– Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
Eitem 8 ar ein hagenda yw dadl Plaid Cymru ar lifogydd yn Rhondda Cynon Taf, a galwaf ar Leanne Wood i gyflwyno'r cynnig. Leanne.
Diolch. Rwy'n dychwelyd at y cwestiwn hwn o ymchwiliad annibynnol i lifogydd am yr eildro mewn ychydig dros fis, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Ar ôl y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020 a'r llifogydd sydyn a ddilynodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae yna gartrefi o hyd yn Rhondda Cynon Taf lle mae pobl yn aros iddynt gael eu hadfer. Ar wahân i rai o'r symudiadau tir sy'n peri mwy o bryder, ni wnaeth y glaw trwm yr wythnos diwethaf effeithio ar y Rhondda i raddau helaeth, diolch byth, ond gwn na fu llawer o bobl eraill mewn rhannau eraill o RhCT mor ffodus, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bob person y mae llifogydd ledled Cymru a thu hwnt wedi effeithio arnynt. Mae hyn i gyd yn dangos bod ein gwlad yn agored i niwed llifogydd. Mae hefyd yn dangos nad yw'r system bresennol yn amddiffyn ein dinasyddion na'n cymunedau. Rydym mewn argyfwng hinsawdd. Bellach, mae mwy o debygolrwydd y bydd patrymau tywydd eithafol yn dod yn fwy rheolaidd. Nid ydym yn gwybod sut y bydd y tywydd gwaeth hwn yn cyfuno â'n pyllau glo a'n mwynfeydd tanddaearol, ac mae angen inni wybod, a hynny ar frys.
Pan wnaethom drafod hyn ddiwethaf, ni chefais atebion i fy nghwestiynau, ac felly y tro hwn fe'i cadwaf yn syml. Mae gennyf un cwestiwn i'r Llywodraeth. Os yw Aelodau Seneddol Llafur o Rondda Cynon Taf yn galw am ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr, sut y gallwch wrthwynebu un yma yng Nghymru pan fo gennych bŵer i gychwyn un? Helpwch fi a'r miloedd o bobl a lofnododd ddeiseb yn galw am ymchwiliad llifogydd annibynnol i ddeall eich rhesymeg ar hyn. Gwyddom o ddogfen fewnol gan Lafur a ddatgelwyd yn answyddogol eich bod yn deall nad yw eich dull o ymdrin â pherygl llifogydd wedi bod yn ddigon da. Mae dogfen ymgynghori'r maniffesto yn cydnabod, ac rwy'n dyfynnu, 'yr angen am fuddsoddiad a newid polisi, er mwyn meithrin mwy o allu i wrthsefyll digwyddiadau tywydd garw o'r math a welsom yn 2020.' Mae hyn yn cyd-fynd â'r cyngor gan yswirwyr, sy'n annog Llywodraeth Cymru i wario mwy ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, cynyddu'r defnydd o fesurau gwrthsefyll llifogydd mewn eiddo, a newid y system gynllunio i atal datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd.
Rhaid i blannu coed fod yn elfen allweddol o atal llifogydd. Mae pobl yn y Rhondda yn deall yn rhy dda fod cwympo coed wedi cael effaith. Credant mai cwympo coed a'r methiant i gael gwared ar rwbel a malurion yw'r rheswm pam y gwelsant lifogydd yn eu cartrefi. Byddai ailblannu'r coed hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn diogelu bioamrywiaeth ac yn diogelu pobl rhag llifogydd, ac nid oes dadl ynglŷn â phwysigrwydd plannu coed. Ac eto, mae methiant truenus y Llywodraeth hon i gyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer plannu coed yn gofyn am drwbl. Gostyngwyd eich targed i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030 i 2,000 hectar. Nid oedd modd cyrraedd y targed llai uchelgeisiol hwn hyd yn oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydych wedi cyrraedd tua 300 hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, ac yn y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd, roedd yr ymdrech hyd yn oed yn waeth, sef 80 hectar wedi'i phlannu. Mae hyn yn echrydus.
