Effaith COVID-19 ar Fenywod yn y Gweithle

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

3. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith pandemig COVID-19 ar fenywod yn y gweithle? OQ56335

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:55, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

I roi dim ond dau gam gweithredu penodol, mae dros 6,500 o fenywod ledled Cymru wedi defnyddio gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn ystod y cyfyngiadau symud, ac mae'r grant dechrau busnes wedi denu 60 y cant o'i geisiadau oddi wrth fenywod. Mae hyn i gyd a mwy yn cael ei ddwyn ynghyd yng nghyhoeddiad heddiw o'n cenhadaeth cydnerthedd economaidd ac adeiladu.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:56, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ymateb. Rydym ni'n gwybod bod menywod, yn anffodus, wedi cael eu heffeithio yn anghymesur gan y pandemig, gan fod menywod yn cynrychioli 80 y cant o wasanaethau gofal plant, gofal a hamdden, 75 y cant mewn gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, a 60 y cant yn gweithio ym maes gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid—sectorau sydd wedi eu taro'n galed. Rydym ni newydd siarad am ofal plant, ond rwy'n credu mai un o'r newidiadau mwyaf hanfodol y gallech chi ei wneud fyddai bod gan fenywod sy'n chwilio am waith a/neu hyfforddiant fynediad at ofal plant, yn ogystal â'r rhai sydd yn y cynllun presennol, fel y gallan nhw deimlo eu bod wedi'u grymuso i fynd allan i weithio eto. Rydym ni'n aros i weld a yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu yn anghyfreithlon i leihau taliadau'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogaeth i fenywod sydd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth. Hoffwn wybod yn y fan yma heddiw pa un a yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau i gynorthwyo mamau newydd yng Nghymru, a fydd wedi cael ergyd ariannol annheg gan y methiant hwn. Pa risgiau a nodwyd yn eich cynllun ailgodi'n gryfach? Rydym ni'n gwybod bod cau ysgolion wedi effeithio ar fenywod, sy'n gwneud llawer o'r gofal plant a'r addysgu. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau y bydd Cymru nid yn unig yn ailgodi’n gryfach, ond yn ailgodi'n gyfartal?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r safbwyntiau yr oedd Bethan Sayed yn eu mynegi ar ddiwedd ei chwestiwn atodol. Nid wyf i erioed wedi defnyddio'r mantra 'ailgodi'n gryfach' fy hun; rwyf i bob amser yn dweud 'ailgodi'n decach', oherwydd os nad yw'n decach, nid yw'n mynd i fod yn well. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r 12 mis diwethaf wedi ei chael ar fenywod yng Nghymru, fel y mae ar bobl ifanc, fel y mae ar bobl o gymunedau BAME. Mae Llywodraeth Cymru yn lobïo Llywodraeth y DU drwy'r amser pan ei bod wedi cymryd camau nad ydym ni'n eu cymeradwyo ac nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'n dymuniad i greu Cymru fwy cyfartal, fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni ei wneud. Pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein penderfyniadau gwario a'r penderfyniadau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym ni'n eu hategu gydag asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, gan ein bod ni'n ceisio gweld yr holl benderfyniadau hynny drwy lens yr effaith ar gydraddoldeb y mae'r penderfyniadau hynny yn ei chael ar bobl. Rydym ni'n cyhoeddi'r effeithiau hynny ar gydraddoldeb ochr yn ochr â'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud.

