael eu boddi yn y Gymraeg unwaith y maen nhw'n cyrraedd cymuned lle mae yna Gymraeg, rŷn ni'n gwybod sut i wneud hwn, rŷn ni'n gwybod beth sy'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn dangos na fydd hi'n broblem, ond beth mae'n rhaid inni wneud yw codi hyder y rhieni hynny, jest i fod yn ymwybodol o'r gwaith yna sydd wedi cael ei wneud eisoes. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n gwneud lot o waith i sicrhau ein bod ni'n cyflymu'r broses yna a'n bod ni'n adfer y sefyllfa cyn gynted ag y bydd y plant nôl yn yr ysgol.
Ac yn olaf, Mike Hedges.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy'n gwybod o brofiad nad yw hi'n hawdd dysgu iaith fel oedolyn. Er mwyn i'r Gymraeg ddod yn iaith gymunedol, y lle gorau i'w defnyddio yw cychwyn yn y cartref, yn y crud.
I unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg, roedd cyfrifiad 2011 yn siomedig iawn. Dangosodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ers cyfrifiad 2001, ac os bydd y dirywiad yn parhau ar y gyfradd hon, dim ond Gwynedd fydd â dros hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg yn 2051, a hynny ond o 1 per cent. Yr her yw hyrwyddo siarad Cymraeg i blant lle mae dim ond un rhiant yn gallu siarad Cymraeg, neu dim ond y fam-gu a thad-cu sy'n ei siarad. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei dysgu yn y cartref ac yna ei defnyddio yn y gymuned?
Diolch yn fawr, Mike, a dwi'n gwybod eich bod chi'n enghraifft o rywun sydd wedi dysgu Cymraeg, ond mae'ch merch chi wedi bod trwy ysgol Gymraeg a dwi'n siŵr y bydd hi, pan ryw ddydd efallai y caiff hi blant, bydd hi'n siarad Cymraeg â'i phlant hi. Felly, cyfraniad arbennig. Diolch yn fawr, Mike, un bach arall i gadw'r iaith yn fyw.
Beth sy'n bwysig, dwi'n meddwl, yw ein bod ni yn deall bod cychwyn Cymraeg yn y cartref, fel ŷch chi'n dweud, Mike, yn bwysig, a beth ŷn ni wedi darganfod yw bod y rheini sydd yn siarad Cymraeg gartref yn fwy hyderus yn eu Cymraeg nhw ac felly maen nhw'n fwy tebygol o ddefnyddio'r iaith pan maen nhw'n hŷn. Mae hwnna'n gwneud gwahaniaeth aruthrol, a dyna pam—. Beth mae'n rhaid inni drio cracio fan hyn yw'r genhedlaeth nesaf yna o blant sydd wedi cael eu haddysg nhw drwy'r Gymraeg, efallai wedi ei cholli hi am ychydig wrth eu bod nhw wedi mynd i'r gwaith neu wedi gadael Cymru am rywfaint ac wedi dod nôl, eu bod nhw yn ailgydio ynddi hi ac yn rhoi'r rhodd yna i'r genhedlaeth nesaf o'r iaith. Bydd hwnna, wrth gwrs, yn rhodd arbennig iddyn nhw ac yn rhodd i'r genedl, yn sicr. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig, Mike, i sôn am nain a taid a phobl eraill sy'n gallu helpu yn y maes yma, ac yn sicr mae hwnna'n rhywbeth sy'n werth inni ei ystyried hefyd.
Diolch yn fawr. Rhoddaf y gadair yn ôl i'r Dirprwy Lywydd nawr. Dydw i ddim yn siŵr bod gennym ni newid llyfn yma. A yw'r Dirprwy Lywydd wedi dychwelyd eto?
Ydy, mae hi yma, ond ni allwn ni ei chlywed hi.
A gawn ni ddad-dawelu'r Dirprwy Lywydd? Wel, tra ein bod yn delio â'r anhawster technegol hwn, galwaf yr eitem nesaf.