Ni allwn anwybyddu effaith ein gorffennol diwydiannol ar lifogydd. Dangosodd digwyddiadau'r wythnos diwethaf yn Sgiwen sut rydym yn dal i dalu'r pris am ddiwydiant trwm ymhell ar ôl i'r elw a'r swyddi ddiflannu. Gellir dweud yr un peth am yr ofn a deimlir yn ein cymunedau bob tro y bydd un o'n pyllau glo yn symud. Ym mhob rhan o Gymru, mae gennym hen fwyngloddiau, gwaith haearn a gweddillion diwydiannau trwm eraill y mae'n rhaid eu hystyried wrth roi sylw i effaith llifogydd a diogelu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol. Ond pwy sy'n edrych ar hyn i gyd mewn ffordd gydgysylltiedig, a phwy sy'n gwrando ar y bobl yr effeithir arnynt gan hyn i gyd?
Mae'r rhain oll yn bethau y gellir eu dadansoddi a'u hystyried ymhellach mewn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Rhaid inni gael ymchwiliad annibynnol i edrych ar yr hyn a aeth o'i le, i ddeall pwy sy'n atebol ac yn bwysicaf oll, i weld beth sydd angen ei wneud i unioni pethau yn RhCT ac mewn mannau eraill. Gwrthodwch y ddau welliant 'dileu popeth'. Ymunwch â Phlaid Cymru a'r miloedd lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd y llynedd. Maent yn bendant yn ei haeddu.
Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy:
a) sefydlu asiantaeth llifogydd i Gymru i gydlynu'r gwiath o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i lifogydd;
b) dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol;
c) cynyddu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli perygl llifogydd;
d) hwyluso ymchwiliadau annibynnol i lifogydd sylweddol er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu;
e) sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gynghorau, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd drwy'r cam glanhau cychwynnol yn effeithiol; a
f) gweithio gyda'r diwydiant yswiriant i sicrhau y gall cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n gysylltiedig â llifogydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac ydw, rwyf am gynnig y gwelliannau hynny. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r holl wasanaethau brys, ein hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd allan yr wythnos diwethaf yn cynorthwyo ein trigolion o ganlyniad i storm Christoph. Rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt. Fodd bynnag, dylem i gyd gynnig mwy nid yn unig i bobl Rhondda Cynon Taf, ond i bobl ledled Cymru, oherwydd mae cynifer o etholaethau yn rheolaidd bellach yn gweld eu hardaloedd yn cael eu distrywio. A hoffwn ddiolch i aelodau o'r gymuned, oherwydd, pan fydd y sefyllfaoedd hyn yn digwydd, maent yn mynd allan i helpu ar bob adeg o'r dydd, oriau cynnar a phopeth.
Nawr, cam un, mae angen inni sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gael preswylwyr drwy'r cam glanhau cychwynnol. Rhaid dysgu gwersi o'r gorffennol. Croesewir y grantiau o £500 a £1,000, ond mae angen sicrwydd y bydd preswylwyr yr effeithir arnynt yn ei gael ar unwaith, gan fod 'ar unwaith' yn gallu golygu rhwng pedair a chwe wythnos i Lywodraeth Cymru weithiau, ac mae hynny'n rhy hir. Roedd ymchwiliad byr y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'ch ymateb i lifogydd mis Chwefror yn datgelu problemau difrifol. Fe ddywedoch chi wrth y pwyllgor y byddech yn dileu hen rwystrau ariannu i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni cynlluniau. Rhoddodd Caerffili, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf dystiolaeth glir i'r gwrthwyneb. Rhybuddiodd CLlLC hyd yn oed fod awdurdodau ymhell o fod yn gwbl barod a gwydn. Felly, sut rydych chi am ddileu rhwystrau ariannu y tro hwn, a grymuso awdurdodau lleol i weithredu cynlluniau'n gyflym?
Nawr, mae angen edrych ar CNC ar frys. Roedd y sefydliad eisoes yn mynd i'r frwydr wedi'i glwyfo. Mae angen hyd at 70 o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyffredinol ar y lefelau a ddisgrifir gan y camau gweithredu a'r gwelliannau yn yr adroddiad, 'Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd'. Dim ond hanner y nifer sydd ei hangen y mae CNC wedi'i gyflogi. Yn wir, o'r 2,000 o staff yn CNC, dim ond tua 300 sydd â rhyw fath o gyfrifoldeb dros lifogydd. Mae arnom angen tîm sy'n canolbwyntio 100 y cant ar lifogydd. Dylai fod gan Gymru asiantaeth lifogydd i gydlynu'r gwaith o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i ddigwyddiadau llifogydd. Byddai hyn yn helpu i liniaru camgymeriadau na ellir eu cyfiawnhau gan CNC. Mae angen dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl sylweddol o lifogydd. Rwyf wedi gwrando ar drigolion o Fangor Is-coed yn esbonio sut y mae nifer y cartrefi yr effeithir arnynt wedi dyblu o 200 i 550.