Rwy'n falch iawn yn wir ein bod ni'n cael dadl ffrwythlon yma yng Nghymru drwy'r amser ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy a gwneud yn well i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn ystod y pandemig, ac yn enwedig wrth i ni ddod allan ohono, yn canolbwyntio ar y bobl hynny y mae eu hanghenion fwyaf, lle mae'r effaith niweidiol wedi bod y mwyaf dwys, a lle y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn yr ystyr hwnnw, mae fy man cychwyn i a man cychwyn yr Aelod yr un fath. Efallai y byddwn ni'n dod i wahanol gasgliadau ynghylch gweithrediad ymarferol rhai o'r pethau hynny, ond nid wyf am funud yn anghydweld â byrdwn sylfaenol yr hyn y mae hi wedi ei ddweud y prynhawn yma.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:59, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hynny yr un fath i bob un ohonom ni, Prif Weinidog. Gadewch i ni edrych yn gyflym ar yr effaith anghymesur honno. Mae gennym ni 72 y cant o famau sy'n gweithio yn gweithio llai o oriau ac yn torri eu henillion oherwydd diffyg gofal plant, ac yn ystod y cyfyngiadau symud roedd mamau yn gwneud 35 y cant o oriau gwaith di-dor yr oedd y tad cyffredin yn ei wneud. Rwy'n siŵr nad oedd y ffigurau hynny o adroddiad 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg yn eich synnu rhyw lawer. Ond beth am y ffaith bod menywod yng Nghymru ddwywaith mor debygol â dynion o fod yn weithwyr allweddol, oherwydd os edrychwch chi ar y ffigurau hynny gyda'i gilydd, mae'n amlwg bod cyfran sylweddol o weithwyr allweddol benywaidd wedi camu yn ôl o'r gwaith oherwydd gofynion eraill arnyn nhw a ysgogwyd gan COVID? Ni waeth beth fo'r ddarpariaeth canolfannau ysgol, lle'r oedd presenoldeb yn is na'r disgwyl ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gofyn 'pam?' eich hun, maes o law, menywod sydd wedi gorfod—ac rwy'n golygu 'gorfod'—rhoi eu cyflogwyr yn ail. Gan mai gweithwyr sector cyhoeddus fydd y rhan fwyaf o'r gweithwyr allweddol hynny—yn amlwg, ceir gweithwyr sector preifat hefyd—pa ysgogiadau sydd ar gael i chi i sicrhau nad yw eu rhagolygon o ran cyflog a dyrchafiad yn cael eu peryglu gan eu hanes gwaith yn ystod cyfnod COVID?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:00, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno bod y pwynt olaf yn un pwysig. Rwy'n ofni nad wyf i'n meddwl ein bod ni i gyd yn dechrau o'r un lle. Pe byddem ni, ni fyddai gennym ni Lywodraeth nad yw'n barod o hyd i sicrhau y bydd yr £20 ychwanegol bob wythnos i bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn parhau y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth, oni fyddai? Mae hwnnw yn benderfyniad a fydd yn disgyn yn anghymesur iawn yn wir ar fenywod a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud mewn teuluoedd. Ac nid yw'r cynllun ffyrlo ychwaith yn seiliedig ar y math o egwyddorion y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu. Gwrthodwyd saith o bob 10 cais am ffyrlo i famau sy'n gweithio—dyna a ganfu'r TUC yn yr adroddiad y maen nhw wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar. Felly, mae gen i ofn nad yw mor hawdd â dweud, 'Rydym ni i gyd eisiau gwneud y peth iawn', oherwydd nid yw'n ymddangos i mi bod pawb yn y sefyllfa honno. Rwy'n cytuno, fodd bynnag, â'r peth olaf a ddywedodd Suzy Davies, sef y bydd pethau y gallem ni eu gwneud efallai wrth i bobl ddychwelyd i'r gwaith, y tu hwnt i coronafeirws ac yn sicr yn y gwasanaethau cyhoeddus, lle mae gan bobl fylchau yn eu cyflogaeth oherwydd y bu'n rhaid iddyn nhw ymdrin â'r gwahanol ofynion niferus y mae coronafeirws wedi eu gorfodi arnyn nhw, ni ddylen nhw fod o dan anfantais i'r hirdymor oherwydd y ffordd y bu'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau i ymdrin â'r pwysau niferus sy'n disgyn arnyn nhw yn ystod argyfwng.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:02, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei ddweud mor aml, menywod yn y gweithle sydd wedi bod yn anghymesur ar y rheng flaen o ran amlygiad i'r pandemig. Maen nhw'n gweithio ym meysydd manwerthu a gofal ac iechyd a swyddi eraill sy'n wynebu'r cyhoedd yn anghymesur, ac mewn swyddi achlysurol neu â chyflogau isel lle gall llais undebol y gweithlu fod yn wannach yn anffodus, ac eto gall y pwysau fod yn fwy i ddod i weithio ar bob cyfrif, gan gynnwys iechyd a llesiant personol, ac mae'r pwysau domestig i roi bwyd ar y bwrdd a thalu'r biliau hefyd yn ddifrifol.

Felly, Prif Weinidog, wrth i'r broses o gyflwyno'r brechlyn fynd rhagddi a'r gobaith yw y gallwn ni ragweld mwy o enillion yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf i lawer o weithleoedd, gan gynnwys gwasanaethau manwerthu a phersonol nad ydynt yn hanfodol a lletygarwch, lle mae menywod wedi'u gorgynrychioli unwaith eto mewn swyddi sy'n wynebu cwsmeriaid, yna beth arall allwn ni ei wneud na wnaethom ni y llynedd i sicrhau bod cyflogwyr yn rhoi pob mesur posibl ar waith i ddiogelu eu staff a'u cwsmeriaid yn y gwaith a bod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y mesurau cywir ar waith i gynorthwyo'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn absennol o'r gweithle am resymau sy'n ymwneud â COVID, ac yn bwysig nad yw Llywodraeth y DU yn torri'r £20 yr wythnos hwnnw o gredyd cynhwysol, oherwydd bydd hynny yn ergyd drom i fenywod yn y gwaith ac yn y cartref hefyd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwy'n siŵr y bydd Huw Irranca-Davies yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cymryd i ddiogelu gweithluoedd lle mae menywod wedi'u cynrychioli yn anghymesur, felly roedd ein penderfyniad yn gynnar i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol ar gael am ddim yn y sector gofal cymdeithasol yn sicrwydd pwysig iawn bod y gweithwyr hynny yn gwybod y bydden nhw'n cael yr amddiffyniad y mae hynny wedi ei ddarparu. Fel y gwyddoch, mae cartrefi gofal dros ein ffin yn gorfod talu amdano, ond gwnaethom ni'r penderfyniad o'r cychwyn mai amddiffyn y gweithwyr hynny oedd ein prif flaenoriaeth ac roedd cael yr amddiffyniad yr oedd ei angen arnyn nhw a'i gael iddyn nhw am ddim yn fuddsoddiad gennym ni yn llesiant y gweithlu hwnnw, ac felly hefyd y cynllun parhaus sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod pobl yn cael tâl salwch llawn yn y sector gofal cymdeithasol, fel nad ydyn nhw'n teimlo, fel y dywedodd Huw Irranca, bod yn rhaid iddyn nhw ddod yn ôl i'r gwaith pan fyddan nhw'n gwybod nad yw'n iawn iddyn nhw wneud hynny. Ac yn y maes manwerthu lle mae menywod, unwaith eto, yn rhan anghymesur o'r gweithlu, cyhoeddasom ym mis Ionawr y byddai'n rhaid i weithleoedd gynnal asesiadau risg newydd gyda safonau uwch i wneud yn siŵr bod gweithleoedd yn ddiogel rhag amrywiolion newydd y clefyd. Ac fe'n cynorthwywyd i wneud hynny gan gyflogwyr yma yng Nghymru. A bydd y safonau uwch hynny—gwneud yn siŵr bod gweithleoedd yn cael eu diogelu yn briodol a bod popeth yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gweithwyr a phobl sy'n defnyddio'r lleoliadau hynny yn cael eu cadw'n ddiogel—yn parhau i fod yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon, pan fydd coronafeirws yn dal i fod yn rhan o'n bywydau.

Ac fe ddywedaf eto, gan fy mod i'n cytuno gymaint â Huw Irranca-Davies: mae'r syniad y gallai hyd at draean o deuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru ganfod eu hunain gyda £1,000 yn llai i ddiwallu anghenion eu teuluoedd—pobl sy'n defnyddio'r arian hwnnw i wneud pethau syml fel cadw'r goleuadau ymlaen a chadw bwyd ar y bwrdd—mae'r syniad bod y Llywodraeth hon wedi cadw'r teuluoedd hynny yn aros, heb wybod beth fyddai eu sefyllfa, mae'n greulondeb gwirioneddol. Dychmygwch fyw o dan yr amodau hynny a gwybod na fyddech chi, ymhen ychydig wythnosau'n unig, yn cael y cymorth ychwanegol hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn gywilyddus, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y Canghellor, ar 3 Mawrth, o'r diwedd yn gwneud iawn am y trallod y mae hynny wedi ei achosi i'r teuluoedd hynny.