Ac yn olaf, mae'r gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dyffryn Conwy, a ledled Cymru sydd wedi dioddef llifogydd sylweddol yn haeddu ymchwiliadau annibynnol, bob un. Rwyf wedi bod yn gwneud y galwadau hyn ers 2019. Mae cynllun y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer gweithredu pendant yn un y dylech i gyd ei gefnogi. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru;
b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch;
c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a
d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.
Yn ffurfiol.
Gall llifogydd fod yn ddigon dinistriol pan fo'n digwydd unwaith i gymuned—y glanhau, y costau uchel, y cwmnïau yswiriant sy'n aml yn dod o hyd i fylchau yn y polisi ac yn rhy aml yn gwrthod talu—ond agwedd arall yr hoffwn dynnu sylw ati yw'r effeithiau seicolegol y mae llifogydd yn eu cael ar y rhai y mae'n effeithio arnynt. Ym mis Chwefror y llynedd, cafodd trigolion Stryd Edward yn Ystrad Mynach eu deffro ynghanol y nos gan gymydog a oedd wedi sylwi ar y dŵr yn codi. Roedd llawer o'u ceir eisoes wedi'u dinistrio. Hanner awr yn ddiweddarach, roedd y dŵr wedi mynd i mewn i'w cartrefi. Ymwelais â'r trigolion yr wythnos honno, ac rwyf wedi bod yn ôl ychydig o weithiau ers hynny, a gallaf ddweud wrthych nad dicter neu rwystredigaeth yn unig y mae rhai o'r trigolion yn ei deimlo, ond ofn. Bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm, bob tro y cânt eu deffro yn y nos gan law ar y to, maent yn dechrau poeni: 'Beth os yw'n digwydd eto?'
Fis Chwefror diwethaf, ysgrifennais at y Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol i ofyn a ellid darparu cymorth cwnsela i blant yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Wrth gwrs, yn fuan wedi hynny, daeth y pandemig ac amharwyd ar drefn arferol yr ysgolion, ond ynghanol COVID, hoffwn i bawb ohonom gofio bod yn rhaid i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ym mis Chwefror aros gartref yn y tai hynny lle nad oeddent yn teimlo'n ddiogel. Mae hynny'n effeithio ar oedolion a phlant fel ei gilydd. Felly, pan soniwn am yr angen am well darpariaethau iechyd meddwl mewn ymateb i COVID—cam rwy'n ei gefnogi'n llwyr—gadewch inni gofio hefyd fod llawer o effeithiau'r llifogydd yn dal i loetran yn y cefndir.
Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon. Byddwn yn ychwanegu at ein cynnig. Byddwn yn galw am ailasesiad sylfaenol gan y Llywodraeth o'r ffordd y dylai wneud mwy na dim ond ymateb i lifogydd, a cheisio eu hatal, a dysgu gwersi. Mynegodd y trigolion yn Ystrad Mynach bryderon wrth y cyngor ar sawl achlysur, ond ni chawsant eu clywed. Nid oedd amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai fod wedi diogelu eu cartrefi yn eu lle mewn pryd. Dosbarthwyd bagiau tywod yn hytrach na gwneud yn siŵr fod draeniau heb eu blocio. Ddirprwy Lywydd, mae eu stori'n debyg i straeon ar strydoedd ledled Cymru, strydoedd sydd wedi dioddef llifogydd o'r blaen ac sydd, a bod yn onest, yn llawn o drigolion sy'n arswydo y gallai ddigwydd eto bob tro y mae'n bwrw glaw. Felly, rwy'n cefnogi'r galwadau am ymchwiliad a hoffwn annog y Llywodraeth ymhellach i gofio'r angen am gwnsela. Nid yw hynny wedi diflannu.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, wrth iddi ddod yn flwyddyn ers y llifogydd a effeithiodd yn wael iawn ar fy etholaeth. Ar y pryd ymwelais â'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gyda chynghorwyr lleol a'r Prif Weinidog, a chyfarfûm â theuluoedd y dinistriwyd eu cartrefi gan y llifogydd, ac rwyf wedi parhau i gyfarfod â hwy'n rheolaidd.
Nawr, gwnaed cryn dipyn o waith ers hynny, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Amcangyfrifir bod cost difrod i seilwaith Rhondda Cynon Taf yn unig yn fwy na £70 miliwn. Nid yw'r addewid o gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU wedi'i wireddu'n llawn eto; mae cael y rhandaliad cyntaf o £31 miliwn ganddynt wedi bod fel ceisio cael gwaed o garreg, ac rydym yn dal i wynebu ansicrwydd ynglŷn â'r gweddill. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid ydym wedi cael unrhyw gymorth o gwbl gan y Ceidwadwyr Cymreig i geisio cael y taliad a addawyd yn llawn.
Gwnaed gwaith sylweddol gan y cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru: mae cwlfertau wedi'u clirio a'u hatgyweirio, draeniau a ddymchwelwyd wedi'u hatgyweirio, draeniau wedi'u clirio, seilwaith ffyrdd a ddifrodwyd wedi'i drwsio, amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi'u hasesu a'u hatgyweirio, a phympiau wedi'u hadnewyddu. Gwn fod gwaith mawr wedi'i gynllunio yn fy etholaeth ar bontydd a ddifrodwyd yn Nhrallwn a Threfforest, ac mae'r gwaith hwn, rwy'n gwybod, yn mynd i barhau drwy gydol y flwyddyn. Ond dyna pam y mae'r cyllid a addawyd gan Lywodraeth y DU mor bwysig. Mae'r gwaith parhaus ar asesu perygl llifogydd yn ardal ehangach Taf Elái i asesu digonolrwydd cyffredinol yr amddiffynfeydd rhag llifogydd presennol a'r mesurau lliniaru yn bwysig iawn. Felly, byddaf fi a fy nghydweithwyr yn parhau i fonitro'r gwaith sy'n mynd rhagddo a'r cynlluniau ac yn sicrhau na fydd yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan lifogydd byth yn cael eu hanghofio.
Fel y dywedwyd, nid difrod ffisegol yn unig sy'n digwydd pan fydd ardal yn dioddef llifogydd, ceir creithiau meddyliol hefyd: yr effaith ar yr henoed a'r plant a'r pryder cynyddol sy'n digwydd pryd bynnag y ceir rhybudd llifogydd. Felly, credaf fod mynd i'r afael â lles meddyliol yn y gymuned yr un mor bwysig ag atgyweirio'r difrod ffisegol, a dyna pam y crybwyllais hyn wrth y bwrdd iechyd lleol er mwyn sicrhau bod yr holl gymorth iechyd meddwl sy'n angenrheidiol ar gael.
Felly, yn ogystal ag adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi'i gyhoeddi, rydym bellach yn aros am wyth adroddiad ymchwiliad llifogydd, a baratowyd yn unol ag adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Rwyf wedi cael gwybod bod y rhain i'w cyhoeddi'n fuan. Mae 11 adroddiad arall yn cael eu paratoi ar gyfer rhannau eraill o Rondda Cynon Taf. Ac rwyf wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi adroddiad fy ymchwiliad fy hun, gyda fy AS lleol Alex Davies-Jones, sy'n gynnyrch rhywbeth fel 30 o gyfarfodydd a gawsom. Ar fater ymchwiliad, hoffwn ddweud hyn: mae'r holl ymchwiliadau hyn eisoes ar y gweill, ac mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael eu cwblhau a'n bod yn gallu gwerthuso'u casgliadau. Ni fydd ymchwiliad arall eto wedi'i gynnal o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn ychwanegu unrhyw beth at yr hyn a wyddom eisoes a'r hyn a welwn o'r adroddiadau adran 19 hynny. Mae amser a lle i ymchwiliadau cyhoeddus ac er mor dda yw bwriad y cais, nid nawr yw'r adeg i'w wneud. Byddai sefydlu ymchwiliad o dan amodau'r Ddeddf yn golygu gohirio neu atal gwaith y mae mawr ei angen rhag cael ei wneud. A gwn o fy mhrofiad fy hun y byddai'n cymryd o leiaf 12 mis, ac yn ôl pob tebyg 18 i 24 mis fan lleiaf, i gwblhau ei waith, yn ogystal â'r amser sefydlu. Felly, mae'n llawer gwell gennyf fwrw ymlaen â'r gwaith. Yng ngoleuni'r holl ymchwiliadau sydd eisoes ar y gweill ac sydd bron â bod wedi'u cwblhau—
Bydd yn rhaid i'r Aelod ddod â'i sylwadau i ben, os gwelwch yn dda.
—byddai sefydlu ymchwiliad statudol yn rhwystr i gynnydd go iawn. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn barod i weld y gwaith brys sy'n mynd rhagddo yn cael ei ohirio yn y ffordd hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Dwi am gefnogi, wrth gwrs, y cynnig yma. Mi fuasai natur y cynnig, dwi'n siŵr, yn wahanol iawn petai e heb gael ei osod cyn yr achosion o lifogydd a welon ni yn y dyddiau diwethaf, ond mae e yn gyfle, dwi'n meddwl, i ehangu ar rai o'r ymatebion sydd angen eu gweld. Mi wnes i, wrth gwrs, alw am gefnogaeth ariannol i'r rhai a gafodd eu heffeithio yn yr wythnos diwethaf, a dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i'r un lefel o gefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'r tro hyn ag a gafwyd y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae yna wersi i'w dysgu o hynny hefyd, fel rŷn ni wedi clywed.
Mae'n bwysig bod yr oedi a welwyd mewn cael y taliadau yna allan y tro diwethaf ddim yn cael ei ailadrodd y tro hwn. Dyw hi ddim yn dderbyniol iddi gymryd hyd at ddau fis i'r bobl yma sydd wedi cael eu heffeithio i dderbyn y gefnogaeth, oherwydd rŵan maen nhw angen y gefnogaeth, rŵan maen nhw'n colli eu cyflogau a rŵan maen nhw angen ymateb i'r difrod a'r llanast sydd yn eu cartrefi a'u busnesau.
Mae hefyd angen help ymarferol ar y cartrefi a'r trigolion yma i wella cydnerthedd eu cartrefi yn syth, oherwydd mae nifer, wrth gwrs, yn ofn gweld achosion tebyg yn digwydd yn yr wythnosau nesaf o ail lifogydd, ac nid dim ond y rhai sydd wedi cael eu heffeithio ond y rhai a fuodd bron iawn â chael eu heffeithio hefyd, wrth gwrs, oherwydd rŷn ni'n sôn fan hyn am bethau fel gatiau llifogydd fyddai'n atal difrod i'r cartrefi fuodd o fewn trwch blewyn o gael difrod y tro diwethaf. Mae angen cynllun yn ei le sydd yn gallu ymateb i ddarparu hynny yn syth.
Mae angen cryfhau ar fyrder yr isadeiledd sydd wedi methu mewn rhai achosion dros y dyddiau diwethaf yma. Dwi'n gwybod yn fan hyn yn Rhuthun, mae'r trigolion lleol yn gofidio'n fawr iawn nad yw'r cyngor na Chyfoeth Naturiol Cymru, nac unrhyw un arall, wedi mynd ati i gryfhau'r bwnd wnaeth fod yn fethiannus yr wythnos diwethaf. Felly, mae angen rhoi tawelwch meddwl i bobl drwy ddatrys y problemau hynny, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto yn y tymor byr tra bod y datrysiadau tymor hir yma yn cael eu gweithredu arnyn nhw.
Oes, mae angen parhau i fuddsoddi mewn isadeiledd caled, ond mae angen gwell isadeiledd meddal hefyd. Mae hon yn thema rŷn ni'n dod yn ôl ati yn gyson, wrth gwrs: rheolaeth llifogydd naturiol; mwy o orlifdiroedd; mwy o goed, fel y clywon ni wrth i'r ddadl yma gael ei hagor; cau ffosydd. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am y pethau yma ers blynyddoedd mawr. Dŷn ni ddim wedi gweld yr interventions ar y lefel y byddem ni wedi disgwyl yn digwydd fel y byddem ni wedi gobeithio. Mae angen y capasiti o ran staffio ar Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae angen gwella mapiau llifogydd, sydd yn aml iawn yn ddim byd mwy na bys yn y gwynt. Felly, mae yna lawer y gellir ei wneud, a byddwn yn achub ar y cyfle yn y ddadl yma i annog y Llywodraeth nawr i weithredu ar bob un o'r materion yna.
I'r rheini sy'n dioddef llifogydd mae'r effaith seicolegol yn ddinistriol, ac mae'r rhain yn effeithiau y gallwn eu gweld yn glir yn ein cymunedau pan fyddwn yn cyfarfod â'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn siarad â hwy. Nid yw grym natur i achosi llifogydd dinistriol yn ddim byd newydd, ac eto nid oes amheuaeth, wrth i'r newid yn yr hinsawdd waethygu mae'r bygythiad o fwy o lifogydd yn ein cymunedau yn y dyfodol yn un difrifol, ac yn un y mae'n rhaid i lywodraethau ar bob lefel ddod at ei gilydd i fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol.
Pan fydd cartrefi a busnesau'n dioddef llifogydd, mae'n bwysig fod yr awdurdodau perthnasol yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu a rhoi pethau yn ôl at ei gilydd. Pan effeithiodd storm Dennis yn wael iawn ar rannau o fy etholaeth yn ôl ym mis Chwefror y llynedd, ymwelais â llawer o'r rheini yr effeithiwyd arnynt gyda Gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, a gwelais â'm llygaid fy hun sut roedd staff Rhondda Cynon Taf wedi gweithio bob awr o'r dydd cyn, yn ystod ac ar ôl y storm i helpu pobl leol—pwynt pwysig a gydnabuwyd yn y rhan gyntaf o welliant y Llywodraeth. Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb a helpodd.
Mae'n bwysig inni ddysgu beth a ddigwyddodd, ble a pham y digwyddodd llifogydd, a'r hyn y mae angen inni ei wneud yn y dyfodol i liniaru eu heffaith. Rhaid inni gydnabod hefyd fod gan gyngor RhCT 28 o ymchwiliadau gwahanol ar y gwell i'r llifogydd y llynedd, yn ogystal â gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid rhoi cyfle i'r prosesau hyn ddod i ben yn hytrach na dim ond ailgychwyn y broses, lansio ymchwiliad newydd sy'n mynd dros hen dir pan fo'n gwasanaethau cyhoeddus o dan gymaint o bwysau ac yn mynd y tu hwnt i'r galw.
Ond wrth gwrs, nid yw aros i ymchwiliadau adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau yn golygu nad ydym yn gwneud dim. Yn hytrach, mae'n golygu y gellir gwneud ymyriadau ymarferol, ac maent yn cael eu gwneud yn awr. Er enghraifft, gellir gweithredu rhai o'r atebion hirdymor sy'n cydnabod topograffeg y Cymoedd a'r nifer fawr o geuffosydd er mwyn lliniaru effaith glaw trwm, dŵr ffo ar yr wyneb a sianeli dŵr gorlawn.
Ymwelais ag un cynllun yn Nhrecynon, unwaith eto gyda Gweinidog yr amgylchedd, fis Awst diwethaf, lle roedd pwll arafu wedi'i greu, gan ddargyfeirio'r llif o gwlfert sy'n dueddol o orlifo a sefydlu cynefin newydd yn y broses. Ariannwyd hyn o dros £0.5 miliwn a roddwyd i gyngor RhCT i weithio ar atgyweiriadau ac adfer asedau lliniaru llifogydd gan Lywodraeth Cymru; mae mwy o arian ar gyfer cynlluniau eraill wedi'i ddyrannu ers hynny hefyd. Rwy'n croesawu'r dull hirdymor hwn o weithredu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad agos ag awdurdodau lleol blaengar. Mae gwaith arall a wnaed gan gyngor RhCT gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymyriadau yng Nghwm-bach i atal llifogydd sydd wedi peri trafferth i fusnesau lleol yno ers amser maith. Mae'r rhain i gyd yn fusnesau lleol sy'n cyflogi pobl leol ac yn cyfrannu at yr economi sylfaenol.
Pan gyfarfûm ag etholwyr yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd a siarad am yr anhawster i gael yswiriant, gallais roi gwybod iddynt am gynllun Flood Re a gefnogir gan y Llywodraeth. Dylid gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth ohono, a hoffwn weld y cynllun yn cael ei ymestyn fel y gall busnesau elwa o gymorth tuag at eu costau yswiriant uwch hefyd.
Yn olaf, hoffwn gofnodi'n ffurfiol fy niolch i Sefydliad Moondance ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo am eu cymorth i ariannu a gweinyddu cronfa lifogydd cwm Cynon a sefydlais gyda Beth Winter i gefnogi pobl leol y mae eu bywydau wedi'u troi wyneb i waered gan lifogydd.
A gaf fi alw ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl heddiw. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol dros ben, o ran effaith digwyddiadau llifogydd niferus ledled Cymru ar ein cymunedau, a'r pandemig byd-eang wrth gwrs.
Yr wythnos diwethaf gwelsom unwaith eto y difrod y gall llifogydd ei achosi o ganlyniad i storm Christoph, gyda thua 250 eiddo wedi dioddef llifogydd. Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd arnynt, ac mae llawer ohonynt yn dal i fethu dychwelyd i'w cartrefi. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sy'n ymwneud â'r ymateb i lifogydd a'r gwaith adfer, nid yn unig yr wythnos diwethaf, ond drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, wrth iddi nesáu at fod yn flwyddyn ers y llifogydd ym mis Chwefror, sef testun y ddadl heddiw. Heb weithredu cyflym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, ein gwasanaethau brys, cwmnïau dŵr a'r Awdurdod Glo, rwy'n sicr y byddem wedi gweld llawer mwy o gartrefi'n dioddef llifogydd. Rhaid inni hefyd gydnabod sut y diogelodd ein rhwydwaith o amddiffynfeydd filoedd o adeiladau a phwysigrwydd ein buddsoddiad parhaus i sicrhau bod yr eiddo hwn yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda.
Wrth gwrs, i'r bobl a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi, mae ymateb i lifogydd yn ymwneud â mwy na diwrnod y digwyddiad yn unig neu'r ychydig ddyddiau sy'n dilyn, ond yr wythnosau a'r misoedd wedyn hefyd. Rhaid i'n hymdrechion barhau i sicrhau bod ymchwiliadau'n digwydd i ddigwyddiadau o'r fath, fod pobl yn cael eu cefnogi, a bod gwelliannau'n cael eu gwneud i'n seilwaith a'n hamddiffynfeydd yn ogystal â rheoli dŵr yn ehangach. Yn dilyn y llifogydd fis Chwefror diwethaf, gweithiodd awdurdodau'n gyflym i gefnogi preswylwyr a oedd wedi gweld llifogydd yn eu cartrefi ac i atgyweirio asedau rheoli perygl llifogydd a ddifrodwyd. Ym Mhentre yn y Rhondda, er enghraifft, gwn fod yr awdurdod lleol eisoes wedi rhoi cynllun ar waith i wella'r cwrs dŵr mewn ymateb i fy her i awdurdodau rheoli perygl llifogydd y dylid cyflymu'r broses o gyflawni gwaith.
Yn dilyn llifogydd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi adroddiad ymchwiliad adran 19 i edrych ar y rhesymau dros y llifogydd, a chyflwyno argymhellion i leihau'r risg yn y dyfodol. Ar ôl eu cwblhau, cyhoeddir yr adroddiadau hyn ac maent yn destun craffu gan breswylwyr, aelodau etholedig a phawb sydd â diddordeb. Effeithiodd cyfyngiadau COVID-19 yn fawr ar yr ymchwiliadau hyn y llynedd, ac roedd angen i rai o'r awdurdodau lleol a ddioddefodd fwyaf roi blaenoriaeth i waith atgyweirio ac adfer ar draul ymchwiliadau. Fodd bynnag, mae gennyf hyder y bydd ein staff awdurdod lleol gyda'u hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn cwblhau'r adroddiadau hyn ac yn gweithredu arnynt lle bo'n briodol.
Y mis diwethaf, ymatebais yn fanwl yn y Senedd i gwestiwn ar ymchwiliad annibynnol. Cyhoeddais gymorth refeniw ychwanegol o £95,000 i fod ar gael i bob awdurdod lleol eleni i gefnogi eu gweithgareddau perygl llifogydd, ac yn benodol i helpu i gynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau eu hymchwiliadau. Cynhaliodd CNC ei adolygiad mewnol ei hun yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror, i ategu'r adroddiadau adran 19 ac mae'n darparu argymhellion ar gyfer eu gwella mewn perthynas â darogan, rhybuddio ac ymateb.
I ateb Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud i gefnogi ein hawdurdodau rheoli risg, rwy'n parhau i'w cefnogi ledled y wlad i atgyweirio asedau llifogydd a ddifrodwyd a sicrhau eu bod yn ailadeiladu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn y stormydd fis Chwefror diwethaf, gwnaethom weithredu'n gyflym ac yn bendant yn ein hymateb i wneud atgyweiriadau a gwelliannau angenrheidiol. Rhoddais gyfle i bob awdurdod rheoli risg wneud cais am gymorth ariannol i gyflawni gwaith atgyweirio brys ar asedau, gan ddarparu cyllid 100 y cant ar gyfer hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £4.6 miliwn ers hynny. Roeddwn yn falch iawn hefyd o'i chlywed yn canmol staff Cyfoeth Naturiol Cymru—nid yw'n rhywbeth y mae'n ei wneud fel arfer—a gallaf ddweud wrthi fy mod ym Mangor Is-coed ddydd Sadwrn, ac fe siaradais â nifer o drigolion a oedd yn canmol y ffaith fod yr afon ar ei huchaf ers tua 20 mlynedd mae'n debyg, a bod yr amddiffynfeydd wedi dal.
Mae gennym bolisi llain las eisoes, ac mae ar fin cael ei gryfhau gan nodyn cyngor technegol 15 a pholisi cynllunio. Mae hynny wedi'i nodi yn ein strategaeth newydd ar gyfer llifogydd. Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CNC i ddeall effaith storm Christoph yr wythnos diwethaf yn llawn a'r ffordd orau o'u cefnogi. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu taliadau cymorth, drwy awdurdodau lleol, o hyd at £1,000 i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan lifogydd yn eu cartrefi neu sydd, yn anffodus, wedi gorfod gadael eu cartref am fwy na 24 awr. Cyfeiriais yn awr at ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd—a rheoli perygl erydu arfordirol. Cyhoeddais honno fis Hydref diwethaf. Mae'n strategaeth uchelgeisiol ac mae'n ailddatgan y pwyslais a roddwn ar reoli perygl llifogydd, ynghyd â bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Rydym yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg a Chymdeithas Yswirwyr Prydain, sy'n cefnogi'r dull gweithredu a'r mesurau ychwanegol a nodir yn y strategaeth newydd.
Gwyddom y bydd newid hinsawdd yn arwain at lefelau'r môr yn codi a stormydd gwaeth yn y dyfodol, ac rwy'n cydnabod bod Cymru'n wynebu penderfyniadau anodd ar sut i amddiffyn ardaloedd arfordirol isel a gorlifdiroedd afonol, yn enwedig ar hyd ein haberoedd ac wrth gwrs, yn ein cymoedd serth. Mae ein strategaeth newydd yn nodi sut y bydd Cymru'n ymateb i'r heriau hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu clir ar risg, ac yn cryfhau ein safbwynt mewn meysydd yn cynnwys dulliau naturiol o reoli llifogydd, addasu arfordiroedd, cynllunio ac atal, gan gysylltu â deddfwriaeth Gymreig a meysydd polisi eraill i sicrhau dull cydweithredol. Er ein bod yn edrych i'r dyfodol, mae angen inni gofio bod yr ymdrechion adfer yn parhau mewn lleoedd fel Sgiwen, lle gwelsom olygfeydd eithriadol yr wythnos diwethaf. Hoffwn orffen drwy ddiolch unwaith eto i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith o helpu i sicrhau bod pobl yn ddiogel. Diolch.
Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Rydym i gyd yn aros yn eiddgar am ganlyniad proses adran 19, ac mae hynny ar fin digwydd, ond mae'r cyngor yn arwain ar hynny, ac yn amlwg, roedd gan y cyngor rôl i'w chwarae, ac mae ganddo rôl i'w chwarae yn y dyfodol, felly dyna pam na all y broses hon fod yn annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, a phob un o'r bobl a ddioddefodd lifogydd a arolygwyd gennym, wedi dweud mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn ddigon. Oni bai ein bod yn cael ymchwiliad annibynnol, nid wyf yn credu y cawn yr atebion sydd eu hangen arnom. Ac nid yw hyn yn ymwneud â'r staff; gwyddom i gyd fod staff ym mhob un o'r sefydliadau dan sylw wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi cymunedau drwy hyn. Mae hyn yn fwy na'r staff. Ni allwn dderbyn nad dyma'r amser, ac nid wyf yn derbyn y bydd ymchwiliad annibynnol yn gohirio gwaith arall. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw; dyna pam, os ydych am gefnogi pobl sydd wedi dioddef llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, y byddwch yn pleidleisio i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, heb ei ddiwygio, pam na fyddwch yn cefnogi'r gwelliannau 'dileu popeth', a pham y byddwch yn cefnogi'r ymchwiliad annibynnol y mae pobl yn yr ardal hon yn ei haeddu.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau. Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n mynd i atal y cyfarfod cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r cyfarfod wedi'i atal.